Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
PORTHPR PRAIDD. I
PORTHPR PRAIDD. I (Gan v Parch. O. HuGHES, Arthoe). I Gwyliadwriaeth Bersonol ac Eglwysig. Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb ohonoch galon ddrwg annghredin- iaeth. Eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd, tra y gelwir hi heddyw, fel na chaleder neb o honoch trwy dwyll bechod." Nis gallwn redeg yr yrfa a osodwyd o'n blaen, nis gallwn ddilyn yr oen i ba le bynag yr elo, nis gallwn fyned trwy lawer o orthrymderau i mewn i'r bywyd, nis gall- wn lynu yn ein proffes yn wyneb pob rhwystrau ac anhawsderau heb ofal, ac ymogeliad a gwyliadwriaeth. Yr yclym ni yn byw mewn byd sydd yn llawn o beryg- lon, a maglau, a phrofedigaethau. A chyfyng ydoedd ar enaid y bobl o herwydd y ffordd," ffordd trwy yr anialwch, a thrwy wlad y gelynion, oedd ffordd yr Hebreaid o'r Aipht i Ganaan a ffordd ddigon tebig mewn llawer o bethau ydyw ffordcl y Cris- tion trwy y byd hwn i'r Nefoedd. Y bardd Livy a ddywed, y byddai y Maeslywydd Philopaeman, pan yn rhodio yn hamdden- ol, wrtho ei hun, yn golygu y wlad o'i am- gylch yn fanwl, yn ei hafonydd, a'i dyffryn- oedd, a'i fryniau, a'i hadwyau ac yn medd- wl am y trefniadau milwrol goreu, os byth y deuai galwad arno i wynebu y gelynion yn y lleoedd hyny. Daeth y milwr hwnw yn un o'r Maeslywyddion mwyaf diogel a llwyddianus yn ngwlad Groeg. Dianghen- rhaid ydyw i ni dybio bodolaeth ein gelyn- ion ar bob llaw. Edrychwn frodyr,"—yr un gair sydd yn cael ei arfer gan yr'Apostol Paul yn ei lythyr at y Philippiaid, lie y dywed Gochelwch gwn." Buom lawer gwaith yn gochelyd cwn, hyny ydyw, yn ymgadw oddiwrthynt er eu bod yn y gad- wyn. Yr un rnodd hefyd y dylem gadw digon o bellder rhyngom a phob profedig-, aeth sydd yn peryglu ein crefydd. Mae ein Duw yn caniatau i ni fwrw ein gofalon tymhorol arno ef, fel y caffom bob mantais i wylied ein calonau. Hefyd, dengys yr ymadrodd y dylem ofalu am ein gilydd a mawr ofal calon. Y mae dau reswm cryf dros hyny-ein diogelwch ein hunain, a'n perthynas agos a'n gilydd. Y mae diogel- wch ein crefydd yn bersonol yn galw ar- nom i fwrw golwg dros y frawdoliaeth. Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddiwrth ras Duw rhag bod un gwreidd- yn chwerwedd yn tyfu i fynu, ac yn peri blinder, a thrwy hwnw lygru llawer. Ac os ydym yn eiddo Crist, yr ydym yn perth- yn agos i'n gilydd. Mae ein brodyr cre- fyddol yn perthyn yn nes i ni na'n medd- ianau bydol," aeloclau ydym o'i gorph ef. Dylem fod yn fwy gofalus am ffyniant ein gilydd mewn pethau ysbrydol, nag am ein hymborth, a'n clillad a'n meddianau, a'n da, Mor lawen fydd genym gyfarfod yn y nef- oedd, ar ol gwneyd ein goreu i gynorthwyo ein gilydd ar ein taith tuag yno. Parch. NOAI-I STEPHENS. Adnewyddiad ysbrydol y galon. lVIyfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonau yr ysgrifenaf hwynt." Mae gwir grefydd yn gweithio ar ansawdd foesol y galon, gan ei chyfnewid yn drwyadl, yn iaith yr Apostol, 11 ei chreu o newydd," nes y mae y dyn yn greadur newydcl yn Nghrist Iesu." Ni fynwn aw- grymu fod unrhyw gyfnewidiad anian- yddol, cyfansoddiadol yn cymeryd lie ar bechadur yn ei ailenedigaeth ond ni ddy- munwn gan Dduw fod yr argraff yn ddif- rifol ar bob enaid fod y cyfnewidiad a wneir gan Ysbryd Duw ar bechadur yn un trwyadl a gwirionedclol. Nid gogleisiad ar y nwydau, nid cyffroad ar y tymerau, ac nid goleuni yn y deall yn unig ydyw, ond adnewyddiadmewnol ar ansawdd y galon. Mae y cyfnewidiad yma yn myned dan wahanol enwau, megis geni o Dduw," geni o ddwfr ac o'r Ysbryd," geni oddi- uchod," ail-eni nid o had llygredig, eithr anllygredig trwy air Duw," golchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glan," "Creadur newydd," "creu o newydd yn Nghrist Iesu i weithredoedd da," ein gwneuthur ni yn gyfranogion o'r dduwlol anian, a'n gwneuthur 'ni yn gyfranogion o'i sancteiddrwydd ef." Pe beth a all fod yn fwy eglur na bod cyfnewidiad trwyadl a gwirioneddol yn cymeryd lie ar bechad- ur yn ei ddychweliad at Dduw. Ac mae y cyfnewidiad yma yn dechreu trwy ddodi y gyfraith yn eu meddwl, a'i hysgrifenu yn y galon." Mae pob arwedd a roddir ar grefydd yn y Beibl, yn ei dwyn i gyffyrdd- iad uniongyrchol a'r galon. Beth yw edi- feirwch ? Rhwygo y galon." Beth yw ffydd ? Credu a'r galon." Beth ydyw gweddio 1 0 bobl tywalltwch eich calon- au ger ei fron ef." Beth yw canu? Pyncio trwy ras yn eich calonau i'r Arglwydd." Mor eglur y dangosir y cwbl fel y mae a fynont a'r galon. Un peth ydyw crefydd mewn pen, peth arall ydyw crefydd mewn calon. Mae gan lawer ben goleu a chalon dywyll. Mae eu credo yn ysgrythyrol, ond mae eu bywyd yn annuwiol .Mae gan- ddynt gystal credo ag Abraham yn y nef, ond mae eu calonan cyn-ddrwg a Judas yn uffern. Am y galon mae Duw yn ymofyn, ac ar y galon y mae yn dechreu gweithio. Dyma y gwahaniaeth sydd cydrhwng dyn yn gweithio a Duw yn gweithio. Dechreu yn yr allanol y mae dyn, ond dechreu yn y mewnol y mae Duw. Gwelir afalau celfyddyd yn cael eu gweithio gan ddyn- ion trwy gymeryd darn o bren a'i lunio i ffurf afal, a'i liwio yn gyffelyb, ond ffug ydyw yn y diwedd, ac nid ydyw dda i ddim ond i'w ddangos. Ond pan mae Duw yn myned i wneyd afal, rhydd yr hedyn oddimewn, a chaiff hwnw weithio ac ymffurffo yn raddol nes y daw yn afal llawn, addfed, gwridgoch, ac nid yw ddangos yn unig, ond i'w fwyta. Gall addysg, a dygiad gweddaidd i fynu, a moesoldeb, lunio dynion yn brydferth, fel afalan celfyddid, ond nid ydynt yn y diw- edd yn werth dim ond i'w dangos; ond y'l Thai a blanwyd yn Nhy yr Arglwydd, a flodeuant yn nghynteddoedd ein Duw ni." Mae yma hedyn bywyd oddifewn yn cyn- yrchu blodau, a flrwyth hetyd. Mae y ffyn- on yn cael ei hiachan, ac yna fe burir y ffrwd-gwneir y pren yn dda—adnewyddir y galon, ac yna sancteiddir yr holl ymar- weddiad. 0 Jerusalem golch dy galon pa hycl y lletyi o'th fewn goeg amcanion. Cadw dy galon yn dra diysgeulus, canys allan o honi y mae bywyd yn dyfod. A pha wedcli yn fwy priodol bob amser nag eiddo Dafydd, Crea galon lan ynof o Dduw, ac adnewydda ysbryd uniawn o'm mewn," Ac os bydd crefydd oddifewn ni bydd yn hir cyn tori allan. Mae fel ei hawdwr ei hunan, Ni allai fod yn gudd- iedig." Dr. JOHN THOMAS. I
LLYTHYR O'R AMERICA.
LLYTHYR O'R AMERICA. (Dair wythnos yn ol, awgrymwyd yn y GWYLIEDYDD NEWYDD mai dymunol fu- asai cael ambelllythyroddiwrth fechgyn Wesleyaidd ydynt yn bell o'u gwlad. Yn canlyn wele air oddiwrth Hu Gwilym Lewis, ail fab Gwilym Ardudwy.) SALMON RIVER DAM, TWIN FALLS, IDAHO. 8: 1: 10. Anwyl Dad, Wedi derbyn eich P. C., ac wedi ar- faethu ei ateb yn gynt, yn awr cymeraf y cyfleustra o ysgrifenu gair atoch. Arhosais gan ddisgwyl gwelecl blwyddyn newydd, ac wele gwawriodd arnom er's wythnos, ac hin annymunol ddigon ydym yn ei gael yma ar hyn o bryd. Dywedent ar fy nyf- odiad i'r rhanbarth hwn o'r byd nad oedd- ynt wedi gwelecl hin arw yma o gwbl yn ystod y blynyddau diweddaf. Rhaid dweud nad felly yw pethau yma yn awr, trwy ei bod boreu ddoe yn 20 islaw zero, ac nid yw lawer cynhesach heddyw. Hin- sawdcl pur wahanol sydd yn Idaho rhagor Meirion wen, am nad ydym byth braidd yn cael gwlaw, ond digon o eira a rhew- wynt ffyrnig, yr hyn a achosa oerfel tost. Am ei bod yn wlad mor sech, rhaid wrth ddwfr i ddyfrhau y tiroedd bras ac eang sydd yma, yn enwedig Idaho ddeheuol,— tiroedd ydynt eto heb gael eu trin a'u harloesi. Gwneir yma yn awr waith dwfr, —cronfa enfawr, cyfrelyb i gronfa Llan- wycldyn, a gyflenwa Llynlleihaid a dwfr a diben y gronfa hon yw cyflenwi tiroedd Twin Falls City a dwfr. Bu'm yn ffodus i daro ar le cysurus, gwaith dan do bron i gyd, yr hyn sydd ddymunol ar dywydd mor galed. Oblegid hyny, talwyd llu o ddynion i flwrdd o'r gwaith am rhyw ddau fis, ond credaf fod fy ngorchwyl i yn sicr er garwed yr hin, fel ag yr wyf yn hapus ddigon. Rhyw 20 milldir i'r de oddiyma darganfyddwyd yn ddiweddar wythien drwchus o aur, a sibrydir yma y dyddiau hyn y bydd yno y lie goreu yn y Western States yn fuan, am fod yno ragolygon da feddyliwn. Heb fod yn bell iawn oddi- yma mai California,—tua 300 milldir i'r de-orllewin. Edrychwn ar 300 milldir yn bellder mawr yn Nghymru, ond nid yw ddim yn ngolwg yr Yankee. Lie braidd yn wael yw Californfa ar hyn o bryd, a sicr ddigon fod y lie hwn yn rhagori am waith a chyflog y blynyddau hyn, er ei bod yn brafiach o ran hinsawdd yno. Mae un o'r enw Williams, o South Wales, real Estate agent yn y dref yma wedi cael gan amryw o Gymry i brynu tir ganddo, a bwriadant yn y gwanwyn nesaf ddod yma i drm y tir hwnw, felly bydd yn fwy difyr wedi eu dyfodiad yma.—mintai luosocach ohonom yma fel Cymry. Yn fyr dyna ychydig o hanes y wlad hon. Da genyf ddeall fod pawb gartref yn weddol iach, ac fod fy mham yn dal yn ei thir gystal,—hir y parhao ei dyddiau ar y ddaear. Mae fy serch at fy rhieni yn myned yn fwy-fwy o hyd er yn mhell o'm gwlacl. Llawen oedd genyf ddeal i Eis- teddfod Gadeiriol Ardudwy y Nadolig droi allan mor ardderchog. Yr wyf yn cau y mwdwl yn awr, gan hyderu eich bod oil fel teulu yn iach ac hapus yw dy- muniad eich mab. Sut mae Buddug bach ? Cofion goreu ati Eich mab, Hu GWILYM LEWIS.
TIPYN 0 BOPETH MEWN BYD AC…
TIPYN 0 BOPETH MEWN BYD AC EGLWYS. Cyfrif y Bobl.- Yn Mawrth, blwyddyn i'r Mawrth hwn. eir ati eto i gyfrif y bobl yn ol fel y byddis arfer bob deng mlynedd. Gwneir y gwaith hwn yn awr mor fanwl, ac ystyrir ef mor bwysig, fel y myntumir y bydd swyddfa a gweinidog tan y goron cyn hir i ddim ond gwneyd hyn yma. Peth od yw gwareiddiad ynte Y Chanzy a'r Lima.—Chwith a thorcalon- us oedd colli y ddwy long yma gyda chyn- ifer o ddynion. Allan o'r 180 ar fwrdd y Chanzy un yn unig a ddiangodd. Llwvdd- odd Capten yr agerlong Brydeinig Hatum- ent, i achub 205 oddiar y Lima ond er ei ofid bu raid iddo adael 88 ar ei bwrdd. Ofnir nad oes dim o flaen y rhai hyn ond dyfrllyd fedd. Keir Hardie a'r Llywodraeth.—Wrth siarad y dydd o'r blaen yn Mountain Ash, dywedai Keir Hardie y safai Plaid Llafur yn gefn i'r Llywodraeth ar bwnc y Gyll- ideb, a Thy yr Aiglwyddi, ac na ofalent hwy pa un o'r ddau beth drinid gyntaf. Ond dadleuant am gael ysgubo ymaith yn hollol y Ty Teitlog. Creda na cheir Etho- liad Cyffredinol eto am o leiaf ddwy flynedd. Tros For yr Iwerddon. Aeth un Mr. Dunville, o Dublin i Macclesfield, y dydd o'r blaen mewn awyren. Teithiai tua 40 milldir yr awr, ac yn yr uchder o 10,000 o droedfeddi. Siom i Ddinas Bangor.—Y mae dinas Bangor wedi cael siom. Darfu i un Capten Jones adael i'r Gorphoraeth ddarluniau, ac ar ol bod dan gudd am yspaid daethpwyd a hwy i'r goleu gan feddwl eu bod yn drys- orau anmhrisiadwy, yn ddarluniau gan y "meistri" ac felly yn werth arian mawr. Dywed gwyr medrus yn awr nad ydynt o ddim gwerth. Gwelodd amryw.wyr deall- us yn Mangor ysbiwyr o'r Almaen mewn llawer lie. Y mae eu barn am y naill beth mor ddiwerth a'u barn am y llall. "Wedi ei gael.Cybydd i wraidd ei galon oedd yr hen Ddafydd Puw, Rhiwiau, a'i grintachrwydd yn ddihareb yr holl wlad. A hen grafwr llym oedd Gruffydd Ivan, ei gymydog. Daeth un o fechgyn -Gruffydcl i'r ty, a'i wynt yn ei ddwrn, gan ddweyd, Mae Dafydd Puw yn sal iawn nhad." "Bedi'r mater arno fo Wil?" "Wedi cael colic mae o." "Wei," ebai'r tad cnafaidd, beth bynag sydd arno, gellir bod yn bur sicr mai wedi ei gael y mae Dafvdd, achos mae o'n rhy fen i brynnu dim." Ysgwyd Pobl y Rhondda.—Boreu Merch- er diweddaf, cyn caniad y ceiliog, dych- rynwyd pobl Cwm Clydach gaa ysgyd- wad daeargrynfaol ysgafn. Parhaodd y cynwrf meddir am rai mynudau a chododd lu o bobl o'u gwelyau i edrych beth a ddigwyddai yn Nglofa Blaen Clydach. Gadawodd y gwyr nos eu goruchwylion a daethant yn 01 i waelod y pwll. Ni ddol- uriwyd neb, ac ni chafwyd un math o golled. Un creulawn yn marw.—Un o'r newydd- ion o Twrci, pan yr ysgrifennwn, ydyw fod yr hen Swltan yn prysur adael y byd. Paham, ac i ba beth y daeth y fath adyn erioed i'r byd. Cyn mynd i'r farn fawr gobeithio y ca faddeuant; yn sicr ni fu dyn erioed tan angen fwy am faddeuant. .4 Brynmor Jones. "—Mae Brynmor wedi ei wneyd yn Recorder tref Merthyr. Yr oedd ef fel mae'n gofus yn aelod o'r Ddir- prwyaeth Dirol Gymreig, ac o'rDdirprwy- aeth arall nad a fyth yn anghof,—Dirprwy- aeth Eglwys Loegr. Gwraig arall gofynai geneth henffel y dydd o'r blaen, fu gyno chi wraig o flaen mam?" "Taid anwyl, naddo Be nath i ti ofyn y fath beth?" "Ond gweld yn y Beibl Mawr gwerbyn a diwrnod y'ch prioclas chwi enw Anna Domini ddaru mi. Nid yna ydi enw mam, ond Mari Jos. Marwolaeth Gweinidog Adnabyddus. Y dydd o'r blaen bu farw y Parch. John Jones, Llandrillo, gweinidog gyda'r Methodis- tiaid Calfmaidd. Ordeiniwyd Mr. Jones yn 1895. Bu yn Fugail yn Eglwys Llanddrillo. ger Corwen, er 1899. Yr oedd yn un o wyr mwyaf blaenllaw Cyfarfod Misol Meirion. Peidio Ofni'r Gomed.Dyma fel yr ys- grifena Syr Robert S. Ball i'r "Times. Yr wyf wedi derbyn toraeth o lythyrau yn nghylch y gomed. Y mae cymaint wedi amlygu eu hofnad o'r posiblrwydd o wrth- darawiad, fel yr anturiaf anfon i chwi ateb- iad a roddais i ymofynydd pryderus. Yr oedd fel y canlyn :— Ni fuasai rhinoceros mewn llawn faint yn ofni gwrthdaro yn erbyn gwe pryf cop- yn Ac ni "raid i'r ddaear ofni gwrthdaro yn erbyn y gomed." "Yn 1861, aethom drwy gynffon corned, ac nid oedd neb yn gwybod dim am dani ar y pryd. Y mae bywyd wedi bod yn barhaol ar y ddaear hon am dros gan miliwn o flyn- yddoedd, er fod pump o leiaf o gomedau wedi ymweled a ni bob blwyddyn. Os y gallasai comedau achosi unrhyw niwed i'r ddaear, buasai wedi gwneyd hyny er's amser maith yn ol, ac ni fuasech chwi na minau yn cael cyfle i drin am gomedau na dim arall. Gobeithiaf y rhydd y llythyr hwn y boddlonrwydd a geisiwch. Cyn belled ag y deallaf, byddwn yn nghvnffon corned Halley tua'r 12 o Fai, a gobeithiwn y byddwn. Tybiaf fod Syr John Herschel wedi dy- wedyd yn rhywle y gallesid gwasgu'r gomed i bortmanteau.—Yr eiddoch, I ROBERT S. BALL.
!NODIADAU CYFUNDEBOL. I
NODIADAU CYFUNDEBOL. "Memories" ydyw teitl cyfrol hynod I fuddiol a dyddorol, wedi ei hysgrifenu gan I yr hoffus weinidog—y Parch Charles Hy. Kelly. Gwelwn fod Dr. J. Scott, cyn-lywydd y Gynhadledd wedi ei ddewis yn ymgeisydd dros Bermondsey yn yr etholiacl agoshaol Cyngor Sirol Llundain. Mae tymor ei Henaduriaeth wedi dirwyn i fyny. Gwelwn oddiwrth adroddiad y Capeli 1909, fod y cyfanswm a dalwyd ynglyn ag adeiladu 568 o gapeli newyddion, 308 o adgyweiriadau a helaethiadau, a 29 o dai gweinidogion yn cyrhaedd y swm enfawr o 2,839,253p. Dywedir fod y diweddar Syr Francis Lycett wedi cyfranu yn ystocl ei oes i'r Metropolitan Chapel Fund ddim llai na 128,589p. Yr oedd Syr Francis yn un o'r cyfranwyr mwyaf fu erioed yn perthyn i'r enwad. Darfu i gyfarfod blynyddol Cenhadol myfyrwyr Coleg Didsbury clroi allan yn llwyddianus yr wythnos o'r blaen. Y pre- gethwr arbenig ydoedd y Parch Dr Mald- wyn Hughes. Yr oedd cvnyrch y cyfar- fodydd yn 220p. 9s. 2c. Yn ddiweddar cynhaliodd efrydwyr Col- eg Handsworth eu cylchwyl genhadol flynyddol. Cawsant Sale of Work" llwyddianus a chyfarfod cyhoeddus. Yr oedd yr elw oddiwrth y naill a'r llall yn cyrhaedd y swm ardderchog o 454p. Rhag- orol iawn. Boddhad mawr i Wesleyaid Cymreig yn gyffredinol fydd gwybod fod holl oriau hamddenol Dr Hugh Jones, Bangor, yn cael eu defnyddio gyda'r gorchwyl o ys- grifenu Hanes Wesleyaeth Gymreig, o'i ddechreuad hyd yr amser presenol. Pwy na ddymuna i'r Doctor iechyd da a phob rhwyddineb at y gorchwyl pwysig. Y LLYFRBRYF WESLEYAIDD.
AR DRAWIAD,
AR DRAWIAD, NEBO, EGLWYSBACH. Prydnawn-Saboth, Chwefror 13, bu y Parch T. Gwilym Roberts, yma yn pre- gethu pregeth angladdol i'r ddiweddar Mrs Wynne, Llindir, cawsom Odfa rymus a Bendith yr Arglwydd arni. Daeth dwy chwaer i'r eglwys o'r newydd. Disgwylir ychwaneg. Mae'r Arglwydd am lanw y bwlch ar ol ein chwaer. W. R. ECCLES. Cynhaliwyd ein Te a Chyngherdd Blyn- vddol dydd Sadwrn Chwefror 12fed. Cawsom dywydd ffafriol a dymunol iawn, ac fe fu llawer o gyfeillion y Gylchdaith mor garedig a manteisio ar hyny, a dod i edrych am danom, ac yn ol eu harfer, bu chwiorydd Eccles yn gweithio yn galed iawn er eu croesawu ar ol dod, drwy ddar- paru Te rhagorol i bawb, ac wedi gwneud cyfiawnder a'r danteithion, aethpwyd yn mlaen gyda Cyfarfod yr Hwyr, a chyfarfod ardderchog oedd hwn, swn canmol glywir ar bob llaw. Y Llywydd oedd Mr. W. M. Jones, Mauley Park. Buom yn ffodus ia wn i gael Mr. Jones, dyma y tro cyntaf iddo fod yn llywyddu arnom mewn cyfarfod o'r natur yma. Bu cyfeillion yn garedig dros ben wrthym, trwy ddod i'n gwasan- aethu yn rhad ac am ddim, buom yn edrych yn miaen ato gycla phryder, gan fod yna gyfarfodydd mewn lleoedd eraill, ond ni fuasai raid i ni ofni dim, trodd allan yn llwyddiant perffaith, ac hyderaf y ceir elw sylweddol iawn oddiwrtho, brysied y dydd pan y cawn gyfarfod cyffelyb eto. GOIT. SUMMERHILL. Cynhaliwyd cyfarfod Blynyddol Cyngor Eglwysi Rhyddion Gwersyllt a Rhosrobin, yn y lie uchod Nos Fawrth, Chwefror 8fed. Cadeirydd y cyfarfod oedd, Mr. W. Davies, Higher Gwersyllt. Dewiswyd y Farch. G. I Owen, Rhosdu, yn Gacleirydd am y flwydd- yn ddyfodol. Trysorydd Mr. E Evans, Rose Villa Ysgrifenydd, Parch. W. Thomas, The Manse, Gwersyllt. Cafwyd adroddiad gan yt ysgrifenydd o waith y Cyngor am y flwyddyn, a diolchwyd iddo yn garedig am ei waith yn ystocl y flwyddyn. Cafwyd un- awd yn ystod y cyfarfod gan Miss Roberts, Gwersyllt, ac yn y diwedd oil cafwyd an- erchiad ardderchog gan y Parch. D. M. Jones, Brymbo, yn Gymraeg a Saesneg, ar yr Eglwysi rhyddion, eu lie, a'i gwaith ym mywyd y Genedl. GOH. MYNYDD SEION, DYSERTH. Y GYMDEITHAS DDIWYLLIDOL.- Yr hon a gynhaliwyd Nos lau, Chwefror 10fecl. Pryd yr oedd cynulliad da wedi dyfod ynghyd i wrandaw ar y brawd Isaac Hughes, yn rhoddi anerchiad ar y Bobl ieu anc, a'u hanawsderau. Cafwyd anerchiad dda, ar gymdeithos wedi ei boddloni. Pryd y caf- yd attegiad o werthfawredd yr anerchiad gan y rdai canlynol, Mrs. Jones Mrs. Robert Hughes a Daniel Williams a'r Llywydd Mr. John Evans. UN OEDD YNO. St. PAULS, ABERYSTWYTH. Hyd yn hyn nid wyf wedi gweled yr un gair yn y Gwyliedydcl Newydd," parthed yr uchod, nid am nad ydyw yr Eglwys yn fyw a gweithgar yn sicr, ond oblegid diffyg meddwl yn y gohebwyr. Sut bynag, neith- iwr, nos Fercher, Chwefror 16ed, cafwvd grand treat gan aelodau'r Band of Hope, yn y perfformiad o'r operata cldiwestol The Old Brown Pitcher" (Curwen). Cafwyd cyngherdd amrywiaethol am ryw haner awr, yn yr adran hon cymerodd y rhai canlynol ran, Deuawd ar y Berdoneg gan Misses May a Lrllan Jones Unawd ar y Crwth (Violin) a'r Berdoneg yn cyfeilio, gan Mr. J. E. Burbeck Unawd, Mr. E. J. Hughes Deuawd, Mri. J. P. Owen a James Lewis. Wedi yr ychydig ganu awd yn mlaen a phrif waith y cyfarfod heb or- ganmol, rhaid dweyd fod pob un yn rhag- orol. Perfformiad yr ydym yn sicr y bydd galw am ei chlywed a'i gweled eto yn fuan. Y cymeriadau (characters) oeddynt, Rose, Miss Dottie Burbeck Sally Lyme, Miss Mastitt; Ben, Master Idwal Lewis; Father, Mr. D. D. Williams Jem, Harold Thomas Gryson, Mr. Ivor Lewis Doctor, Mr. J. P. Owen; Schoolboys, Masters Albert Burbeck, Staniey Lewis, Oswald Thomas, a Trefor Lewis Arabs, Masters G. Richards, a R T. Edwards Neighbours, Misses B. Hughes, M. f fughes, A Jenkins a Olive Lewis Police, Messrs D. Julian Jones, a Brytoon Jones Arweinydd, Mr. E, J. Hughes Arolygwyr, Messrs James Lewis, R. Stitt; Accompanist, Miss Jeannie Bur- beck Cadeirydd yr Henadur R Doughton Y.H. UN OEDD YNO.
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. Priodas.—Dydd Mercher löeg cyfisol yn Peniel M.C., unwyd mewn glan briodas yn mhresenoldeb Mr. Richard Jones, Cofrest- rydd, Mr. Richard Roberts, Plas Meini, ein Gwarcheidwad yn Ffestiniog, Blaenor ac Ysgrifenydd Cyfarfod Chwarterol Cylch- daith Blaenau Ffestiniog, gyda Miss J. E. Hughes, unig ferch Mrs. Hughes, Melbourne Place. Y forwyn ydoedd Miss Hughes, Llangollen, a'r gwas Mr. Robert Parry. Plas Meini, Ffestiniog. Gwasanaethwvd gan y Parch. J. R. Jones, B.A., a'r Parch. J. Maelor Hughes. Rhoddwyd Miss Hughes ymaith gan Dr. Hughes, Llangoll- en (brawd). Yr oedd yn bresenol, O. Hughes, Draper, Bl. Ffestiniog (brawd), E. R. Hughes, Draper, Wrexham (brawd). Cheques, anrhegion, a clymuniadau da oddiwrth Will a Tom o Johannesberg a Capetown, South Affrica (brodyr), Mr. & Mrs. Evan Owen, Mrs. Jones, Highgate, a Mrs. Parry, Plas Meini (chwiorydd), Mri. Evan a Ellis R. Jones, a R. Jones, Capel Gwyn, Mr. & Mrs. Robert Jones. Station. Road, Ffestiniog, Parch R. Morton Roberts, Talsarnau (Cefnder), Miss Roberts, Tal- sarnau (cyfnither). Gwelwyd tyrfa luosog yn gwylio y Seremoni. Ar ol hyn dych- welwyd i Melbourne Place, cartref y briod- ferch, i fwynhau o'r danteithion breision. a ddarparwyd gan Mrs. Hughes. Yn dilyn caed anerchiadau a llongyfarchiad- au gan y Parchn. Jones, Hughes, Roberts, ac attebwyd yn ddiolchgar gan Mr. a Mrs. Richard Roberts. Ymadawsant gyda'r train 3 p.m, am Gaer i dreulio eu mis mel. Hir oes a phob llwyddiant icldynt.
Advertising
EST° 5 Total Assetts exceed 9 11 gooogooo. FIRE, LIFE, ANNUITIES, Personal Accident, Burglary, Workmen's Compensation (including Domestic Servants), Sickness, Fidelity Guarantee, Plate Glass, Motor Car, Loss of Proffits, Driving Accidents, &c. LIFE.-For the Quinquennium ended 31st December, 1908, the LARGE REVERSIONARY BONUS of S8 15s. per cent. was again declared on Sums Assured under the Participating Tables of the Prospectuses. Prif Swycfclfeydci Head Office: I 1, Dale Street, Liverpool. I London Chief Office 1, Cornhill, E.G. Cardiff Office 108, St. Mary Street. Applications for Agencies Invited. CWMNI YSWIRIOL LERPWL, LLUNDAIN a'r GLOB. Cyfanswm Cyfalaf dros 11 Miliwn o Bunau. TAN, BYWYD, BLWYDD-DALIADAU, Damweiniau Personol, Tori Ty, Sawn i Weithwyr (yn cyn- wys Gweision a Morwynion), Afiechyd, Diogeliad Cytun- deb, Gwydr (Plate Glass), Modur, Coiled Enillion, Dam- weiniau Cerbydau ac felly yn y blaen. BYWYD —Am y Pum' Mlynedd yn terfynu Rhagfyr, 1908, dychwel- wyd yn ol Y RHODD FAWR o S8 15s. y cant ar y Symiau Yswiriwyd yn yr Adran Gyfranogol. Gwahoddir Ceisiadau am le fel Agents i'r Cwmni. Argraffwyd dros y Cyhoeddwyr gan Lewis Davies, Glyndwr Artistic Printing Works, High Street, Blaenau Ffestiniog.