Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. Aufoner erbyn BOREU y fan beltaf Pob archebion a th^iia-i iw am Y r UDGOBN i'w haofon i'r OOBUCHWTLf WR, 74, Hioh Street, Pwllhali. i Pob gohebiaeth i'w cyfeirio- YB UDGORN OFFICE, PWLLHELI, Bydd yn dda gepym ddertyn gobeb- iftptbaa oddi wrth (Ihehwyr ar fatftiicu lleol o ddyddordeb cyhoeddus
NODION A HANESION. I
NODION A HANESION. Cyhuddo Bacbgei. o Ddynladdiad Yn Rhiwabon, y dydd o'r blaen, gwrandawyd achos bachgen o'r enw Joseph Gladstone Rogers, yr hwn a gyhuddid o achosi marwolaeth bachgen pedair ar ddeg oed o'r enw Frederick Jackson, yn Penycae, ryw bythefnos yn ol. Honia i'r cyhuddedig afael ym mhen Jackson a'i gnocio yn erbyn coed- en. Wrth glywed Jackson yn gwaeddi daeth ei fam yno a chariodd ef adref, ond bu farw'r bachgen cyn cyraedd y ty. Tystiwyd y gwehvyd y cyhuddedig yn curo'r bachgen Rogers gan y plant oedd yn cyd-chware a hwynt, a thyst- iwyd hefyd fod y trancedig yn dioddef oddiwrth glefyd y galon, ac y gallai syrthio i law r yn farw ar y cyffro lleiat Penderfynodd yr ynadon anfon y cyhuddedig i sefyll ei brawf, a chaniat- awyd meichiafon. Tro Brwnt. Pan yn cerdded ar y brif-ffordd o Lanelwy i Rhuddlan, a phiser a tar ynddo yn ei law, cafodd Edward Hum- phreys, -of, Rhuddlan, ei daro i lawr nes yr cedd yn anymwybodol gan ger- byd modur. Ni stopiodd y modur i'w ymgeleddu, er nad oedd modd na welodd y rhai oedd ynddo y ddamwain. Yn fuan daeth dyn ieuanc heibio ar ei feisicl a chanfu y truan ar lawr, ei ddillad yn ddarnau a'r tar wedi colli hyd-ddynt. Wedi mynd a'r dyn an- ffortunus i'w gartref aeth y dyn ieuanc ar ei union i Rhyl, ac yna daeth o hyd i gerbyd modur ag ol y tar arno. Dy. wedai y gyriedydd nad oedd yn gwybod dim am y ddamwain, ond aeth gyda'r dyo ieuanc i wel'd Mr Humphreys i Rhuddlan. Deon Gwledig Arfon. Mae Esgob Bangor wedi penodi'r Parch J. D. Jones, ficer Llanfair Isgaer i fod yn ddeon gwledig Arfon mewn olyniaeth i'r diweddar Barch William Edwards (ficer Bangor). Cafodd y deon newydd ei ordeinioyn 1876, abu'n ficer Llanfair Isgaer er y flwyddyn 1892. + Boddiln Ymyl ei Dy. Caed corff dyn o'r enw Wiiliam Briers, tair ar hugain oed, mewn llyn yn y cae yn agos i'w dy yn Ditton y dydd o'r blaen. Gwas fferm oedd y tran- cedig. Aeth o'r dafarn y noson cynt tua haner awr wedi deg, ac ni vvelwyd ef yn fyw ar ol hyny. « Y Cangheilor yn Llangollen. Modmiodd Mr Lloyd George a'r teulu i Langollen, y dydd o'r blaen, a bu'r Cangheilor yn dringo'r bryn i Gas- tell Dinas Bran. Wedi dod i lawr oddiyno i dref Llangollen bu'n ymgomio a Mr John Clarke, brodor o Lanystum- dwy, ag sy'n gweithio'n egniol dros .1 1 Lian &olleti. 1'r oedd Ryddfrydiaeth yn Llangollen. Yr oedd Mr Clarke yn gyd-ysgolhaig a Mr Richard Lloyd, ew) thr y Canghellor. Gwelaf ef heno," meddai'r Cangheilor wrth Mr Clarke, "dywedaf eich bod yn cofio ato." '? Geneth Anturiaethus. Y dydd o'r blaen bu Isla Tudor, merch Mr Harry Tudor, cyn-oruchwyl- iwr Mr Frank Bostock, yn ehede niex%-n aw y r l oii, mewn aivyrlong gyda Mr Harold Black- burn. Naw rrlwydd oed yw Isla Tudor ond y mae wedi bod drwy anturiaethau lawer. Cafodd ei bedyddio mewn cell yn nghanol saith ar hugain o Iewod yn Coney Island. M.»e wedi bod o am- gylch y byd ddwywaith, drwy Affrica, Awstralia, ac wedi croesi'r Werydd saith ar hugain o weithiau. Cafodd ei gwaredu unwaith o dan mawr yn Coney Island. Plismyn yn Gweisyllu Allan. Oherwydd fod y gweithwyr clai allan a' streic yn St Austell, Cornwall, y mae cant o blismyn o Morganwg wedi eu hanton yno i gadw'r heddwch. Bydd rhaid iddynt oil wersyllu allan. Y mae gan bob un ei fatres a'i blancedi gydag ef. Medd pob un o honynt hefyd darian gref i'w hamddiffyn rhag cerrig pe bae y streicwyr yn dechreu ymosod arnynt. Cario Corph ei Phlentvn yn yr Heol. Yr oedd un Thomas Doherty yn gwneud cais am gael archeb ysgariaeth oddiwrth ei wraig yn Birkenhead y dydd o'r blaen. Dywedai fod ei wraig yn meddwi beunydd. Un diwrnod cymerodd gorff marw ei baban a char- iodd ef yn ei breichiau drwy heolydd y dref. Saethu ei Hun. Saethodd dyn- tua deg a thritigain; oed ei hun yn Li.J!ow, y dydd o'r blaen. Yr oedd wedi credu fod perthynas iddi wedi gadael deng mil o bunau ar ei ol iddi yn Pittsburg. Yr oedd wedi dweyd hyny wrth laweroedd ac wedi cael benthyg llavver o arian ar yr addewid y talai log da am ei benthyg pan ddeuai i feddiant o'r eiddo. Yr oedd wedi bod gyda chyfreithwyr ond yr oedd y rhai hyny wedi dweyd wrthi nas gallent hwy wneud dim hyd nes y deuai hi a'r papuran angenrheidiol iddynt. Yr oedd wedi tretnu i fynd a'r papurau iddynt y diwrnod y saethodd ei hun. Yr oedd ei gwr yn bwyta ei frecwest ar y pryd pan y clywodd yr ergyd. Mil o Bunau i Hawker. Methiant eilwaith fu ymgais Mr G. H Ban ker i ehedeg ogylch Ynys Pry- diiin uwchben y mor. Torodd ei ehed- long ilawr yn agos i'r glaoau ger Dublin, wedi ehedeg 1,043 o filltiroedd allan o'r cwrs o 1,540 milltir. Torodd un o adenydd ei bri, iant a disgynodd i lawr i'r mor. Ni chafodd Mr Haw ker nemor ddim niued ond anafwyd ei g\d- deithiwr. Y mae Hawker i gael mil (i bunau am y medr a arddangosodd wrth ehedeg mor ragorol. Gwae'r Suffragettes. Mae rhywrai a alwant eu hunain yn 1913 Jack the Rippers" wedi cy- hoeddi rhyfel yn eibyn y suffragettes milwriaethus. Dywedant, gan nad yw cyfraith y wlad yn ddigon effeithiol i roi pen ar actau ffol a dinystriol y suff- ragettes, eu bod hwy yn mynd i gymei- yd y mater yn eu llaw eu hunain, ac yn benderfynol o roi terfyn ar eu hystran- ciau. Bydd ynber ygl bywyd, meddant hwy, i unrhyw un o'r suffragettes, neu y rhai sydd mewn cydymdeimlad a hwy, barhau yn eu cwrs o aflonyddu ar heddw h trigolion y wlad a difrodi eiddo. ■* Damwain Angeuol yn Nolgellau Cyfarfu boneddwr o Leeds, yr hwn oedd ar daith drwy Ogledd Cymru yn ei fodur gyda'i wraig a'i ddwy ferch, a damwain yn agos i Ddolgellau yr wyth- nos ddiweddaf. Wrth fynd i lawr gallt serth ffaelodd y brake a gweithio, ac yn gweled eu perygl neidiodd y ddwy eneth o'r modur, ond cafodd y fam ei thaflu i'r ffos a chafodd ei hanafu gymaint fel y bu farw bore dranoeth. Llyfrgell Cymru. Y mae llyfrgellydd Llyfrgell Gened- taethol Cymru, Aberystwyth, wedi der- byn pedwar map o faes y rhyfel yn y Crimea a gyhoeddwyd yn 1854 gyda'r Amserau," newyddiadur a olygid gan y Parch William Rees (Gwilym Hir- aethog). Ni wyddis pwy yw y rhoddwr 11- Camgymeryd y Llong. Cafodd boneddiges a thri o dramor- wyr eu gosod mewn safle atiytru-ol iawn ddydd Sadwrn drwy ganigymeryd un o'r agerlongau sy'n rhedeg o Le-pwl i Ynys Manaw an) y Mauretania Yr oeddynt wedi talu eu cludiad gyda'r llong olaf enwyd am New Yoi k, ond oherwydd fod ffwnelau y naill mor debyg i'r llall aethant i'r King^s Oroy mewn camgymeriad, ac ni welseni eu bod wedi camgymeryd nes yr oedd y llong ymhell allan vn y sianel ac ar eu J ffordd i Doug'as. Dynes yn Gorr.hfygu Tarw. Pan oedd hen wraig o'r enw Mrs Howe yn myna gyda dau o'i hwyrion drwy gae yn Ne?btiss y dydd o'r blaen ymosododd tarw .ini, a dechreuodd ei chornio yn erchyll. Clywyd hi yn lfefain gan ei merch-ynghyfraith yr hon a redodd yno ac ymosododd ar y tarw hefo'i dyrnau. Wedi tynu sylw'r tarw oddiwrth yr hen wraig gafaelodd yn ei fodrwy a daliodd ei gafael ynddi nes daeth cynorthwy ati er gwaethaf ffyrnig- rwydd y tarw wrth geisio ymryddhau. Yr o?dd yr hen wrai? ? edi cael tori ei choes, ac wedi cael r,iweidiau erai)!. yr ,i weidiau e-aill, yr choes, ac welli cael t- oedd y plant yti ddian;if Lladrata Oddiar ei Rieni Yn Rochdale y d)dd o'r blaen cy- huddid gwr priod dwy ar hugain oed, o'r enw Herbert Hardiker, o ladrata j 1 p. mewn arian a gwetth i2p. o eiddo o dy ei rieni. Aeth y rhieni ar ei gwyl- iau, meddir, a phan ddaethant yn ol cawsant fod llawer o'r nwyddau ar goll, a chawsant yno ddau bar o esgidiau oedd yn perthyn i'r carcharor nad oeddynt yno pan oedd y teulu'n cych- wyn. Anfcnwyd Hardiker i garchar am fis gyda llafur caled. Marw Cjiansoddwr Hysbys. Yr wythnos dd;weddaf, bu farw Mr iV;ichael Maybr ik, neu Stephan Adams, tel yr adnabyddid ef oreu, awdwr "The I J j c' H^'ly City, a cnaneuon hysbys eraill. CI iddv\yd ef )ii Ryde, ddydd Sadwrn. B yn taer Ryde bum gwalth. Pc.*ygl Cerb ydau M odur. Yn Coulsdon, brydnawn Sadwrn, cafodd bachgen seUhmlwydd oedd ei Iadd wrth geisio d, ingo i wagen. IJithrodd ei droeil a syrthiodd daeth cerbyd modur ar < t draws, ac aeth yr olwvnion tros ei en gan ei Iadd yn y fau. I
Llong Fawr ar Dan.
Llong Fawr ar Dan. Cychwynodd yr agerlong German- aidd, Imperator, yr agerlong fwyat yn y byd, fynd ar dan ym mhorthladd Hoboken, New York, yr wythnos ddi- t weddaf. Yr oedd yn dywell nos ar y pryd a phawb ynddi'n cysgu ond y rhai oedd ar wyliadwriaeth. Canfuwyd y ,tan gan forwyr oddiar y doc, a chan I un o swyddogion y Hong. Rhoed y rhybudj allan ar unwaith a rhuthrodd y criw, y thai a rifai tua mil, i'w safleoedd priodol. Cauwyd pob ystafell yn y II llestr, ond y rhai yr oedd yn rhaid cael y teithwyr i'r lan drwyddynt. Bu lhaidoedi ceisio diffodd y tan am beth amser oherwydd y cyffro a fodolai 1 vmysg y teithwyr. Yr oedd amryw o !h.iii)nt, ar ol eu galw allan rhwng CH sg ac elfr,), yn haner gwailgof. Ar ol i'r teithwyr oil gael eu glasio aeth y cri w i geisio arbed y llong a liwydd- h d. asant i ddiffodd y tan ymhen ychydig oriau. Collodd yr ail swyddog ei fywyd. \T dd I Yr oedd yn arwain parti o'r criw trwy I ganol y fflamau a'r mwg i'r ystafell lie'r oedd y tan. Ciliodd ei gyfeiilion yn ol, ond aeth ef ymlaen ei hun. Gurchfy- wyd ef gan y tan, a methai y lleill a mynd ato. Canfuwyd ef ymhen oriau yn sefyll ac yn gafael yn y drws, ac yn ymddangos fel pe yn ceisio dianc am ei j fwyd. -0--
ISuffragettes yn Ymosod ar…
I Suffragettes yn Ymosod ar y Prif Weinidog. I Yr wythnos ddiweddaf, ymosododd y suffragettes ar y Prit Weinidog pan ar ei wyliau yn Lossiemouth. Yr oedd Mr Asquith a'i ferch yn ch%vare golff gyda'u gilydd ddydd Iau, ac yn sydyn rhuthrodd dwy ddynes at y Prif Weinidog gan ei ysgytio a lluchio ei het, ond ni wnaethant unrhyw niwed pellach iddo. Daeth dau gudd-hedd- was, y ihii oeddynt yn gwylio Mr Asquith, yno ar unwaith ac aed a'r merched i'r carchar. Parodd yr am- gylchiad dipyn o gyffro ac ymgasglodd torf o bobl i'r lie yn fuan, ac yr oedd- ynt yn ddig iawn wrth y merched. Gwaeddai rhai o'r dorf am daflu'r ddwy i'r mor, ond cawsant ddianc yn ddi- anaf.
I Neb yn Mhwllheli.
I Neb yn Mhwllheli. Dyna oedd y rhwystr bob amser- neb yn Mhwllheli. Yr oedd pobl yn byw mewn lleOedd pell yn cynyg eu tystiolaeth, ond, er cystal hyny nis gallai gymeryd lie tystiolaeth leol. Ond yn awr mae hyn wedi newid, gan fod pobi wedi eu geni a'u magu yn Mhwllheli, ac wedi byw ar hyd eu hoes yn y dref-pobl ag- y mae eu gair uwch- law amheuaeth—wedi rhoi eu tystiol- aeth yn rhydd, ac y mae ymddiriedaeth Pwllheli wedi ei sefydlu yn gadarn. Dyma achos i brofi :— Dywed Mrs S. Roberts, 10, Salem Terrace, gyferbyn a chapel Salem, Pt%,Il;hell :Gailaf gymeradwyo medd- yginiaeth ragoro! at ddrwg yn y cefn. Bum yn cael ty nhrwblo ganddo yn achlysurol, ond gwnai blwch o Doan's Backache Kidney Pills fi yn iawn yn fuan. Dywedais wrth lawer o bobl am danynt." (Arwyddwyd) M r Roberts. Y mae Hawer meddyginiaeth yn es mwythau, ond y rhan fwyaf yn methu rhoi iachad parhaol. Fel y mae y corff yn arfer hefo'r dognau, rhaid cymeryd dogn mwy a mwy o hyd, nes o'r diwedd mae'r feddyginiaeth yn ffaelu. Nid felly gyda Doan's Backache Kidney Pilis. Y mae achosion wedi cael eu gwylio am flynyddoedd ar ol i'r rhvdd- had cyntaf gael ei gofnodi. Rhoes amser brawf arnynt, ac ymhob achos profodd y gwellhad yn barhaol. Pris 2s. ge. bocs, chwe' bocs am 13s. 9c.; gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn eylur am Doan's Backache Kid- neypills, yr un math ag a gafodd Mrs Roberts. --0-- I
Ymneilltuwyr Llandrindod.…
Ymneilltuwyr Llandrindod. YN ATEB YR EGLWYSWYR. Yr oedd cyfarfod wedi ei gynal yn L'andrindod, gan yr Eglwyswyr i bro- tetio yn erbyn Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys, ac mewn ffordd o atebiad i'r cyfarfod hwnw cynhaliodd yr Ymneill- tuwyr gyfarfod yno o blaid y Mesur y diwrnod wedyn. Nid oedd trenau ar- benig na thicedi rhad i'r cyfarfod hwn gan yr Ymneilltuwyr, ac ni wnaed ond dosranu ychydig hysbysleni i wneud y peth yn hysbys, ond daeth yno dros ddwy fil o bobl i'r cyfarfod. Dywedodd y Parch Eynon Davies, mai y peth atgasaf yn y cyfarfod y di- wrnod cynt oedd clywed Mr Conway Lloyd yn defrtyddio'r gair "ysbeiliad." Gofynodd Mr Davies ai nid at y gwr hwnw y cyfeiriai Mr Lloyd George fel un ag oedd am beidio cyflogi dynion os na arwyddent ddeisebau Eglwysig. Atehodd amryw mai efe oedd y dyn. Os mai efe," med "ai Mr Davies, "oedd y goreu al'' ?,iir Eglwys yn Nghymru gael i'w ij?nnddinyn, y nef waredo'r Eglwys." Ar 01 y penderfyniad o blaid y Mesur gael ei basio, caniatawyd ugain munud I otyn cwestiynau, a gofynwyd amryw, y rhai atebwyd. Wrth sylwi ar gwest- iwn y mynwentydd, dywedodd y Parch Eynon Davies mai y gwahaniaeth rhwng myowent y capel a mynwent yr Eglwys oedd, tod y cyntaf yn talu am y tir a'u harian eu hunain. -o
[No title]
Lladdwyd bachgen yn Moss Alley, I Southwark, brydnawn Sadwrn gan I todur.
Terfysg yn Dublin.
Terfysg yn Dublin. CANOEDD WEDI EU CLWYFO. I Bu helynt difrifol iawn yn Dublin nos Sadwrn a phrydnawn Sul. Bu raid i'r heddlu ymosod ar y streicwyr oedd yn terfysgu yn yr heolydd, a chafodd llawer iawn o bersonau eu niweidio, a bu un dyn farw'n yr ysbyty mewn canlyniad i niweidiau a gafodd yn yr helynt. Dechreuodd y cyffro tua saith o'r gloch nos Sadwrn a pharhodd hyd haner nos Cychwynodd y trwbl drwy i'r streicwyr ymosod ar y trams oedd yn rhedeg fel arfer mewn rhan neillduol o'r ddinas. Ymosododd yr heddgeidwaid ar y terfysgwyr, a bu yno yrnladd gwaedlyd. Vn ystod yr ymladdfa cip- iodd un o'r streicwyr gledd)f oddiar Arolygydd Heddgeidwadol, a cheisiodd ei drywanu gydag ef, ond llwyddwyd i gymeryd y dyn i'r ddalfa. Yn fuan wedi deg o'r gloch ymgasglodd tyrfa fawr yn Talbott Street, lie yr oedd I corfflu cryt o heddgeidwaid yn gwylio. Lluchiwyd cawodydd o gei-rig a photeli at yr heddgeidwaid nes y gorhnvyd iddynt gilio; ond daethant yn ol eil- waith ac ymosodasant ar y terfysgwyr gyda ffyrnigrwydd mawr, a bu yno ymladd erchyll, mewn amryw fanau, yn arbenig yn agos i Liberty Hall. Yr oedd dwsinau o bob) yn gorwedd ar ochr yr heolydd yn anymwybodol, a llifai eu gwaed hyd y palmantau. Ail ddechreuodd yr helynt drachefn brydnawn Sul, pan y cymerwyd James Larkin, ysgrifenydd cyffredinol Undeb y Gweithwyr, i'r ddalfa yn Sackville Street. Oddeutu un o'r gloch safodd Larkin ar ben balcony gwesty yn Sack- ville Street, a dechreuodd anerch y dorf fawr oedd yn yr heol odditano, ond ni chafodd ond prin ddechreu siarad nag y rhuthrodd heddgeidwaid i fyny ato, a thynwyd ef i lawr. Gwnaeth yr heddlu ruthr ar y dorf i gael yr heolydd yn glir. Ftoai y dyrfa ymhob cyfeiriad, a chafodd ugeiniau lawer o honynt eu niweidio'n ddifrifol. Bernir fod rhif y clwyfedigion oil yn agos i ddau gant a haner. Dywed gohebydd y Manchester Guardian" fod ymddygiad yr hedd- geidwaid yn anynol i'r sith f. Yr oeddynt yn ymosod ar y bob! yn yr neoyaa, medd ere, heb unrhyw achos o gwbl. Os tybient fod rhywun mewn cydymdeimlad a'r streicwyr ni ddangos- i ent unrhyw drugaredd atynt. Yr oeddynt yn ymosod ar hyd yn nod ferched a genethod ieuanc. Dywed y gohebydd fod amryw dystion a brofant for yr heddgeidwaid nos Sadwrn o dan ddylanwad d-od feddwol, ac fod amryw ohonynt yn ol pob tebyg heb sobri ddydd Sul. Yr oedd oddeutu cant o ferched ieuainc mewn adeilad perthynol i'w hundeb pan ddaeth nifer o'r heddlu yno, ac yr oedd eu hymddygiadau mor fygythiol fel y bu i'r merched anfon i'r Castell am i filwyr gael eu hanfon yno i'w noddi. Ymysg y rhai clwyfedig ar ol yr ymosodiad ar y dorf nos Sadwrn y mae llawer iawn o hen wyr a merched. Yr oedd eu gwaed yn lliwio'r heolydd.
1 Gorlwytho Cerbydau Modur.
Gorlwytho Cerbydau Modur. Ddydd Sadwrn bu Cyngor Gwledig Gwyrfai yn ystyried Ilythyr a dderbyn- iwyd ganddynt oddiwrth foneddwr o Manchester, a fu'n aros yn y cylch, yn galw sylvv at y modd y gorlwythid y cerbydau modur sydd yn cario teithwyr yn nosbarth y Cyngor. Dywedai y boneddwr ei fod yn trafaelio mewn modur o Gaernarfon i Lanberis un nos Sadwrn, oddeutu un-ar-ddeg o'r gloch. Yr oedd ymddygiad y rhai oedd ynddo, meddai, yn warth i wlad wareiddiedig. Yr oedd y perchenogion yn gyfrifol am gysur a diogelwch y teithwyr, ond ar y siwrnai hono nid oedd na diogelwch na chysur neb mewn ystyriaeth. Tybiai fod yn y cerbyd le cysurus i tuag ugain o deithwyr, ond ar y noson hono yr oedd tua phymtheg ar hugain yn y modur, a'r naill haner o honynt o dan ddylanwad diod. Achosent anghysur mawr i'r teithwyr eraill drwy eu bod yn feddw, ac yt oedd arnynt eisieu ymladd. Pe digwyddai damwain, a byddai yn sicr o ddigwydd yn hwyr neu hwyrach, byddai y cyfrifoldeb yn fawr ar rywrai. Gobeithiai y byddai y Prif Gwnstabl yn cymeryd sylw o'r mater. Dywedodd y Parch. T. J. Lloyd fod sefyllfa pethau fel y desgrifid yn y llythyr yn warth iddynt fel Cymry, a'i fod yn ddyledswydd ar berchenogion cerbydau n.odur i rwystro iddynt gael eu gorlwytho, er y gallai hyny olygu llai o e!w iddynt. Penderfynwyd anfon copi o'r llythyr i berchenogion modurion arbenig y cyfeirid atynt yn y llythyr. --o
Bugail Dartmoor, I
Bugail Dartmoor, I Yn Whitby ddydd Sadwrn cyhudd- wyd dyn a alwai ei hun yn James Harrison, o dori i mewn i Eglwys y Plwyf ac ysbeilio cynwys y blwch offrwm. Bernir mai David Davies, Bugail Dartmoor, ydyw, at yr hwn y cyfeiriai Mr Lloyd George yn ei araith yn Mile End yn 1910. Dywedai gotal- wr yr eglwys iddo wel'd y carcharor yn cymeryd yr arian o'r blwch offrwm oddeutu saith o'r gloch fore Sul. Ym- guddiodd y gofalwr, ac wedi hyny dil- ynodd y carcharor, a rhoes ef yn ngafael yr heddgeidwaid. Yn ngorsaf yr heddlu caed 30s. mewn arian a phres a thros 2op. mewn aur yn meddiant y carcharor, ac arfau at dori i mewn i adeiladau. Traddodwyd ef i sefyll ei brawf yn y frawdlys.
SASSIWN BANGOR.\
SASSIWN BANGOR. Cynhaliwyd Cymdoithasfa Chwarter- ol Methodistiéiid Gogiedd Cymru yn Mangor ddyddiau Mawrth, Mercher, a Iau diweddaf, y Parch. Elias Jones, Drefnewydd, yn llywyddu. Yn nghyfarfod cyntaf y Gymdeithasfa a gynhaliwyd yn y TabernaJ bryd- nawn Maw 1 th, hysbyswyd y derby n- iwyd gwahoddiad o Ddwyrain Meir- ionydd i'r Gymdeithasfa nesaf gael ei chynal yn Corwen. Pasiwyd derbyn y gwahoddiad, y Gymdeithasfa i'w chyn- al ar Tachwedd 4ydd, 5ed, a'r 6ed.— Caed adroddiad cyteisteddfod Athrofa'r Bala gan Mr. J R. Davies, Y. H. Pan agorwyd y Coleg yn mis Medi yr oedd yno 49 o efrydwvr, ac un-ar-ddeg yn yr Ysg-ol Ragbaratoawl. Argymhellwyd tod y Parch. D. F. Roberts, B A., B. D., Blaenau Ffestiniog, i arholi ymgeiswyr am ysgoloriaelhaumewl1 Groeg am y ddwy flyuedd nesaf. Sylwyd tod 22op. yn cael eu gwario ar vr Ysgol Rag- baratoawl, a theimlid fod y gost yn ormod ar gyfer y nifer oedd yn yr Ysgùl. Wedi trafod y mater pasiwyd parhau'r Ysgol am ddwy flynedd eto, ac fod cynllun yn cael ei ystyried yn y cyfamser ynglyn a hi. Yn y cyfasfod cvhoeddus am saith o'r gloch anerchwyd ar G),segredig- rwydd Dydd yr Arglwydd," gan y Parch. Joseph Jenkins, Blaenau Ffes- tiniog, a'r Parch. Thomas Jones, Rhostyllen. Foreu Mercher cynhaliwyd cyfarfod y pregethwyr. Mater y drafodaeth oedd "Adgyfodiad Crist," yn cael ei agor gan y Parch. Owen Ellis, Llan- uwchllyn. Y mater dan sylw yn nhrydydd cyf- at fod y Gymdeithasfa oedd Claerineb aelodau crefyddol ei achosion a'r feddyginiaeth." Y Parch. Edward Thomas, Llanrhaiadr, oedd yn agor, a siaradwyd ymhellach gan Syr J. Her- bert Roberts, A. S., a'r Parch. Joseph Jenkins. Bu trafodaeth o barthed i gwestiwn rhyddfreiniad y capeli. Yr oeddis wedi addaw ddeng mlynedd yn ol y byddai i fesur gael ei basio yn y Senedd yn fuan ynglyn a hyn. Dywedodd y Parch. Evan Jones y dylai yr aelodau Cymreig gael gwybod nad oedd Ymneilltuwyr Cymru am ganiatau chwareu hefo'r cwestiwn, ac y dylid gwneud ymchwil- iad parthed safle'r mesur. Dywedodd Syr Herbert Roberts y gwnaeth ef a'i gyd-aelodau Cymreig yr oil a allent i gael y mesur drwodd. Yr oedd amser y Ty wedi ei gymeryd i fyny yn ddi- weddar gyda chwestiynau mawt a phwysig, ond yr oedd ef yn rhoi ei air y byddai yr Ymneilltuwyr yn cael eu haddoldai yn rhydd cyn hir. Am haner awr wedi pump nos Fer- cher pregethwyd ar y maes gan y Parchn. Elias Jones, Drefnewydd, a W. Prydderch, Abertawe. Am saith o'r gloch cynhaliwyd Cyt- arfod Cenhadol yn y Tabernacl, y Parch. Elias Jones yn llywyddu. Yr un pryd cynhaliwyd cyfarfod cyffelyb yn nghapel Twrgwyn, o dan lywydd- iaeth y Parch. John Owen, Anfield. Anerchvvyd gan y Parch. Robert Jones, B. A., Silchar Dr. Fraser Miss E. Williams, Sylhet Parch. R. f. Will- iams Miss Dass, a Rala Dala, y cenhadon brodorol ac eraill. Fore Iau cynhaliwyd y Seiat Gyff- redinol yn y Tabernacl. Y mater oedd Argyhoeddiad ac Edifeirwch." A"m ddeg, dau, a haner awr wedi pump pregethwyd gan y Parchn. John Williams, Brynsiencyn W. Prydderch, Abertawe; John Hughes, M.A., Ler- pwl Joseph Jenkins, Blaenau Ffes- tiniog, a M. P. Morgan, Blaenanerch. Yn yr hwyr cynhaliwyd Cyfarfod y Bob! leuainc, dan lywyddiaeth Mr. J. R. Davies, Ceris. Caed anerchiadau gan y Parchn. Griffith Hughes, B.A Blaenau Festiniog; John Owen An- field; a J. Puleston Jones, M. A., Pwllheli.
Ras Ehedeg mewn Awyr-I long.
Ras Ehedeg mewn Awyr- long. Ddvdd Sadwrn bu Mr Gustav Hamel a Mr B. C. Bucks yn ymryson ehedeg gyda'u hawyrlongau tros gwrs o bed- war ugain milltir. Yr oeddynt yn cych- wyn o Birmingham, gan basio uwchben Redditch, Coventry, Nuneaton, Tarn- worth, Walsall, ac yn ol i Birmingham. Ymgeisio yr oeddynt am wobr gynygid gan y "Birmingham Post." Mr Gustav Hamel enillodd. Cychwynasant o Brimingham tua haner awr wedi dau, yn ngwydd tyrfa fawr o bob!. Cafodd Mr Bucks y blaen ychydig ar y dechreu, ac yr oedd yn pasio uwchben Nuneaton tua munud o flaen ei wrthymgeisydd, ond daliwyd ef gan Hamel cyn hir, ac ar dertyn y ras yr oeddynt yn gyd-wastad a'u gil- ydd. Mr Bucks ddisgyncdd gyntaf, ond nid oedd wedi croesi'r !!ine!) derfyn fel y dylai, a dyfarnwyd y wobr i Mr Gustav Hamel.
- -0-Ymrysonfa Own Defaid…
-0- Ymrysonfa Own Defaid y Rhiw. Cynhaliwyd yr ymrysonfa uchod ddydd Iau diweddaf. Caed diwrnod dymunol, a throdd allan yn liwyddiant yn mhob ystyr. Dyma fel y gwobrwy- wyd :—Dosbarth cyntaf. gwobr, cwpan arian i, "Nell," gast Mr. G. Roberts, Llwyn Bedw Uchat, Llanllyfni 2, ci Mr. Lloyd Williams, Gelli Fach, Llan- llyfni. Dosbarth yr ail: i, "Nell," Mr. G. Roberts, Llwyn Bedw Uchaf; 2, Mr. E. Morris, Beaumaris 3, Mr. H. R Hughes, Talysarn. Mri. John Pritchard, Llilhfaen W. Hughes, Nantlle a E. Roberts, Bodwrdda, oedd y beirniaid.
Eisteddfod Gwyl y Banc, Pwllheli.
Eisteddfod Gwyl y Banc, Pwllheli. BEIRNIADAETHAU. Traethawd "Tuedd Feirniadol yr Oes." Daeth tri Traethawd i'm llaw yn dwyn y flfufcienwau Critic, Bleddyn, a Carwr Rkyddid Barn. Crillic.- Traethawd byr, g.wallus ei iaith, nad yw'n cymeryd ond golwg ar- wynebol ar y pwnc. Er hyny, dengys yr ymgeisydd mewn rhai rhannau y gallai, gyda phwnc y gwyddai fwy am dano, wneud amgenach gwaith nag a wnaeth y tro hwn. IVeddyn.—Traethawd rhagorol ar lawer ystyr. Y mae'r Gymraeg yn dda, er nad yn ddifrychau, fel y gwel yr ym- geisydd oddiwrth y cywitiadau a wnaed gennym ar ei draethawd. Y mae'r ar- ddull yn gref ac yn darllen yn llyfn. Cyfynga ei hun bron yn Hwyr i'r duedd feirniadol ynghykh crefydd. Y mae'n feistr ar ei fater yn y wedd hon arnQ,, ac nid oes yr un o'i gy^■dymgeisWy^ <jf meddu cystal syniad am yr hyn sy'n mynd ymlaen ym myd Beirniadae'h Feiblaidd, nu yn meddu agos cystal barq ar yr hyn sy'n deg ac anheg yn y feirniadaeth honno a phe buasai Bleddyn wedi cymeryd golwg eangach ar ei destyn, ac wedi gallu dangos lie Beirniadaeth mewn cylchoedd ereill heblaw crefydd, buasai'r wobr yn rhwydd yn eiddo iddo. Carwr Rhyddid Bam.-Ceir gan hwn draethawd maith o 100 tudalen, ac awgryma'r ymgeisydd onibai mai punt yn unig yw'r wobr y buasai'n ysgrif- ennu'n helaethach! Y mae'r ymgeis- ydd hwn yn trafod yn helaeth duedd feirniadol yr oes mewn llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chrefydd, a gwyr yn dda am lawer o'r hyn a ysgrifenwyd gan feirniaid ar y canghenau hyn. Rhydd yn ami ystyr lawer rhy eang i'r gair beirniadaeth, a phriodola felly iddi hi fwy nag a ddylid o ddaioni cynnydd gwareiddiad. Bai mwyaf yr ymgeisydd hwn yw ei fod yn ami yn troi o't ffordd i feirniadu'n ddiarbed ei hunan bersonau a symudiadau. Y mae'r darnau hyn yn amherthynascl a'r pwnc, ac wedi eu hysgrifennu mewn iaith anghymesur ac eithafol, ac weithiau yn arddangos mwy o ragfarn nag o farn bwyllog. Ond er ysgrifennu o'r awdwr rai darnau fel hyn y buasai'n well hebddynt, dengys lawer o allu a gwybodaeth o'i bwnc, ac yn sicr, haedda'n gyfan y bunt o wobr a gynygia'r Pwyllgor. Rhodder y wobr iddo. -0 W. T. ELLIS.
Plasdy Mawr ar Dan.
Plasdy Mawr ar Dan. Ddydd Sul, cafodd Killarney House, palasdy Iarll Kenmare, ei lwyr ddin- ystrio gan dan. Cychwynodd y tan yn un o'r ystafelloedd uwchaf yn rhan dde- heuol yr adeilad. Llwyddwyd i arbed llawer o bethau gwerthfawr, megis celfweithiau, darlun- iau, llawer o ddodrefn ysgafn, llyfrau, a phethau eraill, ond cafodd y dodrefn mwyaf gwerthfawr, ynghyda'r creiriau prisfawr oedd yn y palasdy eu IIwyr ddinystrio. Adeiladwyd y palasdy tua deugain mlynedd yn ol a chostiodd dros ddau can' mil o bunau.
Gwraig yn Gwerthu ei Mod-I-.rwy…
Gwraig yn Gwerthu ei Mod- rwy Briodas. Uygwyd gwraig ieuanc ugain oed o'r enw Mary Louisa Daw, o flaen ynadon Trefaldwyn, ddydd Sadwrn, ar gyhuddiad o ladrata basgad, 4p. mewn arian, derbyneg am 25p. ac oriawr, yr oil yn eiddo i Joseph Chester, Peny- cwm. Priododd y ddiffynyddes yn Mai di- weddaf. Gatfewodd ei gwr, ac ai Awst y iaf. ar ei ffordd gartref, galw- odd yn nhy Chester, yr hwn, fel cyfaill a'i cymerodd i'r ty, arhosodd yno hyd Awst 5ed, ac ar y diwrnod hwnw cym- erodd fasged o'r ty a dywedodd ei bod yn mynd i gasglu IILIS. Cymerodd fenthyg oriawr Chester i wybod pryd i ddod yn ol, ond nis ymddangosodd. Canfu Chester yn ddiweddarach fod yr arian wedi mynd. Deuwyd o hyd i'r ddiffynyddes yn Blackpool. Gwadai iddi gymeryd yr arian, a dywedodd wrth y meddygon iddi gerdded o Church i'r Amwythig, pellder o ugain milltir. Gwerthodd ei modrwy briodas yno i dalu ei thren i Blackpool.
I Modur yn Liamu tros ( Glawdd.
Modur yn Liamu tros Glawdd. Digwyddodd damwain hynod iawn gyda modur yn Dunblane y dydd o'r blaen. Yr oedd nn o'r enw Sims a theulu gydag ef yn trafaelio mewn cerbyd modur i gyfeiriad Dudblane pan yn sydyn troes y modnr a. y '-law-dd a liamod-I trosto i gae yd gan ddisgyn ar gefn dyn oedd newydd fynd i'r cae i orffwyso. Niweidiwyd hwnw'n ddiftif- ol, a hefyd ddau o'r rhai oedd yn y modur. j)
Cystadleuaeth y Seindyrf yn…
Cystadleuaeth y Seindyrf yn Belle Vue. Cymerodd y gystadleuaeth flynyddol i seindyrf le yn Belle Vue, Manchester, ddydd Lluo, am wobr o gan' punt. Yr oedd dros ddeug mil o bobt yn gwrando arnynt. Dytarowyd seindorf Foden's Motor Works yn oreu, Shaw yn ail, Irwell Springs yn drydydd, Wingate's Temperance yn bedwerydd, Crossfield's Soap Works yn burned, a St. Hilda's Colliery yn chweched. Y beirniaid oedd Lieut. Charles Godfrey, Mr Carl Kie- iert, a Mr J. O. Shepherd.