Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

DYSGEIDIAETH FOESOL LLYFRAU…

NODION LLENYDDOL. I

Advertising

DECHREU Y DIWYGIAD YN HOLBECK.

News
Cite
Share

(Parhad o tudalsn 1). myned yn slum property, ac agos yr oil o'r addolwyr yn byw yn yr ys- trydoedd newyddion sydd ychydig bellder o'r lie. 0 fewn ychydig latheni i'r capel ceir oddeutu deg o dafarndai. a gellir gweled degau o famau, foreu a hwyr yn myned i mewn gyda'u jugs i'w llenwi a chwrw. Y mae yr aneddau yn waelion ac isel, a'r merched a'r plant yn y lanes a'r courts, a'r squares, yn garpiog ac afler. Heb- law y diota, y mae hapchwareu yn un o felldithion penaf y lie. Y Sadwrn o'r blaen safai bookmaker yn yr heol yn agos i'r capel a der- byniodd dros £ 70 mewn bets mewn llai na dwy awr o amser, a hyny o bocedau dynion a merched ieu- aingc oeddynt ar eu ffordd adref wedi derbyn eu cyflogau yn y felin a'r factory. Y mae agos yr oil o'r siopau yn ymyl y capel yn agored ar yr oil o Ddydd yr Arglwydd. Nid rhyfedd fod ein pobl wedi rhoddi ffordd i ddigalondid, a barn- ai amrai o leygwyr a gweinidogion amlwg y Dalaeth nad oedd dim i'w wneyd ond gwerthu yr holl ,Property, ac acleiladu capel newydd mewn lie mwy parchus. Y gorchwyl cyntaf oedd symud y digalondid, a chael y bobl i gredu mwy yn Nuw ncynddynt eu hunain. Os oeddym yn pregethu ffydd, a gwroldeb, a brwdfrydedd, ac an- turiaeth, a gwaith, rhaid oedd hefyd eu hymarfer. Ni chynydda yr eglwys sydd yn byw yn unig i amddiffyn ei hun. Rhaia myned allan o dir y gelyn i ymosod, i orchfygu, a meddianu. Angen- rhaid oedd argyhoeddi y bobl yn y gymydogaeth fod efengyl Crist i'r tlodion, fod arnom eisiau y tlodion, fod ar Iesu Grist eu hunain eu heis- iau ac fod yn rhaid iddo eu cael. Gwae fydd i ni os esgeuluswn y mwyaf anghenus Angenrhaid hefyd oedd cael yr holl eglwys i weddio, ac yna i weithio, i ganol- bwyntio(concentrate)eu holl egnion ar yrysprydol. Penderfynwyd peid- io gwneyd ymdrechion i godi arian trwy Nodachfa eithr yn hytrach rhoddi arian, a thrwy hyny aflrbed amser i dd'od i gyffyrddiad a'r bobl oeddynt y tuallan i'r gynull eidfa. Daeth yr aelodau i siarad ac i weddio am Ddi wygiad. Dyma ddaeth yn fyrdwn yr ymddiddan ion yn y Cyfarfodydd Eglwysig, hyd nes y daethant i gredu fod symudiad ysprydol wrth law. Yn y cyfamser cynyddai y gynulleidfa ar y Sabboth, cynyddai yr Ysgol Sul, y Band of Hope, Y Mothers' Meeting a phob organization arall perthynol i'r lie. Cynyddodd y cyfraniadau. Dyblwyd y cas- gliadau at y Genhadaeth Dramor treblwyd casgliadau Cylchwyl yr Ysgol Sul, a mwy na threblwyd casgliadau Gwyl y Cynhauaf. Yn hytrach na chael Nodachfa, add- awodd yr aelodau y swm o (74 extra at y Weinidogaeth. Wrth weled hyn meddyliem am yr add- ewid yn Malachi iii. 10. Yn niwreddMedi, ar ol anfon lly- thyr at bob teulu oedd mewn un- rhyw fodd yn gysylltiol a'r lie, dechreuodd eu hymdrech neilldu- 01 i gyraedd y bobl oeddynt y tu- allan i'r lie. Caed vvythnos o gyf- arfodydd gweddio. Yr oedd en- einiad dwyfol ar bob cyfarfod, calonau y bobl wedi meddalu, y mwyafrif o'r aelodau yn uno mewn deisynadau taer ac angerddol. Y cyntaf i droi i mewn oedd dyn meddw, hen ysgolor, a drowyd o'r Ysgol gyda dau arall 20 mlynedd yn ol. Efe oedd y cyntaf i gymer- yd yr ardystiad dirwestol ac i geisio yr lachaw* dwr. Efe oedd blaenffrwyth y dychweledigion oeddynt i ddilyn. Yn gynar yn yr ail wythnos daeth dau ddyn ieu- ainc, 24ain oed i'r gwasanaeth. Yr oedd un o honynt wedi bod yn y carchar 12, a'r llall 8 o weithiau. Adnabyddid hwy fel y ddau waeth- af yn Holbeck. Rhoddent fwy o drwbl i'r tafarnwvr, ac i'r heddlu na dim dau yn y lie. Yr oeddynt gyhyrog a chryf, a chymerent bleser mewn ymosod ar yr hedd geidwaid. Un diwrnod ymaflodd Un o honynt mewn constable, a thaflodd ef trwy ffenestr shop cig- Ydd oedd yn ymyl. Ymosodasant ar un arall, a gwnaethant iddo Cymaint niwaid fel y bu raid iddo gadw ei wely am wythnosau, Pan yn diota byddant fel gwall- Sofiaid. Syndod i amryw oedd eu gweled yn y capel. Ar ol y gwas- "laeth tra yn siarad yn hir a hwy YIl y heol, perswadwyd y ddau i oddi y ddiod i fyny. Aed i dy y aretaer ac yno arwyddasanr yr ardystlad. Wedi clywed eu bod i ï:rIlldclangos dranoeth yn y Llys eddgeidwadol am fod yn feddw ? atreolus, addawsom fyned gyda ?y 1 bledio gyda'r Ustusiaid ar eu rhan. Ceisiai y ddau amddiffyn eu hunain oreu y gallant, ond yr oedd eu hachos yn vvan ac an- obeithiol. Trwy garedigrwydd yr Ustusiaid cawsom ganiatad i ddweyd gair ar eu rhan. Canlyn- iad yr oil oedd gohiriad yr achos am dri mis er mwyn rhoddi cyf- leusdra iddynt i "ddwyn ffrwyth addas i edifeirwch." Addawsom edrych ar eu holau, a'u cynorth- wyo l gadw oddiwrth y ddiod. Wrth adael y llys, dywedai hedd geidwad wrthym, Nis gellwch wneuthur dim gyda hwy. Y maent y ddau waethaf yn Holbeck. Y mae eu cyfhvr yn anobeithiol." Atebasom fod yn amlwg fod y Ddeddf wedi gwneyd ei goreu erddynt ac wedi methu. Gadawer yn awr i'r Efengyl gael ymgeisio i'w diwygio. Ceisiwyd ei per- swadio i geisio yr Arglwydd, ond am rai dyddiau yn ofer. Yr oedd y ddau allan o waith, ac yn nghraf- angau y bookmaker, yr hwn oedd yn talu yn dda iddynt am fod yn touts iddo. O'r diwedd, ildiasant i'r gwirionedd, a symudwyd hwy o farwolaeth i fywyd, o feddiant Satan i deyrnas a gwasanaeth Iesu Grist. Ymledaenodd y newydd am eu troedigaeth, daeth medd- won eraill i'r gwasanaeth, a hwy- thau hefyd a deimlasant nerthoedd y byd a ddaw. Cymerodd degau o honynt yr ardystiad, a rhoddas- ant eu hunain i'r Arglwydd. "Yr ydwyf wedi dod i'r Capel meddai un dyn meddw, oblegid y cyf- newidiad yn mywyd y dyn acw," gan gyfeirio at gymydog oedd yn byw yn yr un Court ag ef, ac y mae arnaf eisiau cael yr un cyf- newidiad yn fy mywyd fy hun." Ar y nos Sadwrn cyntaf yn Hyd- ref aethom oil allan i'r ystrydoedd i wahodd y bobl i'r capel. Blaen- orid y procession gan Motor Car a fenthycwyd i ni gan gyfaill. Yn dilyn hwn cariwyd ein baner gan ddau o'r dychweledigion. Yna yn dilyn yr oedd brass band a dau boys' brigades, yna dychweledigion yn carlo torches a Chinese Lanterns, wedi hyny linell hir o'n haelodau, a brass baud arall yn dilyn yn ol. Wedi Cyfarfod Dirwestol yn y capel am 8 o'r gloch, oddeutu chwarter i unarddeg aethom allan drachefn er mwyn cael gafael yn y meddwon fel yr oeddynt yn gad- ael y tafarndai. Perswadiwyd ugeiniau i ddychwelyd gyda ni. Digrifol i rai o'n pobl oedd gweled eu gweinidog yn cerdded fraich yn mraich a dau ddyn meddw, un bob ochr iddo. Y mae y ddau erbyn hyn yn aelodau o'i Restr. Yr oedd yn agos i ganol nos, pan ddych- welwyd i'r capel. Nis anghofiwn byth y cyfarfod, a'r gwaith an- hawdd oedd cael eu sylw. Nis gwyddai amryw o honynt eu bod mewn Capel. Mynent dynu allan eu pibellau i ysmygu. Er fod rhai pethau gwir ddigrifol yn cael eu dweyd a'u gwneyd, golygfa dor- calonus ydoedd. Cyn un o'r gloch y boreu yr oedd amrai o honynt wedi dechreu sobri. Bu i dros 70 arwyddo yr ardystiad yn y cyfarfod cyntaf, a degau yn y cyfarfod ganol nos. Gwelwyd amrai yn plygu wrth groes Crist i gydnabod eu camweddau, ac i ddechreu byw bywyd newydd. Aethom adref oddeutu 2 o'r gloch y boreu yn nodedig o fiinedig, ac eto yn llawen oblegyd fod cymaint wedi profi. fod yr hen efengyl eto yn allu Duw er iachawdwriaeth. Yr ydym wedi gweled dychwel- iadau agos bob Sabboth er dechreu Hydref. Gwelir olion y diwygiad yn aneddau y bobl, ac yn niwyg y rhieni a'r plant. Y mae y tai yn lanach, a'r 1 euluoedd yn hapusach nag y buont er's llawer o amser. Llongyfarchwyd ni droion f gan yr heddgeidwaid, oblegyd y gwellhad yn ymddygiad y bobl yn yr heol- ydd wrth ymyl y Capel. Y mae pob organization mewn cysylltiad a'r achos yn dangos arwyddion adfywiad—y cynulliadau Sabboth- ol, yr Ysgol Sul, cyfarfodydd y dynion, cyfarfodydd y merched, y Rhestrau, y Band of Hope. yr Institute, &c., &c. Caraswn roddi manylion o hanes rhai o'r dychwel- edigion ond nid oes na hamdden na gofod i hyny. Dywedaf hyn cyn tewi fod mwyafrif y dychwel- edigion yn aros. Yn y cwrdd chwarter diweddaf yr oeddym yn reportio 160 o aelodau cyflawn, gyda 94 ar brawf heblaw dros 60 o rai ieuangc o 14 i 18 oed, Y mae amodau llwyddiant eglwysig yr un o hyd,—gadael i'r pethau cyntaf fod yn gyntaf,—ysprydolrwydd meddwl, |duwiolfrydedd calon, gweddigarwch, cariad brawdol, gweithgarwch, hyd nes y bydd pob aelod eglwysig yn dod yn ddwylaw i Iesu Grist i gario bendithion Ei gariad i'r cannoedd ydynt tuallan i'r eglwys heb obaith ac heb Dduw yn y byd. Pa agosaf y deuwn at angenion a dyoddefiadau y bobl, agosaf y deuwn at galon y Ceid- wad. Nid oeddwn yn bwriadu ysgrifenu cymaint. Boed i'r Gol- ygwyr dalfyru, a boed llwyddiant parhaol i'r "Gwyliedydd Newydd." I O.J.