Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. j Aufoner erbyn BOREU SA: W R N y fan bellaf Pob arcbebion » th>dia.i»n am Yr tTDGOKJT l'w hucifon i'r Goruchwtliwr, 74, Hiiih Strpiet, Pwlihpli Poh gohebiaeth i'w cyfeirio— YB UDGORN Office, Pwllheli. Byid vn dda. gony-i) drifrhyn goheh- i-totbaa oddiwrth ohebwyr >\r fatprion ileol o Wdyddordeb cyboeddl)H
- NODION A HANESION.\
NODION A HANESION. 300p. am Goes. Yn Lerpwl yr wythnos ddiweddaf caniatawyd iawn o 30op. i fachgen ieuAnc o'r enw Harper, yr hwn oeud wedi tori ei 'goes trwy i wagen fyned trosto ar yr heol. Dau Fravvd Bychan yn Boddi. Yr w ythnos ddiweddaf, canfuwyd dau fachgen bychan. plant i was y Cadfridog Syr Francis Lloyd, wedi boddi yn y gamlas ger Croesoswallt, yn agos i'w cartref. Nis gwelodd neb hwy yn agos i'r dwr, a sut yr aethant yno sydd ddir- gelwch. "If- Taflu ei Phlentyn o'r Tren. Yn Mrawdlys Berkshire, yr wythnos ddiweddaf, cyhuddwyd dynes o'r enw Amy Franks, o lofruddio ei baban trwy ei daflu allan drwy ffenestr y tren. Cafivyd fod y ddynes yn euog, ond pas- iwyd ei bod yn orphwyll ar y pryd y cyflawnodd yr anfadwaith. Antonwyd hi i'r gwallgofdy. Haelioni Teulu Pias Diiiam. Yr wythnos ddiweddaf, cyflwynodd teulu Plas Dinam sefydliad cyhoeddus i dref Llanfair Caereinion. Dd ng mlynedd yn ol rhoesant neuadd gyhoeddus i bentref Caersws, ac er y pryd hwnw y maent wedi cyflwyno rhoddion cyffelyb i drefi Llanidloes a Mjchynlleth, ac i bentref Liandinam. Y mae sefydliad Llanfair vn adeilad hardd iawn, yn cynwys llvfrgell, ystafell i ddarllen, llei chware bi Huidst a neuadd ddigon eang i gynwys 450 o bob!, ar gyfer cyngherddau a chyfarfodydd cyhoeddus. A Ymddiswyddiad y Parch D. Charles Edwards. Oherwydd gvvaeledd parhaus y mae y Parch D. Charles Edwards, cynrych- iolydd tros Ogiedd Cymru i Gymdeithas y Beiblau, wedi anfon ei ymddiswyddiad i'r cyfarwyddwyr. Er's peth amser, ar gais y Gymdeithas, cymerid gofal o'r dosbarth gan Dr Cynddylan Jones, gan hyderu y byddai gorphwysdra llwyr oddiwrth ei waith yn galluogi Mr Edwards i ail ymafiyd yn ei A-ath y flwyddyn nesaf. Fodd bynag, yn unol a chytarwyddid ei feddyg, y mae Mr Edwards yn gorfod rhoi'r s'ydd i fyny, er y bydd yn aliuog i lanw ei gyhoedd- iadau Sabbothol. <- "Arwr Mawr." Disgwylid am y manylion ynglyn a thrychineb arswydus y Volturno gyda phryder mawr yn y Borth, gan tod Mr Edward Lloyd, y trydydd swyddog ar y llong, yn frodor o'r lie hwnw. Mab ydyw i Mr a Mrs Lewis Lloyd, Lerry House, ac y mae yn dal truydded cap- ten. Pan yr hwy iai o Gae-dydd deuai gartref yn fynych, ond yn ddiweddar trigai yn Rotterdam. Dtrbyniodd ei rieni bellebyr oddiwrth berchenogion y Hong yn hysbysu tod Lloyd wedi ei waredu gan y llong Germanaidd, a'i tod wedi profi ei hun yn arwr mawr yn yr amgylchiad ofnadwy a'u goddiwedd- odd. Canibaliaid yn Bwyta Anturiaeth- wr. Y mae hysbysrwydd wedi cyraedd i'r wlad boo fod brodorion Papua wedi llofruddio Mr Henry Werner, yr antur- iaethwr a'r gwvddonydd Americanaidd, yr hwn gyrhaeJilodd i Papul o Awstralia ddechreu'r flwyddyn hon. Y mddeoys fed y brodorion wedi ym- osod ar Mr Werner a'i ganlynwyr rai wythnosau yn ol. Ymladdodd yn eu herbyn am yspaid, a lladdodd dri nell hedwar o honynt hefo'i lawddryll, ond gorchfygwyd ef ganddynt. Torasant ei freichiau a rhwymasant -ef fel yr arferai'r brodorion gario moch. Wedi hyny bwytasant ef. Y Brenhin a'r Frenhines a'r Glowyr. Anfonodd eu Mawthydi y Brenin a'r Frenhines frysneges yn datan eu gofid dwys o glywed y newydd am v trychineb arswydus yn Shenghenydd Hefyd, yn unol a gorchymyn y Brenin a dymuniad y Tywysog a'r Dywysoges Arthur o Connaught, y mae yr anrheg- ion priodasol i'r par Breninol i gael eu dangos i'r cyhoedd bob dydd cddigerth ddydd Sul, yn Mhalas St. James Codir tal o swilt ar bob person am fyaediad i mewn, ac aiff yr arian dder- bynir i ffurfio cronfa at leddfu cyni y j rhai a gollasant eu hanwyliaid yn y digwyddiad alaethus. Can' Punt am Swp o Flodau. Yn ei hewyllvs gadawodd Miss Anne Sutton, Derby, ,¡jl' punt i un Lilian Weston, "er cof am swp o flodau." Apel Aflvvyddianus. Yn Chwarter Sesiwl1 Meirionvdd, yr wythnos ddiweddaf, bu ynadon v Bala am bum' awr yn gwrando apel gan Humphrey Williams, chwarelwr o Dal- sarnau, yn erbyn cosp a roed arno yn Llys y Penrhyn, am gario gwn heb drwydded. Yn y diwedd taflvvyd yr apel allan. Priodas Freiniol. Ddydd Mercher diweddaf, cafodd y Dduces o Fife a'r Tywysog Arthur o Connaught eu buno mewn priodas. Cymerid dyddoideb mawr yn yr achlysur, ac yr oedd tyrfaoedd anferth wedi tyrru yn yr heolydd yn Llundain, i weled y rhia!t\ch. Cisiodd suffragette daflu bwndel o bamphledau i erbyd y Frenhines, ond rhwystrwyd hi gan yr heddgeidwaid. Geneth Facn yn Llosgi. Bu geneth fach o'r enw Ivy Williani, farw yn ysbyty Brk-nhead, y dydd o'r blaen, oddiwrth efFeithiau ilosgiadau Gadawyd yr eneth fach yn y ty ei hun gan ei mam am ychydig funudau. Rywf'odd aeth dillad yr eneth fach ar dan, a rhedodd gan lefain i'r heol. Taflodd dyn ei got am dani allwyddodd i ddiffodd y fflamau, ac yna cariodd hi i'r ysbyty. + Esgob Hicks a Dadgysylltiad. Mewn cyngrair Eglwysig yn Lincoln y dydd o'r blaen cynygiwyd penderfyniad yn condemnio Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys. Yr Esgob Hicks lywyddai, a dywedodd, Nid yw y peth yn fy llaw i," meddai, "ac nid wyf mewn cydym- deimlad ag et. Gadawer i ni gael y mesur oddiar y ffordd, a dartod gydag et." Pan basiwyd y penderfyniad yr oedd yno beth arddangosiad o trwd- frydedd, a chan wenu diolchodd yr Esgob iddynt am eu cymeradwyaeth. Y Ferch ynte'r Ci ? Yn Llys y Manddy'edion yn Llundain, y dydd o'r blaen, yr oedd dynes o'r enw Mrs Beasant yn hawlio 20p. o iawn oherwydd fod ci bychan iddi wedi ei ladd. Dywedai y ddynes na hyddai waeth ganddi golli ei geneth n;>vy na'i chi. 4, Faint yw ot-d eich geneth?" gofynai'r barnwr. Deg," rpeddai hithau. Ac yr ydych yn dweyd na fuasai waeth genych golli'ch geneth mwy na'r ci ? "Ydwyf." Caniat- awyd 20p. o iawn iddi. Yr Eneth Fach Unig. Ymvsg y gwaredigion o'r lloog losgedig, Volturno, a ddygwyd i Ler- pwl, yr wythnos ddiweddaf, ar fvvrdd y Devonian, yr oedd geneth fach bum' mlwydd oed. Nid oedd neb yn y Hong allai ddeall ei thalod aith, ac nid oedd chwaith neb ar y lanfa a'i deallai. Yr oedd yn hollo! unig, ei rhieni, neu pwy bynag oedd yn gofalu am dani yn y Volturno, wedi cael dytrHyd fedd. Gobeithir y deuir o hyd i berthyjiasau iddi oddiwrth ei lilli). Yr oedd yn gwisgo medal ar ei mynwes. yr hon ddangosai ei bod yn perthyn i'r Pabydd- ion. Nis gellid meddwl am ddim mwy tnst na'i gweled yn wylo bron tori ei chaton yn ei hunigrwydd mawr. Y Dyn a'r Mochyn. Yn M rawdlys Rhuthin, ddydd Iau diweddat, cyhuddid llafurwr o'r enw Joseph Patrick Durney o wneud niwed maleisus i fochyn yn Llanfwrog, ger Caersws. H ooid i Durney fynd i'r cut at y mochyn a gwneud dwy archoll ddotn yn ei ochr gyda chyllell. Gwadai y diffynydd iddo gyflawni'r trosedd, ond yr oedd y rheithwyr oil oddigerth un yn cytuno ei fod yn euog. *Dywed- odd y Barnwr y rhaid iddynt oil gytuno, ac yn y diwedd cytunasant ei fod yn euog. Syiwodd y Barnwr fod y carch- aror yn ddiameu wedi mynd i'r cut pan dan ddylanwad diod, ac wedi archolli'r mochyn am ei fod yn got wedd yn y gongl gynes, ac yntau eisieu mynd yno ei hun. Ond nid oedd yn credu fod ganddo unrhyvv fwriad maleisus i niweidio creadur diieswm. Anfonwyd Durney i garchar am fis Yr Anfadwaith yn Lerpwl. Yr wvihnos ddiweddaf, cynhaliwyd trengholiad ynghylch yr anfadwaith gyflawnwyd yn Lerpwl pan y saethwyd dau ddyn a boneddiges ieuanc gan un W. Mc Donald, yr hwn hefyd a saeth- odd ei hun Pasiwyd rheithfarn i Mc- Donald lofruddo Miss Crompton ynyhyd a Mr Gaze a Mr Roberts, a'i tod yn ei ayflawn synwyr ar y pryd, ond y symbyivvyd i gyflawni'r gweith reJ edd anfad gan ysbryd eiddigeddus Dv wed wyd yn y Irn6holiad fod Mc- D* nald wedi sythio mewn cariad a Mi>s Crompton, ond na wnelai hi ddim ag et. ak Y Hynaf yn Nghymru. mae Mr Father Davies, Vauxhall Cottages, Lianelii, newydd gyraedd ei phen blwydd yn aiit a thair mlwydd oed. Ganed hi yn 1810, nc y mae wedi byw o dan deyrnasiad chwe' teyrn. Y mae yn weddw er's deng mlynedd a thri nv iin, ac y mae ei phlentyn ieuengal 73 mlwydJ oed.
- - - .-_. - i LLOSGI CAPEL…
LLOSGI CAPEL SALEM. ANFON ROSS I GARCHAR AM! BUM' MLYNEDD. Y CARCHAROR YN HAERLLUG. Yr wythnos ddiweddaf, yn Mrawdlys Caernarfon, o flaen y Barnwr Banks, dygwyd William Alexander Booth Ross, pobydd WI th ei alwedigaeth, i setyll ei brau f ar y cyhuddiad o fod J wedi tori i mewn i Eglwys y Drindod, Llandudno, ac i Capel y Bedyddwyr, ] Pwllheii, ac hefyd o tod wedi rhoi Capel Methodistaidd Salem, Pwllheli, ar dan. Edrychai y carcharcr yn ddyn deallus cerddodd yn dalog i'r doc, ac ymddvgai yn haerllug gan ymddangos yn hollol ddid.iro. AddeioJd ei fod yn euog o roi y capel ar dan yn Mhwllheli. Yr cedd y clerc yn darllen cyhuddiad arall o ba thed i'r hwn y cospwyd y carchar- or yn flaenorol, pan y gwaeddodd y carcharor Allan a'r banes." Gofynwyd iddo a oedd wedi cael ei gosbi, ac atebodd yntau y credai ei fod yno. Y Barnwr: "Nid a oeddych yno yw'r cwestiwn, ond a gawsoch chwi eich cospi hi peidio?-Y Carcharor (g-yda iiw): "ljjih sydd a wnelo hyny a c h u i ? Y Barnwr (mewn syndod): "Beth?" — Y Carcharor: "Beth sydd a wneio hyny a chwi?" Wedi hyny addetodd y carcharor ei fod yn euog o'r troseddiadau. Eglurodd Mr T. E. Morris, yr hwn a erlynai, fod y'.AAfcharor wedi ysgrifenu dat aiii,id ma-; i-yn yr hwn y desgrifiai fel yr oedd wedi rhoi capel Salem, Pwll- heli, ar dan. Deallai hefyd fod y car- charor yn dymuno i'r llys gymeryd i ystyriaeth ddau drosedd arall oedd wedi etl cyflawni yn Mangor. Dywedodd Mr Ellis W. Roberts, vr hwn oedd yno i'w amddiffyn o dan Ddeddf Amddiffyniad Carcharorion Tlawd, y gobeithiai y byddai i'r barnwr gymeryd i ystyriaeth y ffaith fod y carcharor yn ddiameu yn dioddef oddi- wrth ryw amhariad ar ei feddwi. Gofynwyd i'l carcharor a oedd ganddo rywbeth i'w ddweyd dros na ddylai dedfryd gael ei phasio arno. Atebodd yntau'n hollol ddidaro, "Gall y llys wneyd fel y mynont. Gallant fy nghrogi os dewisant Dywedodd y barnwr nad oedd gan- ddo eft a barnu oddiwrth ymchwiliadau unaed, unrhyw le i fedd-wl fod unrhyw amhariid ar synwvr y carcharor. Yr oedd hefyd wedi bygwth parhau i ys- beilio egiwvsi, ac os na chai arian | ynddynt, i'w rhoi ar dan. Byddai iddo gael ei ddedfrydu i benyd-wasanaeth am bum' miynedd. Diolch yn fawr i chwi'r hen frawd," nieddai'r cafcliaror, gan gerdded yn dalog o'r dystle. -0--
IRheswm o Bwllheli.
I Rheswm o Bwllheli. Ceisia rhai siopwyr nid pawb-ber- swadio cwsnjeriaid i gymeryd efelych- iadau o Doan's Backache Kidney Pills yn lie pilenau gwirioneddol Doan. Ond ceisiant yn ofer pan y gofyna pobl Pwllheli iddynt eu hunan, A wn i am rywun yn Pwllheli iachawyd gati yr efelychiadau hyn ? Wytbios ar ol wythnos darllenaf am bobl wedi eu gwella gan Doan's Backache Kidney I)iils, ond ni ddarllenais ac ni chlywais erioed am neb wedi eu hiachau gan efelychiadau. Beth wyf weil o wario arian ar bilenau eraill os na wnant les i mi, pan y gwn y gwna Doan's Backache Kidney Pills les i mi. Mae fy iechyd yn rhy bwysig i mi i weithredu ar un- rhyw beth amgenach oa phrofiad pobl Pwllheli. Dywed Mrs E. Jenkins, 16, Sand Street, Pwllheli Cefais fy, mlino gan fy rghefn a'm helwlod am rai I blynyddoedd yn ddiweddar. Nid oedd y dwr yn iawn, a dioddefwn oddiwrth boen yn fy meingefn. Y fsddyginiaeth wnaeth fwyaf 1.1 les i mi yw Doan's Backache Kidney Pills. Wedi eu cymeryd yr oedd fy nghefn yn well. Mae genyffeddwl uchel o Doan's Pills." (Arwyddwyd) (Mrs) E Jenkins, Pris 2S. gc. bocs, chwe' bocs am 13s. ge.; gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn tglur am Doan'.s Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mrs Jenkins.
11--ICymanfa Ddirwestol Lleyn…
11 Cymanfa Ddirwestol Lleyn ac Eifionydd. Cynhaliwyd cyfarfod Blynyddol y Gymanfa uchod yn ysgoldy Capel Seion, Pwllheli, o dan lywyddiaeth y Parch. J. Rhydderch. Dewiswyd yr un rhai a'r flwyddyn ddiweddaf yn swyddogion a phwyllgor, ac ymddiriedwyd i'r pwyIl- gor gweithiol wneud trefniadau ar gyfer tymor y gauaf.—Paiiwyd ar gyn- ygiad y Parch. D E. Davies, ac eiliad y Parch. J. Phillips, fod y Gymanfa a'r gwahanol ardaloedd i g efnogi y syniad o gael Mesur Dirwest > i Gymru.
ICael Hen Wr wecSi Boddi.
Cael Hen Wr wecSi Boddi. Yn Amlwch, ddydd Sul diweddaf, caed William Owen, hen wr pedair a phedwar ugain mlwydd oed, wedi boddi. Genedigol o Gaergvbi oedd y trancedig, a bu am haner can' mlynedd yn arwain pobl i fynu'r Wyddfa. Yn ystod y blynyddoedd diweddaf yr oedd yn byw mewn llety yn Nghaernarfon.
[No title]
-L)-- Nid oes ood dau wedi eu claddu, a'r rhai hyny dros ddeg a thriug'ain oed, yn mhlvvyf Theydcn Gieen, Eex, vn ystod y deuddeng mis di WeLidaf.
Trycliineb Ofnadwy ; yn y…
Trycliineb Ofnadwy yn y Delieudir. TANCHWA MEWN GLOFA. 435 0 FYWYDAU WEDI COLLI. GOLYGFEYDD CALONRVVYGOL. Tua wyth o'r ?K?h tore ddydd Mawrth diweddaf, bu trychineb arswyd- us yn nglofa Shen?henydd, Deheudir Cymru-y digwyddiad mwyaf arswyd- lawn a fo erioed yn hanfcs y glofeydd yn y wlad hon. Cymerodd tanchwa ofn- adwy le yn y lofa, a thoroJd tan allan yno, gjnn wneud difrod dychrynllyd ar fywydau, tel y dengys y ffigyrau a ganlyn :— Nifer y rhai oedd yn y pwil 935 | Wedi eu gwaredu 500 Rhif y meirw a'r calledia- 433 Brawychwyd y trigo ion gan swn v ffrwydriaj, a theimlid yr ys^\twad tiwy yr holl ddyffryn. Yn deall fod i hyw- beth arswydlawn wedi digwydd tyrai miloedd o bobi i'r lie ar unwaith. Gymaint oedd nerth y ffrwydriad fel y cafodd y dyn a weithiai ar enau'r pwll ei ladd yn y fan. Yr oedd ei ben wedi ei chwythu ymaith oddiwrth ei gorff. Yr oedd y peirianau hefyd ar enau'r pwll wedi eu chwilfriwio. Yn fuan ar ol y ffrwydriad yr oedd minteioedd dewr yn myndi lawr i geisio gwaredu'r trueiniaid oedd yno, ond yr oeddynt yn cael eu gorchfygu gan y nwyon a'r tân. Ond elent i lawr dra- chefn a thrachefn er gwaethaf y rhwystr- au, ac yr oedd yno le difriiol-canoedd lawer o wragedd a phlant a pherthynas- au eraill ymron gwallgofi, ac yn dis- gwyl am newydd am eu hanwyliaid. Erbyn tri o'r gloch y prydnawn yr oedd agos i bum' cant, y rhai a weithient yn nghwr dwyreiniol y lofa, wedi eu cael i fyny, ond yr oedd yno dros bedwar cant yn y cwr gorllewinol drachefn, ac nid oedd ond gobaith gwan y gellid eu gwaredu, gan mai yn y cwr hwnw y cymerodd y danchwa le. Dygwyd rhai o'r cyrff i fyny yn y j man, ac yr oedd rhai wedi eu handwyo gymaint fel nad oedd modd eu hadnab- od. Dygid eraill i fynu'n fyw ond mewn cyflwr truenus. Bu un dyn farw gynted ag y deuwyd ag ef i fyny, Parheid gyda'r gwaith o geisio gwaredu y trueiniaid drwy'r nos, ac erbyn tri o'r gloch y bore yr oedd deunaw arall wedi dwyn i fynu o ganol yr alanas yn fyw, ar ol bod yn y pwll am bymtheng awr. Yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn abl i gerdded i'w cartrefi, ond bu raid cario y lleill gan eu bod wedi llwyr ddiffygio. Ar oli ddynicn profiadol fod i lawr ) yn arch willo'r Ile ddydd Mercher pen- derfynodd yr awdurdodau ollwng dwr i l wr i ddiffodd y tan oedd o hyd yn cyneu, ac yr oedd hyny yn golygu nad oedd unrhyw obaith pellach y gellid gwaredu chwaneg o'r trueiniaid. Bernid fod yno dros ddeugain mil o bobl wedi tyrru i'r He cyn pen ychydig oriau ar ol i'r danchwa gymeryd lie. Rhedai trenau Hawn yno o Gaerdydd bob haner awr, y rhan fwyaf o'r rhai oedd ynddynt yn ferched a pherthynas- au iddynt yn y gwaith. Gwelid un ddynes wedi eu llwyr syfrdanu gan y newydd prudd fod ei gwr, ei phedwar mab a'i thri brawd wedi cyfartod a'u diwedd. Yr oedd heolydd Shenghenydd yn llawn o dyrfaoedd distaw, yn cerdded ol a blaen yn ddiamcan, neu yn setyll yn finteioedd syn ar y conglau. Nid oedd odid i deulu yn y lie nad oedd berthynas neu ffrynd iddo wedi colli, ac mewn rhai amgylchiadau mae y gwr a'r meibion wedi eu cymeryd oddiwrth y rhai ddibynai arnynt am gynhaliaeth. Dyma fel y dywedai un o'r dynion a lwyddodd i gael rhai o'r trueiniaid i fyny'n fyw foreu Mercher Yr oedd llawer o honynt," meddai, yn gorwedd yn dyrau yn y llochesau ganfuasant pan yn rhedeg am eu bywyd. Yr oedd yr olygfa yn rhy arswydus i geisio ei des- grifio. I ddechreu daethom ar draws chwech. Yr oeddynt yn hollol lonydd, ac yr oeddym yn meddwl eu bod oil wedi marw nes y gwnaethom archwil- iad arnynt. Darparwyd ymgeledd iddynt ar unwalth, ac aethom ymlaen i edrych am ychwaneg. Ond nid oedd dim i'w weled ond cyrff meirwon. Gwelem ambell i geffyl yn fyw yn ymyl cyrph y dynion. Llwyddais i gael un bachgen bychan 1 fynu'n fyw. Pan y cymerem ef i fynu clywais ef yn dweyd fod arno eisieu mynd i Gaerdydd i weld clwb pel droed y dref yn chware, ond druan bach bydd am lawer wythnos cyn y gwel ddim o'r fath. Yroedd yn rhaid ini gario'r clwyfedigion dros y meirwon, ac weithiau tarawai ein traed yn erbyn darnau o gyrff. Gwelais ddau yn farw yn mreichiau eu gilydd. Gwel- ais rai eraill yn gorwedd fel pe'n cysgu —ond eu cwsg diweddaf ydoedd. Bum yn gwaredu rhai mewn damwain o'r blaen, ond ni welais erioed y fath olygfa galonrwygol ag a welais y tro hwn." Dywedai Mr Bert Williams, Sheng- henydd, un o'r rhai waredwyd fel a ganlyn am ei brofiad ofnadwy Y peth cyntaf a glywais oedd ergyd fawr pan oeddwn yn mynd ar y tran). Yna, yn sydyn, cefais fy nharo i lawr, a bum yn gorwedd yno'n anymwybodol am oriau lawer. Rwyf yn cofio dod ataf fy hun, ac y dywedwyd wrthyf wedi hyny ei hod tua haner nos. Pan ddaethum ataf fy hun canfyddais fy mod yn gor- wedd yn ymyl ceffyl oedd wedi marw, 1 chlywais rywun yn gwaeddi tuag Jg-ain llath oddlwrthyf. Dywedwyd wrthyf wedi hyny mui Archie Dean ydoedd, yr hwn hefyd gafodd ei waredu. Pesychwn yn bai haus oherwydd y'mwg. Gwelwo oleuni beth ffordd oddivvrthyf. a llwyddais i allu gwaeddi, a thynwyd sylw y gwaredwyr ataf, ac ar ol cael fy ymgeleddu ganddynt yr oeddwn yn iawn ymhan ychydig o amser. Ond ni anghofiaf byth yr oriau dreuliais yn y tywyllwch fy hunan. Gwelais lawer o gyrff ar fy ffordd wrth fynd ailan. Yr oeddwn wedi dis?yn yn y tywyllwch tua thri chan 1!ath o'r He yr oeddwn yn gweithio, ac yr oeddwn yn mynd am wyneb y glo. Pe bawn wedi cyraedd yno buasai ar ben arnaf." Brydnavvn Iau cvnha'iv\yd trenghol- iad I iad ar 59 o'r cyrff .-1 gaed i fynYI ao.: oi fu olygfa erioed mwy trist na gweled eu pevthynasau yn dod o un i Un am dros ddwy awr i dyslio eu hadnabyddiaeth o'r trancedi:ion. Y r oedd y merched o.fi' n 's cu tro i gael eu gal, w yn yr amser, ac ar hry d- i iu yr oedd eu galar mor angerddol fel y torent i la wr yn llwyr. Yr cedd yno un hen wraig bedwar ugain oed, a'r uniy; fab oedd ganddi wedi ei ladd. tin; fal) oc-d d L Qollodd ei gwr a'i meibion eraill mewn damweiniau blaenorol- Yr oedd ilawer iawn o Ogiedd Cymru yn gweithio yn nghlofa Shenghenydd, ac y mae amryw o honynt ymysg y coliedigion. Y mae pedwar o dueddau Porthmadog wedi eu colli, ac amryw byd o dueddau Ffestiniog, Trawsfynydd a Nantlle Hysbysir fod yr oil o'r rhai weithiai yno o ardal y Penrhyn ymysg y gwaredigion. Y mysg- y trueiniaid colledig y mae Mr Willie Hughes, mab Mr a Mrs David Hughes, Llys Hyfryd, .-sottwilog a'r hwn oedd yn nai i Mr Robert Hughes, London Temperance, Pwllheli. Mae'n fwy na thebyg y buasai brawd ac ewyrth iddo hefyd wedi colli eu bywyd, onibae fod y bachgen wedi cwrdd a damwain y diwrnod blaenorol, ac oherwydd hyny nid oedd y ddau \\edi mynd at eu gwaith. Yr oedd Mr Robert Williams, mab Mr a Mrs Thomas Williams, Gors, Pwllheli, hefyd wedi cael damwain i'w fysedd y diwrnod cynt, ac onibae hyny buasai yn gweithio yn y pwll lie y cymerodd y danchwa le. Yr oedd Mr Hugh Owen, mab Mrs Margaret Owen, New Street, yn gweithio yno hefyd, ond y mae yntau yn ddiogel. Bu et yn cynorthwyo i geisio gwaredu rhai o'r trueiniaid, a dywedai mewn llythyr gartref nas anghofia byth. y profiad gafodd. FFRWYDRIAD ARALL YN Y DE. Foreu Sadwrn ffrwydrodd nwy yn nglofa Bynea, ger Llanelli. Cafodd naw o ddynion eu llosgi'n ddifrifol. Aed a saith i'r ysbyty, a bu un, William Price, Pwll, farw y boreu dilynol.
- L? Prawf Alice Hughes yn…
L? Prawf Alice Hughes yn y Frawcllys. EI GOLLWNG YN RHYDD. Ddydd Sadwrn, bu Alice Hughes yn setyll ei phrawf yn y Frawdlys ar y cyhuddiad o fod wedi achosi marwol- aeth ei meistres, Jane Roberts Hum- phreys, yn Prestatyn. Eglurodd Mr Trevor Lloyd, ar ran y poron, fel y cantuwyd Miss Humphreys yn farw yn y lloftt, Dywedodd Mr Lloyd y bu y drancedig a'r forwyn, Alice Hughes, yn cweryla yn gynarach yn y dydd, a gorchymynwyd i'r gwas nol heddgeidwaid yno Yn ddiweddar- ach gwelwyd y gyhuddedig yn mynd oddiyno ac aeth yn ol drachefn gyda'r heddgeidwad, yr hwn a ganfu Miss Humphreys yn farw a marciau ar ei gwddf. Cymerwyd yr eneth i'r ddalfa ar amheuaeth o fod wedi achosi ei marwlaeth. Yn y trengholiad pas- iwyd ddarfod i'r drancedig farw o farwolaeth naturiol, eithr yr oedd yr ynadon wedi pasio i anfon Alice Hughes i sefyll ei phrawf ar gyhuddiad o ddyn- laddiad. Tystiwyd gan William Dowell ac Edward Jones Evans, ynghylch yr amgylchiadau foreu'r trychineb. Tystiwyd hefyd gan yr heddwas Nel- son, yr hwn a ganfu y coi ff. Dywedai ef i'r eneth ddweyd wrtho na buasai ei bywyd ganddi onibae mai hi oedd y gryfaf. Dywedodd Mrs Hughes, mam y gyhuddedig, y derbyniodd drio lythyrau oddiwrth ei geneth o garchar Walton. Yr oedd wedi llosgi dau o'r llythyrau. Darllenwyd copi o un yn y llys, ac yr oedd y datganiad a ganlyn ynddo :— "Beth tybed mae fy mrodyr a'm chwiorydd yn ei feddwl am y trosedd arswydus hwn. Nis gwn beth wnaeth i mi ddechreu arni, ond yr oedd yn greulon wrthyf o hyd am ddim, ac yn fy mhoeni yn barhaus. Gotynais iddi lawer gwaith fy ngadael i fynd ymaith." Tystiwyd gan Dr Lloyd, Rhyl, mai achos marwolaeth Miss Humphreys oedd diffyg y galon, a thystiwyd yr un modd gan Dr Batten Williams. Dr Jones Griffith, swyddug meddyg- ol carchar Walton, ddywedai fod yr eneth yn isel ei hysbryd ac yn ddyryslyd et meddwl pan ddaeth i'r carchar, ai bod rhywbeth yn debyg pan yn mynd oddiyno. Nid oedd ef yn meddwl ei bod yn deall ei sefyllfa, nac mewn cyflwr 'priodol i wybod beth oedd yn ei wneyd pan yn ysgrifenu y llythyr. Ni alwyd y gyhuddedig i'r dystle, a phasiwyd rheithfarn o Ddieuog," a gollyngwyd Alice Hughes yn rhydd. Cafodd y ddedfryd gymeradwyaeth uchel gan y rhai oedd yn y llys.
DAMWAIN FAWR AR Y RHEILFFORDD.
DAMWAIN FAWR AR Y RHEILFFORDD. CHWECH 0 BERSONAU WEDI EU LLADD. AMRYW WEDI EU HANAFU. Bu damwain ddifrifol iawn ar Reil- ffordd Cheshir brydnawn Mercher di- weddaf, drwy i dren oedd yn trafaelio o Lerpwl am Stockport fynd i wrth- darawiad a thren M iOchester mewn twnel. Cafodd chwech o bersonau eu lladd, ac anafwyd amryw. Yr oedd tren Manchester wedi gadael yr orsaf yn brydlon fel arfer, ond cyn ei bod wedi trataelio nepell cafodd rybudd i stopio drwy i rywun dynu yn y com- munication curcl. Yn unol a'r iheolau ni stopiodd y tren ar unwaith, ond arafodd yn raddol res cyraedd gorsaf St James, ac yr oedd y rhan nlaf o honi yn y tlAne1 pan stopiodd. Yna aeth y swydd- ogion i edrv«:h b^th oedd y mater, end methwyd a gweled tod dim sdlan o le. Penderfynwyd mynd a'r tren yn ei flaen, ond gyda hyny dyma'r tren arall yn dod, ac yn taro yn erbyn y liall gyda nerth ofnadwy Maluriwyd cerbyd olaf y tren oedd ar gychwyn yn chwiltriw, a chatodd y cercydau agosaf ato eu mal- urio, ac yn y rhai hyny y canfuwyd y rhan fwyaf o'r meirwon a'r anatus. Yr oedd yno olygfa dorcalonus iawn ar y meirw a'r clwyfedigion ymysg y cerbydau maluriedig, ac ar unwaith dechreuodd swyddogion y rheilffordd a'r teithwyr dianaf ymgeleddu y truein- iaid Yn ffodus ni thorodd tdn allan yn y cerbydau, neu mae'n fwy na thebyg y buasai'r amgylchiadau yn fwy difrifol fyth. Canfuwyd mai tramorwyr oedd y rhan fwyat o'r anafusion, y rhai oedd ar eu ffordd gartref o'r America, ond yr oedd hefyd rai Saeson yn eu mysg. Y mae cryn ddirgelwch o barthed i'r rhybudd a roed am i'r tren stopio, ac awgrymir mai cweryl oedd rhwng rhai o'r tramorwyr a'u gilydd, ac y gall fod y naill wedi bygwth y llall, ac i rywun dynu yn y communication cord. Ond gall y tynwyd yn y cord yn ddamweiniol. Wele enwau y rhai gafodd eu lladd yn y ddamwain :-M rs Alice Owen, Llundain Miss S. M. Edmondson, Aigburth Miss Letlow, morwyn Miss Edmondson Bishop, Sheffield (guard y tren) Otto Gothein, Christiana Hans Olsen, Christiana. Dyma'r rhai anafwyd :-Percy Farm- er, o Northampton Erust Middlestein, o Hamburg Mike Unoka, o Hungary Imric Unocka, o Hungary Assen Gardner, o Brussels Francis Zeka Uszysski, o Russia Cyprian Opin, o Hamburg Hansen, o Norway T. W. Pidd, Harborough, ger Grimsby Ben H. Yonhuson, o Lundain Mrs Wahigren, o Grimsjjy Mrs Pollard, o Nottingham Otto Petersen, o Chris- tiana Misses Adams (dwy), o Switzer- land Max Guilbert Otto Oleva, Ger- maniad Frank Elms, o Sheffield; Jacob Migitz, o Hamburg A. Sarolak Francisrok Wolsink, o Myslowitz H. Harris, o Garston William Hesketh, o Brighton. Yn yr ymchwiliad wnaed i achos y ttychineb addefodd William Thompson, signalman, mai arno ef yr oedd y bai am y ddamwain. Yr oedd bachgen bychan gydag et yn y signal-box, yr hwn oedd yn gwylio'r teliphon, a rhyngddynt gwnaetha t gamgymeriad ynglyn a'r signals. Ni ddylasai yr ail dren fod wedi cychwyn cyn i'r llall adael yr orsaf nesaf. Pan welodd fod camgym- eriad wedi ei wneyd gwnaeth yr oil a allai i geisio rhwystro damwain ond yr oedd yn rhy ddiweddar. Yr oedd yn gadael i'r bachgen weithio'r rhybuddion ar ei gyfrifoldeb ei hun.
- lj_ - Awyrlong Fawr wedi…
lj_ Awyrlong Fawr wedi ei Dinystrio. 28 WEDI EU LLADD. Ddydd Gwener diweddaf bu damwain drychinebus arall. Cafodd awyrloug fawr ei dinystrio yn Germani gan achosi marwolaeth wyth ar hugain o bersonau Digwyddodd y trychineb yn Johannis- thal, lie yr oeddis yn rhoi y Hong ar brawf. Hi oedd y llong ddiweddarat oedd wedi cael ei gwneud. Yr oeddis wedi bod yn ei rhoi ar brawf, a dydd Gwener aeth nifer o wyr profiadol o'r llynges i fyny ynddi gyda'r criw arferol. Wedi i'r llon^ wneud cylchdro, aeth yn ei blaen uwchben y dret, a phan yr oedd yn glir a'r tai, a thua phum' cant o droedfeddi o uchder, yn sydyn gwclai'r gwyddfodolion fflam yn tori allan o un pen iddi, ac yn ebrwydd 'roedd wedi ei hamgau mewn fflamau. Mewn amrant- iad clywyd tair ffrwydriad nerthol nes yr oedd ffenestri y tai yn tori, a gwelid yr awyrlong a'i pheirianau trwm yn disgyn yn gand'yll i'r llawr. Taflwyd rhai o'r criw allan o honi gan y ffrwyd- riad, ond yr oedd mwy nag ugain ynddi pan y disgynodd. Rhuthrodd canoedd o bobl i'r lie ar unwaith, ac yr oedd amryw o'r dynion yn fyw yn nghanol y malurion llosgedig pan gyr- > haeddwyd atynt, ond ni buont fyw ond am ychydig funudau. Y dybiaeth gyffredin yw i wreichionen neidio o'r modur i'r tanc olew gan ei roi ar dan. Yr oedd hon y degfed awyrlong o'i bath sydd wedi cyfarfod a dinystr. Yr oedd wedi ei hadeiladu yn arbenig ar gyfer siwrneiau maith tros y mor, ac yr oedd mor nerthol fel ag y gallai ehedeg dros For y Gogledd. Yr oedd mor berffaith, meddir, ag y gallai dyfais, cynllun, a phrofiad ei gwneud, a chostiodd tua haner can mil o bunau.