Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR.

NODION A HANESION. !

Dr. Owen Evans.\

Cofnod o Bwllheli

Beiliaid yn Ngardd y capell

-Etholiad Chesterfield

"Ffortun" William Tunstall.…

lEi Qladdu'n Fyw yn y Tywod.

- -Vi Rhybudd i Blant. i -

News
Cite
Share

-V- Rhybudd i Blant. DAMWAIN ANGEUOL YN Y WAENFAWR. Ddydd Sadwrn cynhaliodd Mr Pentir Williams drengholiad ar gorff Maggie Roberts, geneth un mlwydd ar ddeg oed, yr hon tu farw ddydd Gwener oddiwrth niweidiau a gafodd drwy i beiriant fyn'd trosti ar y ffordd. Oddiwrth yr hyn a ddywedai geneth fach arall Oedd gyda hi, yr oedd y ddwy eneth yn dilyn traction engine, yr hon oedd yn tynu gwageni. Ceisiodd Mag- gie Roberts fyn'd rhwng y peiriant a'r clawdd. Syrthiodd ar ei phen i'r tfos, I ac aeth olwynion y wagen olaf dros ei choesau. Yr oedd modur yn pasio'r ochr arall ar y pryd, ac yr y dynion oedd gyda'r peiriant yn edrych ar y modur. Dywedai Hugh Evans, gyriedydd y peiriant, iddo sylwi ar y genethod yn dilyn y wagen, a rhybuddiodd hwy i gadw'n glir. Ymhen ychydig clywai un o'r genethod yn gwaeddi ac yn dangos yr eneth arall iddo ar lawr. Aeth ef a Dr Hughes, yr hwn oedd yn y modur a basiodd, yno ar unwaith. Pwysai y wagen a'i llwyth tua deg tunell. Dywedodd Dr Hughes i'w fab alw ei sylw at yr eneth gynted ag yr oedd y modur wedi pasio'r peiriant Yr oedd golwg erchyll ar un goes i'r eneth. Yr oedd fel pe bae wedi cael ei chnoi gan fwystfil,-y cnawd o'i morddwyd i'w throed wedi ei rwygo, ond yn rhyfedd iawn nid oedd asgwrn wedi ei dori. Nid oedd obaith y gellid arbed ei bywyd. Dygodd y rheithwyr reithfarn o far- wolaeth ddamweiniol, ac yr oeddynt yn rhyddhau gyriedydd y peiriant o bob bai. Sylwasant hefyd ar y perygl oedd ynglyn ag arfer plant o redeg ar ol peirianau o'r fath ar y ffordd.

Mr. Lloyd George ar ei Hoff\…

Liadrata olr Llythyrdy.I

ILladd ei Gymrawd drwy Ddamwain.…

Cod: n ei Gwsg a Syrthio drwy'r…

Gael Corff ar Ben Bryn. I

Angladd y Parch James, Davies,…

Cymanfa Ddirwestol Gwynedd.

Gwyliau'r Canghellor.

Eisteddfod Gwyl y Bane, Pwllheli.