Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
Advertising
<— P^ —* CARTRIDGES are preferred to all Y wheo rs by ^DCES all the wodd over, who ,ealize how important it is to select the best. E L E Y Cartridges may always be relied on. 22 22 m m Rifle and Rifle and Revolver Revolver Cartridge Cartridge A M E ECAR." ELEY Ag deep shell E B Nitro quality SMOKELESS." Loaded with Eley Cartridge, Smokeless (42 gr.) Smokeless Q" /-perIOO. 8/6 per 100. 9/6 per 100. E.B. Nitro 5" Shell f Loaded with "Eley 16 g" deep-shell Gastight ) Smokeless," Schultze Pegamoid (Waterproof) and other Standard Powder. Ironmonger and Eley Cartridges I A M ES WILLIAMS, Builders Merchant. are sold by U BUilders Mer<hant. PWLLHELI. Wholesale by ELEY BROS., Ltd., LONDON, W.C. L*' J Attendance Notice. Bydd Mr. Ranleigh Jones, L.D.S., R.C.S. (Edi.), SURGEON DENTIST, yn ymweled a Pwllheli bob DYDD MERCHER, yn aros gyda Mr. BOWEN, Grocer, High Street, oily boreu dan 4 y prydnawn.
PWLLHELI.|
PWLLHELI. OVHOKDDIADAU SABBOTHOL-Awst 24: Penlan (A), am 10 a 6, Parch J. Richards, Bethel. Gapel Seisoig (A.) Cardifl Road, am 11 a 6-30, Parch D. W. Roberts, Gweinidog. Penmount (M C.), am 10 a 6, Parch D. S. Owen, B A Colwyn Bay. ^alcm M.O.) am 10 a 6, Parch D. Hoskins, M. A., Caernarfon. Capel Setanig i &I. C.) Ala Road am 11a 6-30, Parch E. H. Merchant, B.A. Taberoac) (*), am 10 a 6, Parch- Seion (W.) am 10, Mr Joseph Jones, Nevin am 6, Pa-ch W. G. Hughes, Cricceth. Hen Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2. Y sgol. Yagol Geohadol (M.C.), Sand Street, am 10, 2, a 6, Cyfarfod B lyiiyddol- Parch Henry Rees. yagol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6 Cyfarfod Gweddi; am 2, Ysgol. outh Beach (M.O.) am 2 a 6, Parch T. J. James, Penmachno. Targis (M.C), am 10, Parch T. J. James, Penmachno. St. Pedr, 9-30 a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seisnig) Parch. J. Edwards, B. A., Ficer, a'r Parch. T. Woodiogs, B.A., Curad. Cenhadaeth Lydewlg North Street, R.G., am 10-30, Offeren Sanctaidd, am 2, Yagol; am.6-30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P. Merour, benedictiwn I Cofiwch mai yfory (dydd Mercher) yw'r diwrnod olaf i'r Arddangosfa fawr o berdonegau ac organau yn 55, Heol Fawr, Pwllheli. Yn awr yw'r amser i chwi sicrhau bargeinion mawr. MARW'N Y DE.—Wythnos i'r Sul diweddaf bu farw Mr William Parry, brawd Mr Henry Parry a Mrs Elizabeth Elias, North Street, yn Porth, Deheudir Cymru, yn 49 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ddydd Iau yn mynwent Porth. YR YMWELWYR.—Y mae y dref yn llawn o ymwelwyr ar hyn o bryd, a da genym eu gweled yn mwynhau eu hunain, er tod y cerbydau- modur a wibiant hyd y ffyrdd yn barhaus yn peri anghysur mawr a pherygl bywyd yn ami i'r fforddolion. FFAIR.-Cynhaliwyd ffair yma ddydd Mercher diweddaf. Ychydig o brynwyr ddaethai iddi, ac oherwydd hyny isel oedd prisiau yr anifeiliaid o'u cymharu a ffeiriau blaenorol. Y mae rhai rhanau o Loegr yn dioddef yn dost oddiwrth y maith sychder, ac y mae hyny yn effeith- io'n fawr ar y ffeiriau Cymreig. CYNGERDD CYSEGREDIG.—Nos Sul cynhaliwyd cyngerdd cysegredig yn Vsgoldy y Traeth dan ofal Mr Evan Jones. Cymerwyd rhan gan Mrs Jones, Rhiwabon Misses Betty Pratt Roberts, Annie Augusta Owen Mri Robert Williams, W. Lloyd Williams, Shop Goch, a John Charles Jones, Pretoiia. DYFALU PWYSAU VCH -Yn yr Ardd- angosfa Amaethyddol Genedlaethol gynhaliwyd yn Mhorthmadog, Mr. William Griffith, cigydd, o'r dref hon, enillodd y wobr o 4p. gynygid am ddyfalu'n mlaen llaw faint bwysai ych a ddangosid yno.-Hawlir haner y wobr gan Mr Griffith Jones, Bodfel, ar y sail ei fod wedi rhoi i lawr yr un pwysau a Mr Griffith, sef 816 pwys Daw y mater gerbron pwyllgor yr Arddangosfa i'w benderfynu. CYNGERDD. Cynhaliwyd cyngerdd llewyrchus yn Ncuadd Gynull y West End nos Fawrth diweddaf, er budd Eglwys Annibynol Cardiff Road Llan- wyd y gadair gan M jntague Holmes, Ysw., Llundain, a chymerwyd than mewn canu ac adrodd gan y rhai a ganlyn :-Miss Thomas, Miss Gweneth Roberts, R.A. M., Miss Bettie Pratt Roberts, Miss Llily Augustus, Miss Hill, Miss Eira Gwyn, A.R.C.M., Miss Smith, Mrs Savage, Mri W. Lloyd Williams, Norman McLeod, W. John Hughes, a Prydderch Williams. Yr oedd y cynhulliad yn lluosog a chaed elw sylweddol. ARWERTHIANT.—Dydd Mercher yn y Neuadd Drefol bu i Mri W. Dew a'i Fab, Bangor, gynal arwerthiant ar ystad Llanerch yn mhlwyf Liannor, am yr ail dro. Cynwysai yr eiddo 242 o aceri y rhan fwyaf yn fan ddaliadau. Gweithredai Mri S. R. Dew a'i gwmni fel cyfreithwyr. Eiddo Mr Wynne, o Garthewin, yw yr eiddo a dywedai yr arwerthwr fod y perchenog yn awyddus am i'r tenantiaid eu prynu. Cynygiwyd yr ystad mewn 13 o ranau, ond ni werthwyd on un rhan, sef 20 acer o dir Llanerch i'r Mri Jones Brothers, Llan. nor, am 385P. CARTREFLE.—Nos Fawrth diweddaf, Awst i2fed, cafodd deiliaid y TlQtty noson ddifyr ac adeiladol. Cafwyd perfformiad gan y tafleisydd enwog Ap Harri. Cymerwyd y gadair gan Capt. Hughes, Ala Road, ac arwein- iwyd yn fedrus gan Mr. Tom Jones, The Hermitage. Wedi mwynhau yr amrywiaeth am tua dwy awr cynyg- iwyd diolchgarwch i'r perfformydd gan Mr. Jones, meistr y ty, a chetnogwyd gan Capt. Hughes. Deallwn i Ap Harri gael cynyg myned i le arall y noson hono, a hyny am dal da, ond gwell oedd ganddo aros i ddyddori'r tlodion, a hyny am ddim. ORGAN RECITAL.—Cynhaliwyd organ recital nodedig o lwyddianus yn nghapel Penmount nos lau diweddaf, a chaed elw da oddiwrthi, yr hyn a drosglwyddir i eglwys Salem i'w helpu yn y golled a gafodd drwy ddinystr eu capel hardd. Yr organydd oedd Mr Herbert F. Ellingtord, organydd St. George's Hall, Lerpwl. Cymerid rhan hefyd gan y gantores enwog, Miss Dilys Jones, a chan Gymdeithas Gorawl y dref, dan arweiniad y Proff Norman McLeod. Dr 0. Wynne Griffith, y Maer, oedd yn y gadair. Yr oedd y capel eang yn weddol lawn, a mwyn- hai y cynhulliad y chware a'r canu yn fawr.
ABERDAKON.-I
ABERDAKON. I Nac anghofiwch alw yn yr Arddang- ofa fawr o berdonegau ac organau gynhelir yn 55, Heol Fawr, Pwllheli, cyn nos yfory (nos Fercher), os oes arnoch eisieu bargen ryfeddol; bydd yn rhy hwvr ar ol hyny i sicrhau y bar- geinion. YMRYSONFA CYCHOD.-Dydd Mawrth cynhaliwyd yr uchod. Cafwyd diwrnod eithriadol o ffafriol. Yr enillwyr oedd- ynt :—Dosbarth cyntaf I, Louisa, R. P. Williams, Tynewydd 2, Bird of Aberdaron, Owen Roberts, Ty hen 3, Pride of Wales, Thomas Jones, Glan- rafon. Ail ddosbarth i, Kent, Hugh Jones, Penycwm 2, Realm, Lewis Evans, Fronoleu. Trydydd dosbarth i, Albion, H. Jones, Gladstone house 2, John Williams, Plasiol 3, Liver, Robert Jones, Bryn mawr.
-1 ABERERCII.
-1 ABERERCII. Cofiwch os na alwch cyn dydd Mercher (nos yfory) yn arddangosfa perdonegau ac organau yn 55, Heol Fawr, Pwllheli, na chewch byth gystal cyfle eto. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.— Nos Fawrth, y 12fed cyfisol, ar ol cys- tudd maith, bu farw Miss Ann Jones, Tyddyn Meilir, yn 83 mlwydd oed. Dydd Gwener rhoddwyd yr hyn oedd farwol o heni i orphwys yn mynwent y Plwyf. Angladd anghyhoedd ydoedd. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parchn. Owen LlJyd Owen, Pontypridd (un o blant yr ardal), Huh Davies, a Morgan Price, y gweinidog. Yn yr eglwys a'r fynwent gwasanaethodd y Parch J. Edwards, B.A., Ficer Pwll- heli, ) n absenoldeb Ficer y Plwyf. Yn mysg perthynasau Miss Jones oedd yn, ei chyrhebrvvng yr oedd tri gwe n dog pefthynol i'r Annibynwyr, set y Parchn m Pierce. Llundain, J. G. Jones. Cana, Mon, a G, iffith Jones, Llanedi, De Cynuu. Yr oedd y chwaer ymad- awedig yn un dawel a charedig, ac yr oedd ganddi fawr ofal calon am yr achos Annibynol yn y Capel Ucha', ac un o'r gweithredoedd da olaf a gyflawn- odd oedd cyfranu rhodd haelionus iawn at draul adgyweirio y capel. Yn ei marwolaeth collwyd yr olat o lluosog Tyddyn Meilir, teulu fu am flynyddau meithion yn gynorthwyol iawn i achos crefydd yn mhlith yr Annibynwyr yn yr ardal. Yr Un a roes hyn yn eu calonau hwy a all roddi yn nghalonau eraill ar eu hoi.
I -LLANBEDROG.-I
I LLANBEDROG. I Cofiwch mai yfory (dydd Mercher) yw'r diwrnod olaf i'r arddangosfa fawr o berdonegau ac organau yn 55, Heol Fawr, Pwllheli Yn awr yw'r amser i chwi sicrhau bargeinion mawr. CYNGHERDD. — Cynhaliwyd cyngerdd llwyddianus yma yn neuadd Glyn-y- weddw, nos Wener diweddaf. Llanwyd y gadair gan y meddyg hynaws Dr. O. Wynne Griffith, maer Pwllheli. Cym- erwyd rhan ynddo gan Miss Louie James, R.A.M. Mrs. A. V. Golding, L.R.A.M., A.R C.M., Llundain; Master Percy Jones, Rhyl; Mr H. Vaughan Davies, Caernarfon Mr D. Francis, y telynor dall, a Dewi Mai o Feirion. Cyfeiliwyd i'r cantorion gan Miss Wynnie Jones, Pwllheli. n_-
---T YD WEILIOG. ________j
T YD WEILIOG. Nac anghofiwch alw yn yr arddang- osfa fawr o berdonegau ac organau gyndelir yn 55, Heol Fawr, Pwllheli, cyn nos yfory (nos Fercher), os oes arnoch eisieu bargen ryfeddol bydd yn rhy hwyr ar ol hyny. ARDDANGOSFA FLODAU.- Cynhaliwyd arddangosfa flodau lwyddianus iawn yma ddydd Iau diweddaf. Yr oedd ynddi lu o arddangosiadau, a'r oil o ansawdd ragorol. Mae'r arddangosfa flynyddol hon yn un o'r atdyniadau pwysicaf yn Mben Lleyn, a thyru mawr iddi bob blwyddyn. Swyddogion y pwyllgor eleni oedd :—Cadeirydd, Mr H. G. Jones, Cefnamwlch trysorydd, Mr John Williams, Brynffynon ysgrif- enyddion, Mr J. P. Jones, Cefnamwlch arms, a Mr William Williams,! Aelfryn.
Marw'r Parch James Davies,…
Marw'r Parch James Davies, Llithfaen. Drwg genym hysbysu am farwolaeth y Parch James Davies, gweinidog ar eglwysi Annibynol Moriah, Llithfaen, a Salem, Fourcrosses, yr hyn gymerodd le yn ei breswylfod, Victoria House, Fourcrosses, ddydd Sadwrn, ac efe yn 61 mlwydd oed. Tarawyd ef yn wael iawn ddydd Sul y Pasg diweddaf, ac yr oedd yn amlwg er's amser fod y diwedd yn agoshau. Cleddir ei weddillion yn mynwent Capel Helyg, ddydd lau. Bydd yr angladd yn cychwyn o'r ty am un o'r glocb, a chynhelir gwasanaeth yn ngbapel Salem (A.), am haner awr wedi un. Pregethir pregeth angladdol yn yr un capel nos Iau gan y Parch Thomas Williams, Capel Helyg. j Brodor o Aberdar oedd yr ymadaw- edig. Yr oedd yn bugeilio yr eglwysi a enwyd er's deuddeng mlynedd ar hugain, ac yr oedd iddo barch mawr gan bobl ei ofal, a chan bawb a'i hadwaenai. Cydymdeimlir yr. ddwys a'i weddw yn ei phrofedigaeth Iem. --0-
IGweithred Law-feddygol ar…
Gweithred Law-feddygol ar y Brif-ffordd. TORI COES DYN I FFWRDD. Gwnaed ymchwiliad yn ysbyty Ash- ton, ddoe i achos marwolaeth Thomas Vickers, certiwr, yr hwn a anafwyd mor ddifrifol drwy i olwyn y wagen fynd drosto ar y ftordd fel y bu raid tori ei goes i ffwrdd cyn y gallwyd ei symud oddiyno. Tystiai bachgen deuddeg oed ei fod gyda Vickers nos lau, ac yr oedd ef yn cerdded wrth ochr y wagen a Vickers yn eistedd ynddi Wrth roi ei droed ar y Horp i geisio dod i lawr Ilithrodd Vickers a syrthiodd o dan yr olwyn. Stopiodd y tyst y ceffylau ar unwaith, a bu raid cael cymorth llawer o ddyn- ion i godi'r olwyn oddiar goes y tran- cedig. Dywedodd y meddyg, Dr John G. Bennett, iddo gael ei alw at y dyn, yr hwn oedd yn gorwedd ar fin y ffordd. Yr oedd ei goes chwith wedi ei malurio a'r croen wedi ei flingo'n Ilwyr oddiar ei goes dde o'i ffer i ben ei lin. Yr oedd y goes chwith wedi ei handwyo I gymaint fel y bu raid ei thori ymaith ar unwaith. Bu y dyn farw gynted ag y cymerwyd ef i'r ysbyty.
ILlys Man-ddyledion Pwllheli.
I Llys Man-ddyledion Pwll- heli. Ddydd Mawrth, y 12fed cyfisol,-O flaen y Barnwr William Evans. Iaun-Daliadau.—Gwneid apel gan Mr Jones Morris ar ran Mr Henry Jones, Bryngoleu, Llanbedrog, am daliad allan o'r 6op. ganiatawyd fel iawn-dal o barthed i farwolaeth ei fab, Thomas Jones, yr hwn a syrthiodd i'r mor oddi- ar y Hong Evelyn," ac a fu foddi.— Caniatawyd.-Apelai Mrs Ellen Jones, Ffridd, Ceidio, hefyd am daliad allan o 30op. o iawn-dal ganiatawyd iddi o barthed i farwolaeth ei gwr, yr hwn oeJd yn gapten ar y llong Elizabeth Robeits," ac a tu foddi -Caniatawyd. Y Gyriedydd. Modur a'r JJeisid.—Gwysid P. Collins, New Brighton, gan T. H. Pumphrey, Llanystumdwy, am y swtn o ISp. 15s., am niwed wnaed i fodur- beisicl yr achwynydd o heiwydd esgeulusdra honedig gyriedydd modur y diffynydd wrth todurio drwy heol Criccieth, ar 1edi'r 2il. — Dywedai Mr W. George, yr hwn a ymddangosai ar ran yr achwynydd. fod yr achwynydd yn dod drwy Griccieth ar ei fodur-beis- icl, ac fod cytaill iddo yn y side-car. Yr oedd ef ar yr ochor briodol i'r ffordd, a gwelai fodur yn dod i'w gyfarfod ar yr un ochr. Ceisiodd alw sylw y rhai oedd yn y modur, ond ni wnaethant sylw o hono o gwbl, a phan yr oedd o fewn dwy lath iddo troes ef am yr ochr arall rhag mynd i wrthdararwiad a'r modur. Ond troes gyriedydd y modur ar yr un pryd, ac aethant yn erbyn eu gilydd. Cafodd Mr Pumphrey a'i gyfaill eu taflu ar ochr yr heol, a gwnaed cryn niwed i'r modur-beisicl a'r side-car. Yr oeddis wedi talu'n agos i 14P. am eu hadgyweirio. Yr oedd gyriedydd y modur wedi ei ddirwyo am oryru.—Honai Mr Percy Hughes, Birkenhead, ar ran y diffynydd, mai ar yr achwynydd yr oedd y bai. Collodd reolaeth arno ei hun, ac aeth i'r ochr amrhiodol o'r ffordd. Yr oedd y modur yn dod ar ganol y ffordd, ac nid oedd wedi cyffwrdd yn y modur-beisicl o gwbl.-Yr oedd y Barnwr o'r farn mai esgeulusdra y gyriedydd fu yn gyfritol am y ddamwain, a rhoes ddyf- arniad yn ffafr yr achwynydd am 14P. a'r costau.
Harry Thaw wedi Diane. I
Harry Thaw wedi Diane. I Y mae Harry Thaw, y miliwnydd, a'r hwn a anfonwyd i wallgofdy am lof- ruddio Stanford White, wedi dianc. Tybir iddo allu ffoi trwy gynllwyn rhai o fewn y carchar, ac iddo lwyddo i fyn'd i gerbyd modur oedd yn ei ddis- gwyl wrth y porth. Os llwydda i groesi'r llinell derfyn i Connecticut cyn i'w erlidwyr ei ddal, bydd yn rhydd, gan nas gellir ei gymeryd i fynu yno. Dywedir. fod o leiaf ddau can' mil o bunau wedi eu gwcuio i geisio rhydd- hau Thaw er pan y traddodwyd ef i'r gwallgofdy. --n
Dim ond Un -Diwrnod -Eto.…
Dim ond Un Diwrnod Eto. I Mae'r arddangosfa fawr o berdoneg- au ac organau yn 55, Heol Ivwr, Pwllheli, yn awr yn tynu at y terfyn, oherwydd yfory, ddydd Mercher, yw'r diwrnod olaf. Hysbysir ni gan Mr Bolloten ei fod ar y cyfdn gan gymer- yd i ystyriaeth adeg brysur y tymor- yn foddhaol iawn ar y chweched ardd- angosfa yma yn y dref hon, wedi cael rhai archebion da yn barod, ac yn hyderu y bydd wedi clirio'r rhan fwyaf o'r stoc ardderchog cyn nos Fercher, gan ei fod, er mwyn arbed y gost fawr o bacio a chludiad yn ol, yn cynyg bar- geinion neillduol na ddylai y cyhoedd fod yn hwyrfrydig i fanteisio arnynt.
-u--Ymosod ar Ffermwr,I
u Ymosod ar Ffermwr, I LLADRON YN EI YSTAFELL- I WELY. Aeth dau leidr arfog a gorchudd at eu wynebau i mewn i ystafell-wely Mr. Ben Read, Church Farm, ger Dursley, yn oriau man y boreu, ac ymosodasant arno. Deffrowyd Mr. Read, yr hwn sy'n byw yn y fferm gyda'i wraig ac amryw o'i terched, ychydig cyn dau o'r gloch y bore wrth glywed twrw tu allan i ffenestr y llofft. Neidiodd o'i wely a gwelai ysgol wedi ei gosod ar y mur yn agos i'r ffenestr. Ar ben yr ysgol yr oedd dyn a gorchudd ar ei wyneb. Neidiodd y dyn oddiar yr ysgol i mewn i'r llofft, a bu ymladdfa ffyrnig. Buasai Mr. Read wedi trechu ei wrthwynebydd mewn byr amser onibai fod gan y lleidr lawddryll, a saethodd ddwy ergyd o hono. Wrth glywed yr ergydion daeth cymrawd i'r lleidr i tyny yr ysgol ac i mewn i'r ystafell. Ymosododd y ddau ar Mr. Read ag arfau trymion oedd ganddynt, nes y syrthiodd i lawr yn anymwybodol. Yn y cyfamser yr oedd tair o ferched Mr. Read wedi eu deffro gan y cyffro, ac aethant i gynorthwyo eu tad, ond llwyddodd y lladron i ddianc. Ofnid ar y dechreu fod Mr. Read wedi ei glwyfo'n farwol, ond y mae yn gwella'n raddol er ei fod wedi cael archollion enbyd. Mae yn un o'r ffermwyr mwyaf adnabyddus yn Glou- cestershire
[No title]
Wrth geisio cychwyn ei fodur-beisicl syrthiodd dyn i lawr ar yr heol yn Lerpwl, ac aeth y beisicl yn ei flaen ac ar draws amryw bobl a thrwy ffenestr siop. Yr oedd un ddynes wedi ei hanafu'n ddifrifol. Collodd dyn ei ddanedd gosod wrth ymdrochi yn Troon, Ayrshire, ac ym- hen naw diwrnod caed hwy yn nghrafanc crane a ddaliwyd gyda chawell grancod.
IAnfon Llythyrau Bygythiol.…
I Anfon Llythyrau Bygythiol. I HAWLIO ARIAN NEU FYWYD. Yn heddlys Ormskirk, y dydd o'r blaen, cyhuddwyd glowr ieuanc o fod wedi bygwth cytreithiwr, tiwy anfon llythyrau ato yn hawlio 3op. oddiarno neu y byddai yn cael ei ladd. Dywedwyd y cafodd Mr Lax, y cyfreithiwr, lythyr yn ei ddisgwyl pan ddaeth gartref o Lerpwl. Nid oedd stamp ar y llythyr, ac yr oedd y forwyn wedi talu 2^. am ei gludiad. Dywedai y llythyr fod yn rhaid iddo roi 30P. o dan fainc mewn lie neillduol, ac os na byddai yn gwneud hyny, neu yn hys- bysu yr heddlu, y byddai y cwmni dros yr hwn yr oedd yr ysgrifenydd yn gweithredu yn gwneyd pen ar fywyd Mr Lax. Byddai y cwmni yn cario allan eu bygythiad cyn yr ail Sadwrn yn Medi. Rhoes Mr Lax hyshysrwydd i'r hedd- lu, ac aeth heddgeidwad a bag o arian a marciau ne llduol arnynt o dan y fainc a nodwyd, a buwyd yn guylio i edrych a ddeuai rhywun ïw nol. Oddeutu haner awr wedi uii-ar-ddeg nos Sadwrn gwelwyd Harold Chisnall, y carcharor, yn cymeryd y bag o dan y fainc ac yn ei roi yn ei boced. Gan gymeryd arno ei tod yn feddw aeth yr heddgeidwad ar ei ol a daliodd ef. Aeth ag ef i orsaf yr heddlu ac yno ar- chwiliwyd ef, a chafwyd yr arian yn ei boced. Gohiriwyd ei brawf am wyth- nos.
I-I Camgymeryd y Ty. I
Camgymeryd y Ty. Yn heddlys Widnes ddoe cyhuddwyd dyn o'r enw James Simmer o dori i dy George Low a gwneud coiled iddo i'r swm o 7s 6c. Dywedai heddgeidwad i Low glywed twrw yn nghegin ei dy tua dau o'r gloch foreu Sul. Aeth i lawr i edrych beth oedd yno, a gwelodd y diffynydd, yr hwn a ddaliai ei ddwrn yn ei wyneb Aeth Low yn ei ol i'r llofft ac aeth allan drwy'r ffenestr i chwilio am gynprthwy. Daeth nifer o bobl yno ar unwaith, ac amgylchynasant y ty, ond diangodd y carcharor i'r ardd ac ym- guddiodd mewn llyn o goed. Pan ganfuwyd ef yno dywedodd y saethai pwy bynag a ddeuai ato. Ond o'r diwedd daeth heddgeidwad yn0 a chy- merwyd ef i'r ddalfa. Dywedwyd mai wedi bitl am bleser- daith gyda'i gydweithwyr yr oedd y carcharor. Wrth ddod yn ol torodd y cerbyd i lawr, ac aeth y diffynydd, yr hwn oedd mewn diod i grwydro ar draws y caeau. Pan ddaeth ar draws ty Low tybiodd ei tod wedi cyraedd adref, gan y canfuwyd ei fod wedi j gwthio allwedd ei dy ei hun i (1\1) y clo yn y drws. Wedi methu agor y drws torodd y ffenestr ac aeth i mewn i'r ty drwyddi. Taflodd y Fainc yr achos allan ar daliad y costau, a dywedai y carcharor wrth adael y llys na chyffyrddai mewn diod feddwol byth wedi hyny tra fyddai byw.
-0-Bachgen Ieuanc Gwrol.I
-0- Bachgen Ieuanc Gwrol. Yr oedd bachgen bychan yn chware ar y lanfa yn Goole ddydd Sadwrn, a rhywfodd syrthiodd i'r dwr. Yr oedd y llif mor gryf fel y cariwyd y bachgen latheni lawer oddiwrth y Ian mewn ychydig eiliadau. Yn gweled ei berygl neidiodd bachgen araH o'r enw Walter Rust i'r afon ar ei ol, a llwyddodd i'w gyraedd. Cariwyd y ddau allan gan y llif, ond llwyddodd Rust i gael gafael 1 mewn cadwyn angor, ond methodd a dal ei afael yn hir, ac yr oedd y ddau tachgen bron a boddi pan y Ilwyddwyd i gael y ddau i gwch yn ddiogel. -0--
[No title]
Y mae Mr B. C. Hucks wedi rhoi i her i Mr Gustav Hamel am ras ehedeg -5oop. o bob ochr.
Advertising
Borough of Pwllheli. REGISTRATION. VTOTICE is hereby given that Alex- ander Mere Latham, Esquire, or some other Barrister-at-Law, duly appointed to revise the List of Voters in the election of a member to sit in Parliament for the Borough of Carnar- von and the several Boroughs of Pwll- heii, Conway, Nevin, Bangor and Cric- cieth, sharing with the Borough of Carnarvon, will hold a court tor such tevision for the Borough of Pwllheli on Friday, the 19th day of September, 1913, at the Town Hall, in the said Borough, at 4 o'clock in the afternoon. And the said Alexander Mere Latham or other Barrister will, in pursuance of the Act of Parliament in that case made and provided, hold a court for the revision of the Burgess List of the Municipal Borough of Pwllheli on Friday, the 19th day of September, 1913, aforesaid, at 4 o'clock in the afternoon. And all Overseers, Relieving Officers, and the persons having to produce their Rate Books, ReUef Books, Lists and other documents, are hereby required to attend. Dated this 18th day of August, 1913. 1 EVAN R. DAVIES, Town Hall, Town Clerk, rwllheli. 5s. Reward. LOST between Madryn Castle and -L Pwllheli, Black Scarf with Silk Fringe, will finder please return to Mrs Myrddin Rees, Bryneifion, Pwllheli fJij DYMUNIR HYSBYSU FOD YN o"r N'S GAI_tAGE, Station Square, Pwllheli, LE EANG A CHYFLEUS I GADW BICYCLES. Hefyd gwer thir pob math o accessories am brisiau ihesymol. Yn Eisieu. GWAS Fferm yn Canada, gyda theulu Cymreig o gymydogaetb Pwllheli. Cartref cysurus i un yn hyddysg yn ngwaith fferm. Cyflog ^4 y m;s :om fi vyddyn. Am fanylion pell- .ich ymofyner a—"D," UDGORN OFFICE Pwllheli. Wanted. APPRENTICES for the Millinery.- Apply, Manchester House, Pwll- heli A N experienced housemaid waitress early in September. Apply to- Mrs Edridge, Tynlon, Abererch, Pwll- heli. T EN Masons and Stone Dressers at Trevor.-Apply to J. H. Roberts, Contractor, Pwllheli. TOWN HALL, Pwllheli FOR ONE NIGHT ONLY Friday, Aug. 22nd. Seats may be booked at Mr R. Jones, 74, High Street. Miss Mag- Morton and Mr. J. Edward Martin's Co. in The Romantic Musical Drama A Blind Girl's Love I eluding the Great London Actress MISS MARIAN BERESFORD, in the Title Role. ELABORATE SCENERY! Spfcia. !y Selected Company of Artistes. Pricrs of Admission—Reserved Seats, 2a.; Second Seats, Is. 6tl.; Admission, Is., LimiUd number at 7-55, 6d. Doors "pen at 7-30, commencc at 8. I<:ady 00.:1,; at 7. 3d. extra to all parts. Reserved Ticket Holders admitted Early Door without extra charge. Lleyn & i o)ty Ayrkultural Society. THE FIFTY-FIRST ANNUAL SHOW will be held at PWLLHELI, Friday, Sept. 5th. President ARTHEN O. OWEN, ESQ., PLAs HEULOG Vice-Presidents J. HYWEL ROBERTS, ESQ GWNHINGAR. D. MORRIS PARRY, ESQ, GWYNFRYN. Over S200 Prizes offered for Horses, Cattle, Sheep, Pigs, &c. Also, Horticultural. Trotting Competitions & Pony Races. Several Open Classes. Entries close August 27th. Schedule of Classes and Prizes may be had on application to the Secretary, -D. H, PARRY, Vronallt, Pwllheli. Office: 1, Salem Terrace, Pwllheli. CORRECTION. VEGETABLES. Class 12. Onions-Spring sown-6. Class 12a-Onions—Autumn sown- 6. Class 27—For the best collection of Vegetables-6 varieties. EXTRA PRIZE.-OPEN. Special Prize given by Messrs J. Bibby & Son and Mr J. E. Hughes, their district agent. Class 6oa.-For the best Beast in the Cattle Section fed on either of Bibby's Cakes or Meal 1 1 o Cattle fed on Cakes or Meals of other manufacture not eligible to compete. Entrance fee, is. Special Prize given by Messrs. Osmond & Sons, Ltd., Standard Chemical Works, Spalding. Class 6ob.-For the best Beast fed or conditioned on Os- mond's Cod Liver Oil Condi- ment or Meals. Medicine Chest value. I 1 o Entrance, is. D. H. PARRY, Vronallt, Secretary. Pwllheli.