Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
Attendance Notice. Bydd Mr. Ranleigh Jones, L. D.S., R.C. S. (Edi.), SURGEON DENTIST, yn ymweled a Pwllheli bob DYDD MERCHER, yn arcs gyda Mr. BOWEN, Grocer, High Street, o 11 y boreu dan 4 y prydnawn.
PWLLHELI.
PWLLHELI. CY HOE DDIADAU SABBOTHOL-Il.wrtb 15 "^enlan (A ), am 10 a 6, Parch. J. Mostyn, JCrsoch. Capel Seisnig (A.), Cardiff Road, am 11 a 6-30 Parch. J. K Lloyd, M.A., Bangor. Penmount (M.C.), am 10 a 6. Parch. W. 0. Roberts, Pistyll. Salem (M.C.), am 10 a 6, I'.irch. J. Puleston Jones, M A., Peumount. Capel Seisnig (M.C.) Ala R .ad, atn 10 a 6, Parch. H. D. Lloyd, B.D Llaneugan. Tabernacl (B.), am 10 a G, Myfyriwr o Goleg Bangor. Seion (W.), am 10, Mr. W. Jones Owen, Dinas am 6, Parch. W. T. Hughes, Cricc eth. Hen Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2, ysgol. Yagol Genhadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6. Parch. David Wynu Jones, Ffestiniog. Y&gol Genhadol North Street (A.), am 2, Y sgol. South Beach (M.C.), am 2 a 6, Parch. Thos. Williams, Pwllheli. Tarsis (M.C.), am 10, Pd.rch. Thos. Williams, Pwllheli. St. t'edr. 9-30 a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seisnig) Parch J. Edwards, B.A., Ficer, a'r Parch T. Woodings, B.A., Curad. Cenhadaeth Lydewig North Street, R.G., am 10-30, Offeren Sanctaidd, am 2, Y sgol am 6-30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P. Merour, benedicsiwn. Yr oedd ein cyd-diefwr Mr. D. E. Davies, Glyn, yn un o'r rhai a ddewis- wyd i siarad yn nghyfarfodydd blyn- yddol y Mutual Life Insurance Com- pany yn Llundain yr wythnos o'r blaen. DIOLCHGARWCH Teimla teulu y diweddar Mr. Morris Thomas, Pen- rhydlyniog, yn ddiolchgar am y cyd- ymdeimlad a'r cynorthwy caredig a gawsant yn eu protedigaeth gan y dref! yn gyffredinol. GWYL FAI.-Y mae'r pwyllgor trefn- iadol yn prysur barotoi ar gyfer yr Wyl uchod. Neithiwr, nos Lun, pen- derfynwyd myn'd o amgylch y dret I gael cyfraniadau tuag at y Carnival gynhelir ynglyn a'r cyfryw, a hyderir y ca'nt y gefnogaeth ddyladwy. SYMUDIAD SWYDDFA. Y mae y Mutual Life Insurance Company wedi symud eu swyddfa o Station Square i Leeds House, High Street,—yr ystaf- elloedd ar y llawr cyistaf uwchlaw masnachdy Mri. Lewis Bros. Deallwn fod yr hen swyddfa yn rhy fechan at gynydd y busnes. DRAMA.—Nos Iau diweddaf bu Cwmni Beddgelert yn perfformio y ddrama Serch Hudol" yn y Neuadd Drefol i gynhulliad Iluosog. Yr oedd y ddrama yn nodedig o ddyddorol, a'r perfformiad ohoni'n gampus. Yr oedd rhai cymeriadau yn ardderchog. Elai yr elw at Gapel South Beach. LLWYDDIANT EISTEDDFODOL. Da genym ddeall mai Mr. Tom Lloyd eoillodd y wobr o Gini am Farwnad yn Mettws y Coed, allan o nifer fawr o ymgeiswyr, gyda chanmoliaeth uchel y beirniad, sef Alafon. Hefyd Mr. R. E. J Williams, Bryn Helyg, enillodd y wobr i am yr englyn i'r Llythyr Dienw yn Chwilog. Deallwn hefyd mai Cenin oedd yn clorianu yr adroddwyr yn Nghylchwyl Lenyddol Mynytho. PRIODAS.- Ddydd Iau diweddaf, yn nghapel M.C. Nant, gan y Parch John Hughes, B.A., B.D., yn mhres- enoldeb Mr. O. Rowlands, cofrestrydd, unwyd Mr. J. Parry Jones, Gwynfa, Ala Road, mewn priodas a Miss Maggie A. Jones, Tai Newyddion, Llangian. Gwasanaethwyd fel gwas gan Mr. David Jones, brawd y priod- fab, ac fel morwyn gan Miss Maiy Jones, New Street. BYDDIN Y BLODYN A CHYMDEITHAS Y MERCHED IEUAINC.—Nos Fercher, yn Festri Capel Ala Road, cynhaliwyd cyfarfod o'r uchod, o dan lywyddiaeth Mrs. O. Williams. Awd trwy y rhanau arweiniol trwy ddarllen Salm gan Miss V. Hughes. Bu y genethod wrthi'n brysur yn gorphen eu gwaith ar gyfer y Cyfarfod Cystadleuol gynhelir nos Iau nesaf. Rhoddwyd hyfforddiant gyda'r canu gan Mrs. H. Pritchard, a'r adrodd gan Miss J ones.-Ãm 7-30 cyn- I haliwyd yr ail gyfarfod, o dan lywydd- iaeth Mrs. Williams. Rhoddwyd der- byniad croesawgar i Miss K. Jones Griffith ar ol hir absenoideb yn herwydd gwaeledd. Catwyd adroddiad gan Miss A. W. Jones, a chan gan Miss V. Hughes. Diweddwyd trwy weddi gan Mrs. O. Jones. TRML SOAR.—Nos Fawrth diweddaf, yn Festri Penmount, cynhaliwjd y Gymdeithas Demlyddol, dan lywydd- iaeth Mr. John Robinson, pryd y caf- wyd ganddo Ddarlith rhagorol ar Dri o Gewri y Pwlpud Cymreig," set y Parchn. John Jones, Llanedi, David Jones, Treborth, a Thomas Hughes, Machynlleth. Nid ydym yn cofio i ni erioed fod yu gwrandaw darlith mor fyw a llawn o ysbryd yr Efengyl. Yr oedd dawn a llais y tri i'w glywed mor naturiol a phe buasent hwy eu hunain yn llefaru. Yr oedd Mr. Robinson yn ei hwyliau goreu, ac yn peri i ni ddym- uno a hiraethu am gael clywed rhyw- beth tebyg yn fuan eto. Cafwyd cyn- ulliad rhagorol, ond gresyn na buasai y festri yn Ilawo, a thystiolaeth y rhai oedd yn bresenol ydoedd, mai da oedd bod yno. Diweddwyd trwy ganu emyn—Heno (nos Fawrth) yn Festri Penmount, cynheHr cyfarfod amryw- iaeth mewn canu, adrodd, ac areithio. Deuwch yno yn llu, gan y bydd yn werth gwrandaw ar y doniau fydd yno yn gwasanaethu. Gwnaed pob aelod ymdrech i fod yn bresenol.-S E. COFFEE SUPPER A WHIST DRIVE.— Nos Fawrth diweddaf, o dan nawdd Cymdeithas y Gwyr Ieuainc, cynhal- i\vyd yr i-chod yn y Neuadd Drefol. Yr oedd oddeutu tri chant yn bresenol, a threuliasant noswaith ddifyrus iawn. Llywyddid y gweithrediadau gan Mr. T. J. Houghton-Davies. Enillwyd y gwobrwyon am chware cardiau gan Mr. Roderick Roberts, Penlan Street, Mrs. E. P Jones, Goal Street, a Miss Myfanwy Evans, Rhianta, South Beach, ac am ddawnsio i blant gan Miss Gwen May Robe'ts, Paragon, Miss Edna Roberts, Mat ket Square, yn ail, a Miss M. Jones, Gaol Street, yn drydydd. Canu cerdd ddigrifol J, Mr. W H. Davies, Mount Terrace. Am y wisg ftansi oreu i, Mr Thomas Roberts, Mitre Tertace. Yn y gystadleuaeth saethu Mr. Richard Jones, King'shead Street, oedd y goreu. Mrs. F. E. Young a Lieut. J. R. Anthony oedd y beirniaid. Mri. Robert Griffith, Lleyn Street, a Ritchie Lloyd Ellis oedd meistri y seremoniau gyda'r Whid Drive. Dymuna Pwyllgor y Gymdeithas gyd- nabod caredigrwydd a gweithgarwch y boneddigesau canlytiol ynglyn a'r wledd :—Mrs. Houghton Davies, Mrs. J. H. Roberts, Paragon, Mrs. Williams, Glastryn, Mrs. Jones, Caerhydderch, Mrs. Walis Thomas, Gwalia, Mrs. Jones, Borthwen, Mrs. Jones, Llys Heli, Miss E. Williams, Rhiandy, Miss Lizzie Ellis, High Street, Miss Jones, Astoria, a Miss Jones, Glasfryn. CYFARFOD LLENYDDOL BAND OF HOPE Y TABERNACL,—Cynhaliwyd yr uchod nos Lun, Mawith 2il. Yn absenoldeb y llywydd penodedig cymerwyd y gadair gan y Cynghorydd R. Albert Jones. Beirniadwyd y gwahanol adranau gan y boneddigion a'r boneddigesau can- lynol :—Ap Gwallter, Bodfean, Mri. J. Ellis, New Street, lfan Jones, Gas Works, W. Llewelyn Ellis, W. B. Jones, Ala Stores, ac R. Griffith, Lleyn Street; Mrs. Lloyd, Maes, Mrs. Jones, Gas Works, Misses A. B. Griffith a Nell Jones; a theimla y pwyllgor yn ddiolchgar iddynt am eu gwasanaeth. Wele yn canlyn enwau y buddugwyr:— Pedwar pennill, Mr W. Llewelyn Ellis. Englyn, Mr. John Jones, Penrhos. Llinell i ddiweddu pennill, Mr. John Jones, Penrhos. Brawddegau, Miss Roberts, Gorphwysfa, Rhydyclafdy. Adrodd Doli Neuydd," I, May Will- iams 2, Ivy Sampson Griffith Williams Adrodd, "Willie a'r Ci," Hilda Sampson, Ceridwen Jones, Elsie Jones, Celia Jones, Harry Roberts. Emyn o "Llawlyfr Moliant," Iorwerth Roberts. Pencil Drawing, i. Teddy James 2, Robert Jones. Datganu, Ivy Sampson, Trevor Jones, Jennie Murray, May Williams, May Sampson, lorwerth Roberts, Elsie Jones, Nellie Murray, Annie M. Murray, Ceridwen Jones, Trevor Jones, John H. Williams. Bedroom Socks a Hemio, &c., Elsie Jones, Sarah J. Williams, Lizzie M. Jones, Annie M. Murray, Hilda Samp- son, Florie Sampson, Elsie Jones, Celia Jones, Nellie Murray, S. J. Williams. Curtain Holders, Jennie Jones Hefyd adroddodd Miss Betty Pratt Roberts ddwywaith yn dra dylanwadol, a dat- ganwyd yn hynod o swynol gan Miss Sally Lloyd a Miss Victory Hughes. Terfynwyd trwy ganu emyn. Cafwyd cyfarfod llwyddianus yn mhob ystyr.
-0--1 BODFEAN.I
0 -1 BODFEAN. I CYNGERDD —Cynhaliwyd cyngerdd yc y capel nos Fawrth diweddaf. o dan lywyddiaeth Mr Jones, London House, Nefyn, a'r Parch J Salt, rheithor Bodfean yn arwain. Gwasanaethid gan y rhai a ganlyn :-Miss Davies, Manchester; Miss Gwenonwy Griffith (Llinos Lleyn) Miss Thomas, Bryn- llaeth; Mri W. J. Hughes, Efailnewydd; H. Prydderch Williams, Mynytho, a J Williams, Caernarfon. Caed cvnhulliad lluosog ac elw sylweddol. yr hyn a ai i gynorthwyo Mr Isaac Davies, yr hwn sydd wael er's amser maith. Caed cyngerdd rhagorol, a rhoi yr oil was- anaethent ynddo eu gwasanaeth yn rhad.
-maw.-1
maw. -1 Y GYMDEITHAS LENYDDoL. -Nos Lun yn Ysgoldy y Cyngor, dan nawdd y Gymdeithas uchod, cafwyd cyfarfod amrywiaethol. Yn absenoldeb y llywydd llywyddwyd yn ddeheuig gan yr is-lywydd, Mr Griffith Jones, Tan-y- fron. Dechreuwyd trwy ganu ton gynulleidfaol dan arweiniad y llywydd. Gwobrwywyd y rhai canlynol Unrhyw adroddiad i blant: I, Lizzie Rowlands, Peoygrces 2, Kate Jones, Tan-y- capel 3, Lizzie A. Jones, Llys hyfryd, a Tommy Williams, Tanygraig. Un- rhyw Unawd i blant i, Lizzie A. Jones, Llys hyfryd. Darllen darn cym- raeg i blant Mary Williams, Bryn- awel 2, Lizzie Rowlands, Penygroes 3, Kate Jones, Tanycapel. Limerick i, Mr John Williams, Talafon. Dnr- llen darn Cynraeg Mr Isaac Row- lands, Penygroes. Gorphen diarheb- ion I, Miss Dora Williams; Tan-y- graig. Canu ton tir yr olwg gyntaf 1, Tommy Williams, Brynhyfryd. Deuawd I, Miss J. E. Jones, Terfyn, a Mr John Jones, Factory, Penycaerau. Adrodd Mr W J. Pritchard. Ysgol y Cyngor. Unawd Miss J. E. Jones, Terfyn, a T. Williams, Brynhyfryd, yn gydradd. Chwareu unrhyw offeryn cerdd Richard Jones, Penarfynydd, a Isaac Rowlands, Penygroes, yn g-yd- radd. Cafwyd can gan barti Mr John Williams, Talafon, a chan barti Mr Griffith Jones, Ty'nyfron, a diweddwyd trwy ganu yr anthem genedlaetol. —YSG MARWOLAETH.—Dydd Mercher di- weddaf bu farw Miss Mary Griffith, Brynyfran, yn 23 mlwydd oed. Cladd- wyd dydd Llun, Mawrth 9fed, yn mynwent Nebo. Cydymdeimlir yn fawr a'i hanwyl fam a'i chwaer. 1'
ITREFOR
I TREFOR EISTEDDFOD GWYL DEVVL—NOS Sad- wrn diweddaf, cynhaliwyd Eisteddfod Iwyddianus a hwyliog yn Ysgol y Cyngor. Llywyddwyd gan Mr Row- land Rowlands, yr Eifl, ac arweiniwyd gan Mr R. Lloyd Jones, yr ysgolfeistr. Enillwyd y prif wobrwyon fel a ganlyn Unawd i ferched, "Y Deryn Pur" I, Miss Lucy Hughes, Manchester House. Chwibianu, Llwyn Onn 1, Hugh D. Jones, Arvonia. Englyn, "Tretor": David Jones, Penybont Llythyr i gydymdeimlo a chvtaill wedi colli ei gariad: Wm. Roberts (Gwilym Ceiri). Pwyntil ddarlun, 'Ceninen Pedr' 1, Richard Cadwaladr, Penmaen. Unrhyw unawd wladgarol Gymreig (i feibion) I, Matthias Williams, Trefor. Adrodd ystori ferchwaethus: B. Roberts, Glandwr. Cyfieithu araeth Marc An- tony i'r Gymraeg: I, T. F. McClement, Trefor. Can ddesgrifiadol, "Gweith- dy'r Crydd I, G wilym -Ceiri. Ped- warawd. Rhywun I, Parti Wm. Bautrt. Traethawd, "Anghenion Tref- or Gwilym Ceiri. Ymgeisiodd tri pharti ar dd-atganu 44 Y Gwanwyn" (Muller), a dyfatnwyd y wobr i barti dan arweiniad Mr Christmas Evans. Enilliwyd y gadair dderw gerfiedig am bryddest i'r 41 Amaethwr gan Mr H. D Williams (Huw Gwynedd), Trefor, ac aed drwy seremoni y cadeirio mewn dull gwir Gymreig. Yn ystod y cytar- fod datginwyd penillion telyn gan barti o blant yr ysgol. Cafwyd un o'r cyf- arfodydd goreu gynhaliwyd yma erys blynyddau. Gwasanaethwyd fel beir- niaid gan y Parchn S. F. Davies, a J. j Phillips, a Mr R. E. Griffith, ar lenyddiaeth Pencerdd Eifion a Mr J. Roberts, New St., ar y gerddoriaeth Mr John Cooke ar yr arlunio, a Mr F. Buckingham (Madog), Tremadog, ar y farddoniaeth. Cyfeiliwyd -an Miss M. J. Bott, a Mr E. H. Hughes, A. L.C. M. Yr ysgrifenydd ydoedd Mr T. F. McClcment, a'r trysorydd ydoedd Gwilym Ceiri.
- -0- . Gael Dyn yn Gorph…
-0- Gael Dyn yn Gorph ar ffordd Chwilog. WEDI YFED GWENWYN. Ddydd Mercher diweddaf, caed William Henry Evans, dilledydd o Borthmadog, yn gorwedd yn farw ar y ffordd rhwng Chwilog a Llanystumdwy, a photel wenwyn wrth ei ochr. Yr oedd y trancedig yn adnabyddus iawn fel Ceidwadwr, Eghvyswr ac aelod o Urdd y Seiri Rhyddion. Ddydd Gwener, bu Mr O. Rob) ns Owen, y Crwner, yn cynal trengholiad ar v corff. Tystiwyd gan John Hughes, dyn a weithiai ar y ffordd, iddo ganfod y corff a photel wenwyn a gwydr wrth ei ochr. Dywedodd Dr Gladstone Jones, Criccieth, tod y botel yn ymarferol wa, ac y bu digon o wenwyn ynddi i ladd wyth o ddynion. Os mai fferyllydd werthodd y gwenwyn, yr oedd wedi tort'r gyfraith wrth beidio rhoi ei enw ar y botel. Dywedodd yr heddgeidwaid eu bod wedi methu cael allan pwy oedd wedi gwerthu'r gwenwyn. Darllenodd y Crwner ranau o lythyr gyfeiriwyd gan Evans i'w wraig, ac hysbysodd fod y rhanau na ddarlienwyd yn cyfeirio at fater oedd yn amlwg wedi pwyso ar feddwl y trancedig. Pasiwyd rheithfarn ddarfod iddo gymeryd gwenwyn mewn ysbaid o wallgofrwydd, ac ar gynygiad yr Henadur Jones Morris cymeradwywyd ar fod i boteli gwenwyn gynwys nodau ar y gwydr fel y gellir gwybod pwy a'u g werthodd. n
Twyllo gyda'r Ddeddf Yswiriant.
Twyllo gyda'r Ddeddf Yswiriant. Yn un o lysoedd Llundain, ddydd Llun, cyhuddwyd llafurwr o'r enw Charles Tresner o dderbyn budd afiechyd o dan y Ddeddf Yswiriant drwy dwyll. Dywedwyd gan y cyfreithiwr erlynai i'r difFynydd apelio am tudd mewn afiechyd yn Nhachwedd diweddaf, ac y talwyd iddo ddeg swllt yr wythnos am ddau fis. Gwnaed ymholiad, a chaed allan fod y dyn yn gweithio ar hyd yr amser, ac wedi derbyn dros ddeg punt mewn cyflog. Yr oedd papurau wedi eu harwyddo'n wythnosol gan feddyg yn dangos fod y dyn yn analluog i weithio, a phe bae'r meddyg yn bresenol yn y llys, meddai'r cyfreithiwr, cai glywed ychwaneg yn nghylch y mater. Addefai y dyn ei euogrwydd, a dyw- edai mai gwaeledd ei wraig achosodd iddo wneud y twyll. Sylwodd yr ynad fod yr achos yn un difrifol iawn, ac yr oedd yn cael ei wneud yn fwy felly oherwydd y cefnog- wyd y dyn gan toneddwr oedd mewn safle anrhydeddus a chytrifol. Onibae am hyny buasai'n cospi'r diffynydd yn drymach. Anfonwyd ef i garchar am ddau fis gyda liafur caled.
j Eisteddfod Chwilog.
Eisteddfod Chwilog. CERDD-GOFFA I'R DIWEDDAR MR EVAN JONES (leuan Eifion). Derbyniwyd saith o gytansoddiadau. —Dewi, Gwlithyn Parch, Rhosyn Gwyn, Hiraethus, Cyfaill Galarus, Er Cof, a Wrylofus. Mewn cyfansoddiad o'r fath yma, nid y mwyaf barddonol, o an?enrheidrwydd fydd y goreu. Rhaid cadw'n fTyddlon i nodweddion yr hwn gofleir. Yr un pryd, disgwylir cerdd auenyddol, ac nid bywgraffiad wedi ei oJli. Ac fe ddylai Cerdd Goffa fod yn wresog ei chalon. Ceir cryn amrywiaeth yn y gystadleuaeth hon rhai yn farddonol, heb fod yn nodedig o destynol rhai yn gywir, heb fod yn awenyddol ac o leiaf un yn gyfuniad pur dda o awen farddonol a ffyddlondeb portreadol WYLOFUS.—Bu yntau'n ddiofal mewn mannau. Nid y"r canlynol ond cyffredin iawo.- Y planhigyn bach a wclwyd, Yn har,ltl golofn yu y ty. Hyd yr adeg y'i symudwyd, I brydferthu'r L'ysegr fry. Wrth ddisgrifio gallu cof anghyffredin y gwrthrych, a'i fwynhad wrth drafod y trysorau oedd yn ei feddwl, gellsid yn hawdd gael well cymhariaeth na chybydd. "— flaelionus otdd, oud oybydd gyda'r rhaiu Yu troi a thros o hyd ei emau cain. Ond er gwaethaf rhai gwendidau, cerdd goffa ragorol i Ieuan Eifion yw hon. Arweiniai ni ar unwaith i olwg yr ymadawedig, a chedwir ni gydag ef ar hyd y ffordd. 'Does dim tebyg i "chware mig" rhwng y bardd a'i destun. Teimhvn fod personoliaeth arbennig Ieuan yn tyfu ar ein meddwl wrth ddarllen ymlaen. Ni cheir yma ormodiaith mewn dim eithr nodweddir y gerdd gan symledd a choethder, tlysni tyner, a naturioldeb ffyddlon. Bu'r bardd yn ffodus yn ei gynllun, a llanw- odd ef yn djeheuig. Wedi darllen yr holl gyfansoddiadau hyn yn ofalus, da genyf fy mod yn holl- ol ddibetrus yn fy marn gyda g-olwg ar y goreu. Er fod yn y gystadleuaeth well cerddi o ran barddoniaeth, gellir cyplysu Hiraethus a Wylofus fel y ddau ffyddlonaf i'w testun, < nd y goreu oil, yn ddiamheuol yw Wylofus, ac iddo ef y dyfernir y wobr.-PEDROG.
—u— I (BobcDiactbau. __,
—u— I (BobcDiactbau. Nid ydym yo gyfrifol am syniadaa ein I gohebwyr. —Got,. COST TYBACO AM 1913. Dros J!.] 3a. 9c yn yflil-yddyit ar gyfer pob I tculu 0 5 trwy y Deyrms. < I Y mae Mr R. P. Moncrieff, New. castle-on-Tyne, wedi dwyn allan ffigyr- au am gost tybaco am y fiwyddyn ddi- weddaf, ac y mae y swm yn cyraedd i £ 31 >657,713, tra y mae y swm a war. iwyd ar bibelli, &c., yn agos i filiwn o bunau, yn gwneud cyfanswm o 432,- 603,681, at borthi y blys afiach hwn y flwyddyn ddiweddat. Y mae hyny dros 12s. gc. y pen ar gyfer yr holl boblog- aeth, neu dros ^3 3s. gc. yn y flwydd- yn ar gyfer pob teulu o 5. Dywed Mr Moncrieff fod tybaco YN ELYN I IECHYD, nid yn unig i iechyd yr ysmyguyr eu hunain, ond i iechyd eu teuluoedd hefyd. Pa bryd y bydd i ddyngarwyr a Christionogion ddyfod allan yn erbyn y drwg hwn sydd yn ysu i fyny nerth, yni, ac iechyd yr oes sydd yn codi ? Deallwn fod Cyngor yr Eglwysi Rhydd- ion yn galaru wrth feddwl am sefyllfa ieuengctyd y dref, a ddarfu i'r brodyr hyn feddwl am y lie sydd gan ysmygu yn y difrod ar fechgyn ? Y mae rhai o firms mwyaf y deyrnas yn awr r.a chaiff bechgyn yn ysmygu fyned i'w gwasan- aeth Syndod i mi oedd gweled cyfreith- iwr yn ysmygu wrth y ddesc pan yn gwneud busnes gyda boneddwr,—a mwy o yndod na hyny oedd gweled dynion ieuainc wrth eu gwaith mewn swyddfa bwysig yn ysmygu. Ai ni ddylai swyddogion sefydliadau feddwl am eu cwsmeriaid tybed ? Wrth edrych ar swm y bil am dybaco ai nid yw yn bryd meddwl pa peth wneir i wynebu y drwg? Onid oes i'r eglwys waith yn y cyfeiriad hwn ? A ydyw arweinwyr yr eglwysi yn sylweddoli y niwed y mae tybaco yn ei wneud i bob awydd at fywyd ardderchog ? Y mae y llanc sydd yn gaeth i dybaco, yn enwedig os wedi dechreu yn ieuanc, yn un fel rheol nad yw ond gwr o nerth cydmarol fychan yn mhob man, ond mewn chicareu- on. Darllenasom yn Yr Herald am y siarad yn Fourcrosses am dalu i breg- ethwyr. Da iawn. Ond meddylier am bob teulu o 5 yn gwario dros ^3 3s. 9c. at eu gilydd am dybaco bob blwyddyn. Pa faint y maent yn ei roddi at grefydd tybed ? Hyderaf y bydd i chwi rodd. cymhorth trwy YR UDGORN i wyntyllio' mater.-TREFWRo-- I
Manion. I
Manion. I Yn ysbytty Caernarfoo a Mon, yn 1 Mangor, ddydd Llun, anrhegwyd Miss Paynter, yr hon sy'n ymddiswyddo ar ol bod yn famaeth yr ysbytty am ugain mlynedd, a cheque am 103P. Bu farw dyn o Gaernarton or enw I Owen Thomas yn Ysbytty Caerdydd y diwrnod o'r blacn. Yr oedd wedi cyfarfod a damwain yn y gwaith glo. Cafodd dau ddyn yn Woolwich eu dirwyo i 24p. yr un am ymddwyn yn greulon at geffyl drwy ei weithio ag yntau mewn cyflwr gresynus.
r Karttooniaetb.
r Karttooniaetb. CAN DDESGKIFIADOL O I)I)ATif; I.AL) GWYL FAI, 1^13, YN MHWLLdliLf. Buddugol yn Nghyfarfod Llenyddol Seion Dychraygaf weIed rhy" un, Ymhen blynyddoedd lu, Yn chwilio ac yn chwalu YmyBif y pethau fu Ac ynjhlith petbau craill,- Tiychineb tan a dwr— Gwyl Fai yn nhref Pwllheli A ddathlwyd ddigon siwr. Meddyliwyd lawer hlwyddyn Am ddathlu'r wyl mewn bri, A syndod n& wetthredwyd Ne8 tiaeth one-nine o e-three Ond pwyllgor cryf a ff ii-fiwyd, Trefmadau pertfaith wnaed. A throdd yr Wyl yn llwyddiant Digymysg, dinacad. Dydd Iau yr Wyl a wawriodd, Bygythiol oedd yr hin Ac wedi cymaint parot i 'ROt:dd I awer un yu diu. Prydfeithwyd a baneri Hob heol yn y dref, Ac yn y Maerf fe fFnrfiwyd Gorymda th hardd a abref. Blaenorid gan y seiridorf, Dilyuai plantos lion, Turnoutu a cycles hardda' erioed, A tableaux newydd apion Ceffylau'n llawn rubanau, A boyg mewu fancy dtees, A'r gair 'sgrifenwyd ar bob peth Yu eglur oedd success." Ac yna cydyjugasglodtl Y trt fwyr, fawr a man, I'r neuadd, at brif waith y dydd, I nanol duwns a chan. Am weld y seremoni Ar lawar un 'roedd chwaut. Set rboddi corou ha dd ar ben Dewisol uu y plant. Ac wele Annie Mary Yu eistedd yn ei sedd, A wnaed ar fyr yn orsedd Gan Faeres Ion ei gwedd. Difyrwyd pawb o'r dyi f.* Can branciau difyr chwim Ni siomwyd neb gan blant y drof, Oud boddiwyd hwy i'r dim. Ac ar ol dathliad campus, Y cyntaf welsom 'rioed, Dymunwn wel'd cyftelyb Bob blwyddyn sydd 1 dtlod A llwyddiant i bob ymdiech 1 gadw'r wyl yo fyw. A gwueled pawb a pbobpetb Bob un a pbawb yn dryw. Caerdydd. KICHAHU KOBHKT.S
Advertising
Carnarvonshire Education Committee. THE Committee propose, during the ensuing summer, to carry out schemes of repair and minor improve ments, including painting, upon the following Schools, viz. ) I. Penmorfa. i i. Dwygyfylchi. ( 2 Morfa Bychan. 12. Llaniestyn. j 3. Maenan. 13. Nant Peris. | 4. Abersoch. 14. Rhiw. j 5. Chwilog. 15. Tretriw. 6. liira1. 16. Carneddi. 7. Llithfaen. 17. Golan. 8. Pentreucha. 18. Llanwnda. 9. Rhydyclafdy. 19. Penisa'rwaen. 10. Capel Curig. 20. Crigydon. Contractors desiring to tender for the work in respect of one or more of the Schools, are required to forward their names to the undersigned not later than the 31 st March instant, stating in respect of what School or Schools they desire to tender. EVAN R. DAVIES, Secretary of Education. County Education Offices, Carnarvon. 7th March, 1914. To Let, rpWO SHOPS at Market Hall, Pwll- -*• heli. For partlcul;ts-,s apply Hall- keeper (Mr J. J. Edwards), or Borough Surveyor. -+ B ERLLAN, PWLLHELI Apply to T. J. Houghton Davies, Solicitor, P% llheli. House AND SHOP in good, position, suitable for any trade. Also a House known as Snowdon View, South Beach. Apply :-ROBlSSOS, Allandale, Pwllheli. Wanted. APPRENTICE for the Millinery. 1. Apply-Edward Wiiliams, Shop Glasfryn, Pwllheli. NEW LAID EGGS. Messrs Colin Taylor, King & Co. (1911) Ltd., 80, High Street, Watford, al e constant buyers of guaranteed New Laid Eggs, free on rail, at market prices. Own boxes sent. Cheque posted directly Eggs are received THE ANNUAL HORSE AND DOG SHOW will be held at N E V I N, EASTER MONDAY. Forms and Schedules to be had from the Secretary- OWEN JONES, Moriah Street, Nevin CHWECHED EISTEDDFOD GWYR IEUAINC N E F yo N, Dydd Mawrth, Mal 19eg, 1914. Testynau am geiniog oddiwrth yr ysgrifenydd— D. J. GRIFFITH, Ty Newydd, Nefyn. Sale by Messrs. B. Parry A SOD. IMPORTANT SALE OF FREEHOLD SHOP PREMISES IN HIGH STREET, PWLLHELI. MESSRS. ROBT. PARRY & SON J. 1 have been instructed to offer for Sale bv Public Auction at the CROWN HOTEL, PWLLHELI. ON WED- NESDAY, MARCH 18th, 1914, at 2-30 p m., all that equal halt share or moiety in those excellent FREEHOLD SHOPS AND PREMISES being 69, HIGH STREET, held under Lease by the Star Tea Company at an Annual Rent of £ 50, and 61, HIGH STREET, now in the occupation of Mr. Morruzzi, at an Annual Rsnt ot;630- For fuither particulars apply to Harvey Clifton, Esq., Solicitor, 4, New Court, Uncolns Inn, London, W.C., or to Messrs. Moreton Pritchard & Jones, Solicitors, Newiy House, Holyhead, or to the Auctioneers, 5, Salem Terrace, Pwllheli. TOWN HALL CINEMA. ( Under Municipal Management. THE BESr AND LATEST PICTURES ¡ Entire Change of Programme Twice Weekly. Patronize your own Cinema. POPULAR PRICES. Commencing at 8 p.m. IMPORTANT NOTICE. RETURN VISIT OF THE GREAT NATIONAL 6d Bazaar from the COLISEUM, ABERYSTWYTH, to the MARKET HALL, PWLLHELI. Grand Opening Day, FRIDAY, March 13th. COME IN THOUSANDS AND SNAP THE BARGAINS. FOR A SHORT TIME ONLY. THOS. EDMUNDSON, Manager. COME AND HELP On Thursday Evening, Maroh 19th. A SOfREE & ENTERTAINMENT will be held at the Cardiff Road English Congregational Church To commence 7-30 p.m. EISTEDDFOD GADEIRIOL ANIilBYNWYR ABER80CH, A GYNHELIR Gwener y Groglith, EbrilllOfed Beirniad Cerddorol T. R. WILLIAMS, Ysw., A C Tretriw. Beirniad Llenyddol W. D. JONES, Ysw., Morfa Bycban. Cyfeilydd Miss LALRA PRITCHARD, (Perdones Cynfal), Ffestiniog. RHAI OR PRIF DESTYNAU. BARDDONIAETH. "Gojnthdo" fod dan 100 llineU). l.'vobr, (a,itlir Odei w Hardd (rhoddedig gan Mr. -T. C. Jones, Pretoria Warehouse, Pwllheli). ADRODDIAD. AdrOtidiad (scored i rai dros 16eg oed) Ie..u" (Golyddan) Gwobr. 5s. a Medal Ari-t, (rhoddediy gan Mr. T. Owen, Maes, Pwllheli 1. CERDDORIARTH. I'r Cor heb fod dan Waiii mewn nifer a gano'n oreu Ar Don o lfaen GWYDtoedd" I (Dr. Parry). Gwobr, f3 3s. a Chwpan Arian Hard,i Ar-A-eiii),dti. I IGor" Blant, heb fod drop 16eg tIed na than 20ain m-wn nifer, o un Bind of Hope, a gano'n oreu Lwli Pei (Joues Owen). Gwohr, fl i«., a S; krf Pin Aur i'r Arweinydd (rh, ddedig gan Mi J. Gabriel Jones, Jeweller, High Street, wllheli) I'r C< Meiliion, heb fod dan \I_iD mewn nifer, a -ano'n oreu Y Gwanwyn (lluller). (,' wol)r, I a Pair if Picturr hardd (rhodlledig gan Mr. Owen J ut)R. Abersoch Meat Stores). I'r o ddecddeg a g¡if\o'n oren y ddwy don L-angriatioltis a "Brwynog"(ftUtao Daflen Omanfa yr Annibynwyr, 1914. Gwobr, 12. Hrr t'uawd Bore'r Trydydd hydd (E. 1). Hoy Adored i rai dros IS oed. Gwubr, 10s. 6d a lal A<mu C?Bol A?r (rhoddedig g-u Mr. W. I. TolelnD. Pwllheli). Rhe.t- 1"WII o'r Tentytian i'w cael oddiwrth yr Yagr tuydd,— Knwai yr ymgeiswyr ar y datgiBD a'r &drodd. iadau i -d yn llaw yr ysgrifenydd rt by l lbri)I 4ydd.. l\ OK DAVIES, Glam Dulyu, Abersoch.