Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

Advertising

NODION A HANESION. I

Llong Fawr ar Dan.

ISuffragettes yn Ymosod ar…

I Neb yn Mhwllheli.

Ymneilltuwyr Llandrindod.…

[No title]

Terfysg yn Dublin.

1 Gorlwytho Cerbydau Modur.

News
Cite
Share

Gorlwytho Cerbydau Modur. Ddydd Sadwrn bu Cyngor Gwledig Gwyrfai yn ystyried Ilythyr a dderbyn- iwyd ganddynt oddiwrth foneddwr o Manchester, a fu'n aros yn y cylch, yn galw sylvv at y modd y gorlwythid y cerbydau modur sydd yn cario teithwyr yn nosbarth y Cyngor. Dywedai y boneddwr ei fod yn trafaelio mewn modur o Gaernarfon i Lanberis un nos Sadwrn, oddeutu un-ar-ddeg o'r gloch. Yr oedd ymddygiad y rhai oedd ynddo, meddai, yn warth i wlad wareiddiedig. Yr oedd y perchenogion yn gyfrifol am gysur a diogelwch y teithwyr, ond ar y siwrnai hono nid oedd na diogelwch na chysur neb mewn ystyriaeth. Tybiai fod yn y cerbyd le cysurus i tuag ugain o deithwyr, ond ar y noson hono yr oedd tua phymtheg ar hugain yn y modur, a'r naill haner o honynt o dan ddylanwad diod. Achosent anghysur mawr i'r teithwyr eraill drwy eu bod yn feddw, ac yt oedd arnynt eisieu ymladd. Pe digwyddai damwain, a byddai yn sicr o ddigwydd yn hwyr neu hwyrach, byddai y cyfrifoldeb yn fawr ar rywrai. Gobeithiai y byddai y Prif Gwnstabl yn cymeryd sylw o'r mater. Dywedodd y Parch. T. J. Lloyd fod sefyllfa pethau fel y desgrifid yn y llythyr yn warth iddynt fel Cymry, a'i fod yn ddyledswydd ar berchenogion cerbydau n.odur i rwystro iddynt gael eu gorlwytho, er y gallai hyny olygu llai o e!w iddynt. Penderfynwyd anfon copi o'r llythyr i berchenogion modurion arbenig y cyfeirid atynt yn y llythyr. --o

Bugail Dartmoor, I

SASSIWN BANGOR.\

Ras Ehedeg mewn Awyr-I long.

- -0-Ymrysonfa Own Defaid…

Eisteddfod Gwyl y Banc, Pwllheli.

Plasdy Mawr ar Dan.

Gwraig yn Gwerthu ei Mod-I-.rwy…

I Modur yn Liamu tros ( Glawdd.

Cystadleuaeth y Seindyrf yn…