Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. | Aufoner erbyn BOKEU SAi'^HN y fan bellaf Pob archebinn th^liad-m am Vr LTDGORN .'w HANFO'I i'r CJOBDCHWYLIWR, 74, Fligi) St.J p.,t. Pwllheli Pob sfohehiaeth i'w cyfelrio- YB ODGORN OFFICE, PWLLHELI Byrld vn dda geny'u dderbyn sohph- i,u'!tbw.u oddiwrth oh^wyr ar futerion lleol 0 ddyddordeb cyhoeddus
.,?r .: . ' I NODION A 1HANESION.…
.,?r NODION A 1HANESION. I It Llifo (I i-os ei TJlanau.. '.or 0, Llifodd yr afon Blyth tros ei glanau yr wythnos ddiweddaf yn agos i bentref Cambois, Cumberland, gan o i I i fo'r ffyrdd a'r mcftsyda, ac achosi co!!edion trymion i ifermwyr ac eraill. j* Marw'n ei Surgery. Cafwyd Dr Marston, Fflint, yn farw yn ei gadair yn y surgery ddydd lau di- weddaf. Yr oedd yn ddyn nerthol a Deillduol iach yr olwg arno, ac arferai ymdrochi bob dydd drwy'r flwyddyn yn yr afon Ddyfrdwy. Yr oedd yn haner cant a chwech mlwydd oed. Bacbgen yn Cael ei Ladd. Cafodd bachgen ieuanc o'r enw Richard Rogers ei ladd yn nglofa Gwer- syllt, y dydd o'r blaen. Yr oedd Kogers yn gwylo drws i lawr yn y pwll, a thrwy i fachgen arall esgeuluso rhoi brake ar un o'r tryciau pan y'i gadaw- odd i fynd i agor y drws, daeth y tryc yn rhydd a rhedodd tros Rogers. Ym- ddengys mai efe oedd i foJ i agor y drws, ond oherwydd ei fod wedi es- geuluso ei ddyledswydd bu raid i'r llall adael y tryc a mynd i'w agor ei hun. Tri o Fechgyn yn cael eu Liadd Yn Ebbw Vale ddydd lau cafodd tri o techgyn eu claddu yn fyw gan dir- lithriad. Yr oedd y bechgyn yn casgtu glo ar y domen gerllaw i'r pvvll. Rhybuddiwyd hwy o'u perygl, ond nid aethant oddiyno, ac ymhen rhyw awr wedi hyny llithrodd tunelli o bridd i lawr ar eu cefnau gan eu claddu o'r golwg, a'u Iladd yn ebrwydd. A Tarw ar y Llwybr. Yn Deudraeth y ddydd o'r blaen gwysid William Parry, ffarmwr Dinas, am adael tarw meA n cae drwy yr hwn yr oedd llwybr cyhoeddus. Tystiwyd gan David Jones, Tyddyn, ei fod yn mynd trwy y cae ac yr ymosododd y tarw arno gan ei gornio. Yn ffodus 'roedd chwarelwr gerllaw yr hwn a aeth i'w amddiffyn. Honai y diffynydd nad oedd llwybr i'r cyhoedd drwy y cae. Gohiriwyd yr achos am fis er rhoi cyfle i'r diffynydd brofi ei honiad, ond dy- wedai'r ynadon eu bod hwy yn foddha- 01 ar y dystiolaeth mai llwybr cyhoedd- us ydoedd. Cerbyd yn mynd Tros Blentyn. Yn Ysbyty Gwrecsam. yr wythnos ddiweddaf, bu farw geneth fach bedair mlwvdd oed, o'r enw Constance Amelia Thomas, o Abermorddu, ger Cefnybedd. Oddeutu tair wythnos yn ol aeth cerbyd tros yr eneth fach pan oedd yn ceisio croesi'r ffordd wrth ddol allan o'r ysgol. Digwyddiad CyfTrous. Y mae heddgeidwaid Paris yn gwneud ymchwiliad i ddigwyddiad cyffrous iawn gymerodd le yno y dydd o'r blaen. Rhedodd dyn at hcdJgeid- wad brydnawn Mawrth a dywedodd wrtho fod dynes wedi cael ei saethu mewn cerbyd modur yn nghanol y dref. Rhedodd yr heddgeidwad ar ol y cerbyd y sawl oedd wedi gorfod aratu oher- wydd y dort oedd ar yr heol. Gwaedd- odd ar i'r gyiedydd stopio, a gwelai j ddynes yn gwaedu ac amryw ddynioni yn y modur. Gwaeddodd un o'r dyn- ion ar y gyriedydd ac yna yn sydyn rhuthrodd y modur yn ei flaen ac o'r golwg. Y Gyrwr Beisicl yn cael ei Ladd. Pan oedd Arthur Hill, Treffynon, yn tnynd at ei waith i Fflint ar ei feisicl y dydd o'r blaen aeth yn ddamwemiol yn erbyn dyn ieuanc a gerddai ar y ffordd, J a thaflwyd et- oddiar ei ddeugylch. Llwyddodd i gyraedd y ty ac aeth i'w wely heb i neb or teulu wybod ei fod I wedi dod jn ol. Yno canfuwyd ef yn anymwybodol ymhen ychydig gan ei frawd bach. Galwyd meddyg ato, ond bu farw ymhen rhyw ddwyawr. Gwasanaeth o Haner C; n' Mlynedd. Y mae Mr Charles Beresford, Min- ffordd, wedi bod yn gwasanaethu fel guard ar reilffordd Tren Bach Ffestin- iog am haner can' mlynedd. Efe oedd y guard yn ngofal y t'en cynht a gar- iodd deithwyr ar y rheilffordd, yr hon agorwyd i drafnidiaeth teithwyr yn 186-5. Brodor o'r Iwerddon yw Mr Beresford, ac y mae etc heh golli hoew- der ei ieuengctyd. Heb Gartref na Pherthynas. Yn Ffestiniog, y dydd o'r blaen, cyn- haliwyd trenghmiad ar gorph Richard Morris, llafurwr, oddeutu haner cant oed, yr hwn a gaed yn farw wrth droed clogwyn yn Nhanygrisiau, ac asgwrn ei ben wedi cracio. Yr oedd vn ei fedd- iant ychydig fara a chaws a chnau. Nid oedd gan Morris na chartref na pherthynasau, ac arferai gysgu mewn hen ystablau a beudai yn y gymydog- aeth. Tybir mai ar ei ffordd i ystabl yr oedd pan syrthiodd tros y clogwyn. Pasiwyd rheithfarn o farwolaeth ddam- wemiol. Draetien Farwol. Aeth Mrs Amy Yorke, St. Helens, i ga!Iu inwyar duon rai dyddiau'n ol, a ph,in ddyc'nveljdd i'r ty cwynodd' wrth ei gwr fod draenen wedi mynd i'w hys. Rhoecl powltris arno a bu'r ddynes yn ei gwely am dridiau, pryd y bu raid galw meddyg. ati, yr hwn ddywedodd tod ei gwaedt,.eci cael ei wenwyno. Cymerwyd hi' i'r ysbyty a g wnaed gweithred lawfeddygol arni, ond bu farw ymhen deiuldydd. Yr oedd y gwenwyn wedi treiddio i'w mynwes a'i gwddf, er fod ei by. ) n ymdangos fel pe bae wedi gvvell'-i Tros Un Mil ar Ddeg o Wallgof- iaid. Mewn t,englioli;ij ar gorff dynes o Southport, yr hon fu farw rai dyddiau'n ol yn Nhloty Ormskirk, dywedwyd tod y ddynes yn orphwyllog, ond nad oedd le iddi yn un o'r gual'gofdai yn y sir gan eu bod oil yn llawnion. Hysbys- wyd fod yn agos i un mil ar ddeg a haner o bersonau ar hyn o bryd yn y pump gwallgofdy sydd yn Lancashire. Marw Hen2dur o Feirion Nos Fercher diweddaf, yn haner cant a thair mlwydd oed, bu farw Mr. Jona- than Davies, CorAen, un o'r dynion mwyaf adnabyddus yn sir- Feirionydd. Yr oedd yn ynad heddwch dros y sir, ac yn henadur o'r Cyngor Sir. Gweith- iodd yn egniol o blaid addysg a Rhydd- frydiaeth. Cynorthwyodd Syr Osmond Williams a Mr. H.iydn Jones yn eu brwydrau Hwyddianus. Daliai gys- ylltiad agos a phob symudiad cyhoedd- us yn Nghorwen a'r cylch. Gedy weddw ac wyth o blant. Dyfais Ardderchog. Y mae'r Proffeswr Haber, ("ionr.ani, wedi dyfeisio chwibanogt tcchan.yda'r hon y gellir profi awyr mewn glofeydd a gweithfeydd eraill, ac arwyddo perygl. Y mae y chwibanogl yn dangos ansawdd yr awyr drwy y dirgryniadau ) a gynyrchir gan y sain. Gwelld Popetb a'i Ben i Lawr. Y mae bachgen pum mlwydd oed yn Durham, yn gwel'd popeth a'i ben i lawr, yn ysgrifenu o'r dde i'r chwith, ac yn gwneud y llythrennau oil a'u penau i lawr, a gwna bopeth yn groes i'r arfer gyffredin. Y rheswm am hyny. meddir, yw, fod ei ymenydd yn groes i'< ciddo pawb arall. Modur neu Fellten. Dygwyd Henry Mathews, gyriedydd cerbyd llythyrau, i ysbyty Welshpool, y dydd o'r blaen, yr hwn oedd wedi cael ei anafu'n ddifrifo!. Dywedai ef ei fod yn mynd gyda'r cerbyd nos Lun pan y daeth cerbyd modur gan redeg iddo, gan falu llorpiau'r cerbyd x'i daflu yntau i la wr a mynd trosto. Aeth y modur yn ei flaen, meddai ef, heb estyn ymgeledd iddo. Dywed y bobl ganfu- asant Matthews yn gorwedd ar y ffordd na phasiodd yr un modur a'i bod yn rhaid mai mel ten a'i tarawodd, gan ei bod yn terfysgun e:.by..l ar y bryd. Anfon Clerc Gwarcheidwaid i Garcbar. Yn Mrawdlys Brycheiniog ddydd Gwener, cyhuddwyd Irvine Blennr- hassett, clerc Gwarcheid? aid a Chyngor Dosbarth Crickhowell, o ffugio arian- nodau a derbynehau, ac o dwyllo yda'r llvfiau a chac'w'r arian. Yr oedd un ar ddeg ar hwgain o dmseddiadau yn cael eu priodoli iddo Caed ef yn euog a dedfrydwyd ef i dair blynedd o benyd- wasanaeth. Caudle yn Rhydd. Y mae Caudle, gyriedydd y tren yn y ddamwain drychitiebus yn Aisgill, a'r hwn draddodvvyd i ddau fis o garchar yn MrawdJys Carlisle ar gyhuddiad o ddynladdiad, wedi cael pardwn gan y Brenin ac wedi ei ryddhau o garchar. Yr oedd deiseb yn gofyn am ei ryddhad uedi ei harwyddo gan yn agos i ddau can' mil a haner o bersonau. Yr oedd torf fawr yn ei ddisgwyl o'r tuallan i'r carchar a chari-yd et ganddynt i'w dy. y. di Gwaredu Canoedd. Ddydd Sadwrn diweddaf bu farw Mr J( hn Robeits, ail swyddog bywydfad (' e r,- N- b i. B t! yn un o griw'r bywyd- fa am bedair b'yr-edd a deugain, ac yn y«tod yr amser hwnw bu'n foddion i wa-edu canoedd o fywydau. Cafodd ei ..1 w allan dros ddeg a thriugain o we-lhiau at lorgau n-ewn perygl. Yr oedd ymysg y criv atth allan at yr Angloman, pan y llwyddasant i waredu un ar ddeg ar hugain o fywydau. Yr oedd gyda'r bywydlad yn Mai diweddaf i pan y gwaredw il pymthe? o'r nong Maiorese, o Lerpwi. (
""",-'- - - - - -'-CORWYNT…
CORWYNT YSGUBOL YN NE CYMRU. Ysgubodd corwynt ofnadwy drwy ranau o Dde Cymru ddechreu'r wyth- nos ddiweddaf, gan achosi marwolaeth a gwneud difrod mawr ar dai ac adeil- adau eraill. Ni bu tymestl o'i bath erioed yn y wlad hon, meddir, ac amcangyfrifir fed y golled wnaed gan y gwynt a'r llifogydd rhwng deng mil ar hugain a haner can' mi' o bunau. Yn Abercyn- on chwythwyd y to ymaith oddiar tua thriugain o dai. a n aluriwyd rhai o honynt vn IIwyr. Taflwyd i lawr fedd- feini yn y mynwentydd, a dadwreidd- i iwyd coed lawer. Teimlwyd y dymestl evntaf vn Tretnant, a chan gaselu nerth ihuthrodd y corwynt a grym aruthrol tiwv ddjffryn Cilfynydd, gan ysgubo i popbcth o'i fbcn viadd ar ei Iwybr. Yr oedd llawer o gapeli dc eglwysi yn Cil- fynyJJ yn union ar ei Jwybr. Bu rtid ifau'r ysi;o!ion g m fodbk tj& a'r ffenestri wedi iu niaturio. A(atô un ystor- dy wedi ei gariW, tua milltir. Yr oedd llec £ iiv&Jcs, gwydrau a meini, yn dis?yn vn ffiodydJ"hydyr heolydd, a chredai trign y He to?diwedd y byd wedi dod. dv#tl-t'r enw Walter Breeze, o TOM Pentre, yn cerdded fraich-y'mraich ago un o'r enw. Wooltord ar un o henl- ydd Treharris, a chawsant eu dal^a]| ruthr ofnadwy o wynt. Codwyd hwy t'.r oddwrth y llawr a lluchiwyd hwy i'lvilaen latheni lawer. Disgynodd Woollord ar ei ben, a bu fal w yn yr yshyty oddiwrth effaith y niweidiau. Cafodd Breeze hefyd dori dwy o'i asen- au. Yr oedd amryw ddynion eraill ar yr heol, ac yr oedd rheini'n gorfod gorwedd ar lawr rhag cael eu chwythu. Yr oedd pobl ofn mynd allan o'u tai i'w cynorthwyo. Cafwyd corff dyn o'r enw Thomas Llewelyn Harris hefyd mewn cae ger Abercynon, a bernid y rhaid ei fod wedi cael ei gario yno gan rym y corwynt o tua pedwar can' llath o bell- der. Cafodd geneth fach a bachgen yn Treharris ea mweidio'n ddifrifol iawn, a chafodd llawer ddihangta gyfyng. Yr oedd pump o blant bychain wedi ymguddio o dan y bwrdd yn eu braw mewn un ty, a chyda hyny dyma'r to i lawr ar eu penau, ond llwyddwyd i war- edu'r plant o ganol y malurion. Teimlwyd oddiwrth y ddrycin hefyd yn Marston a Wincham, ger Norwich, ac yn Church Stretton, Shropshire, a gwnaed colledion mawr ar eidao yn y lleoedd hyny.
!Pan ddaeth y Newydd Da Igyr.taf…
Pan ddaeth y Newydd Da gyr.taf i Bwllheli. c, eodd gyffro nid bychan. Ond fel yr ai wythnos ar ol wythnos heibio, ac y siaradai pobl barchus o Bwllheli allan yn rhydd, a'u datganiadau yn cael eu cyhoeddi yn y was,- leol, nid oedd mwyach le i amheuaeth. Dywedai pobl o Bwllheli "Uluiid fod hyn yn wir." Wei, dyma ddatganiad cyffelyb eto, a daw o Bwllheli. Dywed Mrs J. Edwards, 34, Aber- erch Road, gerllaw yr afon, Pwllheli "Am tua deuddeng mis dioddefwn oddi wrth fy nghefn. Cawn boenau llym a brathol a aent ar draws fy nghefn fel gwaniad cyllell. Ni chawn heddwch ddydd na nos, ac ar brydiau gwnai y poenau imi lefain allan. Cawn gur mawr yn fy mhen, ac yr oedd chwydd o gwmpas fy Hygaid. "Cymeradwywyd fi i roi prawt at Doan's Backache Kidney Pills, ac an- fonais am flwch, ac yr oedd yn dda genyt ganfod tod yr un blwch hwnw wedi fy iachau. Teimlwn fel dynes newydd ar ol cymeryd Doan's Pills, a gwnaf yr hyn a allaf i'w cymeradwyo." (Arwyddwyd) Mrs. J. Edwards. Pris 2s. 9c. bocs, chwe' bocs am 13s. 9c. gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn cgiur am Doan's Backache Kid-1 ney Pills, yr un math ag a gafodd Mrs Edwards
- Stesion ar Dan.
Stesion ar Dan. Vn gvnar foreu Mecher diweddaf ae h fe:o-iL)n Llanddulas, rhwng Rhyl a Bau Colwyn, ar dan. Daeth tan-ddi- ffoddwyr o Aberyc.'e, Bau Colwyn a I Llandudno i'r lie yn fuan, a chan fod yr holl ystalelloedd ar y cwr deheuol yn gcelcerth ceis odd y diffoddwvr arbed yr adeitiadau ar y rhan ogleddol. ac wedi ymdrech galed IIwyddasant. Pan oedd y tan yn ei anterth aeth y tren am Gaergybi" drwodd a gwnaed niwed i'r ffenestri. Ataliwyd y trenau eraill oedJ yn ei dilyn. Gwelwyd y fflamau gyntaf gan signal man Bau Cohvyn, oddeutu haner awr wedi dau y bore, ac antonodd hysbys- rwydd i Llysfaen. Galwyd tan-frigad Bau Cohvyn allan ar unwaith, ac atal- iwyd plb trafnidiaeth ar y llinell o bob cyfeiriad. Yn ddilynol galwyd brigad- au Llandudno ac Abergele yno, a gwel- wyd ar unwaith nad d i modd arbed yr adeilalau yn y rhan .eheuol gan eu bod yn llosgi'n goelcerth. Nis gwyddis i sicrwydd sut y cych- wynodd y tan, ond credir mai yn swyddfeydd orsaf y dechreuodd g yoeu. --0-- [
[No title]
Yr oedd y nosweithiau yn ystod mis j Hydref yn dynerach nag y buont yn ystod y mis hwnw er pan y dechreuwyd cofnodi y tymheredd. Aeth dau gwch pysgota i wrthdaraw- iad tuallan i Cromer nos Sadwrn di- weddat, a bu foddi tri o'r criw o bump oedd ar un o honynt.
Mr. Lloyd George a'r Tenantiaid…
Mr. Lloyd George a'r Ten- antiaid Trefol. Bu Mr. Lloyd George, ac aelodau eraill o'r Weinvddiaeth, yn cwrdd dir- prwyaeth u k. yngrair y Tenantiaid Trefol yn y Trysorlys ddydd lau di- weddat. Wedi i'r ddirprwyaeth roi ei chwynion gerbron dywedodd y Canghellor mai un o'r pethau cyntaf y cwynid o'i herwydd oedd diffyg sicrwydd, ac fod hyny yn ystyriaeth bwysig iawn mewn busnes. Yr oedd y masnachwi goreu bob amser yn edrych ymlteti, ac nis gallai wneud ei oreu os oedd yn cael ei lesteirio gan ddiffyg sicrwydd, ac nas gwyddai beth a ddigwyddai. Cwynid, pan deuai y brydles i ben y byddai y rhent yn cael ei chodi fir werth cynyddol y nusnes gynyrchwy'd ganddynt. Nis gallai dim fod yn fwy 4ieg na hyny. Ni ddylai y tenant gael ei ortodi i dalu i'r tirfedd- ianwyr am hyn mewn gwirionedd oedd yn perthyn i'r tenant ei hun. Yr am- ryw denantiaid hefyd, pan ddeuai y brydles i ben, yn cagl eu gorfodi i arwyddo cyntupdebau anghyfiawn ac i dalu rhenti eithafol, -ac mewn un achos y gwyddai am dano, pan fethodd y tenant a chydsynio meddianwyd y bus- nes. Nis gallai fod dim mwy creulon ac anghyfiawn, a phan yr oedd y gy- fraith yn caniatau gofynion o'r fath goreu oil po gyntaf y'i newidid. Gallai hysbysu'r ddirprwyaeth ar ran y Llywodraeth, y bwriadent, pan tydd- ent yn ymwneud a phwnc y tir, fabwys- iadu egwyddorion y Mesur gyflwyn- wyd gan y Gyngrair. Nid oedd dim yn y mesur ag oedd yn atresymol. Ni chvmerid oddiar y landlord ddim a berthynai iddo'n gyfreithlon, ac ni chymerid oddiar y masnachwyr ddim a berthynai yn gyfreithlon Iddynt hwythau.
I Addefiad Mr. Bonar Law.
Addefiad Mr. Bonar Law. ANOBAITH Y BLAID. Wrth siarad ar ginio yn Newcastle- on-Tyne ddydd lau diweddaf, addefodd Mr Bonar Law nad oedd gan y Toriaid ond siawns wael y deuent i swydd am rai blynyddau. Dywedai fod llawer o honynt yn credu, ar bwys dvwediad Arglwyd Salisbury o barthed i ymsigl y pendil, y deuai eu plaid yn hwyr neu hwyrach, oddieithr iddynt golli eu pen- au'n IIwyr, i awdurdod eto. "Os y gellir eu dwyn i gredu," meddai, "mai y Rhyddfrydwyr yw cyteillion y tlawd, ac mai nyni yw I pleidwyr y cyfoethogion, yna nis gwelaf unrhyw reswm paham na byddai i hanes ail adrodd ei hun." I Mr Lloyd George yn amlwg y priodolai y tebygolrwydd y byddai i'r dosbarth gweithiol gymeryd yr agwedd hono ar bethau, o herwydd dy- wedai :— Y mae y Blaid Ryddfrydol yn cael ei bendithio, ag edrych arni o safle plaid, ag un o'r eilunod gwerin mwyaf fu erioed mewn unrhyw wlad, ac y mae yn meddu ar bob cymhwysder i'r safle hono." Un o'r cymhwysderau hyny, meddai Mr Bonar Law, oedd fod y Qanghellor i raddau helaeth o ddifrif. Credai fod Mr Lloyd George yn ei galon yn dymuno gwella sefyllfa y werin bobl. Yr oedd fel actiwr ar y llwyfan yn chware rhan Macbeth. Ar y pryd hwnw Macbeth ydoedd, ac fel Macbeth y meddyliai, onJ ar ol i'r goleuni gael ei roi allan ac iddo yntau fynd gartref Lloyd George fyddai drachefn. __n
i - -u- ,I ; Ymgeisydd Toriaidd…
-u- Ymgeisydd Toriaidd Meirion. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn i Blaenall Ffestiniog, y dydd o'r blaen, gan Mr Sam Thompson, yr hwn sy 'n bwriadu sefyll fel ymgeisydd Toriaidd tros y Sir. ArgJwydd Kenyon oedd yn y gadair, ac yr oedd Mr Ormsby Gore, A. S I ac eraill yn bresenol. Sylwodd Mr Thompson y dywedid wrtho'n ami ei fod wedi ymgymeryd a gorchwyl anobeithiol iawn trwy gyd- synio i ymladd am y sedd yn ffafr y } Ceidwadwyr. Gallai hyny fod yn wir neu beidio, ond yr oedd yn sicr o un peth ni bu adeg erioed ag yr oedd angen mwy o adolygiad manwl, medd- ylgar a phwyllog o'r sefyllfa wleidyddol yn y wlad hon. Credai nad oedd pobt Meirion yn brin o gydnabod hyny, ac o barodrwydd i wrando'n deg ar olygiad- au pob plaid. Gofynai i'w wrandawyr a oeddynt yn argyhoeddedig y gwnai Dadgysylltu'r Eglwys ddaioni i rywlIn ? Fyddai hyny o fudd i'r genedl ? Fydd- ai hyny'n lies i grefydd ? Fyddai iddo dueddu i uno'r enwadau ? Fyddai i hyny ein dwyn yn nes at undeb Cnstion- ogol ? Dyna oedd y cwestiynau mawr a phwysig, ac os na ellid eu hateb yn gadainhaol, nid oedd Dadgysylltiad yn iawn yr oedd yn anheg, ac yn ddinystriol ei ganlyniadau.
Damwain Ana-euol i Mr Percy…
Damwain Ana-euol i Mr Percy Lambert. Y MODURWR ENWOG. I Cyfarfu Mr Percy Lambert, un o'r modurwyr mwyaf enwog yn y wlad, a damwain angeuol yn Brooklands, ddydd Gwener diweddaf. Yr oedd Mr Lam- bert yn ceisio tori'r record am gyflymder gyda'i fodur, a phan yn mynd yn ol y cyflvmder o 1 14 milltir yr awr torodd un o'r tyres a gwyr-droes y modur i gyfeiriad pen uchafty rhedegfa ochrog ac yna troes a'i wyneb yn isaf gan daflu Mr Lambert i'r llawr gyda grym ofn- adwy ac achosi niweidiau erchyll iddo. Bu farw ymhen ychydig funudau.
Gynor Dosbarth Lleyn. I
Gynor Dosbarth Lleyn. I Cynhaliwyd cyfarfnd o'r uchod ddydd Mercher diweddaf.—Mr. J. Hughes- Parry yn y gadair. Adroddiad y Meddyg.—Yr oedd ad- roddiad Dr Lloyd Owen, y swyddog meddygol, yn dangos y bu pymtheng ar hugain o enedigaethau a thri ar ddeg o farwol.-iethau yn y dosbarth. 1 Bu dau blentyn farw yn Bryncroes ar ol bod dan y dwymyn goch, yr hwo oedd yn salwch cyffredin yn y sir, meddid. Sylwyd y bu Cyrnol Gough a'r Parch J. Lodwig Davies yn hynod garedig wrth y teulu, gan gymeiyd un plentyn arall oedd yn wael i dy arall a chael mamaeth i weini arno. Pasiwyd diolcil iddynt am eu caredi^rwydd. HysbyoJJ y swyddog hefyd tod amryw dai anghymwys yn y dosbarth, a rhoed gorchymyn ar i welliantau g-ael eu cario allan aroynt. Pwysai hefyd ar yr angen o godi ysbyty ar gyfer afiechydon heintus. Dirpnnyudh Yr oedd dirprwyaeth gerbron i bwyso ar i'r Cyngor wneud pont tros yr Afon Erch ger Tyddyn y Felin. Dywedai yr Henadur W. Eifl Jones, yr hwn flaenorai y ddirprwyaeth, y byddai yn ami yn anfon cerbydau i gynhebryngau i groesi'r afon, ac ar brydiau byddai y Hit nior uchel nes byddai'r ceffylau bron methu mynd trosodd, ac yr oedd ei chroesi ar adeg felly yn neillduol beryglus. Hysbys- wyd hefyd gan Mr Roberts, Penrhos, y gorfyddid croesi'r afon i'r capel, i'r ¡ felin, ac i ddod i'r farchnad. Dywed- odd Mr W. Evans, Llithfaen, y bu raid i'r meddyg unwaith droi yn ol ar ei ffordd i ymweled ag un claf oherwydd nad oedd modd croesi'r ilfon.-Pasiwyd fod i'r arolygydd dynu allan gynllun ac amcangyfrif o'r gost, ac i geisio cael allan faint o gymorth lleol allesid ddibynu arno at y mudiad. Cu-yn y Cymerwr Yr oedd cymerwr y gwaith o wneud pont ger Abererch wedi ysgrifenu i ddweyd nad oedd ei gynygiad wedi ei dderbyn gan y Cyngor am rai misoedd ar ol iddo ei anfon. Yn y cyfamser yr oedd prisiau nwyddau wedi codi. Byddai y gwa- haniaeth yn mhris yr haearn yn unig yn 25P Gofyn2 i am i'r Cyngor ei gyfartod, gan mai hwy oedd i'w beio oherwydd eu hoediad yn derbyn y cynygiad.-Sylwodd y Clerc fod cyfran- iadau y Cynghorau Plwyf yn cael eu rhoi yn ol safon y cynygiad gwreiddiol, a byddai raid i Gynghorau Plwyf ddioddef os byddid yn penderfynu tain mwy o bris.—Pasiwyd gohirio'r mater nes gohebu gyda'r cynghorau eraill. Mynwent wedi ei Chau.- Hysbysudd yr Arolygydd y clywodd fod angladdau yn cymeryd Ile yn mynwent Llangwnadl er fod y tynwent wedi ei chau yn igi i.- Cynygiodd y Parch T. E. Owen eu bod yn anfon at y ficer i ofyn am eglurhad. —Pasiwyd hyny. Penodiad.— Penodwyd Dr Augustus Evans, Pontygribin, i gynrychioli'r Cyngor ar Lys Coleg Bangor. o
ITerfysg yn Wisbech. 1
Terfysg yn Wisbech. 1 YMOSOD AR DAI MEDDYGON. Y mae terfysg mawr yn nhret Wis- bech er's dyddiau, a bu raid darllen y Riot Act yno. Y mae'r helynt, fel yr ymddengys, wedi dechreu er's dwy flynedd yn ol pan gwblhawyd y panel yno ynglyn a'r Ddeddf Yswiriant. Oherwydd fod yr aelodau Ileol o'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig yn gwrthod gweinyddu ar y panel, dygwyd dyn ieuanc o'r enw Dr Dimock yno gan y Dirprwywyr o Ely. Gwrthodod,, d y meddygon lleol a'i gyfarfod na gwneud dim ag ef, a chatodd ei toicotio ymhob modd. Gelwid arno allan o'i dy yn y nos yn ddiachos, a thorwyd y drws, ac ni chai neb i'w gynorthwyo i wein- yddu gweithred lawfeddygol. Dy- gwyd gwys yn ei erbyn gan Dr 1\1 ea- cock, meddyg o'r lie, ymhen ysbaid, J am enllib honedig. Gwadai Dr Dim- ock y cyhuddiad yn bendant, a gollyng- wyd ef yn rhydd ar feichiaton. Yr oedd yn amlwg fod y meddyg ieuanc yn poeni oherwydd y cyhuddiad, ac ychydig ddyddiau yn ol cafwyd ef yn gorwedd yn farw yn ei wely. Yn ei angladd yn Stretham talwyd teyrnged uchel o barch iddo, ac yr oedd tyrfa fawr yn edrych ar y gladdedigaeth. Cynhaliwyd cyfarfod yn yr awyr agored yn Wisbech i brotestio yn erbyn y driniaeth a gafodd. Yr oedd mil- oedd lawer wedi dod ynghyd yno, a phasiwyd pleidlais unfryd o gydym- deimlad a theulu Dr Dimock. Yna gorymdeithiodd torf fawr o weithwyr at dv Dr Meacock, gan waeddi bygyth- ion iddo os y deuai i'w golwg. Malur- iwyd y ffenestri a'r drws, ac wedi hyny aeth y dorf at dy Dr Grinson, a thoras- ant y ffenestri yno hefyd. Yr oedd ar bob meddyg yn y lie ofn mynd allan o'i I dv. Oddeutu haner nos aeth torf o tua mil drachefn at dy Dr Meacock gan luchio cerrig i mewn a chreu terfysg enbyd. Teliffoniwyd am yr heddlu i leoedd eraill, a daeth y Maer yno a darllenodd y Riot Act. Wedi hyny cluriwyd y dyrfa ac ni wnaed difrod pellach.
-0- , Ystad Madryn. I
-0- Ystad Madryn. Mewn atebiad i'r Arglwydd Raglaw yn Nghyngor Sir Caernarfon yr wyth- nos ddiweddaf eglurodd yr Hcnadur Jones Morris mai y diffyg ar weithio Ysrad Madryn—yr Ysgol Amaethyddol a'r man-ddaliadau-am y flwyddyn a aeth heibio oedd J 1693P., ond nas geliid cyfrif hyny'n hollol fel coiled ar yr an- turiaeth. Cyngor Trefol Pwllheli. Cynhaliwyd nos Fawrth, Hydret 28. Presenol Yr Henadur 0. Wynne Griffith (y Maer) yn y gadair yr Hen- aduriaid R. Ivor Parry, W. Eifl Jones, a W. Anthony y Cynghprwyr R. Albert Jones, Richard Jones, G. Cornelius Roberts, O. Ellis Jones, T. W. Thomas, E. Jones Griffith, Hugh Pritchard, J. Summers, W. Wynne Owen, Dr Jones Evans, ynghyda'r swyddogion. Y Cloc Mawr.—Hysbysai Mr D. Griffith, oriadurwr, fod y cloc mawr wedi bod allan o drefn, tueddai i arafu a cholli amser ar dywydd poeth. Addawai y gwneid pob ymgais i'w gael i gadw amser cywir rhaglaw. Y Tren Wuth. — H vshvswvd tnd l 7 l Cwmni'r Cambrian wedi trefnu i redeg tren o Bwllheli wyth o'r gloch y boreu yn lie ugain munud wedi wyth, am Borthmadog a Minffordd, fel ag y geliid cael cysyiltiad a R heiltTordd Ffestiniog, Pasiwyd diolch i'r Cwmni am eu cwrteisrwydd. Y Ptiriarif, Ytin-Yr oedd adroddiad Pwyllgor y TAn-Frigad yn hysbysu mai swm yr elw cllr oddiwrth gyngherdd, plant yr ysgol oedd 62p., ac y fcieu 21 p. trwy gasgliadau yn Heol Fawr a Salem Terrace. Pwysai y Pwyllgor ar i'r casglyddion orffen eu gwaith mor tuan ag oedd bosibl. Pasiwyd hefyd eu bod i hysbysebu am beiriant diffodd tân, a'r offer angenrheidiol i'w ganlyn. —Mewn atebiad i gwestiwn o eiddo'r Henadur R. Ivor Parry dywedodd y Clerc fod y cwmniau yswiriol yr anfon- wyd atynt wedi gwrthod cyfranu, a sylwodd Mr. Parry fod y mater yn bwysig i berchenogion eiddo ac i gwni- niau yswiriol, a chynygiai ef eu bod yn anton at y cwmniau i'w hysbysu nad oedd y Cyngor yn barod i ofyn i'r frigad wneud ymdrech arbenig i arbed yr adeiladau os nad oeddynt hwy yn barod i gyfranu, a chan mai hwy oedd yn debycaf o dderbyn y budd mwyaf oddiwrtho dylent gyfranu tuag at y peiriant.—Yr oedd yr Henadur W. Eifl Jones o'r un farn ag ef.-Sylwodd Mr. Cornelius Roberts fod y perchenogion eiddo wedi datgan eu parodrwydd i gyfranu, ac fod y cwmniau yswiriol yn talu i dan-ddiffoddwyr am eu gwasan- aeth, ac mai dyledswydd y dan-frigad cedd arbed bywyd ac eiddo.-Dywed- odd y Clerc hefyd fod y cwmniau wedi pasio i beidio cyfranu at beirianau tân, oherwydd pe dechreuent ni byddai ddiwedd ar geisiadau atynt am gyfran- iadau atynt o'r un natur. —Hysbyswyd y costiai y peiriant oddeutu 4ooP. I a gofynodd Mr. E. Jones Griffith pwy fyddai gyfrifol am y gweddill o'r arian os na byddai y cyfraniadau yn ddigon. —Sylwodd yr Henadur W. Anthony yr hyderai et y byddid wedi cael digon mewn cyfraniadau, ond mai priodol er hyny oedd penderfynu pwy oedd i fyn'd yn gyfrifol cyn i'r peiriant gael ei brynu.-Sylwodd Mr. Hugh Pritchard a Mr. R. A. Jones y hyddai y Cyngor yn myn'd yn gyfrifol os mabwysiadent adroddiad y pwyllgor.-Wedi siarad pellach ar y mater pasiwyd, ar gynyg- iad Mr. Hugh Pritchard, yn cael ei eilio gan yr Henadur W. Anthony, fod y Cyngor yn mabwysiadu adroddiad y Pwyllgor, a chytunwyd i roi awdurdod i'r Pwyllgor bwrcasu peiriant ar y dealltwriat: h y byddent yn gwneud yr oil oedd ) ii eu gallu i gael yr arian oedd yn angenrheidiol at yr amcan trwy gytraniadau gwirfoddol. Y Porthladd —Rhoes Mr. G. Cornelius Roberts rybudd y byddai yn cynyg yn y cyfarfod nesaf tod muriau y gantry yn cael eu symud ymaith, gan nad oedd yn dda i ddim, ond yn hytrach yn rhwystr fel yr oedd ar hyn o bryd.— Hysbyswyd tod Mr. Lavey ar ol gyda'r rhent, ac nad oedd wedi talu ond i5op. allan o'r 500P. dyledus. Yr oedd wedi cytuno i dalu 5op. y mis, a phasiwyd i'w orfodi i gadw at y cytundeb hwnw. Derbynioxiau.—Hysbysodd y Cyfrifydd Trefol y derbyniwyd y symiau a ganlyn yn ystod mi s Medi :—Oddiwrth dreth y dosbarth, 261p. treth y dwr, 252p.; y lladd-dy, 8p.; y dramffordd, 5ip.; y Maes, 8p.; y fynwent, 5p.; tollau y Neuadd Drefol, 2p rhenti, nop.; y dreth fwrdeisiol, 750P- oddiwrth yr harbwt, 53p. oddiwrth y gerddi, 12P.
Yr Etholiadau Bwrdeisiol.…
Yr Etholiadau Bwrdeisiol. Cymerodd Etholiadau Bwrdeisiol Lloegr a Chymru le ddydd Sadwrn diweddaf. Nid oedd yr etholiadau oil yn cael eu hymiadd ar linellau plaid, ac telly nis gellir nodi yn fanwl beth yw y canlyniadau o agwedd wleidyddol. Ond mor agos ag y gellir casglu mae'r safle fel y canlyn:- Y Rhyddfrydwyr wedi colli 8, y Llafurwyr wedi enill 24, y Sosialiaid yn sefyll yr un tath, yr Un- debwyr wedi colli 14. Yn Bangor yr oedd y canlyniad fel a ganlyn Y Ward Ogleddol.—R. J. Williams (R.), 402; D. Rowland Jones (Llaf.), 363 Stephen Jones (Llaf ), 211. Y Ward Orilewinol.-T. J. Williams (R.), 353; G. F. Ainget Williams (T 236; Lloyd Edwards (R.), 229. f" Y Ward Ddwyreiniol.-O. Hughes (R.), 376; George Willianr | (Llaf.), 151. Dyma fel yr oedd y canlyniad yr Nghaernarfon :— Y Ward Orllewinol (pedair sedd).— Owen Evans, 587 T. Armstrong, 569; M. E. Mee, 548; Thomas Jones, 496; W Daniels (Llaf.), 301. Yn y Rhan- barth Ddwyreiniol (dwy sedd).—Capt. Jones Williams, 304; Henry Parry, 26o J. T. Jones, 254; John Roberts (Llaf.), 213; Evan Williams (Llaf.), 177.