Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Advertising
Attendance Notice. Bydd Mr. Ranleigh Jones, L.D.S., R.C.S. (Edi.), SURGEON DENTIST, yn ymweled a Pwllheli bob DYDD MERCHER, yn aros gyda Mr. BOWEN, Gpoeer, High Street, oily boreu dan 4 y prydnawn.
'- PWLLHELI.I A*__
PWLLHELI. I A* CYHOEDDIADAU SABBOTHOL.—Ion. 18. Penlan (A.), am 10, Parch. J. Rhydderch, i Gweinidog; am 6, Parch. D. W. Roberts, Cardiff Road. Capel Seisnig (A.), Card-tit Road, am 11 Parch. D. W. Roberts, Gwemidog am 6-30 Parch. J Rhydderch, Penlan. Penmount (M.C.), am 10 a G, Parch. 0. G. Owen (Alafon), Ysgoldy. Salem (M.C.), am 10 a 6, Parch. John Hughes, B A Gweinidog Capel Seisnig (M.C.) Ala Road, am 10 a 6, Parch E. A. Da vies, B.A. Tabernaol (B.), am 10 a 6, Mr. T. Owens, Coleg Bangor. Seion (W.), am 10, Parch E. Mostyn Jones, gweinidog am 6, Mr. John Williams, Rhiw. Hen Gapel y Bedyddwyr North Street,am 2, Y sgol. Ysgol Genhadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6. Cyfartod Gweddi. Ysgol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi; am 2, Yegol. South Beach (M.C.), am 2, Parch David E Daviea. Tarsis (M C.), am 10 a 6, Parch. David E. Davies. St. Pedr. 9-30 a 6 (Cymraeg), ll a 6 (Seisnig) Parch J. Edwards, B.A., Ficer, a'r Parch 1". VVoodiDgs, B.A.. Curad. Cenhadaeth Lydewig North Street, R. G., lun 10-30, Offeren Sanctaidd, am 2, Ysgol; am 6 30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P. Mero-ur benedicsiwn. CYMDEITHAS LENYDDOL Y TABER- NACL.—Nos Wener diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr Albert E. Jones, Liver- pool House, darllenwyd papur ar 44 Wareiddiad a hunanladdiad gan Mr R. Gwynedd Evans, Salem Terrace. Siaradwyd ymhellach gan amryw o'r aelodau, a diolchwyd yn gynes i'r brawd am ei lafur. Hefyd diolchwyd i Mr A. E. Jones am lywyddu. CYMDEITHAS LENYDDOL PENLAN.- Nos Wener diweddaf, o dan lywydd- iaeth y Parch. J. Rhydderch, cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol, yn yr liwn y cymerwyd rhan gan y rhai a ganlyn Mrs. Rhydderch, Mrs Roberts, Aber- erch Road, Mrs. a Miss Mary Davies, Ash Cottage, Mrs. Roberts, Llys Ber- wyn, Miss Annie Thomas, Eifionydd, Mri. Richd. Jones, Hughie Roberts, W. H Jones, John Ellis, D. John Jones, a'r llywydd. CENHADAETH DDIRWESTOL.—Cynhelir cenhadaeth ddirwesol yn ysgoldy capel Penlan hyd nos Iau yr wythnos hon. Cynhaliwyd y cyfarfjd cyntaf neithiwr (nos Lun). Llywyddwyd gan y Parch.: E. Mostyn Jones, gweinidog Seion. Ar ol gair gan y llywydd ac adroddiad gan Mr. John Robinson, South Beach, caed anerchiad rhagorol gan y Parch. J. Glyn Davies, Rhyl. Heno (nos Fawrth) anerchir y cyfarfod gan y Parch. Joseph Jenkins, Blaenau Ffes- tiniog, a'r Parch. D. Gwynfryn Jones. Y.M.A.Nos Lun diweddaf. dan lywyddiaeth Mr. T. J. Houghton- Davies, caed anerchiad rhagorol gan Mr. Robert Jones, Sand Street, yr hwn sydd gartref ar ymweliad o Dde Affrig i dreulio ychydig o wyliau. Yr oedd cynulliad lluosog ynghyd. Diolchwyd iddo am ei anerchiad ar gynygiad y cadeirydd, yn cael ei eilio gan Arifog.— Nos Lun nesaf ceir dadl ar gwestiwn Ymreolaeth yr Iwerddon. Agorir gan y Cadeirydd a Mr. O. H. Roberts, Shop yr Eifl. YR YSTORJI.-Bu'r bywydfad allan am bymtheng awr brydnawn a nos Fawrth diweddaf, yn gweini ar y sgwner William Martin, o Dublin, yr hon oedd wedi rhoi arwyddion ei bod mewn cyfyngder. Yr oedd y sgwner ar y pryd mewn perygl o gael ei gyrru ar Sam Badrig, ond gostegodd yr awel yn ystod y nos, ac wedi hyny cafodd ei thynu i Hafan St. Tudwal gan y steam-trawler Virbinia. Dychwelodd y bywydfad yn ol boreu Mercher, wedi bod allan drwy y nos. 44 RHvs LEWIS. "-Gwelir oddiwrth ein colofn hysbysiadol fod Cwmni en- wog Barlwyd, Blaenau Ffestiniog, ar ymweliad a'n tref nos Fawrth nesaf, i berfformio y Ddrama boblogaidd uchod, ac y maent yn edrych yn mlaen am getnogaeth y dref i'w noddi ar eu hym- weliad. Mae ein masnachwyr ac eraill o dan ddyled i Ffestiniog a'r cylch am y graddau helaeth o gefuogaeth y maent hwy yn ei roddi i'r dref yn en- wedig yn ystod misoedd yr haf. Mae y Cwmni yn werth ei glywed. CWRDD TE.—Brydnawn Iau diweddaf, yn ysgoldy Penlan, bu merched yr eglwys yn cyfranogi o de agoriadol y Gymdeithas Wnio berthynol i'r achos. Yr oedd cynulliad da wedi dod ynghyd, a mwynhawyd y wledd yn fawr, yr hon a roed gan un o aelodau yr eglwys. Diolchwyd am y wledd, a dymunwyd pob llwydd i'r dosbarth, ar gynygiad y Parch. J. Rhydderch, y gweinidog, yn cael ei eilio gan Mr. G. M. Roberts, Marsley House, a'i ategu gan Mri. Evan Thomas, Eifionydd, a Richd. Jones, argraffydd. Yna caed gair o berthynas i amcan y dosbarth gan Mrs. Rhydderch, a Miss Lizzie Ellis, Heol Fawr, yr ysgrifenyddes. LLWYDDIANT UN o HOGIA'R DRE'.— Da genym glywed am lwyddiant un o hog-ia'r dre', sef Mr. H. R. Jones, Caroline House, yr hwn tu yn llwydd- ianus yn Eisteddfod Middesborough yr w) thiios ddiweddaf Yng nghystad- leuaeth yr Unawd Cymreig Mr. H. R. Jones a Mr. Ernest Thomas, Middles- borough, ddaeth ar y llwyfan, a dyfarn- odd y beirniad (Dr. Bairstow) ef yn oreu gyda 96 o farciau, a chanrnoliaeth uchel. Hefyd yng nghystadleuaeth yr Unawd Baritone neu P ass, "Rolling in foaming billows (o'r Creation), yr oedd 26 o ymgeiswyr, a dewiswyd dau i ddo'd ar y llwyfan. Wrth draddodi ei feirniadaeth dywedodd y beirniad tod y ddau wedi rhoddi datganiad canmol- adwy, ond fod un wedi rhagori rhyw ychydig, a dyfarnodd y wobr i Mr. Charles Pig hiJIs, Bradford, gydag 89 o farciau, a'r ail i Mr. H. R Jones, gydag 86 o farciau. Sicr genym ein bod fel trefwyr yn talch o'i lwyddiant, ac yn dymuno mwy iddo, gan ei fod wedi gwasanaethu ei hen dret gyda cherddor- iaeth am flynyddau. CYSTADLU SAETHU —Cymerodd yr ail gystadleuaeth le rhwng y Tiriog- aethwyr a'r tiefwyr ar nos lau, lonawr 8fed, yn y Drill Hall. Y Tiriogaeth- wyr drachefn fu lwyddianus gyda mwy- afrif y marciau yn 127. Yr uchaf ei farciau oedd Private John Thomas, .gyda 66 allan o 70 posibl, a Mr Lloyd, eilliwr, oedd y goreu o'r trefwyr, gyda 64. Aeth y wobr gyntaf i Private John Thomas yr ail wobr i Griffith J. Thomas, a gwobr y recruits i Pte. T. Williams. Wele farciau pob un o'r ymgeiswyr :— Tiriogaethwyr. Lt Emrys Evans 56 Lt J. R. Anthony 62 C. Ser. Ravenhill 63 Ser. P.G.Hughes 63 Cor E.J. Williams 63 Cor R. Roberts 58 Pt. John Thomas 66 Cor. J. Griffith 57 Pt. G. W.Griffith 61 Pt. Howe! Jones 49 598 Trefwyr. Lloyd (capt) 64 R. W. Roberts 62 O. J. Griffith 60 Hugh Jones 57 H. P Williams 50 R. Thomas 45 D. Williams 43 E. J. Evans 33 John Roberts 46 Bob Hughes 11 471
-o - ABERERCH.
-o ABERERCH. MARWOLAETH SYDYN.-Cyfeirio yr ydym at farwolaeth sydyn a thra anis- gwyliadwy Mrs Gaynor Evans, yr hyn a gymerodd le nos Lun, Ionawr sed, yn Llanbedrog. Gadawodd hi a'i phriod, Mr Robert Evans, y pendref y boreu Llun crybwylledig yn llawen a s iriol, er mwyn treulio diwrnod yn nghym- deithas perthynasau a chyfeillion yn Llanbedrog. Pan yr oeddynt ar gych- wyn yn ol tuag adref, tarawyd hi'n wael, a bu farw ar unwaith. Gan mai yn Llanbedrog yr oedd claddta y teulu, yno y claddwyd hithau ddydd Gwener diweddat. Cydymdeimlir a'r perthyn- asau oil yn y brofedigaeth chwerw.
FOUKCliOSSES.I
FOUKCliOSSES. I CYFARFOD DIRVVESTOL..—Cynhaliwyd cyfarfod dirwestol yn ysgoldy Ebenezer, o dan nawdd cymdeithas ddirwestol y lie, pryd y llywyddai Ceridwen Peris. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Miss Laura Roberts, ac yna dar- llenwyd amryw ysgrifau ar wahanol destynau. CAn gan Miss Annie Jones, ac hanes Cymdeithas Ddirwestol Llun. dain gan Mrs Daniel. Cafwyd cyfarfod hwyliog a chynulliad lluosog.
-o - RHYDYCLAFDY.
-o RHYDYCLAFDY. LLWYDDIANT.—Da genym ddeall am lwydd cerddorol un o enethod ieuanc yr ardal, sef Miss Mary Kate Thomas, merch Mr a Mrs. Thomas, Carneddol, yr hon sydd wedi mynd yn llwyddianus drwy arholiad Coleg y Drindod Llun- dain, am y Preparatory Grade.
>0 |TREFOR.
>0 TREFOR. DYRCHAFWYD.-Y mae pump o or- uchwylwyr wedi eu dewis o blith y gweithwyr yn Chwarel yr Eifl i gymer- yd gofal rhanol o'r gwaith. Y maent wedi cael eu gosod fel y canlyn, sef Mr Morris O. Jones, Bodathen, ar y Bone uchat a'r bone agosaf ati (Bone bach) Mr William Baum ar y drydedd Bone a'r Bone ganol Mr Charles New- bold ar y Bone isaf Mr Joseph Antill ar y 44 New Opening," a Mr Cobman i gymeryd yr Office a'r Porthladd. Cred- ir trwy y penodiadau hyn fod cyfnod arall o chwyldroad yn hanes Chwarel yr Eifl. PRlODAS. Ym Mhwliheli, ddydd Iau diweddaf, priodwyd Mr Edward Japheth a Miss Williams, Green Terrace. Gwas- anaethwyd fel gwas gan Mr Frederick Me Patrick, ac fel morwyn gan Miss Mary E. Williams, chwaer y briodferch. Dymunwn iddynt bob hapusrwydd yn eu hyd newydd.
!-0-Y Trychineb yn Llandegai.
0 Y Trychineb yn Llandegai. I CYHUDDIAD 0 DDYNLADDIAD. Y mae Thomas Ellis, gyriedydd y modur aeth ar draws Alfred Cecil, mab ficer Llandegai, nos Calan, ac a'i lladdodd, wedi cael gwys yn ei gyhuddo o ddynladdiad Gwrandewir yr achos yn Heddlys Bangor heddyw, pryd y ca Ellis ei ollwng yn rhydd neu ei dradd- odi i s6fyll ei brawf yn Mrawdlys CaernaHon, sy'n dechteu y Uun nesaf.
IAngeri yr Amaethwr.
I Angeri yr Amaethwr. I SICRWYDD DALIAD. Wrth anerch ei etholwyr yn Sarn dywedodd Mr Ellis W. Davies, A.S., mai polisi'r Llywodraeth oedd fod i bob anghydfod rhwng y tirteddianwr a'i denant gael ei setlo gan y Ddirprwy- aeth Dir. Yr oedd y Pwyllgor Tir wedi ei orfodi i ddod i'r penderfyniad hwnw gan dri o resymau. Yr oedd y ffermwyr yn cwyno ar bob achlysur nad oedd ganddynt sicrwydd datiad, a hefyd pan ddeuai eu tenantiaeth i ben nad oedd yr iawn-dal a gaent yn ddigonol. Mewn llawer o achosion nid oedd gan y tirfeddianwr help i'r ansicrwydd, bryd arall codai oddiar reswm personol neu wleidyddol ac er mai ychydig o'r achosion hyn ellid eu priodoli 'n uniongyrchol i hyny, nid oedd amheuaeth am effaith yr achosion ar y dosbarth amaethyddol yn y rhan- barth. Yr oedd wedi cael llythyr yr wythnos flaenorol yn ei anog i beidio rynal cyfarfod gwleidyddol mewn pentref neillduol, gan nad oedd y ffermwyr yn hoffi dod i'r cyfarfod rhag ofn aigio'r tirteddianwr.
o Mil o Bunau o lawn i'r Ciwrad.
o Mil o Bunau o lawn i'r Ciwrad. Daeth y prawf ddygwyd ymlaen gan y Parch Thomas Ghent, ciwrad eglwys St. Andrews, Stockwell Green, yn erbyn Mr Arthur Fitzgerald, rhingyll o heddlu Llundain, am athrod honedig i derfyn sydyn ddoe. Gwrandawyd yr achos gyntaf o flaen yr Arglwydd Brif Farnwr yn Tachwedd, ac ar ol naw diwrnod o brawf methodd y rheithwyr a chytuno. Pan alwyd yr achos ger- bron Llys Maine y Breniu ddoe ym- adangosodd y diffynydd i apelio am ohiriad ar y tir nad oedd ganddo fodd- ion i gytarwyddo ei gytreithiwr. Gwrthodwyd yr apel gan y Barowr Lush, a gadawodd y diffynydd y llys gan ddweyd y gallai yr achwynydd gymerydd ei ddedfryd. Rhoes y rheith- wyr ddytarniad yn ftafr yr achwynydd am fil o bunau o iawn gyda'r costau. Yr athrod honedig y cwynai yr achwynydd yn ei gylch oedd yr haeriad ei fod wedi ymddwyn yn anweddus gyda gwraig y diffynydd. Honid i'r diffynydd ddweyd yn festri Eglwys St. Barnabas, yn nghlyw yr. organydd a'r cor, fod yr achwynydd yn eucg o anfoesoldeb, ac yr ai ef (y diffynydd) i hysbysu'r gynulleidfa o hyny os ai'r achwynydd ymlaen hefo'r gwasanaeth.
Eisteddfod Eifionydd. I
Eisteddfod Eifionydd. I Ddoe, yn C-hwilog, mewn cyfarfod o Bwyllgor Cyffredinol Eisteddfod Eifion- ydd, yr hwn sy'n trefnu cyfres o eistedd- todau, tuag at godi maen cof i envvog- ion De Sir Gaernarfon, bu trafodaeth ar gynygiad i ffurfio Cymdeithas Eis- teddfod Eifionydd. Ar gynygiad Mr William George gohiriwyd y mater. Testyn y gadair yn yr Eisteddfod gyntaf fydd beirdd Eifionydd yn y bedwaredd J ganrif ar bymtheg.
Manion.
Manion. Yn Llanrwst, ddydd Liun, cafodd Arthur Deacon, Imperial Buildings, Llandudno, ei orchymyn i datu 9s. 6c. yn cynwys y costau, am dori celyn perthynol i Lady Aberconwy. Yr oeddwn allan yn modurio hetoni gwraig a'm merch," meddai'r diffynydd, "ac yn gweled celyn ac ochr y ffol dd g-of- ynodd fy ngwraig imi dori peth iddi, a gwnes inau hyny." Yn Ngwrecsam ddydd Llun cynhal- iwyd trengholiad ar gorff Michael Moloney, 54ain mlwydd oed, yr hwn a gyfarfu a damwain angeuol pan yn gweithio ar res o dai newyddion rh%% n,, Gvvrecsam a Gresford. Pasiwyd rheith- farn o farwolaeth ddamweiniol.
1_- -(Bofoebiaetbau.
1_- (Bofoebiaetbau. Nid ydym yn gyfrifol am syniadau cin gohebwyr. -GOL. SHOP HOURS CLOSING ACT. TO THE EDITOR OF 44 YR UOGORN." Sir,—Perhaps you will favour me by allowing the following to appear in your valuable paper. The closing time of the different trades in the town has been agreed upor. under the above Act but I find j that some tradespeople take no notice of the same, by keeping their shops open long after the appointed closing time. I consider this very unfair towards other tradespeople who close their premises as required under the said Act. Yours, &c., ASSISTANT. DWY GYMANFA YR UN DYDD) YN YR UN DREF. Mr. Gol.-Wrth edrych drwy Daflen Cymanfa M.C. Dosbatth Pwllheli, ac hefyd Ddyddiadur y Wesley aid, 1914, cantyddaf fod y Gymanfa Ganu i'w chynal yn Mhenmount, Mehefin i ieg, ac hefyd Diwrnod MawryrOrdeinio" Cymanfa Wesley aid Cymru yn y dref yr un dydd. Y Gymanta yn dechreu y Sabboth blaenorol. Beth a wneir o dan yr amgylchiadau ? Mae trefniadau y Wesleyaid yn drefniadau Cyfundebol a bydd newid dyddiad yn creu anrhefn mawr. Tybed a wna Pwyllgor Cymanfa M.C. ein cynorthwyo o'r dyryswch.- GWALIA.
!Gwr o Fon a'r Sipsiwn.
Gwr o Fon a'r Sipsiwn. Cafodd Sipsiwn o'r enw Charles Lock Boswell ei gyhuddo yn y Valley, Mon, ddoe, gan lafurwr o'r enw Richard Jones, Ty Lawr, Llanfachreth, o fod wedi ymosod arno. Dywedai Mr. Cyril jones, Caergybi, yr hwn erlynai, fod raig yr achwyn- ydd wedi myn'd i Gaergjbi nos cyn y Nadolig, ac i'r achwynydd fyn'd i'w chyfwrdd i stesion y Valley pan ddeuai yn ol. Gan nad oedd wedi cyraedd cerddodd y gwr hyd y ffordd i gyfeir- iad Caergybi, a chytarfu ei wraig a'i chwaer-ynghyfraith yn nghwmnt'r diff- ynydd. Cyhuddodd ei wraig o fod yn cadw cwmni hefo'r diffynydd gwadodd hithau, ac yn y diwedd cydiodd y Sip- siwn yn yr achwynydd, ac ysgydwodd ef nes y syrthiodd yn erbyn y clawdd, a chafodd ei anatu. Pan aeth Richard Jones gart,ef canfu fod y ty wedi ei g!oi, a bu raid iddo dori'r drws. Yr oedd ei wraig yn cael swper hefo'r diffynydd. Yr oedd y diffynydd yn dal rhywbeth yn ei law, a bygythiodd roi bwled drwy'r achwyn- ydd os deuai'n agos ato. Wrth ei groesholi gan Mr. Nee, Caer- narfon (yr hwn amddiffynai) gwnaeth yr achwynydd gyhuddiadau yn erbyn ei wraig a'r diffynydd, ond gwadodd iddo fygwth ei lladd. Gwadai y diffynydd iddo drefnu i dd'od o Gaergybi hefo gwraig yr ach- wynydd. Daeth Richard Jones ato ef a Mrs. Jones, meddai, gan ei fygwth. Amddiffynodd yntau y wraig, ac aeth a hi gartref. Yr oedd tori fawr wedi casglu o gwmpas y ty, a gwaeddent am iddo gael ei daflu allan, gan ddweyd y rhoent raff am ei wddw. Yn y diwedd rhoes yr ynadon ddirwy o 5P yn cynwys y costau, ar y diffyn- ydd, a rhwymwyd ef i gadw'r heddwch am ddeuddeng mis yn y swm o 20p, y swm i'w dalu y diwrnod hwnw. Gwaeddodd Sipsiwn arall o'r enw John Boswell, yr hwn oedd yn y pen draw i'r llys, 44 Mi roi i gan' punt! peidiwch son am ugain."
. -o - Nodion olr "Orych."
o Nodion olr "Orych." Ysgritena y Parch. Rhys J. Huws yn ddifyr am yr hyn a elwir yn 11 Gapel- ycWiaeth" yn Nghymru. Dywed fod yr eglwys yn cael ei throi yn fasnachfa heb lawer o hamdden i ddim amgen na chynal cyngerddau, bazarau, a phob cynllun i gasglu arian i dalu treuliau y selydliad. A yr Arglwydd yn fwyfwy o hyd o'r golwg. Nid ces neb o hon- ynt yn cofio y fflangell o fan reffynau Pe y gellid dod o hyd iddi, rhoddid hi ar y bwrdd gyda theganau ereill i'w g%% erthu er budd yr achos! Mae yr Egh ysi. Pabyddol, Lloegr, I Lutheraidd, Groeg, a'r enwadau eraill wedi bod yn hwyrfrydig iawn yn cym- eryd ochr y dosbaith gweithiol—y wei iii ond y mae yr awel yn troi, ac yn dechreu chwythu i'r cyfeiriad iawn, i'r cyfeiriad y chwythai yr awel o Gal- faria fryo. Dyma fel y dywedai John Williams. Brynsiencyn, y dydd o'r blaen "Dylai Eglwys Crist gymeryd I plaid pobl sy'n cael eu gormesu a'u gortlirymu yn mhob man, a lefeinio cymdeithas i'r cyfeiriad hwnw." Niellir lefeinio cymdeithas heb ei chymdeith- asoli. Gwelsom y dydd o'r blaen am gyng- aws dyddorol yn Nghymru yn dangos gymaint o wagedd sydd drwy gym- deithas. Prynodd rhyw foneddwr helfa neu saethfa oddi ar foneddwr arall, ac aeth ati yn ddiweddar, ond siomwyd ef a'i gyfeillion yn fawr am na ch&fodd ar y tir ac yn y goedwig gynifer o helfilod a hel-adar ac a ddis^wylid. Yr oedd y lie, galiem feddwl, wedi ei hysbysebu fel yn llawn o ddefnyddiau i'w saethu. Ar ol yr holl ddarpariaeth a'r cerdded a'r saethu, dim ond 39 o grugieir, ped- war giach, naw hwyaden wyllt, saith i ysgyfarnog- a 2i o gwningod laddwyd Talasai y boneddwr $525 am y tymor o ddeg wythnos—pris go uchel am dan- ynt. Pa ry'edd fed pris bywoliaeth yn codi ? Aeth y naill foneddwr i gyfraith a'r lIall, ond enillodd perchenog yr helfa a'r saethfa. Pwy wyr nad oedd y milod a'r adar wedi ymfudo, yn hyt- rach nag aros am fesur tir D.LI.G.?
Advertising
YN Y WASG. BeirddGwerin Eifionydd o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg hyd yn bresenol, A'u Gwaith Anghyhoeddedig: YNGHYDA DARLUNIAU. GAN C Y B I. Pris Llytr mewn Amlen Bapyr, 1/ Llian, 1/6 TOWN HALL, PWLLHELI. A GRAND UNIONIST SOIREE WILL BE HELD Next Thursday, Jan. 15th, 1914. Tea will be served from 6 to 7.30. Dancing from 10 p. m. to 2 a m. Admission One Shilling. Clwb Bhyddfpydfil Pwllheli CYNHELIR CYFARFOD BLYNYDDOL Y CLWB Nos Lun, lonawr lftg, 1914, am S»*5 o'r gloch. M aterio- n f. Dewis Swyddogion a Phwyllgorau. 2. Adroddiad am y flwyddyn, &c., &c. W. JONES, Claremont. Ysgwfenydd. NEUADD DREFOL,! PWLLHELI. NOS FAWRTH, IONAWR 20fed, 1914. YMWELIAD BHYS L:M Its* CWMNI ADNABYDDUS BARLWYD. Ymgeiswyr am y Llawryf yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1914. Mynediad i mewn 1/ Ail Seddau, 6ch.; Plant, haner pris, gyda thocynau arbenig. Drysau yn agored am 7, dechreuir am 7.30 o'r gloch. LIBERAL CLUB, PWLLHELI. A GRAND WHIST DRIVE will be held at the above Club on Thursday, January 22nd, 1914. Admission (including Refreshments) 1/- M.C.—R. Griffith, Esq Hon. Sec.—W. Windsor Jones. DALIER SYLV7. Cynhelir Cyfarfod Llenyddol Y TABERNACL NOS IAU, CHWEFROR 26ain. TESTUN YCHWANEGOL. Am y dernyn goreu, cyfaddas i'w adrodd, heb fod dim llai na 30 o linell au. Agored. Gwobr, 2s 6c. Beirniad Ap GWALLTER, Bodfean. W. GRIFFITH, Lleyn Street, Ysg. J. ST AITS, Slate Works MAES, PWLLHELI Llechi at bob gwasanaeth am Brisiau Rhesymol. 0 ddewis 0 Artificial Wreaths. Gas Works Pwllheli GOSTYNGIAD YM MKRIS COKE. Er mwyn gwneud lie ar gyfer cyfnewid- iadau helaeth yn y gwaith uchod, Y .lAE'l{ STOf 0 COKE SYDl) AH LAW GLIHIO AM Y PHIS GOSTYNUOL 0 15s. ? DTOBLL Wanted. nOMFORTABLE APARTMENTS, I Sitting Room and Bedroom, for one person. Forward Terms in writing to D," Udgorn Office. WORKING GARDENER, steady work all the year to a good use- ful man. Apply by letter to W," Udgorn Office. P ENERAL SERVANT. Age 30 to 24 Good wages to a suitable person. Apply LIVERPOOL House, Pwllheli. WANTED well-educated youth as I Chemist's Apprentice. Apply I with full particulars to \V. E. Roberts Chemist, Penlan Street, Pwllheli. FW good laboures wanted at Pantglas, Rhydyclafdv, for road widening, on and after January 12th. Apply to the Foreman on job. Sales gan Mri. Bobt. Parry a'i Fab DYDD IAU, IONAWR 2.2aiu, 1914. IG EFAILGALEDRYDD, MADRYN, PWLLHELI. Amrywiaeth mawr o Arfau gefail DYDD SADWRN, IONAWR 24ain, J914. pERNIOG GANOL, MYNYDD l NEFYN. Gosodiad Tir blynyddol. I ddechreu am 2 o'r gloch. 5, Salem Terrace, Pwllheli. Sales b; Messrs. Wm. Dew & SOD. IN THE TOWN OF PWLLHELI, AND IN THE PARISHES OF TYDWEILIOG AND PENLLECH (NEAR NEVIN). MESSRS. WM. DEW and SON have been instructed to Offer for SALE BY PUBLIC AUCTION at the CROWN HOTEL, PWLLHELI, Ion WEDNESDAY, JANUARY 14th, 1914, at 2.30 in the afternoon (subject to conditions), the following VALUABLE FREEHOLD PRO- PERTIES :— In the TOWN of PWLLHELI.— Lot i The freehold shop, dwelling house and premises, being No. 22, PEN LAN-STREET, in the occupation of Mr John Williams as yearly tenant and now carried on as a Grocer's and provision Stores, etc. Lot 2 The freehold double fronted dwelling house and premises being No. 24, PENLAN-STREET in the oc- cupation ot Mr W. Pickering Hughes as yearly tenant. NOTE.-Lots i and 2 stand in a capi- tal position directly opposite the Town Hall and M-vk-t Hall. In the Plushes of Tydweiliog and Penllech (near Nevin). Lot 3 The small freehold holding of GLAN-YR- AFON (in hand) and comprising an area of 2a. 2r. 13P. Printed particulars of sale may be obtained of Messrs Carter, Vincent & Co.. Solicitors, Bangor and Carnarvon; at tin- Auctioneers' Institute, 34, Rus- sell Square, London, W C.; or of the Auctioneers, Caxton Buildings, Bangor, N. W. I 's HAYMAN^i BALSAM "t I WELLHA ll BESWCH ac ANWYD H A whrisiadwy gyda p'i'a'rt l'oteli 1 a 2,, 6 80\X OLL FBRYLLWVR A GST.LSSR' Free Gift to Ladies. FOR A FEW WEEKS ONLY we are giving away a 2/9 Packet of our famous Health Corrective Powders a guaranteed remedy for all derange- ments of the system. They afford relief in a few hours and their regular use will promote and maintain a sound healthy condition of the system. Try them at our expense. Send 2 stamps to cover postage. Address-The Man- ageress, 106, Liverpool Road, Islington, London. Beware of imitations. Gwyl Dewl, 1914. OKA M A YX LLE EISTEDDFOD. SERCHHUDOL Perfformir y Ddrama uchod yn Y NEUADD DREFOL, PWLLHELI, Nob Iau, Mawrth 5ed, 1914, GAN GWMNI ENWOG BEDD GELERT Hon yw y Ddrama y cystedlir arni yn Eisteddfod Bangor. Drysau yn agored 7 o'r gloch, dechreuir am 7.30. Tocynau 1/6 a 1 Yr Eliv at Eglwys South Beach.