Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

M!W ? ?  LIVERPOOL. SHAFTESBURY HOTEL. Mount Pleasant. Four Minutes' Walk from Lime Street and Central Stations. Cars from Landing Stage stop at the door. A High Class Temperance Hotel. Moderate Charges. Welsh spoken. Arran Monumental Works, DOLGELLEY. BRANCH AT TRAWSFYNYDD. J. & R. W. THOMAS, MONUMENTAL MASONS. ALL MARBLE WORK UNDERTAKEN, including Memorials in Granite and Marble. Cof-Seiri Marmor a Cfteryg Beddau o'r gwaith goreu. Estimates Free. Distance no object. Anfonwch am y Prisiau. Why buy trashy Foreign made Watches, when you can obtain Reliable British Made Watches fully Guaranteed, in Gilt, Oxydized, Nickel, Silver, or Gold Filled Cases from G. E. OWEN, Watchmaker, Barmouth, at 5s., [I Is., [117s. 6d., and [2 2s. each in Gent's size, and [I 5s., [I 9s. 6d. and £2 2s. each in Ladies' size. On receipt of Postal Order any of the above will be sent at sender's risk and cost. Money refunded if the Watch is not ap- proved of DYMUNA Mr. J. E. Morris, Arweinydd Hen Gor Meibion enwog Llangollen, yr hwn fu yn fuddugol yn rhai o brif Eisteddfodau y Gogledd, hys- bvsu ei fod yn barod i wasan- aethu fel Arweinydd Cyman- faoedd ac fel Beirniad Cerdd- orol. Cyfeirlad:- Central, Oak Street, Llangollen. Mr. T. CARRINGTON (PENCERDD GWYNFRYN), Organydd "Rehoboth," Coedpoeth. BEIRNIAD, CYFEILYDD, &C. Ail Argraffiad o'r Gan boblogaidd, Cymru." Y geiriau gan Mr.. T. Herbert Hughes, Llanrwst. Unrhyw lais. Drwy'r post, 7c. Anthem Goffa Canrhawdfardd, Gwyn ei fyd y gwr." Dewiswyd i Gymanfaoedd Lerpwl, Manchester, &c. am 1910. Can Ddirwestol hwyliog. Gs. y cant. Cyfeirier: Coedpoeth, Wrexham. Arweinydd a Beirniad Cerddorol. DYMUNA Mr. ROBERT GRIFFITH, Vulcan Villa, Abermaw, Wneyd yn hysbys ei fod yn agored i dderbyn ymrwym- iadau fel Arweinydd Cyman- faoedd a Beirniad Cerddorol. TELERAU RHESYMOL. YMOFYNER I'R CYFEIRIAD UCHOD. TELYNOR MAWDDWY. DYMUNA Mr. DAVID ROBERTS (TELYNOR MAWDDWY), Morben Villa, Abermaw, HYSBYSU ei fod am brisiau rhesymol JL1 yn barod i Ddysgu Pupils ar y Delyn Gymreig fy deires neu'r bedolawg), ac hefyd eu dysgu i Ganu Penillion. At hyny y mae yn barod i Ganu Pen- illion a Chwareu'r Delyn mewn Cyng- herddau a'r cyffelyb, ynghyd a Beirniadu mewn Cyfarfodydd Cystadleuol. "John Penri," Y Merthyr Cymreig, Pw gyhoeddi yn fuan. LLYFR SWLLT AR HANES JOHN PENRI, GAN D. Gwynfryn Jones, ABERMAW. Bydd y Llyfr yn cynwys rhai ffeithiau newyddion. Archebion ac Enwau Tanys- grifwyr i'w danfon i'r Awdwr. GWOBRWYON. Trwy garedigrwydd dau frawd sy'n dymuno llwyddiant y GWYL- IEDYDD NEWYDD rhoddir 1. Tair gwobr 105 Oc 5s Oc, 2s 6c; i'r GOHEBWYR anfonant y nifer mwyaf o newyddion lleol (cryno a dyddorol) ar Postcards yn ystod y chwarter presenol. II. Tair Gwobr lOs Oc 5s Oc; 2s 6c; i'r DOSBARTHWYR sicrhant y nifer mwyaf o dderbynwyr yn ol rhif yr eglwys yn y lie, i'r GWYL- IEDYDD NEWYDD vn ystod y chwar- ter. CYSTADLEUAETH POST CAE 1)8. Rhaid iddynt fod mewn Haw bore lau. AT Y CYSTADLEUWYR, Cedwir cyfrif manwl a gofalus o'r Post Cards. Ni bydd dim mwy dyddorol na'ch cyfroddion byr a chryno chwi. I'r golofn hon y try pawb am y cyntaf yn fuan. Gwa- hoddwn y bechgyn a'r genethod i dreio eu llaw ar Post Cards i'r Gwyliedydd New- ydd." Ysgrifener ar un wyneb, ac un yr wythnos a gyfrifir yn y gystadleuaeth. GOL. RHIW, CHWEF. 13. Cawsom ein breintio y Sabboth ar gly- wed Mr. W. H. Evans, o ysgol Clynnog yn pregethu. Yr ydym yn deall ei fod yn ym- geisydd am y weinidogaeth. Yr ydyrn yn gobeithio pob llwvddiant iddo yma. A.B.C. YMDRECHFA'AREDIG RHESYCAE. Yn yr Ymdrechfa uchod daeth amryw o'r gwobrwyon am gau a chloddio i Bod- fari. Y wobr gyntaf yn y class cyntaf, i John Hugh Evans, Waenr'odyn, Bodfari ar 4ydd wobr i William Jones, Tydraw, Bodfari, ar 5ed i Hugh Jones, Penymynydd, Bodfari a'r 1st Prize yn y class y rhai ieuanc, i J. Price, Penucha, Aberwheler, Bodfari; a'r cyntaf am ffos clawdd i J. H. Evans, a'r cyntaf am y wisg mwyaf cyf- addas i gau a chloddio i J. H. Evans. Wel done Boys. W. R. Anfonaf yn nghylch Flying Machine y tro nesaf os cymeradwy.—W. R. SOUTHSEA, GER GWRECSAM. Ardal fechan fywiog ydyw yr uchod, ychydig dros ddwy filldir o'r dref uchod. Mae ynddi bedwar o gapelydd o wahanol enwadau, ag Eglwys. Amgylchynir yr ardal a gweithfeydd glo, ynghydag amryw ereill; yn un o'r gweithfeydd glo, a elwir Ba Plas Power," cyfarfyddodd dyn o'r enw David Davies, Tan y Fron, a damwain fu yn angeuol iddo. Digwyddodd hyn dydd Mercher diwedclaf. Y dydd Sadwrn canlynol cynhaliwyd trengholiad ar ei gorph gan Mr. Kendrich (Crwner), a nifer o reithwyr, arweinydd y rhai hyn oedd y Parch William Owen. Pasiwyd rheithfarn o Farwolaeth Ddamweiniol. Gadawodd briod a phlant i alaru ar ei ol. Yr oedd yn rhinweddol, duwiol, a da. YSTALYFERA. Dydd Sabboth, a nos Lun, Chwef. 13 a'r 14eg, y cynhaliwyd ein Cyfarfod.Pregethu, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. D. Corris Davies, a Ben Davies, Panteg, (A.). Cafwyd cyfarfodydd rhagorol—eneiniad y nef yn amlwg arnynt oil. Er ini gael ein siomi gan ddau bregethwr ni chawsom ein siomi gan y Meistr. Daeth Mr Davies, un o brif bregethwyr yr enwad Annibynol i'n cynorthwyo yn ein cyfyngder; a gwnaeth ei waith yn rhagorol. Teimlem o nos Sadwrn hyd nos Lun, fod yr Arglwydd o'n tu ac yn bendithio ein hymdrechion. Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd nac ymddiried mewn dyn." Dyna ydoedd ein profiad. Gwnaeth yr eglwys ei rhan fel ar- fer yn deilwng. Cafwyd casgliadau da. Diolchwn i eglwys y Wern (A.)., am fen- thyg eu capel i gynal yr oedfa nawn Sul. Parhaed Brawdgarwch ? GOH. TRINITY ROAD, BOOTLE. AGOR YSGOLDY NEWYDD.—Agorwyd ein hysgoldy newydd hardd yn y lie hwn yr wythnos ddiweddaf. Pregethwyd nos Sadwrn, Chwefror 12fed, gan y Parch W. O. Evans, a'r Sabboth gan y Parch. T. Roger Jones, B.A., a Mr. W. O. Jones, Bangor. Dydd Llun, daeth nifer luosog i gyfranogi o'r Te, ac yn yr hwyr gorlan- wyd yr adeiladjnewydd gan dyrfa ddaeth yno i wrando ar y gwr hyawdl o Fangor yn traddodi ei ddarlith boblogaidd ar "YTafod." Ni chafodd "W. 0." erioed amser gwell. Cymerwyd y Gadair gan Mr. Job Jones, yr hwn a gyfranodd yn hael at y symudiad, ac sydd wedi cymeryd rhan amlwg ynglyn a chodi'r ysgoldy. Cyf- ranodd a gweithiodd pawb yn rhagorol, ond bydd raid wrth ddyfal barhad i ddwyn yr ymgymeriad i gyrhaedd yr echwyn a'r rhodd addewir gan Drysorfa'r Capeli. Mae'r gost yn ymyl [800. Y gwaith nesaf fydd adgyweirio'r capel. ADSAIN. REHOBOTH, COEDPOETH. Goddefwch i ni eich Uongyfarch Mri Golygwyr, ar lwyddiant diamheuol y GWYLIEDYDD NEWYDD. Bydd yn dda gan ein plant sydd ar wasgar ddeall fod yr achos yn Rehoboth anwyl ag enwog yn gwisgo gwedd lewyrchus. Mae ein hadd- oldy yn awr yr harddaf ar goraf yn y fro— a'r moddion er yn dawel a digyffro, yn llawn o naw's ysprydol. Deil y Gymdeithas Lenyddol yn hwyliog it phoblogaidd o dan ofal y Parch. Elfyn Humphreys, a Mr. C. Jones. (Llywyddion), a Mri Tom Carrington, a J. W. Thomas, (Ysgrifenyddion). a Da genym allu hysbysu fod ein hanwyl Arolygwr, y Parch. T. Jones Humphreys, yn graddol adfer ei nerth ar ol misoedd o gystudd. Bydded i Dduw ei adfer yn fuan ydyw gweddi yr eglwys. Mae ei fab a'i gynorthwywr y Parch Elfyn Humphreys, yn areithgar a phoblogaidd yn ein.plith. Cawsom Social Tea yn ddiweddar, trodd allan yn llwyddiant perfaith a chaed elw da. Bylchwyd ni yn ddirfawr yn ystod y misoedd diweddaf trwy ymadawiad amryw frodyr ffyddlon yr wythnos ddiweddaf oil. Ymadawodd y blaenor gofalus, a'r pre- gethwr llwyddianus Richard Bellis am America. Bendith Duw fyddo yn eiddo iddo. MAELOR. TOWYN. Rhoddwyd te yn ysgoldy y Capel Seisnig prydnawn Mercher, Chwefror 9ed, 1910, gan Mrs. Jones, Eirianfa, a Mrs. Morgans, Lleas- ty, i ddathlu yr ymdrech wleidyddol ym mhlith y chwiorydd. Ar ol mwynhau o'r danteithion, cafwyd areithiau gan y Parch. R. R. Williams, Mr. Pryce Williams, a Mr. Haydn Jones, A.S. Hyfrydwch genym weled y Parch. Robert Jones, Gwynfa, yn dechreu codi allan eto ar ol bod yn wael. Y mae bwlch mawr yn yr eglwys pan y bydd yn absenol, da gen- ym ei weled eto yn ei le. Y mae chwiorydd Ebenezer yn brysur y dyddiau yma yn paratoi ar gyfer y Social a gynhelir Mawrth 9ed yn ysgoldy y Capel. Hyderaf y ceir elw sylweddol o'r ymgyrch. Ruth. YSTUMTUEN. MARWOLAETHAU.—Dydd Sadwrn, cladd- wyd, yn Horeb, Cwmbrwyno, Mrs. Wil- liams, Cefnbangor, yn 73 oedran. Gweddw y diweddar William Williams, Penybanc, fel yr adnabyddid ef oreu. Bu y ddau yri aelodau ffyddlon yn Horeb am flynyddoedd, ac yr oedd Mr. Williams yn flaenor anwyl iawn. Aeth ef oddiwrth ei waith i or- phwyso bum' neu chwe' mlynedd yn ol os wyf yn cofio yn iawn. Yr wythnos ddi- weddaf cymerwyd hithau ymaith yn bur ddisymwyth. Daeth torf yn nghyd i'w chladdedigaeth, yn enwedig i'r capel. Gweinyddwyd wrth y ty ac yn y capel gan y Parch. E. D. Thomas, ac ar lan y bedd gan Mr. Jones, Ponterwyd. Y dydd Mawrth canlynol, rhoddwyd yn y bedd yn Mynydd Bach, weddillion yr hen fam gar- edig o Dolgroes, ger Ffair-rhos. Gweddw y doniol Thomas Hughes (Erwtoman gynt). Yr oedd hi yn 84 oed.' Hi oedd yr hynaf o blant Dolwen, Ysbytty Cynfyn, fuyn cer- dedd i gapel Ystumtuen, dros bont bren yr Offeiriad, a thros dau fynydd uchel a noeth, 65 i 75 o flynyddoedd yn ol. Mae pobl yn cwyno yn awr ei bod yn bell o Llywernog a Ponterwyd. Mor wahanol i'r dyddiau gynt. Yr oedd Mrs. Hughes yn aelod fiyddlon yn PontrhydyGroes, ond yn methu mynychu'r moddion er's amser maith o achos henaint a phellder ffordd. Cymerwyd rhan yn yr angladd gan y Parchn. Thomas A. Williams, a T. Mason Jones (M.C.) Nid oes yn aros ond un o blant Dolwen erbyn heddyw, sef yr ieueng- af, Mr John Davies, Dolgamfa. Clywais i.ddo gerdded i Mynydd Bach i dalu y gym- wynas olaf i'w unig chwaer. Mae'n para yn ffyddlon i'r Ysgol Sul a'r moddion eraill. Caffed oes hir fel ei chwaer. Mae Cefn Bangor yn ymyl Penllwyn, ond ar ben y Mynydd, ac mewn ystyr yn mhell- ach o Ystumtuen na Penllwyn. Mae Dolgroes 15 i lü milldir i gyfeiriad y De o Cefn Bangor. Nid un gul yw'r gylchdaith, cofier. Y mae o 7 i 9 milldir o led, a'r aelodau yn wasgaredig yn mhob cyfeiriad. Nid peth hawdd yw ymweled a phob un unwaith yn y chwarter, ac nid yw yn rhyfedd fod ein cynulliadau ambell waith yn deneu, yn enwedig ar dywydd garw a gwlyb. Eto rhaid cyfaddef nad oes ffydd- londeb yn awr tebyg i'r hyn ddangoswyd yn nyddiau mebyd y ddwy chwaer anwyl y cofnodir eu hanes uchocl. Credwn hefyd fod ffyddlondeb y rhai pell yn llawer gwell na'r rhai agos at v capel. Gadawodd Mrs. Williams bedwar o blant i alaru ar ei hoi, a Mrs. Hughes naw o'r deuddeg a gafodd. Bydded nodded Duw y rhieni dros y tri- ar-ddeg, a'r llu wyrion. Nid oes amheu- aeth ar feddwl neb na chyrhaeddocld y ddwy chwaer yr Hafan ddymunol, lie cawsant groesaw y Brawd Hynaf, a'u cyd- fforddolion oedd yno bron i gyd o'u blaen. Caffed y plant ras i ganlyn yr lesu hyd y cliwedd, ac i lanw y lleoedd gweigion yn eglwys fach Horeb, ac yn eglwys Pont rhyd y Groes, sydd hefyd yn llawer rhy fach a gwan i ateb i'r capel hardd sydd yno. Duw yn unig all wneyd y golled i fyny yn y cartrefi, ac yn yr eglwysi. Arhosed yn ein plith, ac arddeled ei waith, medd MYNYDDWR. DYWEDIOK 0 ARDUDWY. Nawn Mawrth anrhegwyd holl blant Ysgol y Cynghor Dyffryn, ag arlwy flasus o de, cacenau, teisenau ac eur-afalau gan Mr George Davies, Plas mawr, Harlech. Yn yr hwyr rhanodd efa'i briod wobrwyon i'r rhai goreu am ddilyn yr ysgol yn ystod y flwyddyn. Rhoddodd wledd gyffelyb o'r blaen i blant ysgolion Harlech, Llanfair, a Llanbedr. Gwnaeth hefyd wasanaeth mawr dros Mr. Haydn Jones, yn yr ethol- iad a basiodd. Gwr rhadlon ac haelionus yw. Caed hwyl a doniolwch yn Nghym- deithas Lenyddol Undebol Ardudwy nos Wener. Parch Hywel Edwards, (A.)., yn llywydd, ac Ellis Jones Williams, Llwyn- cadwgan yn arwain. Prif ennillwyr :— Penill i Lloyd George," Richard Jones, ieu., Penybryn Englyn, Danedd Gosod," Tommy L. Evans, Llaneuddwyn, ac Ithel Lewis, Brynteg, yn gyfartal. Limerick, Miss Jones, Carleg uchaf. Adrodd, J. D. Jones, Brynbach, a Johnny Richards, Pant- isaf. Llythyr at gyfaill, Maggie E. Jones, Penybryn. Mr W. W. Davies, London House, fydd yn arwain y mis nesaf. Dyma englyn Ithel Lewis i'r Danedd Gosod:"— lawn gysur yw daint gosod-i ddynLon Di-ddanedd a genod I fun bert mor fwyn eu bod At ufudd alwad tafod. Nid oes ar lanau Meirion eglwys fechan mor gynes, brawdol a chariad-lawn a Bezer. Dyma ei hanes erioed a pharha fellyeto. T'yn yr holl aelodau bawb atynt trwy eu haddfwynder ysbryd, eu gwres,, a'u cariad, Ysywaeth nid dynahanes pob eglwys. Ceir ami i un mor oer ac anfrawd- ol nes rynu ac edwino pob daioni a rhin- wedd allant fod yn llechu yn natur dyn. Llaw cariad, nid cenfigen, eiddigedd a gwenwyn all ddod o hyd i'r wythien oreu sydd gladdedig yn nghymeriadau dynion Gwyn fyd yr eglwys all garu pawb. Bu i'r brawd du" chwareu'r andros gyda fy nhipyn pytion diweddaf, ond ni fynwn er duwdau yr awen ei dynu am fy mhen, ac yntau yn raddedig yn meddu y teitl o D-l. Cafwyd Social neu ymgomwest hwyliog yn Ysgoldy Genhedlaethol Dyffryn, nos Fawrth. Rheithor gwladgar Llaneudd- wyn wrth y llyw. Te, teisen a ton,—cacen, cusan a can bob yn ail. Adrodd, 'sgwrsio a chwareu, games doniol a posses difyr. Teirawr o adloniant diniwaid. Yn siwr ddigon cafodd pwyllgor y Golff elw da. Gwr fedr drefnu cyrddau difyr a lion yw y Parch. D. B. Lewis. Y BRAWD CWARTUS. CROESOSWALLT. Parha y Gymdeithas Lenyddol i ddal ei thir, ac nos Lun, Chwefror 7fed, treuliwyd amser difyr gyda y lecsiwn flynyddol. Cyn- haliwyd cyfarfodydd hwyliog gan ymgeis- wyr,—Mr. D. Davies, (R.); Mr. John Jones, (Soc.), a Mr. Watkin Watkins, (C.). Nid yw yr aelodau yn hidio llawer am y Lords a'r Tariff Reform," ond yn hytrach dewis- ient y Rhyddfrydwr gyda majority syl- weddol. Cafodd y Tori fwy o votes na'r Socialist! BODFARI. Clywais fod Bodfari ar ol erbyn y Cyfar- fod Ysgol. Da chwi treiwch baratoi, bvdd- em arfer a chael Cyfarfod Ysgol o'r fath oreu yn Bodfari, a'r canu yn fendithiol. Byddai Tonau Sankey yn foddion gras mewn gwirionedd yno. Atti eto frodyr bach. R. J. LLANEGRYN. Da oedd genym fel ardalwyr glywed am lwyddiant neillduol ein cantorion mewn Cyfarfod Cystadleuol a gynhaliwyd yn Bryn-y-Grug, nos Wener, Chwefror lleg, pryd y cipiwyd y wobr am yr unawd Sop- rano gan Lizzie Pugh yr unawd Tenor gan T. Humphreys; yr unawd Baritone gan T. Davies Pedwarawd gan G. Roberts a'i Barti; Wythawd gan G. Davies, Fron- newydd a'i Barti. Wel done," yr Egryn- iad, does eich tebig o fewn Dyffryn Dyssyn- au nag o Afon Fawddach hyd Afon Delyfi. Deallaf fod Cor Undebol yr ardal yma dan arweiniad Owen Jones, Bryn-gwyn, wedi dechreu ar y Messiah, gogyfer a chanu Harlech. Tybed mewn gwirionedd fod sef- ydliad o'r natur yma yn werth ei gefnogi, onid oes genym ein Cymanfaoedd Canu fel gwahanol Enwadau Crefyddol, onid ein dyledswydd fel cantorion yw gwneyd ein goreu i wella y rhai hyn, pa rai sydd wedi profi eu hunain o fawr fantais i ganiadaeth y Cysegr, na rhoddi ein cefnogaeth i achos nad oes angen yn y byd iddo. Bu y Parch. J. Smith ein parchus weinid- og yma yn ddiweddar yn ail-drefnu ein Swydclogion fel WTesleyaid am y flwyddyn ddyfodol. Penodwyd un brawd ieuanc o'r newydd, sef J. R. Williams, Glanywern, un o'r dynion ieuanc mwyaf gweithgar ein heglwys. Mae y brawd Williams yn frawd i'r Parch. Abbi Williams, Coleg Bangor. EGRYN. NEW BROUGHTON. Nos Lun, Chwefror 7fed, traddodwyd darlith ar Gymru, ei Heglwysi, a'i Chewri," gan Mr. S. C. Hughes, Brymbo. Cafwyd darluniau prydferth o Gymru. Cadeirydd y cyfarfod oedd Mr. Stanford, Maer Wrexham. Yr oedd y darlithiwr yn ei hwyliau goreu, a chafwyd noswaith ddyfyr dros ben. Y GYMDEITHAS LENYDDOL.—Nos lau, Chwefror lOfed, cafwyd papur ar Beth Ddylai Cymdeithasiaeth fod yn Ngoleuni Cristionogaeth, gan Mr. Thomas Whitley. Yr oedd y papur yn un da iawn. Cafwyd solo hefyd gan Mr. T. G. Whitley. MORFYDD. NODION 0 GYLCHDAITH TREORCHY. Bydd yn dda gan ddarllenwyr y Gwyl- iedydd Newydd ddeall fod Mri. D. J. Davies ac Isaac Hopkin Edwards, wedi bod yn cychwyn achos newydd y Sul di- weddaf yn Cwmogwn. Cafwyd arwydd- ion hynod o ffafriol. Y mae yno nifer o Wesleyaid brwdfrydig, yn benderfynol i wneyd eu rhan i gael llwyddiant ar y symudiad. Clywsom fod y brodyr o Ystrad Rhondda wedi cael arddeliad oddi uchod ar eu gwaith. Mri. David Lloyd Jones a John Edwards, Treorchy, fydd yno y Sul nesaf. Clywsom fod y Parch. Hugh Curry, wedi cael ei ethol yn Llywydd Cynghor Eg- lwysi Rhyddion adran Pentre, Ton ac Ystrad Rhondda. Y Parch. Thomas Jones oedd y Llywydd dros Treorchy a Chwmpark y flwyddyn ddiweddaf. Clywais fod y Parch. Emrys Jones yn pregethu yu Saesneg yn Nghapel y Saeson yn Tonypandy y Sul diweddaf. GOHEBYDD. ABERGYNOLWYN. Nos Fercher, Chwefror 16, cynhaliwyd Cyfarfod Rhyddfrydol y Chwiorydd yn y lie uchod dan lywyddiaeth Mrs. Wm. Davies y Ilywyddes apwyntiedig. Cafwyd anerchiad gan y llywyddes, aphapur rhag- orol gan Miss Thomas, Post Office, ar y ddau Dy Seneddol. Siaradwyd ar y papur gan amryw o'r chwiorydd. Cafwyd cyf- arfod dyddorol, a'r chwiorydd yn llawn sel o blaid Rhyddfrydiaeth. MELINA. ABERDOVEY. SOCIAL. Nos Lun, Chwefror IOTed, rhoddwyd Tea Social i Gymdeithas y Bobl Ieuanc perthynol i'r Tabernacl M.C., yn yr Aberdyfi Hall, trwy garedigrwydd Mrs. Paull, Glanrafon. Yr oedd cynulliad da wedi dyfod ynghyd a mwynhawyd noson ddyddorus. LLWYDDIANT.—Y mae yn llawenydd genym nodi fod Miss Blodwen Jones wedi dyfod yn llwyddianus trwy arholiad y "Prleiminary Certificate, Part One." Deall- wn mai hi ydoedd yr unig ymgeisydd llwyddianus,—aed rhagddi. DIRWEST.-Nos Sul, llywydd Mr. D. Jones, 4, Bodfir Terrace. Siaradwvr, Mri. R. Ll. Hughes, Aberdovey, E. "Bowen, Llwyngwril. GUILD.-Nos Fercher, Chwefror 16, cyf arfod Defosiynol, dan lywyddiaeth Mr. H. Lewis. Agorwvd v matet-" G-,veddi yn feistrolgar gan Mr. Hugh Griffith. Siarad- wyd yn mhellach gan Miss J. E. Jones, Mri. E. L. Rowlands, Y.H., a W. H. Jones. Cynygiwyd diolchgarwch gan Mr. J. E. Jones, a chefnogwyd gan Mr. J. T. Davies. GOH.

Advertising

AR DRAWIAD.