Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
Advertising
—ELEY—| CARTRIDGES are preferred to all others by the most experienced sportsmen all the world over, who realize how important it is to select the best. E L E Y Cartridges may always be relied on.  I 22 2L Short Long Rim Rim Rifle and Rifle and Revolver Revolver Cartridge Cartridge AC^ Ag" deep-shell E B Nitro quality SMOKELESS-" Loaded with Eley Cartridge, Smokeless (42 gr.) Smokeless g. per 100. 8/6 per 100. 9/6 per 100. E.B. Nitro 5^ Shell f Loaded with "Eley §"deep.shc)lGMtight f Smokeless," "chultze" Pegamoid (Waterproof) ? and other Standard Powder. Eiey Cartridges  Ironmonger and Eley Cartridges JAMES WiLHAMb, Builders Merchant I PWLLHELI. Wholesale by ELEY BROS., Ltd., LONDON, W.C. J Attendance Notice, Bydd Mr. Ranleigh Jones, L.D.S., R.C.S. (Edi.), SURGEON DENTIST, yn ymweled a Pwllheli bob DY DD MERCHER, yn aros gyda Mr. BOWEN, Grocer, High Street, oIL y boreu dan 4 y prydnawn.
 PWLLHELI. ! I
PWLLHELI. CYHOEDDIADAU SABBOTHOL.-Hyd. 19. j Penlan (A.), am 10 a 6, Parch J. Rhydderch, Gweinidog. Capel Seisnig (A.), Cardiff Road, am 11 a 6-301 Parch D. W. Roberts, Gweinidog. Penmount (M.C.), am 10 a 6, Parch J. Puleston Jones, M.A. Salem (M.C.), am 10 a 6, Parch J. Henry Williams, Porthrnadog. Capel Seisnig (M.C.) Ala Road, am 10 a 6, Parch H. C. Lewis, B.A. Tabernacl (B.), am 10 a 6, Mr L. E. Valentine Athrofa'r Bedyddwyr, Bangor. Seion (W.), am 10, Mr Joseph Joues, Nefyn am 6, Parch E. Mostyn Jones, Gweinidog. Hen Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2, Ysgol. Ysgol Genhadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Parch Thomas Williams, Pwllheli. Ysgol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi; am 2, Ysgol. South Beach (M.C.) am 2 a 6, Parch D. Hoskius, Caernarfon. Tarsis (M.C.), am 10, Parch D. Hoskins.. Caernarfon. St. Pedr. 9.30 a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seisnig) Parch J. Edwards, B.A., Ficer, a'r Parch T. Woodicgs, B.A., Curad. Cenhadaeth Lydewig North Street, K.G., am 10-30, Offeren Sanctaidd, am 2, Ysgol am (J 30 Pregeth Gymraeg gan y Parch p. Merour, benedicsiwn. CLADDEDIGAETH.-Ddydd Gwenerl diweddaf claddwyd gweddillion marwol Mr Michael King, Lleyn Street, yn mynwent Deneio. Y Tad Merour oedd yn gwasanaethu. Y COR MEIBION.-Da genym ddeall fod y Cor hwn wedi dechreu ar ei waith eto. Y maent yn bwriadu myn'd; i gystadlu i Eisteddfod y Rhyl, Boxing i Day nesaf, ac i'r amcan hwnw cynhelir cyfarfod o'r Cor prydnawn Sul nesaf am 4-15 o'r gloch, yn y Church Hall. Er- fynir ar i bob aelod fod yn bresenol. Y TEMLWYR DA. -Cynhaliwyd y cyfarfod diweddaf yn Festri Penmount, dan lywyddiaeth y Prif Demlydd, Parch D. E. Davies, mewn rhan yn gyfarfod gweddi am lwyddiant a bendith ar y Gymanfa Ddirwestol. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Parchn J. Puleston Jones, M. A., Thomas Williams, M ri Lloyd Williams, Shop Goch, a E. j Hughes. Dywedir fod y cynulliadau yn y cyfarfodydd yn well nag y maent wedi! bod ers amser hir. Disgwylir wedi'r gymanta y bydd Iliaws o ieuengctyd y dref yn ymuno a'r Demi, ac y ceir cefnogaeth arweinwyr crefyddol i'r, gymdeithas hon sydd yn gweithio yn weddol gyson yn ein mysg ers dros 40 mlynedd. TREFwR.
-0-PENRHOS.
-0- PENRHOS. Y GYMDEITHAS LENYDDOL —Nos Lun wythnos i'r diweddaf, cynhaliodd y Gymdeithas ei chyfarfod agoriadol. Vn absenoldeb y llywydd penodedig, j Mr Griffith Jones, Tyddyn Llewelyn, cymerwyd y gadair gan Mr John Henry Roberts, Castell. Carwyd anerchiad; gan y Parch, Thomas Williams, Pwll- heli, ar Ddychymyg a Diwylliant." Yr oedd yr anerchiad yn un meistrolgar iawn, fel ag y gellid disgwyl. Pasiwyd diolchgarwch cynes iddo ar gynygiad Mr H. Tudwal Davies, yn cael ei ategu gan Mri Robyns Owen ac O. G. Jones,
LLITHF AEN.
LLITHF AEN. DIRWEST.-Nos Fercher diweddaf cynhaliwyd cwrdd dirwestol marweddog mewn cysylltiad a Chymanfa Ddirwest- ol Gwynedd yn festri capel y Method- istiaid. Anerchwyd ar ran y chwiorydd gran Mrs Rowlands, Llanrwst, a chan y Parch. Elias Jones, Caergybi, yn hynod efteithiol. CYFARFOD PREGETHU.—NOS lau a dydd Gwener diweddaf cynhaliwyd cyf- arfod pregethu y Bedyddwyr. Gwas- anaethwyd eleni gan y Parchn. H. Jones, Llanelli, ac H. Jones, Llanwddar. Cafwyd oedfeuon grymus a chynulliad- au lluosog. MARWOLAETH —Nos Sadwrn, Hyd- ref 4ydd, ar ol cystudd maith, bu farw Mr Thomas Jones, Llithfaen Fawr. Cafodd weld a theimlo min ami i bro- fedigaeth chwerw tra yma, ond yn awr y mae tu hwnt i bob loes. Ddydd Iau diweddaf hebryngwyd ei weddillion i fynwent M.C., a chyrchodd ugeiniau lawer i dalu y gymwynas iddo. Tawel- wch i'w lwch, a hedd i'w berthynasau yn eu profedigaeth lem. --0--
Yspeilio Gwerth 10.000p. o…
Yspeilio Gwerth 10.000p. o Westy. Yn Kendal, fore Llun, canfuwyd fod gwerth yn agos i io,ooop. o emau wedi eu lladrata o westy yno. Nos Wener daethai Mr. Thompson, .trafaeliwr tros Mri. Harrop, gemwyr, Llundain, i'r gwesty i aros, a chanddo ddau foes yn cynwys tlysau, a gadawyd i'r bocsus aros yo neuadd y gwesty dros nos. Ddydd Sadwrn symudwyd hwy i un o'r ystafelloedd, a boreu ddoe pan yr oedd Mr. Thompson ar gych- wyn ymaith, canfu wahaniaeth mawr yn mhwysau y bocsus. Agorodd hwy, a gwelodd nad oedd ynddynt ond glo a phapur. Wedi gwneud ymchwiliad gwelodd mai nid ei focsus ef oeddynt, ond rhai wedi eu gwneyd mor debyg iddynt fel nad oedd modd gweled y gwahaniaeth heb syllu yn faowl. Nos Wener ar ol i tocsus Mr. Thompson gaef eu cymeryd i'r gwesty aeth y cerbyd i'r orsaf drachefn i nol dwy o fasgedi mawrion, yn y rhai, fel y tybid, yr oedd nwyddau dilledydd, ac wedi eu cyfeirio i'r gwesty lie yr arhosai Mr. Thompson. Rhoed y rhai hyn yn ymyl bocsus Mr. Thompson yn y neuadd, a thybid eu bod yn perthyn i drafaeliwr arhosai yno. Hefyd daeth yno dri dyn, y rhai ddywedent mai trafaelwyr oeddynt, cymerasant ystaf- ell, a dywedasant wrth was y gwesty am eu galw'n fore dranoeth. Pan aeth i alw arnynt gwelodd eu bod yn barod wedi codi, ac yr oeddynt yn ddig wrtho am na fuasai wedi galw arnynt yn gynt. Wedi hyny aethant am y tren saith, gan gymeryd y basgedi gyda hwynt. Awgrymir fod y bocsus oedd yn cyn- wys y gemau yn y basgedi hyn, am y rhai y newidiwyd y bocsus eraill yn ystod y nos, ac fod y lladrad wedi ei gynllunio er's misoedd, gan fod Mr. Thompson yn arfer a threulio diwrnod neu ddau yn y gwesty ar brydiau.
Trychineb mewn Gorsaf.
Trychineb mewn Gorsaf. Nos Sadwrn canfu gorsaf-feistr Stubbins Station, ar Reilffordd y Lancashire & Yorkshire, ddwy ddynes, un yn gorwedd wrth y rheiliau yn mhen pellaf yr orsaf a'r Hall ychydig latheni oddiwrthi. Aed a'r ddwy i ystafell yr orsaf, a chyrchwyd meddyg atynt. Pan wnaed archwiliad arnynt canfuwyd fod un yn hollol farw, a'r llall wedi ei hanafu'n ddifrifol. Bernir mai ceisio crof$i y rheilffordd yr oedd- ynt, ac i'r tren dQ'od a'u taro i lawr.
I JAGERLONG FAWR AR DAN.
I JAGERLONG FAWR AR DAN. I TRYCHINEB ARSWYDUS AR GANOL Y MOR. Ddydd Sadwrn, trwy gyfrwng y pell ebr diwifr, derbyniwyd y newydd am drychineb arswydus ar ganol y Werydd, sef fod yr agerlong fawr Volturno wedi myned ar dan. Gadawodd y Volturno Rotterdam ar Hydref 2il, am Halifax, Nova Scotia, ac ar ddydd Iau aeth ar dan ar ganol y mor tua mil o filltiroedd i'r gorllewin o Fastnet. Credir fod 657 o fywydau ar ei bwrdd, y rhan fwyat o honynt yn ym- fudwyr. ac o'r rhai hyn y mae 521 wedi eu hachub. Ofnir fod y gweddill o 136 wedi colli, er y gall fod ihai o hon- ynt wedi eu codi i fyny. Pan ddechreuodd yr agerlong fyned ar dan yr oedd yn dymestl drom ar y pryd, a dyna sydd yn cyfrif am fod cynifer wedi colli eu bywydau. Er fod ynddi ddigon o gychod i gario'r oil oedd ar ei bwrdd, nis gellid gollwng y cychod i lawr ond trwy anhawster mawr, ac yr oeddynt mewn perygl o gaet eu dymchwel gan y tonnau. Mae fod cynifer wedi eu hachub drachefn i'w briodoli i'r ffaith fod ganddi bellebr diwifr clywyd ei galwadau am gym- orth ymhell ar draws y Werydd, a daeth amryw agerlongau tuag ati yn fuan. Y gyntaf i ddo'd i'w golwg oedd y Carmania, a chyrhaeddodd hi yno tua haner dydd. Daeth deg o agerlongau ereill yno'n fuan, ond cym- aint oedd gerwinder y ddrycin fel nad oedd modd estyn cynorthwy i'r truein- iaid oedd yn y Volturno. Gollyngwyd bywydfad i lawr, ond nis gallai gyraedd y llong oedd ar dan, a bu raid iddo ddychwel yn ol a'r rhwyfau wedi eu tori gan rym y tonnau. Yr oedd criw y Volturno wedi gollwng chwech o'u cychod i lawr. Aeth pedwar yn ddryli- iau wrth gaet eu curo yn erbyn y Hon* gan y tonnau, a chafodd yr oil oedd ynddynt ddytrllyd fedd. Diflanodd y ddau gwch arall bron gynted au bod wedi gadael y llong. Arswydus ydoedd gorfod edrych ar gyni ofnadwy y teithwyr yn nghanol y tan a methu estyn llaw i geisio eu gwaredu. Ond yn ystod y nos tawel- odd yr ystorm ychydig, a llwyddodd yr agerlongau i achub 521 o'r teithwyr o'r Hong bsgedig. Dywed un o'r dynion waredwyd o'r Volturno i'r tAn dori allan tua chwech o'r gloch y bore ddydd Iau. Hysbys- odd y capten y gellid diffodd y tan yn bur tuan, ond rhanwyd lifebelts i'r teith- wyr rhag ofn y digwyddai y byddai eu hangen. Cynyddodd y tâo, a phan j welodd y teithwyr y fflamau yn dechreu ymledu aeth yn gyffro yno. Yr oedd y mot wyr Prydeinig yn ymddwyn yn rhagorol, ond nid felly y Germaniaid a'r Belgiaid. Yr oedd ymysg y teilh- wyr lawer o ferched a phlant bychain ganddynt. Pan roed y cychod i lawr hysbysodd y capten nad oedd neb ond gwragedd a phlant i gael mynd iddynt, ond neidiodd amryw o'r criw i lawr, a gwnaeth hyny y cyffro yn waeth. Bron gynted ag y gollyngwyd y cychod i lawr aethant yn ddrylliau, a boddodd yr oil oedd ynddynt. Yr oeddynt yn llawen iawn, meddai, pan welent y Carmania yn nesu atynt. Rhedv dd y tanwyr i fynu a gwrthodent fynd i lawr yn oil ond tynodd y capten ei lawddryll allan a gyrodd hwy i lawr. Bu raid iddynt adael y peirianau drachefn, gan nas gallent aros wrthynt oherwydd y tâo. Gwnaeth y capten i'r holl ferched a'r plant ymgynull ar ur. ochr pan ddaeth y Carmania. Wylai ac ysgrech- iai y merched, a chwarddai y lleill wedi colli arnynt eu hunain yn llwyr. Pan dorodd y tAn allan drwy'r dec yr oedd yn ofnadwy. Tynai y dynion a'r merch- ed eu gwallt yn ddyrneidiau yn eu hing a'u braw. Neidiodd et i'r mor, ac ar ol bod yn nofio am amser maith cafodd ei godi i'r Carmania, pan ar fin boddi. Gwelodd rai yn syrthio i'r tan ac yn llosgi i tarwolaeth.
Advertising
Are you? Vigorous—energetic—physically and mentally fit. Or are you bilious-constipated —too tired for work. Just "anyhow." Take a new lease of life NOW. Jt. Orderlies The gentle, effective, laxative confection Will bring your physical vigour and energy back tfenew your health —u tone up" your system. Test their value TO-DAY I We will return your money to you if you are not satisfied. Thrw Sim,7Jd., J/- mod 2/ r«»< obtained only in this community at the Rexall Pharmacy. R. 0. GRIFFITHS, 60, HIGH ST., PWLLHELI. r> -II' "i":r'
ICymanfa Ddirwestol Cwynedd…
I Cymanfa Ddirwestol Cwynedd a Chymdeithas Merohed Cogledd Cymru I GAN SYLWEDYDD. Y mae y Gymanfa uchod bellach yn mysg y pethau a tu, ond fe erys ei dylanwaj am dymor maith. Nid oedd pawb yn cydweled gyda golwg ar ei gwahodd i'r dref. Ond y mae pawb yn cydweled, ei bod yn un o'r Cymanfa- oedd Dirwestol goreu a gynhaliwyd yn y rhan hon o'r wlad erioed; ac mae bendith nas gellir ei phrisio oedd ei gwahodd i Bwllheli. O'r cyfarfodydd g-weddiau nos Lun yn y dref a'r cylch, hyd y cyfarfod mawr brwdfrydig yn y Neuadd Drefol, nos tau, yr oedd pob- peth a phawb yn ymddangos dan ar- weiniad ac eneiniad. Amser a gofod a ballai i rni fanylu am yr holl gytarfod- ydd, ond hoffwn fel sylwedvdd lied graff ar bob peth wneud ychydig nodiadau y teimlwn y dylid eu gwneud. Caniateir yn gyntat i mi ddatgan ein mawr fodd- had tod Pwllheli gyda'r gymanfa hon wedi rhoddi esiampl ragorol trwy fod yr Eglwys Sefydledig yn cydweithio yn galonog gyda'r Ymneillduwyr i'w chroesawu. Yr oedd cynrychiolwyr yr Eglwys ar y pwyllgor, ac yr oedd Band of Hope yr Eglwys yn yr orymdaith ardderchog ddydd Mercher, a'r Parch Thomas Pritchard, Rheithor, Llanfwrog Ruthin, yn cyfuno y Llywydd a'r areith- iwr yn y cyfarfod mawr nos Fercher, yn y Neuadd Drefol. Hefyd yr oedd chwiorydd o'r Eglwys yn cydweithio yn rhagorol gyda chwiorydd o'r ".g-Iwysi Ymneillduol yn y darparu a'r croesawu. Y mae hyn wedi ein taraw yn ystod y gymanfa fel peth teilwng i wneud sylw arbenig o hono, ac yr oedd calonau canoedd fel minau yn Hawenhau wrth ei weled, a'n gobaith yw y bydd i Wynedd oil ddilyn esiampl cyfeillion anwyl Pwllheli yn y cyteiriad hwn. Clywsom fod Cymanfa Ddirwestoll Lleyn ac Eifionydd wedi estyn gwahodd- lad cynes i'r Eglwys i gydweithio gyda'r Gymanfa, ac yr oedd yn llawen genym ei glywed Y mae llawer o bethau nas gallwn fel eglwyswyr ac ymneillduwyr gydweled yn eu cylch, ond fel y dywed- odd y Parch T. Pritchard yn ei araith nos Fercher, fe ddylem anghofio ein gwahaniaethau a chydweithio fel dir- westwyr i gael ein gwlad yn rhydd oddi- wrth ormes y fasnach feddwl. Diolch i Bwllheli am yr esiampl odidog a rodd- odd yn y cydweithrediadcalonog rhwng yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr. Par- aed brawdgarwch. Ofnid gan rai na byddai i bethau droi allan yn llwyddian- us, ond dywedwyd wrthym gan lawer sydd yn gwybod yn dda, fod y trefniad- au gyda'r croesaw, mewn lletyau, bwyd- ydd, &c., yn adlewyrchu yn nodedig o ffafriol ar y hrodyr a'r chwiorydd ffydd- lawn sydd wedi bod, yn gweithio yn ddistaw ar y pwyllgorau ar hyd y mis- oedd ac ar drigolion y dref sydd wedi dangos y fath deyrngarwch-a ffyddlon- deb i'w harweinwyr dirwestol. Deall- wo fod y canoedd cynrychiolwyr wedi eu llwyr foddhau yn nghroesaw calonog a siriol y dref a'r cylch iddynt. Yr oedd y cyfrifoldeb yn fawr, ac fe obeithiwn y bydd y pwyllgor yn hollol ddibrofedig- aeth, a bod digon o arian i dflu yr holl gcstau yn anrhydeddus. Yr ydyn. wedi clywed o wahanol ranau y wlad fod y cyfarfodydd a gynhaliwyd yn y gwahanol gymdogaethau nos Fercher, yn gyfarfodydd a gofir, ac y bydd i'w dylanwad aros. Am y cyfarfodydd ar Burdeb i'r ddau ryw ar wahan, nos Fawrth, y naill yn y Church Hall i'r chwiorydd a'r llall yn Ysgoldy Salem i'r dynion, nid oes ond un farn yn eu cylch, a dyma ydyw hono fod y siaradwyr yn y ddau gyfarfod yn llefaru fel rhai ag awdurdod ganddynt, ac y bydd dylanwad y cyfarfodydd yn aros mewn bywyd mwy pur a glan trwy yr holl wlad. Felly hefyd am yr hoM gyf-irfodydd,-cyfariodydd a gofir am amser maith oeddynt oil. Bellach gad- awer i ni oil ddeffro at waith. Y mae y Temlwyr Da a Chymdeithas y Chwiorydd, a'r Girl's Guild yn gweithio yn dawel ar hyd y blynyddoedd. Gad- ewch i ninau oil bellach ymuno a'r cym- deithasau hyn sydd trwy y Gymanfa ragorol yma wedi dangos fel y mae eu gwaith distaw yn llwyddo. Gadawn ar hyn yr wythnos hon.—SYLWEDYDD.
-u - I Noson Annedwydd ar…
-u Noson Annedwydd ar Ben Mynydd. Cafodd y Parch. E. Brewer, ficer, a'i ferch, brofiad lied chwerw y dydd o'r blaen tra ar ymweliad a Phenmaen- mawr. Ymddengys iddynt fyned i Bethesda, a cheisio croesi'r Carneddau i Lanfairtechain. Yr oedd yn hwyr ar y dydd pan gychwynasant i'w taith, a daliodd y nos hwy cyn iddynt allu cyr- haedd crib Carnedd Llewelyn. Nis gallent ddychwelyd yn ol, ac o dan yr amgylchiadau nid oedd dim i wneud ond treulio'r noson yn yr awyr agored. Yr oedd pob awr yn ymddangos fel diwrnod iddynt ar y llethrau oer, ac yr oedd yr ychydig fwyd oedd ganddynt wedi dartod. Pan wawriodd y dydd yr oeddynt mewn cyflwr truenus, ond llwyddasant er yr holl gyni i fyned i'w taith. Yr oedd eu cyfeillion yn anes- mwyth yn eu cylch, ac yn otni fod rhyw drychineb wedi digwydd iddynt, ond symudwyd yr ofn ymaith pan dderbyniwyd brysneges oddiwrthynt yn hysbysu eu diogel wch. --o
[No title]
Ddydd Sadwrn, ymosododd dwy suffragette ar feddyg carchar Holloway hefo chwip. Llwyddodd rhai eraill i fynd at y Brenin a'r Frenhines pan oeddynt yn mynd i cbwarudy. Hefyd ceisiwyd rhoi gorsaf rheilffordd ar dan yn Newcastle.
I Cardotyn Cyfbethog.
I Cardotyn Cyfbethog. I EI DDIRWYO I 250. Gwrandawyd achos hynod yn hedd- lys Radcliffe ddydd Llun, pan y cy- huddid dyn ieuanc o'r enw Thomas Howarth o gardota ac o gasglu elus- enau trwy dwyll. Tystiwyd y gwelwyd y carcharor yn myn'd at bersonau ar yr heol, ac yn gofyn am elusen ganddynt, a hefyd yn myn'd i siopau. Pan yr archwiliwyd ef yn ngorsaf yr heddlu cafwyd yn ei feddiant 34p. 10s mewn aur, 5p. 16s. mewn arian, a is. 4c. o bres hetyd- dau lyfr bane yn dingos tod ganddo 193P 7s. 7c. Yr oedd yr oil 3-n dangos ei tod yn werth dros 233P. Yr oedd yn crwydro'r wlad i gardota er's blynyddoedd, meddid, a chafodd ei ddirwyo unwaith o'r blaen, ac yr oedd 3p. 17s. 6c. a llyfr banc yn ei feddiant y tro hwnw. Am gardota anfonwyd ef i garchar am bythefnos, nc am gasglu elusenau trwy dwyll dirwywyd ef i cithaf y gyfraith, sef i 25p. a'r costau --0--
Mynd Trwy Dwnel i'r Gwely.…
Mynd Trwy Dwnel i'r Gwely. BWRDD YN LLE GRISIAU. Mewn cyfarfod o Gyngor Dinesig Dinbych, ddydd Sadwrn, hysbyswyd am niter o dai gweithwyr yn yr ardal oedd yn anghymwys i neb fyw ynddynt. Dywedai y Canon C. F. Roberts. rheithor Llandulas, y gwyddai ef am un ty, lie yr oedd raid i'r tad a'r fam a'r plant, er mwyn gallu mynd i'w gwely, fynd gyntaf ar ben y bwrdd, yna dringo trwy dwll yn y nenfwd, ac wedi hyny ymlusgo trwy ryw fath o dwnel. Mewn ty arall, heb ond dwy ystafell ynddo, yr oedd tad a mam a deg o blant yn byw, ac yr oeddis yn credu fod achosion o dwymyn wedi cychwyn yn y ty hwnw amryw droion.
I Y Streic yn Dublin. i
I Y Streic yn Dublin. Dal yn dditrifol iawn mae'r sefyllfa yn Dublin o hyd. Foreu Sadwrn cyr- haeddodd y drydedd Hong yno gydag ymborth ar gyter y trueiniaid sydd bron a newynu yn y ddinas. Yr oedd teulu- oedd cyfain yn gorymdeithio i lawr i'r ldota, ac yn cario gartref yr ymborth ag oeddynt mewn cymaint o angen am dano. Dywedai un perchen gwaith mawr yn y ddinas mai'r achos o'r streic ar heiynt yw cyflwr difrifol cvfangorph y bobl, a'r addewidion disglaer roddir iddynt gan eu harweinwyr. Yr oedd undeb llafur wedi ffaelu meddai ef, a'r unig ffordd i setlo'r argyfwng oedd i'r cyflogwyr a'r cvflogedig gyii-weithredu i ad-drefnu'r gyfundrefn bresenol.
IBrawdlys Caernarfon.J
I Brawdlys Caernarfon. J Heddyw (ddydd Mawrth) yn Mrawd- lys Caernarfon, y mae William Alexan- der Booth Ross yn sefyll ei brawt ar y cyhuddiad o roi capel Salem, Pwllheli, ar dan. Ymddengys hancs Ilawn o'r prawf yn ein rhifyn nesaf.
1 Robert Llwyd.-
1 Robert Llwyd. Yr wythnos ddiweddat bu Mr. J. Herbert Lewis, A. S., yn dadorchuddio cof-golofn yn nghapel Methodistiaid Dyffryn, ger Dinbych, i Robert Llwyd, cychwynydd yr achos Methodistaidd yn y rhanbarth hwnw, a'r hwn ddioddef- odd lawer iawn o erledigaeth oherwydd ei ddaliadau crefyddol. --0--
I'! IManion.i
I I Manion. Yn Nottingham ddydd Llun cafodd Mr William Jessop, dilledydd, ei ddwyn o flaen y llys am beidio cydymffurfio a Deddf y Siopau. Yr oedd cyfanswm y dirwyon roed arno yn cyraedd y swm o 225P- Cyflawnodd awyrwr yn Ffrainc hun- anladdiad beth amser yn ol drwy daflu ei hun o'i ehedlong pan yn yr uchder o ddwy fil o droedfeddi. Bu farw dyn yn y Wyddgrug, y dydd o'r blaen mewn canlyniad i wifren ys- griffio ei fraich. Gwenwynwyd ei waed oddiwrthi, yr hyn a brotodd yn angau iddo Aeth dyn i datarn yn Walton bryd- nawn Sadwrn, a gofynodd am lasiad o gwrw. Pan oedd y cwrw yn cael ei estyn iddo syrthioad i lawr yn farw. Yr haf diweddaf codid dwy geiniog o doll ar bob un elai trwy'r llidiard i weled Rhaiadr y Wenol, Bettws-y-coed. Talodd pedwar ugain mil y doll, ac y mae pedwar ugain mil o ddwy geiniog- au yn golygu 650P. Y mae tir newydd gymaint a Green- land wedi ei ddarganfod i'r gogledd o .)fod i'r gogledd o Siberia. Dirwywyd dwy ddynes o Gaernarfon, ddydd Llun, i 40s. a'r costau am ladrata nwyddau o siop. Cyhuddid geneth ieuanc hardd o'r enw Nellie Robertson, o geisio cyflawni hunanladdiad yn Llundain, y dydd o'r blaen. Yr oedd wedi ceisio gwneud terfyn ar ei heinioes bum' gwaith. Y mae heddlu New York wedi cymer- yd i'r ddalta fintai o droseddwyr enbyd iawn ag oeddynt yn ddychryn i'r ddinas er's amser maith. Yr oedd llawer iawn o arian-nodau twyllodrus yn eu medd- iant pan y cymerwyd hwy i'r ddalfa. Pan aeth ceidwad adeiladau'r heddlu yn Lerpwl i mewn i'r He ddydd Llun, canfu ddyn yn hongian yn farw wrth ddrws ystafell yr ynad. Yi oedd archoll ddotn yn ei wddf. Nis gwyddis 'I sut y llwyddodd i fyn'd i mewn i'r lie, ond bernir iddo fyned yuo ddydd Sad- wrn i dalu dirwy, ac wedi hyny ym- guddio yn y He.
r -Yr -Arglwydd Prif Farnwr.
r Yr Arglwydd Prif Farnwr. Deallir fod Arglwydd Alverstone wedi anfon ei ymddiswyddiad i'r Prif Weinidog. Bydd i'w olynydd gael ei benodi ymhen ychydig ddyddiau a chredir yn gyffredinol mai Syr Rufus Isaac a benodir i'r swydd.
Advertising
Carnarvonshire Education Committee. MADRYN CASTLE FARM SCHOOL THE Education Committee are pre- jjared to recei ve tenders for the supply of the necessary farm supplies and for provisions for the use of the school during the next six months. Forms of tender may be obtained from this Ofiice. Tenders must reach me (with samples) not later than the 15th day of October proximo. marked "Madryn Provision Tenders." Tenders and samples must be marked with an index letter, and samples must in every case he enclosed in plain paper, other- u ise persons tendering will be disquali- fied. EVAN R. DAVIES. County Education Offices, Carnarvon, 25th Sept., 1913. Pwllheli and District Joiners' Society, THE above Society hereby give notice that on and after the first day of January, 1914, they will not fix up any Joinery whatever except that which has been executed on the contractor's pre- mises, or in the locality. H. DAVIES, Secretary. Recreation Ground, Pwllheli. SATURDAY NEXT, OCT. 18th. GRAND FOOTBALL MATCH PWLLHELI TOWN v. LLANDECAI. Kick-oft 2. 30. Admission 4d.; boys 2d. Arian ar Log, A MRYW symiau am ? y cant. ? Ymofyner A Lex," Udgorn Office, Pwllheli. pITMANS SHORTHAND AND L HANDWRITING. Postal and Private Instruction. Success Guaran- teed. Terms Moderate.— T. John Elias Jones, 7, St. Tudwall's View Terrace, Pwllheli. NATIONAL PROVINCIAL BANK OF ENGLAND LTD. AGORIR CANGHEN o'r Ariaody uchod yn Y Groes, Nevin, MOR FUAN AG Y GELLIR. D. T. LLOYD, Goruchwyliwr. I Wanted. IMPROVER to the Grocery and Pro- i vision Trade. Apply to J. Thomas, The Pioneer Stores, Maes, Pwllheli. SMART young Ladies for the Drapery Trade. Good experience neces- sary. A pply- Poll ecoff, Druid House, Pwllheli. -n- OFFICE BOY CLERK for Insurance work, must be well educated and sharp. Apply:-Mr Owen Williams, Superintendent Pearl Assurance, Dis- trict Office, Pwllheli. Yn Efsleu. BACH GEN i ddysgu gwaith Swyddfa. D Ymofyner a Hugh Pritchard, Cyfreithiwr, Pwllheli. To be Let. VfADRYN HOUSE, South Beach, 1.1 Pwllheli. Favourable terms. Immediate possession. Apply to MR. LEWIS JONES, Preswylfa, Ala Road, Pwllheli. A COMMODIOUS House, in a pro- ll. minent position, at Llanbedrog. Possession 11th of November, 1913. Foi further particulars apply—44 j," Udgorn Office, Pwllheli, On Sale. GIG iu good condition. Price about £5, Further particulars from D," UDGORN Office.