Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR. \

NODION A HANESION.

News
Cite
Share

NODION A HANESION. Hiraeth am Geffyl. Mae'n rhyfedd mor hoff weithiau mae dynion yn mynd o anifeiliaid fydd dan ell gofdl. Caed engraifft nodedig o hyny yn Portland Mens y dydd o'r blaen Yr oedd ceffyl wedi ei werthu mewn fferm yno, a phan aed ag et ym- aith gymaint oedd hiraeth y certmon ar ei ol tel y torodd ei wddf. a bu farw. Ffyddlondeb Mochyn. Y mae Ned Faulkner, yr hwn sy'n bedwar ugain a dwy mlwydd oed, ac yn byw yn agos i Aymestrey, Hereford, yn gorfod cerdded tair milltir o ffordd bob wythnos i nol ei bensiwn, a dilynir ef bob tro ar y daith gan ei fochyn, yr hwn a orwedd o'r tuallan i'r llythyrdy tra bu'r hen wr yn gwneud ei fusnes. Ynysoedd yn Diflanu. Dywedir fod y Falcon Island a Hope Island, dwy ynys fechan yn y Mor Tawel, wedi diflanu o'r golwg. Yr oedd yr ynysoedd yn cael eu poblogi gan rai canoedd o frodorion ac ychydig bobl wynion. Nid oeddynt yn cael eu nodi ar y mapiau cytfredin oherwydd eu bychander, ond gorweddent rhwng New Caledonia a Fiji. Tro Doniol yn Llanidloes. Yn Llanidloes, rai dyddiau'n ol, cyn- haliwyd arddangosfa babanod, ac yn y Cyngor Trefol yno nos lau hysbyswyd fod y ddau blentyn gafodd y ddwy brif wobr yn yr arddangosfa wedi eu geni a'u magu mewn dau dy oedd wedi eu condemnio gan y swyddog iechydol fel rhai hollol anghymwys i neb fyw ynddynt. Gweddiau a Gwleidyddiaeth. Dywed un o newyddiaduron Aber- ystwyth y bu cwmni o ymwelwyr yn aros mewn ty neillduo! yn y Borth. ger Aberystwyth, ar eu gwyliau. Yn un o'u hystafelloedd yr oedd darlun o Mr. Lloyd George, a phan y byddai y cwmni yn cadw dyledswydd bob nos a boreu byddent yn troi y darlun o'r Canghellor a'i wyneb tua'r pa-ed cyn yr aent i weddi. Mam i Feibion Tal. Hysbysir farw o'r For.esig Phillips, gweddw y diweddar Gano 1 Syr J. E. Phillips. Yr oedd y Fonesig Phillips yn tam i dri aelod Seneddol nodedig am eu taldra Yr oedd Syr Owen Phillips yn chwe troedfedd a saith modfedd, Cyrnol Ivor Phillips yn chwe troedtedd a phedair modfedd; ac Aiglwydd St. David yn chwe troedfedd a thair mod- fedd. Tan yn Nghaernarfon. Yn gynar foreu Sul aeth y Segontium Steam Laundry, Caernarfon, ar dan. Clywyd fod y tan wedi tori allan oddeutu haner nos, ac er y daeth y tan- ddiffoddwyr yno ar unwaith. yr oedd y fflamau wedi ymledu drwy'r adeihd. Ofnid ar y cyntaf y buasai y tan yn cyraedd i'r tai cyfagos, ilwyddodd y tan-ddiffoddwvr i ddiffodd y fflamau cyn cyraedd yr adeilalbu eraill, ond nid cyn i'r laundry gael ei Ilwyr ddinystrio. Dihangfa Gyfyng ar y Rheil- ffordd. Cafodd y Scotch express ddihangfa gyfyng iawn yn gynar foreu Sadwrn. Pan yn trafaelio yn ol 55 milltir yr awr, yn agos i Chevington Junction, aeth oddiar y rheiliau, ond yn ffodus sudd- odd yr olwynion gymaint i'r ddaear fel y rhwystrwyd i'r tren droi ac ni niweid- iwyd ond un o'r teithwyr. Aeth tren oddiar y rheiliau hefyd ar linell y Lancashire and Yorkshire yn Black- burn. Ni anafwyd neb, ond yr oedd y leithwyr wedi cael braw anghyffredin. Creulondeb at Gaseg. Yn Mhorthmadog y dydd o'r blaen cyhuddwyd Griffith Williams, Hafod-y- 11am, o fod yn greulon wrth gaseg, drwy ei gweithio o fewn deng awr ar hugain ar ol iddi ddod a chyw. Cafodd y gaseg ei rhoi wrth gerbyd a thri o deithwyr ynddo, a ^yrwyd hi. meddai Mr Dew, am chwe' mi Itir. Dywedoi Mr W. George, wrth amddiifyn, mai am dair milltir y gyrwyd y gaseg, a'i bod yn arferiad yn y dosbarth i weithio caseg y diwrnod ar ol iddi ddod a chyw. Dirwywyd y diffynydd i 10s. a 55s. o gostau. Marw'r Meudwy Cymreig. Y mae Thomas Lewis o Llandinam, yr hwn a fu'n fel meudwy mewn; ogof am amser maith, a'r hwn a anfon-! wyd i Canada i ddechreu bywyd newydd, j wedi marw yn Engllaire. Gweithiai j yno fel llafurwr, a chyfarfu a dam wain angeuol yn y gwaith. Trydan i Lanidloes: I Oherwydd anghydtod gyda Chwmni'r Nwy y mae tref Llanidloes heh ei goleuo er s tua pvthelnos, o-,d yn fuan caiff ei goleuo gyd.t thrydan. Y mae Cyngor y DI ef wedi dod i gytundeb a chwmni i oleuo lampau cyhoeddus y dref gyda thrydan am yr un telerau ag a gynygid gan gwmni'r nwy. Llong yn Rhedeg i'r Lan. Aeth y sgwner Thetis, yr hon oedd ar ei mordaith o Lundain i Leith hefo Ilwyth o bylor, i'r lan ar draethell Cumberland foieu Liun. Torodd yn ddwy, ac vsgubai y mor drosti. Bu y criw mewn perygl mawr hyd nes y cyrhaeddodd y bywydfad atynt, yr hwn a'u cymerodd i dir yn ddihangol. « «> Maen Cof y B:il'dd Alun. Ddydd Mercher diweddaf dad- orchuddiwyd croe4 o fynor gwyn ar fedd y bardd John B atkwell (Alun), yn- mynwent Mano.dc>n Yr oedd t nf fawr o edmygwyr y bardd yn bresenol. Dechreuwyd y g\\ eithrediadau drwy ganu un o emynau Alun. Aed i weddi gan reithor Manordeifi. a dadorchudd- iwyd y feddfaen gan Esgob Tyddewi. Z, t, ■fr Cael ei Ladd nefo Caib. Bu trychineb ofnadwy vn gynar foreu Sul yn ngorllewinbarth Llundain. Daeth dyn ieuanc o hyd i'w dad yn farw ar y gwely, ac archoll ddofn yn ei ben. Bernid fod yr archoll wedi ei gwneud hefo caib oedd wrth ochr y gwely Bu y dyn allan yn hwyr nos Sadwrn gyda dau o'i teibion, ac yn hwyr nos Sul cymerwyd dyn i'r ddalfa ar amheuaeth o fod yn gysyHtiedtg a'r trychineb. Yr oedd ei ddillad am yr hen wr pan gan- fuwyd ef ar y gwely, ond credir yr ym- osodwyd arno pan yr oedd yn cysgu. Yr Wddf-Dorch Golledig. Y mae achos pwysig ar dro yn Bow Street, Llundain, er's dyddiau o ber- thynas i'r wddf-dorch werihfawr ladrat- awyd yn ddiweddar, a'r hon oedd ) n cael ei hanfon o Ftrainc i Lundaiu drwy y post. Y mae dau o'r perlau gwerth- fawr oedd yn yr wddf-dorch wedi eu canfod, a chyhuddir pump o ddynion o'r enw Locket, Grizzard, Silverman, Gut- wirth a McCarthy, o fod yn gysylltiol a'r lladrad. Nis gwyddis Ile mae'r wddf-dorch. Y mae y perlau y deuwyd o hyd iddynt yn werth io,ooop. + Damwain Ddifrifol i Was Fferm. Ddydd Gwener diweddaf, yn Nghefn- ddwysarn, yn agos i Cynlas, ca'tref y diweddar Mr. Tom Ellis, A.S bu damwain ddifrifol gyda cherbyd-modur. Yr oedd Mr. Aneurin 0 Evans, cyf- reithivvr o Ddinbych, yn trafaelio mewn modur i arddangosfa amaethyddol y Bala, ac yn agos i Gynlas aeth y modur i wrthdarawiad a dyn ieuanc yn marchog beisicl, Edward Samuel, Bwlchgarn- eJdog, Bala, gwas ffUiD. Taflwyd Roberts o dan y cerbyd a chafodd ei anafu'n ddifrifol iawn, a ma!uriwyd ei feisicl. Rhoed y bachgen yn y modur a chludwyd ef ynddo i'r Bala, He y gweinyddwyd arno gan feddyg Can- fuwyd ei fod wedi tori trybedd ei ys- gwydd a'i traich a'i goes, ac yr oedd briwiau ar ranau eraill o'i gorff. Chwipio'r Meddyg. Dygwyd boneddiges, o'r enw Mrs. Bollinger o flaen y llys yn Willesden y dydd o'r blaen ar y cyhuddiad o fod wedi ymosod ar Dr Bridger yn ei sur- gery, gan ei guro hefo chwip. Dywed- odd Mrs. Bollinger ei bod yn euog o'r cyhuddiad, ond y gellid ei chyfiawnhau am ei hymddygiad. 'Roedd ganddi ferch, geneth brydferth ddeunaw ced, meddid yn yr amddiffyniad, ac aeth ) r I eneth i weld y meddyg oherwydd ei bod yn cwyno gan gur yn ei phen. Gw naeth y meddyg iddi ddiosg ei gwisg bob tro yr ai yno, ac unwaith ymddygodd yn anheilwng tuag ati. Pan ddywedodd yr eneth wrth ei mam am dano, ffyrnig- odd Mrs. Bollinger ac aeth yno at y meddyg a rhoes gurfa lied dda iddo hefo'r chwip. Gollyngwyd Mrs. Bollin- ger yn rhydd. Anrhydeddu Bardd. Nos Sadwrn dia-eddaf yr oedd Gwil- ym Ceiriog. Llangollen, yn derbyn y gadair a enillodd yn Eisteddfod Pitts- burg, yr Amerig, ac yr oedd yno rial- twch mawr yn y lie ar yr achlysur. Yr oedd y dref wedi i harddu A baneri, a chatiwyd y bardd ar ysgwyddau ei gyf- eiilion, y seindorf yn blaenori, i ymyl y IJvvybr serth s y'n arwain i gartref y b,irdd ar y B-rwyn, lie y ganed ef haner can' mlynedd yn ol. Yno yr oedd torf i fawr wedi ymgynull, a thraddodwyd anerchiadau barddonol a rhydd o lon- g; farchiadau iddo, ac yn eu mysg gan M:. Harvey Birch, Sais sydd yn trigo I yn Llangoilen er's lawer blwyddyn. Dyvvedai Mr. Birch ei fod yn mawrygu yr ysbryd oedd yn arwain y trigolion i gydnabod ac anrhydeddu gallu eu cyd- whidwr. Diolchodd Gwilym Ceiriog i'r oil, ac yna fFurfiwyd gorymdaith fawr i j hebrwng y bardd i 'w gartref. |

-_- - -_ -_-...;: -;:-I Am…

Cael ei Hamgylchu gan y Llanw.

jPrawf Dr. Hamilton.I

-0-Geneth yn Llosgi i Farwolaeth…

-I Cyfarfod Chwartero! Annib-|…

Mr. Hamlet Roberts a'rI Brenin.

Arddangosfa Amaethyddol I…

Advertising

Gwaredigaeth Gyffrous gyda…

ILlys Ynadol Pwllheli.