Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

Advertising

NODION A HANESION. I

News
Cite
Share

NODION A HANESION. Cyhuddo Bacbgei. o Ddynladdiad Yn Rhiwabon, y dydd o'r blaen, gwrandawyd achos bachgen o'r enw Joseph Gladstone Rogers, yr hwn a gyhuddid o achosi marwolaeth bachgen pedair ar ddeg oed o'r enw Frederick Jackson, yn Penycae, ryw bythefnos yn ol. Honia i'r cyhuddedig afael ym mhen Jackson a'i gnocio yn erbyn coed- en. Wrth glywed Jackson yn gwaeddi daeth ei fam yno a chariodd ef adref, ond bu farw'r bachgen cyn cyraedd y ty. Tystiwyd y gwehvyd y cyhuddedig yn curo'r bachgen Rogers gan y plant oedd yn cyd-chware a hwynt, a thyst- iwyd hefyd fod y trancedig yn dioddef oddiwrth glefyd y galon, ac y gallai syrthio i law r yn farw ar y cyffro lleiat Penderfynodd yr ynadon anfon y cyhuddedig i sefyll ei brawf, a chaniat- awyd meichiafon. Tro Brwnt. Pan yn cerdded ar y brif-ffordd o Lanelwy i Rhuddlan, a phiser a tar ynddo yn ei law, cafodd Edward Hum- phreys, -of, Rhuddlan, ei daro i lawr nes yr cedd yn anymwybodol gan ger- byd modur. Ni stopiodd y modur i'w ymgeleddu, er nad oedd modd na welodd y rhai oedd ynddo y ddamwain. Yn fuan daeth dyn ieuanc heibio ar ei feisicl a chanfu y truan ar lawr, ei ddillad yn ddarnau a'r tar wedi colli hyd-ddynt. Wedi mynd a'r dyn an- ffortunus i'w gartref aeth y dyn ieuanc ar ei union i Rhyl, ac yna daeth o hyd i gerbyd modur ag ol y tar arno. Dy. wedai y gyriedydd nad oedd yn gwybod dim am y ddamwain, ond aeth gyda'r dyo ieuanc i wel'd Mr Humphreys i Rhuddlan. Deon Gwledig Arfon. Mae Esgob Bangor wedi penodi'r Parch J. D. Jones, ficer Llanfair Isgaer i fod yn ddeon gwledig Arfon mewn olyniaeth i'r diweddar Barch William Edwards (ficer Bangor). Cafodd y deon newydd ei ordeinioyn 1876, abu'n ficer Llanfair Isgaer er y flwyddyn 1892. + Boddiln Ymyl ei Dy. Caed corff dyn o'r enw Wiiliam Briers, tair ar hugain oed, mewn llyn yn y cae yn agos i'w dy yn Ditton y dydd o'r blaen. Gwas fferm oedd y tran- cedig. Aeth o'r dafarn y noson cynt tua haner awr wedi deg, ac ni vvelwyd ef yn fyw ar ol hyny. « Y Cangheilor yn Llangollen. Modmiodd Mr Lloyd George a'r teulu i Langollen, y dydd o'r blaen, a bu'r Cangheilor yn dringo'r bryn i Gas- tell Dinas Bran. Wedi dod i lawr oddiyno i dref Llangollen bu'n ymgomio a Mr John Clarke, brodor o Lanystum- dwy, ag sy'n gweithio'n egniol dros .1 1 Lian &olleti. 1'r oedd Ryddfrydiaeth yn Llangollen. Yr oedd Mr Clarke yn gyd-ysgolhaig a Mr Richard Lloyd, ew) thr y Canghellor. Gwelaf ef heno," meddai'r Cangheilor wrth Mr Clarke, "dywedaf eich bod yn cofio ato." '? Geneth Anturiaethus. Y dydd o'r blaen bu Isla Tudor, merch Mr Harry Tudor, cyn-oruchwyl- iwr Mr Frank Bostock, yn ehede niex%-n aw y r l oii, mewn aivyrlong gyda Mr Harold Black- burn. Naw rrlwydd oed yw Isla Tudor ond y mae wedi bod drwy anturiaethau lawer. Cafodd ei bedyddio mewn cell yn nghanol saith ar hugain o Iewod yn Coney Island. M.»e wedi bod o am- gylch y byd ddwywaith, drwy Affrica, Awstralia, ac wedi croesi'r Werydd saith ar hugain o weithiau. Cafodd ei gwaredu unwaith o dan mawr yn Coney Island. Plismyn yn Gweisyllu Allan. Oherwydd fod y gweithwyr clai allan a' streic yn St Austell, Cornwall, y mae cant o blismyn o Morganwg wedi eu hanton yno i gadw'r heddwch. Bydd rhaid iddynt oil wersyllu allan. Y mae gan bob un ei fatres a'i blancedi gydag ef. Medd pob un o honynt hefyd darian gref i'w hamddiffyn rhag cerrig pe bae y streicwyr yn dechreu ymosod arnynt. Cario Corph ei Phlentvn yn yr Heol. Yr oedd un Thomas Doherty yn gwneud cais am gael archeb ysgariaeth oddiwrth ei wraig yn Birkenhead y dydd o'r blaen. Dywedai fod ei wraig yn meddwi beunydd. Un diwrnod cymerodd gorff marw ei baban a char- iodd ef yn ei breichiau drwy heolydd y dref. Saethu ei Hun. Saethodd dyn- tua deg a thritigain; oed ei hun yn Li.J!ow, y dydd o'r blaen. Yr oedd wedi credu fod perthynas iddi wedi gadael deng mil o bunau ar ei ol iddi yn Pittsburg. Yr oedd wedi dweyd hyny wrth laweroedd ac wedi cael benthyg llavver o arian ar yr addewid y talai log da am ei benthyg pan ddeuai i feddiant o'r eiddo. Yr oedd wedi bod gyda chyfreithwyr ond yr oedd y rhai hyny wedi dweyd wrthi nas gallent hwy wneud dim hyd nes y deuai hi a'r papuran angenrheidiol iddynt. Yr oedd wedi tretnu i fynd a'r papurau iddynt y diwrnod y saethodd ei hun. Yr oedd ei gwr yn bwyta ei frecwest ar y pryd pan y clywodd yr ergyd. Mil o Bunau i Hawker. Methiant eilwaith fu ymgais Mr G. H Ban ker i ehedeg ogylch Ynys Pry- diiin uwchben y mor. Torodd ei ehed- long ilawr yn agos i'r glaoau ger Dublin, wedi ehedeg 1,043 o filltiroedd allan o'r cwrs o 1,540 milltir. Torodd un o adenydd ei bri, iant a disgynodd i lawr i'r mor. Ni chafodd Mr Haw ker nemor ddim niued ond anafwyd ei g\d- deithiwr. Y mae Hawker i gael mil (i bunau am y medr a arddangosodd wrth ehedeg mor ragorol. Gwae'r Suffragettes. Mae rhywrai a alwant eu hunain yn 1913 Jack the Rippers" wedi cy- hoeddi rhyfel yn eibyn y suffragettes milwriaethus. Dywedant, gan nad yw cyfraith y wlad yn ddigon effeithiol i roi pen ar actau ffol a dinystriol y suff- ragettes, eu bod hwy yn mynd i gymei- yd y mater yn eu llaw eu hunain, ac yn benderfynol o roi terfyn ar eu hystran- ciau. Bydd ynber ygl bywyd, meddant hwy, i unrhyw un o'r suffragettes, neu y rhai sydd mewn cydymdeimlad a hwy, barhau yn eu cwrs o aflonyddu ar heddw h trigolion y wlad a difrodi eiddo. ■* Damwain Angeuol yn Nolgellau Cyfarfu boneddwr o Leeds, yr hwn oedd ar daith drwy Ogledd Cymru yn ei fodur gyda'i wraig a'i ddwy ferch, a damwain yn agos i Ddolgellau yr wyth- nos ddiweddaf. Wrth fynd i lawr gallt serth ffaelodd y brake a gweithio, ac yn gweled eu perygl neidiodd y ddwy eneth o'r modur, ond cafodd y fam ei thaflu i'r ffos a chafodd ei hanafu gymaint fel y bu farw bore dranoeth. Llyfrgell Cymru. Y mae llyfrgellydd Llyfrgell Gened- taethol Cymru, Aberystwyth, wedi der- byn pedwar map o faes y rhyfel yn y Crimea a gyhoeddwyd yn 1854 gyda'r Amserau," newyddiadur a olygid gan y Parch William Rees (Gwilym Hir- aethog). Ni wyddis pwy yw y rhoddwr 11- Camgymeryd y Llong. Cafodd boneddiges a thri o dramor- wyr eu gosod mewn safle atiytru-ol iawn ddydd Sadwrn drwy ganigymeryd un o'r agerlongau sy'n rhedeg o Le-pwl i Ynys Manaw an) y Mauretania Yr oeddynt wedi talu eu cludiad gyda'r llong olaf enwyd am New Yoi k, ond oherwydd fod ffwnelau y naill mor debyg i'r llall aethant i'r King^s Oroy mewn camgymeriad, ac ni welseni eu bod wedi camgymeryd nes yr oedd y llong ymhell allan vn y sianel ac ar eu J ffordd i Doug'as. Dynes yn Gorr.hfygu Tarw. Pan oedd hen wraig o'r enw Mrs Howe yn myna gyda dau o'i hwyrion drwy gae yn Ne?btiss y dydd o'r blaen ymosododd tarw .ini, a dechreuodd ei chornio yn erchyll. Clywyd hi yn lfefain gan ei merch-ynghyfraith yr hon a redodd yno ac ymosododd ar y tarw hefo'i dyrnau. Wedi tynu sylw'r tarw oddiwrth yr hen wraig gafaelodd yn ei fodrwy a daliodd ei gafael ynddi nes daeth cynorthwy ati er gwaethaf ffyrnig- rwydd y tarw wrth geisio ymryddhau. Yr o?dd yr hen wrai? ? edi cael tori ei choes, ac wedi cael r,iweidiau erai)!. yr ,i weidiau e-aill, yr choes, ac welli cael t- oedd y plant yti ddian;if Lladrata Oddiar ei Rieni Yn Rochdale y d)dd o'r blaen cy- huddid gwr priod dwy ar hugain oed, o'r enw Herbert Hardiker, o ladrata j 1 p. mewn arian a gwetth i2p. o eiddo o dy ei rieni. Aeth y rhieni ar ei gwyl- iau, meddir, a phan ddaethant yn ol cawsant fod llawer o'r nwyddau ar goll, a chawsant yno ddau bar o esgidiau oedd yn perthyn i'r carcharor nad oeddynt yno pan oedd y teulu'n cych- wyn. Anfcnwyd Hardiker i garchar am fis gyda llafur caled. Marw Cjiansoddwr Hysbys. Yr wythnos dd;weddaf, bu farw Mr iV;ichael Maybr ik, neu Stephan Adams, tel yr adnabyddid ef oreu, awdwr "The I J j c' H^'ly City, a cnaneuon hysbys eraill. CI iddv\yd ef )ii Ryde, ddydd Sadwrn. B yn taer Ryde bum gwalth. Pc.*ygl Cerb ydau M odur. Yn Coulsdon, brydnawn Sadwrn, cafodd bachgen seUhmlwydd oedd ei Iadd wrth geisio d, ingo i wagen. IJithrodd ei droeil a syrthiodd daeth cerbyd modur ar < t draws, ac aeth yr olwvnion tros ei en gan ei Iadd yn y fau. I

Llong Fawr ar Dan.

ISuffragettes yn Ymosod ar…

I Neb yn Mhwllheli.

Ymneilltuwyr Llandrindod.…

[No title]

Terfysg yn Dublin.

1 Gorlwytho Cerbydau Modur.

Bugail Dartmoor, I

SASSIWN BANGOR.\

Ras Ehedeg mewn Awyr-I long.

- -0-Ymrysonfa Own Defaid…

Eisteddfod Gwyl y Banc, Pwllheli.

Plasdy Mawr ar Dan.

Gwraig yn Gwerthu ei Mod-I-.rwy…

I Modur yn Liamu tros ( Glawdd.

Cystadleuaeth y Seindyrf yn…