Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
ALWAYS USE ^CCTP^ ALWAYS "f" C3 <? ALWAYS FINEST VALUE, i FULL WEIGHT. I FINEST VALUE. AIi F WEIGHT.
Advertising
Peidiwch cym-, er-ld Inwyd, CYMERWOH BOVRiL.
G' RSI  YR ETHOLIAD.
G' RSI  YR ETHOLIAD. JERBYN hyn dyma'r etholiad hwn drosodd-yr etholiad pwysicaf. ar lawer o gyfrifon, a gymerodd le erioed yn hanes ein teyrnas. Mewn gwirionedd, brwydr ydoedd rhwng yr Arglwyddi a'r bobl; ac mae'r bobl wedi buddugoliaethu. Ni raid i unrhyw Ryddfrydwr gywil- yddio oherwydd y mwyafrif. Mae dros chwe' ugain yn fwyafrif ang- hyffredin iawn yn hanes ein Sen- edd. Mae rhai o Fesurau pwysicaf ein teyrnas wedi eu pasio gyda llai na haner y mwyafrif hwn. Ac mae yn wybyddus erbyn hyn y byddai y blaid arall yn foddlon i wynebu ar eu cyfrifoldeb, ac inewid holl gwrs masnachol y deyrnas, gyda chwar- ter y mwyafrif sydd gan y Rhydd- fiydwyr. Ymffrostiai Austin Chamberlain y dydd o'r blaen mai ganddynt hwy, fel un blaid, y byddai y mwy- afrif--ip.al CYlllYSg oedd y lleill,— ond mae yr ymffrost hwn o'i eiddo, fel llawer un arall, ysywaeth, wedi profi yn ffug, oblegid, hyd yn oed fel un blaid—y mater y rhoddai Austin bach y fath bwys arno-gan y Rhyddfrydwyr y mae y mwyaf- rif. Ac i ddibenion mawr yr eth- oliad, y mae y pleidiau Rhyddfiyd- ol oil yn un, a dylai gwaith gael ei gyflawni y bu rhai am haner can' mlynedd yn dyheu am dano. Dysgodd yr etholiad yn eglur iawn i ni fod buddiant personol yn fwy pwysig yn ngolwg rhai pobl nag egwyddor. Buom yn edmygu rhai o esgobion Eglwys Loegr oherwydd y safle a gymerentynglyn a'r Mesur Trwyddedol. Safodd nifer o honynt yn ddewr ar y pryd, a hyny yn ngwyneb dirmyg ac er- lidiau. Ond digalon ryfeddol oedd gweled y rhai hyny yn awi yn taflu eu holl ddylanwad o blaid yr Ar- glwyddi, a fwriasant ymaith mor ddiseremoni y Mesur y buont hwy yn dioddef o'i blegid. Pwy sydd ar hyd y biynyddoedd, wedi bod yn gorthrymu y Gwyddel ? Oni bai am Dy yr Arglwyddi, buasai y Gwyddel er's ugain mlynedd yn meddu ar awdurdod i lywodraethu ei amgylchiadau ei hun. Ac am hyn y mae ei gri o hyd. Dywed na fydd trefn ar ei wlad na'i genedl nes y caiff Ymreolaeth. Yngwyn- eb hyn, difrifol i'r eithaf oedd gweled offeiriaid Eglwys y Gwydd- el yn cerdded o dy i dy i berswadio eu pobl i bleidleisio o blaid awdur- dod trahaus eu gorthrymwyr Yr oedd cadw llywodraeth annheg dros yr ysgolion sectol, neu, mewn geiriau eraill, arbed eu llogellau, yn bwysicach yngolwg llawer na llwyddiant gwlad a ffyniant y werin. Aberthwyd egwyddor ar allor hunanles. Mae angen mawr iawn eto am oleuo'r bobl. Dengys hane.s yr etholiad hyn yn glir i ni. Mae yna ddylni ofnadwy yn y wlad. Er ein holl ymffrost ynghynydd gwybod- aeth, a'r cyjieusderau diri bron sydd o fewn cyraedd pob dosbarth i gael goleuni ar bynciau gwleid yddol, mae'r anwybodaeth sydd yn ein mysg yn ddychrynllyd. Gellir gwneud i filoedd o etholwyr gredu agos i bobpeth. Ni feddyliant ddim drostynt eu hunain, ond hongiant eu barn ar rhywun arall. Ac wrth gwrs, mae yn hawddach perswadio y dosbarth hwn i gredu yn yr hyn a all ymddangos i fod yn fwyaf manteisiol iddynt hwy. byna sydd yn cyfrif am. filoedd o bleidleisiau a roddwyd i ymgeis- wyr Ceidwadol. Dwedir wrth yr anwybodusion hyn y dinystriai Cyllideb LLOYD GEORGE y deyrnas. Heb wybod mwy am y Gyllideb na r dyn a'r baich drain yn y lleuad, credent y cwbl am fod yr Yswain parchus, neu v meistr caredig, yn d d w clweyd; ac ni thybir fod eisieu gofyn hyd yn oed beth oedd y Gyllideb! Hysbysir hwy mewn iaith fostfawr oddiar y llwyfan, ac mewn papurau dimai celwyddog, a phamphledi melynion erthylaidd, y gwnelai diffyndollaeth y tro yn lie y Gyllideb, yn llawer gwell, ac y cedwir yr estron rhag anfon eu nwyddau dros y mor i'n gwlad ni; ac felly y byddai cyflawnder o vlaith i bawb, ac arian yn dylifo i'w llogellau! a chredwyd hyn gan filoedd. Sut y ceir arian gan yr estron i wneud yn lie y Gyllideb os na pharha i anfon ei nwyddau yma ? Os parha i'w hanfon fel ar- fer, sut y gwneir i ffordd ag unem- ployment ? A'n helpio! Peidier son am gysondeb a pheidier meddwl Llefarodd yr oracl-y papur dimai, neu yr hogyn difarf ar y llwyfan—a dyna ben Oes, yn ddios, mae ar y wlad angen mawr am oleuni. Goreu po gyntaf y gwneir ym- aith a'i Plural voting. Oni ddysga yr etholiad hwn hyn i ni ? A oes rhyw synwyr mewn i un dyn feddu pump a'r hugain o bleidleisiau ? Dyma adroddiad ger ein bron yn awr am un dyn wedi pleidleisio dwy a'r bymtheg o weithiau, ac yn cwyno yr un pryd ei fod wedi colli tair pleidlais oherwvdd diofalwch rhywun! Teithiodd dros 1,400 o filltiroedd. Dyma un arall wedi pleidleisio dair gwaith a'r ddeg, a dyma hanes hen wr, 73ain oed, wedi pleidleisio bum' waith, ac, yn yr pedran mawr hwn, wedi teithio agos i 350 o filltiroedd mewn un diwrnod! Yn sicr, rhaid newid hyn, os am degwch yn yr etholiad- au. Rhaid cofio fod y modur yn awr yn galluogi dynion i wneyd gwrhydri mewn teithio. Gallodd dynion yn yr etholiad presenol wneucl peth oedd yn anmhosibl ugain mlynedd yn ol. Dylid cyf- yngu y bleidlais i ddyn ac nid ei hestyn i'w eiddo, Mae un bleidlais yn ddigon i bob dyn, ac hyderwn y cymerir y mater hwn i fyny yn ddiatreg gan y Weinvddiaeth new- ydd. Sicrhaodd nifer o ymgeiswyr Ceidwadol—dros haner dwsin—y lie uchaf ar y pol oblegid fod mwy na'r nifer gofynol yn ceisio am y sedd. Bydd y rhai hyn yn y Senedd yn cynrychioli y lleiafrif! Mae miloedd o fwyafrif yn eu her- byn, ac eto dyma'r rhai fydd yn cynrychioli yr etholwyr! A oes rhyw reswm yn hyn ? Cyn y ceir etholiad arall, gobeithiwn y cymer y senedd y mater i fyny 0 ddifrif, ac y gwneir deddf i orfodi ail eth- oliad mewn achosion fel hyn. Tybed hefyd na ddysgir y wers fod yn bryd i'r ddwy blaid sydd a phob- peth bron ganddynt yn gyffredin- y Rhyddfrydwyr a phlaid Llafur —ddod i gyd-ddeall cyn diwrnod yr etholiad Gwyddom am yr an- hawsderau, ond sicr gellir eu symud mewn rhai achosion, a hyny er mantais i'r ddwy ochr. Prin yr ydym yn foddlon dweyd dwy blaid, oblegid, mewn gwirionedd, gwedd ar Ryddfrydiaeth ydyw plaid Llafur, a gresyn fydd i unrhyw deimladau annhyfryd godi, ac oherwydd hyny i'r gwrthwynebwyr enill seddau, a chwerthin yn eu llewys. Gorfodwyd rhai trwy ddychryn i bleidleisio yn yr etholiad. Mae genym brawfion o hyn o'n blaenau yn awr. Rhaid gwneud ymaith trwy ddeddf Seneddol a'r canvassio. Mae gofyn am bleidlais dyn yn anghyson ag ysbryd y ballot. A rhaid cadw y meistr tir, a'i oruch- wyliwr, ac eraill, o gymydogaeth y polling booth, a chau y tafarnau ar ddiwrnod yr etholiad, fel na cheir cyfleusdra i brynu pleidlais dyn gyda chwrw. Difrifol i'r eithaf ydyw meddwl y gall tynged gwlad a theyrnas ddibynu ar bethau fel hyn. Gwlad rydd yw hon a dylid rhoi chwareu teg i ddynion i weithredu yn ol argyhoeddiad eu cydwybod, ac nid o dan ddylanwad ofn a clwmhellion isel. Goleuer hwy hyd y gellir, dysger hwy trwy bob cyfrwng cyfrei thlon, yna gadawer rhyngddynt hwy a'u cydwybodau. Heb hyn, mae ein hetholiadau mewn perygl o fyn'd yn bydredd, ac i anwiredd yr Iuddewon gynt gael ei ail-adrodd, pan y galwasant am Barabbas yn lie yr Iesu, a'r Barabbas hwnw oedd leidr." Disgwyliwn bethau mawr yn y Senedd-dymor agoshaol, a gweddi- wn am i fendith y Goruchaf orph- wys ar yr oil.
I NODION LLENYDDOL.
NODION LLENYDDOL. (Anfoner pob llyfr a chyhoeddiad i'w hadolygu i'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Llys Menai, Port Dinorwic.) Pwy ddywedodd na fedr Is-Olygydd yr Eurgrawn fod yn brydlon ? Dyma rifyn Chwefror i law cyn pryd braidd. Pregethwr y mis yw'r Parch. T. Nicholls Roberts. Y testun yw Diar. xxii. 6, a'r pwnc, "Hyfforddi'r Plentyn." Y mae'r bregeth fel y pregethwr,—yn bert, yn brydferth, yn feddylgar, ie, yn athrylithgar,. Y mae Mr. Roberts mor naturiol a gloyw bob amser, fel na wel neb ond y cyfarwydd ei fod hefyd yn alluog. Nis gall rhywrai gredu fod y dwfr yn ddwfn os bydd yn glir a gloyw, -fel pe na fedrai dim fod yn ddwfn ond mwd. Y mae yma wyddoniaeth, medd- yieg, a medr gwir tu ol i'r bregeth hon. Rhagorol yw yr ail bennod yng nghof- iant y Parch. W. H. Evans. Tybiaf imi weld yr ysbryd' a geisiai orfodi Gwyllt y Mynydd i fynd i'r Eglwys ar y Sul, ac a gurodd ei fiawd Cyn- faen mor greulon, tybiaf imi weld yr ysbryd hwnnw yn rhoi ei drwyn allan oddi tan ei len gel yn ystod yr:wythnos- au diweddaf hyn, a deuai ei gorpws an- ferth i'r golwg eto yn ei holl erchylltra, pe meiddiai. Ond swatio a wnaeth, am ei hoedl. Dyddorol a meistrolgar yw Atgofion Dr. Hugh Jones,—i'm bryd i, yn well na'r bennod gyntaf. Parch i Gruffydd William y Garddwr am ddysgu'r Dr. i dorri llythrennau, ac i'r Hybarch John Pierce am arlwyo bord ger ei fron yng" ngwydd ei wrthwvyneb- wyr! Diolch i Glan Dyfi am ysgrifennu mor dda am Harri Ddu. Oni fedrai Mr. Prichard anfon un neu ddau o Eiriau'r Groes" i'r Eurgrawn? Ni welodd rhai ohonom erioed mo'r llyfr, a bu- asai'n dda odiaeth gennym gael esiampl. Wrth amddiffyn Sosialaeth, etyb Dr. Maldwyn Hughes yr wrth-ddadl mai yr ymdrech am hunan-les sy'n cynhyrchu'r math goreu ar gymeriad. Braidd yn unochrog yw yr athrawiaeth. Dywed- er a fynner, diwedd pob peth fydd unrhyw gyfundrefn nad yw'n datblygu persouoliaeth aelodau unigol cymdeith- as. Ysgrifenna Mr. David Owen, Llun- dain, yn ddyddorol iawn am "Berthynas y Parch. Richard Roberts A, Chorris," Y fath hen wr ieuanc wonderful yw Mr. David Owen. Bum yn lletya dan ei gronglwyd yn ddiweddar, ac y mae'i ysbryd yn iraidd, ac yn llawn afiaith gyda'r Achos Goreu o hyd. Y mae fel tywysog ymysg y gwyr ieuanc talentog sydd o'i gwmpas ym Mrynswic. Yr wyf newydd anfon ysgrif ar y Parch. Rich- ard Roberts i'r Genhinen, a buasai'n dda gennyf pe bawn wedi gweld'ysgrif Mr Owen ynghynt, oblegid y mae ynddi amryw bethau nas gwyddwn mohonynt o'r blaen. Amserol a gwerthfawr yw ysgrif y Parch. Evan Jones, ar Ffyn- onhellau Hanes Iesu Grist. Sonnir llawer am anhawsderau meddyliol yr oes, ac y maent yn bod. Ond y mae anhawsder arall,—nad yw rhai pobl yn meddwl o gwbl, ac eraill nad ydynt yn meddwl digon i ddod o'u hanawsderau. Pe darllennai'r cyfryw ysgrif fel hon yn ofalus, gwnai les mawr iddynt. Dech- reuir gyda'r rhan gyntaf-o ran amser- o lenyddiaeth y Testament Newydd, yn yr ysgrif hon, ac y mae'r ymdriniaeth yn deg a sylweddol. Croesawn ysgrifau o'r natur yma yn yr Eurgrawn. Y mae'r Maes Cenhadol" gan y Parch J. Wesley Hughes, yn oleu, "y tywys- ennau'n freision ac yn hawdd eu cael. Nodweddir yr ail bennod yn Nofel y Parch E. Tegla Davies, gan swyn a medr digwestiwn, ac y mae'i ddisgrifiad o Saboth ym Mon yn naturiol, ac yn wych mewn gwirionedd (a chofier fod gwych yn air cryf,—golyga arddder- chog. Y mae'n debvg mai "gwych" yw'r gair goreu am splendid.) Yn ddiau, y mae stylist wedi codi yn ein plith. Tywalltwyd o Ysgrepan Ti Aitsh y mis hwn lythyr tra phwrpasol at ym- geisydd am y Weinidogaeth. Bydd hwn yn help gwir i lawer ymgeisydd, mi wnn. Nid dyma'r help cyntaf a roddodd Ti Aitsh i ymgeiswyr di-wybod a digefn. Y mae'n anodd gwybod sut olwg fuasai ar rai ohonom heddyw, oni bai am ei nodded a'i lafur ef. Y mae'r Eurgrawn am y mis hwn yn lanach ei iaith, ac, yn ol fy marn i, yn berffeithiach ei orgraff nag arfer. Nid yw edwino cymeriad yn gywir, am nad yw edwino yn transitive. Nid cywir chwaith yw darganfyddwyd na darganfyddodd oblegyd ffurfiau cyfansawdd (compounds) o'r ferf bod ydynt. Ni ddywedir "byddwyd" a byddodd," ond buwyd a bu." Gan hyny, darganfuwyd," a dargan- fu," sy'n gywir. Ond ar y cyfan, pleser yw ei ddarllen, o ran iaith, ac arddull, ac orgraff. 0 ran mater, os oes gwen- did yn y rhifyn hwn, dywedwn fod yn- ddo ar y mwyaf o Fywgraffiaeth. Nid nad ydys yn mawr wertlifawrogi popeth ynghylch y pedwar gwr da a theilwng y mae 'u hanes yma, ond efallai y buasai hanes, dyweder, dau ohonynt, yn well ar unwaith. Y Winllan am Chwefror. Y mae'n gredyd i Wesleaeth Gymreig ei bod yn medru magu dau ddyn fel Mr. Ellis Owen, Spellow Lane, a Mr W. W. Jones, Blaenau Ffestiniog. Ysgrifennir yn deilwng a byw am y ddau,—am Mr. Owen gan y Parch. Ed. Davies, ac am Mr. Jones gan Lywydd y Gymanfa. Pan oeddwn fachgen, hanes tramoriaid o eithaf y ddaear fyddai yn y Winllan, ond dyma dro ar fyd, a hwnnw er gwell. Nid oes gan yr un Eglwys yn y wlad ddeuddyn rhagorach na'r rhain,— Mr. Ellis Owen yn ddyn gwir ddiwyll- iedig ac yn gynulleidfa ynddo'i hun a Mr. W. W. Jones yn dywysog ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn olynydd an- rhydeddus i gymeriadau fel Anthony Hughes a Humphrey Humphreys. Cel- fydd yr ysgrifenna y Parch. Hugh Evans (Cynfor) ar Broblem Temtasiwn, ond y mae digon o gawl maethlon a melus yng nghrochan Cynfor ei hun, heb iddo droi at Mr. Bisseker na neb. Chwaneg o gawl cartref Cynfor, os gwelwch yn dda:! Traetha Gwyn-fryn wladgar yn hyfedr ar Abaty Glyn y Groes (Valle Crucis Abbey), ac y mae darlun prydferth o'r Abaty uwchben yn ysgrif. Da yw gwaith Mr. Edward FOulkes, Llangollen, yn ysgrifennu ar "Nod Teilwng i Fywyd. Onid dweyd yr un peth ddwywaith (tautology) yw "Nod teilwng yn amcan bywyd ? Mae bywyd heb rhyw nod i gyrchu ato yn gyfystyr a bywyd heb amcan o gwbl iddo." Hynny yw, Mae byw- yd heb rhyw nod i gyrchu ato yn gyf- ystyr a bywyd heb nod o gwbl iddo. Ond ysgrif fuddiol a da ywr'r ysgrif." Peth anodd yw ysgrifennu stori i blant, ond y mae'r Parch. G. Bedford Roberts yn llwyddo,—gweler yr ail bennod o Hiraeth Eluned." Campus. At hyn, dyma gyfieithiad cain o un o Emynnau Marianne Farringham gan Gwynfryn; darn cymwys iawn i'w adrodd, Y Plentyn a'r Ci, gan Gwilym Dyfi, (er nad yw Wrth rywun ddweyd ei enw yn Gymraeg cywir); ton gan Alawydd y Darran o Aber Pennar; ac amryw bethau eraill man.—a dyna'u rhagor- iaeth mewn cyhoeddiad fel y Winllan —a dyddorol odiaeth. Beth yn ych- waneg sydd ar neb eisiau am geiniog ? Da iawn, Mr. Golygydd newydd. Ond nid yw eu gwynebau yn gywir am eu hwynebau"; na "gwlybaf" am "gwlypaf" nac uwchaf" am "uchaf," mwy nac uwchel" am uchel nac ynghwr am yng nghwrr." Hyderaf innau'n fawr y pery Mr. Caradoc Mills, (Sigma) o Lanrwst i ys- grifennu ïr Gwyhedydd Newydd-. Y mae graen a gwawr ar ei waith bob amser. Pwy arall fedrai blethu Lecsiwn a Chyllideb wrth gynffoiiau"r Co-eCLau ? [Derbyniwyd: 0 For i Fynydd, a Chaniadau Eraill; gan Elphin. Lerpwl: Swyddfa'r-Brython. ]
A ddylid trefnu He i Ffelthiau…
A ddylid trefnu He i Ffelthiau a Phroblemau Cyrndeitliasol yn addysg ein Hefrydwyr. Dyma gwestiwn dyddorol a phwysig onide. Datganodd 3^ Gynadledd ddiweddaf ei barn trwy ddweud y dylid trefnu. Gwir yw mae tippyn yn frysiogy datganwyd y farn hono. Dadleua rhai mae bvrbwvlldra oedd hyn ac na fuasid wedi datgan barn or fath pe buas- id wedi cvmeiyd ychwaneg o am- ser a rhoi chwareu teg i rai draethu eu syniadau. Gall hyn fod yn wir. O'r ochr arall gall y farn ddatganwyd, mewn eyr amser, fod wedi ei phasio felly, oherwydd nad oedd betrusder vm meddyllau mwyafrif y rhai oedd yn y Gynad- ledd ar y mater. Pa un bynnag, y mae rhai yn anfoeldlon i'rdyfarn- iad ac yn awyddus i'r Gynadledd ail-ystyried y mater. ac amlwg yw, os gallant, perswadiant y Gynad- ledd i ddad-wneud ei phenderfyn- iad hwn. Gan mai peth cyssylltiol ag Ef- rydwyr yn ein Sefydliadau Duwin- yddol 3Td^w—ac fod un aelod o leiaf o Bwvllgor Cyffredinol y Sef- ydliadau hyn yn wrthwynebol i'r penderfyniad, cododd y mater i sylw dri mis yn ol. Barnwyd na ellid ei drafod y pryd hwnw—y dylid rhoi Rhybudd o Benderfyn- iad. Gwnaed hyny. Cyferfu y Pwyllgor drachefn yr wythnos ddi- weddaf. Nid ydym at ein rhyddid i roi adroddiad, oblegid y mae y mater yn parhau dan ystyriaeth a rhaid dod i benderfyniad cyn y byddai yn briodol cyflwyno y mater i'r wasg. Ar yr un pryd y mae yn fater pwysig ac o ddyddor- deb i laweroedd tu allan i derfyn- au y Pwyllgor. Yng ngwyneb ysbryd yr oes, yn wir gallwn ddweud angen yr oes gwelir fod y mater hwn yn un tra phwysig. Dadleua rhai nad oes modd gwneud cynawnder a'r pwnc yn ein Colegau oherwydd fod y gwaith raid ei wneud yn barod yn drwm—llawn mwy nac y medr y bechgyn fyned drwyddo ac at hyny fod y pwnc yn un mor ddyrus fel y dylid cael "experts" i'w drafod. Rhaid cydnabod fod llawer o wir yn hyn. Ar y llaw arall, rhaid; cofio fod y pwnc yn un na ellir ei osgoi (pe dymunid) ac y ca ei dra- fod gan ein bechgyn beth bynnag wna'r athrawon. Cyhuddir rhai o siarad yr hyn nis gwyddant. Dylai y rhai ydynt mor barod i'w cyhuddo fod yn dra awyddus i'w haddysgu. Fel arall y mae. Y rhai hyn yw y rhai geisiant barhau eu hanwybodaeth, neu o leiaf vdynt anmharod i hyrwyddo eu cyfleusdra i ddod i wybod. Yn ddiddadl mantais fawr fyddai i Ffeithiau Bywyd Cymdeithasol gael eu dwyn i sylw ein Hefryd- wyr ar ddechreu eu gyrfa. Ni fuasem yn dadleu cvmaint am i'r Problemau gael eu trafod ar hyn o bryd. Dywedai y diweddar Charles Garrett ond i ddynion ym- gydnabyddu a ffeithiau y Fasnach Feddwol y delent yn Ddirwestwyr aiddgar. Credwn ond i'n Hefryd- wyr gael eu dwyn wyneb yn wyneb a Ffeithiau Bywyd y Bobl y deuant yn effro i'r pwysigrwydd o geisio cymhwyso eu gweinidog- aeth yn y modd goreu i sicrhau gwir Ddyrchafiad y Bobl. Bydd genym ychwaneg ar hyn yr wyth- nos nesaf. GWR Y BOWYDD.