Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
22 articles on this Page
Advertising
rW-" E EY CARTRIDGES are preferred to all others by the most experienced sportsmen all the world over, who realize how important it is to select the best. E L E Y Cartridges may always be relied on. | 22 2 Short Long Rim Rim Rifie and Rifte and Revolver Revolver Cartridge Cartridge "ACME. "ECAR" "&LEY A§" deep shell E B Nitro quality SMOKELESS." Loaded with Eley Cartridge, Smokeless (42 gr.) Smokeless 9/- per IOO. 8/6 per IOO. 9/6 per 100. 9/6 per 100. E. B. Nitro 5 ?heU f Loaded with "Eley 16 (" §" deep-shell Gastight j Smokeless," "chultze" Pegamoid (Waterproof) and other Standard Powder. Eley sold by JAMES WILLIAMS, Builders Merchant. I are sold by JAMES WILLIAMS, Builders Merchant. PWLLHELI. Wholesale by ELEY BROS., Ltd., LONDON, W.C. Attendance Notice. Bydd Mr. Ranleigh Jones, L.D.S., R.C.S. (Edi.), SURGEON DENTIST, yn ymweled a Pwllheli bob DYDD MERCHER, yn aros gyda Mr. BOWEN, Grocer, High Street, o 11 y boreu dan 4 y prydnawn.
PWLLHELI.
PWLLHELI. CYHOEDDIADAU SABBOTHOL.—Hyd. 12 Penlan (A.), am 10 a 6, Parch Ellis Jones, Bangor. Cape) Seisnig (A.), Cardiff Road, am 11 a 6-30 Parch D. W. Roberts, Uweinidog. Penmount (M.C.), am 10 a 6, PlI.rch- Salem (M.C.), am 10 a 6, Parch J. T. Pritch- ard, Uwchymynydd. Capel Seisnig (M.C.) Ala Road, am 10 a 6, Parch H. J: Higgins. Tabernaol (B.), am 10 a G, Parch J. P. Wilhams, Talywein. Cemmes Road. Seion (W.), atn 10, Mr John Williams, Rhiw; am 6, Parch E. Mostyn Jones, Gweinidog. Hen Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2, Y sgol. Ysgol Genhadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Parch Y&gol Genhadol North Street (.), am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi; am 2, Ysgol. South Beach (M.C.) am 2, Parch D. Roberts, Abererch. Tarsis (M.C.), am 10 a 6, Parch D. Roberts, Abererch. St. Pedr. 9.30 a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seisnig) Parch J. Edwards, B.A., Ficer, a'r Parch T. Woodings, B.A., Curad. Cenhadaeth Lydewig North Street, R G., am 10-30, OffereD Sanctaidd, am 2, Ysgol a:n 6 30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P..Merour, benedicsiwn. AR YMVVELIAD.—Y mae Mr Robert Jones, Sand Street, wedi cyraedd gartref o Dde Affrig, ac yn bwriadu aros am bedwar mis. Da genym ei weled yn edrych mor dda. AD-ADEILADU SALEM. Y mae y gwaith o ad-adeiladu capel Salem wedi ei osod i Mr Evan Jones, Y Dolydd, ger Caernarfon, am y swm o 3,200p. Bydd i'r gwaith gael ei ddechreu rhag blaen. Y MAER NEWYDD.—Mewn pwyllgor arbenig o'r Cyngor Trefol, gynhaliwyd nos Fawrth diweddaf, pasiwyd yn un frydol i ofyn i Dr R. Jones Evans, Plas- ward, gydsynio a bod yn Faer y dret am y flwyddyn ddyfodol. Deallwn fod Dr Evans wedi cydsynio a'r cais. DAMWAIN Cyfarfu Dr Shelton Jones, Erylfryn, a damwain ddydd lau diweddat yn Nghriccieth. Yr oedd anhap wedi digwydd i'w fodur ac yntau odditano yn ceisio ei roi mewn trefn pan y drylliodd un o'r pibellau nes y llosgwyd ef yn ddifrifol yn ei wyneb a'i freichiau. MARWOLAETH DDISYFYD.—Boreu heddyw, yn sydyn iawn bu farw Mr Michael King, Lleyn Street. Tarawyd ef yn wael yn siop Mr John Evans, Lleyn Street, a bu farw ymhen ychydig funudau. Gwyddel o genedl oedd Mr King, a phabydd selog Yr oedd yn trigo ym Mhwllheli er's llawer o fiynydd- au, ac yn hen wr adnabyddus iawn. MARWOLAETH.- Nos Lun, wythnos i'r diweddaf, bu farw Mrs Ann Griffith, Carnarvon Road, yn 61 mlvvydd oed. Claddwyd ei gweddillion yn mynwent Penrhos ddydd Iau angladd anhy- hoedd-y Parch John Hughes, B.A., B. D., Salem, yn gwasanaethu. Gedy'r ymadawedig ar ei hol fab a thair o ferched. Nid oedd ond tri mis er pan gollodd ei phriod, a bu farw ei thad naw mis yn ol.
I Cyfarfod Ysgolion (M.C.)…
Cyfarfod Ysgolion (M.C.) Dosbarth Pwllheli. Cynhaliwyd yr uchod yn Chwilog y Sabboth diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. T. J. Griffith, Plas Du (y llywydd). Yn nghyfarfod y boreu holvvyd y plant yn y 5ed benod o'r Rhodd Mam ac yn Hanes Jacob gan y Parch. D. E. Davies, ac yn nghyfarfod y prydnawn holwyd y dosbarth canol yn Hanes Melchisedec. Yn nghyfarfod y cynrychiolwyr pasiwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfartod blaenorol. Cafwyd adroddiad yr ym- welwyr a'r Parch Alun T. Jones ynglyn a chostau yr Arholiad Sirol gan Mr. G. Cornelius Roberts. Sylwyd mai costau eithriadol ac ychwanegiadau yn nhudalenati yr adroddiad oedd wedi achosi y fath gost. Cafodd yr ymwel- wyr eu boddhau ar yr eglurhad, a thyn- wyd allan elmryw benderfyniadau ynglyn a'r costau yn y dylodol, pa rai a ddar- Ilenwyd i'r cyfarfod gan Mr. G. Cornel- ius Roberts. Pasiwyd i'w cadarnhau a'u cyflwyno i Bwyllgor yr Ysgol Sab- bothol, a bod i'r Ysgrifenydd anfon copi o honynt i'r cynrychiolwyr ac i'r Cyfarfodydd Ysgolion eraill o fewn Cyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd. Cafwyd adroddiad o'r holl ysgolion ag eithrio un ar y safle galonogol oedd y chwiorydd yn ei gael fel athrawesau, a phwyswyd ar rai ysgolion i roddi mwy o le iddynt. Sylwyd fod un ysgol yo myned i ddewis chwaer i arolygu yr ysgol y flwyddyn nesaf, ac fod tair ysgol eisoes wedi dewis chwiorydd yn ysgrifenyddesau, sef Gosen, Pencae- newydd, a South Beach. Derbyniwyd cais o Y sgol Gosen yn gofyn am i apel fyned i'r r' Cyfarfod Ysg-ol ar fod i'r ysgolion fyned i'r un Meusydd Llafur a'r Cyfundsb at y flwyddyn ddyfodol. Pasiwyd i anfon y cais i Bwyllgor yr Ysgol Sabbothol, gan mai gwaith i'r pwyllgor ac nid i'r Cyfarfod Ysgol ydyw trefnu y Meusydd Llafur. Daeth Mr. Richard Parry, Pencaenewydd, a'r mater gohiriedig o'r Cyfartod Ysgoll diweddaf gerbron, sef yr angenrheid-1 rwydd o gael Is-lywydd i'r Cyfarfod Y sgol. Wedi trafodaeth faith ar y mater pasiwyd i beidio mabwysiadu y cynliun. Pasiwyd gwelliant o eiddo Mr. R. Barker Jones ynglyn a chytrifon yr Ysgol Sabbothol yn y Dosbarth, yn lie cynal Cynhadledd yn Fourcrosses ar y mater fel y pasiwyd yn y Cyfarfod Ysgol blaenorol, ac fod y gwelliant i gael sylw arno yn y Cyfarfod Ysgol nesaf. Cafwyd adroddiad yr archwil- wyr ar safle yr Ysgol Sul yn y Dos- barth gan Mr R. W. Jones, Tarsis. Cafwyd hanes yr Ysgol yn y lie gan yr arolygwr, a chafwyd gair yn mhellach gan y Parch D. E. Davies. Apeliodd y llywydd ar i'r cynrychiolwyr ofyn i'r Ysgolion ddechreu ar unwaith i lafurio gyda thaflen y Gymanfa, fel ag i sicr- hau ei llwyddiant, gan fod yr arweinydd yn un neillduol. Pasiwyd fod cynhad- ledd yr Y sgol Sabbothol sydd i'w chynal yn Aberystwyth neu Llandrin- dod y flwyddyn nesaf, i gael sylw ami yn y Cyfarfod Ysgol nesat. Diwedd- wyd trwy weddi gan Mr. John Jones, South Beaci-i.-W.W.O., Ysg.
-0-Yn Ddiacon am 67 Mlynedd…
-0- Yn Ddiacon am 67 Mlynedd Ddydd Sul, bu farw Mr Richard Jones, Clynnog, y diacon hynat gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru. Yr oedd yn gant oed ond un. Bu'n codi y canu am ddwy flynedd ar byVn- theg a thriugain, ac yn lfaenor am saith mlynedd a thriugain. Yr oedd hefyd wedi bod yn dreth gasglydd am ddeng mlynedd a thriugain. Yr oedd ei dad yn gant a dwy pan fu farw, ei fam yn gant, a'i ddau frawd o fewn ychydig i gant.
IGeneth wedi Boddi yn Nghaernarfon.
I Geneth wedi Boddi yn Nghaernarfon. Y mae cryn ddirg-elwch o barthed i farwolaeth Maggie Jones, geneth bump ar hugair. oed, yr hon a gaed wedi boddi yn Nghaernarfon nos Sadwrn Rhoed yr hysbysiad cyntaf o'r di- gwyddiaa gan un o'r enw Fields, dyn o Gaer, a'r hwn sydd yn gweithio yn y gymdogaeth. Dywedodd Fields wrth yr heddlu tua naw o'r gloch nos Sad- wrn ei fod ef a'r eneth yn sefyll ar lanfa'r agerlong sy'n croesi i Fon, ac i'r eneth syrthio i'r dwr. Nis gellid cael unrhyw eglurhad pellach oddigerth fod y dyn wedi gwneud pob brys posibl i gael cynorthwy. Aeth yr heddgeidwaid, gyda thorf o bobl, i'r lie ar unwaith, ac ymhen rhyw awr caed corff yr eneth ieuanc o fewn ychydig bellder i'r fynedfa i'r porthladd newydd. I Yr oedd y drancedig, cartref yr hon oedd yn Niwbwrch, Mon, mewn gwas- anaeth yn Ty Newydd, Pontrug, ac yn eneth gref a phrydweddol iawn. Caf- wyd rhai llythyrau ar y corff.
IDamwain Angeuol yn .11Chwarel…
I Damwain Angeuol yn .1 1 Chwarel Dinorwig. cyfarfu Mr Richard Pritcbard, Ty Newydd, Llanruss a damwain angeuol yn Chwarel Dinorwig. Disgynodd darn o'r graig i lawr arno ar ol bod yn saethu. Dywedai y meddyg yn y trengholiad eynhaliwyd ar y corff nas gwybu ef am neb yn byw ond ychydig funudau ar ol cael y fath niweidiau ag a gafodd y trancedig, ond bu cfe byw hyd fore tranoeth.
I IDyn yn Boddi tuallan i:…
Dyn yn Boddi tuallan i Landudno. Brydnawn Mercher diweddaf daeth yr agerlong Cromer gogyfer a'r Little Orme's Head, Llandudno, b .-yda'r bwriad o lanio wrth y chwarel galch sydd yno, ond rhybuddiwyd gan y dynion oedd ar y lanfa nad oedd yn ddiogel gwneyd hyny, gan tod y llif yn gryf, a'r mor yn donog iawn. Yna angorodd y Hong, a gollwngwyd cwch i lawr gyda'r ail swyddog a dau forwri ynddo. Bron gynted a'u bod wedi cychwyn oddiwrth yr agerlong troes y cwch nes y bwriwyd y tri llongwr i'r mor. Llwyddodd un o honynt i gael gafael yn y cwch, a daliodd ei afael nes y daeth yr agerlong heibio i'w godi. Cychwyn- odd y swyddog nofio am y lan, gan ei fod yn nofiwr da, ond gwelodd nas gallai fynd i'r Ian oherwydd gerwinder y tonnau, a throes yn ol am y llong a chodwyd ef i fyny iddi. Aeth y morwr arall yr hwn oedd wedi cael gafael mewn rhwyf, i ganlyn y Hit heibio'r penryn, lie nas gallai y Hong ei ddilyn. Anfonwyd brysneeres am i fywydfad Llandudno fynd allan, ond erbyn iddo gyraedd i'r fan yr oedd y dyn wedi diflanu. Buwyd am amser maith yn chwilio am dano, ond yn ofer. I Hwylicdd y llong ymaith cyn y gwybu- wyd beth oedd enw'r dyn druan.
oI Ymddiswyddiad Dyfrig. 1
o Ymddiswyddiad Dyfrig. Y mae y Parch Ganon E. T. Davies • (Dyfrig) wedi ymddiswyddo o fod yn rheithor Gaerwen, Mon, ac yn bwriadu j trigo yn Y Bwthvn, Bangor, gan roi ei holl amser i'w ddyledswyddau canon- aidd. Rai blynyddau'n ol, pan gyn er- odd newyddiadur neiliduot lais ei ddar- llenwyr gyda golwg ar pwy oedj y pregethwyr mwyaf poblogaidd gyda'r gwahanol enwadau yn Nghymru, Canon Davies, ac efe y pryd hwnw yn ficer Pwllheli, oedd un o'r tri gafodd fwyaf o bleidleisiau fel y pregethwyr mwyaf poblogaidd teddai Eglwys Loegr.
Dihangfa Gyfyng ArglwyddI…
Dihangfa Gyfyng Arglwydd Kitchener. Hysbysir y cafodd Arglwydd Kitch- ener ddihangfa gyfyng iawn rhag cael ei ladd yr wythnos ddiweddaf, pan yn myned trwy Venice ar ei ffordd i'r Aifft. Caed allan fod deunaw o Mus- sulmiaiifl yn cynllwyn am ei fywyd, a rhybuddiwyd ef gan yr heddlu. Drwy hyny llwyddodd i ochel y perygl. De- allir mai un o'r cynllwynwyr droes yn tradychwr ac a hysbysodd yr heddlu o'r cynllwyn.
Llong o Borthmadog wediI Colli.
Llong o Borthmadog wedi I Colli. Dywed brysneges o Sydney, Cape Breton, fod y sgwner Gestiana o Borth- madog, wedi colli yn Louisberg. Capt, Pritchard, Western House, Pwllheli, oedd ei llywydd. Credir fod y criw yn ddiogel. --0--
Awyrwr Arall yn Cael eiI Ladd.…
Awyrwr Arall yn Cael ei Ladd. I cytarru dyn ieuanc arall or enw Major Menick a damwain angeuol wrth ehedeg mewn awyrlong yn Salisbury Plain, brydnawn Gwener diweddaf. Pan aeth i fyny gyda'i beiriant nid oedd nemor ddim gwynt, ac yr oedd popeth yn edrych yn ffafriol iawn iddo ehedeg yn rhwydd. Ond yn sydyn, pan yr oedd tua tri chan Hath i fyny, gwelwyd ei awyrlong yn disgyn yn syth i lawr, ac yntau yn syrthio yn glir oddiwrthi. Cafodd ei ladd yn ebrwydd.
'REFAIL NEWYDD. I
'REFAIL NEWYDD. DAMWAIN.- Yr wythoos ddiweddaf, cyfarfu Miss Annie Jones, merch Mr a Mrs Thomas Jones, Broomhall Terrace, a damwain dost. Pan yn dod gartref o'r dref ar ei beisicl, cafodd lesmair a syrthiodd i lawr, gan anafu ei hwyneb yn lied ddifrifol.
I Ymreolaeth a Dadgysylltiad…
I Ymreolaeth a Dadgysylltiad i Basio. Bu Mr McKenna yn anerch ei ethol- wyr mewn cytarfod yn Pontypwl nos Lun diweddaf. Dywedai Mr McKenna, os yr oedd- ynt i gredu rhai o'r newyddiaduron Toriaidd, tod y Senedd-dymor nesaf i gychwyn gydag aflyvvodraeth yn Nhy'r Cyffredin ac i ddibenu gyda gwrthryfel yn Ulster. Nid oedd efe yn credu hyny. Os digwyddai aflywodraeth byddai yn aflwyddianus. Yr oeddis wedi penderfynu caniatau hunan-lyw- odraeth i'r Iwerddon, a chydraddoldeb crefyddol i Gymru. Yr oedd y Mesur Seneddol wedi dod yn ddeddf ddwy flynedd yn ul, ond a barnu oddiwrth ymddygiad y Blaid Doriaidd gallesid meddwl nad oeddynt yn gwybod am ei bodolaeth. Yr oeddynt eto heb sylwedd- oli'r ffaith fod gan y mwyafrif yn Nhy'r Cyffredin haul i basio mesur drwy'r Senedd. Gyda golwg ar fesur Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru, byddai iddo ddod yn ddeddf yn ei agwedd bresenoL Gallai y byddai i'r g wrth wynebwyr | awgrymu gwelliantau, ond nid oedd ef yn meddwl y gwnaent. 0 barthed i gwestiwn y tir, credai y Ryddai i'w wrandawyr gytuno ag ef y dylid cym- eryd moddion i ychwanegu cynyrch y tir, i wella amgylchiadau y llafurwr amaethyddol, ac i ddiwygio'r gyfun- drefn dretboj: Apeliai atyht am iddynt barhau yn eu hymddiriedaeth a'u hymlyniad wrth y Blaid Ryddfrydol. n
! Cymanfa Ddirwest f l^wynedd…
Cymanfa Ddirwest f l^wynedd ac Undeb Dlrwetol Merohed Cogledd Cymru. Cynhelir yr uchod yn y dref yr wyth- nos hon, y 7fed, 8ted a'r gfed. Mae trefn y cyfartodydd fel a ganlyn Heno (nos Fawrth).—Cyfarfodydd ar Burdeb." I Feibion yn unig yn Salem. Siaradir --an Dr Lewis Lloyd, Towyn, Parchn. Owen Qavies, D. D., Caernarfon, a G. Parry Hughes, Morfa Nefyn. I Ferched yn y Church Hall am 7-15 o'r gloch. Yn y gadair, Mrs Uoyd George. Siaradir gan Mrs Herbert Lewis, M. A., Mrs Evan Owen, Liverpool, a Miss Matthews, Amiwch. Dydd Mercher. Gorymdaith trwy y dref, yn cychwyn am 2 o'r gloch. Cyfarfod i'r Plant yn Nghapel Penlan am 3 o'r gloch. Yn y gadair, Mrs T. E. Ellis, Aberystwyth. Anerchir gan y Parch H. Barrow Williams, Llan- dudno. Am 6 o'r gloch, Cyfarfod Blynyddol Cymanfa Ddirwestol Lleyn ac Eifionydd, yn Nghapel Ala Road. Llywydd, Parch j. Rhydderch Yn yr hwyr, Cyfarlod Cyhoeddus yn y Town Hall, am 7 o'r gloch. Cadeirydd, Mr Ellis W. Davies, A. S. Anerchir gan i Mrs Morgan, Abermaw Parch D. Tecwyn Evans, B.A., Llanrwst Parch T. Pritchard, Rheithor Llanfwrog, Ruthin. Dydd lau -Am 10 o'r gloch yn nghapel Zion, Cynhadledd Flynyddol y Gymanfa, dan lywyddiaeth Syr Herbert Roberts, Barwnig, A.S. Am 10 yn y A. S Ain io ya Tabernacl, Cyfarfod y Chwiorydd, dan lywyddiaeth Lady Roberts. Am 2 o'r gloch yn nghapel Penmount, Cyfarfod Unedig y Gymanfa a'r Undeb, pryd y dethlir 44 Dyfodiad i oed" Undeb y Merched. Yn y gadair, Lady Roberts a Mrs Matthews. Anerchir gan Cerid- wen Peris, Miss Pritchard, a Mr Will- iam Jones, A. S., ac eraill. Am 7 o'r gloch, Cytarfod Cyhoeddus yn y Town Hall. Llywyddir gan Syr Herbert Roberts, Barwnig, A. S. Siaradwyr Miss Parry Williams, Wyddgrug, Mr Wiiliam Jones, A.S a'r Parch C. Silvester Home, M.A., A.S.,
Glowyr Gwrol.
Glowyr Gwrol. Bu agos i bump o lowyr gael eu lladd gan nwyon gwenwynig yn Abernant, Rbiwabon, nos Wener diweddaf, wrth geisio gwaredu dyn ieuanc o hen weith- ta glai. Yr oedd y pwll wedi ei gau i fyny er's blynyddau, ond yr oedd plant wedi malurio'r coed ar ei do. Penderfynodd dyn ieuanc o'r enw John Lloyd fynd i mewn i archwilio'r gwaith, ond gorch- fygwyd ef gan y nwyon. Clybu ei dad ei fod mewn perygl ac aeth ef a phedwar o ddynion eraill yno i geisio ei waredu. Llwyddasant i'w gael allan, ond bu agos iddynt a threngu yn yr anturiaeth. Collasant eu hymwybyddiaeth ond llwyddwyd i'w hadfer gydag anhawsder mawr. Er pob ymdrech methwyd ag arbed bywyd Lloyd druan.
-U - Y Swyddog a'r Famaeth.
-U Y Swyddog a'r Famaeth. roreu Sadwrn, yn agos i Southend, caed Major Hamilton Murdock, cyn- swyddog yn y Fyddin, a gweinycldes o'r enw Miss Boaks yn gorwedd yn farw ar y rheilffordd, a Haw y naill wedi ei chylymu wrth law y llall. Ymddengys y bu y swyddog a'i briod yn aros yn ysbyty lle'r oedd Miss Boaks yn weinyddes, ac y mae Mrs Murdock yno eto. Aeth Major Murdock a'r weinyddes yn gyfeillion mawr, ac yr oedd yn amlwg eu bod yn cyfathrachu gyda'u gilydd, a rhoed rhybudd i Miss, Boaks ymadael o'r lie. Ychydig ddyddiau'n ol cafodd mam yr eneth lythyr oddiwrthi yn dweyd ei bod hi a'i chariad am wneyd terfyn ar eu heinioes Ond nid oedd yn rhoi nemor bwys at ei geit iau, gan fod ei merch yn nodedig o Ion ei hysbryd bob amser. Yr oedd llythyr wedi ei dderbyn hefyd gan Mrs Murdock. Yr oedd Miss Boaks, meddir, yn eneth ieuanc neillduol brydferth, ac o ysbryd nwyfus a llawen anghyffredin.
ILlwyddiant Morwrol.
I Llwyddiant Morwrol. Da genym gael Ilongyfarch Mr Wm. Y\ illiams, Ty'n Pare, Rhiw, li r ei waith yn enill tystysgrif Bwrdd Masnach fel Prif Swyddog, a Mr Richard Parry, Pentrefelin, yntau yn sicrhau ei Second Engineer's Certificate. Bu'r naill yo llw-yddianus yn Abertawe a'r llall yn Nghaerdydd yr wythnos ddiweddaf. Campus fechgyn,-dallwch ati.
I(Bobebiaetbau.
I (Bobebiaetbau. Nid ydym yn gyf rifo] am syniadau ein gohebwyr.—GOL
LAUNDRY I BWLLHELI.
LAUNDRY I BWLLHELI. Mr. Gol.-Caniatewch i mi alw sylw y dref at yr uchod. Yn fy myw nis gallaf fi weld paham mae yn rhaid i ni anfon ein dilladau, &c., i ffwrdd i gael eu golchi. Ai tybed nad oes yn ein tref ddigon o le a mante!s:cn i wnud y cyfryw ?artref, a thrwy hyny r?dd: ?wa:th i amrv? \n ei tret em hunain. Os yw yn tain 'v hanfon a'u cael yn 01 Yd 'r tt-eii-riiai ,can belied aj Lerpwl-y:i s icr fe dah«i gartref. j Hefyd, meddylier am yr anhawsder sydd i'w gael yn tynych. Meddwd yr oeddwn y gellid ffurfio cvvmni, a rhoddi cyfranau, dyu eder o bunt yr un, fel y gallasai fod yn beth c\ ffl edinnl. Bu- asai yn sicracli o fod yn llwyddiant felly, na phe bae yn llaw ychydig bersonau. Pe buasai rhywun yn gaiw cyfarfod fel y gallesid rhoddi pethau ar bwyl, nid wyf yn credu y ceid dim anhawsder i gael digon o arian. Fuasai Mr Hugh Pritchard, cyfreithiwr, ddim yn ym- gymeryd a galw cyfarfod ?— i COLER LAN. -0-
IFootball Notes,
Football Notes, PWLLHELI TOWN v. BANGOR BLUES. Pwllheli Town started the season last Satur- day with a friendly match against Bangor Blues. Although the home team was not at full strength they won by 7-0. Considering that it was the first match, and that some of the players had not practised at all, the homesters showed very good form. We faacied the left wing, although at times playing pretty football, was too weak by far, and an improvement on this wing will be wel- comed. Morley and Evan Hughes were in fine form on the right; Morley is I)--oving in every game. Bob Ellis in the ceutie fed his wings continuously, and when opportunities for a "pop at goal came, Bob took full advantage of them. The defence, although not hard: pressed, played very sound. The Club again this season has been favoured with "at home" draws in the Cup Ties. In the North Wales Senior Cup they have been drawn against Carnarvon United at home, and in the Junior Cup received a bye to the uext round. In the Welsh Amateur Cup they have been drawn against Machynlleth at home. --0--
PWLLHELI CORINTHIANS v. PORT-…
PWLLHELI CORINTHIANS v. PORT- MA DOC. On Saturday a match was played at Ala Road between the Pwllheli Corinthians and a team from Portmadoc. Splendid weather prevailed. The game opened very lively, but it soon be- came evident to the spectators that several of the players of the home team were out of prac- tice. The first half ended with the home team leading by 2 to 1. The visitors started the replay with a strong determination to win, and within four minutes managed to net ('!) the leather twice, thus leading, and to the end of the game kept lead- ing, although the homesters netted (?) the ball three times after half time. Special mention might be made of two or three of the home forwards, who worked with a will, but the visitors really had it atlthe r own way during the second half, and the game ended thus-Portmadoc 8 Pwllheli 5 Some of the very significant features of the game were: The brilliant display of colours by the home team; the impartiality of the spectators throughout the game the changing hf positions of the home players by order of the linesman the heavy scoriug by both sides; the dwindling off in the number of spectators during the progress of the game (with the exception of the two linesmen and a few small hoys, and one I knew to be a veteran of the grand game of football, the spectators had all fought shy of the ground before the writer left ten minutes before time up). The last but not the least feature of the game was the masterful manner with which the game was controlled (with the assistance at times of the linesmen and spectators) by the referee. v Really, a delightful afternoon was enjoyed by yours truly, a ONLOOKER.
Advertising
Wanted IMPROVER to the Grocery and Pro- i vision Trade. Apply to J.Thonias, The Pioneer Stores, Maes, Pwllheli. O MART young Ladies for the Drapery Trade. Good experience neces- siii'V. Apply- Pollecoff, Druid House, Pwllheli. FICE BOY CLERK for ?n?urance \york, must be well educated and I sharp Apply :—Mr Ow-n Wiffiims, i Superintendent Pearl Assurance, Dis- trict Office, Pwllheli. n E sieu. L|.)) ACHGEN i dd\s?u gwaith Swyddfa. -L? Vmctyn?r a Hugh Pntchard, Cy: ,elthl wr t P\\ Hheii. -po". To be Let. 'VADRYN HOUSE, South Beach, j Å. Pwllheli. Favourable terms. immediate po-session. Apply to MR. LEWIS JON liS, Preswylta, Ala Road, Pwllheli. 6.. C afL arvonshire Education Committee. MADRYN CASTLE FARM SCHOOL rPHE Education Committee are pre- T pared to receive tenders for the supply of the necessary farm supplies and fdr provisions for the use of the school during the next six months. Forms of tender may he obtained from this Offi e. Tenders must reach me (with samples) not later than the 15th day ot October proximo, marked "M adryn Prevision Tenders." Tenders and samples must be marked with an index letter, ;;nd samples must in every case be enclosed in P)aip paper, other- wise persons tendering will be disquali- fied. EVAN R. DAVIES. County Education Offices, Carnarvon, 25th Sept., 1913. Pwllheli and District Joiners' Society, THE above Society hereby give notice that on and after the first day of Januar y, 1914, they will not fix up any Joinery whatever except that which has been executed on the contractor's pre- mises, or in the locality. H. DAVIES, Secretary. Recreation Ground, Pwllheli. SATURDAY NEXT, OCT. 11th. GRAND FOOTBALL MATCH PWLLHELI TOWN LLANDEGAI. Kick-oft 2.30. Admission 4d.; boys 2d. Arian ar Log. A MRYW symiau am ?? y cant. -? Y mofrner A Lex," Udgorn OfKce.P?UheH. I T SHORTHAND AND HANDWRITING. Postal and Private Inst'uction. Success Guaran- teed. TeriiiN Moderate.— T. John Elias Jones. 7. St. Tndwall's View Terrace, Pw'ihe'i v M?'??. PROVINCIAL BANK OF ENGLAND LTD. AGOKIR CANGHEN o'r Ariandy uchod yn Y Groes, Nevin, MOR FIJAN AG Y GELLIR. D. T. LLOYD, Goruchwyliwr. Gymanfa Ddirwestol Gwynedd AC Undeb.Dirwestol Merched Gag- ledd Gymru. Cynhelir y Gymanfa uchod YN MHWLLHELI, Hydref 7fei, 8fed, a'r 9fed, 1913- Disgwylir nifer iuosog o cynrychiolwyr o boh r han o Ogiead Cymru. Ymhlith amryw o gvfatfodydd eraill bwriedir cynal jDAU GYFARFOD CYHOEDDUS YN Y N'EUADD DREFOL, ac ymhlith amryw enwogion eraill dis- gwylir yr aelodau Seneddol canlynol i draddodi anerchiadau :— Syr HERBERT ROBERTS, Barwnig, A.S. j (Llywydd y Gymanfa) Mr WILLIAM JONES, A.S. Mr ELLIS \V. DAVIES, A.S. Parch C. SILVESTER HORNE, M A., A.S. Mae y rhagolygon yn addawol iawn. Ceir msnylion yn y Rhaglen, pris ic. (d r ii, r post, iAc.). Cynwysa restr o'r cyfc-u fodydd. &c., ac hefyd y Tonau a'r Emynau. chael gan yr Ysgrifen- yddion,— Parch D. W. Roberts, Drayton House. Pwllheli, Mr vViliiam Hughes, Awelon, Pwllheli. Oymanfa Ddirwestol Gwynedd A'R MOTOR BUSES. Er mwyn y cyfeiIlion fydd yn dod o'r wlad i'r Gymanfa uchod, trefnir i'r Motor Buses caiii) iiol redeg ar ol y Cyf- arfod Cyhoeddus gynhelir yn y Town Hall nos lau, Hydref ofed :— TOCIA NEVIN ABERSOCH TREFOR Gwneler hyn yn hysbys yn mhob ardal. I D. W. ROBERTS, f| VV sgn. LTl, eol,. WM. HCOHES, go.