Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

NODION A HANESION.

Dyn yn Boddi ei Hun ynI Liangian.

News
Cite
Share

Dyn yn Boddi ei Hun yn I Liangian. EI YRU O'I BWYLL GAN 1 AFIECHYD Cynhaliwyd trengholiad yn Mynytho, ddydd lau diweddaf, ar gorff Owen Jones (Cong-I y Gadlys), yr hwn a gaed wedi boddi ei hun yn yr Afon Soch fore Mercher. Chwarelwr wrth ei alwedig- aeth oedd y trancedig, ac yr oedd yn haner cant a chwech mlwydd oed.. Yn y trengholiad dywedodd Griffith Jones fod ei frawd yn wael er's arnser maith, a'i fod wedi mynd yn isel iawn ei feddwl oher < ydd y tybiai ei fod yn dioddef oddiwrth y cancer, er fod y meddyg wedi ei sicrhau i'r gwrth- wyneb. Yr oeddynt yn cysgu gyda'u gilydd, meddai, ac oddeutu tri o'r gloch foreu Mawrth cododd Owen Jones o'i wely ac aeth allan o'r ty. Aeth Griffith Jones ar ei ol, ond methai a'i weled yn y tywyllwch. ^Gwnaed pob ymchwil posibl am dano, a foreu Mercher deuwyd o hyd i'w gorff yn yr Afon Soch, oddeutu dwy fiUtir o'i gartref. Yr oedd ei ddwylo wedi eu cylymu ynghyd heto cadach p?ced. Pasiwvd rheithfarn i'r perwyl ddarfod i'r trancedig foddi ei hun, tra mewn cyflwr o orphwylledd. --o

IDamwain yn Nhloty Pwllhell.

Rheswm o Bwllheli.

Llofruddiaeth Willie Starch-…

[No title]

Y Trychineb yn Llandegai.

I Awyrwr Ieuanc yn Cael EiI…

Cyhuddo Crwydryn.

Etholiad Durham.I

Gweinyddiaeth Unedig. I

Cyngor Dosbarth Lleyn. I

Hfcolpgiab.