Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
ALWAYS USE Jh i ALWAYS TE A ALWAYS FINEST VALUE. 1 LAi FULL WEIGHT.
Advertising
Peidlwch cymeryd Anwyd, CYMERWGH   W 'm In M BOV I L.
Y GYMDEITHAS EGLWYSIG, I A'R…
Y GYMDEITHAS EGLWYSIG, A'R RHESTR GYFARFOD. Y mhli th rhai Wesleyaid, gosodir y Seiat fawr a'r Class meeting, y naill yn erbyn y llall. A thybir gan rai selog o blaid y Class meet- ing, nad oes i'r "Seiat fa wr" le yn nghyfansoddiad gwreiddiol y Cyf- undeb ond y mae efelychiad yd- yw o gyfarfodydd Eglwysig enwad- au eraill. Eithr ni fu erioed fwy o gamsyniad. Mae y Gymdeithas Eglwysig yn hyn na'r Class meeting; a'r Gymdeithas Eglwysig roddodd fod i'r Cyfundeb Wesleyaid, ac nid y Rhestr-gyfarfod. Dechreuodd y Gymdeithas yn 1739, ond ni chych- wynwyd y Rhestr-gyfarfod cyn 1742, tair blynedd ar ol y Gym- deithas. Cyfarfod o nodwedd hollol gref- yddol oedd y Gymdeithas o'i chychwyniad ond nid felly y Class meeting, ond fel cyfrwng i gasglu arian tuag at ddiddyledu capel vn Bristol y daeth i fod. Ond gwelodd Wesley gyda'i graffter ar- ferol y gellid gwneyd defnydd ohono i arfer gwyliadwriaeth vs- pryc 01 dros aelodau y Gymdeithas. Yr oedd yn hawddach i flaenor ar- fer gwyliadwriaeth dros 12 neu 18 oedd ar ei lyfr ac ymholi a oedd- ent yn rhodio yn addas i'r efengyl, nag i Wesley ei hun allu gwneyd hyny dros 500 neu 600 ar hyd a lied Llundain. Achofiereibodyn yn y dechreu os nadywfellyyn awr, yn gymaint rhwymedigaeth ar y blaenor ymweled yn wythnos- ol ar aelod, ac oedd i'r aelod ym- weled a'r blaenor yn y Class meet- ing. Yn y geiriau adnabyddus o eiddo Wesley pan y dywed "YN Y FLWY- DDYN 1839, daeth wyth neu ddeg o ddynion attaf yn Llundain, y rhai a ymddangosent dan argyhoeddiad dwfn o bechodj ac yn ocheneidio yn ddwys am iachawdwriaeth. Dy- munasant arnaf (fel y gwnaeth dau neu dri yn ychwaneg dranoeth) dreulio ychydig amser gyda hwy mewn gweddi, a'u cyfarwyddo pa fodd i ffoi rhag y llid a fydd, yr hwn a welent yn hongian beunydd uwch eu PENAU, &C." Nid y Rhestr-gyfarfod oedd mewn golwg gan Wesley yn y geiriau hyn, ond y Gymdeithas Eglwysig. Gwelir hyn yn eglur oddiwrth yr hyn a ddywed Wesley yn mhellach DYMA OEDD CYFODIAD yr Unol Gymdeithasau—yn gyntafyn Llun- dain, ac yna mewn manau eraill. Y gyfryw gymdeithas nid ydyw amgen na chwmni o ddynion yn meddu ffurf, ac yn ceisio grym duwioldeb, wedi ymuno a'u gilydd mewn trefn i weddio yn nghyd, i dderbyn gair y cynghor ac i wylio y naill dros y llall mewn cariad fel y gallont gynorthwyo eu gilydd i weithio allan eu hiachawdwr- iaeth ein HUNAIN." Fel hyn y mae yn amlwg mai dechreu fel Cvmdeithas Eglwysig, ac nid fel Rhestr-gyfarfod ddarfu Trefnyddiaeth Wesleyaidd. A,r fantais arbenig welai Wesley ei hun yn y Rhestr-gyfarfod oedd y cymhorth gwerthfawr a roddai i ojalu am yr aelodau ac i'w bugeilio hwynt. Ac yr oedd pob blaenor yn cael ei ystyried yn fath o is- fugail oedd i ofalu am aelodau ei restr, ac yn fwy cyfrifol am danynt Ila neb arall. Ein hamcan yn y SYlwadau hyn, yw ceisio gwrth- \Vei thio y gwrthwynebiad sydd gan rai i'r hyn a elwir yn Seiat fawr," fel pe buasai yn ddinystriol 1 fywyd Wesleyaeth, pan mewn gTwirionedd mai hi roddodd fod iddi, Ac y mae y Gynadledd yn ddiweddar yn, I eu doethineb wedi gweled Ypwysigrwydd o alvv sylw rbenlg aty Gymdeithas Eglwys- 1 ac vn argymell iddi gael ei galw yn nghyd o leiaf unwaith yn y chwarter, i'r amcan o gael cymun- deb yn mhlith yr aelodau, adrodd profiad crefyddol,—ac arweiniad ac ymgynghoriad yn nghlych y pethau a berthynant i Deyrnas Dduw. Yn awr, ni ddymunem ddyweyd dim yn erbyn y Rhestr-gyfarfod, ond nis gallwn o gwbl gyd-weled a'r rhai sydd am wneud cyfarfydd- iad ynddo, yn aiiiod aelodaeth eglwysig. Credwn fod rhesymau ein cydwladwr talentog y diwedd- ar Barch Thomas Hughes (A.), yn erbyn hyny, bythheb euhateb. Car- em weled y Rhestr-gyfarfod yn cael ei fynychu yn llawer gwell nag y mae. Credwn ei fod yn foddion gwerthfawr o ras, ond credwn gyda Wesley ei hun, nad yw yn hanfodol i fywyd Cristionogol, neu yn sef- ydliad Dwyfol, ond yn fuddiol a manteisiol er meithrin crefydd ys- brydol. "Prudential" ac nid "ess- ential" oedd syniad Wesley ei hun am dano. Yn y goleu rhesymol a chymed- rol hwn, dymunem roddi pob cefn- nogaeth bosibl i'r Rhestr-gyfarfod. Ai nid oes neb yn gofidio mwy na ni, fod y Rhestr-gyfarfod ar y cyfan yn anmhoblogaidd. Ofer celu y gwir; cwyno cyffredinol sydd yn y cyfeiriad hwn. Ychydig mewn cydmariaeth sydd yn mynychu y Rhestr gyfarfodydd. Ond paham tybed ? Diffyg yn y Blaenoriaid ebe rhai. Nage, yn bendant medd- wn ninau, ond diffyg yn yr ael- odau eu hunain. Yr arwedd amlycaf o'n Rhest-gyfarfod ydyw ei fod yn lie i ddweyd profiad. Ond beth os nad oes gan lawer o'n haelodau bronad i'w adrodd? Pa ryfedd eu bod yn cadw o'r Rhestr? Yn nydd- iau Wesley, ac am amser ar ol hyny, yr oedd profiad yn beth cyffredinol yn mhlith yr aelodau, ac felly hawdd iawn oedd eu cael i'r Class, i fynegu yr hyn a wnaeth Duw i'w heneidiau. Credwn yn sicr, mai dyma'r achos na fyddai y Rhestr- gyfarfod yn fwy atdyniadol o lawer nag ydyw, Nid oes modd i'r un Blaenor wneyd class yn ddyddorol ac atdyniadol, os mai myned yno y mae i wrando rhai yn dweyd ad- nodau, ac eraill yn dweyd dim. Dylid cofio fod y Rhestr-gyfarfod wedi dyfod i fod mewn adeg o Ddiwygiad Crefyddol grymus, pan ag yr oedd llawer yn ddigon parod i ganmol y Gwaredwr, ac i ddwyn tystiolaeth i'w allu achubol. Ac o dan amgylchiadau felly nid rhyfedd fod y Rhestr-gyfarfod yn boblog- aidd. Ond ar. ol i wres y Diwygiad oeri, ac i nifer y rhai allant dystio oddiar brofiad personol eu bod wedi eu hachub, fyned yn llawer llai eu rhif, fe gollodd y Rhestr- gyfarfod ei swyn a'i atdyniad. Ac mewn llawer lie, nid yw mwyach yn ddim, ond ffurf heb ddim syl- wedd, neu gorph heb ddim bywyd ynddo. Mae y gwres a'r bywyd wedi colli o hono. Ac os felly, pa ryfedd ei fod wedi myned yn an- mhoblogaidd. Nis gallwn weled ond un o ddau beth yn bosibl; un a'i cael ein pobl i feddiant o brofiad crefyddol, neu ynte roddi y Rhestr- gyfarfod i fyny. Yn sicr mae ceisio ei gario yn mlaen gyda phobl sydd yn amddifad o brofiad crefyddol yn waeth nag ofer. Hollol aflwydd- ianus fydd pob dyfais i wella y Rhestr-gyfarfod trwy ysgrifenu Llyfrau a Nodiadau i gynorthwyo y Blaenor i wneyd ei waith. Dechreu yn y pen chwith yw hyny. Rhodder i flaenor ddefnyddiau pri- odol, sef pobl yn ymwybodol eu bod wedi eu hachub trwy ras; ac y mae yn sicr o allu cynal y Rhestr- gyfarfod i bwrpas. Rhaid cael yr hen ring Fethod- istaidd yn ol. ,'Cymodwyd fi a J)uw, 'Rwy,n blentyn iddo ef, &c." "Un peth a wn i, lie yr oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gwel- ed," cyn y gwelir llewyrch a llwyddiant ar y Rhestr-gyfarfod: I ba raddau y mae Blaenoriaid ac yn enwedig y Weinidogaeth yn gyfrifol am fod cyn lleied o brofiad crefyddol yn mhlith ein haelodau eglwysig sydd gwestiwn arall; a chwestiwn rhy fawr i ni allu ei drafod yn deg ar hyn o bryd. Go- beithiwn gael hamdden i alw sylw ato ryw dro eto.
Y SEFYLLFA WLEIDYDDOL.
Y SEFYLLFA WLEIDYDDOL. Dyma brif destyn yr ymddiddan mewn tref a gwlad y dyddiau hyn, —Y Sefyllfa Wleidyddol. Cyfyd y sefyllfa o'r apel a wnaed at yr etholwyr am eu llais ar y Gyllid- eb. Yn ystod y dyddiau diweddaf ymladdwyd y frwydr fawr ethol- iadol er cael llais yr Etholwyr, ar amryw gwestiynau yn nglyn a llwyddiant a dyrchafiad y wlad mewn gwahanol gyfeiriadau. Aeth y blaid Ryddfrydig at y wlad gyd a Rhaglen o ddiwygiadau yr ym- rwymai i'w cario allan, os dych- welyd hi i awdurdod,—diwygiad- au ond eu cael fuasai yn rhoi dyr nod marwol i draha ffroen uchel y Duciaid a'r Arglwyddi gormesol, ac a fuasent yn rhyddhau yr am- aethwyr a'r werin amaethyddol o'r gormes oesol a ddioddefasant dano. Am y blaid Doriaidd nid oedd ganddynt raglen o gwbl, ac ni fynent ymrwymo i ddim os dychwelid hwy i awdurdod. Yn awr, yn ngwyneb y diwyg- iadau addawai y blaid Ryddfrydig ymgyngreiriodd galluoedd cryfion yn eu herbyn. Daethant allan yn holl rym dichellion a thwyll, gan gyfnerthu ysbryd celwyddog i gyn- iwair yn mhlith y bobl. Y gallu mawr cyntaf ydyw y Duciaid a'r tirfeddianwyr mawrion, ac yn llawer o ranbarthau y wlad yr oedd eu dylanwad yn fawr a lleth- ol. Proffesent fod ganddynt gar- iad at y bobl, ac nid amheuwn hyny, ond dylid cofio, mai yn caru y maent, am fod eu gwasanaeth yn dwyn iddynt elw lawer. Trueni na welai y werin amaethyddol hyn. Yn Ngogleddbarth Loegr lie y cynyrchir cyfoeth cenfydd y bobl hyn, fel y ceir prawf yn mwy- afrif y pleidleisiau a roddasant dros eu gwir gymwynaswyr. Ond yn Neheubarth Lloegr lie gwerir cyfoeth, bu yr amaethwyr gwledig a'r llafurwyr amaethyddol yn rhy wasaidd a llwfr—hyny yw y mwyafrif ohonynt, i ymysgwyd oddiwrth eu cadwynau trwy gym- eryd mantais ar eu rhagorfreintiau yn y gell bleidleisiol i gefnogi eu gwaredwyr. Mynent aros fel Israel yn gaethweision yn nghaethiwed yr Aipht, yn hytrach na dyfod yn etifeddion rhyddid a gwlad, oedd dan sel yn addewid Duw iddynt. Yn nghysgod y Cestyll a'r Eglwysi condemniol disgyna barug oer marwolaeth, a edwina ryddid ac annibyniaeth y bobl. Nid oes eisiau prawf pellach o hyn, na chanlyniadau yr etholiad presenol. Tra y daeth Ty yr Arglwyddi allan i wrthwynebu y Gyllideb a'i darpariadau, daeth y Fasnach fedd- wol yn holl nerth ei barilau a'i chyfoeth i'w gynorthwyo. Gwelai y naill a'r Hall fod gobaith eu helw mewn perygl, ac iddynt hwy yr oedd elw yn llawyer pwysicach nag egwyddor. I Gyngrair a'r galluoedd hyn daeth urddasolion yr Eglwys Wladol, y personiaid a'r curadiaid yn llu mawr iawn, yr hyn a awgryma fod ganddynt fwy o ofal am y bendefigaeth a'r Fas- nach feddwol nag sydd ganddynt am ddyrchafiad ysbrydol y bobl. Ar yr un pryd cydnabyddwn fod eithriadau anrhydeddus. Dyma y galluoedd oedd gan y blaid Ryddfrydig i ymladd yn eu herbyn. Ond er twyll cyfoeth, gwatwaredd diod gadarn, a rhag- rith yr Ysgrifenyddion a'r Pharis- eaid, mae buddugoliaeth yn sicr. Ceir y mwyafrif dros egwyddorion cyfiawnder a barn. Ni chyfododd Duw erioed Waredwr i Genedl, na byddai iddo drwyddo eu gwaredu, mor sicr ag iddo waredu y Genedl Israel, trwy Moses, Gibeon, Dafydd, &c., a'r Italiaid oddiwrth iau gor- mes wladol y Pab, trwy Garibaldi, fe wrareda eto genhedloedd lawer o'i caethiwed blin trwy y rhai a gefyd efe yn waredwyr iddynt. Yn yr ymdrechfa galed hon, cre- dwn fod Duw ei hun yn cymeryd rhan, ac nad yw yr anrhydeddus D. Lloyd George ond un yn ei law, i oleuo a deffro y wlad, nes ei chael i sylweddoli y dichoniadau mawr- ion sydd o'i blaen. Mae iachaw- dwriaeth wleidyddol, masnachol, a moesol cenedl, fesur pell iawn yn ymddibynu ar iddi ddilyn ei har- weinwyr. Yn ngwyneb ffeithiau yr Etholiad presenol nis gallwn amgen na diolch am ffyddlondeb diencil gwahanol ganghenau y cyff Celtaidd i'w hegwyddorion. Erys sefydlogrwydd ein cenedl fel sefydlogrwydd mynyddoedd ein gwlad, yn anhyblyg. felly hefyd y Gwyddelod, a'r Ysgotiaid. Pan yn ysgrifenu, nid yw yr eth- oliadau drosodd, ond y mae mwy- afrif y gwrth-Arglwyddi wedi ei sicrhau. Nis gwyddom eto pa faint a fydd. Nis gall fod lawer dros gant, na llawer dan hyny. Yr elfen annymunol yn bod ydyw yr aelod- au Gwyddelig. Ofna rhai iddynt fyned i gyfathrach a'r blaid Dori- aidd, ond credwn eu bod yn ddigon llygadog i weled na ddeillia yr un fantais iddynt o hyny. Os ydynt am Ymreolaeth gwerth ei chael, eu hunig obaith ydyw glynu wrth y blaid Ryddfrydig. Cwestiwn arall yw,-Beth a ddaw o'r Gyllideb. Nid oes dim i wneyd iddi bellach ond ei phasio. Cydnebydd awdurdodau y Tori- aid hyn, ynogystal a'u prifnewydd- iaduron. Ond beth a ddaw o Veto Ty yr Arglwyddi. Nidbudd- iol i ni broffwydo ar y mater hwn. Nid oes genym ond ei adael yn nwylaw y dynion cryfion sydd wrth lyw y llywodraeth, a chredwn y bydd i'r rhai hyn wneyd yn dda I o'u haddewidion a chadw eu gair. I I
IY GOMED. I
Y GOMED. I Week-end Visitor o Wlad y Ser. I [Gan SIGMA.] I Pan ddel y rhifyn hwn i law ei ddar- llenydd, bydd yr ymwelydd uchod yn chwyrnellu oddiwrthym a chyflymder bwledau tua'r wlad o'r hon y daeth. Ymddangosodd gyntaf i Mr. Drake yn Johannesberg yr hwn a'i gwelodd yn ngoleuni'r dydd. Gedy gyffiniau'r haul yn awr, a dychwel at ryw haul pell yn nghrombil yr eangder; yr hwn a'i pia. Hynododd ei hun a sydynrwydd ei hymddangosiad, a'i disglaerdeb, a'i mhaintioli. Byr y bu ei harosiad, blinodd yn nwndwr y lecsiwn. Syllodd Syr Robert Ball arni trwy dermwydr grymus arsyllfa Caergrawnt, ddydd Sadwrn 22ain, a dadansoddwyd ei goleuni trwy gyfrwngoliaeth y gwawl- elfennyr (spectroscope) gan Mr. Hinks or un man. Sylwodd arbenigrwydd y nwy helium yn nghyfansoddiad ei chyn- ffon, ac yr oedd llawer o'r nwyau comedawl cyffredin yn bresenol. Mae perthynas annatodadwy cydrhwng helium ar elfen ryfedd radium. Mae'r comedau ymwelant a chyffin- iau'r haul, boed eu harosiad y peth y bo, un a'i yn :— Gomedau cyfnodol (periodic comets) ynte yn gomedau estronol (non periodic comets.) Mae comedau cyfnodol yn hen gws- meriaid, ymwelant o dro i dro. Ambell un megis corned Encke bob 3t mlynedd, arall megis corned Halley bob 75 mlyn- edd, a thrachefn arall megis corned Donnatti bob 2000 mlynedd. Gellir rhestru yr olaf yn nosbarth y rhai es- tronol cyn belled ag a wnelom ni a hi! Mae clychau hirgrwn y comedau cyf- nodol wedi eu gweithio allan i sicrwydd gan fesuronwyr medrus. Y comedau estronol yw y rhai a ymwelant, ac a ddychwelant, byth i ymddangos mwy. Yn yr oesoedd aethant heibio, pan oedd y wybodaeth seryddol yn nyddiau ei mabandod, byddai ymddangosiad corned yn syn-olygfa frawychus, a hyny yn gyffredinol. Ymddanghosai ambell un dros yspaid o ddeng mis, yr hyn a frawychai deyrnasoedd cyfan, a hynny i'r fath raddau nes y byddai amryw yn dychrynu i wallgofrwydd. Dywed haneswyr yr arferid aberthu miloedd o fywydau, nid yn unig anifeiliaid, ond dynol, i'r dyben o geisio heddychu a'r duwiau digllawn. Ystyrid eu hymddanghosiad yn ar- wydd fygytliiol ofnadwy, megys rhyfel, newyn, &c., &c. "The Blazing Star Threatning the world with famine, plague and war To princes, death; to kingdoms, many crosses To all estates, inevitable losses To herdsman, rot; to ploughmen, hopeless seasons; To sailors, storms to cities, civil treasons," Ond y mae gwybodaeth ddiweddar wedi gwaredu yr holl fyd gwaraidd oddiwrth y fath bla o ofnau babiaidd a disail. Eto. os oes i hon ei chenadwri, wel dyna yw :— S LAWR A'R ARGLWYDDI, I FYNY A LLOYD GEORGE.
" Yr Enrgrawii" a'r " Winllan."
Yr Enrgrawii" a'r Winllan." Parhau yn ei rymy mae'r Eur- grawn." Y pregethwr am y mis ynddo yw yr hawddgar a'r athryl- ithgar Barch T. N. Roberts. At yr hyn barheir o Ionawr, ceiry Parch. Evan Jones yn dechreu traethu ar Ffynnonellau Hanes Iesu Grist. Rhoddir sylw i'r rhifyn gwych hwn gan ein Hadolygydd y tro nesaf. Yn y Winllan ymddengys llun da o Mr. Ellis Owen, Lerpwl, gwr galluog a chymeradwy—parheir Enwau Sanctaidd Cymru gan Gwynfryn Hiraeth Eiluned' gan Bedford Roberts, —campus yw'r ddau; dechreua Cynfor drafod Problemau Bywyd cant eu trin yn ddeheuig ac ysgrifenau Mr Ed- ward Foulkes ar destyn rhagorol Nid teilwng yn amcan bywyd" yn fedrus. A dyma fwy o amryw- iaeth. Da hyn. Ond nid awn i ymelaethu. Edrychwch beth ddy- wed Tecwyn yn ein nesaf.
Cystadleuaeth' Dosbarthwyr.
Cystadleuaeth Dosbarthwyr. Clywsom oddiwrrth rai. Ar ddi- wedd y Chwarter y byddwn yn penderfynu pwy sydd gyntaf, ail a thrydydd. Record go dda ynte yw 9 Gwyliedydd Newydd" mewn eglwys yn rhifo dim ond 21 o ael- odau. Gair o le arall heddvw- Mae gennyf 51 o dderbynwyr a 36 wedi talu ymlaen llaw. Campus onide? Pwy enilla tybed? Diol- chwn i'n Dosbarthwyr am eu hym- drechion i ledaenu y Gwyliedydd Newydd.' Daliwch atti. Yr ydych yn gwneud gwasanaeth nid yn unig i ni sydd wedi anturio cym- aint, ond yn gwasanaethu crefydd a Wesleyaeth yng Nghymru. Heddyw cawsom a ganlyn; Anfonwoh 14 yn lie 12 o'r Gwyl- iedydd Newydd o hyn allan rhif ein eglwys yw 24, Record go dda ynte ? Ie'n siwr, campus, frawd. Brodyr fel hyn yw ein hangen yn yr eglwysi. Dengys sel dros y "Gwyliedydd Newydd" sel dros lwyddiant yr achos.