Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR. I

NODION A HANESION.

- - -.-_- - -Marwolaeth y…

News
Cite
Share

Marwolaeth y Foneddiges o Prestatyn. Y TRENGHOLIAD. Ddechreu'r wythnos ddiweddaf cyn- ha!iodd Mr. F. Llewelyn Jones, crwner Sir FRiiit, drengholiad i achos marwol- aeth Miss Humphreysr, Plas Uchaf, Prestatyn, yr hon fel y gwvddis a fu farw o dan amgylchiadau cyffrous. Y tyst cyntaf alwyd oedd Richard Robert Humphreys, brawd y drancedig. Tystiodd y gwelodd ei chwaer foreu diurnod y trychineb. Yr oedd yn ed- rych yn hollol iach a siriol, ac nid oedd arwydd unrhyw gwetyl rhyngddi ag Alice Hughes, y torwyn. Aeth ef gar- tref i Newmarket, ond (ilwyd ef yn ol wedi hyny gan y newydd fod ei chwaer yn wael Pan pyrhaeddodd yno 'roedd rhyw lerched yn rhoi ei chwaer yn ei gwely. Galwyd ar Thomas Jones, gwas y I ihs Uchaf, yr hwn a ddywedodd ei fod yn gwi-.sanaethu gyda Miss Hum- phreys er's pum' mlynedd. Yr oedd Alice Hughes yno'n gweini hefyd er's tri mis. Aeth i'r fferm tua haner awr wedi chwech y boreu hwnw. Yr oedd Alice yn eistedd ar ben y grisiau. Dy- wedai y bu yn wael drwy y nos. Dy- v. edodd yntau nad cedd yn ei gweled yn edrych yn debyg i wael, a'i bod yn gywilydd iddi flino ei meistres Aeth ef allan wedi hyny, ond ymhen ychydig galwyd arno i'r ty gan Miss Humphreys, yr hon a ofynodd iddo fynd i alw hedd- geidwad. Yr oedd ei feistres yn ym- ddangos braidd yn gyffrous. Dywedodd wrth ddyn ieuanc oedd yn mynd heibio am ddweyd wrth yr heddgeidvvad am ddod yno, ac wedi hyny aeth allan. Ymhen rhyw awr gwelai Alice Hughes yn cloi'r drws ac yn cychwyn tua'r dref. Gofynodd iddi i ble'r oedd yn mynd, ac atebodd hithau am iddo beidio holi. Yn fuan wedyn daeth dyn o'r enw Dowell yno. rc Alice gydag ef. Dy- wedodd Dowell fod yr eneth eisieu iddo ef fynd a hi mewn cerbyd i Gop Farm, end nid oedd yn hoffi mynd a hi heb ddod i'r ty gyntaf. Gyda hyny daeth yr Heddwas Nelson yno, a gofynodd i'r eneth heth oedd y mater, a dywedodd wrthi am ddod gydag ef i'r ty. Gwrth- odai yr eneth fynd, ond cydiodd ynddi a gwnaeth iddi fynd, a chymerodd yr alhvedd oddi ami. Dywedodd y for- wyn wrtho fod ei meistres yn y llofft. Aerh yr heddwas i fynu i'r Ilofft, ac at hosodd y tyst ac Alice Hughes i lawr. Ni ddywedodd yr eneth yr un gair wrtho. ond gofynodd am lymaid o ddwr, ac edrychai yn gyffrous. Yr oedd Miss Humphreys yn cwyno y gwanwyn diweddaf. ond yr oedd yn codi bob dydd. Nis gallai ddweyd a oedd yn ilawchwith ai peidio. Nis gwelodd hi erioed yn cael gwasgfa. Yr oedd yn dueddol iawn i gael ei chyfiroi. Ni chlp\odd hi ag Alice Hughes yn cwer- y!a y boreu hwnw. Cymerodd y Cwn- ?stabi Nelson yr eneth i'r ddalfa, a dywedodd e; fod am ei chymeryd i orsat yr hedd'u ar gyhuddiad o lofruddiaeth. Ni roes yr eneth un atebiad iddo. T) stiodd William Dowell am y modd v daeth Alice Hughes ato gan ofyn iddo fynd a hi i Gop Farm, Newmarket. Yr oedd yr eneth yn bur gyffrous pan ddaelh ato. I TYSTIOLAETH Y CWNSTABL. Dywedodd y Cwnstabl Nelson yr un stori ag sydd wedi ei chyhoeddi eisoes. Ychwanegodd y dywedodd Miss Hum- phreys wrtho fod y forwyn yn gwrthod codi 3 11 y boreu. Gofynodd yr eneth am ei chyflog gan ddywedyd yr a'i ad ref. Na," meddai Miss Humphreys wrthi, "byddwch yn eneth dda ac ewch yn mlaen hefo'ch gwaith" Yr oedd y ddwy yn hollol ddigjffro ar y pryd. Aeth et oddiyno, ac oddeutu haner awr wedi naw gwelai yr eneth yn rhedeg i lawr y stryd. Dywedai fod ei meistres yn wael. Aeth yntau yno a gwnaeth i'r eneth fynd gydag ef i'r ty. Gwelai Miss Humphreys yn gorwedd ar ei chetn ar lawr a'i gwyneb at y grisiau. Credai ef ei bod yn hollol farw. Yr oedd ystafeil y forwyn yn anrhefnus iawn-y dillad wedi eu tynu o'r drawers^ a'u gwasgaru hyd y llofft. Aeth a'r eneth gydag ef i orsat yr heddlu, a chyhuddodd hi o lotruddio ei meistres, und g wadodd ei bod yn euog, a dy- wedodd mai cael gwasgfa wnaeth ei meistres. ARCHWILIAD Y MEDDYG. Dywedodd Dr. Eyton Lloyd, Rhyl, iddo wneud archwiliad ar y corff yn unol a chyfarwyddid y crwner. Cyn- orthwyd ef gan Dr. Evans, Ffynon- groeyw, a Dr. Batten Williams, Pres- tatyn. Yr oedd briw ar ei hysgwydd dde xc ar hyd y gwddf. Yr oedd ol gwasgiad hefyd ar ochr ei gen. Nis gellid ffurfio barn derfynol ynglyn ag achos ei marwolaeth oddiwrth y marc- iau hyny heb wneud archwiliad mewnol. Gwnaed archwiliad manwl, ac nid oedd dim yn tueddu 1 ddangos fod y drancedig wedi cael ei llindagu. Yr oedd yn amhvg- ei bod yn tlrtddol i gael ei chyffroi, ac i gael \s--i\sodiad o beth tebyg i epilepticfil, yr ;i a ddilynid gan ddiffy- y galon a marwolaeth. Barnat e( mai dyna tu achos ei marwolaeth. Gallasai cyffro achosi gwasgfa felly, ac yn y vvasgfa bydd y person yn teimlo ei hun yn mygu, a gwnai ymdrech gated i gael rhyddhad. Buasai yn naturiol i'r marciau oedd ar y drancedig gael eu hachoi gan law y drancedig wrth geisio cael anadl. Yr oedd Dr. Evans a Dr. Williams yn cytuno ag ef yn hollol nad oedd y drancedig wedi cael ei llindagu. Yr oedd Dr. Evans o'r farn fod ei mar- wolaeth i'w briodoli i ddiffyg y galon. Beth aclioziodd hyny oedd gwestivvu arall. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i gysylltu y briwiau oedd arni a'i mar- wolaeth. Pasiwyd rheithfarn iddi farw o far- wolaeth natu. ALICE HUGHES 0 FLAEN Y LLYS. Ddydd Iau, yn Mhrestatyn, dygwyd Alice Hughes o flaen y Uys heddgeid- wadol. Er ei bod yn ymarferol wedi ei rhyddhau drwy y rheithfarn basiwyd yn y trengholiad, yr oedd ei hachos wedi ei ohitio ar gyhuddiad o lofrudd- iaeth, ac yr oedd yn y carchar yn aros ei phrawf. Dywedai Mr. J. Llovd, yr hwn a er- lynai ar ran Cyfarwyddwr yr Erlyniadau Cyhoeddus, fod y cyhuddiad yn un ag y dylid edrych yn fanw) iddo. Yr oedd yn angenrheidiol i'r holl dystiolaethau yn y trengholiad gael eu hanfon i'r Erlynydd Cyhoeddus. Gallai ef dybio y dylid mynd ymlaen hefo'r achos. Gan hyoy gofynai am archeb i ganiatau i'r Erlynvdd gael amser i ystyried y tyst- iolaethau ac i ddweyd a oedd digon o sail tros fynd ymlaen gyda'r achos. Dywedai Mr. Horatio Jones (yr hwn ymddangosai ar ran Alice Hughes) ei fod ef yn toddlawn gadael y mater yn nwylaw'r ynadon. Pasiodd yr ynadon ohirio'r prawf hyd ddydd Mawrth nesaf. Yr eneth i gael ei chadw yn ngharchar Walton yn y cyfamser.

Y Ddeddf Yswiriant Cenedlaethol.

; ¡ Gwerth yn Mhw!!heH.I

I Tarw yn Ymosod ar Fach-Igen…

Llys Ynadoi Pwllheli. 1

[No title]

Cymdeithas Casglu Wyau yn…

I- -L, - - ! Damwain Angeuol…

ICystadleuaeth Seindyrf yn…