Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR.

NODION A HANESION. !

News
Cite
Share

NODION A HANESION. Ei Ladd wrth Focsio. 1 Nos Iau diweddat cafoud Harry Price, o Dde Affrig, ei ladd gan Basham o Gasnewydd, mewn ymrysonta focsio yn Lerpwl. Tarawyd P. ice i lawr nes yr oedd yn anymwybodol, a bu raid ei gludo i'r ysbyty, lie y bu farw. Damwain Angeuol ar y Ffordd. Cafodd dau ddyn ieuanc eu lladd mewn damwain hefo modur-feisicl y dydd o'r blaen wrth yru ar y ffordd i Bowness. Rhai o Lancaster oedd y ddau. Aeth y beisicl a ytid ganddynt [ yn erbyn modur, a thaflwyd y ddau o dano. Lladdwyd un yn y fan, a bu y Hall tarw ymhen ychydig ddyddiau. Syrthio o'r Tren. Cafodd geneth fach bum mlwydd oed ei lladd drwy syrthio o'r tren ar reilffordd y Great Western y dydd o'r blaen yn agos i Essex. Yr oedd yn trafaelio gyda'i thad" £ *i mam i Yarmouth, a phan yn. chware yn corridor y cerbyd agorodd y drws a syrthiodd allan nes torodd ei gwddf. Tt Damwain i Feddyg. Cyfarfu Dr Lloyd, Dinbych, a dam- wain ddifrifol y noswaith o'r blaen. Yr oedd yn gyru mewn cerbyd i weled un claf oedd dan ei ofal, a rhywtodd rhus- iodd y ceftyl ac aeth yn aflywodraethus Taflwyd Dr Lloyd a'r gyriedydd o'r cerbyd i lawr ar y ffordd. Ni chafodd y gyriedydd ddim niwed, ond anafwyd y meddyg yn ei vvyneb a'i fynwes a'i goes. 4- Cwympo Deugain Llalh. Pan oedd steeplejack yn gvveithio ar simneu uchel yn Huddersfield y dydd o'r blaen catodd ergyd o'r parlys a disgynodd i lawr yn farw o ben y sim- neu yr hon oedd yn gant ac ugain o droedfeddi o uchder. Dywedai ei gyd- weithiwr yn y trengholiad i Garwin, y trancedig, gynted a'u bod wedi dechreu gweithio fynd yn welw ei wedd a phoer yn llifo o'i enau. Gwelai efyn cychwyn disgyn a cheisiodd gael gafael ynddo ond nis gallodd ond cyffwrdd yn ei traich a disgynodd Garwin i lawr. < Ar Dir Peryglus. Ddydd Mcrcher diweddaf, yr oedd Mr Mainwaring, arwerthwr o Warring- ton, yn gwerthu y coed oedd yn aros yn y cae ar ol yr Arddangosfa Genedl- aethol Gymreig yn Mhorthmadog. Gwnaeth Mr Mainwaring, yr hwn oedd yr h"-n oedd yn sefyll ar wagen, syhvadiu am Mr Lloyd George nad oedd y cynhulliad yn cyd-tyned a hwy, a dywedodd Mi Richard Newell, Porthmadog, wrtho am fynd ymlaen gyd t'i fusnes neu y cai ei hun oddiar y wagen mewn byr amser. Cymerodd yr arwvrthwr yr avvgrjm. Modurwr yn canfod Corph ar y Brif-fTordd Pan oedd modurwr yn gyru yn ei fodur yn hwyr y nos o Hurst Green, bu agos iddo a rhedeg i ferlyn a borai ar fin y ffordd. Aeth allan o'r modur a chanfu fod darn o lorp yn rhwym wrth y ilierl)-n. 1' ,? h yci i y merlyn. Ychydig ymhe lach oddi- wrtho g weLi gerbyd wedi ei falurio, ac ychydig latheni ymhellach wedi hyny daeth ar draws corff dyn. Gwelcdd mai Mr Thomas Rawcliffe, Arolygydd Cyngor GwleJi^ Clitheroe, ydoeJd, a'i tod yn hollol farw. Yr oedd yn noson dywell iawn a bernir i'r cerbyd gael ei ddymchwel wrth droi heibio* tro per- yglus yn y ffordd. Mae amryw ddam- weiniau wedi digwydd yno o bryd i bryd. Dihangfa Gyfyng i Ficer. Cafodd y Parch Ganon Hugh Roberts a'i wraig, Bau Colwyn, ddihangla gyfyng iawn yr wjthnos ddiweddaf pan ar eu gwyliau yn y Valley, Sir Fon. Yr oedd y ficer a'i briod ynghyd a dau fachgen wedi mynd allan i fordwyo I mewn cwch bychan, a phan yr oeddynt tua mil tir a haner o'r lan daeth i chvvythu'u gryf a chariwyd hwy ym- hellach i'r mor gan y llif. Canfuasant eu bod mewn perygl mawr gan na allasent drin y cwch ac yr oedd yn cae! ei gario i gyfeiriad y creigiau ar Drwjn Penrhyn. Chwifiodd Mrs Roberts cad- ach poced, ac yn ffodus gwelwyd yr arwydd o'r lan, ac aed i'w cynorthwyo gan dri o forwyr. Cyrhaeddasant y cwch pan yr cedd ar fin taro yn erbyn y creigiau a dygwyd hwy i'r Ian yn ddihangol. Yr oeJdynt yn ddiffyg- iol iawn ar 01 eu hanturiaeth. Ei Ladd gar. Bytaten. oed, i 0e 1 Cafodd teirJ.<lIgn, o Skel- fwnwr o'r en\ L YI tarwolaeth ddydd manthorpe, .n" geisio bwyta pytaten SadwR-roes ei tam iddo. h- Gwaith Ynfyd. Bu digwyddiad hynod yn Dublin y dydd o'r blaen. Yr oedd cwmni priod- asol yn aros mewn ty yno, a lluchiasant geiniogau trwy'r ffenestr i'r plant oedd yn yr heol. Yn fuan clywid y plant yn llefain gan boen, a chafwyd fod y ceiniogau wedi eu rhoi yn y tan nes yr, oeddynt yn wynias. Gorfuwyd 1--nd ag amryw o'r plant i'r ysfv- Pan oedd y cwmni p'iodasol yd niynd allan o'r ty cawsant eu iltW'io a cherrig. Jack tfohnson yn Llundain. Mae Jack Johnson, y paffiwr du enwog, wedi cyraedd i Lundain er ddydd Sul, ac y mae ei wraig i'w gan- lyp. Bwriada ymddangos ar Iwyfanau y chwareudai i wneud arddansrosiadau a dail thio, ond y mae y cyhoedd a'r chwareuwyr proffesedig yn Llundain yn protestio yn gryf yn erbyn iddo gael ymddangos yn gyhoeddus. Dywed ef y bydd iddo ymddangos er hyny, ac nad oes dim ond afiechyd a'i rhwystra Bydd iddo gael mil o bunau y noson am ymddangos. Trychineb Ofnadwy yn Norfolk Aeth dynes o'r enw Mrs Jones i dy hen filwr o'r enw Arthur Elder pan oedd gwraig y ty oddicartref. Wrth weld ei wraig yn hir yn dod yn 01 aeth Mr Jonas i dy Elder i chwilio am dan; Ymosodwyd arno gan Elder ond llwyddodd i ddianc. Aeth Jones yno drachefn *;yda heddgeidwad. Canfuas- ant Mrs Jones ac Elder wedi eu saethu yn farw yn y gegin, a gwn ar lawr yn eu hymyl. Bernir i Elder saethu Mrs Jones yn gorff, ac yna iddo ladd- ei hun. + Llong Fodur ar Dan. Cafodd y llong todur Scout, berthyn- ol i Mri Macbrayne, Cyf., Glasgow, ei llwyr ddinystrio gan dan. Torodd y tan all,-in yn ystafell y peirianau, a chan tod ynddo swm mawr o olew ymledodd y fflamau yn gyflym. Yr oedd tua gant o deithwyr ar ei bwrdd, a chausant ddihangfa gyfyng. Gynted ag y canfu y capten y perygl rhedodd y Hong i'r lan, a diangodd pawb o honi gynted ag y gallent. Yna gwnaed pob ymdrech i ddiffodd y fflamau ac i arbed y llong, ond ofer fu pob yrrg-tis a chafodd ei llwyr ddinystrio. Ty Gweinidog ar Dan. Ddydd Gwener diweddaf torodd tan allan yn nhy y Parch Griffith Hughes, gweinido Eglwys Bethesda, Blaenau Ffestiniog. Yr oedd Mr Hughes mewn cynhebrwng ac yn cerdded ar y blaen yn yr orymdaith pan y rhedodd bach- gen bychan ato i'w hysbysu fe-a ei dy yn mynd ar dan. Aeth adref gynted ag y gallai, a chyda chynorthwy amryw gymdogion llwyddwyd i ddiffodd y tan, I yr hwn oedd wedi dechreu yn y to, I. d I cyn i lawer iawn o niwed gael ei wneyd. Damwain hefo Modur-Feisicl. Cyfarfu Mr a Mrs Williams, Stoke- on-Trent, a arhosant ar eu gwyliau yn Bau Colwyn, a damwain hynod iawn y dydd o'r blaen. Pan yn teithio ar ffordd Danrwst gyda modur-feisicl a side-car ynglyn wrtho daeth y rhan uchaf o'r beisicl yn rhydd oddiwrth y corff a thaflwyd y gyriedydd i lawr. Trowyd y side-car hefyd, ac y mae yn rhyfeddol fod y foneddiges wedi dianc a'i bywyd. Anafwyd y ddau yn ddifrifol. Codwyd hwy i tyny gan fodurwyr a basiai heibio a chymerwyd hwy i gael gweinyddu arnynt gan Dr J. H. Morris Jones. + Ffermdy ar Dan ar y Mynydd. Yn gynar fore Gwener diweddaf gal- wyd tin ddiffodd w) r Llangollen i fferm- dy ar ben un o fynyddoedd y Berwyn. Yr oedd yn ystorm ar y pryd, ac nis gallai ceffylau ysgeifn y frigad dynu'r peiriant i fyny"r mynydd. Caed gwas- anaeth gwedd o geffylau fferm ac aed a'r petriant i fyny yn nanedd y gwlaw a'r ddrycin drom. Yr oedd y tan, yr hwn oedd wedi dechreu yn y beudai, wedi cyraedd at y ty, a dinystriwyd yr eiddo bron vn llwyr, yn cynhwys cyn- yrch y cynhauaf gwair. Cafodd y teulu eu rhjbuddio gyntaf o'r tan gan gi defaid oedd ganddynt. Aeth o dan ffenestr y llofft i gyfarth nes deffrodd y teulu saethu ei Gariad. Cynhaliwyd trengholiad yn Driffield ddydd Sadwrn ar gorff Elizabeth Bar, 25 oed, yr 1),,lji a saethwyd pan yn marchos;aeth bei>icl hefo'i chariad, Henry Moore Dywedodd Flora Bar, t !>waer y drancedig, iddi hi a'i chwaer 1 yfarfod M core ar y brif-ffordd. Dy- w ododd i Moore dynu ei chwaer oddiar ei beisicl, e; chymcryd yn ei freichiau a'i s uthu dd»y waith yn ei hwyneb a'i gwddf. Taflodd hi wedi hyny ar y ffordd. Y mae Mooie yn yr ysbyty yn dioddef oddiwrth nrchollion yn ei enau a'i dalcen. Cafwyd ef mewn cae yd ar 01 saethu ei gaii.4d Pasiwyd rheith- taro o lofruduiaeth wirfoddol yn erbyn Moore, 1

Dr. Owen Evans.\

Cofnod o Bwllheli

Beiliaid yn Ngardd y capell

-Etholiad Chesterfield

"Ffortun" William Tunstall.…

lEi Qladdu'n Fyw yn y Tywod.

- -Vi Rhybudd i Blant. i -

Mr. Lloyd George ar ei Hoff\…

Liadrata olr Llythyrdy.I

ILladd ei Gymrawd drwy Ddamwain.…

Cod: n ei Gwsg a Syrthio drwy'r…

Gael Corff ar Ben Bryn. I

Angladd y Parch James, Davies,…

Cymanfa Ddirwestol Gwynedd.

Gwyliau'r Canghellor.

Eisteddfod Gwyl y Bane, Pwllheli.