Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
AT EIN GOHEBWYR. ! I
AT EIN GOHEBWYR. Aufoner erbyn BuREU 8AIAVRN y ran bttllaf Pob archebion tbaliaoUu am Vr 1 (TDGORN i'w haufon i'r GOBUCHWYLIWR, 74, Hig-h Strppt, pw 11 hp.1i Pob gobebiaeth i'w cyfeirio- YR UDGORN OFFICK, PWLLHKLI. Bydd yn dda genym dder^yo eoheh- iaethao oddiwrtb ohebwyr ar taterioii iinoi o ddyddordeb cyboeddus
- - - I NODION A HANESION.…
NODION A HANESION. Marw Hen Weinidog. Ddydd Mawrth diweddaf, bu farw y Parch William Jones, Aberystwyth, yn 93 mlwydd oed. Yr oedd yn un o weinidogion hynaf y Methodistiaid Calfinaidd. 0 Gaerfyrddin y daethai i Aberystwyth. Cafodd ei ordeinio yn 1870. Hyd yn ddiweddar iawn yr oedd Mr Jones yn mwynhau iechyd rhagorol. + Dal Modurwr Cyfrwys. Yn Chester, yr wythnos ddiweddaf, dirwywyd Charles Elliot Geach, am yr hwn y dywedwyd y bu'r heddgeidwaid yn chwilio am dros dri mis, i 3op am oryru ac am beidio stopio pan alwyd arno. Gyrodd y ditfynydd, meddid, heibio'r heddgeidwaid, ac wedi mynd ychydig bellder o ftordd newidiai y rhif ar ei todur. Teulu Anffodus. Ddechreu'r wythnos o'r blaen svtth- iodd bachgen bychan o'r enw Evan Sawyer, o'r tren pan yn trafaelio rhwng Llandudno a Llanrwst, a chafodd ei niweidio'n ddifrifol iawn Beth amser yn ol cyfarfu ei dad a damwain gyda beisicl a thaflodd ei ysgwydd o'i lie, a chafodd ei frawd gic gan geffyl nes tori ei goes. Yn ei Wely'n Tdiogel. Achoswyd peth pryder yn nghymdog- aeth Llanrwst, ddechreu'r wythnos o'r blaen, pan wnaed yn hyshys fod gwas ffarm o'r lie ar goll. Bu oddeutu tri ugain o bobl allan bion drwy'r nos yn chwilio am dano yn y coed, llynau a'r afonydd, ond methant yn lan a'i weld yn unman. Pan ddaeth y fintai flinedig i'r ffarm. tua thri o'r gloch y bore cawsant y dyn yn cysgu'n dawel yn ei wely. if Calon Drom. Wrth roi ei dystiolaeth mewn tren?- holiad ar gorff un o'r enw E!ias Wood, 24 mlwydd oed, yn Darwen yr wythnos ddiweddaf, dywedai Dr Haworth fod calon y trancedig yn pwyso gymaint ddwywaith a chalon dyn cyffredin o'r un bwysau ag ef. Credai fod calon y dyn wedi chwyddo WI th iddo weithio'n rhy galed. Dywedir na chlywyd am achos cyffelyb erioed o'r blaen. Damwain i Agerlong Fawr. Digwyddodd damwain i'r agerlong i Afric, a berthyn i linell y White Star. pan oedd ar fin cychwyn al'an o Lerpvvl j am Awstralia ddydd lau. Yr odd yn cael ei thynu allan o'r Canada Dock, ond yr oedd y llanw mor uchel ar gorlif mor gryf fel y rhoes dro disym- wth arni nes y suddodd pen blaen y llong i'r llaid yn agos i'r fynedfa i'r doc. Methwyd a'i chael oddiyno er CJeI cynorthwy deuddeg o tug-boat*. Achos- odd y ddamwain fraw ac anhwylusdod mawr i'r teithwyr Iwriadent hwylio allan gyda'r llong. Curo Ysgolfeistres. Am fod ei bachgen wedi cael ei ger- yddu yn yr ysg-ol .eth Mrs Devonshire, dynes o Heywood, i'r yss;ol a rhoes gurfa i'r athraues. Yr oedd wedi duo ei lfyiraid, a hu'r ferch ieuanc yn ei gwely am ddyddiau ar 01 y gyrfa. Dygwyd Mrs Devonshire o flaen y llys, ac addefai yno ei bod wedi curo'r athrawes ond nad oedd wedi ei tharo mor eger ag y carasai fod wedi gwneud. Yr oedd ei bachgen, meddai hi, wedi ei guro'n ddifrifol. Yr oedd briwiau ar ei wddf a'i wyneb. Gwnaed i'r gyhudd- edig dalu'r costau. Trycbineb Mewn Gwesty. Y mae cryn ddirgehvch o b-irthed i farwolaeth bachgen, yr hwn a gaed yn farw wrth ochr. ei fam mewn gwesty yn King's Cross, Llundain. Y mae'r fam yn yr ysbyty yn dioddef oddiwrth clTeith- iau gwenwyn. Yn y trengholiad gyn- haliwyd ar gorft" y bachgen dywedai chwaer ei fam, gyda'r hon v bu'r j bachgen yn treulio ei wyliau, fod y fam yn is-I iawn ei hysbryd, ar 01 i'w phlentyn fynd oddiyno i'r ysg-ol yn Horsham. Aeth iNIrs Gove, y fam oddiyno ymhen y deuddydd, ac nis gwelodd y dyst hi drachefn ond yn yr ysbyty. Tystiwyd gan yr heddlu a meddyg y caed morphia yn yr ystafeli yn y gwesty lie yr oedd y ddau yn aros. ond nad oedd 01 gwenwyn ar y bach- gen. Yr oedd cadach poced wedi ei gwthio i'w wddf, a bernid mai mygu i farwolaeth a wnaeth. Gohiriwyd y trengholiad hyd Hydte! wiain. Marw o Hiraeth. Ddechreu'r wvthnos o'r blaen bu farw geneth f, h i'r Parch R. T. Howells, ficer eglwys St Luc, Cil- fynydd, Rhondda. KffeithiodJ ei mar- wolaeth gymaint ar ei thad tel y tarawyd et yn wael iawn, a chymerwyd et i'r ysbytty yr. Nghaerdydd, lie bu farw. Gedy Mr. Howells ar ei ol weddw a thri o blant. Yr Ysgotyn yn Llundain. Yr oedd Ysgotyn o'r enw David McNickol yn aros yn Llundain am ddeuddydd neu dri, yr wythnos ddi- weddaf, ar ei ffordd gartret i'r Ysgot- land o'r Amerig. Un diwrnod aeth i arwerthiant oedd yn cael ei chynal mewn i lIe neillduol yno, a phrynodd un o'r pethati id ar %t e! th Honai nad oedd wedi cael newid o'r sofren a roes i I dalu am y teclyn, ac aeth yn ymrafael ffyrnig ) n yr ystafeli. Y diwedd fu i'r Ysgotyn gael tori ei drwyn, ac i un o'r enw Daniel O'Leary gael ei gymeryd i garcliJtr am ymoscd arno. JL Wedi Maith Flvnyddau. Hysbysir 0 New Zealand fod y Ilon^r Marlborough, o (iiasgow, yr hon aeth ar goll ar ol gad,tel Lyttleton, New Zealand ar lonawr I gfed, 1890, wedi ei darganfod yn agos i benrhyn Dorn, gydag ugain o gyfF ynddi—y cr.awd wedi mynd yn llvvyr oddiar yr esgyrn. Yr oedd 33 o griw ar y llong ptin gych- wynodd o Lytt!eton, o dan ofal Capten Howard, gyda Uwyth o gig rhewedig a gwlan Diflanodd ac ni chlywyd dim o'i hanes hyd yn awr. < Dau Negro Arswydus. Yr oeddf dau Negro o'r enw Walter a Willie jones, wedi bod yn yfed whisci a chware cardiau mewn caban yn Har- riston, Mississippi, ac ar ol colli eu holl arian dechreuasant saethu y rhai oedd yn y lie. Lladdasant dri o'r rhai oedd yuo, ac wedi hyny aethant allan gan saethu at bob creadur byw a welent. Lladdasant naw o bersonau a niweid- iasant ugain eraill. Daeth tort fawr allan i'w herlid ymhen ysbaid, a gvvarchaewyd arnynt mewn hen felin. Llwyddwyd i'w cael oddiyno, a chrog- wyd y ddau yn ddiymdroi Trychineb mewn Pentref yn yr. Iwerddon. Yn Geashill, Kin £ r'y> Connty, v dydd o r blaen cynhelid trenyholiad ar L)i If hen wraig o'r enw Elizabeth Piende, gast. Ar ddiwedd y trengholiad cym- erwyd ei brawd i'r ddalfa. Yr oedd corff yr hen wraig wedi ei gael mewn ffos, ac mewn ymchwiliad blaenorol yr oedd ei brawd wedi dweyd mai syrthio wnaeth wrth nol y tuwch o'r cae, ond cyhuddir ef zan y Goron o'i churo i I farwolaeth. Tystiwyd y cantu yr hedd- geidwaid ddarnau o goed yn y ty a gwaed a pheth gwallt dynol arnynt. Lladd Saith hefo Bwyell. Mewn ffarm ym mhentret Basbrige. ger Nantes, lladdood bachgen pvmtheg oed deulu o saith hefo bwyell. Pan gymerwyd ef i'r ddalfa addetodd ei tod yn euog o'r erchvllwaith. Yr oedd y bachgen yn yweini hefo'r teulu, a phan oedd efe a'i teistr yn gweithio gyda'u gilydd aeth yn gweryl rhyngynt. Cyd- iodd y bachgen mewn hwyell a thorodd wddf ei feistr gyda hi. Wedi hyny aeth i'r gegin a llofruddiodd ei feistres a'r forwyn. Wedi hyny aeth i ystafeli lie yr oedd mam oedranus y ffarmwr, a gwnaeth yr un anfadwaith arni hithau. Yna aeth i ystafeli lie yr oedd tri o blant bvchain rhwng dwy flwydd ac wyth mlwydd oed, a lladdodd y rheini hefyd bob un. Hoedl Ci. Clywai ffarmwr yn Great Cliffton, Cumberland, swn tebyg i gi yn cyfarth yn wanaidd mewn traen yn ei gae, ac wedi ago- y draen canfu gi bychan o fewn can llath a haner i'r genau. Yr oedd y ci wedi mynd mor deneu fel nad oedd ond croen am yr esgyrn, ond adferodd gnawd a ne; th o da i diiniaeth ofalus. Collvvyd y ci rhyw bythefnos yn flaenorol gan lowr. Bernir iddo redeg ar ol cwnhingen i'r draen a methu dod allan. Bu yno am ddeunaw niwrnod. Hongiau wrth y Tren. Pan gvrhaeddodd yr Link Mail i Crewe o Euston yn gynar fore Gwener diweddaf, canfu swyddogion yr orsaf ddyn ieuanc o Rwsiad yn haner marw I rhwng y peuiant a'r cerbyd agosaf. Yr oedd wedi trafaelio felly trwy'r nos bellder o 1^8 o filliiroedd gan hongian wrth y iheiliau rhwng peiriant y tren a'r cerbyd agosaf at^. Yr mae'r huh Jlail yn trafacho yn 01 mwy na thri- ugain miMtiryr IUT am deirawr, ac yr oedd y dyn dioddef yn enbyd oddi- th oerni. Yr oedd yn wlyb at y! croen ac wed; ei orchuddio gan lwch g-L) Buwyd i ir cyn y gallwyd ei ;Adrer i siarad. Dywedai fod arno eisieu I iiiynd at ei deulu < Wallasey. Yn stes- il). Euston clvvvodd yriedydd y tren yn d evd y bwtiadai stopio yn Crewe, a ph^uderlynodd s^eisio mynd gyda'r tren hwmv. ^'niuthiodd rhwng y peiriant a'r cerbyd a phnn gychwynodd y tren neidiodd ar reiliau y peiriant, a dali dd ei afael yr holl ffordd. Dygwyd ef o flaen y llys am drafaelio heb diced, ond gollvngwyd ef yn rhydd, yr ynad yn I sylwi ei (Q wedi y. el di-on o ^csb. i
. -=- -.-:- -,- t.-:"-=-.:-==-"':="""'=-…
-=- t.=-==-="=- i Y Trychineb yn Prestatyn. I ALICE HUGHES I SEFYLL EI PHRAWF. LLYTHYRAU OR CARCHAR. Dygwyd Alice Hughes, yr eneth ddeunaw oed a gyhuddid o lofruddio ei meistres Miss Jane Roberts Humphreys yn Plas Ucha, Prestatyn, o flaen ynadon Rhyl, ddydd Mawrth. Fel y ck fir, yn y trengholiad ar gorft Miss Humphreys, pasiwyd rheithfarn iddi farw o farwolaeth naturiol, ac yr oedd hyny, mor bell ag oedd a wnelo'r trengholiad a'r achos, yn rhyddhau'r eneth o'r cyhuddiad ditrifol ddygid yn ei herhyn. Ddydd Mawrth dygwyd yr eneth i'r llys, ag arni 01 piyder a phoen melidwi (duys. Yr oedd yn ngotal dwy warthodes o garchar Walton. Dywedodd Mr Joseph Lloyd, cyfreith- iwr y Goron, y dymunai hysbysu'r Faine ar y cychwyn y dibynai ar am- gylchiadau pa un a ellid terfynu'r achos y diwrnod hwnw mor bell ag yr oedd a wnelo'r llys hwnw ag et. Os nad oedd llythvrau arbenig ystjrifenwyd gan yr eneth o garchar Waiton at ei mam yn cael eu owyn ymlaen, byddai raid gofyn fifn ohi. iad fel ag y gellid galw tystiol- < aeth aiall. Sylwodd Mr Lloyd fod yr eneth gyda'i meistres yn y ty pan fu'r foneddiges tarw. Cloiodd ddrysau'r ty ac aeth oddiyno, a phan ofynodd rhyw ddyn iddt ple'r oedd ),nl.,i-,i,-nd, dywed- odd wrtho am feindlo'i fusnes ei hun." Yr oedd ysgriffiadau ar fraich yr eneth hefyd pan gymerwyd hi i'r ddalfa. Yn stesion Prestatyn, ar Me H'r I 7eg, hon- id i'r Hed4 Nelson ofyn i Alice Hughes Stit'yr ceddynt yn Plas Ucha, ac iddi hithau ateb ei bod yn eithaf ag ystyried yr amgylchiadau, ac yna o'i gwirfodd, dywedodd, Buaswn wedi marw onibae mai fi oedd y gryfaf. Gatwyd ar yr Heddwas Nelson i roi tystiolaeth, ac yn ychwanegol at y dat- ganiad wnaed gan Mr Lloyd, dywedodd yr eneth wrtho ar ei ffordd i garchar Walton, Medi 25, Fuasai hyn ddim wedi digwydd pe baent heb eich galw chwi yno." TYSTIOLAETH MAM YR ENETH. Galwyd ar Mrs Grace Hughes, mam y gyhuddedig. Yr oedd yn wylo'n hidl, ac yr oedd pawb yn y llys yn teimlo'n ddwys trosti. Gofynwyd iddi a gafodd hi dri llytbyr oddiwrth ei merch o'r carchai. Addef- odd y cafodd, ond ei bod wedi eu malu a'u llos^i. Uangosodd Mr Lloyd lyth- yr iddi wedi ei ysgrifenu ar bapur glas, a gofynodd a oedd yn cofio geiriau ar- benig cedd yn y llythyrau gafodd oddi- wrth ei merch. Dywedodd y dyst, gan w yio, nad oedd yn cofio yr un gair ononynt. Saesneg oeddynt, meddai, a chredai gan hyny mai rhywun arall oedd i wedi eu copio. Dywedodd Mr Lloyd, oherwydd yr atebiad hwnw gan y farn, y byddai raid galw tystiolaeth y person welodd yr eneth yn ysgrifenu'r llythyr, a'r hwn a'i copiodd. Tystiwyd gan Dr Batten Williams, nad oedd ewyn ar enau'r drancedig, ac nid oedd ei thafod wedi ei frathu, yr hyn sydd arwyddion cyffredin ynglyn ag epileptic jil. Yr oedd ol ar ei gwddf hefyd fel pe bae rhywun wedi gafael yn ffyrnig ynddo Credai i Miss Hum- phreys tarw o frawychdod. Gallai hyny gae! ci achosi drwy i rywun afael yn ei gwdJf, a gallai gael ei achosi gan gyilro. Yr oedd yn bosibl, ond yn bur anhebyg, i'r marciau ar ei gwddf gael eu hachosi gan y foneddiges ei hun. Tystiwyd gan Dr Eyton Lloyd, yr hwn a ddywedodd y credai ef mai o ddiffyg y galon y bu Miss Humphreys farw, a hyny yn cael ei achosi gan gyffro. Yr oedd cyflwr ei hymenydd yn profi yn ei farn ef ei bod yn gyffrous iawn. Cytunai Dr Evans a Dr Lloyd. Nis gallai ddweyd dim penodol. H nai Mr Horatio Jones nad oedd un- rhyw dystiolaeth yn erbyn yr eneth. Cwynai yn herwydd oediad yr Erlynydd Cyhoeddus yn dod a'r achos yn Ilawn gerbron y llys, a sylwodd y bu pum' diwrnod ar ol dyfarniad y rheithwyr cyn y gwyddai yr amdditryniad y dylid cyf- arfod Nr acliti-i. Cwynai hetyd nad oedd y dystiolaeth rued gan yr Hedd- was Nelson veJi ei roi i'r rheithwyr yn y trengholiad. Gofynai am i'r Fainc ddweyd yr hyn ddywedodd yr eneth wrth yr heddwas, "VVnes i ddim iddi syrthiodd i lawr a chafodd wasgfa," yn ffaith, gan tod tystiolaeth feddygol yn ei gadarnhau. Pendertynodd y Fainc gyfnewid y cyhuddiad i un o ddynliddiad, a dedfrydwyd Alice Hughes i sefyll ei phrawf ar y cyhuddiad lnvnw yn Mrawdlys Rhuthin, ar Hydref i6eg. Caniatawyd meichiafon. r\ I
-v-1 Ysgol Amaethyddol Madryn…
-v- Ysgol Amaethyddol Madryn Yn Mhwyligor Addysg Sir Gaernar- fon yr xi ythnos ddiweddaf hysbyswyd j fod dau a deugain o i;, awon \\edi bod yn cael addysg yn I ysgol haf yn Madryn yn Awst, ac y bu yno un ar bymtheg o athrawesau yn Awst. Yr oedd dwy ar hugain o ferched ieuainc yn bwriadu cad addysg ar drin llaeth ac ymetiyn yn y cwrs fvvriedid ei gych- wyo ar Medi yr 2il, ond yr oedd yn rhaid ei ohirio nes y cwblheid y darpar- iadau yn y lie ar ei gyfer. Yr oedd nifer mawr o bob rhan o'r sir hefyd wedi bod yn gohebu o barthed i'r cwrs ar amaethyddiaeth yn ystod y gauaf. Yr oedd deuddeg etrydydd yn barod wedi penderfynu cymeryd y cwrs hwnw. I
Diwedd Trychinebus "Coch Bach…
Diwedd Trychinebus "Coch Bach y Bala." CAEL EI SAETHU'N FARW. Yn g-ynar i-i e dydd Mawrth diang- odd John Jones ("Coch Bach y Bala ") o garchar Rhuthin. Buwyd yn cbwilio am dano am ddyddiau, a dydJ Sadwrn saetlnvyd ef yn farw ger Llanfair, Dyffryn Clwyd. Yr oedd yn cael ei gadw ar ail Jawr y carchar, ac odditnn y gell y mae llaethdy a gedwir gan un Mr Richards Pan aeth y Prif Wyliwr i mewn chwar- ter wedi pump y boreu canfu gell John Jones yn wag. Yr oedd twll wedi ei dori drwy tur un droedfedd ar bym- theg. Ymwthiodd y carcharor drwy y twll hwn, ag oedd tua deuddeg mod- fedd o gylch fesur, a thrwy gymorth rhaff a wnaeth gyda'r dillad gwely, disgynoad 1 lawr ) fuarth oedd tua phedair troedfedd ar hugain islaw. Wedi hyny, gyda'r rhaff drachefn, dringodd i ben mur uchel, a neidiodd ar ben to y gegin oddiarno. Wedi hyny, llithrodd i lawr hyd bibell oedd ar y mur nes yr oedd tuallan i furiau'r car- char. Ar ol bod yn chwilio km dano am ddyddiau deailwyd ei tod yn y co d ger Neuadd Nantclwyd, a daeth nifer fawr o bobl i gadw gwyliadwriaeth ar v lie. Foreu Sadwrn gwelwyd ef gan ddwy foneddiges ger ffarm Nantclwyd Ucha, a dywedasant am dano wrth Mr Jones Bateman, Eyarth Park, yr hwn oedd yn mynd i saethu petris, a chanddo wn gydag ef. Daeth Mr Bateman ar ei diaws yn nghwr y coed, a siaradodd gydag ef. Gofynodd i'r carcharor, gan yr hwn yr oedd ffon, ddod gydag ef yn dawel, ond tarawodd Mr Bateman yn ei geg a chychwynodd redeg ymaith. Saethwyd ef yn ei goes islaw i'w ben glin, a syrthiodd i lawr. Aeth yr ergyd drwy ei goes gan dori'r wythien, a gwaedodd i farwolaeth mewn byr amser. Yr oedd yn amlwg fod y carcharor mewn gwendid mawr, yr oedd ei rudd- iau'n bantiog, ac o liw llwyd-felyn, Yr oedd yn ei feddiant ddarn o well- aif, siwgwr, ychydig o ymenyn, blwch matsus, hen got, potel o ddwr, a photel o mithylakd spirits. Yr oedd yn eglur y dioddefodd gyni mawr er pan y di- angodd o'r carchar. Nid oedd ganddo nemor ddim am dano ond hen g6t oedd wedi ei lladrata a darn o sach, ac yr oedd gwaed ar ranau o honynt. Y TRENGHOLIAD. I Ddoe cynhaliwyd trengholiad ar gorff y trancedig yn Nhloty Rhuthin. Ni chaniatawyd ond i ychydig gael myn'd i mewn i'r ystafell, er fod dydd- ordeb anghyffredin yn cael ei gymeryd yn y gweithrediadau. Buwyd am amser maith yn gwrando tystiolaethau gan lywodraethwr y car- char, y merched a .welsant y carcharor ffoedig, a chan Mr. Jones Bateman, y dyn ieuanc a'i saethodd, yn ol y tystiol- aethau, mewn hunan-amddiffyniad. Dywedodd Mr. Bateman iddc fyn'd at y carcharor a cheisio ganddo droi'n ol, ond bygythiodd ei ladd gan dynu erfyn o'i boced. Tybiodd y tyst mai ilawddryll ydoedd Pan welodd v car- charor yn myn'd tros y clawdd ceisiodd y tyst ei rwystro, ond tarawyd ef yn ei wyneb hefo ffon. Yna saethodd y tyst ef yn ei goes. Saethodd ef mewn hunan-amddiffyniad. Nid damwain ydoedd o gwbl. Bu y rheithwyr am awr yn ystyried y tystiolaethau, ac wedi ymgynghori a'r crwner ddwywaith pasiwyd rhcithfarn o ddynladdiad yn trbyn Jones Baternan. -0--
Camgymeriad Difrifol ym II…
Camgymeriad Difrifol ym II Mhorthmadog. Mae llawer i achos o afiechyd ar yr elwlod wedi mynd yn anfeddyginaethol oherwydd nad oedd y dioddefydd yn deall yr arwyddion. Y mae Ilawer hyd yn nod heddyw yn Mhwllheli yn gwneud yr un camgymeriad difrifol. Priodol- ant eu poenau cyfriniol i orlafur, neu bryde. efallai, pryd yr oedd eu poenau crydcymalau, y boen yn y cefn, cur yn y pen, penysgafnder, chwydd dropsi, I a'r anvvylderau ar yr yswigen yn twy na thebyg i'w briodoli yr holl amser i elwlod gwan ac afiach. Os ydych yn wael, gwellwch eich elwlod pan y gall- och, gan gymeryd gwers oddiwrth brofiad y wraig hon o Borthmadog. Dywed Mrs A. Jones, Edge Hill, 21, Dora Street, ger I!glwys St. John, Porthmadog Mae fy elwlod wedi bod yn achos o drwbl i mi am lawer o flynyddau. Cawn boeniu ilym yn fy nghefn, ac awn yn llegach ar ol ychydig mwy nag arfer o waith. Y mddangosai y poenau fel yn waeth pan gynheswn yn fy ngwely, ac ar brydiau prin y ga)!wn droi Roedd fy mhen yn ddrwg hefyd, a thybiaf i'r anwylder effeithio ar fy nghalon. Un o'r arwyddion gwaethaf oedd y drwg ar y dwr. Yr oedd yn boenus i'w basio, ac yn anaturiol, ac yr oedd fy nhoesau a'm corff yn chwyddedig gan ddwr. Y feddyginiaeth wnaeth fwyaf o les i mi yw Doan's Backache Kidney Pills. Bum yn eu cymeryd droion, ac ni bydd- ant byth yn methu a rhoi esmwythyd i mi. Mae genyf feddwl uchel o'r feddyg- iniaeth, a byddaf yn ei chymeradwyo'n amI." (Arwyddwyd) (Mrs) A. Jones. Pris 2s. gc. bocs, chwe' bocs am 135. gc. j gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn eglur am Doan's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mrs Jones.
- - - _ Llys y Man-ddy ledion…
Llys y Man-ddy ledion Pwll- .1 heli. Ddydd Mercher, Hydref iaf.—O flaen y Barnwr William Evans. Haiclio Ychwancgiad mcivn Jaicn dal Ymddangosai Mr Caradoc Rees (yn cael ei gyfarvvyddo gan y Mri Lioyd George a George) ar ran Mr Wi'liam Jones, Ty Isaf, Llannor, yr hwn fu yn brentis gar gyda Mr Hugh Lunt, Pwll- heli, a'r hwn a hawliai ychwanegiad yn yr iawn-dal dderbyniai o 8s. i 12s. Dywedodd Mr Rees i'r bawlydd, pan yn gweithio i'r dlffynydd yn 1907 gc ell niued i'w lygad. Caniatawyd iddo 5s. yr wythnos o iawn-dal, ac weJi hyny codwyd y swm i 8s. yr hyn gad- arnhawyd gan y Hys V r oedd y di- ffynydd yn awr yn un ar hugain oed, ac yn hawbo ychwanegiad yn yr ia wn- cal. Yr oedd Ur Jones-Evans, Aber- soch, o'r fam tias gallai yr hawlydd wneud gwaith got, na gweithio mewn goleu disglaer. Yr oedd y llygad arall hefyd we.Ü cael effeithio arno trvvy fod y lliill wedi colli —Ategwyd tystiolaeth Dr Jones-Evans gan Dr Evans, Pont-y- Grihyn, a chan Dr Gladstone Jones, Criccieth. — Pywedodd yr hawlydd y bu yn ceisio gweithio yn yr efail dair blynedd yn ol, ond bu raid iddo roi'r gwaith i fyny. Yr oedd wedi ceisio gweithio fel llafurwr hefyd, ond yr oedd ei lygad yn dyfrio'n barhaus, a bu raid iddo roi'r gwaith hwnw i fyny hefyd.— Mewn atebiad i Mr Clement D ivies, yr hwn ymddangosai ar ran y diffynydd (yn cael ei gyfarwyddo gan Mri Evan Jones a Davies, Caernarfon) dywedodd yr hawlydd nad oedd yn ffaith ei fod yn gwasanaethu yn y siop ac yn gyru cer- byd ar hyd y wlad.—Tystiwyd gan Dr Evans, Caernarfon, iddo archwilio'r llygad y diwrnod hwnw, ac iddo fethu canfod unrhyw arwydd o wendid. Nid oedd y llygad yn dyfrio ond yr oedd tuedd i'w chau i osgoi goleu disglaer. Credai y gallai weithio mewn gefail er ei tod wedi colli un lIygad.- Tystiwyd i'r un perwyl gan Dr Mills Roberts, Llanberis.—Dywedai Mr Clement Davies y credai y gallai y bachgen weithio, ac y byddai'n well iddo er ei fwyn ei hun pe bae'r iawn-dal yn cael ei atal.—Mr Caradoc Rees, drachefn, a ddywed i fod y bachgen wedi rhei cynyg ar bob math o waith, ac wedi methu. Os arhosai gartref dywedai Cwmni'r Yswiriant ei fod yn ddiog, ac os ceisiai wneud gwaith defnyddiol con- demnid ef am hyny hefyd.-Gwrthod- odd y Barnwr ganiatau'r ychwanegiad. Gohirio.-Ymddangosai Mr Caradoc Rees (o dan gyfarwyddid Mri George a George) ar ran Robert Owen, Ty'nrhos Mynydd Nefyn, i brotestio yn erbyn tynu i lawr yr iawn-dal o 15s. 7c. yr wythnos ganiatawyd iddo i 7s. 9c. Dywedodd Mr Rees i R. Owen gael damwain t'w droed pan yn gweith- io i Gwn?ni Chwarel yr Eifl ar yr i ieg o Gorffenaf, 1910, ac yr enillai y pryd hyny tua 31s. yr wythnos. Caniatawyd iddo iawn-dal o 18s. 7c. yr wythnos, ond yn mis Awst tynwvd y swm i lawr i 7s. 9c. a chynygiwyd gwaith iddo gan y Cwmni i falu cerrig yn y chwarel. Nid oedd y gwaith hwnw yn addas i ddyn wedi anafu fel yr hawlydd, gan nas gallai sefyll ar ei draed drwy'r dydd. Cynygiai weithio yn y chwarel i dyJlu cerrig bychan tuag at eu saethu, gan y credai y gallai wneud hyny.-Dywed- odd Robert Owen ei fod yn dair a thri- ugain oed, ac y bu yn gweithio yn y chwarel am y deunaw mlynedd diwedd- af. Gwyddai yn dda beth pedd natur y gwaith ofynid iddo wneud.-Mr Mel- calffe, Bristol, ar ran y Cwmni a ddy- wedodd fod yr hawlydd wedi cael gwaith fuasai yn gweddu iddo. Yr oedd yn awr yn foddlon gwneyd gwaith mwy anodd. Nid oedd yn deg a'r Cwmni i'r trefniadau barhau nes i Owen gael prawf o'r gwaith.—Gohiriodd y Barn- wr yr achos hyd y llys nesaf fel ag i Owen gael cyfle i roi prawt ar y gor- chwyl gynygid iddo.
Wyth mewn Un Ystafeli Wely.
Wyth mewn Un Ystafeli Wely. Gwnaed ymchwiliad y dydd o'r blaen yn mhlwyf Llanddeiniolen, i gwyn o ) eiddo'r plwyfolion i'r perwyl nad oedd Cyngor Dosbarth Gwyrfai wedi darpar aneddau cymwys yno yn lie y rhai oeddynt wedi eu condemnio fel rhai anyhymwys i tyw ynddynt. Yn ystod y gwrandawiad gwnaed dadleniadau o gyflwr gresynus rhai tai yn y plwyf. Yr oedd yno lawer o dai a dim ond un ystafell wely ynddynt. Yr oedd teuluoedd o wr a gwraig, a thri, pedwar, neu bump o blant yn byw yn- ddynt yr oil yn cysgu mewn un ystafeli wely fechan. Mewn tai eraill yr oedd dwy ystafeli, y rhai hyny yn gorfod gwneud y tro ar gyfer gwr a g-wraig a chwech o blant yn fechgyn a genethod. --0--
Troion Rhyfedd yn Blackburn.
Troion Rhyfedd yn Black- burn. Y mae troion rhyfedd ynglyn a phriod- asau wedi digwydd yn ddiweddar yn Blackburn. Beth amser yn ol diflanodd dyn o'r gymydogaeth y noson cyn ei briodas, a diflanodd dyn canol oed, a'r hwn, meddir, oedd yn werth cryn eiddo, pan o fewn ychydig ddyddiau i gael ei uno mewn priodas a merch ieuanc o'r lie. Dydd Sadwrn diweddaf drachefn yr oedd priodas i gymeryd lie yno, ond o fewn ychydig oriau i'r amser penod- edig i'r seremoni gymeryd lie tarawyd y briodferch a braw gan y newydd fod y priodfab wedi n)ynd o'r dref, a bu raid gohirio'r briodas o'r herwydd.
Cyngor Trefol Pwllheli.
Cyngor Trefol Pwllheli. Nos Fawrth, Medi 30am —Presenol: Dr Wynne Griffith (y Maer); yr Hen- aduriaid R. Ivor Parry, W. Eifl Jones, a W. Anthony y Cynghorwyr G. Cornelius Roberts, E. Jones Griffith, Hugh Pritchard, R. Jones-Evans, W. Wynne Owen, W. M. Toleman, O. Ellis Jones. T. W. Thomas, ynghyd a swyddogion y Cyngor. Cyj*r,ij Ctcyl Fail. --Cyflwynwyd adrodd- iad o gyfrit arian yr Wyl Fai gan Mr Wynne Owen, y trysorydd. Dangosai fod gweddill mewn liaw o 25p. is. ice. Gwnaed cheque am 24p. 10s. yn ffair Bwrdd Hysbysebu Goyledd Cymru, ac am Jp. 16s. 6c. Gumni Rheilffordd y L. & N. W sef c\ franiad y Cyngor tuagat yr hysbysleni \naed. Derbyniadau'r Dramffordd Hysbys- wyd yn adroddiad Pwyllgor y Ftyrdd a'r Dramffordd fod y derbyniadau oddiw rth y trams i fyny i'r 2ofed o Fedi yn 130P, mwy o 1 7p. na'r cyfnod cyter- byniol y fl ivy ddyn o'r blaen —Pasiwyd fod swm arbenig yn cael ei roi i un o'r gweiihwyr oedd wedi ei anafu. Y Nwy.—Dywedodd yr Arolygydd y bu yn profi y nwy a'i gael yn gyfateb i oleuni deg o ganwyllau yn lie pymtheg. Yr oedd wedi rhyhuddio'r cwmni o barthed i ansawdd wael y nwy, ac yn bygwth cymeryd cwrs cyfreithiol yn eu herbyn os na byddai gwel!iant.- Sylwodd Mr W. Anthony ei fod wedi hen flino ar y cwynion parhaus ynglyn a goleuni'r dref, ac yr oedd yn bryd cael rhyw derfyn ar y mat.-r.-Dywed- odd y Clerc fod y Cwmni yn addef fod achos i'r gwyn, ond dywedent mai ar ansawdd y glo yr oedd y bai.-Dywed- odd Mr Eifl Jones y gallai y goleuni fod i fyny a'r safon o ran ei nerth, ond fod arogl y nwy yn ffiaidd. Yr oedd lleoedd eraill yn cwyno ynghylch y Cwmni—Sylwodd Mr G. C. Roberts fod tuedd yn y Cwmni i wneud bwch dihangol o'r Goruchwyliwr a'r glo; ond yr oedd y Cwmni yn gyfriful am gyflen- wi y dref gyda goleuni priodol--Dy- wedodd Mr O. Ellis Jones nad oedd a wnelo'r Cyngor ddim agIo na goruch- wyliwr y Cwmni. Dyledswydd y Cyn- gor oedd mynu cael goleuni priodol i'r dref, neu i erlyn y Cwmni yn niffyg hyny. — Wedi traffodaeth pellach pas- iwyd anfon llythyr i'r Cwmni, ac i'r arolygydd gymetyd cwrs cyfreithiol yn eu herbyn os na byddai gwelliant yn cymeryd lie yn fuan. Adroddiad Meddygol.- Yr oedd adrodd- iad y Swyddog Meddygol am Gorffenaf ac Awst yn galonog iawn. Dangosai nad oedd cytartaledd y marwolaethau ond 3.14 y fil, ac nid oedd unrhyw afiechyd heintus wedi tori allan yn ystod yr amser a nodwyd. Amlygwyd llewenydd oherwydd yr adroddiad calor.ogol. Y Peiriant Tan.—Galwodd Mr G. C. Roberts sylw at yr angenrhaid o ddarpar peiriant at ddiffodd tan yn ddi- ymdroi. Yr oedd galwad wedi dod i'r dref y noson hono am i'r tan-ddiffodd- wyr fynd i Rhosfawr gan fod tas wair ar dan yno, ac o fewn ychydig bellder i dy anedd, ond nid oedd ganddynt un- rhyw ddarpariaeth gwerth ei anfon yno. Nis gwyddent chwaith beth ddigwyddai yn Mhwllheli unrhyw adeg.—Pasiwyd gwneud casgliad rhag blaen tuag at ;icrhau h, ;âd effeithiol, a rhoed can- iatad i'r Pwyllgor fynd ymlaen i drefnu -Y da 'r cwmniau yn ddioed, ac i wneud casgliad o dy i dy yn gyntaf, wedi hyny yn yr addoldai os byddai angen. Goleuni Trydanot.-Dywedodd Mr G. C. Roberts y gellid yn hawdd, gyda chydweithrediad a threfn, godi cronfa yn y dref i ffurfio cwmni i oleuo'r dret gyda thrydan. Credai y buasai'n talu, a buasai yn eu gwneud yn anibynol a'r Cwmni N wy y cwynid cymaint o'i herwydd. Archwyd i Mr Roberts wneud ymholiadau, ac i gyflwyno adroddiad erbyn y cyfarfod nesaf. Ynghylch y Tren. Cwynai Mr W. M. Toleman oherwydd nad oedd tren i'w gael i gysylltu a Rheilffordd Ffestiniog, rhwng haner awr wedi deuddeg ac ugain munud wedi deg. Cynygiai fod yr Ysgrifenydd Trefo) i ymohebu a Rheilffordd y Cambrian ynglyn a'r mater.-Sylwodd Mr G. C. Roberts mai buddiol o beth fyddai iddynt gry- bwyll yr un pryd am loches .vn stesion Pwllheli. Yr oedd yr ymwelwyr vn cwyno'n fawr oherwydd y diffyg.- Pasiwyd galw sylw'r awdurdodau at yr hyn y cwynid o'i herwydd. -0--
Deunaw wedi Boddl.
Deunaw wedi Boddl. AGERLONG YN SUDDO. Aeth yr agerlong Gardenia o South Shields i wrthdarawiad a'r agerlong Lundeinig Cornwood yn y niwi ar For y Gogledd ddydd Sadwrn, a suddodd y Gardenia. Achubwyd pedwar o'r criw, codwyd un i fyny'n farw, ac y mae dau ar bymtheg ar goll. Gymaint oedd grym y gwrthdaraw- iad fel y torodd bum' neu chwe troed- fedd i mewn i ddec y Gardenia, ac ym- hen pedwar munud yr oedd y mor wedi ei gorchuddio. Yr oedd meistr y Gardenia-Capten George William Plane, o South Shields, ymysg y pedwar achubwyd. Gallodd gael gafael mewn lifebuoy pan oedd ar suddo, a chyda chymorth hwnw llwydd- odd i gyraedd darn o'r Hong oedd yn nofio. Ymhen amser—nis gwyddai ymhen faint-daeth cwch a dau ddyn ynddo ato, a chodwyd ef a'r tri arall oedd yn hongian wrth ranau drylliedig o'r llong. o South Shields yr oedd y rhan fwyaf o'r criw a gollwyd.