Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

NODI ON A HANEStON.| NODION…

ARAITH FAWR MR. LLOYD GEORGE.

| ' Yswiriant Genedlaethol.…

Digwyddiad Ofnadwy yn Lerpwl.

- - _- -CYMANFA DDIRWESTOL…

News
Cite
Share

CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. CYFARFODYDD YN PWLLHELI. Cynhaliwyu cyfarfodydd blynyddol y Gymanfa uchod ym Mhwllheli yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Breintiwyd ni a thy wydd rhagorol yn ystod dyddiau yr wyl ac 'roedd gwenau yr Arglwydd ar yr holl weithrediadau o'r dechreu i'r diwedd. Galwyd sylw arbenig at y Gymanfa a'i gweithredoedd eaug, yn yr oil o bwlpudau y dref a'r cylcb, a threu- liwyd y cyfarfodydd gweddiau nos Lun, Hydref 6ed, i erfyn am fendith yr Arglwydd ar holl weithrediadau y Gym- j anta, ac am ddeffroad yspryd Du w drwy yr oil o Gymru a'r byd er daros- twng gallu a grym y fasnach feddwol, "ac i ddwyn sancteiddrwydd a phurdeb i bwyso ar ysprydoedd holl ieuenctyd ein gwlad. Nos Fawrth cynhaliwyd y ddau gy- farfod cyntat. Cyfarfodydd ar Burdeb ydoedd y rhai hyn. Yn Vsgoldy yr Eglwys, ymgynullodd y merched yn unig, o dan lywyddiaeth Mrs Lloyd George, yr hon • gafodd dderbyniad ] calonog. Anerchwyd y cyfarfod hwn gan Mrs Herbert Lewis, M.A Miss Mathews, Amlwch, a Mrs Morgan, Abergele. Yr oedd yr vstatell yn orlawn a'r areithiau yn cario dylanwad annileadwy ar bawb oedd yn bresenoi. Siaradwyd yn glir yn erbyn pob pechod ag sydd yn darostwng merched a dyn- ion ieuainc, a chynghorwyd hwy er eu mwyn hwy eu hunain, er mwyn eu cartrefi, eu gwlad a'u cenedi, i fyw bywyd o burdeb ac o sancteiddrwydd. Cynhaliwyd cyfarfod i ddynion yn Ysgoldy Salem. Yn absenoldeb y llywydd disgwyliedig, y Parch Henry Rees, Dolgellau, cymerwyd y gadair gan Dr R. Jones-Evans, Plasyward. Arweioiwyd mewn gweddi gan Mr Edwards o Gaernarfon, yna cafwyd anerchiad byr ond tra phwrpasol gan y cadeirydd. Dywedai ei fod yn teimlo dipyn o bryder wrth addaw cymeryd y lly wyddiaeth yn neillduol gan fod y cais wedi dyfod mor sydyn, ond llawenhai yr un pryd ei fod yn cael bod yn y cyfarfod, ae yr oedd yn hytrydwch ganddo ef daflu ei ddylanwad o blaid achos mor ragorol, ac yr oedd yn falch o ganfod fod y fath gydymdeimlad ag amcan y cyfarfod. Dywedai ef mai y bywyd pur a glan ydoedd y bywyd n-i,yaf hardd a'r mwyaf urddasol ar y ddaear, ac fod dilyn bywyd amhur yn anghym- wyso pob dyn ieuanc i fyw bywyd detnyddiol. Wedi hyny siaradwyd gan Dr Lloyd, Towyn. Ei bwnc mawr ef ydoedd "Purdeb oddiar safle feddyg- ol." Dywedai ef fod y wedd feddygol ar v pwnc yr oeddynt yn myned i ym- drin ag ef yn bwysig iawn, ac fod llawer yn ceisio llechu tu cefn i'w pechod gan geisio dadleu eu hanwybod- aeth. Diameu tod ieuengctyd Cymru yn cael cam i raddau oherwydd diffyg y rhieni yn peidio eu haddysgu am y drwg mawr a'r llygredigaeth ag oedd yn ffynu o fyw bywyd anfoesol Dywed- ai rhai, meddai ef, fod bywyd diwair yn hollol ddiangenrhaid, ond yr oedd y cyfryw ddywediad yn yntydrwydd ac yn hollolgroes i wirionedd. Da oedd ganddo dystio fod y wybodaeth leddyg- ol a gaed trwy ymchwiliad yn cadarn- hau gwirionedd y Beitl ar gwestiynau mawr bywyd. Tystir felly gan brif feddygon y deyrnas fod bywyd o am- huredd yn antantais i dyfiant y ddynol- iaeth oreu. Yr oedd dynion ieuainc j yn cyflavvni gweithredoedd anllad heb ystyried o gw bl y canlyniadau. Dywedai y Parch. O. Davies, D. D., Caernarfon, y dymunai wel'd y dynion ieuainc oedd yn bresenol yn allu ddigon cryf i gario dylanwad mawr o blaid purdeb a sobrwydd hyd derfyn eu hoes. Credai ef wedi'r cwbl mai ganddo ef vr oedd y testyn goreu, sef "Purdeb o sutie grefyddol." Beth bynag ddywedodd Dr. Lloyd, ac a ddywed Mr Hughes ar fy ol, ni byddent ond yn cadarnhau yr hyn y mae crefydd wedi ei ddysgu ar hyd yr oesau. Yr oedd agwedd meddwl y rhai ag oedd yn meithrin amhurdeb yn eu myfyrdodau yn eu hanghymwyso at waith crefyddol, ac yn eu gwneud mor wan fel nas gallent gymeryd rhan ddisgwylid iddynt mewn cylchoedd crefyddol. Cyfranu addysg ymhlith y bobl oedd eu dyledswydd, gan fod mil- oedd o dan eu dwylaw o barth i'r drwg enfawr a gynyrchir drwy anniweirdeb. Caiff y meddygon fod yn athrawon, ond rhaid i'r addysg ddechreu ar yr aelwyd. Gellid hetyd gwneud lies mawr wrth drin ar y cytryw faterion yn ein cyfeillachau crefyddol. Y Parch. G. Parry Hughes, Morfa Nefyn, a ddywedai fod y testyn a rodd- id iddo i siarad arno yn ymwneud yn fwyaf arbenig a chynwys yr ail lech o'r deg gorchymyn, set perthynas pob dyn ag et ei hun ac a'i gymydog yn holl amgylchiadau bywyd. Awgrymai ef i ddynion ieuainc ddarllen Uenyddiaeth bur ac iachus. Cymerai ef yn ganiataol, trwy fod y genedl yn dirywio oddiwtth burdeb cymdeithasol, fod pawb yn cyd- nabod fod yr aflendid hwn yn ddrwg difaol ac yn bechod gwaradwyddus. Nid mewn anwybodaeth y cyflawnir y pechod hwn, ac nid tai fvaelion yw y bai, oherwydd yrnlusga y llygredd hwn i'r palasdai. Dylai yr eglwys bwys- leisio yn ddwfn y mater hwn. Dylai ein pobl ieualnc, yn fechgyn a geneth- od, gadw eu hunaiu yn bur a dihalog. Dylai yr eglwys ofa!u am roddi lie arbenig i'r mater. DyJai pob dyn fyw bywyd o burdeb ac urddas, a theiinlo y fath fraint o ddilyn Crist, a cherdded yr un llwybrau o burdeb ac o sancteidd- rwydd ag a gerddodd Efe, er anrhyd- edd iddo ei hun. I DDYDD MERCHER. Am 11 o r gloch, yn ysgoldy Seion, cynhaliwyd cyd-bwyllgor ar Undebau y Gobeithluoedd. Am 1-30, cyd-gyfarfyddodd y gwa- hanol obeithluoedd, a ffurfiwyd yn orymdaith, ac aethpwyd trwy brif heolydd, y dref. Am 2 o'r gloch, cyd-ytarfyddodd yr holl blant yn nghapel Penlan. Yr oedd llawr y capel yn orlawn o blant. Yn y gadair roedd Mrs Tom Ellis, a chafodd dderbyniad brwdfrydig. Yn arwain y cytarfod yr oedd Mr E. Jones Griffith, athraw ysgol y Cyngor. Rhoddodd deyrnged ucbel o barch i Mrs Tom Ellis wrth ei chyflwyno i'r cyfarfod. Yna canwyd amryw ddarnau yn swynol gan y plant. Yna cafwyd anerchiad tra dyddorol ac addysgiadol gan Dr Lloyd, Towyn, a gwnaeth arbraw- fion dyddorol iawn i brofi y niwed mawr a gynyrchai alcohol. Profodd fod alcohol yn bwyta y cnawd ac yn mynd o dan wraidd iechyd. Rhoddodd anerchiad Mrs Tom Ellis fwynhad mawr i'r plant. 'Roedd hi' yn caru plant, ac yn gwneyd ei goreu i'w hanog i fyw bywyd glan ac i garu yr Iesu. Am saith yn yr hwyr cynhaliwyd cyf- arfod cyhoeddus yn y Neuadd Drefol, y Parch T. Pritchard, rheithor Llan- fwrog, yn y gadair. Cafwyd areithiau tanllyd gan y cadeirydd, a chan y Parch H. Barrow Williams, Llandudno. DDYDD IAU. DDYDD IAU. Cynhaliwyd cynhadledd y Gymdeithas Ddirwestol yn nghapel y Wesleyaid am ddeg o'r gloch y boreu, o dan lywydd- iaeth Syr J. Herbert Roberts, A.S. Yr un adeg cynhaliwyd cynhadledd Undeb y Merched yn nghapel y Bedyddwyr, o dan lywyddiaeth Lady Roberts. Yn y prydnawn, yn nghapel Pen- mount, cynhaliwyd cyfarlod unedig o'r Gymdeithas Ddirwestol ac Undeb y Merched. Llywyddwyd gan Ladyi Roberts. Cafwyd anerchiad rhagorol gan Mr W. Jones A.S., a chan Mrs Lloyd George, Miss Parry, Dinbych, y Llywyddes, Mrs Mathews, Mrs Mor- gan, Abermaw, Syr Herbert Roberts ac eraill. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Neuadd Drefol, am saith o'r gloch, Syr Herbert Roberts yn llywyddu. Yr oedd y Neuadd yn orlawn, a chaed cyf- arfod godidog. Y prif siaradwr yn y cyfarfod hwn oedd y Parch Silvester Home, A. S., ac araith benigamp gaed ganddo. Sylwodd, ymysg pethau ereill, beth bynag oedd Cymru am fod yn y dytodol, ei bod wedi penderfynu bod yn genedl rydd. Nid oedd am gael ei llywodraethu gan fasnach ag oedd wedi profi ei hun y felldith fwyat i fywyd cymdeithasol y wlad, a'r hon oedd yn derbyn y breintiau uwchaf yn y deyrnas yn amgen i'r un fasnach arall, er nad oedd wedi gwneyd dim i haeddu'r anrhydedd Dadlenid ei hanes du o ddydd i ddydd, ac yr oedd y dadlen- iadau yn cyfiawnhau'r cyhuddiadau difrifol ddygid yn ei herbyn. Ymosodid arni'n fuan fel na wnaed erioed o'r blaen, ac yr oedd yn sicr fod amser bywiog ymlaen, gan yr ymladdai y fas- nach yn ffyrnig iawn pan yr ymosodid arm. Ond yr oeddynt wedi penderfynu nad oedd y fasnach andwyol hon i gael mwynhau yr un breintiau yn y dyfodol ag a gatodd ar hyd y blynyddau. Siaradwyd hefyd gan Miss Parry Williams, a chafwyd can gan Mrs. Dr. Fraser. --0--

Advertising

Prawf y Dyn Saethodd "Coch…