Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

- - - -ODDIAR Y MUR.

TIPYN 0 BOPETH MEWN BYD AC…

News
Cite
Share

TIPYN 0 BOPETH MEWN BYD AC EGLWYS. Taro Diwygwyr a Chleddyfau.Cynhal- iodd Sosialwyr yr Almaen, rhai dyddiau yn ol, res o gyfarfodydd i brotestio yn erbyn ryw rith o fesi-ir etholladol a gynygid gan y llywodraeth. Hyd y gwelsom nid oedd un math ar gymhelri yn bod, eto galwyd y plismyn allan, ac a chleddyfau noeth ymosodasant ar y bobl. Diolch wedi'r oil mae yn Mhryden y trigwn. Gan nad beth a wedir yma, ni wedir i ni yr hawl o wyntyllo ein cwynion mewn eyfarfodydd cyhoedclus. Heb un math ar Sylfon.Peth pwysig ydyw sylfon ynte. Wel sut bynag, mewn llythyr anfonwyd ganddo at ohebydd, ryw ychydig ddyddiau yn ol, dywedai y Prif Arglwydd Llyngesol—Mr MacKenna—fod holl gyhuddiadau yr Arglwydd Charles Beresford yn berffaith ddisail. Mae'r Ar- glwydd Siarl wedi bod yn traethu pethau mawr ac irad ynghylch gwendid ac an- effeithiolrwydd ein Llynges. Bu Pwyllgor y Diffyniad Ymherodrol yn eistedd i chwilio yn fanwl i'r cwynion. a barnasant nad oedd gan y cyhuddwr yr un fodfedd 6 dir ar bu un i sefyll arno. Beth barodd i'r Arglwydd hwn fod morddiofal? Hwyrach mai eisiau enill ddydd y Pol yr oedd. Ffei arno! Boycotio yn Carnarfon.—Pan y sonir wrth y Toriaid eu bod er mwyn ennill yn ceisio dychryn a gorfodi pobl, chwarddant yn ein gwyneb a dywedant nad yw'r oil ond gwrachiaidd chwedlau. Cafwyd engraifft anwadadwy o hyn yn nhref Carnarfon ysgrifennasant at feistrad- oedd bachgen o ddilledydd, yn bygwth na phwrcasai y Toriaid ddim yn eu siop hwy tra y goddefant y dyn ieuanc crybwylledig yn rheolwr arni. Daeth gwraig i ficar cyfagos hefyd ato i'r siop, a dywedodd ei bod wedi gorchymyn i gryn hanner cant o'r bobl a fynychent gynulleidfa ei gwr, na phrynent ddimeu-werth mwy o'i faelfa. Mae'r Daily News yn barod i gyhoeddi yr enwau. Dyma dipyn o "68 ynte ? Dyweid Celwydd ar y Canghellydd.—Cy- huddodd rhai o Doriaid Bwrdeisdrefi Arfon y Cangl-iellydd, o droi ryw wraig weddw yn ysgaffala os nad yn anheg, oddiar ddarn o dir y brynasai. Cyhoeddwyd y camwri mewn cylch-llythyr y nos cyn yr etholiad, pryd nad ellid ei ateb, a chan un Capt. Drage. Ar ol y Lecshiwn mae William George wedi bod yn dragio y Drage trwy'r drain yn dost. Hunllef neu rywbeth gwaeth oedd yr ystori. Pan y prynodd y Canghellydd y faenol, prysurodd i sicrhau y weddw nad oedd angen am iddi i ymad- ael, a phan yr ymadawodd, ymadawodd o'i gwirfodd, ac ymddygodd y Canghellydd tuag ati, ebai hi, yn hael a bonheddig. Wrth gofio ei hamldra, mae yn od na bu- asai Mr Lloyd George wedi eu claddu o dan enwau drwg a chamdystiolaethau. Rhaid mai proffwyd yw. Nid gwawd i gyd ychwalth.-Os yw rhai yn cablu Lloyd George, mae yna Irai yn son am ei anrhydeddu. Mae y mudiad i godi tysteb iddo yn ymledu. Daw ryw- beth o hyn credwn. Beth a wneir ? Codi cerflun yn Llanystutndwy, gobeithio rhoi tair ysgoloraeth yn y tri Coleg Cenhed- laethol; a chychwyn trysorfa i helpu ym- geiswyr Seneddol tylodion gymharol, ond gwladgar; Haedda ef wneuthur ohonom hyn iddo. Twyth-rugl a gwaed.—O ddolur a gwaed y Congo bell onide Mewn Arddanghosfa Genhadol, dan nawdd y Bedyddwyr, yn y Free Trade Hall, Manceinion. dywedai y Parch. J. H. Harris, fod o leiaf ddeg a deu- gain y cant o'r holl gyllid a geir heddyw o'r Congo yn fudr elw—yn ffrwyth anrhaith, a chreulondeb. A'r afiwydd gwaeth fyth, ebai ef, ydyw gwerir yr arian a geir trwy drais, i helpu crefydd, addysg gwareidd- iad a dyngarwch. 0 Arglwydd! pa hyd y bydd tlodion y bvd Fel ychain yn lladdfa eu meistriaid ? A fydd Brenin newydd Belgium tybed yn well na'r adyn a'i blaenorodd? Nid camp iddo beth bynag. Deddf i godi yn fore.—Mae'r mesur i roi y cloc ymlaen awr yn y Gwanwyn, a'i droi awr yn ol drachefn yn yr Hydref, i'w ddwyn eto i sylw y Senedd y tro yma gan un o'r enw Sir E. Sasson. Dywedir fod deiseb yn ei ffafr wedi ei harwyddo gan gannoedd o brif bobl y wlad; aelodau Senneddol, Arglwydd Faerod, Rheolwyr Rheilffyrdd, a chyfarwyddwyr Banciau. Faint o,r teulu yma sydd heddyw yn myn,d at eu gwaith cyn i'r cloc daro deg tybed ? Gweinidogion Newydd.—Nid gethwrs newydd cofier, ond 'scrifenyddion newydd. Dyfalwyd llawer, ond o'r diwedd dyma y rhestr allan :-Canghellydd Duciaeth Lan- caster, Mr J. A. Pease Postfeistr, Mr Her- bert Samuel, A.S. Bwrdd Masnach, Mr Sydney Buxton, A.S. Ysgrifenydd Car- trefol, Mr Winston Churchill, A.S. Ysg- rifenydd Senneddol y Trysorlys, Meistr Elibank Is-ysgrifenydd yr India, yn wag. Pwy a benodir tybed i'r lie gwag ? Sut bynag, dyma'r efeilliaid democrataidd ynghyd yn y ddwy brif swydd. Da iawn. Cerddwr Enbyd.—Mae Lewis Jonathan. Jones, llythvr-gludydd, yn rhanbartk gwledig Caernarfon, yn ymneillduo i fyw ar ei bensiwn; a phwy teilyngach at ddydd o orffwys. Bu yn llythyr-gludydd arm ddwy-flynedd-a'r-bymtheg-a'r-hugain a. rhannodd mewn gwlad deneu ei phoblog- aeth, chwarter miliwn o lythyra-u. Cerdd- odd 180,000 o filltiroedd; digon i gwmpasu. y ddaear saith waith a haner. Rhaid ei fod wedi treulio llwytli trol o esgidiau.

Advertising

Advertising