Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

- NODION A HANESION.\

- - - .-_. - i LLOSGI CAPEL…

IRheswm o Bwllheli.

11--ICymanfa Ddirwestol Lleyn…

ICael Hen Wr wecSi Boddi.

[No title]

Trycliineb Ofnadwy ; yn y…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Trycliineb Ofnadwy yn y Delieudir. TANCHWA MEWN GLOFA. 435 0 FYWYDAU WEDI COLLI. GOLYGFEYDD CALONRVVYGOL. Tua wyth o'r ?K?h tore ddydd Mawrth diweddaf, bu trychineb arswyd- us yn nglofa Shen?henydd, Deheudir Cymru-y digwyddiad mwyaf arswyd- lawn a fo erioed yn hanfcs y glofeydd yn y wlad hon. Cymerodd tanchwa ofn- adwy le yn y lofa, a thoroJd tan allan yno, gjnn wneud difrod dychrynllyd ar fywydau, tel y dengys y ffigyrau a ganlyn :— Nifer y rhai oedd yn y pwil 935 | Wedi eu gwaredu 500 Rhif y meirw a'r calledia- 433 Brawychwyd y trigo ion gan swn v ffrwydriaj, a theimlid yr ys^\twad tiwy yr holl ddyffryn. Yn deall fod i hyw- beth arswydlawn wedi digwydd tyrai miloedd o bobi i'r lie ar unwaith. Gymaint oedd nerth y ffrwydriad fel y cafodd y dyn a weithiai ar enau'r pwll ei ladd yn y fan. Yr oedd ei ben wedi ei chwythu ymaith oddiwrth ei gorff. Yr oedd y peirianau hefyd ar enau'r pwll wedi eu chwilfriwio. Yn fuan ar ol y ffrwydriad yr oedd minteioedd dewr yn myndi lawr i geisio gwaredu'r trueiniaid oedd yno, ond yr oeddynt yn cael eu gorchfygu gan y nwyon a'r tân. Ond elent i lawr dra- chefn a thrachefn er gwaethaf y rhwystr- au, ac yr oedd yno le difriiol-canoedd lawer o wragedd a phlant a pherthynas- au eraill ymron gwallgofi, ac yn dis- gwyl am newydd am eu hanwyliaid. Erbyn tri o'r gloch y prydnawn yr oedd agos i bum' cant, y rhai a weithient yn nghwr dwyreiniol y lofa, wedi eu cael i fyny, ond yr oedd yno dros bedwar cant yn y cwr gorllewinol drachefn, ac nid oedd ond gobaith gwan y gellid eu gwaredu, gan mai yn y cwr hwnw y cymerodd y danchwa le. Dygwyd rhai o'r cyrff i fyny yn y j man, ac yr oedd rhai wedi eu handwyo gymaint fel nad oedd modd eu hadnab- od. Dygid eraill i fynu'n fyw ond mewn cyflwr truenus. Bu un dyn farw gynted ag y deuwyd ag ef i fyny, Parheid gyda'r gwaith o geisio gwaredu y trueiniaid drwy'r nos, ac erbyn tri o'r gloch y bore yr oedd deunaw arall wedi dwyn i fynu o ganol yr alanas yn fyw, ar ol bod yn y pwll am bymtheng awr. Yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn abl i gerdded i'w cartrefi, ond bu raid cario y lleill gan eu bod wedi llwyr ddiffygio. Ar oli ddynicn profiadol fod i lawr ) yn arch willo'r Ile ddydd Mercher pen- derfynodd yr awdurdodau ollwng dwr i l wr i ddiffodd y tan oedd o hyd yn cyneu, ac yr oedd hyny yn golygu nad oedd unrhyw obaith pellach y gellid gwaredu chwaneg o'r trueiniaid. Bernid fod yno dros ddeugain mil o bobl wedi tyrru i'r He cyn pen ychydig oriau ar ol i'r danchwa gymeryd lie. Rhedai trenau Hawn yno o Gaerdydd bob haner awr, y rhan fwyaf o'r rhai oedd ynddynt yn ferched a pherthynas- au iddynt yn y gwaith. Gwelid un ddynes wedi eu llwyr syfrdanu gan y newydd prudd fod ei gwr, ei phedwar mab a'i thri brawd wedi cyfartod a'u diwedd. Yr oedd heolydd Shenghenydd yn llawn o dyrfaoedd distaw, yn cerdded ol a blaen yn ddiamcan, neu yn setyll yn finteioedd syn ar y conglau. Nid oedd odid i deulu yn y lie nad oedd berthynas neu ffrynd iddo wedi colli, ac mewn rhai amgylchiadau mae y gwr a'r meibion wedi eu cymeryd oddiwrth y rhai ddibynai arnynt am gynhaliaeth. Dyma fel y dywedai un o'r dynion a lwyddodd i gael rhai o'r trueiniaid i fyny'n fyw foreu Mercher Yr oedd llawer o honynt," meddai, yn gorwedd yn dyrau yn y llochesau ganfuasant pan yn rhedeg am eu bywyd. Yr oedd yr olygfa yn rhy arswydus i geisio ei des- grifio. I ddechreu daethom ar draws chwech. Yr oeddynt yn hollol lonydd, ac yr oeddym yn meddwl eu bod oil wedi marw nes y gwnaethom archwil- iad arnynt. Darparwyd ymgeledd iddynt ar unwalth, ac aethom ymlaen i edrych am ychwaneg. Ond nid oedd dim i'w weled ond cyrff meirwon. Gwelem ambell i geffyl yn fyw yn ymyl cyrph y dynion. Llwyddais i gael un bachgen bychan 1 fynu'n fyw. Pan y cymerem ef i fynu clywais ef yn dweyd fod arno eisieu mynd i Gaerdydd i weld clwb pel droed y dref yn chware, ond druan bach bydd am lawer wythnos cyn y gwel ddim o'r fath. Yroedd yn rhaid ini gario'r clwyfedigion dros y meirwon, ac weithiau tarawai ein traed yn erbyn darnau o gyrff. Gwelais ddau yn farw yn mreichiau eu gilydd. Gwel- ais rai eraill yn gorwedd fel pe'n cysgu —ond eu cwsg diweddaf ydoedd. Bum yn gwaredu rhai mewn damwain o'r blaen, ond ni welais erioed y fath olygfa galonrwygol ag a welais y tro hwn." Dywedai Mr Bert Williams, Sheng- henydd, un o'r rhai waredwyd fel a ganlyn am ei brofiad ofnadwy Y peth cyntaf a glywais oedd ergyd fawr pan oeddwn yn mynd ar y tran). Yna, yn sydyn, cefais fy nharo i lawr, a bum yn gorwedd yno'n anymwybodol am oriau lawer. Rwyf yn cofio dod ataf fy hun, ac y dywedwyd wrthyf wedi hyny ei hod tua haner nos. Pan ddaethum ataf fy hun canfyddais fy mod yn gor- wedd yn ymyl ceffyl oedd wedi marw, 1 chlywais rywun yn gwaeddi tuag Jg-ain llath oddlwrthyf. Dywedwyd wrthyf wedi hyny mui Archie Dean ydoedd, yr hwn hefyd gafodd ei waredu. Pesychwn yn bai haus oherwydd y'mwg. Gwelwo oleuni beth ffordd oddivvrthyf. a llwyddais i allu gwaeddi, a thynwyd sylw y gwaredwyr ataf, ac ar ol cael fy ymgeleddu ganddynt yr oeddwn yn iawn ymhan ychydig o amser. Ond ni anghofiaf byth yr oriau dreuliais yn y tywyllwch fy hunan. Gwelais lawer o gyrff ar fy ffordd wrth fynd ailan. Yr oeddwn wedi dis?yn yn y tywyllwch tua thri chan 1!ath o'r He yr oeddwn yn gweithio, ac yr oeddwn yn mynd am wyneb y glo. Pe bawn wedi cyraedd yno buasai ar ben arnaf." Brydnavvn Iau cvnha'iv\yd trenghol- iad I iad ar 59 o'r cyrff .-1 gaed i fynYI ao.: oi fu olygfa erioed mwy trist na gweled eu pevthynasau yn dod o un i Un am dros ddwy awr i dyslio eu hadnabyddiaeth o'r trancedi:ion. Y r oedd y merched o.fi' n 's cu tro i gael eu gal, w yn yr amser, ac ar hry d- i iu yr oedd eu galar mor angerddol fel y torent i la wr yn llwyr. Yr cedd yno un hen wraig bedwar ugain oed, a'r uniy; fab oedd ganddi wedi ei ladd. tin; fal) oc-d d L Qollodd ei gwr a'i meibion eraill mewn damweiniau blaenorol- Yr oedd ilawer iawn o Ogiedd Cymru yn gweithio yn nghlofa Shenghenydd, ac y mae amryw o honynt ymysg y coliedigion. Y mae pedwar o dueddau Porthmadog wedi eu colli, ac amryw byd o dueddau Ffestiniog, Trawsfynydd a Nantlle Hysbysir fod yr oil o'r rhai weithiai yno o ardal y Penrhyn ymysg y gwaredigion. Y mysg- y trueiniaid colledig y mae Mr Willie Hughes, mab Mr a Mrs David Hughes, Llys Hyfryd, .-sottwilog a'r hwn oedd yn nai i Mr Robert Hughes, London Temperance, Pwllheli. Mae'n fwy na thebyg y buasai brawd ac ewyrth iddo hefyd wedi colli eu bywyd, onibae fod y bachgen wedi cwrdd a damwain y diwrnod blaenorol, ac oherwydd hyny nid oedd y ddau \\edi mynd at eu gwaith. Yr oedd Mr Robert Williams, mab Mr a Mrs Thomas Williams, Gors, Pwllheli, hefyd wedi cael damwain i'w fysedd y diwrnod cynt, ac onibae hyny buasai yn gweithio yn y pwll lie y cymerodd y danchwa le. Yr oedd Mr Hugh Owen, mab Mrs Margaret Owen, New Street, yn gweithio yno hefyd, ond y mae yntau yn ddiogel. Bu et yn cynorthwyo i geisio gwaredu rhai o'r trueiniaid, a dywedai mewn llythyr gartref nas anghofia byth. y profiad gafodd. FFRWYDRIAD ARALL YN Y DE. Foreu Sadwrn ffrwydrodd nwy yn nglofa Bynea, ger Llanelli. Cafodd naw o ddynion eu llosgi'n ddifrifol. Aed a saith i'r ysbyty, a bu un, William Price, Pwll, farw y boreu dilynol.

- L? Prawf Alice Hughes yn…

DAMWAIN FAWR AR Y RHEILFFORDD.

- lj_ - Awyrlong Fawr wedi…