Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
ELEY— rn. E. EV CARTRIDGES are preferred to all others by the most experienced sportsmen all the world over, who realize how important it is to select the best. E L E Y Cartridges may always be relied on. 8 I 22 2 Short Long Rim Rim Rifle and Ri:de and Revolver Revolver "AO^^ Cartridge Cartridge Ag" dt-ep shell E B Nitro quality SMOKELESS." Loaded with Eley Cartridge, Smokeless (42 gr.) Smokeless Q.- 100. 8/6 Per 100. 9/6 per 100.. E.B. Nitro 5^ SheU J Loaded with "Eley J6 j g" deep-shell G&st?ht I Smokelesa, ??hultze Pegamoid (Waterproof) ? and other Standard Powder. Ironmonger and Eley Cartridges JAM ES WI LLIAMS Ironmonger and are sold by Builders Merchant. PWLLHELI. Wholesale by ELEY BROS., Ltd., LONDON, W.C. OEM Attendance Notice. Bydd Mr. Ranleigh Jones, L.D.S., R. C. S. (E d i.), SURGEON DENTIST, yn ymweled a Pwllheli bob DYDD MERCHER, yn aros gyda Mr. BOWEN, Gfoeeiv High Street, oily boreu dan 4 y prydnawn.
PWLLIIELI.I
PWLLIIELI. CYHOEDDIADAU SABBOTHOL.-Tach. 9. Penlan (A.), am 10 a 6, Parch J. Rhyddprch. Gweinidog. Capel Seibnig (A.), Cardiff Road, am 11 a 6-30 Parch D. W. Robercs, Gweinidog. Penmount (M.C.), am 10 a 6, Parch R. W. Jones, M.A., Porthmadog. Salem (M.C.), am 10 a 6, Parch John Hughes, Edeyrn. Capel Seisnig (M.C.) Ala Road, am 10 a 6, Parch J. Pritchard, M.A Tabernacl (B.), am 10 a 6, Pareli D. S. Will- iams, Sant Nicholas, Caerdydd. Seion (W.), am 10, Parch E. Mostyn Jones Gweinidog am 6, Parch W. G. Hughes, Cric- cieth. Hen Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2, Yegol. Ysgol Genhadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Mr Albert Evan Jones, Pwllheli. Y&gol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi am 2, Ysgol. South Beach (M.C.) am 2, Parch Richard Hughes, Brymbo. Tarsis (M C.), am 10 a 6, Pal ch Richard Hughes, Brymbo. St. Pedr. 9.30 a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seisnig) Parch J. Ed wards, B. A., Ficer, a'r Parch T. Woodings, B.A.. Curad. Cenhadaeth Lydewig North Street. R. G.. am 10-30, Offeren Sanctaidd, am 2, Ysgol; am 6 30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P. Merour, benedicsiwn. GALWAD.—Y mae y Parch D. W. I Roberts, gweinidog Eglwys Annibynol Seisnig Cardiff Road, wedi derhyn galwad i weinidogaethu eglwys Annib- ynol Seisnig Stockport. O'R PWLPUD I'R FEDDYGFA.—Y mae y Parch Simon G. Evans, B.A., gynt o'r dref hon, wedi rhoi i fyr.u ei weini- -dogaeth ar Eglwys Fethodistaidd Bir- kenhead, ac yn bwriadu astudio ar gyfer y broffeswriaeth feddygol. MARWOLAETH—Ddydd Sul diweddaf, wedi cystudd maith, bu farw Mr Will- iam J. Davies, Ferndale, yr hwn fu am flynyddau yn guard ar reilffordd Cwmni'r Cambrian. Yr oedd yn 52 mlwydd oed. Cleddir yn mynwent Denio, ddydd Iau. Gedy ar ei ol weddw. CYMDEITHAS LENYDDOL SEION (W.) —Nos Iau diweddaf, cynhaliwyd ym- gomwest i agor y Gymdeithas uchod am y tymor. Parotowyd y wledd gan chwiorydd yr eglwys. Wedi mwynhau o'r danteithion caed cyfarfod difyr o dan lywyddiaeth y gweinidog, y Parch E. Mostyn Jones. Diolchwyd i'r chwiorydd am arlwyo gwledd mor ragorol ar gynygiad Mr D. Griffith, yn cael ei gefnogi gan y llywydd. PRIODAS.—Ddydd Iau, yn Eglwys St. Peris, Nant Peris, gan y Parchn. L. Jenkins, B.A., rheithor, ac H. Lunt, curad, priodwyd Mr. Ellis Owen Jones, 7, St. Tudwall's Terrace, a Miss Laura J. Jones, Rock House, Llanberis. Gwasanaethwyd ar y briodferch gan Mrs. Myfanwy Closs, ei chwaer, a Miss Lizzie Jones, chwaer y priodfab, ac ar y priodfab gan ei frawd, Mr. Edward Jones, a Mr. Richard R. Jones, brawd y briodferch. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a gwerthfawr. Y TEMLWYR DA.—Cynhaliwyd y cyf- arfod rheolaidd yn Ysgoldy Penmount, j nos Fawrth, dan lywyddiaeth y Prif Demlydd,-y Parch. D. E. Davies. Y prif waith oedd dew is swyddogion at y chwarter nesaf. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Parch. Thos Williams, Cenin, Mr. Samuel Evans, Mr. W. Hughes, Mrs. T. Williams, Mrs D. E. Davies, Mrs. J. Roberts, &c. Dewis- wyd Mr. Samuel Evans a'r Parchn. Thomas Williams a D. E. Davies i gyn- rychioli y Demi ar Bwyllgor Dirvvrstol y dref am y flwyddyn ddyfodol. CYMDEITHAS LENYDDOL SOUTH BEACH —Nos Lun, Hyd. 27, caed parhad o'r drafodaeth agorvvyd yr wythnos flaen- orol gan Mr E. R. Davies, cyfreithiwr, ar Bwnc y Tir. Cymerwyd rhan yn y drafodaeth gan Mri John Williams, J J. Jones, Owen Williams, John Jones, a Mrs Humphrej s, yn bleidiol i'r ddeddf y disgwylir am dani, tra y siaradwyd yn erbyn unrhyw ddeddfwriaeth gan Mri D. Lloyd Humyhreys, J. T. Owen, Mrs Williams, &c. Fe ddywedir fod y dratodaeth yn un nodedig o fywiog a doniol. Y llywydd oedd Mr Davies, Glyn.—Neithiwr (nos Lun) cynhaliwyd cyfarfod adloniadol dan lywyddiaeth y Pa ch. D. E. Davies, pan y cymerwyd rhan gan y cyfeillion canlynol :—Mri. J. Robinson, R. O. Jones, R. W. Hum- phreys, W. O. Hughes, J. Jones, J. T. Owen, O. Jones, Emrys Owen, J. J. Jones, Misses A. E. Jones, Edith Jones, E. Rowlands, Betty Pratt Rob- erts, ac A. Rowlands. Chwareuid ar yr offeryn gan Miss D. Davies a Mrs. Humphreys, &c. Canmolid y cyfarfod yn tawr-y bobl ieuaingc yn cymeryd dyddordeb yn y gwaith. Yr wythnos nesaf y mae y Parch. J. Puleston Jones, M. A., i draddodi darlith. GWYL DE. --Prydnawn Iau, cynhal- iwyd Gwyl De yn Festri y Tabernacle, pryd y daeth niter luosog i gyfranogi o'r amrywiql ddanteithion oeddynt wedi eu parotoi gan chwiorydd yr eglwys. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan Mrs Hugh Jones, Garage; Mrs W. Thomas, Fron oleu Mrs Hughes, Mount Terrace; Mrs Sampson Mrs W. Williams, Caernarvon Road; a Miss Jones, Bodorwel, yn cael eu cyn- orthwyo gan amryw o chwiorydd a brodyr ieuainc. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol, o dan lywydd iaeth y Cynghorwr R. Albert Jones. Cymerwyd rhan mewn adrodd, dadleu, canu, a chyda'r grythen a'r grama- phone an Annie M. Murray, N. Murray, J. Murray, Olwen Evans, i Victory Hughes, Hilda, Florie a" May Sampson, Celia a Ceinvven Jones, Robert jones, J. H. Williams, Trevor ijones, T. Hughes, Alwynne Jones, H. jjones, Mr Hugh Jones, a pharti Mr W. I H. Davies. Cystadleuaeth dadl ddi- fyfyr, goreu, J. Sampson a C. Jones. j Adrodd hanesyn, cyfartal, y Mri R. Williams a R Gwynedd Evans Trefn- wyd y cyfarfod gan y brodyr a'r chwiorydd ofalent am y Band of Hope. Rhanvvvd afalau i'r plant pa rai oeddynt wedi eu rhoddi gan Mrs T. Hughes, Gaol Street. Diolchwyd yn wresog iiddi, ac hefyd i'r llywydd.
i LLITHF A t-N . I
LLITHF A t-N I CLADDEDIGAETH.-Fel y crybwyllas- om yr wythnos ddiweddaf am farwol- aeth yr hynafgwr parchus Mr John Jones, Brighton, claddwyd ei weddill- ion marwol ddydd Mercher diweddaf. Gwasanethwyd yn y ty gan y Parch. E. Morris, a chynhaliwyd gwasanaeth yn y capel er cof am dano, pryd y siarad- wyd gan y Parchn. T. Jones, Portnant, ac H. Williams, Rheithor a'r Mri Henry Jones, Cilia, ac Evan Jones, i Llithfaen. Bu'r olaf yn gyd-swyddog a'r ymadawedig am ddeugain mlynedd, ac yr oedd yr adgofion a draethai am dano yn hynod deimladvvy. Bydd lie gwag ar ei ol yn mywyd yr ardal, yr eglwys, a'r cartref. a dymunem nawdd y nef dros y teulu yn y brofedigaeth ch werw.
-0-Ymosod ar y Prif Weinidog.
-0- Ymosod ar y Prif Weinidog. Ymwelodd Mr Asquith a Stirling ddydd Sadwrn i'r amcan o ddadorch- uddio cofgolofn o Syr Henry Campbell Bannerman, a ci dderbyn r hydd-freiniad y fwrdeisdref. Pan oedd modur y Prit Weinidog yn pasio drwy Plean Htaiiwyd ef gan suffragettes, y rhai a luchiodd baced o bupur at Mr Asquith, ac a'i tarawodd ef gyda chwip. Yr oedd Miss Violet Asquith, ei ferch, gydwjjfr Prif Weinidog ar y pryd, ac yr oedd wedi ei dychrynu yn fawr, ond ni chdodd yr un o'r ddau nemor ddim ni wed. GvtNvvd y nierch- ed yrr.aith ar unwaith waid a ddeuant ar ol y Prif Weinidog mew ii modur arall.
Y Cigyddion yn Diolch i'rI…
Y Cigyddion yn Diolch i'r Canghellor. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cym- deith is Cigyddion Gogledd Cymru yn Mhwllheli, ddoe (ddydd Llun). — Mr T. Jones, Llandudno, yn y gadair. $ Cynygiwyd gan Mr R. Newell, Porth- madog, eu bod yn pasio pleidlais o ddiolchgarwch i'r Canghellor am roi gwrandawiad i gwynion y tenantiaid trefol. Sylwodd fod y trefi bychain yn dioddef mwy mewn cymhariaeth na threfi mawrion oddiwrlh y gytundrefn brydlesol, ac fod y gyfundrefn anheg hono y r, liesteirio busnes ymhob modd Eilivvyd y cynygiad gan Mr. G. Cornelius Roberts, Pwllheli, a phas- iwyd yn untrydol Pasiwyd hetyd ar yynygiad Mr. Humphreys, Penrhyn Deudraeth, yn ffafr caniatau i gigyddion gadw cwn heb drwydded, megis ag y caniateir i ffermwyr, a phasiwyd i ertyn a'r i'r cynghorau sir yn Ngogledd Cymru drefnu at sefydlu archwiliad cyfunwedd ar gigoedd gan ddynion cymwys i'r gwaith. Galwyd sylw at yr arfer o ladd anifeiliaid mewn lleoedd heb eu cot- restru, a thrwy foddion amhriodol. i Hetyd at arfer ftermwyr o fynd a chig- oedd o ddrws i ddrws i'w gwerthu. Penodwyd y swyddogion a gaolyn:- Llywydd, Mr Thonas J. Jones, Llan- dudno; Is-lvwyddion, Henadur Edward Hamer, Llanidloes, a Mr J. M. Jones, Penmaenmawr Trysorydd, Mr G. Cornelius Roberts, Pwllheli.
Anfoesoldeb ym Mhorthmadog.
Anfoesoldeb ym Mhorth- madog. .Dydd Gwener diweddaf, o flaen yn- adon Porthmadog, cyhuddwyd gwraig briod o'r enw Maggie Berndtson, yn byw yn 45, Chapel Street, o gan- iatau i'w thy gael ei ddetnyddio i amcan iondrwgallygredig. Dadienwyd pethau cywilyddus iawn yn y llys yng Iy a'r modd y cedwid y ty gan Mr William George, yr hwn a erlynai ar ran yr heddlu. Dywedai ddarfod i'r ddiffyn- yddes, a hi yn wraig briod a phedwar o blant ganddi, yn nghwmni geneth ieuanc o'r enw Mary Davies, wahodd dau forwr tramorol i gysgu yn ei thy am noson. Rhoes geneth ieuanc o'r enw Violet Annie Rowe dystiolaeth i'r perwyl ddarfod iddi fyned i dy y gyhudd- edig gyda chymydoges o'r enw Mrs Crimlin, a gofynodd iddi fyned i nol Mary Davies yno. Ar ol hyny bu y pedair yn yfed cwrw a gwin, ac ar gais y gyhuddedig aeth y ddwy allan i ddenu cechgyn ieuainc i'r ty, a daeth- ant a dau dramorwr yno trwy ddrws y cefn. Tystiai Mary Davies fod y lyst- iolaethau a roed yn y llys yn gywir. Ar ol iddynt fyned allan o'r ty cafodd 5s. gan un o'r dynion, a chymerodd y gyhuddedig 2s. 6c. o honynt. Dywed- ai yr heddweision Jones ac Evans iddynt wylio y ty y noson dan sylw, a myned yno. Cyhuddwyd hi ganddynt o gadw y ty i amcan drygionus, ond gwadai hyny yn bendant. Dywedodd y cadeirydd tod y fainc yn ystyried y cyhuddiadau yn rhai ditrifol, a dirwy- wyd hi i 2p a 2p. i is. 6c. o gostau, gan obeithio y byddai iddi ddiwygio yn y dyfodol.
-o - I Magu Stoc yn Lleyn.
-o Magu Stoc yn Lleyn. Cynhaliwyd cyfarfod o ffermwyr yn Neuadd y Dref, Pwllheli, ddydd Sad- wrn diweddaf, i drafod y priodoldeb o sefydlu cymdeithas i wella stoc yn Lleyn. Yr oedd tua thri chant yn bresenol. Pasiwyd pendertyniad un- frydol yn ffatr sefydlu cymdeithas o'r fath. Penodwyd pwyllgor cryf i gario'r mudiad allan, ac etholwyd Cyrnol Lloyd Evans yn gadeirydd; Mr Lloyd Edwards Nanhoron, yn is-gadeirydd, a Mr E. R. Davies, Pwllheli, yn ysgrifenydd Y rhai a ganlyn sydd yn gwneud i fyny'r pwyllgor :—Mri E. W. Roberts, Bod- wrdda, Abcrdaron G. Evans, Penych- ain, Abererch R. Evans, Tyddyn Cae, Bodfean W. Griffiths, Hirwaen, Bod- ferin R. Griffiths, Berthlwyd, Bottwn- og John Tbomas, Bronllwyd, Bryn- croes Thomas Ellis, Carnguwch Bach; O. G. Williams, Cefnleisiog, Ceidio G. Hughes Roberts, Edeyrn Evan Evans, Ty Mawr, Edeyrn R. O. Ro- berts, Cwmcoryn, Llanaelhaiarn T. J. Griffith, Plas Du, Llanarmon R. New- ell (Bachellyn), Llanbedrog Robert Griffiths, Trewen, Llandegwning; Rob- ert Griffiths, Cregir Coch, Llanengan T. J. Jones, Llanfihangel Roberts, Nanhoron, Llangiau W. O. Roberts, Plas, Llangwnadl Evan Owen, Cae Newydd, Llangybi John Davies, Ffridd, Llaniestyn Griffith Jones, Bod- j fel, Llannor Wm. Owen, Afonwen D. R. Jones, Crugeran, Meiliteyrn: Thomas Thomas, Bodacho Wyn, Nefvn John Roberts, Plas Penllech O. G. Jones, Tyddyn Llewelyn, Penrhos Owen, Pistyll Fawr, Pistyll Owen, Meillionydd, Rhiw; Daniel Jones, Bryn- odo!, Tydweiliog W. Roberts, Ystum- llyn, Penllyn Owen Griffiths, Meillion- ydd Bach.
| 6obcbiactbau. i - - - -…
6obcbiactbau. -q- Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebvvyr.—GOL AT LAFURWYR AMAETHYDDOL YN LLEYN AC EIFIONYDD. Anwyl Gydwladwyr,- Goddetwch i un sydd yn reaper yd cryn dipyn o ddy- ddordebtv^lf&pr'jchwi, yr ameylchoedd a'r amgySplsdjjii a dan ba rai y bodol- \\ch. i'ch anerclr*gpjftyr,(, ,Fel y gwydd- och, y mae r hyw áwlthder \\edi nieddiai-.ti ysbryd y^x^pes, trowch i'r cyfeiriad j^)-noch, a tMy"biaf fy mod yn canfod arwyddion diuamsyniol eich bod chwithau fel dosbattnyn dechreu teimlo oddiwrtho. Ni w\\y. ,gwyd pen na mingamu, rlHiJ i b"ob">a sod a'i lygad yn ei ben, fel y sortia Sojoitf3" am dano yn llyfr y Pregethwr, n'y^ith. Gwyddoch fod eraill wedi Isio arnoch am oesau, ond y mat yr at yn agoshau pryd y gwelir y llafurwr am- aethyddol wedi dod i gyraedd tir yr addewid. Mor wired a bod Cam Mad- ryn yn Lleyn a Charn Bentyrch yn Eifionydd, y mae dyddiau ochain ar ddarfod, gan fod y dyn a'r awr wedi cydgyfarfoj. Baich cenadwri y gwron o Gymru yn Bedford a Swindon ydoedd rhaid gosod y tir a'r rhai a'i Uafuriant ar seiliau diogelach." Y mae Calan- gauaf yn ymyl, ac os byw ac iach, dis- gwylir ei glywed yn bloeddio yi udgorn arian tua Pwllheli a manau eraill, sydd yn cyhoeddi Jiwbili i chwi a'r amaeth- wyr Peidiwch er dim a dilyn esiampl Esau a gwerthu eich genedigaeth fraint am saig o fwyd, a pheidiwch a chymer- yd eich hud-ddenu gan rai sydd yn honi bod yn gymwynaswyr ond a weithred- ant yn groes i hyny. Os ydych yn crcdu mewn egwyddor- ion sydd wedi dod a chynifer o fendith- ion a breintiau i'ch cyrhaedd, na toed i chwi eu dibrisio a'u gollwng o'ch gafael hyd nes y bydd y breuddwyd aur wedi ei sylweddoli. Nid trwy chwalu a dinystrio v ceir hyny, ac nid trwy ddilyn gwylltineb rhai o bleidvvyr y Llafurwyr (bondigrybwylJ) y cafwyd yr hyn a fwynheir gennych. Cofiwch fod gan yr amaethwyr feichiau anhawdd eu dwyn, ac er fod llawer honynt wedi eu tynu arnynt eu hunain y mae gennych chwi r..¡D yn rhyddhad y cyfryw. Os ydych yn tybio y gvvnai haner diwrnod o wyl yn yr wythoos eich cyfaddasu i wasanaethu yn well ac yn hwy. ymun- wch i'w gael, and os y tybiwch y perai fwy o Hinder i'r cnawd a malidod i'ch hysbryd trwy gamddefnydd, gwell i chwi arcs ychydig. Mae Da'ydd wedi cymeryd careg eto i'w ffon dan, a thrwy netth y Goruchat bydd yn sicr o gael pen y cawr sydd yn llethu amaethydd- iaeth i lawr. Rhowch chwareu teg iddo, ac yn ngeiriau byth-gofiadwy y Prif Weinidog, uait and sec." Sefwch ac edrychwch o'ch amgylch, yn ol ac yn mlaen, cyn rhuthro yn anystyriol i fynnu yr hyn sydd yn hawlfraint i chwi a'ch plant, ond ymbwyllo. Yr eiddoch yn bur, EWYLLYSIWR DA. 0 BEN Y GARN. Mr Go].Vr ydwyf fel ymdeithydd am gymeryd fy nhrigfa am amser am- henodol yn un o g tfachau y Garn, lIe y gallaf ediych o amgylch y dref a chlust- feinio drwy y telephone ar ddwndwr y dref Feliy, Mr Golygydd, os cedwch y ddysgl yn wastad a mi a Robin y gwas ym;i, chwi gewch glywed llawer o bethau rhyfedd. Mae Robin a minau newydd gwblhau ein trefniadau, a rhydd sicrwydd i mi fod Marconi yn foddlawn iddo wneud delnydd o'i gyf- undrefn odidog i anfon brysnegesau i mi o dref Pwllheli a'r amgylchoedd. Y mae hefyd wedi fy sicrhau y rhydd bob cymorth i adolygu fy ysgrifau rhag ofn i mi fyn'd i drybini. A hi yn hwyr nos Sadwrn, wedi cwbl- hau'r gyfundrefn, troisom y searchlight ar y dret, a mawr oedd y dyddordeb a deimlai Robin wrth wel'd yr heolydd yn llawnion o bobl, a golwg mor wyllt ar bawb, fel pe baent am ddal y llwyn- og oedd yn nghyffiniau y Garn. Ond wedi syllu yn hir dyma fi yn gwaeddi yn gynhyrfus, Robin, beth sydd ir y bechgyn acw yn cerdded yn ol ac ym- laen ar hyd yr ystrydoedd drwy gydol y nos ? Onid oes ganddynt gartrefi clyd a Uyfrau sylweddol i'w darllen, yn lie cerdded yn ddiamcan fel hyn ? Meistr," ebe Robin, "bechgyn y perpetual motion ydyw y rhai hyn, a phriodol o beth fyddai cael darlun o honynt i'w gosod ymhlith enwogion y darlunian byw yn neuadd y dref." Cyn- llun ardderchog, meddwn, ac os parha yr aflvvydd hwn yn hir bydd ini roi y peth mewn gweithrediad. Peth arall a ferwinai ein clustiau ydoedd y llwon a'r rhegfeydd a glywid yn ngwahanol ranau o'r dref, ac y smae Robin yn gwaeddi am sefydlu cymdeith-, as, arwyddair yr hon fydd-" J e, ie; nage, nage ac nid ydyw ef am roi hun i'w lygaid hyd nes bydd holl Irig- olion y dref wedi d'od yn aelodau o honi 41 O ddedwydd awr, pa bryd y daw ? GWYLIEDYDD.
Advertising
To the County Council of the County of Carnarvon. To the County Electors of the Borough of Pwllheli; and To all others whom it may concern. WHEREAS by section 54 of the Local Government Act, 1888, It is provided that whenever it is repre- sented to the Local Government Board by the Council of any County that the alteration of the boundary of any Elec- toral Division of a County, or of the number of County Councillors and Electoral Divisions in a County, is desirabie, the Local Government Board shall, unless tor special reasons they think that the representation ought not to be entertained, cause to be made a Local Inquiry, and may make n order for the proposal contained in s 'ch representation, or for such other pro- posal as they may deem expedient, or may refuse t-uch Order and if they by such Or 3 er, make the Order, majr^ by such OrDer, divide or alter any Electoral Division.. And whereas a representation has been made to the Local Government Board by the County Council of the Count), of Carnarvon that it.is desirable that an Order should be made for the following purposea, that is to say :— (1) The increase of the number of County COLincillors foi- the said County from Fifty-five to Fifty-six; and (2) The division of the electoral divi- sion comprising the Borough of Pwllheli into two electoral divisions to be called respectively the Pwllheli North Electo- ral Division and the Pwllheli South Electoral Division And whereas the said County Coun- cil have deposited a plan and particulars of the proposals embodied in the said representation at the office of their Clerk, Carnarvon: And whereas by Sub-section (4) of Section 59 of the said Act, any Order made in pursuance of the Act may, so far as may seem necessary or proper for the purposes of such Order, provide for all or aoy of the matters referred to in that Sub-section: NOTICE is hereby given that R. C. Maxwell, Esquire, Barrister-at-lakx-, one of the Inspectors of the said Board, will attend at the Town Hall, Pwllheli, on Friday, the Twenty-first day of November. 1913. at EieNe,j o clock in the Forenoon, to hold a Local Inquiry into the subject matter of the said representation and all other matters relating thereto. And NOTICE is hereby further given that any person interested may, prior to the date of such Inquiry, inspect at all reasonable hours the afores lid depo- sited plan and particulars, and may attend at such Inquiry aid be heard with reference to the said representa- tion and the other matters aforesaid. As witness my hand this Twenty- ninth day of October 1913, at the Office of the Local Government Board, Whitehall, London. NOEL T. KERSHAW. Assistant Secretary. to JiBuilberg. RENDERS are invited for the erection of a Drill Hall and Caretaker's House at Pwllheli for the Carnarvon- shire Territorial Force Association. Drawings and Specification may be seen at the Offices of the Architect, Mr E. Evans, 8 Cnstle Street, Carnarvon, and at the Office of Colour Sergeant Instructor Rose, the Armourv, Pwll- heli. Tenders to be sent in to the under- signed on or before Wednesday, Nov. 5th, 1913. The lowest or any tender not neces- sarily accepted. (Sd.) R. RAXSOME, Captain, The Barracks, Secretary. Carnarvon. To be Let. MADRYN HOUSE, South Beach, ?1 PwHheH. Favourable terms. Immediate possession. Apply to LEWIS JONES, Preswylfa, Ala Road, Pwllheli. A COMMODIOUS House, in a pro- 11. minent position, at IJanbedro?. Possession 11th of November, igig. Foi further particulars apply-" J," Udgorn Office, Pwllheli. On Sale. GIG in good condition. Price about £5. Further particulars from D," UDGORN Office. VOUNG CANARIES in splendid A condition, to be sold cheap. Applv,-Richard Lloyd, 49, North Street, Pwllheli. Free Gift to Ladies. FOR A FEW WEEKS ONLY we are giving away a 2/9 Packet of our famous Health Corrective Powders a guaranteed remedy for all derange- ments of the system. They afford relief in a few hours and their regular use will promote and maintain a sound healthy condition of the system. Try them at our ex pense. Send 2 stamps to cover postage. Address-The Man- ageress, 106, Liverpool Road, Islington, London. Beware of imitations. Sale by Mr. Seth Hughes, Auction- ee", Town Hill, Wrexham. ON MONDAY, NOVEMBER 3rd, 1913, and the following days. SALE OF CLOTHING, DRAPERY, BOOTS AND SHOES AT ANCHORIA, HIGH STREET, NEVIN. IVI R. SETH HUGH ES lléls received instructions from Mr W. O. Hughes, who is giving up the business, to sell by Puhlic Auction on Monday, I Tuesday, Wednesday, Thursday, Fri- day and Saturday, Nov. 3rd, 4th, 5th, 6th, 7th and 8tb, at 2 p m & 6 p. m. each day. The WHOLE OF TH E STOCK OF DXA?E? ?OOTS & SHOES. Cuinprising of. oo pairs of Men's, Youths andors Boots and Shoes, [ 200 jSairs of.,Ljtdies md Giils Boots and Shoes, Men'sv*Youfhs and Ben's Suits, Shirts, Rantfc, Vests, Gloves, Caps, Jerseys' njhinatiMs, Jackets, Collars, Ties, HLsier)7; Jace, &c Counters, Shelving, Desks, Lanvps, Chairs, Fit- tings, &c. v The Fixtures will be sold on Friday, Novembe7th, at-2 p.m  Yn E sieu. Yn Esieu LLE i un Ceffyl Bori am y Gauaf. Noder y telerau isa f. EVAN ROBERTS & Co., Station Square, Pwll- ^eli.- At Amaethwyr ac Eraill Dymuna SAMUEL EVANS, Masnachydd Glo, MORLAN, SOUTH BEACH, r .VLLHELI, Hysbysu'r cvhoedd ei fod am Helaethu ei Fasnach, ac yn bwriadu GWERTHU OALOH yn ogystal a Glo. Bydd S. E. yn y Goods Station o 8 o'r gl()ch y boreu hyd 4 y prydnawn, a siciha'r cyhoedd y gall, oherwydd cyfleusterau neillduol, eu cyflenwi a Nwyddau o'r Radd Uwchaf am y Prisiau Iselaf Posibl. Hydera y gall deilyngu cefnogaeth gyffredinol. SAMUEL EVANS, COAL & LIME MERCHANT, Morlan, South Beach, Pwllheli. TOWN HALL, PWLLHELI, November 7th, 1913. mm. President MRS. R. M. GREAVES. Chairman COL. LLOYD EVANS, J. P. Tea, 6 to 7-30 p.m. Dancing, 10 p.m. to 2 a m. Tickets, One Shilling. DlBLlMl & TEA will be held at Penlan Schoolroom, PWLLHELI, On Thursday, November 20th. Old and New Garments and other articles will be sold. Proceeds in aid ot Cardiff Road Church HYSBYSIAD RHAGBAROTOAWL SOCIAL BLYNYDDOL PENMOUNT, Nos lau, Rhagfyr 4ydd, 1913. Manylion yn fuan. RHYBUDD. SWARI NOS CALAN, YN YSGOLDY SEION, PWLLHELI, Ionawr laf, 1914. Manylion eto. YN Y WASG. SeirddGwerin Eifionydd o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg hyd yn bresenol, A'u Gwaith Anghyhoeddedig: YNGHYDA DARLUNIAU. GAN CYBI. Pris Llyfr mewn Amlen Bapyr, i/ Uiao, 1/6