Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR. \

NODION A HANESION.

-_- - -_ -_-...;: -;:-I Am…

Cael ei Hamgylchu gan y Llanw.

jPrawf Dr. Hamilton.I

-0-Geneth yn Llosgi i Farwolaeth…

-I Cyfarfod Chwartero! Annib-|…

Mr. Hamlet Roberts a'rI Brenin.

Arddangosfa Amaethyddol I…

Advertising

Gwaredigaeth Gyffrous gyda…

ILlys Ynadol Pwllheli.

News
Cite
Share

Llys Ynadol Pwllheli. Ddydd Mercher, Medi iofed.—Ger- bron J. G. Jones, Ysw (yn y gadair) yr Henadur W. Anthony, Dr Gwenogvryn Evans, Dr S. W. Griffith, William Thomas, Ysw., a J. Hughes Parry, Ysw. Cyhuddiad o Feddivdod.—Yr oedd cyhuddiad o feddwdod yn erbyn Thomas Griffith, Ty'n y Mur, Nefyn, wedi cael ei ohirio am ddau fis er rhoi cyfle iddo droi dalen, ond dywedai yr Arolygydd Owen fod y diffynydd wedi meddwi un- waith yn y cyfamser. Gwadai y di- ffynydd ei fod yn euog; a dywedodd y cadeirydd y dymunent ymddwyn yn drugarog tuag ato a rhoi cyfle iddo geisio diwygio yn ei ffyrdd Yr oedd- ynt gan hyny'n taflu'r achos allan ar daliad y costau yn unig, gan hyderu na byddai y diffynydd yn dyfod ger eu bron eilwaith. Ar y Ffordd.—Dirwywyd William Thomas, Caergybi, am adael ei gert yn rhwystr ar y ffordd fawr ger Llanystum- dwy, i i os. gydag 8s. 6c. o gostau. Cweryla. Dyg-ai Kate Williams, Mathew Place, Pwllheli, gyhuddiad o ymosodiad yn erbyn Thomas Williams, Llawt Gors, Pwllheli. Honai yr achwynyddes i'r diffynydd ei tharo hefo'i law. Nid oedd y diffynydd yn gwadu hyny, ond dywedai mai'r achwynyddes oedd yn ymosod arno ef.- Taflwyd yr achos allan. Y Ddiod Eto.-Cyhuddwyd Thomas Roberts, Moelfra Bach, Llanaelhaiarn, o fod yn feddw ac afreolus.-Taflwyd yr achos allan ar daliad y costau. Achos o Abersoch.-Cyhuddid John Jones, trwyddedydd y Vaynol Hotel, Abersoch, gan yr Arolygydd Owen, o fod wedi meddwi yn ei dy. trwyddedig ei hun ar Awst y goain.—Tystiwyd gan yr heddwas iddo alw yn yr hotel ar y noson grybwylledig, ac iddo gan- fod y diffynydd yn feddw yn y ty, yn rhy feddw i ofalu am y Ile.-Amddiff-yn- id gan Mr J. R. Anthony, yr hwn a ddywedodd yr addefai y diffynydd ei euogrwydd. Yr oedd wedi cael gormod o ddiod y diwrnod hwnw, ac yr oedd yn ddtwg iawn ganddo oherwydd hyny. Yr oedd wedi penderfynu peidio cy- ffwrdd mewn diod feddwol byth mwy. Yr oedd yn apelio am i'r Fainc fod yn dyner tuag ato.—Pasiodd yr ynadon daflu'r achos allan, gan mai dyma'r tro cyntaf i'r diffynydd ymddangos o'u blaen, ond yr oeddynt yn ei rybuddio, os deuai o'u blaenau drachefn, y bydd- ent yn ymddwyn yn liawer mwy llym tuag ato, a byddai ei drwydded mewn perygl.