Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

Advertising

NODION A HANESION. I

Llong Fawr ar Dan.

ISuffragettes yn Ymosod ar…

I Neb yn Mhwllheli.

Ymneilltuwyr Llandrindod.…

[No title]

Terfysg yn Dublin.

News
Cite
Share

Terfysg yn Dublin. CANOEDD WEDI EU CLWYFO. I Bu helynt difrifol iawn yn Dublin nos Sadwrn a phrydnawn Sul. Bu raid i'r heddlu ymosod ar y streicwyr oedd yn terfysgu yn yr heolydd, a chafodd llawer iawn o bersonau eu niweidio, a bu un dyn farw'n yr ysbyty mewn canlyniad i niweidiau a gafodd yn yr helynt. Dechreuodd y cyffro tua saith o'r gloch nos Sadwrn a pharhodd hyd haner nos Cychwynodd y trwbl drwy i'r streicwyr ymosod ar y trams oedd yn rhedeg fel arfer mewn rhan neillduol o'r ddinas. Ymosododd yr heddgeidwaid ar y terfysgwyr, a bu yno yrnladd gwaedlyd. Vn ystod yr ymladdfa cip- iodd un o'r streicwyr gledd)f oddiar Arolygydd Heddgeidwadol, a cheisiodd ei drywanu gydag ef, ond llwyddwyd i gymeryd y dyn i'r ddalfa. Yn fuan wedi deg o'r gloch ymgasglodd tyrfa fawr yn Talbott Street, lie yr oedd I corfflu cryt o heddgeidwaid yn gwylio. Lluchiwyd cawodydd o gei-rig a photeli at yr heddgeidwaid nes y gorhnvyd iddynt gilio; ond daethant yn ol eil- waith ac ymosodasant ar y terfysgwyr gyda ffyrnigrwydd mawr, a bu yno ymladd erchyll, mewn amryw fanau, yn arbenig yn agos i Liberty Hall. Yr oedd dwsinau o bob) yn gorwedd ar ochr yr heolydd yn anymwybodol, a llifai eu gwaed hyd y palmantau. Ail ddechreuodd yr helynt drachefn brydnawn Sul, pan y cymerwyd James Larkin, ysgrifenydd cyffredinol Undeb y Gweithwyr, i'r ddalfa yn Sackville Street. Oddeutu un o'r gloch safodd Larkin ar ben balcony gwesty yn Sack- ville Street, a dechreuodd anerch y dorf fawr oedd yn yr heol odditano, ond ni chafodd ond prin ddechreu siarad nag y rhuthrodd heddgeidwaid i fyny ato, a thynwyd ef i lawr. Gwnaeth yr heddlu ruthr ar y dorf i gael yr heolydd yn glir. Ftoai y dyrfa ymhob cyfeiriad, a chafodd ugeiniau lawer o honynt eu niweidio'n ddifrifol. Bernir fod rhif y clwyfedigion oil yn agos i ddau gant a haner. Dywed gohebydd y Manchester Guardian" fod ymddygiad yr hedd- geidwaid yn anynol i'r sith f. Yr oeddynt yn ymosod ar y bob! yn yr neoyaa, medd ere, heb unrhyw achos o gwbl. Os tybient fod rhywun mewn cydymdeimlad a'r streicwyr ni ddangos- i ent unrhyw drugaredd atynt. Yr oeddynt yn ymosod ar hyd yn nod ferched a genethod ieuanc. Dywed y gohebydd fod amryw dystion a brofant for yr heddgeidwaid nos Sadwrn o dan ddylanwad d-od feddwol, ac fod amryw ohonynt yn ol pob tebyg heb sobri ddydd Sul. Yr oedd oddeutu cant o ferched ieuainc mewn adeilad perthynol i'w hundeb pan ddaeth nifer o'r heddlu yno, ac yr oedd eu hymddygiadau mor fygythiol fel y bu i'r merched anfon i'r Castell am i filwyr gael eu hanfon yno i'w noddi. Ymysg y rhai clwyfedig ar ol yr ymosodiad ar y dorf nos Sadwrn y mae llawer iawn o hen wyr a merched. Yr oedd eu gwaed yn lliwio'r heolydd.

1 Gorlwytho Cerbydau Modur.

Bugail Dartmoor, I

SASSIWN BANGOR.\

Ras Ehedeg mewn Awyr-I long.

- -0-Ymrysonfa Own Defaid…

Eisteddfod Gwyl y Banc, Pwllheli.

Plasdy Mawr ar Dan.

Gwraig yn Gwerthu ei Mod-I-.rwy…

I Modur yn Liamu tros ( Glawdd.

Cystadleuaeth y Seindyrf yn…