Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
Advertising
ELEY CARTRIDGES are preferred to all others by the most experienced sportsmen all the world over, who realize how important it is to select the best. ELEY Cartridges may always be relied on. I 22 22 Short Long Rim Rifle and Rifle and Revolver l? ?,i Revolver Cartridge Cartridge "AGME." ECAR." "ELEY Ag" deep-shell E B Nitro quality SMOKELESS." Loaded with Eley Cartridge, Smokeless (42 gr.) Smokeless 9/- per 100. 8/6 per 100. 9/6 per 100. E.B. Nitro 5^ ghen f Loaded with "Eley 16 ?" deep-shell Gastight faSnmd okeless," Schultze Peam oid (Waterproof) ? and other Standard Powder. !A!r-C? \A/!< Ironmonger and are sold by es JAMES WI LLIAMS Ironrnonger and J are sold by J Builders Merchant. PWLLHELI. Wholesale by ELEY BROS., Ltd., LONDON, W.C. Attendance Notice. Bydd Mr. Ranleigh Jones, L.D.S., R.C.S. (Edi.), SURGEON DENTIST, yn ymweled a Pwllheli bob DYDD MERCHER, yn aros gyda Ir. BOWEN, Grocer, High Street, o 11 y boreu dan 4 y prydnawn.
PWLLHELI.
PWLLHELI. OYHOEDDIADAU SABBOTHOL—Awst 31. Penion (A), am 10 a 6, Parch J. Rhydderch, gwein ù..g. (Japel tteisnig (A.) Cardiff Road, am 11 a 6-30. Parch D. W. Roberts, Gweinidog. Penmount (M.C.), am 10 a 6, Parch W. E. Prydderch, Abertawe. Salcm (M.n.) atn 10 a 6, Parch J. E. Hughes, M.A., D. Ut., Caernarfon. Capel Seiaois (M. C. Ala Road am 11 a 6-30, Parch G. H. Havard, M.A. Tabernacl (U.), am 10 a 6, Parch- Seion CW.) am 10, Parch G. M. Gr ffith, Corwen am 6, Mr H. E. Roberts, Pwllheli. Hen Gapel y Bedyddwyr North dtreet, am 2, Y sgol. Vagol Genhadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi; am 2, Ysgol. Ysgol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6 Cyfarfod Gweddi; am 2, Ysgol. -outh Beach (M.C.) am 2, Parch Alun T. Jones, Chwilog. Tarsia (M.C), am 10 a 6, Parch Alun T. Jones, Chwilog. St. Pedr, 9-30 a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seisnig) Parch. J. Edwards, B. A., Ficer, a'r Parch. T. Woodings, B.A., Curad. Cenhadaeth Lydewig North Street, R.G., aiD 10-30, Offeren Sanctaidd, am 2, Vagol; am.6-30 Pregetb Gymraeg gan y Parch P. Merour,' benedicsiwn LLWYDDIANT.-Enillodd Mr Endaf Robyns Owen, Erw Wen, amryw wobrwyon yn arddangosfa Ardudwy y dyad o'r blaen hefo'i ddofednod. Y PARCH HENRY REES.—Y Sabboth nesaf terfyna'r Parch Henry Rees ei weinidogaeth ar eglwys y Tabernacl, trwy bregethu yn y boreu a'r hwyr. Y nos Lun dilynol, Medi iaf, cynhelir cytartod ymadawol yn y Tabernacl, am saith o'r gloch. CAREDIGRWYDD.-Deallwn fod Mrs Lloyd George wedi amlygu ei pharod- rwydd i roddi ciniaw i gyorychiolwyr Cymanfa Ddirwestol Goledd Cymru, a Chymdeithas Ddirwestol Merched Gog- ledd Cymru y rhai a gyfarfyddant yn Mhwllheli yn mis Hydref. Bydd tua phedwar cant o gynrychiolwyr yn bresenol. Nos Fercher, Medi 3ydd, perfformir "The Chocolate Soldier" yn y Neuadd Drefol, gan gwmni o 40 o dan arwein- iad Mr Georg Dance. Mae y comedy hon wedi bod yn llwyddianus iawn yn y Lyric Theatre, Llundain, lie y bu yn cael ei pherfformio am ddwy flynedd. Mae y plot yn rhagorol, ac y mae y gerddoriaeth wedi ei gyfansoddi gan yr enwog Oscar Strauss. Dylid prynu tocynau ar unwaith. Gellir eu pwrcasu gan D. Caradog Evans, 67', High Street. BWRDD Y GWARCHEIDWAID. Ddydd Mercher, Awst 2ofed—Mr J. T. Jones yn y gadair, a Mr R. Jones yn yr is-gadair. Canu'n lach.-Sylwodd y ca'deirydd fod y Parch Henry Rees yn ymdael i Ddolgellau, a thalodd warogaeth uchel i waith Mr Rees fel aelod o'r Bwrdd, a chynygiodd benderfyniad yn cydnabod ei wasanaeth ac yn dymuno ei Iwydd rhagllaw. Eiliwyd y cynygiad gan Mr R. Jones, yr hwn hefyd ar ran Pwyllgor v Byrddio Allan, a gyflwynodd i Mr Rees ddarlun o aelodau'r pwyllgor, ar yr hwn yr oedd Mr Rees yn gadeirydd Sylwodd Mr Jones hefyd nlai Mr Rees oedd cychwynydd mudiad y byrddio allan, a'i fod drwy hyny wedi cario allan yn ymarferol egwyddor yr etengyl a bregethai. Gobeithiai y cai ei arbed am flynyddau eto i wasanaethu'r cyhoedd Pasiwyd y penderfyniad yn unfrydol, ac wrth gydnabod dywedodd Mr Rees ei fod yn teimlo'n ddwys wrth ymwahanu. Nid oedd wedi cael ond caredigrwydd ar eu llaw bob amser. Yr oedd yn llawen ganddo iddo fod a rhan yn y symudiad i fyrddio plant allan o'r tloty. Y peth mawr oedd meithrin hunan-barch a hunan-hyder yn y plant, a gallai gweithredoedd da a geiriau caredig gael dylanwad ac argraff aniflan ar yrfa'r plant. Dylent fel Gwarcheid- waid wneud a allont tuag at feithrin dynoliaeth but. Diolchai yn gynes iawn iddynt am eu teimladau da tuag ato. Y Llytkyr 0 Canada. -Derbvniwyd llythyr maith o eglurhad oddiwrth Mr S. Pugh, Mynwy, cynrychiolydd Llyw- odraeth Canada yn y wlad hon ynglyn ag ymfudiaeth, o barthed i lythyr William Davies, 0 Edmonton, Canada, yn yr hwn y cwynai Davies iddo gael ei gamarwain ynglyn a gwaith. Anfoa- wyd y llythyi gan Davies at ei wraig yn Mhwllheli, yr hon oedd yn erfyn am elusen at gynal ei hun a'i phlant. Dywedai Mr Pugh yn ei lythyr nad oedd y cynrychiolwyr yn argymell i neb ymfudo ond y rhai oeddynt yn bwriadu ffarmio yn Canada, gwneid hyny yn eglur yn eu pamphledau. Yr oeddis wedi gwneud ymholiadau ynghylch Davies, a chaed ar ddeall y cafodd waith mewn glofa, ond yr aeth oddiyno heb roi unryw reswm dros ym- adael. Buasai yn cael gwaith cyson yn" pe dewisai. Nid oedd ond dau gynrychiolydd ar ran Llywodraeth Canada yn Nghymru, ac nid oedd yr un o hooynt wedi bod yn ymohebu gyda Davies. Yr oedd cynrychiolydd y llongau, yr hwn oedd wedi trefnu taith Davies, yn dweyd fod Davies wedi dat- gan ei barodrwydd i weithio ar fferm. Pe wedi apelto am waith felly, buasai wedi ei gael ar unwaith. Yr oedd llythyr Davies hefyd, meddai Mr Pugh yn gamarweiniol gyda golwg ar yr hyn dalai am ei lety. Yr oedd bwyd a llety cysurus i'w gael yn Edmonton am tua 1 p. yr wythnos. Sylwodd Mr J. G., Jones fod dwy ochr i bob stori, a dy- wedodd y cadeirydd ef bod yn ym- ddangos fod y dyn wedi ymddiogi ar ol mynd i Canada, ac fod ei wraig a'i blant yn gorfod ceisio elusen o'i her- wydd. Os oedd Davisfegi arwyddo i fod yn barod i weithi^ar|j^tir, yr oedd yn ymddwyn yn ,dwyllodrus Sylwyd hefyd gan Mr J»/ H. Parry, iddo glywed fod digon o.waitb a chyflog da i'w gael yn Canada. Cynygiodd y Parch Henry Rees fofKeglurhad Mr Pugh yn cael ei dderbyA. Eiliwyd ef gan Mr M. N. Jones, a phasiwyd yn unfrydol.
o ABERSOCH._
o ABERSOCH. LYNGERDD. — Cynhaliwyd cyngerdd nodedig o lwyddianus yma nos Fawrth yr Igeg cyfisol. P. Machin, Ysw., oedd yn y gadair, a chymerwyd rhan gan y rhai a ganlyn :-Miss Nellie Jones, Miss May Williams, Miss Joan Euery, Miss Morrice, Miss Weedon, Miss E. M. Jones, Mrs Knox, Mri W. J. Hughes, J. Hughes, H. P. Williams, Parch J. Knox. YMRYSONFA CYCHOD.—Dydd Iau di- weddaf, cynhaliwyd yr arddangjsfa gychod flynyddol, yr hon fel arfer, a drodd yn llwyddiant. Wele yn canlyn y buddugwyr :-Dosbarth iaf Black- bird, Pwllheli 2, Kittiwake, Porth- madog 3, Iva, Abersoch 4, Redwing, Abersoch 5, Schoolgirl, Abersoch 6, Rockgirl, Abersoch. Dos. 2 Nance, Llanbedrog; 2, Rita, Abersoch 3, Mine, Abersoch. Dobarth 3 Oueen, j Abersoch 2, Saphire, Abersoch 3, Dolhain, Llanbedrog Dosbarth 4 Lily, Llanbedrog 3, Kent, Aberdaron; 3, Menai, Ahersoch. Cafwyd chwar- euon doniol ar y diwedd. Enilhvyd ar y saethu gan Mr R. Walter Roberts, Pwllheli a Mr Dean, Abersoch, yn gydradd.
CHWILOG.
CHWILOG. Cofiwch am fynu gweled yr ardd- angosfa fawr o pianos ac organau gyn- helir yn Bristol House, Criccieth, o ddydd Gwener, y 2gain cyfisol, hyd ddydd Mercher, Med' 3ydd. Cynygir bargeinion rhyfeddol.
LLANNOR
LLANNOR Cynhaliwyd basar led lwyddianus yn yr ysgoldy ddydiau Iau a Gwener di- ueddaf. Deallwn y caed elw da oddi- wrthi, yr hyn a ddefnyddir tuag at wneud gwelliantau ynglyn a'r eglwys a'r ficerdy.
-0- - Ras Gychod Llanbedrog.
-0- Ras Gychod Llanbedrog. Cynhaliwyd ras cychod flynyddol Llanbedrog ddydd Sadwrn diweddat, a chaed tywydd ffafriol iawn. Yr oedd nifer fawr o edrychwyr yn bresenol. Wele ganlyniad yr ymrysonfeydd :— Dosbarth iaf.-j, Kittiwake, Porth- madog (Capt Owen Morris) 2, Black- bird, Pwllheli (J. Richard. Tamworth) 3, Eva, Abersoch (H. Winterbotham); 4, Redwing, Abersoch (J. Dsan) 5, Rocklight, Abersoch (Capt Jones). Dosbarth 2.-1, Nance (H. Russell, Llanbedrog); 2, Mink (F. Minoprio. Abersoch) 3, Rita (Capt Roberts, Abersoch); 4, Black Prince (Capt Jones, Llanbedrog). Dosbarth 3.— x, Sapphire (J. Simcox, Aosrsoch) 2, Queen (G. Moorhouse, Abersoch ).
-o - Arddangosfa Pianos.
-o Arddangosfa Pianos. Profodd yr arddangosfa pianos gyn- haliwyd yn Mhwllheli gan Mr Bolloten, yr wythnos ddiweddaf, yn fwy llwydd- ianus nag hyd yn nod y rhai gynhaliwyd y blynyddau cynt, ac y mae hyny yn siarad yn uchel am onestrwydd a dilys- rwydd y ffyrm yn ei dull o fasnachu, yr hon sy'n gwella ei safle yn y gymydog- aeth o flwyddyn i flwyddyn, yn ogystal ag yn awr ymhob rhan o Loegr a Chymru. Gall y rhai na chawsant gyfle i ymweled a'r arddangosfa pan yn Mhwllheli gyfleustra i wneud hyny eto gan j cynhelir arddangosfa gyffelyb yn Bristol House, Criccieth, Am bum di- wrnod, yn dechreu ddydd Gwener nesaf, Awst 2gain, hyd ddydd Mercher, Medi 3ydd,Igyda stoc newydd hollol o offeryn- au yn syth 0 Lundain a'r Cytandir. A chan fod hon yr arddangosta 1 laf y flwyddyn hon yn y cylchoedd hyn, dylai y rhai hvriadant brynu ofalu am beidio colli y cyfle rhagorol hwn.
-o - Bygwth Llosgi Capel Penmount.
-o Bygwth Llosgi Capel Pen- mount. Y mae'r Parch. J. Puleston Jones, M.A gweinidog eglwys Penmount, Pwllheli, wedi derbyn llythyr yn bygwth dinystrio'r capel os na ddiarddelir o'r eglwys un o'r aeloelau sy'n ohebydd i'r "Herald Cymraeg," a'r hwn sydd wedi bod yn ysgrifenu nifer o erthyglau i'r newyddiadur hwnw o barthed i gyflwr yr Eglwys Sefydledig yn Ngogledd Cymru. Mae'r llythyr, ar ol dweyd fod yr ysgrifenydd yn synu fod y gweinidog yn caniatau i un o'r aelodau dori v Sabboth a dirmygu Eglwysydd ar hyd a lied y wlad, yn terfynu fel y canlyn: Os na ddiarddelwch y dyn cyn y 31ain o'r mis hwn byddaf yn sicr o ddinystrio eich capel, fel yr haedda, a rhaid ichwi gyhoeddi'r ffaith i'ch cyn- ulleidfa, fel y gall y cyhoedd wybod eich bod chwi wedi gwneud eich dyled- swydd ac arbed eich capel. Mae'r ffrwydr-belen yn barod, ar lw. Bu swyddogion yr egl wys yn ystyried y llythyr, a daethant i'r penderfyniad i beidio gwneud sylw o hono oddigerth ei roi yn nwvlaw'r heddgeidwaid.
-0-Llwyddiant un o Hogia Lleyn.
-0- Llwyddiant un o Hogia Lleyn. Deallwn fod y Parch. Ellis Davies, M.A., Rheithor Llanddoget (gynt o Nanhoron Isaf, ger Pwllheli), wedi ei ddyrchafu i fywoliaeth Whitford, ger Mostyn. Deallwn hefyd mai iddo ef y dytarnwyd y wobr o ddeg punt yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf am y Llawlyfr goreu yn desgrifio y gwedd- illion Prydeinig a Rhufeinig mewn unrhyw Sir yn Nghymru.
- v - Priodas Tywysoges Indiaidd…
v Priodas Tywysoges Indiaidd yn Llundain. Ddoe, ddydd Llun, priodwyd y Dywysoges Indira, merch y Gaekwai o Buroda, a Maharajah Kumar Jaten- dra Narayan o Cooch Behar. Aed drwy y seiemoniau crefyddol yn y Buckingham Palace Hotel, lie yr oedd y Dywysoges yn aros. Ar ol mynd drwy'r seremoni arferol ynglyn a phriodasau Indiaidd aeth y par ieuanc i swyddfa gofrestru yn Paddington, lie y priodwyd hwy. Wedi hyny aed i'r gwesty drachefn i'r wledd briodasol, ac yn ddiweddarach aethant mewn modur i Maidenhead i dreulio ei mis mel.
ICyfarfod Ysgolion M.C. Dosbarth…
I Cyfarfod Ysgolion M.C. Dos- barth Pwllheli. Cynhaliwyd yr uchod yn Capel Isaf Abererch y Sabboth diweddaf, o can lywyddiaeth Mr. T. J. Griffith, Plas Du (y llywydd). Yn nghyfarfod y boreu holwyd y plant yn Hanes Abraham gan y Parch. D. E. Davies, a'r dosbarth canol yn y prydnawn eddiar Actau v. Yn nghyfarfod y cynrychiolwyr cadarn- hawyd cofnodion y cyfartod blaenorol. Gofynodd Mr. R. Barker Jones beth oedd yn dyfod o donau buddugol y Gymanta-a oeddynt yn c-.el eu cadw gan rhywun fel eiddo y Cyfarfod Ysgol. Hysbysodd Ysgrifenydd y Gymanfa eu bod yn cael g-ofalu am danynt, ond nid yn cael eu cadw gan neb neillduol. Dywedodd Mr. G. C. Roberts y dylid pwrcasu rhywbeth ddigon diogel i'w cadw, a hwnw i fod mewn man canolog o'r dusbarth. Qynygiwyd gwelliant gan Mr. Thomas Griffith, yn cael ei eilio gan Mr. Robert Roberts, Pentreuchaf, eu bod yn cael eu cadw yn safe y Cyfun- deb. Yn y diwedd pasiwyd i swyddog- ion y Cyfarfod Ysgol ynghyd a chyn- rychiolydd Sand Street i edrych i mewn i'r mater. Pasiwyd fud cynhadledd ar gerddoriaeth i fod yn y boreu ynglyn a'r Gymanfa Unedig. Cafwyd sylw pellach ar gyfrifc n yr Ysgol Sabbothol yn y Dosbarth. Sylwodd y Parch. D. E. Davies nad oedd ystadegau rhai o'r ysgolion yn cael eu cadw'n gywir. Gofynodd y llywydd ai nid oedd yr archwilwyr yn edrych i mewn i lyfrau yr ysgolion. Credai Mr. Henry Hughes, Gosen, mai y ffordd oreu fyddai i bob ysgol edrych i mewn i'w chyfrifon ei hun yn lie cynal cynhadledd ar y mater. Rhoddwyd y mater i bleidlais, a phas- iwyd fod Cynhadledd i fod yn Four- crosses nos Fawrth o flaen y Cyfarfod Ysgol nesaf, i ediych i mewn i'r cyfryw. Penodwyd y Mri. G. C. Roberts a W. W. Owen, Pwllheli, ar Bwyllgor yr Ysgol Sabbothol. Hysbyswyd na chaf. wyd cyfleustra i gyfarfod y Parch. Alun T. Jones, Chwilog, gyda'r materion ynglyn a'r Arholiad Sirol. Derbyniwyd llythyr oddiwrtho yn gwrthod ymgym- eryd a rhoddi anerchiad agoriadol ar v Maes i'r Dosbarth Canol. Dewiswyd y Parch. Thomas Williams, Pwllheli, yn ei le. Cafwyd anogaeth ar fod i'r chwiorydd gael mwy o le ynglyn a'r Ysgol Sabbothol, ac awgrymwyd fod i'r cynrychiolwyr gario y genadwri gar- tref ar i'r ysgolion roddi mwy o le i'r chwiorydd yn athrawesau ar y dos- harthiadau ieuengaf. Daeth Mr. R. Parry, Pencaenewydd, a chynllun ger- bron, sef y dylid mabwysiadu is-lywydd i'r Cyfarfod Y sgol. Pasiwyd i gael: ystyriaeth pellach ar y mater yn y Cyf- arfod Ysgol nesaf. Sylwodd Ysgrif- enydd y Gymanfa fod yn ddrwg ganddo ei fod heb gael Taflen y Gymanfa o law yr argraffydd erbyn y Cyfarfod Ysgol. Daeth dymuniad o Ysgol Gosen ar fod i arweinydd y Gymanfa roddi anerchiad yn y Cymanfa. Pasiwyd i gymeryd sylw o'r cais. Rhoddwyd adroddiad o'r tafleni chwech-wythnosol gan Mr. R. W. Jones, Tarsis, yn dangos lleihad o 35 yn nghyfartaledd presenoldeb, a lleihad o 791 yn yr adnodau. Rhodd- wyd hanes yr ysgol yn y lie gan yr aroly^vvr, yn dwyn tystiolaeth nad oedd ef yn cael dim anhawsder i gael athraw ar ddosbarth, fel y mae mewn rhai ysgolion; pawb, meddai, yn gwneud ei oreu, ond fod ychydig o leihad yno, fel yn mhob ysgol arall ar hyn o bryd. Diweddwyd trwy weddi gan Mr. John Jones, Brynbachau. W. W.O., Ysg. -o
Suffragettes yn Mhwllheli.…
Suffragettes yn Mhwllheli. Nos badwrn diweddat, bu dwy suffragette yn anerch tyrta o bobl ar y Maes, Pwllheli. Cawsant lonydd am tua haner awr, ond yr oedd y dorf yn g wasgu arnynt yn raddol, ac o'r diwedd ysgubwyd hwy oddiar eu llwyfan, a chymerodd yr heddgeidwaid ofal o honynt a hebryngwyd hwy ganddynt i'r o saf, yn cael eu dilyn gan rai canoedd o bobl.
Blino ar ei Fywyd.
Blino ar ei Fywyd. Cyhuddwyd hen wr o'r enw John Jones, yn Nghaergybi, ddydd Llun, o geisio gwneud diwedd ar ei einioes. Dywedai Margaret Jones, Bryngwran gyda'r hon yr oedd yn byw, iddo ddod yn ol i'r ty nos Sadwrn, wedi bod allan, er ei bod hi wedi dweyd wrtho am beidio dod yn ol. Ar ol hyny dywed- odd wrthi ei fod wedi cymeryd rhyw- beth mewn potel. Byddaf gartref yn fuan," meddai, "mae arnaf eisieu marw." Gofynodd iddi am rasel, ond gwrthododd roi un iddo. Wedi hyny ceisiodd agor e? fraich gyda hen rasel rydlyd. Dywedodd yr hen wr nas gwyddai beth a wnaeth iddo geisio. gwneyd ter- fyn ar ei fywyd. Deuai rhywbeth trosto weithiau, meddai, ac yr oedd wedi blino ar fywyd. Gollyngwyd ef yn rhydd.
u IGwenwyno Ei vHun yn Llandudno.
u Gwenwyno Ei v Hun yn Llan- dudno. Brydnawn ddydd LIun aeth Jane Evans, priod Mr E O. Evans, cigydd, Craigydon, Llandudno, allan o'r ty am ychydig funudau. Pan ddaeth yn ol aeth i gefn y ty, ac ymhen ychydig funudau cafwyq hi yno gan y forwyu yn wael iawn. Yn tuan wedi hyny daeth ei gwr i'r ty i nol ei ginio a chanfu gwpan a gwenwyn ynddi, ac o'r hon y dywedai ei wraig y bu'n yfed. Galwyd meddyg ati, ond bu tarw'n fuan wedi hyny.
[No title]
Catwyd corff hen wr yn y mor yn Nhreffyoon ddydd Llun.
Damwain Ger Bwlch Aberglaslyn.
Damwain Ger Bwlch Aber- glaslyn. Dydd Mawrth, bu damwain lied ddifrifol ar y Gymwynas, neu Riw Bwlch Aberglaslyn. Yr oedd boneddwr o arianydd o Lundain yn dod i lawr y rhiw o gyfeiriad Beddgelert gyda beisicl motor a'i wraig yn y fasged. Yn y tro yn ngwaelod y Rhiw daeth car motor ar wib i'w cyfartod, a hyny yn yr ochr chwithig, meddir. Er mwyn osgoi mynd i wrthdarawiad a'r car motor, trodd y boneddwr ei beiriant yn sydyn i ochr y ffordd, a chan rym y rhuthr sydyn, dymchweloJd y peiciant, gan daflu y boneddwr a'i wraig ar y ffordd. Yr oedd y boneddwr wedi ei anatu'n fawr, a gorweddai yn anymwybodol ar y ffordd. Daeth y foneddiges allan yn well na'r ofnau, er ei bod wedi ei syfrdanu. Er cywilydd i'r rlvii ceJJ yn y cat motor a ddeuai i'w z) lai i-oJ, rhuthrasant N-niiiien ar eu -an adael y boneddwr a'i wraig druan Tel yr oeddynt yn y lie. Ymhen deng munyd daeth car motor i lawr o gyfeir- iad Beddgelert, a chodasant y bontdd- wr gan ei gludo i dy yn Afcerglasgiyn
Sanatorium 0Metrionydd. I
Sanatorium 0 Metrionydd. Y mae pwyllgor Gweithiol y Gcteb Genedlaethol Gynireig 'r Brenin Edward VII. wedi pwrcasu tir yn agos i'r Bermo i adeiladu Sanatorium yno ar gyter sir Feirionydd. Bydd ynddi le ar y dechreu i gynwys pump ar hugain o gleifiou. Bwriedir dechreu ar y gwaith rhagblaen, gan fod amryw gleifion yn disgwyl am le.
-0- 1, Manion. I I
-0- Manion. Bu farw Mrs Ann Evans, Reading, y dydd o'r blaen, a hi o fewn ychydig ddyddiau i fod yn gant a phedair mlwydd oed. Yr oedd yn forwyn yn Nghastell Windsor pan dderbyniodd y Frenhines Victoria y newydd o'i hes- gyniad i'r orsedd. Tybiodd trigolion Lody, Russia, niai meddwdod tafarnwr o'r lie oedd yr achos o'r g-wlaw parheus yno, a chan nad oedd yn addaw diwygio crogasant ef. Bu farw Mr James (lago Leiaf) yn sydyn iawn yn Ngwrecsam nos Sui. Cymerwyd ef yn wael pan y cerddai ar hyd yr heol, a bu farw ymhcij ychydig funudau.
isarbdoniacti).j
isarbdoniacti). i ANERCHIAD. I fardd cadeiriol Eisteddfod Y.M.A., Pwllheli, Awst 4ydd Tre' a gwlad a ront wir glodydd-i hwn Hynoda'r Canolddydd Wele y pen bardd ysblenydd Cutodd y deg-car:odd y dydd. Holloway. "GORONWY \V\ N."
Advertising
TOWN HALL, PWLLHELI. Wednesday, Sept 3rd. FOR ONE NIGHT ONLY. Mr George Dance's CO. IN THE- CHOCOLATE SOLDIER The Marvellous Musical Comedy Success from the Lyric; Theatrc (m-liel-e it i-aii for nearly two years). Brilliant Company. Full Powerful Company. Superb Production Full Operatic Chorus. All records broken by this Company. Book your seats early at Mr. 1). Caradog Evans, 67, High Street. L Numbered and Reserved 3/ Unreserved 2/ Admission I-. 3 and "2 admit early doors. THE GREAT NIGHT OF THE SEASON Borough of Pwllheli. REGISTRATION. NOTICE is hereby given that Alex- ander Mere Latham, Esquire, or some other Barrister-at-Law, duly appointed to revise the List of Voters in the election of a member to sit in Parliament for the Borough of Carnar- von and the several Boroughs of Pwll- heli, Conway, Nevin, Bangor and Cric- cieth, sharing with the Borough ùÍ i Carnarvon, will hold a court for such I evision for the Borough of Pwllheli on Friday, the 19th day of September, 1913, at the Town Hall, in the said Borough, at 4 o 'clock in the afternoon. And the said Alexander Mere Latham or other Barrister will, in pursuance of the Act of Parliament in that case made and provided, hold a court for the revision of the Burges List of the Municipal Borough of Pwllheli on Friday, the 19th 11 day of September, 1913, aforesaid, at 4 o'clock in the afternoon. And all Overseers, Relieving Officers, and the persons having to produce their Rate Books, Relief Books, Lists and other documents, are hereby required to attend. I Dated this 18th day of August, 1913. EVAN R. DAVIES, I Town Hall, Town Clerk, Pwllheli. Ifílir DVMUNIR HYSBYSU FOD YN l?rE N OWJSK'S GARAGE, Station Square, Pwllheli, LE EANG A CHYrLECS I GADW BIOYOLES. Hefyd gwertbir pob math o accessories am brisiau rhesymol. To be Let. VjADRYN HOUSE, South Beach, .J.. '1 Pwllheli. Favourable terms. Immediate possession. Apply to MR. LEWIS JONES, Prcsuylfa, Ala Road, Pwllheli. Yn Eisieu. G\VAS Fferm yn Canada, gyda lhulu Cymreig o gymydogaeth Pw!!he!i. Cai tref cysurus i un yn hyddysg yn ngwaith fferm. Cvflog ^4 y mis am flwyddyn. Am lanylion pell- ach ymofyner a—"D," UDGORN OFFICE Pwllheli. Wanted. WANTED immediately, u ell-educa- ted youth as Chemist's Appren- tice. Apply with fuli yarticulars to W. E. Roberts, Chemist, Penlan street, Pwllheli. TENANT to share house with Mr. King, Lleyn Street Apply, Craig- mor. A N experienced housemaid waitress early in September. Apply to- Mrs Edridge, Tynlon, Abererch, Pwll- heli. TEN Majors and Stone Dressers at Trevor.—Apply to J. H. Roberts, Contractor, Pwllheli. £ 1 Reward. L C) T an Old-fashioned Square Brooch, Amethyst surrounded by Small Brilliants set in Gold. Above reward will be paid to anyone return- ing same to Miss March, New lands, Morta Nevin. Lleyit tfc Eijionydd A yricultural Society. THE FIFTY-FIRST ANNUAL SHOW will be held at PWLLHELI, Friday, Sept. 5th. President: ARTHEN O. OWEN, ESQ.. PLAS HEULOG Vice-Presidents J. HYWEL ROBERTS, ESQ., GWNHINGAR. D. MORRIS PARRY, ESQ., GWYNFRYN. Over 2200 Prizes offered for Horses, Cattle, Sheep, Pigs, &c. Also, Horticultural. Trotting Competitions & Pony Races. Several Open Classes. Entrips close August 27th. Schedule of Classes and Prizes may be had on application to the Secretary, -D. H, PARRY, Vronallt, Pwllheli. Office: i, Salem Terrace, Pwllheli. CORRECTION. VEGETABLES. Class 12.— Onions—Spring sown — 6. Class 12a- Onions-Autumn sown- 6. Class 27-For the best collection of. Vegetables—6 varieties. EXTRA PRIZES. Special Prize given by Mr Evan Williams, Plasgwyn. Class 2a.— For the best Foal by Treban King" 1 0 0 Entrance fee, is. Special Prize given by Messrs J. Bibby & Son and Mr J. E. Hughes, their district agent. Class 6oa.-For the best Beast in the Cattle Section fed on either of Bibby's Cakes or Meal I 10 Cattle fed on Cakes or Meals of other manufacture not eligible to compete. Entrance fee, is. Speciai Prize given by Messrs. Osmond & Sons, Ltd., Standard Chemical Works, Spalding. Class bob.—For the best Beast fed or conditioned on Os- mond's Cod Liver Oil Condi- ment or Meals. Medicine Chest value I 1 0 Entrance, is. D. H. PARRY, Vronallt, Secretary. Pwllheli.