Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR. ! I

NODION A HANESION. I

Digwyddiad Ofnadwy yn Prestatyn.…

News
Cite
Share

Digwyddiad Ofnadwy yn Prestatyn. CYHUDDO GENETH IEUANC 0 LADD El MEISTRES. Achoswyd cyffro mawr yn Mhres- tatyn ddydd Mercher diweddaf, pan gaed allan fod Alice Hughes, geneth ieuanc o Langefni, Mon, wedi ei chym- eryd i'r ddalfa ar amheuaeth o fod wedi achosi marwolaeth ei meistres,-Miss Jane Robel ts Humphreys, Plas Ucha, Prestatyn, trwy ei llindagu. Oddeutu saith o'r gloch y boreu hwnw galwyd ar y Rhinyll Nelson i Plas Uchaf. Pan aeth i'r ty dywedodd Miss Humphreys wrtho yn nghiyw y forwyn. fod yr eneth yn ymddwyn yn at eolus ac y i anufudd iawn. Gofyn- odd yr heddwas i Miss Humphreys I beth fwriadai wneud gyda'r eneth, a dywedodd yr eneth yr ai hi adref os cai ei chyflog. Yna gofynodd ei meistres iddi pam na fuasai yn g-wneud ei gwaith yu daw el a bod yn eneth dda. Yr oedd yr eneth, meddai Miss Humphreys, yn gwrthod codi yn y bore, ac yn gwithod gwneud ei gwaith. Dywedodd yr eneth ei bod yn mynd i wisgo am dini ac ar hyny aeth yr heddwas oddiyno, gan yr niddailgOSAi fod popeth yn Tua haner awr wedi naw yr un bore gwelai yr heddwas yr eneth yn mynd yn brysur i la%v.r y stryd yn Prestatyn. Aeth ati a gcHFynodd iddi a oedd popeth yn iawn i fyny yno. Dywedodd yr eneth nad oedd Miss Humphreys yn teimlo'n dda, a'i bod hi yn mynd i an- fon am frawd ei meistres o Newmarket. Gwelodd yr eneth wedi hyny yn mynd mewn cerbyd i gyleiriad Plas Uchat. Aeth yntau yno ar ei hol a gwelai lawer o bobl wedi casglu o gwmpas y lie. Yr oedd Alice Hughes yn sefyll wrth ymyl y ty ac aeth yr heddwas ati a gotynodd beth oedd y mater. Yr oedd allwedd y ty ganddi, a rhoes hwnw i'r heddgeidwad, ond gwrthododd fynd gyda ef i'r ty. Gafaelodd yntau yn ei braich ac aeth gyda hi i'r ty, a dywed- odd yr eneth fod ei meistres yn y llofft. Gadawodd yr heddwas y ferch ieuanc yn ngofal rhyw ddyn ac aeth yntau i fyny'r llofft. Yno canfu Miss Hum- phreys yn gorwedd ar y llofft. Yroedd yn gynes, ond yn hollol farw, ac ysgriffiadau dyfnion ar ei gwddf. Y r oedd yn amlwg y bu ymdrech galed yno. Cafodd gydyn o walit ar lawr yn ymyl y drancedig Yr oedd ystafell y forwyn mewn anrhefn, y drawers yn haner agoted, a'r dillad wedi eu lluchio hyd y llofft. Cafodd yr heddwas gydyn o wallt yno hefyd a ffon. Wedi hyny aeth ag Alice Hughes i orsaf yr heddlu, a chyhuddodd hi o lofruddio Jane Roberts Humphreys. 1ewn atebiad dywedodd ni wnaeth hi ( ddim. Cafodd wasgfa, a syrthiodd i lawr. Yr oedd amryw ysgriffiadau ar freichiau'r eneth. Yn hwyrach yn y dydd aed a'r eneth o flaen yr ynadon, ac yr oedd yr adeilad yn oi lawn, gan fod y newydd am y trychineb wedi ym!edu trwy y fro fel tan gwyllt. Ni alwyd ond dau dyst, sef yr heddwas a Dr Williams. Yr oedd tystiolaeth y blaenaf yn ymarferol yr un tath ag y nodwyd eisioes. Dywedai y meddyg. yr hwn a fu'n I archw ilio'r corff ar ol y darganfyddiad trycbinebus, y barnai ef yn sici y cyfarfu y drancedig a'i divvedd trwy gael ei llindagu. Yr oedd ol bysedd a bawd yn ddwfn yn ei gwddf yo agos i'r bibell wvnt. Credai ef hefydnad oedd yr enel h yn gyfrihiol am yr hyn oedd yn ei wneud ar y pryd, o herwydd yr oedd yn hollol anymwybodol o'i ham- gylchoedd. Pan roddai yr heddwas ei dystiolaeth dywedai yr eneth nad oedd yn clywed yr un gair. a chanfuwyd ei bod yn lied fyddar. Dywedodd yr ynad wrthi y byddai raid ei chymeryd i garchar Wal- ton hyd y trengholiad ddydd Iau. Y TRENGHOLIAD. Ddydd Iau, cynhaliwyd y trengholiad gan Mr F. Llewelyn Jones, y crwner. Yr oedd tad y garchares yn bresenol. j Ni ddywedodd yr un gair yn ystod yr gweithrediadau, ond ymddangosai yn drist iawn Ni wnaed yn unig ond derbyn tystiolaeth o adnabyddiaeth er m.\yn i'r corff gael ei gladdu. Galwyd ar Mr Richard Roberts Humphreys, brawd y drancedig, yr hwn a ddywed- odd y huasai ei chwaer yn haner cant oed yr wythnos nesaf. Yna gohiriwyd y trengholiad hyd heddyw (ddydd Mawrth). Nid yw Alice Hughes, yr hon a gyhuddir o'r llofruddiaeth, ond deunaw oed. Mae'n eneth ieuanc gref, a gwynebryd rhadlon ganddi. Dywedir tod arni eisieu mynd gyda pleserdaith y dydd Mercher dan sylw i Landudno, ond fod ei meistres yo wrthwynebol iddi gael mynd. ANGLADD MISS HUMPHREYS. I Bu Miss Humphreys unwaith yn preswylio yn y Droellan, Abererch, ger Pwllheli. Bu ei thad yn cadw siop, un adeg yn Mhwllheli, ac mae iddi amryw berthynasau yn y fro Mae ei mam yn trigo yn Ne" mat ket. ö) Ja'i mab. Yr oedd Miss Humphreys, meddir, yn nodedig o fanwl gyda threfniadau teuluol, yn arfer a chael ei ffordd ei hun, I, a'i gair yn ddeddf. Ddydd Sadwrn diweddaf, hebryng- wyd ei gweddillion marwol i orffwys yn mynwent Abererch. 0--

[No title]

Canfod yr Wddf - Dorclv Werthfawr.…

Ymryson Ehedeg.

Yr Hyn sydd ar Bwliheli I…

I Streic Gweithwyr y Rheil-Iffyrdd…

Bwrdd y Gwarcheidwaid. I

— y Odamwain hefo'r Tren yn…

[No title]

Gwelliant y Ddeddf Yswiriant.

Cyhuddo Offeiriad o Lofruddiaeth.

Gyriedydd a Thaniwr yn Ymladd…

Gwrthod Pleidlais i Mr Ellis…

Llosgi i Farwolaeth mewn Cadair.