Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
AT EIN GOHEBWYR. ! I
AT EIN GOHEBWYR. A..ff-ner erbyn BOREU SA UW R y fan bt«llaf Pnb at,heiiit-in a arn Yr CDOOBN J'W b infon i'r UOBUCIIWYLIWR, 74, tii-b Street, PwUheli Pob gobebiaeth i'w cyfeirio- Yn UDGORN OFFICK, PWLLHELI. Bydrl vn dda ger<ym dderhyn goheb- Uetb»u oddiwrth ,hr-bvt yr!tr fateiion ileel o ddyddordeb cyboeddua
NODION A HANESION. I
NODION A HANESION. Fhedeg am ei Bywyd. Pan oedd dynes yn cerdded arlinell y rheilffordd rhwng Horden a Blackhall clywai y tren vn dod, a dechreuodd redeg i geisio cael lie i groesi oddiar ei ffordd. Gwelodd gyriedydd v tren ei sefyllfa beryglus a llwyddodd i atal y tren pan o fewn pedair IU«th iddi. Cymjsgfa leithoedd Wrth siarad yn nghyfarfod Cym- deithas y Beiblau yn y Wyddgrug, y dydd o'r blaen, dywedai y Parch J -Cynddylan Jones, Caerdydd, nas gwyddai ymha iaith i anerch y cynhull- iad-pa un ai yu Gymraeg ynte Saesneg Tybiai fod amryw'n bresenol na ddeall- ent Gymraeg. Yr oedd yr anhawster hwnw'n cynyddu yn y siroedd oedd ar gyrion Lloegr. Cadwai y Cymry o'r cyfartodydd am mai Saesneg siaredid ynddynt, a chadwai y Saeson draw o herwydd y Gymraeg. Yn y Deheudir j cadwent gyfarfodydd i'r Saeson a'r Cymry ar wahan, a deallai y gwneud felly yn y Rhyl. + Cael Corff yn Mborthladd Caer- gybi. Foreu Sul cafwyd corff dyn yn mhorthladd Caergybi, ac yr oedd yn amlwg y bu yn y dwr am amser maith. Yr oedd ei wyneb wedi ei andwyo fel nas gellid ei adnabcd. Bernir ei fod tua deg ar hugain oed. Yn ei boced yr oedd llythyr wedi ei gyfeirio i H. Harris, Cumberland place, Edgbaston, a haner ticed cludiad ol a blaen o Birmingham i Dublin. Cweryl rhwng Cymdogion. Bu ynadon Caernarfon ddydd Sadwrn yn gwrando achos a ddygid ymlaen gan ddynes o Bethel yn erbyn ei chym- doges oedd yn byw y drws nesaf iddi. Honid i'r ddiffynyddes daro y Hall hefo coes ysub yn ei lIaw gan ysigo ei modrwy briodas fel y gorfu i'r achwvi-i- yddes tynd at feddyg, a bu raid iddi hefyd gael gwasanaeth gemydd i dori'r fodrwy y maith. O'r ochr arall dywedid nad oedd fodd i'r ddiffynyddes beidio ymddwyn fel y gwnaeth gan fod y Hall yn ei phrofocio, ac yn ed iw iddi fod ei chwaer yn wallgof. Taflodd y ynadon yr achos allan ar daliad y costau + I Darnwain Ddifrifol i Eneth. I Cyfarfu geneth ieuanc o forwyn o'r enw Annie Brooks a damwain ddifrifol iawn yn Neifod y dydd o'r blaen. Yr oedd yn mynd ar ei beisicl i lawr gallt serth yn agos i Pentre'r go, pan y daeth lJIodur i wrthdarawiad a hi. Taflw)d yr eneth trwy serin y modur, a chafodd ei hanafu'n ddifrifol iawn. Yr oedd ei gen isaf a'i danedd wedi eu malurio. Gwallgofddyn yn Eiiill 33p Yr wythnos ddiweddaf caniataodd Gwarcheidwaid Eastbourne y swm o 5p. i un o'r gwallgofdy oedd wedi enill 33p. mewn cystadleuaeth. Yr mae yn y gwallgofdy er's wyth mlynedd ar hugain ac wedi costio 8oop. i'r treth- dalwyr, a cheidw'r gwarcheidwaid 28p tuag at ei gynhaliaeth. Damwain Ofnadwy mewn Gwaith Haiarn. Bu damwain ofnadwy yn Ngwaith Haiarn Workington, yn Moss Bay, ddechreu'r wythnos o'r blaen. Mewn canlyniad i nwy ffwvdro o dani syrth- iodd simdde fawr i lawr ar do un o'r adeiladau lie yr .oedd Hawer iawn o ddynion yn gweithio. Aeth drwy y to fel trwy blisgyn wy gan gladdu V gweithwyr a milurio 'r peirianau a'r celfi. Lladdwyd pump o'r gweithwyr, a chafodd amryw eraill eu ni eidio 'll ddifrifol iawn. I Gornest Erchyll. Lladdodd dau ddyn o'r enw Dr. Boyles a Mr. Hendricks eu gilydd yn Greenwood Springs, America, mewn ) gornest a barhaodd ond am ychydig-, funudau. Ymladdai Mr. Hendricks: gyda lIawddr yll a'r medd)*, gyda i bwyell. Ymddengys fod Dr. Boyles gydai'i weithwyr yn adgyweirio I!e neillduol a daerh Mr. Hendricks yno i geisio ei rwystro. Ni chollodd y ddau amser i gweryla. Tynodd Mr. Hen- Jiicks lawddrjll o'i boced, ac ar yr un pryd cydiodd Dr. Boyles mewn bwyell oedd wrth law a tharawodd y Hall gyda hi yn ei ben nes y suddodd i'w I ymenydd at y earn. Ond llwyddodd y Hall i saethu ei wrthwynebydd, a bu 'r ddtu farw mewQ amraniiad. I Tynged Geneth o Forwyn. CynhaH?yd te?hotiad yn Llan- gollen y dydd o'r L.a?n ar gorff Jane Roberts, mon\ yn, bedair-ar-bymtheg oed. Pan yn coginio mewn gwesty yn y Bermo, lie y gwasanaetha!, cafodd yr eneth ei hys?atd!an yn ddifnfo! gyda saim berwedig. Aed a hi gartref i j Langollen, ac ymhen ychydig ddyddiau cafodd y dwymyn goch a bu farw. Pasiwyd rheithfarn ddarfod iddi farw o dwymyn goch a achoswyd gan y llosgiad. Gwaith Plwm y Penrhyn. Y mae gwaith ptwm y Penrhyn, ar ol bod yn nghan am ddeugain mlvneJd, ynawr\n cael ei a:l agor. Y mae cwmni o'r Deheudir wedi sicihau prvd- les arno. llyderir y bn-dd ytio waith i amryw gancedd o bobl. Marwolaeth Erell yll. Caed corff Elizabeth Hughes, geneth o forwyn, mewn clv.varel yn Dipton, ddydd Gwener. Yr oedd archoll ddofn yn ngwddf yr eneth, a chned rasel ar ben y chwarel, gydn'r hon y bernir y torodd ei gwddf Yr oedd corff yr eneth wedi ei g!wyfo'n erchyll wrth ddisgyn o'r naill gareg i'r llall i lawr y chwarel. + Ei Gael yn Farw. Canfuwyd Mr Henry Ridge Green- hill, Stamford Hill, Llundain, yn farw fore Sul yn Moss House, Rhosneigr, tie yr oedd yn aros tel ymwelydd Yr oedd yn ei gynhefin iechyd ddydd Sad- wrn, ac yn chware golff. Lladrata i Dori eu Newyn. Dygwyd tri dyn o flaen ynadon Caer- narfon ddydd Sadwrn ar gyhuddiad o fod wedi lladrata bwyd. Enwau y dift- ynyddion oedd Smith, Wilson, a Gavin. Yr oedd y tri yn crwydro hyd y wlad, ac yn Llandwrog aeth dau o honynt i siop a gofynasant am ddwy dorth ac ychydig o gaws Gan nad oedd yn v siop gaws cymerasant y bara ac ych- ydig o co/Mg? beef a erofynai y siopwr I I C am dano. Rhoes Wilson ddwy geiniog ar y cownter ac yna diflanodd y ddau hefo'r nwyddau. Aeth y siop- wr ar eu hoi a gofjnodd am y g wedtlill o'r arian, ond dywedasant \rtho y talai yr h ddgeidwad am danynt. Cymcr- wyd hwy i'r ddalfa ar y ffordd i Gaer- narton. AJdefai y t. i eu bod yn euog, ond mai newyo wnaeth idd>nt ladrata y bwyd. Anfonwyd hwy i garchar. Dau Gant o Ferched yn Ymosod ar Dy. YI1 heddlys Bristol ddydd Sadwrn, pan gyhuddid dynes o'r enw Cisely Harding, o esgeuluso ei phlentyn, dy- wredai heddwas iddo fynd at y ty a gwclai oddeutu dau gant o ferched yno'n lluchio cerrig a phethau eraill drwy'r ffenestn. Pan aeth i mewn can- fu olygfa druenus. Yr oedd y lie yn llawn o gerrig, gwydrau maluriedig, a phethau eraill, a phob man yn eurych fel pe bae'r ty wedi cael ei warchae a'i dan belenu. Yr oedd y ty yn aflan hefyd. Anfonwyd Harding i garchar am fis. yred yn y Ty. Dywed ysgrifenydd Cyir.deithas Ddir- west 1 Fflint, y Parch Thomas Morgan, Y Wyddgrug, fod yted yn y cartrefi yn y sir. Os y canfyddid dyn yn feddw ac anatluog o'r tualian i dafarndy, cym- erid ef i fynu a chosbid ef, ond nid oedd deddf i rwystro pobl rhag cario diod i'w cartrefi, ac yfed i ormodedd yno. Dywcdai het d pe gwyddai rhai pobl gymaint o ddiod feddwol oedd yn cael et gario i'r cartrefi, y byddent yo synu yu ddirtawr. Glo Cymru i Ffrainc. Y mae Llywodraeth Ftrainc wedi rhoi archeh i g-wmni o Gaerdydd am gan mil o dunelli o'r glo Cymreig goreu, ar gyfer y Llynges Ffrengig. Bernir y bydd i'r archeb hon gael ei dilyn yn fuan gan un arall am fwy fyth o swm. Dyma'r archeb rwyaf roed erioed gan Lywodraeth Ffrainc am lo o Gaerdydd. + Marwolaeth H y nnd. Cyfarfu Walter Yeomans, dyn ieuanc o Suckley, a'i farvvolaeth mewn modd byn d iawn. Yi oedd yn mynd a Ilwyth o lo i dy, ac yn ymyl y ty, wrth geisio rhoi carreg dan olwyn y drol, gwthiodd y ceffyl y drol yn ei gwrthol nes y ^wasgvvyd Yeomans yn erhyn y mur. Cantuwyd ef yn sefyll ac yn gwyro tu 01 i'r drol ymhen ug-aio munud ar ol yr cideR y gwehvyd ef yn fyw ddiweddaf. Yr oedd y cetf I yn hollol !onydd, end bu raid cael yeh waneg o geftylau i symud y drol uddiyno. Gynted ag symudwyd sy. tin^dd Yeomans i lawr. Nid oedd 01 un hyw anaf arno, a chredai y meddyg fu yn ei archwilio mai mygu i farwolietli a wnaeth deilad yn Cwympo Brydnawn Sadwrn, cwympodd adeil- a. n-awr oedd ar ganol cael ei adeiladu yn Victoria St-eet Small Heath. Yn ff; -us ni anafwyd neb. Pe bae'r dci;iinwain %x etil LI;L;"),dd t hyvv awr yn gynt mae'n fwy na thebyg y buasai y c^n'yniadau yn dd frifol iawn, gan fod Xno dros dd^Hcrain o ddynion yn gweithio. Yr (dJynt ar eu hawrginio pan ymerodd y cwymp le.
Digwyddiad Ofnadwy yn Prestatyn.…
Digwyddiad Ofnadwy yn Prestatyn. CYHUDDO GENETH IEUANC 0 LADD El MEISTRES. Achoswyd cyffro mawr yn Mhres- tatyn ddydd Mercher diweddaf, pan gaed allan fod Alice Hughes, geneth ieuanc o Langefni, Mon, wedi ei chym- eryd i'r ddalfa ar amheuaeth o fod wedi achosi marwolaeth ei meistres,-Miss Jane Robel ts Humphreys, Plas Ucha, Prestatyn, trwy ei llindagu. Oddeutu saith o'r gloch y boreu hwnw galwyd ar y Rhinyll Nelson i Plas Uchaf. Pan aeth i'r ty dywedodd Miss Humphreys wrtho yn nghiyw y forwyn. fod yr eneth yn ymddwyn yn at eolus ac y i anufudd iawn. Gofyn- odd yr heddwas i Miss Humphreys I beth fwriadai wneud gyda'r eneth, a dywedodd yr eneth yr ai hi adref os cai ei chyflog. Yna gofynodd ei meistres iddi pam na fuasai yn g-wneud ei gwaith yu daw el a bod yn eneth dda. Yr oedd yr eneth, meddai Miss Humphreys, yn gwrthod codi yn y bore, ac yn gwithod gwneud ei gwaith. Dywedodd yr eneth ei bod yn mynd i wisgo am dini ac ar hyny aeth yr heddwas oddiyno, gan yr niddailgOSAi fod popeth yn Tua haner awr wedi naw yr un bore gwelai yr heddwas yr eneth yn mynd yn brysur i la%v.r y stryd yn Prestatyn. Aeth ati a gcHFynodd iddi a oedd popeth yn iawn i fyny yno. Dywedodd yr eneth nad oedd Miss Humphreys yn teimlo'n dda, a'i bod hi yn mynd i an- fon am frawd ei meistres o Newmarket. Gwelodd yr eneth wedi hyny yn mynd mewn cerbyd i gyleiriad Plas Uchat. Aeth yntau yno ar ei hol a gwelai lawer o bobl wedi casglu o gwmpas y lie. Yr oedd Alice Hughes yn sefyll wrth ymyl y ty ac aeth yr heddwas ati a gotynodd beth oedd y mater. Yr oedd allwedd y ty ganddi, a rhoes hwnw i'r heddgeidwad, ond gwrthododd fynd gyda ef i'r ty. Gafaelodd yntau yn ei braich ac aeth gyda hi i'r ty, a dywed- odd yr eneth fod ei meistres yn y llofft. Gadawodd yr heddwas y ferch ieuanc yn ngofal rhyw ddyn ac aeth yntau i fyny'r llofft. Yno canfu Miss Hum- phreys yn gorwedd ar y llofft. Yroedd yn gynes, ond yn hollol farw, ac ysgriffiadau dyfnion ar ei gwddf. Y r oedd yn amlwg y bu ymdrech galed yno. Cafodd gydyn o walit ar lawr yn ymyl y drancedig Yr oedd ystafell y forwyn mewn anrhefn, y drawers yn haner agoted, a'r dillad wedi eu lluchio hyd y llofft. Cafodd yr heddwas gydyn o wallt yno hefyd a ffon. Wedi hyny aeth ag Alice Hughes i orsaf yr heddlu, a chyhuddodd hi o lofruddio Jane Roberts Humphreys. 1ewn atebiad dywedodd ni wnaeth hi ( ddim. Cafodd wasgfa, a syrthiodd i lawr. Yr oedd amryw ysgriffiadau ar freichiau'r eneth. Yn hwyrach yn y dydd aed a'r eneth o flaen yr ynadon, ac yr oedd yr adeilad yn oi lawn, gan fod y newydd am y trychineb wedi ym!edu trwy y fro fel tan gwyllt. Ni alwyd ond dau dyst, sef yr heddwas a Dr Williams. Yr oedd tystiolaeth y blaenaf yn ymarferol yr un tath ag y nodwyd eisioes. Dywedai y meddyg. yr hwn a fu'n I archw ilio'r corff ar ol y darganfyddiad trycbinebus, y barnai ef yn sici y cyfarfu y drancedig a'i divvedd trwy gael ei llindagu. Yr oedd ol bysedd a bawd yn ddwfn yn ei gwddf yo agos i'r bibell wvnt. Credai ef hefydnad oedd yr enel h yn gyfrihiol am yr hyn oedd yn ei wneud ar y pryd, o herwydd yr oedd yn hollol anymwybodol o'i ham- gylchoedd. Pan roddai yr heddwas ei dystiolaeth dywedai yr eneth nad oedd yn clywed yr un gair. a chanfuwyd ei bod yn lied fyddar. Dywedodd yr ynad wrthi y byddai raid ei chymeryd i garchar Wal- ton hyd y trengholiad ddydd Iau. Y TRENGHOLIAD. Ddydd Iau, cynhaliwyd y trengholiad gan Mr F. Llewelyn Jones, y crwner. Yr oedd tad y garchares yn bresenol. j Ni ddywedodd yr un gair yn ystod yr gweithrediadau, ond ymddangosai yn drist iawn Ni wnaed yn unig ond derbyn tystiolaeth o adnabyddiaeth er m.\yn i'r corff gael ei gladdu. Galwyd ar Mr Richard Roberts Humphreys, brawd y drancedig, yr hwn a ddywed- odd y huasai ei chwaer yn haner cant oed yr wythnos nesaf. Yna gohiriwyd y trengholiad hyd heddyw (ddydd Mawrth). Nid yw Alice Hughes, yr hon a gyhuddir o'r llofruddiaeth, ond deunaw oed. Mae'n eneth ieuanc gref, a gwynebryd rhadlon ganddi. Dywedir tod arni eisieu mynd gyda pleserdaith y dydd Mercher dan sylw i Landudno, ond fod ei meistres yo wrthwynebol iddi gael mynd. ANGLADD MISS HUMPHREYS. I Bu Miss Humphreys unwaith yn preswylio yn y Droellan, Abererch, ger Pwllheli. Bu ei thad yn cadw siop, un adeg yn Mhwllheli, ac mae iddi amryw berthynasau yn y fro Mae ei mam yn trigo yn Ne" mat ket. ö) Ja'i mab. Yr oedd Miss Humphreys, meddir, yn nodedig o fanwl gyda threfniadau teuluol, yn arfer a chael ei ffordd ei hun, I, a'i gair yn ddeddf. Ddydd Sadwrn diweddaf, hebryng- wyd ei gweddillion marwol i orffwys yn mynwent Abererch. 0--
[No title]
Bu farw Mr Robert Searson, ffumwr o Osbournley, ddydd Llun. Yr oedd yn gant oed ddydd Gwener diweddaf, ac yn ei gynhefin iecliyd y diwrnod hwnw.
Canfod yr Wddf - Dorclv Werthfawr.…
Canfod yr Wddf Dorclv Werthfawr. CYNYG UN O'R PERLAU AM GE1NIOG. Yr wythnos ddiweddaf daeth gweith- iwr o'r enw Home ar draws perlau yr wddf-dorch werthfawr a ladratawyd ar ei ffordd o Paris i Lundain. Canfu Home y perlau costus mewn blwch ar Ilieol yn Llundain, ond nid oedd yn 1mecidwi ar y pryd eu bod yn werth i dim. Aeth a hwy i orsaf yr heddlu fodd bynag, a dywedwyd wrtho mai marbles oeddynt, ond gadawodd hwy yno. Pan ddaeth allan canfu fod un ar ol yn ei boced. Aeth a'r perl gydag et i daiarndy, a bu yn agos iddo a'i dafiu heb feddwl ei fod o um hyw werth Ceisiodd ei werthu am geiniog yn y tatarndy, ond ni phrynai neb ef, a methodd a chael gan neb i roi glasiad o gwrw iddo am dano. Ychydig fedd- yliai ar y pryd ei fod yn wei th tua dwy fil o bunau. Aeth ag ef wedi hyny i orsaf yr heddlu. Y mae yr oil o'r perlau a berthvnai i'r wddt dorch yn awr wedi eu cael oddigcrth ped war. Cynygid rhodd o ddeng mil o bunau i bwy bynag a roi unrhyw hysbysrwydd a fyddai yn foddion i adfer yr wddf-dorch a hawlir y swm hwnw gan y Mri Quadratstein a Brandstater, y rhai a roisant yr hysbysrwydd cymaf yn ei chylch. Ond credir y gall Home, yr hwn a gafodd y perlau, hawlio tuag wyth mil o bunau o'r rhodd gynygid.
Ymryson Ehedeg.
Ymryson Ehedeg. Cymerodd ras ehedeg le yn Llundain ddydd Sadwrn. Ymgeisiai un-ar-ddeg am wobrwyon gwerthfawr. Yr oedd miloedd lawer wedi ynigynull i Hendon, o'r He y cychwynai'r ehedwyr, a gwylid yr awyrlongau gan filoedd eraill ar hyd y daith. Yr oedd canlyniad y ras fel a gaolyn I, Gustar Hamel 2, H. Barnwell 3, Hawker 4, Raynham 5. Hucks 6, Brock 7, Slank 8, P. Marty 9, Verrier. Bu raid i Porte a Beuaman ddisgyn, y cyntaf yn Epping a'r llall yn Kempton Pat k. oherwydd rhyw anhap ar eu peirianau. Yo fuan ar ol y ras, ac ar ol i'r rhan fwyaf o'r edrychwyr glirio o'r lie, digwyddodd damwain ddifrifol. Yr oedd Mr Sidney Pickles a Mrs Stocks i fynu mewn awyr- long, ac yn sydyn digwyddodd rhyw- beth i'r peirianau a disgynodd yr awyr- long i lawr yn syth yn agos i'r ystatell eang lie yr oedd y bobl yn bwyta. Yr oedd Mrs Stocks yn anymwybodol ac yr oedd Mr Pickles wedi tori ei goes Pe bae y ddamwain wedi digwydd ychydig yn gynarach buasai llawer o bobl wedi eu lladd yn ddiameu.
Yr Hyn sydd ar Bwliheli I…
Yr Hyn sydd ar Bwliheli eisieu ei Wybod. 0 wythnos i wythnos, o flvvyddyn i fiwyddyn, ymddangosodd yn y colofnau hyn ddatganiadau gan gym'dogion, y rhai ddarllenasom oil gyda dyddordeb, a llawer o honom er ein budd. Ond yr hyn ddymunwn wybod yw, a ydynt yn sefyll y prawf mwyaf oll-prawf amser? Dyma dystiolaeth dertynol at y pwynt gan ddynes o Bwliheli Ar Awst 29am, 1911, dywed Mrs A. Griffiths, 4, Gaol -Street, Pwllheli, heb fod ymhell o'r capel, Pwllheli:—"Eff- eithiodd anwyd ar fy elwlod, a dechreu- ais gael poenau brathol ar draws fy nghefn, Weithiau prin y gallwn ym- sythu ar ol gwyro i lawr. Teimlwn bob amser yn flin a thrwm, yr oedd fy mhen yn ddrwg, ac yr oedd- wn yn nerfus ac wedi rhedeg i lawr. Yr oedd casgliad yn y dwr hefyd. "Wedi darllen am Doan's Backache Kidney Pills ceisiais flwch i roi cynyg arnynt, ac ar ol eu defnyddio ani ychydig yr oedd y poenau oil wedi mynd, ac yr oeddwn yn iach drachefn, Mae'n dda genyf gael cyfle i ganmol y feddyginiaeth." (Arwyddwyd) (Mrs) A. Griffith. Ar Mawrth I3eg, 1913,-ymhen, mwy na ttetinaw mis: Y mae genyf o hyd yr un meddwl uchel o Doai/s Backache Kidney Pills, ac yn eu cymeradwyo'n barhaus. Pris 2s. ge. bocs, chwe' bocs am 135. gc.; gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn eglur am Doan's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mrs Griffiths.
I Streic Gweithwyr y Rheil-Iffyrdd…
Streic Gweithwyr y Rheil- ffyrdd ar Ben. Mae streic gweithwyr y rheilffyrdd, yr hon a fygytbiai fod yn ddifrifol iawn ei chanlyniadau, wedi ei setlo, a'r gweithwyr wedi ail afael yn eu gorch- wylion. Hysbyswyd dydd Sadwrn fod swyddogion Undeb y Gweithwyr, a goruchwylwyr y gwahanol gwmniau wedi dod i gytundeb, ac anfonwyd cais gan Bwyllgor Gweithiol Undeb Gweithwyr y Rheilffyrdd am i'r aelodau ail ddechreu gweithio yn ebrwydd. Mewn cyial todydd a gynhaliwyd gan y streicwyr yn Lerpwl, Birmingham, a manau eraill, pasiwyd yn untrydol i gytuno a'r cais. Ond parhau yn ddrwg iawn mae'r sefyllfa yn Dublin o hyd. Y mae y naill undeb yn dylanwadu ar y llall, nes o ganlyniad y mae miloedd lawer yn y ddinas allan o waith, Hawer o honynt mewn cydymdeimlad a'r streic- wyr, ac eraill o orfodaeth. Ofnir bob dydd i derfysg cyffredinol dori allan yno, ac y mae heddgeidwaid arfog a milwyr yn dylifo i'r lie yn barhaus. Pe ddigwyddai i derfysg gymeryd lie yn y ddinas eto byddai yao le ofoadwy,
Bwrdd y Gwarcheidwaid. I
Bwrdd y Gwarcheidwaid. I Dydd Mercher, iyeg. Mr J. T. Jones yn y gadair, a Mr Richard Jones, yn yr is-gadair. A freolus yn y Jy—Rhoes y cadeirydd rybudd i un o'r tiodion oe 1d yn y ty, a'r hon a gyhuddid o fod yn afreolus. y cai ei dwvn o flaen yr ynadon os na ymddygai yn iteii yn y dyfodvii. Addawodd beidio creu cynwrf drachefn. Amddiffyn ei Frawd. — Hvsbysodd y I Clerc ei tod wedi derbyn llythyr o Nefyn oddiwrth frawd Wiiiiam Davies, yr hwn oedd wedi ysgriienu gartret dro yn ol i gwyno y catodd ei gamarwain gyda golwg ar waith yn Canada pan yn ymfudo yno. Yr oedd yn galw sylw at ) y dratodaeth fu yn y Bwrdd o bertliyn- as i lythyr o eglurhad anfonwyd Yan Mr Pugh, cym ychiolydd ymfudol y Llywodraeth, o barthed i'r cyhuddiadau oedd yn llythyr William Davies. Syl-j wai Mr John Davies (brawd William Davies) meddai'r Clerc, mai y casgliad y deuai d iddo, ar ol darllen hanes gweithrediadau y Bwrdd, oedd y tybiai y Gwarcheidwaid fod ei frawd yn un diogr. Deallai fod un o'r Gwarcheid- waid wedi dweyd fod dwy ochr i bob stot i, a gofynai pam yr oedd y Bwrdd gan hyny yn derbyn tystiolaeth Mr Pugh yn derfynol ar y mater. Nid oedd ei frawd yn gvvybod am y dralod- aeth nac am y llythyr eglurhad Mr Pugh, a chredai mai anheg iawn ar ran y Bwrdd oedd dod i benderfyniad ar 6Illyhuddiad ag yr oedd yr hwn a gyhuddid yn ddiniwed ac anwybodus yn ei gyleh. Cyfeiriai y llythyr hefyd at rai o honiadau Mr Pugh, a dywedai eu bod yn anghywir. Yn un peth yr oedd ei trawd wedi bod yn gweithio yn y glofeydd am bum mlynedd, ac nid am naw mis fel y dywedai Mr Pugh. Dywedai hefyd fod dynion yn cael anhawsder mawr i sicrhau gwaith yn Canada. Yr oedd Gwarcheidwad arall hefyd wedi dweyd y cafodd lythyr oddiwrth hen was iddo o Canada, ac fod hwnw'n dweyd fod digon o waith i'w gael yno, a'i fod wedi gweld Wm. Davies yn Canada. Yr oedd y datgan- iad olaf yn y llythyr hwnw yn anghywir. Sylwodd Mr Richard Jones, is-gadeir- ydd y Bwrdd, ei fod yn adwaen Wm. Davies yn dda, a'i fod yn ddyn o gym- eriad rhagorol ac yn weithiwr da.— Dywedodd Mr J. Hughes Parry, pe bae yn gwybod am lythyr John Davies, y buasai wedi dod a'r llythyr gafodd oddiwrth ei hen was gydag ef i'r Bwrdd. -Sylwod y Clerc mai'r unig beth oedd a wnelont hwy a'r achos oedd o barthed i'r elusen a delid i wfaig a phlant yr hwn oedd wedi ymfudo. Nid oedd yn j gweled sut y gallent hwy osod eu hun- ain yn farnwyr yn y cwestiwn.—Cytun- ai y cadeirydd ag ef, ac ni wnaed sylw pellach o'r mater. Penodiad. Penodwyd y Parch J. Edwards yn gadeirydd y Pwyllgor Ymweliadol yn lie y Parch Henry Rees Penodwyd Mr Samuel Roberts ar y Pwyllgor Ymweliadol yn lie Mr Rees, a Mr Owen Williams, Tydweil- iog, ar Bwyllgor y Byrddio Allan. Amcangyfrif.—Yr oedd amcangyfrif y Clerc yn dangos y byddai i. 7oop. yn angenrheidiol ar gyfer amcanion deddf y tlodion am yr haner blwyddyn, yr hyn a olygai dreth o 4k. y bunt, neu ddimai yn llai na r cyfnod cyferbyniol y flwyddyn flaenorol. o b(trthcfi i E?IYll!lsiau.-Yr oedd dwy o'r tlodion oedd yn derbyn elusen wedi dod i feddiant o 120p. yr un drwy ewyllys, a bu'r Bwrdd yn ystyried faint ddylid hawlio o'r arian. Yr oedd un wedi derbyn gop. mewn elusen, a'r llall wedi derbyn 66p.-Pasiwyd hawlio 45p. yn un achos a 5op. yn yr achos arall.
— y Odamwain hefo'r Tren yn…
— y Odamwain hefo'r Tren yn yr Iwerddon. A OEDD Y GYRIEDYDD YN I FEDDW? Yn Strabane, ddechreu'r wythnos ddi- weddaf, cyhuddwyd Neat Fullerton a William Doherty, gyriedydd a thaniwr y tren gytarfu a damwain yn Donemana o yru'r tren yn y fath fodd fel ag i achosi marwolaeth Michael McPhelemy a niweidio amryw ereill. Honai dynes iddi weled Fullerton o dan ddylanwad diod ar y platfform yn Derry. Dywedodd wrtho, meddai hi, os oedd a wnelo ef rywbeth a'r tren nad oedd hi am drafaelio ynddi. Honai y ddynes hefyd fod dyn ar y peiriant yn feddw ac yn galw ar y bobl oedd ar y platfform am iddynt ddod yno i weld y tan. Uywedai Samuel Rule, masnacnwr I oedd yn trafaelio gyda'r tren, y credai fod y tren yn mynd yn ol y cyflymder o rhwng deugain milltir a phum milltir a deugain yr awr pan y digwyddodd y ddamwaim. Ni chlywodd y tyst un- rhyw chwibanogl cyn y gwrthdarawiad. Ar ol y ddamwain gwelodd Doherty ar y platfform o dan ddylanwad diod. Tyst arall o'r enw Henderson a ddywedai iddo weled Fullerton yn sefyll yn ymyl y peiriant ar ol y ddam- wain. Gofynodd Fullerton iddo, "Sut y daeth hwn i'r fan yma? gan gyfeirio at y peiriant. Atebodd y tyst, y dylai ef wybod gan belled mai efe oedd y gyriedydd. Dywedai Thomas Campbell, Strabane y bu yn ymddiddan a'r gyriedydd ar ol y ddamwain. Ymddangosai Fullerton yn hurt, meddai et, ac fel pe o dan ddylanwad diod. -0
[No title]
Y mae Dr Arthur Llewelyn Hughes, Abergele, wedi ei benodi'n broffeswr mewn gwyddoniaeth yn un o brifysgol- ion yr Amerig.
Gwelliant y Ddeddf Yswiriant.
Gwelliant y Ddeddf Yswir- iant. DYDDIAU PWYSIG YNGLYN AG YCHWANEGU BUDDION. HYDREF 12, Iqq (a)-Gall personau ddyfod yn Gyfran- vryr Go:h foddol hyd y dydJi. J hwn yrfool y graddegau is o gyfranu. Cyfyngid y fraint hon gan y Ddeddf wreiddiol (1911) i bersonau ddeuent yn Gyfran- wyr Gwirfoddol erbyn Ionawr 15 di- weddaf. Fe atelir y caniatad hwn yn derfynol ar ol Hvdref 12. Gellir cael manylion ynghylch y graddau gostyngol a chyffredin ond anfon at yr Y sg rif- enydd, Dirprwyaeth Y swiriant Cenedl- aethol Iechyd (Cymru). Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Ni fydd angen talu'r cludiad. (h) Hydd i bersonau ddeuant yn gyfran- wyr cnjlogednj ant u tio ryiiiii Prbyri y dyddiad hwn dalu cytraniadau yn ol y yradtkqau ci/ffredin, a deibyn baduion llawn,—am fod y dyddiad hwn wedi ei osod yn lle'r dyddiad (Gorffenaf I r: diweddaf) a ddarparwyd gan y Ddec' wreiddiol (i o i j). iJdF* HYDREF 13, 1913. Ar ac wedi'r dyddiad hwn, rhoddir buddion llawn mewn afiechyd (10s. yn yr wythnos i ddynion a 7s. 6c yn yr wythnos i ferched) i bob cyfranydd cyjlogedig Prydeinig dros 21 mlwydd oed a ddel yn yswiriedig cyn y dyddiad hwn,—am tod y darpariadau hyny yn y Ddeddf wreiddiol (1911) a ostyngai fuddion mewn afiechyd i bersonau dros 50 a phersonau dros 65 wedi eu dirymu. Gelwir sylw arbenig personau yswir- iedig a phersonau tebyg o yswirio, ac yo neilltuol bersonau rhydd iddyfod yn Gjifranwyr Gwirfoddol, at Ý dyddiau uchod, ac at fraint o ddyfod yn Gyfran- wyr Gwirfoddol yn ystod y cyfnod cyj- yngedig a ddiwedda Hydref 12, 1913. Dirprwyaeth Y swiriant Cenedlaethol lechyd (Cymru), Neuadd y Ddinas, Caerdydd, Medi 20, 1913. o
Cyhuddo Offeiriad o Lofruddiaeth.
Cyhuddo Offeiriad o Lof- ruddiaeth. Y mae y Parch Hais Schmidt, offeir- iad Eglwys St. Joseph, New York, wedi ei gymeryd i'r ddalfa ar amheu- aeth o fod yn euog o lofruddio geneth ieuanc, corff yr hon a gaed yn yr afon Hudson beth amser yn ol. Adnabu- wyd y corff fel yr eiddo Anna Aumaller, morwyn fu'n gwasanaethu yn nhy Eglwys St. Boinface, lie yr oedd y cyhuddedig yn rheithor cynorthwyol adeg y cymerodd y llofruddiaeth honedig le. Yn ol adroddiadau'r heddgeidwaid, yr oedd Schmidt a'r eneth ieuanc yn byw gyda'u gilydd fel gwr a gwraig, a phan nas gellid cuddio'r gyfathrach yn hwy honir i'r offeiriad gymeryd cyllell fawr a lladd yr eneth gyda hi. Wedi hyny dadgymalodd hi, a cfitariodd y corff bob yn ddarn mewn parsel ac i'r afon. Cymerodd y fatres ar yr hon y lladdwyd yr eneth i le unig ac fe'i claddodd. Pan gymerwyd Schmidt i'r ddalfa ceisiodd wneud diwedd ar ei einioes. Y mae meddyg hefyd wedi ei gyn.- eryd i'r ddalfa ar gyhuddiad o fod wedi cyflawni gweithred anghyfreithlon ar yr eneth dran edig. Mae'r achos yn peri cyffro mawr yn New York, ac y mae amheuaeth cryf ymysg y Pabyddion yno fod gan Schmidt hawl i alw ei hun yn offeiriad. Bernir mai meddyg ydyw o'r enw Mollirre. Dywedai ef ei hun mai enw ei dad oedd Henry Mollirre.
Gyriedydd a Thaniwr yn Ymladd…
Gyriedydd a Thaniwr yn Ymladd ar y Tren. Dywed gohebydd o Ffrainc yn un o'r newyddiaduron Seisnig am ymladdfa gymerodd le ar dren yno rhwng y gyr- iedydd a'r taniwr. Gynted ag yr oedd y tren wedi cychwyn o stesion techan yn Bay vane aeth y ddau i gweryla, ac erbyn fod y tren wedi cyraedd j'w chyflymdra eithaf, yr oedd y ddau ddyn, ar y rhai y dibynai bywydau yr holl deithwyr, yn ymladd yn ffyrnig. Cyd- iodd y gyriedydd hefo'i ddanedd yn mys y taniwr, a chafodd y taniwr afael mewn morthwyl a tharawodd y llall yn ei ben amryw weithiau." Llwyddodd y gyriedydd i stopio'r tren, a gynted ag y gwnaeth hyny syrthiodd i lawr mewn llevvyg.
Gwrthod Pleidlais i Mr Ellis…
Gwrthod Pleidlais i Mr Ellis Griffith. Yn llys cofrestriadol Llangian dydd Iau, gwrthwynebai Mr W. H. Wright, cynrychiolydd y blaid Doriaidd, i gais o eiddo Mr Ellis Jones Griffith, A.S., am bleidlais ar gyfrif ty a thir a fedd- ianai yn yr ardal nad oedd y cais wedi ei wneud yn briodol. Dywedodd Mr John Elias Jones dros y Rhyddfrydwyr, nas gallai gefnogi y cais gan nad oedd y daflen wedi ei llanw yn briodol. Gwrthodwyd y bleidlais..4, o
Llosgi i Farwolaeth mewn Cadair.
Llosgi i Farwolaeth mewn Cadair. Gadawodd dynes yn Ancoats ei baban pymtheng wythnos oed mewn cadair o flaen y tan. Gadawodd y gegin am ychydig funudau, a phan ddaeth yn ol yr oedd y gadair a dillad y plentyn ar dan. Rhwygodd y dillad oddiam y plentyn a rhedodd ag ef at fferyllydd. Ond yr oedd wedi llosgi gymaint fel y bu farw. Credai y ddynes mai glo oedd wedi disgyn o'r tan a rhoi y gadair ar dan.