Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

i AT EIN GOHEBWYR. ! i

NODION A HANESION. I

RHYFEL-LONGAU PRYDEINIG A…

SUDDO LLONGAU PRYD- ! SUDDO…

News
Cite
Share

SUDDO LLONGAU PRYD- SUDDO LLONGAU PRYD- Eiwia UN V TUALLAN I AMLWCH, Dydd Sadwrn suddodd râJ tanforawl Germanaidd ddwy agerlong iechan Brydeinig yn -Mor yr Iwerddon.—y Cambank (3 012 tunell) o GaerJydd, a'r Downshire (365 turell) Suddwyd y gyntaf oddeutu pum' milliir o Am- Iwch. a'r llall y tuallan i Ynys Nlanaw. Yr oedd y Camhafnk ar ei mordaith o Hue'va i Lerpwl gyda llwylh o gopr, a suddwyd hi oddeutu un-ar-ddeg o'r gloch y boreu heb unrhyw fath o j rybudd. Lladdwyd y trydydd peirian- ydd a dau o'r criw, a" boddodd un arall. Llwyddodd y gweddill i fyned i'w cwch eu hunain ac i lanio yn Amlwch SUT Y SUDDWYD Y CAMBANK Cychwynodd y Cambank o Huelva oddeutu wythnos yn ol am Garston. Gan iddi gyfarfod a thywydd mawr yn y Sianel aeth i Falmouth am ddiogel- wch, ac wedi i'r storm ostegu aeth ymlaen ar ei mordaith. Cydrhwng naw a deg o'r gloch boreu Sadwrn cyrhaeddodd y tuallan i Amlwch. Yn unol ag arleriad llongau yn mordwyo i Lerpwl cymerodd y pilot ar ei bwrdd. Pan yr oedd ychydig filltiroedd i'r gorllewin o Point Lynas cododd bAd tan-forawl yn sydyn rhyw 300 Hath o bellder oddiwrthi, ac heb fath o rybudd taniodd torpedo yn sydyn ati. Gwel- odd Capten Prescott, yr hwn oedd yn ngofal yr agerlong, a'r pilot, periscope y bAd tanforawl, a'r un pryd gwelsant torpedo yn d'od ar gyflymder aruthrol tuag atynt. Cymerodd ffrwydriad mawr le g) nted -in y tarawodd y torpedo yr agerlong, a lIuchiwyd tunelli o ddwfr ar ei dec, a dechreuodd suddo ar unwaith. Gorch- ymynodd y capten i'r cychod gael eu gollwng i lawr ar unwaith. Yr oedd pump ar hugain o'r dwylaw i'w hachub, ond nid atebodd ond un ar hugain i'r alwad ddiweddaf, gan i dri o honynt oedd yn ngwaelod yr ager- long gael ei Iladd gan y ffrwydriad. Llwyddodd y gweddill i fyn'd i'r cwch, gydag un eithriad. Yr oedd un o hon- ynt wedi dychryn cymaint nes iddo yn ei fTwdan neidio i'r mor n lie i'r ewch, a bu foddi ar unwaith. Gellir dychmygu nerth y ffrwydriad gan y c!ywid ef yn eglur gan bobl ar y bryniau oddeutu pedair milltir ar ddeg o'r lie.. Yr oedd rhai )n ilygad-dyst o'r cig- wyddiad, ac ar ur.waith rhoddasant rybudd, ac aeth bywydtad Bull Bay ) allan ar unwaith i fan y digwyddiad er estyn cynorthwy iddynt. Yr oedd llawer o honynt yn haner noeth, az yr j oedd yr oil o honynt yn newynllyd, yn wlyb, ac yn oer. Cynorthwyodd y bywydfad hwy i dd'od i Amlwch, a chyrhaeddodd yno tua thri o'r gtoch, lie yr estynwyd iddynt bob cynorthwy. SUDDIAD Y DOWNSHIRE. Yr oedd yr agerlong Downshire ar ei mordaith i Lerpwl i gael glo pan yr ataliwyd hi gan y bad tanforawl y tu allan i Calf of Man oddeutu pump o'r gloch prydnawn Sadwrn. Gorchymyn- wyd i'r criw adael y Hong mewn pum' munud, ac heb goll amser gollyngwyd y cychod i lawr, ac aeth y Capten Connor a'r criw, wyth mewn nifer- iddynt Gynted ag y gwnaethant hyn suddwyd y lIong. Gwelwyd y criw gan trawler, a chodwyd hwy i fyny a glan- iwyd hwy yn Dundrum oddeutu deu- ddeg o'r gloch nos Sadwrn. Dywed run adroddiad fod y Germaniad wedi tanio deirgwaith cyn y gallodd Capten Connor atal y lIong, ac fod pump o'r criw OJ edi eu cymeryd ar twrdd y bad tanforawl er cael lie yn y cwch i'r I swyddogion GermanaidJ i fyn'd a Iff wyd-belenau ar yr agerlong. Bernir-mai yr U 21 yw y bad tanfor- awl, ac nid yr U 12, fel y dywed prif beirianydd y Downshire.

YM080D AR Y DARDANELLES.

With No. 3 on the Cam.

Saith o Diriogaethwyr yn Boddi.…

Damwain Ddifrifol yn Ngwrecsam.