Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
UNEQUALLED." The Swan Fountpen. Prices from 10/6. MABIE, TODD & Co. 79-80, High Holborn, London, W.C.
Advertising
Peadiwch cymeryd Anwyd, Cymerwch BOVR8L.
Advertising
Y Uobai'th I I Cristionogo Crown 8vo.; mewn Llian hardd, Llythyrenau Aur. Wedi ei argraffu mewn llythyren fras, ar "An- tique Paper." Pris 3s. 6c. Cyfrol o Bregethau GAN Y PARCH. HUGH JONES, D.D., Bangor. Eurgrawn Canmlwyddiant. Mae y Gyfrol hon yn aros wrthi ei hun—yn gyfrol unique. Bob can' mlyn- edd y gall cyfrol o'r fath ymddangos. Nid oes modd ei gorbrisio yn ei Gwasanaeth Hanesydd- ol. Mae ei Darluniau yn derbyn cymeradwy- aeth gyffredinol. Ceir ynddi Gynyrchion ein Llenorion goreu. Ond yn fwy na'r oil y mae Yn Gofgolofn i Athrylsth, Ymgysegriad a Llwydd- iant y Tadau Wesleyaidd. Mae llawer o'n prif gy- feilion yn awyddus i ni ei Rhwymo, modd y gall Rhieni gyflwyno y Gyfrol i bob un o'u Plant fel trysor o werth parhaol; Athrawon i'w Hysgolor- ion Blaenoriaid i Ael- odau eu Rhestrau; a phobl glyd arnynt i rai tlodion. Mae y Pwyllgor wedi penderfynu cydsyn- io a'r cais; ond mae yn bwysig ini gael syniad pa nifer i'w Rhwymo. Erfyniwn am Archebion yn fuin. Gwneir hyn er cyfleustra i'n pobl, ac nid er mwyn elw. Pris mewn Llian, 4s. 6c. Haner Rhwymiad, 5s. 6c. Archebion i'w hanfon i'r- WESLEYAN BOOKROOM, BANGOR. Cystadleuaeth Dosbarthwyr. Clywsom oddiwrth rai. Ar ddi- wedd y Chwarter y byddwn yn penderfynu pwy sydd gyntaf, ail a thrydydd. Record go dda ynte yw 9 Gwyliedydd Newydd" mewn eglwys yn rhifo dim ond 21 o ael- odau. Gair o le arall heddyw- Mae gennyf 51 o dderbynwyr a 36 wedi talu ymlaen llaw. Campus onide? Pwy enilla tybed ? Diol- chwn i'n Dosbarthwyr am eu hym- drechion i ledaenu y Gwvliedydd .Newydd.' Daliwch atti. Yr ydych yn gwneud gwasanaeth nid yn rinig i ni sydd wedi anturio cym- alnt, ond yn gwasanaethu crefydd a Wesleyaeth yng Nghymru. I
CYFRIFOLDEB PERSONOL A'R WEINIDOGAETH.
CYFRIFOLDEB PERSONOL A'R WEINIDOGAETH. Credwn yn gryf ein bod yn dar- llen arwyddion yr amserau yn gywir, pan yn datgan mai un o'r gwirioneddau pwysicaf y gelwir ar y weinidbgaeth i roddi amlyg- rwydd neillduol iddo allan o bwl- pudau ein gwlad yn y dyddiau presenol, ydyw cyfrifoldeb y dyn unigol. Ei gyfrifoldeb o berthyn- as i'w allu a'i fraint personol i dderbyn a mwynhau bendithion crefvdd, ac hefyd i'w rwymedig- aeth bersonol i fod yn ffyddlon i hawliau crefydd, sut bynnag y mae eraill o'i gwmpas yn gwneyd, a pha mor gryfion bynnag y gall y nerthoedd a'r dylanwadau anffafr- iol sydd yn ei amgylchoedd a'i gysylltiadau fod, fod y golled o wrthod egwyddorion a bendithion Dwyfol yr Efengyl, yn gyfrifoldeb sydd yn gorphwys yn hollol arno Ef ei hun. Tuedd uniongyrchol y ddysgeid- iaeih sydd yn lied gyffredinol mewn cylchgronau ddarllenir ac a werthfawrogir ganddosbarth cym- harol luosog yn ein gwlad, ac a adseinir weithiau yn y weinidog- aeth, a hynny dipin yn groew, ydyw, gwanychu a chymylu y syniad o bob math o gyfrifoldeb bersonol mewn materion moes a chrefydd. Nid dyna yr amcan yn y cylchgronau sydd gerbron ein meddwl, nac ychwaith yn y wein- idogaeth pan yn cyflwrdd y ddysg- eidiaeth gyfeirir atI. Ond heb betruso, ond nid heb ofid, y dywed- wn, mal clyna duedd a'pherygly fath ddysgeidiaeth. Ofnwn, fod y meddylddrych o rwymedigaeth, ac yn neillduol o euogrwydd personol gyd a golwg ar freintiau a hawl- iau pwysicaf cymmeriad a bywycl, wedi myned i stad gysglyd a mar- wol yn hanes cannoedd o'n cwm- pas. Rhoddir amlygrwydd mor fyn- nych, a hynny gyd ar fath ddigrif- wch a gwres ar yr anfanteision sydd yn nghylchyniadau dynion trwy eu tlodi, gwaeledd eu pres- wylfeydd, &c. Edliwir hefyd fod yr eglwys wedi esgeuluso rhai o ddyledswyddau mwyaf ymarferol cristionogaeth, y rhai agosaf at- torn a'r unig rai y buasai cyflawn- iad ohonynt yn profi yn ddiam- heuol ymgyfranogiad o'r cariad a'r aberth sydd yn hanfodol iddi. Hon yw'r genadwri y deuwn wyneb yn wyneb a hi yn y cyfnod hwn ac nis gallwn ei hanghymeradwyo yn y mesur lleiaf. Pwy faidd wadu nad oes anhawsderau cymdeithasol sydd yn atalfeuydd gwirioneddol ar ffordd miloedd yn ein hoes i fedru plygu i delerau cyfranogiad a phrofiad o egwyddorion a ben- dithion crefydd, a chydymffurfio a'i gofynion. Anhawsderau y gall- asai yr eglwys fod wedi gwneyd llawer mwy yn y gorffenol er eu symud, os nad eu clirio yn llwyr Yn ddiau, un o'r rhwymedigaethau mwyaf pwysig orphwys ar yr eg- lwys fel corph unedig, ac ar yr ael- odau fel trigolion, ydyw, digareg- u'r ffordd er gwneyd dyfodfa pawb mor hawddag sydd yn bosibl at fwrdd yr efengyl, a symud hefyd bob achlysur i unryw un ofni nac ymgyndynnu i ymgymeryd ag iau yr Efengyl. Ond tra yn cydnabod fod yna gylchyniadau anfanteisiol sydd yn rhwystro rhai i gyfranogi o ffafrau crefydd, ac i fod yn ffyddlawn i'w rhwymedigaethau; ac ami un yn porthi ei feddwl a'i gydwybod a phob ymdeimlad o'i gyfrifoldeb bersonol yn eu cylch; eto, y mae'r cyfrifoldeb heb ei ddwyn na'i golli. Seinio hyn yn groeyw a difloesgni, a ystyriwn yn un o rwymedigaethau mwyaf cys- segredig y weinidogaeth cristion- ogol yn y dyddiau hyn. Un o'n gobeithion pennaf am ber- thynas well a mwy byw ac ymar- ferol cydrhwng rhai o'n cenedl a gwirioneddau a dyledswyddau crefyddol, ydyw llwyddo i ddeffro a chtyfhau ymdeimlad goleuedig o'u cyfrifoldeb personol. Ac i'r weinidogaeth yn arbenig y perthyn hyn. Ynddi hi y mae'r adnoddau a'r nerthoedd Dwyfol sydd yn eff- eithiol i'r pwrpas. Ni olyga hyn mewn unrhyw fodd, fod y Weinidogaeth i fyned yn fwy diystyr i'r anfanteision cymdeithasol sydd yn rhwystr ar ei ffordd i Iwyddo yn ei phrif am- can, nac ychwaith i leihau- ei heiddigedd a'i brwdfrydedd dros unrhyw gynllun teg fyddyn debyg o fod yn effeithiol i'w symud, neu eu lleihau. A phurion peth fyddai i'r rhai gondemniant Eglwys Iesu Grist i gofio mai cynnyrch yr eg- wyddorion ymddiriedwyd i'w gofal hi, ie, blannwyd ac a am- ddiffynwyd ganddi yn y byd trwy'r weinidogaeth a moddau eraill, ydyw y cydymdeimlad puraf a chryfaf sydd yn y byd heddyw a phob anfantais a thrueni cymdeith- asol y mae yn dioddef oddiwrthynt. Ac yn ychwanegol, cynnyrch yr Eglwys yn rhinwedd ei hundeb a'i phen, a thrwy nerth y bywyd Dwy- fol dderbynia trwyddo, ydyw y sefydliadau a'r cyfryngau effeith- iolaf sydd ar waith er lleddfu a symud y cyfryw anfanteision a thrueni. Fel y mae'r wedd hon i ymgydnabyddu ag anhawsderau cymdeithasol sydd yn ymyryd a llwyddiant ei chennadwri, i aros yn yweinidogaeth yn ddigwestiwn, ond yn gyfochrog a hynny, ac i raddau mawr er mwyn diogelu y buddioldeb uchaf trwy hyny, y mae eiddigedd dros gadw yn fyw y meddylddrych a'r gwirionedd mawr o gyfrifoldeb pob dyn yn bersonol a'r fater buchedd a bywyd i fodyn glir a chryf ynddi hefyd, yn arbenig. felly y dyddiau hyn. Ac wrth sefyll dros y gwirionedd hwn o gyfrifoldeb personol dyn, sefyll dros y dyn yr ydym yn ei urddas a'i ogoniant. Os gollynga ei afael mewn cyfrifoldeb personol neu os llithra i ddiofalwch mar wol yn ei gylch, y mae'r dyn wedi colli, a rhaid adfer hwn cyn y gall fod yn wrthddrych i fwynhau unrhyw waredigaeth na ffafr gwerth i'w meddu. Llawen genym feddwl y saif ein cenedl yn gryf dros gyfrifoldeb bersonol, a thros ei ymarfer mewn cylchoedd bydol. Gwnaethant hynny yn brydferth y dyddiau diweddaf yma. Niadawyd i eraill ymyryd a'r hyn ystyrid yn gyfrifoldeb ac yn hawl bersonol. Hollol iawn. Gwneler hynny yn nherfynau cydwybod crefydd a Duw.
Advertising
UNIG GWESTIWN Y FRWYDR HON YDYW: Pa un ai Y Bobl ynte Yr Arglwyddi gaiff lywodraethu ?
NODIADAU CYFUNDEBOL.
NODIADAU CYFUNDEBOL. Gweithred haelionus arall o eiddo Mr. Williamson, Lamp- lough, ydoedd ei waith yn rhoddi £ 500 er cwblhau Ysbytty yn Yung Chun Fu, China. Sicrheir oddiwrth y Dyddiad- ur," fod rhif cyflawn aelodau y Wesleaith Gymreig yn 42,868, gyda 2,831 ar brawf, a 10,421 o blant: cynydd o 109. Mae'r trefniadau ar gyfer Cyfar- fodydd Blynyddol Maes y Genhad- aeth Dramor wedi eu cwblhau. Cadeirydd cyfarfod Albert Hall fydd Mr. J. Vanner Early, a'r un yn y Queens Hall, Mr. W. S. William- son. "Twenty-four Years in East London," ydyw teitl adroddiad yr East End Mission, wedi ei ysgrif- enu gan y Parch. Samuel Chad- wick yr hwn a dala deyrnged ys- blenydd i'r diweddar Peter Thomp- son, Arolygydd y Genhadaeth. Ni raid aros yn hir eto na chy- hoeddir y" Catecism Diwinyddol," yr hwn sydd wedi ei baratoi gan y Parch. T. Isfryn Hughes, Llanrhai- adr. Bydd yn un o'r llyfrau gwerthfawrocaf a ddarparwyd erioed ar gyfer ein pobl ieuainc. j Hysbysir fod y pregethwr enwog y Parch W. L. Watkinson wedi myned i dreulio misoedd y gauaf i Naples er adgyfnerthiad iechyd a chael hamdden i gwblhau gwaith Newydd pwysig o'i eiddo. I'n tyb ni yr ysgrif fwyaf dydd- orol yn Eurgrawn Ionawr ydyw yr un gan y Parch Hugh Jones, D.D., ar Ei adgofion." Hyderwn y parheir y cyfryw drwy'r flwydd- yn. Maent mor felus ag Adgofion fy Mywyd gan yr Eglwysbach." Cyfrifasom fod deg ar hugain o Ymgeiswyr Seneddol Wesleyaidd yn yr etholiad presenol, o ba rai nid oes ond dau yn Doriaid, sef, Syr John Randies, a Mr. Ebenezer Parkes, Birmingham. Mae'n llawen genym hysbysu fod cyhoeddwr y Methodist Times" wedi anfon cheque am Bedwar Can' Gini i Drysorfa y Gweinidogion Methedig. Diolch lawer i Syr Horace Marshall. Llongyfarchwn Bwyllgor Undeb Cerddorol y Wreslevaid ar eu deth- oliad o'r Tonau ac Emynau a gyn- wysa rhaglen y Gymanfa Gerddor- ol Undebol a'r Gymanfaoedd cylch- deithiol 1910—11. Da genym fod y pwyllgor yn cael ei wasanaethu gan ysgrifenydd mor fyw a medrus yn mherson Mr Evan Thomas, Ar- graphydd, Bangor. Gyda llaw, cyflawnodd y cerddor galluog Mr David Owen, o'r Rhyl, wasanaeth odiaeth dda drwydrefnu a chyhoeddi casgliad o hen onau at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol, a Chyfarfodydd Neullduol. Mae yn y llyfr hwn donau a lawenycha'r galon. Gofidus iawn genym fod Syr Robert W. Perks, wedi gwyro yn gyfeiliornus yn ei syniadau am gyf lawniadau Mr Asquith a'i gyd- swyddogion ynglyn agAnghydff-Lirf wyr y deyrnas. Mae yr hyn a wnaeth Syr Robert yn ystod y dyddiau diweddaf hyn, yn gofyni'r cyhoedd golli ymdriniaeth ynddo fel Rhyddfrydwr ac Anghydffurfiwr maes o law. Gyda boddhad y darllenasom ysgrif ddyddorol y Parch. Thomas Charles Williams, M.A., ar Ym- weliadau Wesley a Mon." Yn mha un y dywed mae y Cofiant goreu i Wesley yw ei Ddyddlyfrau ef eihun. Nidwyfyngwybodam unrhywbethy byddai ei ddarllenyn debycach o fod yn foddion gras i ni fel gweinidogion, yn ieuanc a hen, na'r llyfrau hyn. Mae ynddynt hanes anghredadwy bron, am ym- road digvffelyb yng ngwasanaeth Crist, a hwnw wedi ei goroni a'r llwyddiant rhyfeddaf." Gofidus genym fod Mr. A. W. Black, yr Aelod Seneddol dros Biggleswade, oherwydd yr oper- ation ddiweddar y bu odditano yn cael ei gaethiwo i'w wely, ac yn cario gwaith yr etholiad ymlaen drwy y' Telephone. Masnachwr mawr yn y Free Trade ydyw Mr. Black. Deallwn fod y Telephone wedi ei osod wrth ochr ei wely fel y mae yn alluog i gario busnes yr etholiad ymlaen gyda'i gefnogwyr yn llwyddianus. Bydd yn dda gan lu o gyfeillion yr hybarch a'r adnabyddus argraph- ydd a phregethwr—Mr. William Williams, Treffynon, wybod, er ei analluogid o ddefnydd ei ochr dde, ei fod yn gallu ymlwybro yn ei annedd-dy, ac yn cyflawni y swyddogaeth o gywiro prawflerii yn arbenig y rhai berthynent i'w En- wad ei hun. Mae ei gof mor gryf a'i ysbryd mor fywus ag erioed. Parodd derbyniad lluaws o Gard- lau Nadolig ar Flwyddyn Newydd lawenydd a boddhad neillduol neillduol iddo, a dymuna ddiolch i'r cyfryw gyda datganiad o'r un- rhyw ddymuniadau da. Mae rhestr marwolaethau y Gweinidogion am y flwyddyn 1909 yn hynod oddiar eu safleoedd yn neillduol oddiwrth eu hirhoedledd. Bu farw yn ystod 1909 saith a deu-. gain o weinidogion. Mae rhestr yn cynwys enwau rhai o'n gwein- idogion mwyaf adnabyddus. Ceir dau o gynlywyddion (Dr. Rigg, a Richard Roberts), ar gwyddonydd Wesleyaid enwocaf (Dr. Dellinger, F.R.S.), a'r cenhadwr cartrefol an-, wyl a phoblogaidd (Peter Thomp- son), a'r pregethwr ieuainc mwyaf addawol (Percy Ainsworth), ac yn y rhestr ceir enw y gweinidog Wesleyaidd Cymreig (William Hugh Evans) enw yr hwn oedd air teuluaidd yng nghylchoedd cys- segredig yr enwad yn Nghymru fel un o'r gweinidogion mwyaf sanct- aidd, ymroddedig, goleuedig, a theyrngarol fu erioed yn ein cyfun- deb. Y LLYFRBRYF WESLEYAID.
EGLWYS BACH, PONTYPRIDD.
EGLWYS BACH, PONTYPRIDD. Nos Iau yr lleg perfformiwyd y Chwar- eugan oysegredig The King and the Kingdom yn y capel uchod. Ac yn nan- nedd gwynt a gwlaw trwm daeth torf barchus i'r lie gan ddisgwyl treat, ac nis beiddia neb wadu ddarfu iddynt gael eu gwala a gweddill o'r seigiau cerddorol goreu. Llywydd yr hwyr ydoedd W. J. Davies, Ysw., M.E. A gwnaeth ei ran yn urddasol a hollol ddirodres, gan osod cheque yn ysnoden ar ei waith. Arweinid gan flaenor y gan, yn Eglwys Bach, sef Mr. David Phillips. Yr oedd y modd meistrol- gar a gorffenedig yr aeth trwy ei waith yn ychwanegiad at ei glod sydd eisoes yn uchel. Edrychir ar Mr. Phillips fel un o brif arweinyddion dyfodol y cylch. Gesyd ei fedr a'i chwaeth bur ef yn y rhestr flaenaf. Campus! Eled rhagddo heb ofni neb. Gwedi anerchiad byr, ac i'r pwynt gan y Llywydd, caed Pianoforte Solo gan Miss Nellie Lewis, merch yr enwog Howell Dar, gynt o Ferndale, ac er nad yw ond ieuanc edrychir ymlaen at ddyfodol disglaer iddi fel perdones. Cymerwyd rhan gan y gantores ieuanc enwog Miss Annie Gibbon, a chanodd yn ardderchog. Yn wir, y mae y foneddiges hon wedi enill safle arbenig fel un o brif sopranos y cylch, ac yr ydym yn proffwydo y clywir ei henw trwy Gymru benbaladr yn fuan. Canodd Madame Lewis Morgan, hithau fel arfer, yn feistrolgar dros ben. Yr oedd ei datganiad o The Lost Cord yn benigamp. Gwnaeth y Mri. Berry, a Brynon eu rhau yn ogoneddus. Nid rhy- fedd eu bod yn ffafriaid. Dangosodd Mr. Parcker, Porth, fedr neilltuol gyda'r crwth. Yr oedd y dernyn a ddewisodd yn un tra anhawdd, ond aeth trwyddo gyda rhwydd- ineb meistr. Cyfeiliwyd yn rhagorol gan Miss Edith Thomas, a Miss Nellie Lewis, y ddwy ar y Berdoneg, ac yr oedd Mr. R. Davies yn llwyr feistr ar yr Organ. Y mae ei chwaeth a'i fedr yn ddiamheuol. Yr oedd y perfformiad gan y cor yn dra rhagorol, ym mhob ystyr ac yn adiewyrchu gwir glod ar yr arweinydd medrus. Aeth pobpeth heibio heb yr un hitch. Cafodd .pawb hvyr foddlonrwydd, Canmol trwy y dref. laith pawb yw ddarfod iddynt gael rare treat. Cyn ymadael, diolchwyd yn galonog 1 Artistes, a'r cor. yn enwedig i'r be ion a boneddigesau a roddasant r anaeth cynorthwyol. Wel, Phillips rhagddo, heb ofni neb ni mae bri yn ei aros os dyfalbarhad yr Ysgrilenydd, Mr. D. Felix, a'r ydd, Mr. Evan Jones, eu gwaith yn us,-to the nzahner born. Y BARC