Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

HYNODION A HELYNTION I . ABERNODWYDD.

News
Cite
Share

HYNODION A HELYNTION I ABERNODWYDD. GAN NEMO. PENNOD V. DIWRNOD CNEIFIO. Y boreu Gwener a ddilynai y Cyfarfod Blynyddol, yr oedd teulu Maesneuadd i fynny yn foreu. Yr oeddwn innau wedi arfaethu troi allan yn foreuach nag arfer er mwyn myn'd i fynny i'r mynydd gyda fy ewythr i gynull y defaid at eu gilydd, a dod a hwy i'r gorlan gerllaw y ty i'w cneifio ond er i mi ddeffro pan darawodd yr hen gloc wyth niwrnod oedd yng ngwaelod y grisiau chwech, yr hyn a dyb- iai ei bod tua phump, ar yr amser, nid oedd dyn i'w weled o gwmpas, ond yn unig rhyw lefnyn main mewn clos pen glin o corclroy gwyn, a phar o hosanau llwyd-las am ei goesau a gwasgod lian lwyd gyda llewys iddi, am y rhan uchaf o'i gorff, eis- teddai ef ar ben gwal yr ardd yn ymyl y ty gyda gwella gloeyw yn ei law, a'r hwn yr ymbleserai trwy dori gwelltyn, darnau o ba un a ergydid oddiwrtho i bob cyfeiriad. Mor fuan ag y gwisgais am danaf euthum i lawr y grisiau a chanfum fod darpariad- au wedi eu gwneud i borthi nifer fwy na'r teulu arferai ymborthi yno bob dydd, canys yr oedd tri o fyrddau wedi eu hulio a llestri ac. ymborth ar gyfer ail frecwast, gellwn feddwl, i'r cneifwyr cyn dechreu ar eu gwaith wedi iddynt ddychwelyd o'r mynydd gyda'r praidd. Er mwyn rhoddi cyn lleied o waith i ferched y ty, awgrymais mai gwell oedd i mi fyn'd i'r gegin groes i gael tamaid o frecwast y boreu hwnnw, ond cyn i fy modryb a minnau wneud y trefniadau ter- fynol, clywn swn brefiadau defaid ac wyn, a chyfarthiadau cwn a bloeddiadau dyn- ion yn agoshau at y ty a phenderfynais aros i gyd-frecwesta a'r cneifwyr yn y gegin oreu. Deallais wedi hyn, mai ar y diwrnod cneifio, y diwrnod dyrnu a Dydd Nadolig yn unig y byddai y gweision yn cael bwy- ta yn y gegin oreu. Daeth y cwmni i mewn yn y man a golwg lafurus arnynt. Nid oedd y dynion i gyd wedi bod yn cynull y defaid, yr oedd tua dwsin o'r cymydogion gan gyn- wys y gweision o'r ffermydd cyfagos wedi cyrhaedd y ty bron yr un adeg a'r defaid. Daeth y dynion i mewn gvda'u gilydd ac yn eu plith y llanc yswil a welswn trwy ffenestr y llofft yn eistedd ar wal yr ardd yr oedd ef yn eistedd mewn congl y tu traw i'r bwrdd cyn i fy ewythr gyraedd y ty; pan welodd ef dechreuodd wenu a meddai wrtho Hylo Jac o ble doist ti yma dwad, wyt ti wedi rumpio o dy le." Ed- rychai Jac yn fwy yswil byth. Do" meddai, yn swta ddigon." Wei, ar fen- goch i, Wmffra Jones," meddai rhywun, be ydach chi yn i roi i'ch gwasanaeth- yddion, 'does dim aros yn eu lie yngroen yr hogia a'r genethod yma, wedi iddi nhw fod yma unwaith, y mae nhw yn dwad yn i hola fel hanner coronau drwg o bob man, wedi iddyn nhw fod yn aros yn Maesneu- add." Chwerthodd pawb yn galonog. Pam y daru i ti adael dy le dwad," medd- ai fy modryb drachefn, oedd y gwaith yn rhy galed i ti, neu oeddat ti ddim yn fod Ion ar dy gyflog, be oedd y matar ar y lie. Wel, meddai Jac toe, "mi wyddoch o'r gora na fu arna i 'rioed ofn gwaith, ac yr oedd y cyflog yn eitha, ond mi ddeuda i chi pam y dois i ono. Yn fuan wedi i mi fyn'd i fy lie Glama mi farwodd un o'r defaid ohonni i hun fel tasa, ac mi hallt- odd fy meistr hi, a chig honno geutho ni bob pryd tra parodd hi. Wedi hynny mi farwodd buwch iddo a wydda neb yn y byd be oedd ami hi, ac mi halltwyd honno wedi'n a phan oeddan ni ar ganol i bwyta hi mi cymerwyd i fam o yn sal, ac yr oedd- an y gweision fel tasa, yn dechreu mynd yn bur bryderus gan nad oeddwn ni ddim wedi anghofio y ddafad ar fuwch. Bu farw yr hen wreigan ddoe a mi ddois i adra yn syth." Tra yr elai Jac dros v stori edrychai mor ddifrifol a sant, ond chwarddai pawb arall yn aflywodraethus, a thybient fod llawer wedi gadael ei le am lai o reswm lawer gwaith. Wedi gorffen bwyta cododd pawb oddi- wrth y byrddau yn cael eu harwain gan Harri yr hwsmon, ac allan a hwy at y gor- lan. Dechreuwyd ar y gwaith o gneifio ar unwaith. Ymddangosai pawb fel pe yn deall pa ran o'r orchwyliaeth a ddysgwylid ganddo; gofalai rhai am ddal y defaid diniwaid, eraill a glyment rai o'u traed ynghyd yn barod i'r cyneifwyr, trin y gwelleifiau yn unig a wnai rhai, ac yr oedd eraill yn brysur gyda'u lliw a'u pyg (pitch) yn barod i'w hail farcio ar ol symud eu gwlan-nodiad gyda'r cnu a gneifiwyd ymaith. Yr oedd fy ewythr yn dosparthu y gwlan o ran ei ansawdd ac yn ei ystorio mewn sach-gydau anferth yn barod i'w osod o'r neulltu yn y lofft wlan hyd nes y deuai'r prynwr o gwmpas. Y gwaith a ymddiriedwyd i mi oedd sefyll yn ymyl y cneifwyr i estyn rheffynau i'r cylymwyr. Synid fi gan fedrusrwydd rhai o wyr y gwelleifiau, gallent amddifadu y ddafad a ymddiriedid iddynt o'i gwisg wlanog mewn ychydig funudau ac yn y cyfamser ymddiddan am bob mater a god- ai i fynny, ond prif destun yr ymddiddan oedd y Cyfarfod Prcgethu a gynhaliwyd yr wythnos honno. Rhyfeddwn at y dyddordeb a gymerai pawb ohonynt yn y pregethu, a'u gallu beirniadol a dyddorol dros ben oedd eu clywed yn mesur a chlorianu y ddau ddyn dieithr fuont yn eu gwasanaethu. Y modd y dechreuodd yr ymddiddan am y Cyfarfod ydoedd trwy i wr Aberdeunant son am y modd y gwisgai Mr. Jenkins, Merthyr, ac aeth yn ddadl rhyngddoef a mab Brynrhed- yn, ynghylch y modd y dylai pregethwyr wisgo. Credai y blaenaf y dylai Gweini- dog yr Efengyl wisgo yn weddus ac yn deilwng o'i safle a'i alwedigaeth. Wesle- aid ydoedd ef, a nis gallai gredu fod modd i'r Efengyl gael chwareu teg os na fyddai ei chyhoeddwr mewn gwisg o liw galar tragwyddol," ys dywed y Cadeirfardd Gwynn Jones. Mae morwyr, a phlis- myn, a soldiwrs, yn gwisgo eu hiwnifforms i gyd, meddai, er mwyn i bobl wybod pwy ydyn nhw, ac mi dwaenwn i borth- mon ond i weld yn y lleuad, a pam na ddylai soldiwrs y groes wisgo i hiwnifform hefyd os bydd hynny yn fantais i'r Efengyl a bregethant. Ydach chwi yn meddwl mai dillad syn gneud pregethwr ddyn," ebai Ned Bryn- rhedyn, mi glywis i lawar bregethwr sal iawn gyda dillad duon a ffunan wen cyn hyn, ac mi glywis bregethwyr ardderchog mewn diwyg lwyd i gwala, a golwg mor anmhregethwrol arnynt ac sydd ar yr hes- bwrn yma sydd dan fy ngwella i. Medd- yliwch am loan Fedyddiwr, yr oedd y pregethwr hwnw yn gwisgo yn odiach lawer na Jenkins Merthyr. Meddyliwch am dano wedi ei wisgo, yn ol y Scrythyr a blew camel, heb eu trin na'u gwau am wn i, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau, ond 'doedd a wnelo hyny ddim a'i genad- wri. Pe delai loan i bregethu i Abernod- wydd, wrandawech chi na'ch bath ddim arno am ei fod yn gwisgo yn od. 'Does gen i fawr o amynedd hefo'r pregethwrs yma sy'n ddynwared personiaid hefo'i diwyg fy hun, y bregeth ac nid y brethyn na'i doriad ydi'r peth. Digon gwir. ebai William Jones yr Hendre, "y genadwri ac nid y cenhadwr sydd yn bwysig. Ond nid wyt ti yn gyson a thi dy hun Ned, nid am fod pregethwr eisiau dynwared person, a honm rhyw aw- durdod offeiriadol, y mae pob pregethwr yn gwisgo dillad duon a cholar yn cau ar i wegil. Rydw i yn cofio mynd hefo Griff Aberdeunant i Fachynlleth unwaith o ffair Llanidloes i glywad y dyn rhyfedd hwnnw, John Price Hughes, ac mi cymret o am berson, os nad pabydd unrhyw ddiwrnod o ran i wisg tai o yn eillio i farf, ond fu neb yn fwy gwrthoffeiriadol nag oedd o, ac mi glywis am lawer un yn gwisgo mor an- hebyg i offeiriad a Jenkins Merthj-r, fydda'n tra awdurdodi ar i eglwys yn fwy na'r Pab o Rufain ei hun. Y mae modd i ddyn wisgo yn wahanol i offeiriad ond ym- ddwyn yn offeiriadol ddychrynllyd. Prun bynag am hynny y mae Jenkins yn gallu pregethu. Trodd Jhyn gyfeiriad yr ymddiddan at y pregethau. Beirniadwyd diwinyddiasth ac esponiad- aeth y pregethau, cyfeiriwyd at anghys- ondeb y naill bregethwr a'r Hall yn eu daliadau Arminaidd a Chalfinaidd. Methai Griff a deall pa synwyr oedd i Jones alw .r Seiat yn ol, nag yn wir bregethu o gwbl os oedd yn credu fod rhai wedi eu hethol i fywyd a'r lleill i golledigaeth dragwyddol. Methai amryw o'r cwmni hefyd a deall pa amcan oedd yn cael ei gyraedd trwy bregethu am awr ar Y Tabernacl, a'r canhwyllbren, a'r bara gosod," a gwthio rhyw bum munud o Efengyl y Testament Newydd i mewn i ddiwedd y bregeth. Bai y pregethu ar y cyfan oedd, nad oedd y pregethwyr yn gwneud yr efengyl yn ddigon ymarferol. Ond cytunai pawb fod y bregeth y cyfeir- iwyd ati eisoes-pregeth olaf y cwrdd yn odidog, ar eiriau'r Salmydd,—Sylw yr Ar- glwydd ar y byd. Dyma rhywbeth gwerth meddwl am dano, fod Creadwr a Chyn- halydd y byd yn sylwi ar ei greaduriaid, —3m sylwi ar wladwyr tawel yn Abernod- wydd, ac yn cael boddhad wrth weled dynion anadnabyddus i'r byd,—dynion na argreffid moi henwau byth, ond yn unig ar gerdyn coffa wedi eu marw, ac ar y restr o bleidleiswyr unwaith yn y flwyddyn, yn ceisio byw bywyd dilychwin, a rhodio yn nghamrau lesu i derfyn eu gyrfa yn sylwi hefyd ar eu plant oeddynt yn rhai o drefi a dinasoedd llygredig Lloegr, ac yn yr Amer- ica, yn nghanol temtasiynau ddydd a nos, ac yn barod i'w cynorthwyo, i ymladd hardd-deg ymdrech y ffydd, a dod allan o'r frwydr yn fwy na choncwerwyr. Pan yn aildroi y bregeth hon yn y gor- lan, ail feddianwyd rhai oedd yno a naws yr oedfa y nos Fercher blaenorol, arafodd pob adran o'r gwaith yn y gorlan trodd pob wyneb i gyfeiriad Jac Bronfoel, canys efe oedd yr unig ddafad grwydredig o'r cwmni oedd heb ei chyrchu adref gan y Bugail Da yn ystod dechreu'r flwyddyn. Ar hyn daeth galwad i ginio, a sylwodd amryw fod llvgaid Jac yn llawn, ac ni ddywedodd nemor air wrth neb yn ystod y dydd. (I barhau).

I COLOFN Y MERCHED.

YN Y TY.I

LLITH HEN WR CWMNIWLIOG.

Cymro o'r Wlad a'r Ymweliad…