Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Advertising

-Y Gras o Haelioni Crefyddol.

¡Cyfiawnder aI IDdyrcMafa…

News
Cite
Share

Cyfiawnder a I DdyrcMafa Genedl. .JL?<M. y i. ?'I.E.€s.?.?. Nid yw yr Araeth Frenhinol wedi ei darllen pan yr ydym yn ysgrifenu hyn o erthygl; ac ofer i ni yw treio dyfalu beth fvdd ynddi. Gobeithio y ceir ynddi raglen deil- wng o'r blaid sydd unwaith eto mewn awdurdod—plaid rhydclid a ehynydd. Diameu y car blaid rwys- trau lawer i ddwyn oddiamgylch y Diwygiadau Cymdeithasal mae ar ein gwlad angen am danynt, megis y cawsant yn y Senedd o'r blaen. Byddwn yn ofni iddynt wrando gormod ar ysgrechian anynol eu gwrthwynebwyr y tro diweddaf. Gwnaeth y Toriaid yn y Senedd o'r blaen eu gorau i wasgar dych- ryn drwy y wlad. Gwaeddent a llef uchel fod ein llynges a n bydd- inyn hollol anghymwysi'namddiff- yn, ac fod y Germaniaid yn awydd- us i ymosod arnom y cyfleustra cyntaf. Ac i'n meddwl ni gwran- dawodd y Rhyddfrvdwyr ormod arnynt. Gwariwyd miliwnau o bunnoedd yn ddigon dibwrpas mae lie i ofni. Paham y rhaid i ni ed- rych yn amheus ar ein cymydogion cenedlaethol, a chyfrif estroniaid yn elynion ? Y gwir yw, nid oedd y cri hwn gan y Toriaid, ond rhyw- beth i dynu sylw y Rhyddfrydwyr oddiwrth angen C37mdeithasol y wlad. Caed prawf ymarferol o hyny oblegid pan welsant fod yn rhaid iddynt hwy talu eu cyfran o gostau y Dreadnoughts hwy waeddent a lief uwch fod hyny yn anonestrwydd ac yn ysbeiliad.— "0 genhedlaeth gwiberod." Gwnant unrhyw beth er rhoddi attalfa ar ffordd mesurau diwyg- iadol. Sonir am oleuni gwybodaeth ein hoes ac eto, y fath anwybodaeth sydd yn bod, yn enwedig yn mhlith mawrion y tir. Dywedai Wesley rywbryd fod mawrion y wlad yn fwy anwybodus, ac an- foesol na'r dosbarth gweithiol. Pa fodd, pe yn fyw yn ein mysg heddyw y buasai yn barnu ? Prin y buasai gwr a garai ddyrchafiad ac achubiaeth gwerin ei wlad mor angerddol ag efe yn gallu bod yn ddistaw. Cyfododd efe ei lef yn groch yn erbyn y gaethfasnach, yn erbyn y fasnach mewn diodydd meddwol, ac yn erbyn y rhaib am gyfoeth. Pe buasai ei ddilynwyr yn meddu ar raddau helaethach o'i ysbryd buasai gwedd wahanol ar werin Lloegr heddyw. Nid efengyl gul, gyfyng a bregethai efe, ond efengyl oedd yn dyrchafu ac yn achub yr holl ddyn. Byddwn beunydd yn ymffrostio yn mawredd y Deyrnas y perthyn- wn iddi ac nid yw hyny yn beth o'i le yn awr a phryd arall. Gall ein hadgofio o'r safle a feddwn yn mysg llywodraethau y byd fod yn gynorthwy i ni ymdeimlo a'n cyf- rifoldeb. Ond yr aflwydd yw fod llawer yn son am ein mawredd cenedlaethol heb wneyd nemawr o ymchwiliad i'r hyn a gyfrif am ein mawredd. Myn Ilawer fod ein mawredd yn dibynu ar ein byddin, a'n llynges, ein cyfoeth a gwych- der ein palasau ond camgymeriad dybryd yw hyny. Yr hyn ddyrch- afodd ein gwlad ydoedd rhagor iaeth cymeriad y preswylwyr. Dyna hefyd a geidw ein gwlad ar ei safle uchel. Gwir mai itbobl sydd yn gwneyd mwyaf o swn sydd yn enill mwyaf o sylwr; ond y tawel a'r distaw yn fynych sydd yn gwneyd fwyaf o wir wasanaeth. Nid y cadfridog arweiniodd y fyddin i fuddugol- iaeth ond y gwladweinydd gadw- odd y llywodraeth o ryfel, ac a ar- weiniodd y bobl i lwybrau gwirion- edd, uniondeb a diwydrwydd. Ac eto, gynifer o breswylwyr ein gwlad sydd heb sylweddoli hyn. Caifi y cadfridog anrhydedd a blwydd-dal mawr: ond caiff y gwir wasan- aethwr yn ami ei adael yn hollol ddisylw. Ofnwn y bydd i'r Llywodraeth chwyddo y swm warir ar y fyddin a'r llynges y flwyddyn hon, rhagor y peth ydoedd y fivvyddyn ddi- weddaf. Nid ymbaratoi i ryfel a gwledydd eraill yw ein hangen. Bydded i Lywodraethwr Mawr y byd ein cadw o ryfel, a chadw y bobl sydd dda ganddynt ryfel byth o awdurdod yn Mhrydain. Rhyfel cartrefol yw ein hangen ni—rhyfel yn erbyn tlodi, yn erbyn meddw- dod, yn erbyn anghyfiawnder, yn erbyn gorthrwm, ac yn erbyn y gweddillion sydd yn aros yn y tir o'r gyfundrefn dyl wythol (feudal system). Nid peryglon oddi allan yw ein peryglon ni mwy nag eiddo pobl eraill, ond y rhai sydd oddi mewn. Y rhai hyn sydd yn pylu ein meddwl, yn llygru ein moes, yn cymylu ein gobeithion, ac yn mallu ein dynoliaeth. Y blyn- yddoedd a fu yr oedd ein llygaid yn eithafoedd y ddaear, ac yn ddi- sylw o'r trueni yn ynyl ein drysau, ac yn cau ein clustiau rhag clywed gwaedd wylofus ein brodvr a'u plant. Y gelynion oddi mewn sydd yn bwyta ein bywyd yw y rhai y dylai ein llywodraeth ym- ladd yn eu herbyn nes eu gorch- fygu. Bendith ar y Proffwyd o Lanys- tumdwy a vvregysodd yr Arglwydd er mwyn rhoddi gwared i'w bobl. Gobeithio na fydd iddo Iwfrhau, na digaloni, nes gorphen ei waith. Mae yn debyg nad oes neb yn cael ei garu yn fwy. Am bob gwrth- wynebydd mae iddo haner cant yn ei fendithio. Drwy ei Flwydd-dal i Hen Bobl mae bendith yr hwn oedd ar ddarfod am dano wedi dod arno, a pharodd i galon llawer gwraig weddw lawenychu. Ac nid yw yr hyn a wnaeth ond ernes o'r hyn a fwriada ei wne37d. Diam- eu y ca efe a'i blaid eu gwrthwyn- ebu. LIa wenydd i ni yw fod cynifer o Gynrychiolwyr Llafur yn y Sen- edd. Yn arbenig, maent hwy wedi eu hethol i ofalu am fuddianau y werin. Mae dylanwad y cynrych- iolwyr hyn wedi bod yn fantais, ac yn sicr o fod felly yn y dyfodol yr un modd. Edrychir arnynt gan lawer gydag amheuaeth, ond pa- ham y rhaid gwneyd hyn ? Nid oes yn Nhy y Cyffredin heddyw aelod anrhydeddusach na Mr. Burt. Ac efe yn awr yw yr hynaf o holl aelodau Ty y Cyffredin. Mae wedi bod yn Aelod Seneddol er's 36ain o flynyddoedd. A beth am John Burns hefyd? Ni fu yn y swydd y mae efe ynddi yn awr, neb yn deall ei wraith yn well, na neb yn fwy ymroddol i'w gyflawni yn onest. Na, yn sicr, mae yn perth- yn i blaid Llafur yn y Senedd ddynion safant ochor yn ochor a dynion unrhyw blaid, mewn gwyb- odaeth, ac mewn gonestrwydd a chyfiawnder. Yn wir, byddwn yn meddwl fod ymwared ein gwlad oddiwrth y blaid hon. Nid yw y Blwydd-dal i hen bobl ond tameidyn bychan o'r hyn fwr- iada'r Llywodraeth Rhyddfrydol ei estyn i weithwyr a thlodion gonest y wlad. Da iawn fyddai dwyn oedran caffaeliad y blwydd- dal i lawr bump neu ddeng mlyn edd. Ychydig o ddynion pump a thriugain oed sydd yn gweithio yn chwareli a glofeydd ein gwlad, ac o ran hyny yn masnachdai ein gwlad. Ni waeth pa mor fedrus a gonest, na pha nifer o flynyddoedd a rodd- asant i'w meistri, troi'r hwyymaith yn ddigon diseremoni; ac ychydig ohonynt sydd yn cael byw i gyr aedd deg a thriugain. A diameu fod pryder ac ofnau am y dyfodol wedi prysuro diwedd miloedd lawer. Da iawn fuasai dwyn yr oedran i lawr, a diameu y gwneir hyn cyn hir. Os gellir cadw yr ysbryd" rhyfelgar i lawr yn 37 wlad, gellir gobeithio y daw hyny oddi- amgylch yn fuan. A mawr iawn 3-w 3Tr angen am ddiwygiad yn Neddfau y Tlodion y wlad. Mae modd ein llywod- raeth o estyn cynorthvvy i diodion yn anghyfravvn, yn ddirmygus, a diraddiol i'r eithaf. Dyma un eng- raifft sydd yn wvbvddus i ni, ac nid yw ond un o filoedd cjffeb/b. Hen wr pyrntheg a thri ugain oed, un o'r gvveithvvyr mwyaf diwyd a gonest yn yr ardal. yn ddyn mwy goleuedig na llawer, wedi bod yn flaenor gyda'r Wesleyaid am bym- theg mlynedd ar hugain, ond ar ddiwedd ei-oes, ohemydd ami a blin gystuddiau wedi gorfod apelio am gynorthwy phvyfol, ac oher- vvydd hyny nis gall hawlio biwydd- dal fel rhai a gawsant lai o bro- fedigaethau. A yw ei attal rhag blwydd-dal yn deg? Nac ydyw yn sicr. I-tyderwn vr unionir v cam- wri hwn yn man. Heblaw hyny. drwy dderbvn cynorthwy plwyfol mae wedi colli ei hawliau dinesig. Ni feddbleid- lais yn nglyn ag amgylchiadau ei wlad. Er ei yn fwy goleuedig na llawer, ac yn gvmeriad dib/ch- win, ond am ei fod yn derbyn el- usen 37 llvwodraeth mae wedi ei amddifadu o'i hawliau fel dyn. Mae peth o'r fath yn annioddefol. Nid yvv Crlstionogaeth yn gwneyd gwahaniaeth rhwng eyfoethog a thlawd. Mae y tlawd yn meddu yr un hawl ar ei breintiau. Dylant feddu hawl i'r un breintiau gwlad- ol yr un modd. Gobeithio mai symud y drygau cartrefol fydd ym- drech benaf ein llywodraeth, ar ol cyfyngu ar derfynau Ty'r Ar- glwyddi,

Adfywiad Ysbrydol (Parhad).

DECHREU Y DIWYGIAD YN HOLBECK.