Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Advertising

NODION A HANESION.

ITrengholiad mewn Mynwent.

Mrs. Lloyd George yn Aberdaron.

QwyliauV Cangiiellor.I

Eisteddfod Gwyl y Banc, Pwllheli.

Advertising

Ysbeilio gwerth 9,000p. o…

News
Cite
Share

Ysbeilio gwerth 9,000p. o Emau. 0 WESTY YN LLANDUDNO. Lladratawyd gwerth yn agos i naw mil o bunau o emau o't Grand Hotel, Llandudno, ddydd Gwener diweddaf. Y oedd y gemau yn cael eu harddangos ar werth yn corridor yr hotel yn ystod y dydd, ac yn yr hwyr cymerid y rhai mwyaf gwerthfawr mewn bag i siop y Mri Wartski, gemwyr, Mostyn street, i'w cadw mewn safe. Pan oedd y ddyues ieuanc a ofalai am y gemau yn y gwesty, newydd gyraedd i'r gwesty gyda'r bag yn y bore daeth dyn dieithr ati, a dywedodd tod ei wraig yn bwr- iadu prynu gemau ganddi, ond dywed- odd nad oedd angen am eu gweled y pryd hwnw, eithr y deuai i'w gweled yn! y prydnawn. Pan aeth y ferch ieuanc i ddechreu agor y bag ar ol i'r dyn fynd allan, canfu nas gallai ei agor. Teliffoniodd i'r siop yn Mostyn street rhag y gallai camgymeriad fod wedi caei ei wneyd ond caed allan fod y bag wedi ei newid am un arall yn y gwesty pan oedd y ferch ieuanc yn siarad gyda'r gwr dieithr. Bernir i'r lladron ffoi ymaith mewn cerbyd modur, a rhoes yr heddgeidwaid j hysbysrwydd ar unwaith am i'r heddlu yn Bau Colwyn a Conwy wylio am fodurwyr yn cyfateb i'r desgrifiad a roi y ferch ieuanc o'r dyn y bu hi'n yniddi- ddan ag ef yn y gwesty. Nid oes neb eto wedi ei gymeryd i'r ddalfa. --0--

I Glofa Newydd yn Ngogleddj…

[No title]

Rhoi Ysgol Sir Caernarfon…

v Damwain Angeuol mewn Chwareudy.

Golygfa Gyffrous mewn-Milodfa.