Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

- - - -ODDIAR Y MUR.

TIPYN 0 BOPETH MEWN BYD AC…

Advertising

Advertising

Advertising
Cite
Share

LLANSILIN. CYFARFOD YSGOL.—Cynhaliwyd Cyfar- fod Ysgol llwyddianus yma dydd Sul, Chwefror 6ed, pan yn absenoldeb Mr. Henry Edwards, Oswestry, llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. David Jones, Tregeiriog. Yn y boreu, cafwyd adroddiadau gan Miss Ellen Ellis a dosbarth Mr. Alun Thomas. Anerchwydy cyfarfod hefyd gan Mr. Profit a Mr. George Jones, Oswestry, a fe holwyd y plant yn yr Hyfforddydd a'r Maes Llafur gan W. John Jones, Llanarmon ac Mr. Evan Richards, Oswestry. Yn ystod y cyf- arfod canwyd ton gan y plant yn fwyn iawn, a therfynwyd y cyfarfod gan Mr. George Jones. Yn y prydnawn cafwyd adroddiadau gan Mr. John Edward Evans, Miss Annie Ellis a dosbarth Mrs. Jones, ac fe gymerwyd rhan mewn canu ac adrodd mewn modd bywiog iawn gan y plant. Fe holwyd penod o'r Catecism duwinyddol y Parch T. Isfryn Hughes gan Mr. Profit, ac fe gafwyd anerchiadau buddiol iawn gan Mr. Evan Richards, Oswestry, a W. J. Ellis y Bryn. Yn yr hwyr holwyd yr Ysgol gan y llywydd ac fe gafwyd adroddiadau gan Miss Annie Coleman a dosbarth Mrs. Jones. Anerchwyd y cyfarfod hefyd gan y Parch J. Elias Davies. Dywedir mae dyma un o gyfarfodydd goreu gafwyd yma ac yn ddios fe ddangoswyd llawer o ymdrech a llafur gan yr ysgolheigion. TREGELE. Cynhaliwyd yn y Village Hall Cemaes, Cyfarfod Blynyddol Tregele. Daeth tyrfa fawr ynghyd. Llywyddwyd y cyfarfod gan y boneddwr haelionus, W. Hughes Jones, Ysw. C.S., Brvngwyn. Dechreuwyd trwy i'r Parch. a Mrs. Richards (B.), gyda'u disgyblion chwareu ar y crwth. Caed an- erchiad campus gan y Llywydd, a galwyd ar y Parch. J. E. Roberts. Tregele i*dradd- odi ei ddarlith, a chychwynodd ei daith. Y mae y Parch. J. E. Roberts yn meddu ar ddarluniau ardderchog, a phawb wrth fodd eu calon yn mwynhau'r golygfeydd, a chaed elw da at ddiddyledu'n Capel Newydd. Iss. SOAR, NEW BROUGHTON. Chwefror 7fed, eawsom ein breintio a darlith ar Cymru, ei Haddoldai a'i Har- wyr," gan Mr. S. C. Hughes, Brymbo. Eglurid y gwahanol ranau trwy gymorth y Llusern Gyfrin (Magic Lantern). Y cad- eirydd ydoedd, ei Anrhydedd 1. Stanford, Maer Wrecsam. Treuliwyd orig ddifyr. Cyflwrynwyd diolchgarwch mwyaf cynes i bawb, i'r cadeirydd, ac i'r darlithydd. Mae Mr. Hughes yn siaradwr difyr, a'r ddarlith yn rhagorol. UN 0 YMYL. PENNEBO. ADNEWYDDU CAPEL LLANRHAIADR.—Da genym hysbysu darllenwyr y GWYLIEDYDD NEWYDD, fod helaethiad yr addoldy uchod wedi ei orphen, ac fod Heating Apparatus a Lampau Newyddion ynddo. Edrycha fel Capel Newydd; mae yr hen dy wedi ei wneyd yn Classroom, ac yn ateb y di- ben i'r dim. Y symudiad nesaf fydd tuag at wneyd ty capel newydd. Sabboth Ion. v 9fed, bu Mr. W. O. Jones, Bangor, yma yn pregethu ar hyd y dydd, cawsom bre- gethau grymus a dylanwadol. Y nos Lun dilynol bu Mr. Jones yn traddodi ei ddar- lith boblogaidd ar y Ddynes Newydd," yn Addoldy Penybontfawr, (trwy garedig- rwydd yr Annibynwyr). Cadwodd ni yn cldifyr am yn agos i ddwy awr llywydd- wyd gan Mr S. Jones, Rhiwargoed, Llan- wddyn a chyfranwyd yn haelionus at yr achos. Gwnaed elw o £21 13s 5c. ar- dderchog ynte Dyma y tro cyntaf i Mr. Jones, fod yn ein gwasanaethu yma brys- ied yma eto yw dymuniad pawb fu yn ei wrando mi gredwn. CYNGOR SIR.Da genym ddeall fod pwyll- gor yr eglwysi rhyddion wedi dewis Mr G. Owen, Liverpool House, Penybontfawr, i sefyll fel Ymgeisydd ar y Cynghor Sirol. Mae Mr. Owen yn fiaenor ffyddlon gyda ni yn Pennebo, ac yn Rhyddfrydwr goleuedig, gweithiodd yn egniol yr wythnosau di- weddaf yma o blaid Mr. D. Davies, A.S. Pwy mwy cymwys nag ef i'n gwasanaethu ar y Cyngor ? NEBO. TREVOR. Nos Fawrth 8fed cyfisol, yn Nghapel y Wesleyaid Trevor, cynhaliwyd cyfarfod i gyflwyno anrheg i Miss Emma Edwards, Rhydydefaid, yr hon fu yn chwareu yr offeryn am un mlynedd a'r ddeg yn Nghapel Trevor, ond sydd yn awr wedi symud gyda'i mham, Mrs. Edwards, i fyw i Brynteg y Gaerwen, a mawr ydyw ein chwithdod ar ei hoi. Awd trwy y Rhag- len dan arweiniad deheuig a doeth Mr. J. H. Roberts, Post Office.. Cyflwynwyd yr anreg i Miss Edwards gan Miss Owen, Treiorwerth, sef,—Sweet Basket Sterling Silver, wedi tori arnl -Rhodd gan Gapel y Trefnyddion Wesleyaidd Trevor i Miss Emma Edwards, 1910. Cyflwynodd Miss Owen yr anreg gydag anerchiad bychan pert a phwrpasol, a diolchodd Miss Ed- wards mewn geiriau dwys ac wylaidd. Rhoddodd George Jones, Cae Gwyn, anerchiad ar yr achos yn y lie yn ei gys- ylitiad a theulu Rhydydefaid. Colled fawr sydd i ni yma ar ei hoi hi a Mrs. Ed- wards ei mham. Dymunem hapusrwydd lawer iddynt yn eu hardal newydd. Casglwyd gan y Plant yn Trevor at Gartrefi Plant Amddifad sydd dan ofal ein Cyfundeb trwy arolygiaeth Rev. Arthur E. Gregory, D.D. Casglodd Miss A. J Hughes, TreriffriSs, a Miss Maggie Hughes, Ty Canol 6s 2c, a'r plant bach eraill 10s, Cyfanswm Cl 4s 2c. Teg ydyw dywedyd fod Samuel Jones, Cae Gwyn, wedi llwyddo i fod yn gyd- radd ail yng Nghymru, am ateb y gofyn- iadau Ysgrythyrol o'r Winllan, am yr hanner blwyddyn diweddaf eto. GOH. MANCHESTER. CHURCH LANE. Cynhaliwyd Cyfarfod Te a Chyngherdd blynyddol mewn cys- ylltiad a'r eglwys uchod prydnawn Sad- wrn, Chwefror 5ed, yn Ysgoldy perthynol i'r Wesleyaid Saesoneg, Ashley Lane, Moston. Daeth cynulliad lied dda yn nghyd. Yn yr hwyr cynhaliwyd Cyngerdd rhagorol. Y cyfeillion gymerasant ran oeddynt Misses Kitty Thomas, Lizzie Davies, Mri. Llew Hughes, a Edwin Meek. Yr adroddwr Mr. J. C. Horsfield. Cyfeil- ydd Mr. Aneurin Roberts. Cyfarfod rhag- orol lawn. to Cymerwydd y gadair gan y Parch. G. R. Roberts, yn absenoldeb Mr. J. T. Ro- berts, oedd wedi addaw dod, ond trwy ryw anffawd methodd gvraedd, eto fe an- tctnodd rodd, diolch iddo am hyny. MARWOLAETH MR. RICHARD ROBERTS.— Dydd Sadwrn, Chwefror 12fed, bu farw Mr Richard Roberts, Pregethwr Cynorthwyol, ar Gylchdaith Gymreig Manchester. Brod- or o Llanelwy oedd y cyfaill Richard Roberts, bu yn byw am amser lied faith yn Bagillt, ac yn pregethu yn y Gylchdaith hono gyda chymeradwyaeth am lawer o flynyddoedd. Bu yn byw yn Manchester yma am amser hir, ac yn pregethu yn holl gapelau y Gylchdaith, ac mewn capelau Cymreig yn Lancashire yma gyda phob enwad. Yr oedd Mr. Roberts yn wr hoff iawn gan y bobl oreu. Bu iddo lawer o ufis and downs yn ei yrfa, ond daliodd yn ei ffyddlondeb i'r achos ar hyd yr amser. Byddai yn siriol bob amser, dioddefodd afiechyd blin yn ystod y misoedd diweddaf, ond bu farw yn dawel a'i bwys ar ei Geid- wad, dros 70 mlwydd oed. J. E. L. JERUSALEM, GWRECSAM. GALAR.-Mae meddygon Dyffryn Maelor yma yn dweyd na fu ers llawer o amser gymaint o afiechyd a marwolaethau ac sydd yn y dyddiau hyn. Mae ein cyd-ym- deimlad mwyaf di-ffuant heddyw gyda theulu un o flaenoriaid mwyaf ffyddlon eg- lwys Jerusalem, sef y brawd John Davies, yn eu tristwch mawr o golli priod a mam dyner a rhinweddol a fu farw dydd Mawrth, Chwef. 8fed ar ol cystudd poenus am ych- ydig o wythnosau. Yr oedd Mrs. Margaret Anne Davies yn aelod ffyddlon gada'r Wes- leyaid Saesoneg yn Brynffynon. Dodwyd ei gweddillion marwol i orphwys yn myn- went drefol Gwrecsam yng nghanol ar- wyddion o gyd-ymdeimlad lluaws o gyf- eillion. Duw fyddo yn nodded dros y teulu. ARDDANGOSFA.—Dyna enw rydd Undeb Ysgolion Sabbothol Eglwysi Rhyddion Gwrecsam ar rhyw fath o Eisteddfod lleol. Cynhelir yr Arddangosfa yn flynyddol o dan nawdd yr undeb uchod. Ac wythnos arbenig i'n heglwysi oedd yr wythnos di- weddaf, pryd y cynhaliwyd cyfres o gyfar- fodyddam clair noswaith. Mae y cystadleu- aethau yn sier o fod o les mawr i'n plant a'n pobl ieuanc, mewn celf, ysgrifenu, pobi, gwnio, cerddoriaeth, darllen, adrodd, bar- ddoniaeth, traethodau &c. Caed cynhull- iadau "lluosog, a gwnaeth pob eglwys,—yn Gymraeg ac yn Saesoneg,—eu rhan gyda brwdfrydedd mawr. Peth nesaf i gynhyrfu'r dref ydyw yr Eisteddfod gadeiriol y Grog- lith, yr hon mae ein cyfeillion Wesleyaid Victoria Road yn ei godi. George Borrow," oedd testyn papur ar- dderchog gafodd y Gymdeithas nos Lun, Chwef. ]4eg., gan Mr. John Williams, B.A., County School, Cawsom noswaith ddifyr ac adeiladol dros ben. GOH. CAERAU, MAESTEG. DADL.—Yn y Gymdeithas Ddiwylliadol (W.), y noson ddiweddaf, cafwyd dadl- "Ai Gwella ai Gwaethygu mae'r Byd." Agorwyd o bobtu gan Mri. David Jones (Tanygrisia.u), a David Jones, pregethwr. Yn dilyn, siaradwyd gan nifer o'r aelodau, yn hyn cafwyd amrywiaeth barn. Rhai yn edrych ar yr ochr oleu i'r cwestiwn ac yn bybyr dros mae gwella mae'r byd eraill dan y cwmwl yn frwd mae gwaethygu y mae. Pan ymranwyd yr oedd y mwyafrif dros mae gwella y mae y blaned hon. Y Parch D. M. Griffith.—Rhywun yn gofyn ai gwir fod y gwr uchod yn bregeth- wr mor dda ac y dywedir ei fod. Rhodd- wyd yr atebiad pendant engljmol can lynol:— Angel was yr Efengyl v-,v,Griffith Graffus;-oracl ydyw, Can edmygedd Salm heddyw, Ei goeth farn a'i bregeth fyw. Gwaeledd.—Drwg genym fod amryw o'r Betheliaid yn ngefynau tost afiechyd y dyddiau hyu. Eiddunwn i'r oil adferiad llwyr a buan. W. J. RHOSLLANERCHRUGOG. CYNGHERDD Y GOBEITHLU.—Daeth cyn- ulliad rhagorol i gyngherdd blynyddol y Gobeithlu nos Fercher diweddaf a chaw- sant wledd o'r fath oreu. Llywyddwyd gan y Parch. William Price, Rhos. Aed trwy raglen faith, yn cynwys caneuon, ad- roddiadau, &c., gan y plant, a chafwyd gwasanaeth gwerthfawr gan rai mewn oed yn ogystal o hawdd fwynhad ganu cor y plant y rhai fu dan ddisgyblaeth fedrus Mrs, Wm. Price, ynghyda adroddiad gaf- wyd ganddynt. Achoswyd gryn hwyl gyda Dadl y Merched o waith y Parch. T. N. Roberts, yr hon ymddanghosodd yn y Winllan ddeufis yn ol. Cynrychiolid y gwahanol gymeriadau gan Mrs. David Jones, Mrs. Johnson, Miss Price, a Miss Hannah Jones Davies, a gwnaethant eu rhan yn ganmoladwy. Talu ar law" oedd testyn dadl arall cydrhwng Miss Hannah J. Davies a Mr. E. Owen Davies. Canwyd hefyd yn ystod y cyfarfod gan Miss Elizabeth Williams a Misses Ethel a Ceridwen Parry. Yr oedd y Parch. T. N. Roberts yn bresenol, a chafwyd ychydig eiriau pwrpasol ganddo i galonogi y plant, ac i'w llongyfarch ar eu gwaith yn canu ac yn adrodd mor effeithiol. Cyfeiliwyd gan Mr. Ben Jones. GOIl. LLANGOLLEN. CYMDEITHAS LENYDDOL.—Chwefror 9fed cafwyd dadl frwd a buddiol yn y Gym- deithas Lenyddol, ar destyn pur eang a phwysig, sef, A ydyw dylanwad cyffred- inol y Wasg yn fanteisiol i Foes a Chref- ydd ?" A chafwyd dau hynod o gymwys mewn gallu a pharodrwydd i'r amgylch- iad yn mhersonau Meistri E. Foulkes yr ochr Gadarnhaol, ac E. R. Parry y Nacaol. Nid oedd angen arnynt hwy am ffyn baglau o bapurau, ond annerch yn syth a ohadarn pob un yn ei feddwl ei hun, nes tybied eu bod wedi ennill pen a llaw pawb o'i plaid. Cymerwyd rhan gan Mri. P. Lloyd Humphreys, R. Edwards, D. S. Jones ac E. D. Jones, gydag ychydig syl- wadau ymhellach ar y naill ochr neu'r Hall. 0 blaid y Cadarnhaol 6, Nacaol 7 felly gwelwch Mr. Gol. fod angen diwygio y Wasg fel llawer peth arall ynybyd hwn. Drwg iawn genym orfod cofnodi am farwolaeth Mr. Evan Jones, Chapel St. Square, yn yr oedran cydmarol gynar o 53. Yn yr Ysbytty Lleol y bu farw, ganol nos Sadwrn diweddaf, Chwef. 12fed. Diodd- efodd yn bur drwm, ond tawel iawn er hynny am rai wythnosau. Gadawodd weddw ac amryw feibion a merched i al- aru eu colled. Yr oedd yn un o'r athrawon goreu fu mewn Ysgol Sul. Er na chym- erai ran gyhoeddus, yr oedd ei fywyd tawel, gwastad yn dylanwadu er da ar bawb o'i gwmpas. Claddwyd ef Chwef. 15fed, yn mynwent4 y Ddol. Tystiai y nifer Iluosog o gyfeillion ddaeth yno, trwy y tywydd garw, mor uchel oedd yn eu syniadau. Ychydig wythnosau yn ol collwyd bach- gen bach Mr a Mrs Edward Evans, West Street, yn sydyn iawn, yntau ond tua 6 oed. Dydd Mercher diweddaf, priodwyd un o ferched ieuanc hawddgar a ffvddlon Seion, sef, Miss Emily Morris, Glanafon, Abbey Road, a'r Parch. Jones Parry, Gweinidog Annibynol. Dymunwn o'n calon rwydd- ineb a heulwen ar hyd eu bywyd i fod o les i'w gilydd. i gymdeithas ac er gogoniant Duw. R. E. CARNO. Yr Etholiadau Agoshaol.—Nos lau, Chwefror 10, Cyfarfu y pwyllgor Rhydd- frydol ynghyd yn yr Hen Ysgoldy, i barotoi gogyfer ag etholiad y Cynghor Sirol, a'r Cynghor Dosbarth, pa rai a gymer le yn ystod mis Mawrth nesaf. Llywydd y pwyllgor ydyw Mr. Francis Jerman. Rhoddodd Mr. Ll. D. Humphreys, ein haelod presenol gyfrif manwl o'i oruchwyl- iaeth am y flwyddyn y bu yn y gwasanaeth. Yn ystod y tymhor byr y bu Mr. Humph- reys yn ein cynrychioli ar y Cynghor Sirol y mae wedi bod yn hynod o ffyddlon, ac wedi rhoddi boddlonrwydd cyffredinol i'r blaid a'i hanfonodd yno, a disgwyliwn ragor oddiwrtho eto yn y dyfodol, canys nid yw efe eto ond newyddian yn y gwaith. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch iddo am ei wasanaeth yn y gorphenol, a dewis- wyd ef yn unfrydol fel ymgeisydd am y sedd y tymhor nesaf eto. Penodwyd dir- prwyaeth i ymgynghori gyda y rhan arall o'r etholaeth, sef Llanllugan a Llanwydd- elan, ac os byddant hwy yn cydolygu a'r hyn a basiwyd yma, Mr Humphreys fydd yr ymgeisydd Rhyddfrydol dros y rhan- barth hwn. Hyderwn y gellir osgoi brwydr etholiadol y tro yma. We dont want to fight," ond os bydd raid, Fire away," chwedl Wil Bryan. Dylai fod yn y tri phlwyf Ymneillduol hyn ddigon o Rydd- frydwyr i roddi ergyd marwol i Doriaeth. Eto i gyd, deg i un nad allan o'r gwersyll Ymneillduol y daw yr ymgeisydd Tori- aidd, os daw un o gwbl, a rhyfedd fydd os paid a bod yn flaenor Er cywilydd i Ymneillduaeth yr wyf yn dywedyd hyn. Mr. D. Hamer, Tymawr, sydd wedi ei ddewis yn ymgeisydd am y sedd ar y Cynghor Dosbarth. Y tebygolrwydd yw na ddaw neb allan i'w wrthsefyll. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MR. THOMAS ROBERTS, GARN, (gynt o'r Plasau). Bu farw Chwef. 9, yn 72 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent y plwyf, y Sadwrn canlynol. Nodweddid ef gan garedigrwydd a chymwynasgarwch. Yr oedd yn gymydog o'r fath mwyaf dymunol ac yn ymbleseru mewn gwneud cymwyn- asau. Gadawodd wagle ar ei ol mewn byd ac eglwys. Y GYMDEITHAS LENYDDOL.—A ydyw Soc- ialaeth yn unol a dysgeidiaeth Crist ? yd- oedd testyn dadl Nos Wener, Chwef. 11, yn nghyfarfod y Gymdeithas uchod. Cymer- wyd rhan yn y ddadl gan y rhai canlynol,— Mr. Tom Mathews, R. A. Ford, R. W. Dav- ies, D. T. Richards, John Morgan, John Jones a John Williams. Cafwyd ymdraf- odaeth ddifyr iawn ar y testyn amserol a dyddorol hwn, ond trodd y fantol yn y diwedd yn erbyn Socialiaeth. Llywydd- wyd yn foddhaol gan Mr. E Jones, Castell, a chanwyd yn ystod y cyfarfod gan Mrs. Williams a Miss Ella Evans. M. M.