Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR. \

NODION A HANESION.

-_- - -_ -_-...;: -;:-I Am…

Cael ei Hamgylchu gan y Llanw.

jPrawf Dr. Hamilton.I

-0-Geneth yn Llosgi i Farwolaeth…

-I Cyfarfod Chwartero! Annib-|…

Mr. Hamlet Roberts a'rI Brenin.

Arddangosfa Amaethyddol I…

Advertising

Gwaredigaeth Gyffrous gyda…

News
Cite
Share

Gwaredigaeth Gyffrous gyda Bywydfad. DYN YN YMLADD AM EI FYWYD AR Y MOR. Ddydd Sul aeth bywydfad y Rhyl allan i waredu dyn o Brestatyn o'r enw W. R. Jones, yr hwn oedd wedi ei gario allan ymhell i'r mor mewn cwch bychan. Yr oedd wedi colli rhwyf, a bu am ddwy awr yn hysbyddu'r cwch hefo'i het hyd nes y collodd hi, a bu wedi hyny yn lluchio'r dwr hefo'i esgid. Suddodd y cwch ymhen wyth munud ar ol i Mr. Jones gael ei gymeryd i mewn i'r bywydfad. Yr oedd Mr. Jones yn rhwyfo yn y cwch gyda'r Ian yn agos i'r cytiau ymdrochi. Yn anffortunus collodd un o'r rhwyfau, a chariwyd y cwch allan gan y ilif a'r gwynt. Gwaeddodd am gynorthwy, ond nid oedd cwch i'w gael i fyn'd allan ato, ac yr oedd yntau wedi myn d yn rhy bell i allu nofio i'r Ian. Yr oedd tyrta wedi casglu ar y traeth, ond nis gallai'r un o honynt estyn unrhyw gymorth iddo. Anfon- wyd brysneges i'r Rhyl am i'r bywyd- fad fyn'd allan Pan roed y rhybudd yn y Rhyl am i'r bywydtad gael ei anfon allan rhuthrai y trigolion a'r ym- welwyr i'r traeth, ac aeth pawb allan o'r gwahanol addoldai. Bu y bywydfad yn mordwyo am tua dwyawr cyn y canfuwyd y eweh, ond toe gwelwyd ef fel ysmotyn bychan ar frig y tonau tua saith milltir o'r lan. Rhwyfwyd tuag ato, a chaed fod y eweh bron yn llawn o ddwr, a Mr. Jones bron wedi rhynu ynddo. Cafodd criw'r bywydfad orchwyl caled i rwyfo'n ol, gan fod y gwynt a'r Hit yn gryf iawn, a'r mor yn donog. Yr oedd traeth y Rhyl yn ddu gan bobl yn ei ddisgwyl, y rhai a roesant fonllef fawr o gymeradwyaeth pan welsent y gwar- edig yn cael ei gludo o hono i'r lan. Nid oedd Mr. Jones nemor gwaeth ar ol ei anturiaeth. Dywedai iddo oar 01 colli amser wrth ddisgwyl y eweh ddo'd ato gael ei gario allan rhy bell i geisio nofio i'r Jan, er ei fod yn nofiwr j da. Yr oedd y tonau mor uchel fel y llenwid y eweh gan ddwr yn barhaus. Bu yn hysbyddu'r dwr am ddwy awr hefo'i het. Wedi colli'r het tybijdd ei | bod ar ben arno, ond cymerodd ei esgid a Ilwyddodd i wneud hefo hono. Tua'r adeg hono gwelai un o agerlongau j Llandudno draw ar y mor, a chylymodd ei gadach poced wrth y rhwyf oedd ganddo i geisio tynu sylw, ond bu'n aflwyddianus. Yna gwelodd fywydfad Rhyl yn dynesu'n brysur ato, ac ni bu ond ychydig funudau cyn cyrhaedd ato.

ILlys Ynadol Pwllheli.