Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
[No title]
DYSGEIDIAETH FOESOL LLYFRAU…
DYSGEIDIAETH FOESOL LLYFRAU YR APOCRYPHA. Cawsom flas mawr yn darllen y llyfr a ddyg y penawd uchod a chynghorem pawb i'w feddu. Buom er's tro yn disgwyl am dano. Gwyddem ei fod yn yr arfaeth, a chawsom weled peth o'i anelwig ddefnydd ef, a chododd hyny ein disgwyliadau yn bur uchel y byddai y llyfr pan y gorffenid ef yn arlwy fras a danteithiol; ac yn awr y mae fy nisgwyliadau, a dyweyd y lleiaf, wedi eu llenwi yn llawn. Mae'r llyfr heb os nac onibae yn llyfr gwir ddyddorol a gwir alluog. Yr awdwr ydyw Dr. Maldwyn Hughes, mab yr hyfedr a'r hoffusol Glanystwyth. Cynhwysa y gyfrol 340 o dudalenau, a gellir ei phwr- casu am burn' swllt. 0 ran ei diwyg allanol y mae yn attdyniad- ol ac ogystled a dim a ddaeth allan o'r swyddfa gyfundebol yn Llunden. Thesis ydyw y gwaith, a dder- byniwyd gan Brif Ysgol Llunden pan yr ymgeisiai Mr. Hughes, am y radd o Doethawr mewn Diwin- yddiaeth. Diolchwn i'r Dr. am ddewis pwnc mor newydd, pwnc nad oes bron dim wedi ei ysgrif- ennu arno, o leiaf yn Gymraeg a Saesoneg. Yr oedd hyn, bid siwr, yn gwneyd y gorchwyl a osododd y Dr. iddo ei hun yn un anhawdd eto, mae hyn wedi i'r llyfr gael ei orffen yn ei wneyd yn llawer mwy gwerthfawr, ac yn gymhorth i sicr- hau lie parhaus iddo yn llenydd- iaeth, moes, crefydd, a diwinydd- iaeth. Fel y dywed Dr. Hughes ei hun, cydrhwng yr olaf o lyfrau yr Hen Destament a'r cyntaf o lyf- rau y Testament Newydd, y mae agendor o tua dau cant o flynydd- oedd ac i ddeall tymher yr am- seroedd, ynghyda naws yspryd ysgrifenwyr y Testament Newydd, y traddodiadau a'r deheuadau ar ba rai y magwyd hwynt, a'r cyffel- yb, rhaid talu sylw i'r cyfnod hwn. Mae astudio oes Iesu Grist a'r Apostolion, ynghyd a'u gwaith, yn anibynol ar y cyfnod yma, fel pe yr astudiem hanes Prydain yn yr ug- einfed ganrif yn anibynol ar y ddeunawfed ar unfed ganrif-ar- bymtheg. Heblaw y cymhorth a gawn fel hyn o'r Apocrypha i ddeall yr helyntion, a'r ysbryd, ym mron neu yng arffed y rhai y meithrin- wyd Cristionogaeth, mae'r llyfrau eu hunain o ran euswy'n a'n teilyng dod llenyddol yn anghyffredin o ddyddorol. Tuedd y mwyafrif o Gristionogion cyffredin- -y rank and fize-ys dywedir, ydyw edrych ar yr Apocrypha oil fel ryw bentwr o ystraeon anghall a difudd— gwrachiaidd chwedlau, Cyffesaf fy mod fy hun i ryw fesur o dan y fath argraff. Beth bynag, mae llyfr Dr. Hughes wedi agor byd newydd i mi synnaf at geinder llenycldol llawer rhan o'r Apo- crypha synnaf at ei ddysg foesol uchel ef; ac yn fwy na'r cwbl rhyfeddaf debyced i'n rhai ni oedd llawer o'u problemau cymdeithas- ol hwy. Pan y seiryd am feistr a gwas, gwaith a chyflog, bywyd ac eiddo, cyfiawnder a thosturi o'r bron na thyngwn mae ynghanol miri a bywyd Prydain yn yr ugein fed ganrif yr iv, vf. Yn siwr mae yna ryw flasiad di vveddar od ar yr hen lyfrau hyn. Dyn yw dyn ar bum' cyfandir Dyn yw dyn o oes i oes Gorchwyl cyntaf Dr. Hughes ydyw dosranu,-gosod y llyfrau gyda'u gilydd yn ol eu cenedl, Rhamant, Athroniaeth Foesol, y Ffug Llyfrau a'r cyffelyb. Ymes- tyna yr ymchwiliad o dri chan' mlynedd o'r flwyddyn dau cant cyn Crist, hyd ddiwedd y can' mlwydd cyntaf ar ei ol ef. 0 saf- bwynt moesegol yr efryda Mr. Hughes yr hen lyfrau yma. Eglura eu dysgeidiaeth am ddyn, am gym- deithas, am dda, ac am ddrwg. Yn vr holl lyfr, un o'r adranau mwyaf dyddorol yw yr un, yn yr hon yr ymdrinia yr awdwr a Thes- tamentau y Deuddeg Patriarch. Mae'r llyfr hwnw o darddiad Phar- iseaidd, ac wedi ei ysgrifenu tua can'mlwydd ond odid, cyn geni Crist. Nid oes amheuaeth, ebai Dr. Hughes, fod Iesu ei hun yn gyf- arwydd iawn yn y llyfr hwn, a bod yn hawdd olrhain ei dclylanwad yn yr efengylau. Dyry Mr. Hughes gyfres darawgar o ddifyniadau, ddanghosant i ba fesur yr oedd yr Iesu wedi derbyn, ac wedi per- ffeithio a chodi yn uwch uwch y ddelfryd foesol oedd yn y llyfr. Dyvvedaf mai y gyfrol hon yw un o'r rhai mw3Taf dyddorol a ddar llenais er's cryn amser. Cadwyd fi oddiwrthi yn hir gan gymhelri a swn yr etholiad, ond ar ol gafael lynddl profodd yn drech na mi, ni allwn er ceisio, ei gosod heibio nes ei gorffen. Yr oedd gennyf feddwl uchel o Dr. Hughes o'r blaen, ond y mae genyf os oes modd, uwch meddwl o hono heddyw. Mae y gyfrol yn dangos dysg mawr, 3-mchwiliad dyfal, barn sicr, a chwaeth dda. G.
NODION LLENYDDOL. I
NODION LLENYDDOL. I (Anfoner pob llyfr a chyhoeddiad i'w hadolygu i'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Llys Menai, Port Dinorwic.) BARDD A NOFELYDD. I Y bardd y tro hwn yw y cyfreithiwr Mr. R. A. Griffith (Elphin),-i'w wa- haniaethu o ran ei enw barddonol oddiwrth Elfyn, y bardd mawr a gallu- og iawn sy'n byw yn Ffestiniog yna. 0 For i Fynydd, a Chaniadau Eraill yw teitl y Ilyfr,-cyfrol hyla-,N-, drwchus, yn cynnwys 350 o dudalennau, wedi 'i hargraffu ar bapur da, a'i chyhoeddi'n deilwng a destlus odiaeth gan y Mri. Hugh Evans a'i Feibion, yn Swyddfa'r BRYTHOX, Lerpwl- Y mae'n rhydd imi ddywedyd ar unwaith yr hyn y gwyr pawb cyfarwydd ag ef, fod Elphin yn wr gwir alluog. Dengys y gyfrol hon hynny yn eglur. Dyma fardd sy'n sefyll yn hir ac yn ddwys uwchben cwestiynau mwyaf bywyd a bod,—Duw, enaid, cydwybod, euogrwydd, poen, pechod, cariad, angau, anfarwoldeb. Caiff y pethau mawrion hyn le amlwg yng nghaniadau Elphin, a beth bynnag fydd ein barn am dano fel bardd, rhaid inni deimlo mai addysg yw aros yng nghwmni dyn sy'n ymson ac yn meddwl fel hyn. Nid oes yma fawr ddim o ol y gyng- hanedd Gymreig. Atgofir dyn gan fes- urau Elphin am rai Arglwydd Byron ac Edmund Spenser, yn bennaf. Medr eu trin yn ddeheuig mewn gwirionedd. Nid nad oes ganddo fesurau eraill at ei al- wad, ond y rhain sy'n nodweddiadol ohono. O'r dyfnder y llefais arnat,"— dyma'n ddiau brofiad Elphin: dyma'i safle wrth edrych ar bethau. Yn ei eiriau'i hun o ddiwedd "0 For i Fyn- ydd," mae llyn 0 dristwch byth yn golchi gylch fy nhraed; Edrychaf ar y byd a llygaid syn, A holaf eto i ba beth y'm gvynaed Yn wr sy'n cludo poen a phechod yn ei waed." Ychydig o oleuni a gobaith a llawen- ydd sydd ynddo. Ar y cyfan, bardd y ddunos a'r gwae a'r gor-ddyfnder ydyw. Pan sonia am gariad, ei boen sy'n cael y rhan fwyaf o'i sylw. Pan aiff at y mor, Y Mor a' i Wae yw pwnc ei gan. Gwelcl ei ansefydlogrwydd, ei greulondeb, y llygredd sy'n ei geudod. y brad llechwraidd dan ei fron, y cyfle a rydd i ddynion raib-lofruddio'u gilydd ar ei ddyfroedd,-gweld y pethau hyn y mae. Pan wel gynnwrf ei donnau, at- gofia hwnnw ef am gynnwrf tostach J cydwybod euog,— Ai nid rhyw eco gwan o'th ruad lleddf Yw'r mewnol lais a glyw cydwybod dyn Yn murmur pan drosedda'r ddwyfol ddeddf Osodwyd gan y Duwdod mawi ei hun Dan sail ei ymwybyddiaeth ? Pechod dry'n Rhyw eigion o euogrwydd yn ei fron, A chwsg a'i gedy'n adyn gwelw ei lun Oferedd iddo ffugio wyneb lion Pan ddelo gwae ar wae fel ton ar warthaf ton." Eithaf da, ac eithaf gwir, ond dim gair am yr hedd a ddaw trwy Farwol Loes y Ceidwad Mawr. x Rhyfedd ac ofnadwy yw Ymliw ag Angau. Am wnn i nad yw'r bardd yn gorfod ildio i Angau, fel y rhaid i bawb ar wahan i'r Gwr sy'n Adgyfodiad a Bywyd.,— Buan daw'r amser im' gefnu am byth ar y broydd a gerais, Cau fy amrantau a wneir, wed'yn fy hebrwng i'r bedd Eto blagura'r blodeuyn, yr adar gant eto gymharu, Dychwel mireinder a chan, ond ni cklaw mwvniant i mi. Ond oni chlybu, oni wyr y bardd fod Bywyd ac Anllygredigaeth wedi'u dwyn i oleuni trwy'r Efengyl ? Oni chlybu efe am Ui-i a ddiddymodd angau, ac a, ddinistriodd yr hwn oedd a nerth mar- wolaeth ganddo ? Erys y bardd yn y cysgodion, yn brudd a galarus, a braidd nad yw ei enaid yn gorffwys mewn Anobaith. Cymerer hon o Sonedau y Nos, "— I'r anwel a'r anwybod maith diwawr Mi syllais fel un gais o gywrain fryd Ddarganfod newydd wlad neu arall fyd Pa beth yw bywyd ?' holais lawer awr, Pa beth yw angau ?' 0 na ddelai cawr Feddyliwr yn ei rym hedfannai hyd Uchelion eitha'r nos-wvbrenni mud Ac yna i'r nos-ddyfnderau dreiddiai i lawr." Ond y mae'r Cawr Feddyliwr yr hir- aetha'r bardd am dano wedi dcd, i ateb cwestiynau dyfnaf ac anhawddaf y meddwl dynol. Y mae llyfr fel hwn yn ein cau i mewn i Obaith yr Efengyl. Dyma ddyn gwir alluog yn ymson uwch- ben problemau bywyd a bod, ac yn methu gweld goleu yn unman. Y mae fel pob meddyliwr mawr yn wynebu'r anhawsderau'n llawn, a phair hynny inni weld dyfnder a grym a gogoniant Ef- engyl Iesu Grist yn fwy nag erioed. Beth wnai y byd heb lesu ? Beth ddoi o'r byd heb lesu ? Ar wahan i'r Duw- ddyn, ar wahan i Groes a Bedd Gwag ein Harglwydd, mor dywyll, mor dru- enus, yr ydym. Ond, Pan oeddym ni mewn carchar tywyll du, Rhoist in' Oleuni Nefol. Teimlo yr ydym wrth gau'r llyfr mai Iesu Grist yw Unig Obaith y byd. Hebddo Ef, nid oes gennym ddim ond anobaith a thywyllwch fel y fagddu. Y mae Elphin, yn Gymro rhagorol, hyddysg yng nghyfoeth ei iaith. Hyfryd yw gweld lien eiriau Cymraeg cryfion a phersain fel y rhain,—meddf (tyner), bygylu (bygwth), gwyar (gwaed), ym- wrdd (ymladd), madru (pvdru), ym- geintach (cweryla). Synnu yr wyf fod Cymro mor dda yn ysgrifenu rhian am "rhiain," oblegyd digon prin y buasai byth yn dweyd "gwrag" am gwraig. Hefyd oedfaon" am oedfeuon neu odfeuon, oblegyd ui buasai'n dweyd gwasgfaon" am gwasgfeuon, ond odid. Eto, bar" am "bair" (causeth), a "heny" am "henyw," (y trydydd person unigol presennol o hanfod. ") Rhyfedd iawn yw iddo roi g yn y gair wyneb, "— y mae'n fwy na thebyg na buasai ef na neb arall yn ei rhoi yn y gair oen, ac yn dweyd goen" am hwnnw. Nid yngwyneb nac yng ngwyneb" nac yn ngwyneb sy'n gywir, ond yn wyneb. GWELEDYDD Y GLYN." Dyma Alegori ynFfurf Nofel gan awdwr newydd i mi, Wilym Llewelyn, wedi 'i hargraffu'n dlws a da iawn gan Wasg newydd imi hefyd,—Cwmni'r Armonic, yn yr Wyddgrug. Cynhwysa ddeg ar hugain o benodau, a medr yr awdwr ysgrifennu'n gain a tliarawgar,—gwna hynny ar hyd y ffordd. Peth go ddy- munol wrth ddarllen awdwr newydd yw medru teimlo fel y teimlir wrth glywed pregethwr ieuanc dieithr,—" Wel, y mae yna rywbeth yn hwn." Felly yr ydys yn teimlo wrth ddarllen Gweled- ydd y Glyn," ac ni buaswn yn synnu nas gallai Wilym Llewelyn wneudgwell. gwaith hyd yn oed na hyn. Y mae 'i ddisgrifiadau o wahanol fathau ar gym- eriadau yn fyw ac yn effeithiol, a ched- wir y dyddordeb i fyny ar hyd y daith. Dymunaf longyfarch yr awdwr, a dis- gwyliaf am bethau mawr oddiwrtho. Y mae'r llyfr wedi 'i argraffu yn yr orgraff oreu, yn ol fy marn i, ac ar y cyfan y mae'n bur ddifrychau. Ond poenus yw gorfod darllen "ag" byth a hefyd yn lie ac,"—fel petai dyn yn gorfod darllen as o hyd mewn llyfr Saesneg yn lie and."
Advertising
EISTEDDFOD GERDDOROL WESLEYAID CERRIGYDRUIDION, hhw y Pasg, Mawrth 28, 191c. Beirniad Cerddorol: TOM PRICE, Ysw., Merthyr. Cystadleuaeth Corau Meibion (heb fod dan 25 mewn nifer), a ddadgano oreu, Comrades Song of Hope, gwobr £ 7 7s., a Chwpan Arian i'r Arweinydd buddugol, gwerth [2 2s. Her-Unawd (Challenge Solo) Send me your Aid" (Irene by Charles Gounod), £ 2 2s. Rhestr o'r Testynau I I c. Ysgrifenvddion :—R. E. Jones, Hafod- unos; a W. Smith, Manchester House, Cerrig y Druidion, nr. Corwen. EVERY BOX OF ENGLAND'S GLORY MATCHES USED Means MORE WORK for British Workpeople. Moreland, Gloucester.
DECHREU Y DIWYGIAD YN HOLBECK.
(Parhad o tudalsn 1). myned yn slum property, ac agos yr oil o'r addolwyr yn byw yn yr ys- trydoedd newyddion sydd ychydig bellder o'r lie. 0 fewn ychydig latheni i'r capel ceir oddeutu deg o dafarndai. a gellir gweled degau o famau, foreu a hwyr yn myned i mewn gyda'u jugs i'w llenwi a chwrw. Y mae yr aneddau yn waelion ac isel, a'r merched a'r plant yn y lanes a'r courts, a'r squares, yn garpiog ac afler. Heb- law y diota, y mae hapchwareu yn un o felldithion penaf y lie. Y Sadwrn o'r blaen safai bookmaker yn yr heol yn agos i'r capel a der- byniodd dros £ 70 mewn bets mewn llai na dwy awr o amser, a hyny o bocedau dynion a merched ieu- aingc oeddynt ar eu ffordd adref wedi derbyn eu cyflogau yn y felin a'r factory. Y mae agos yr oil o'r siopau yn ymyl y capel yn agored ar yr oil o Ddydd yr Arglwydd. Nid rhyfedd fod ein pobl wedi rhoddi ffordd i ddigalondid, a barn- ai amrai o leygwyr a gweinidogion amlwg y Dalaeth nad oedd dim i'w wneyd ond gwerthu yr holl ,Property, ac acleiladu capel newydd mewn lie mwy parchus. Y gorchwyl cyntaf oedd symud y digalondid, a chael y bobl i gredu mwy yn Nuw ncynddynt eu hunain. Os oeddym yn pregethu ffydd, a gwroldeb, a brwdfrydedd, ac an- turiaeth, a gwaith, rhaid oedd hefyd eu hymarfer. Ni chynydda yr eglwys sydd yn byw yn unig i amddiffyn ei hun. Rhaia myned allan o dir y gelyn i ymosod, i orchfygu, a meddianu. Angen- rhaid oedd argyhoeddi y bobl yn y gymydogaeth fod efengyl Crist i'r tlodion, fod arnom eisiau y tlodion, fod ar Iesu Grist eu hunain eu heis- iau ac fod yn rhaid iddo eu cael. Gwae fydd i ni os esgeuluswn y mwyaf anghenus Angenrhaid hefyd oedd cael yr holl eglwys i weddio, ac yna i weithio, i ganol- bwyntio(concentrate)eu holl egnion ar yrysprydol. Penderfynwyd peid- io gwneyd ymdrechion i godi arian trwy Nodachfa eithr yn hytrach rhoddi arian, a thrwy hyny aflrbed amser i dd'od i gyffyrddiad a'r bobl oeddynt y tuallan i'r gynull eidfa. Daeth yr aelodau i siarad ac i weddio am Ddi wygiad. Dyma ddaeth yn fyrdwn yr ymddiddan ion yn y Cyfarfodydd Eglwysig, hyd nes y daethant i gredu fod symudiad ysprydol wrth law. Yn y cyfamser cynyddai y gynulleidfa ar y Sabboth, cynyddai yr Ysgol Sul, y Band of Hope, Y Mothers' Meeting a phob organization arall perthynol i'r lie. Cynyddodd y cyfraniadau. Dyblwyd y cas- gliadau at y Genhadaeth Dramor treblwyd casgliadau Cylchwyl yr Ysgol Sul, a mwy na threblwyd casgliadau Gwyl y Cynhauaf. Yn hytrach na chael Nodachfa, add- awodd yr aelodau y swm o (74 extra at y Weinidogaeth. Wrth weled hyn meddyliem am yr add- ewid yn Malachi iii. 10. Yn niwreddMedi, ar ol anfon lly- thyr at bob teulu oedd mewn un- rhyw fodd yn gysylltiol a'r lie, dechreuodd eu hymdrech neilldu- 01 i gyraedd y bobl oeddynt y tu- allan i'r lie. Caed vvythnos o gyf- arfodydd gweddio. Yr oedd en- einiad dwyfol ar bob cyfarfod, calonau y bobl wedi meddalu, y mwyafrif o'r aelodau yn uno mewn deisynadau taer ac angerddol. Y cyntaf i droi i mewn oedd dyn meddw, hen ysgolor, a drowyd o'r Ysgol gyda dau arall 20 mlynedd yn ol. Efe oedd y cyntaf i gymer- yd yr ardystiad dirwestol ac i geisio yr lachaw* dwr. Efe oedd blaenffrwyth y dychweledigion oeddynt i ddilyn. Yn gynar yn yr ail wythnos daeth dau ddyn ieu- ainc, 24ain oed i'r gwasanaeth. Yr oedd un o honynt wedi bod yn y carchar 12, a'r llall 8 o weithiau. Adnabyddid hwy fel y ddau waeth- af yn Holbeck. Rhoddent fwy o drwbl i'r tafarnwvr, ac i'r heddlu na dim dau yn y lie. Yr oeddynt gyhyrog a chryf, a chymerent bleser mewn ymosod ar yr hedd geidwaid. Un diwrnod ymaflodd Un o honynt mewn constable, a thaflodd ef trwy ffenestr shop cig- Ydd oedd yn ymyl. Ymosodasant ar un arall, a gwnaethant iddo Cymaint niwaid fel y bu raid iddo gadw ei wely am wythnosau, Pan yn diota byddant fel gwall- Sofiaid. Syndod i amryw oedd eu gweled yn y capel. Ar ol y gwas- "laeth tra yn siarad yn hir a hwy YIl y heol, perswadwyd y ddau i oddi y ddiod i fyny. Aed i dy y aretaer ac yno arwyddasanr yr ardystlad. Wedi clywed eu bod i ï:rIlldclangos dranoeth yn y Llys eddgeidwadol am fod yn feddw ? atreolus, addawsom fyned gyda ?y 1 bledio gyda'r Ustusiaid ar eu rhan. Ceisiai y ddau amddiffyn eu hunain oreu y gallant, ond yr oedd eu hachos yn vvan ac an- obeithiol. Trwy garedigrwydd yr Ustusiaid cawsom ganiatad i ddweyd gair ar eu rhan. Canlyn- iad yr oil oedd gohiriad yr achos am dri mis er mwyn rhoddi cyf- leusdra iddynt i "ddwyn ffrwyth addas i edifeirwch." Addawsom edrych ar eu holau, a'u cynorth- wyo l gadw oddiwrth y ddiod. Wrth adael y llys, dywedai hedd geidwad wrthym, Nis gellwch wneuthur dim gyda hwy. Y maent y ddau waethaf yn Holbeck. Y mae eu cyfhvr yn anobeithiol." Atebasom fod yn amlwg fod y Ddeddf wedi gwneyd ei goreu erddynt ac wedi methu. Gadawer yn awr i'r Efengyl gael ymgeisio i'w diwygio. Ceisiwyd ei per- swadio i geisio yr Arglwydd, ond am rai dyddiau yn ofer. Yr oedd y ddau allan o waith, ac yn nghraf- angau y bookmaker, yr hwn oedd yn talu yn dda iddynt am fod yn touts iddo. O'r diwedd, ildiasant i'r gwirionedd, a symudwyd hwy o farwolaeth i fywyd, o feddiant Satan i deyrnas a gwasanaeth Iesu Grist. Ymledaenodd y newydd am eu troedigaeth, daeth medd- won eraill i'r gwasanaeth, a hwy- thau hefyd a deimlasant nerthoedd y byd a ddaw. Cymerodd degau o honynt yr ardystiad, a rhoddas- ant eu hunain i'r Arglwydd. "Yr ydwyf wedi dod i'r Capel meddai un dyn meddw, oblegid y cyf- newidiad yn mywyd y dyn acw," gan gyfeirio at gymydog oedd yn byw yn yr un Court ag ef, ac y mae arnaf eisiau cael yr un cyf- newidiad yn fy mywyd fy hun." Ar y nos Sadwrn cyntaf yn Hyd- ref aethom oil allan i'r ystrydoedd i wahodd y bobl i'r capel. Blaen- orid y procession gan Motor Car a fenthycwyd i ni gan gyfaill. Yn dilyn hwn cariwyd ein baner gan ddau o'r dychweledigion. Yna yn dilyn yr oedd brass band a dau boys' brigades, yna dychweledigion yn carlo torches a Chinese Lanterns, wedi hyny linell hir o'n haelodau, a brass baud arall yn dilyn yn ol. Wedi Cyfarfod Dirwestol yn y capel am 8 o'r gloch, oddeutu chwarter i unarddeg aethom allan drachefn er mwyn cael gafael yn y meddwon fel yr oeddynt yn gad- ael y tafarndai. Perswadiwyd ugeiniau i ddychwelyd gyda ni. Digrifol i rai o'n pobl oedd gweled eu gweinidog yn cerdded fraich yn mraich a dau ddyn meddw, un bob ochr iddo. Y mae y ddau erbyn hyn yn aelodau o'i Restr. Yr oedd yn agos i ganol nos, pan ddych- welwyd i'r capel. Nis anghofiwn byth y cyfarfod, a'r gwaith an- hawdd oedd cael eu sylw. Nis gwyddai amryw o honynt eu bod mewn Capel. Mynent dynu allan eu pibellau i ysmygu. Er fod rhai pethau gwir ddigrifol yn cael eu dweyd a'u gwneyd, golygfa dor- calonus ydoedd. Cyn un o'r gloch y boreu yr oedd amrai o honynt wedi dechreu sobri. Bu i dros 70 arwyddo yr ardystiad yn y cyfarfod cyntaf, a degau yn y cyfarfod ganol nos. Gwelwyd amrai yn plygu wrth groes Crist i gydnabod eu camweddau, ac i ddechreu byw bywyd newydd. Aethom adref oddeutu 2 o'r gloch y boreu yn nodedig o fiinedig, ac eto yn llawen oblegyd fod cymaint wedi profi. fod yr hen efengyl eto yn allu Duw er iachawdwriaeth. Yr ydym wedi gweled dychwel- iadau agos bob Sabboth er dechreu Hydref. Gwelir olion y diwygiad yn aneddau y bobl, ac yn niwyg y rhieni a'r plant. Y mae y tai yn lanach, a'r 1 euluoedd yn hapusach nag y buont er's llawer o amser. Llongyfarchwyd ni droion f gan yr heddgeidwaid, oblegyd y gwellhad yn ymddygiad y bobl yn yr heol- ydd wrth ymyl y Capel. Y mae pob organization mewn cysylltiad a'r achos yn dangos arwyddion adfywiad—y cynulliadau Sabboth- ol, yr Ysgol Sul, cyfarfodydd y dynion, cyfarfodydd y merched, y Rhestrau, y Band of Hope. yr Institute, &c., &c. Caraswn roddi manylion o hanes rhai o'r dychwel- edigion ond nid oes na hamdden na gofod i hyny. Dywedaf hyn cyn tewi fod mwyafrif y dychwel- edigion yn aros. Yn y cwrdd chwarter diweddaf yr oeddym yn reportio 160 o aelodau cyflawn, gyda 94 ar brawf heblaw dros 60 o rai ieuangc o 14 i 18 oed, Y mae amodau llwyddiant eglwysig yr un o hyd,—gadael i'r pethau cyntaf fod yn gyntaf,—ysprydolrwydd meddwl, |duwiolfrydedd calon, gweddigarwch, cariad brawdol, gweithgarwch, hyd nes y bydd pob aelod eglwysig yn dod yn ddwylaw i Iesu Grist i gario bendithion Ei gariad i'r cannoedd ydynt tuallan i'r eglwys heb obaith ac heb Dduw yn y byd. Pa agosaf y deuwn at angenion a dyoddefiadau y bobl, agosaf y deuwn at galon y Ceid- wad. Nid oeddwn yn bwriadu ysgrifenu cymaint. Boed i'r Gol- ygwyr dalfyru, a boed llwyddiant parhaol i'r "Gwyliedydd Newydd." I O.J.