Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. Aufoner erbyn BuREU SAl'WRJi y fan lt-liaf Pob arcbebion a tbHliadan am V r Udgorn i'w hanfon i'r UORUCHWYLIWR, 74, Higb Street. Pwllheli. Pob gohebiaeth i'w yfl3irio- i YR UDGORN OFFICE, PwLLBKLI. Bydd yn dda gertyiu drterViyn cobeb iaethau oddiwrth ohebwyr ar fatoiicn leol o ddyddordeb cyboeddns
NODION A HANESION. ———i
NODION A HANESION. ——— Ei Frathu gan GefTyl. Pan oedd James Smith, cartiwr, o Parkhead, Glasgow, yn gwyro i lawr yn ymyl ei geffyl yn yr ystabl brathodd y ceffyl ei glust i ffwrdd. Ei Ladd wrth Chware. Pan cedd cystadleuaeth taflu pwysau yn mynd ymlaen mewn chwareuon yn Newton Stewart, dydd Sadwrn, cafodd Mr Ralston, nn o'r beirniaid, ei daro heto'r pwysau yn ei fynwes a bu farw. Dirwyo Cwmni Chwarel. Yn Bettwsycoed, y dydd o'r blaen. cyhuddid perchenogion Chwarel Moel Siabod o beidio stampio cardiau yswir- iant tri o'u gweithwyr yn y chwarel. Cawsant eu dirwyo i swllt am bob achos. Boddi Mab i Wein:dog. Yn Southerndown, Dehetsdir Cymru, aeth dyn ieuanc a wasanaethai yn Llythyrdy Bridgend, i ymdrochi yn y mor gyda chymrawd iddo. Aeth i le rhy ddwfn a bu foddi. Mab ydoedd i'r Parch. E. Rowell, Crichowell, Brych- einiog Marw Ficer Bangor. Yn Lerpwl ddydj Sul bu farw y Parch WiHiam Edwards, ficer Bangor. Tua blwyddyn yn ol derbyniodd y newydd am farwolaeth ei ferch a'i fab- y'nghyfraith ar yr Alpau, pan oeddynt ar eu mis mel. Effeithiodd y newydd yn ddirfawr iawn ar iechyd Mr Edwards.' Gedy ar ei ol weddw a dwy o ferched. Chwareu Cardiau yn y Tren. Ar eu ffordd i Blackpool collodd Alfred Mitchell, o Ddeheudir Cymru, 2p. i6s. wrth chware cardiau yn y tren, a John Jones, ei gymrawd, 30s. Ddydd Sadwrn ryhuddwyd Henry Senior, o Sheffield, o fod wedi cael yr arian trwy dric. Cafodd ei ddirwyo i 3p. a'r costau am hap-chwareu yn y tr en. Yn Gant Oed. Ddydd Mercher diweddaf, yr oedd Mrs Emma Boyd, Leyton, Essex, yn cael ei phen blwydd yn gant oed Y mae yn edrych yn iach, yn gvveled ac yn clywed cystal ag erioed bron. Bu ei mam fyw hyd nes yr oedd yn gant a thair. Y mae iddi ddau fab ac un ferch yn fyw, pedwar ar hugain o wytion, a chwech a thriugain o orwyrion Cael CorfT ar Draeth y BorLh. Caed corff kVm. Carey, gwr ieuanc o Wolverhampton, ar draeth y Borth, ger Aberystwyth, brydnawn Sadwrn. Ym- ddengys ei fod ar daith trwy Ogledd Cymru ar ei feisicl, a bore Llun diwedd- af gwelwyd et yn cwympo i'r afon Dyfi oddiar y mor-glawdd. Gedy ar ei ol weddw ieuanc a dau o blant, y naill yn deiiblwydd oed a'r HaU yn dri mis ,1 Boddi yn New Brighton. Yn New Brighton, yr wythnos ddi- weddaf, bu foddi mab bychan deng mlwydd oed i'r Parch T. R. Dann ysgrifenydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Lerpwl. Aelh y bachgen gyda btawd a chwaer ychydig hyn nag ef i ym. drochi, a chariwyd hwy allan i'r mor, ond llwyddwyd drwy ymdrech galed i gael yr eneth a'r brawd hynaf i'r lan yn ddioge!. ? Damwain Angeuo! yn Prenteg. Dydd Mercher diweddaf, bu tarw Mr Howel Evans, masnaclnvr, Pienteg, mewn canlyniad i niweidiau dderbyn- iodd drwy i feisicl modur fynd ar ei draws. Yr oedd Mr Evans yn croesi'r ffordd ger Lodge Aberdennint, pan ddaeth y modur ar ei warthaf. Gwn- aeth y gyriedydd ei oreu i'w ymgeleddu a chyrchodd y meddyg ato. Yr oedd y trancedig yn 70 mhvydd oed. Bardd Newydd. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol hys- byswyd fod y wobr o 7P am y Fyfyr- draeth oreu ar Ddyddiau Olaf Owaill Givnd%& r yn cael ei rhanu'n gyfartal rhvvng Deunant acunarall. Deall- ir yn awr mai y Parch D. Tecwyn Evans, Llanrwst, yw Deunant." Nid yn unig hwn oedd y tro cyntaf iddo cystadlu ar farddoni, ond dywedir na cheisiodd gytansoddi l!ine!l c farddon- iaeth erioed o' r blacn. I Aberthu ei Hun rrmwyn Pientyn Wrth waredu pientyn bach rhag i fodur fynd trosto, cafodd dynes ieuanc yn Cirencester, o'r enw Miss Sarah Ann Midwinter, ei tharo i lawr gan v modui a bu farw oddiwrth y niweidiau a gafodd. Ni anafwyd y pientyn. Methu Lladd ei Hun. Ymddangosai dyn o'r enw Thomas Beard yn y llys yn Leeds y dydd o'r blaen ar gyhuddiad o geisio gwneud diwedd ar ei einioes. Dywedodd iddo geisio tori ei wddf, ond nid oedd ditron o fin ar y gyllell ceisiodd fod ■ i ei hun wedi hyny, ond nid oedd y dwr yn ddigon dwfn. Anfonwyd ef i'r tlotv. Dargarjfyddiad Gwerthfawr. Pan oedd gweithwyr yn adgyweirio hen fwthyn yn Pembroke Dock daeth- ar.t ar draws aur ac arian-nodau yn werth mil o bunau mewn h\"JI yn y mur. Hen wr o'r enw David Nicholas oedd yn byw yn y ty ddiweddaf. Bu unwaith yn fferiuvr ac yn fasnachwr llwyddianus Nid oedd neb yn byw gydag ef, ac yr oedd yn cael elusen 0': pI wyf. Y Suffragettes. Poreu Sadwrn ymosododd pedair o Suffragettes dr Dr. Pearson, swyddog meddygol Carchar Holloway, pan yr oedd yn croesi'r heol i fynd i'r carchar. Tarawodd un o honynt ef gyda chwip. Crewyd cyffro a helynt mawr gan- ddynt yn Llundain hefyd ddydd Sul diweddaf fel arfer, a chymerwyd amryw o honynt i garchar.-Ceisiasant roi ysgol ar dan yn agos i'r lie yr oedd Mr. Lloyd George yn anerch y mwnwyr yn Nottingham. Darganfyddiad Trist. Er's rhai dyddiau mae Hugh McLaren yn ngharchar Caerdydd yn aros i gael ei giogi am lofruddio Hispaenwr o'r enw Julian Biros yn un o ddociau Caer- dydd. Bernid mai un o Belfast oedd McLaren, a'r wythnos ddiweddaf daeth hen wraig a'i mab o Belfast i Gaerdydd i edrych ai ei mclb ydoedd y dyn con- demniedig, a chanlu mai ei mab yn wir ydoedd. Yr oedd yr hen wraig yn w)'lo'n chwerw pan yr oedd yn gadael y carchar, ond yr oedd y carcharor yn protestio mai nid ei fam ydoedd hi.
ILlofrudd yn Lladd ei Hun.…
Llofrudd yn Lladd ei Hun. i Foreu Sul lladdodd un o'r enw Robt. Robb ei hun yn y carchar yn Tyrone. Daliwyu y carcharor ddydd Iau, ar 01' bod yn ei ymlid am ddiwrnod ar y mynyddoedd. Cyhuddid ef o fod wedi saethu ei gefnder yn farw mewn lie unig yn y wIad, yn agos i Killster. Pan aeth ceidwad y carchar i mewn i'r gell lie yr oedd Robb foreu SuI; canfu'r carcharor yn hongian wrth un o tariau y ffenestr a chynfas wedi ei chylymu am ei wddf. Dywedir fod y ddau gefnder yn perthyn i deuluoedd cyfoethog. Ych- ydig ddyddiau'n ol daeth Robb adref o'r Amerig pan glybu fod ei dad am werthu ei fferm, a'i lwriad oedd stOplO r arwerthiant, ond gwerthwyd y fferm fodd bynag i dad Young, y dyn ieuanc laddwyd, an. fil o bunau. DdyJJ Mercher gofynodd Robb i'w gefnder ddod gydag ef at ei dad i geisio gael ganddo toi rhan o'r arian iddo ef (Robb). Yr oedd yn byw oddeutu dwy filltir oddiyno, a chychwynodd Robb a Young tuag yno ac aeth brawd Youner hefyd gyda hwy. Rhywle tua chanol y ffordd awgrymodd Robb fod i frawd Young fynd i dy oedd yn agos a gofyn oedd y bobl yn eu gwelyau. Pan ad- awyd y ddau gefnder hefo'u gilydd cIywyd fair o ergydion, a phan ddaeth un o'r enw Mr Smyth yno canfu Young yn gorwedd yn y ffos, yn farw, a rhedodd Robb i ffwrdd Buwyd yn ei ymlid fel y sylwyd eisoes am oriau lawer hyd y mynyddoedd.
Damwain Hefo'r Tren. I
Damwain Hefo'r Tren. I DAU YN CAEL EU LLADD. Bu damwain ddifl ifol gyda'r tren yn Yeovil, Penmill Station, ar Rheilffoidd y Cireat Western, ddydd Gwener, a chafodd dau o'r teithwyr eu lladd ac anafwyd amryw eraill. Yr oedd y tren 2.42 o Paddington i Weymouth haner awr ar ol ei hamser ac yn sefyll yn y stesion pan y rhedcdd tren o gyieiriad Swindon i'r tu ol iddi. Yr oedd amryw o'r cerbydau wedi mynd i'w gilydd gan rym y gwrth- darawiad. Yr cedd cri yr anafusion yn dorcalonus i'r eithaf, ac er y daeth yno lawer o gynorthwywyr ar unwaith buwyd am amser maith cyn y llwydd- wyd i ryddhau y trueiniaid o'r — o —
Ceryddu mewn Angladd.I
Ceryddu mewn Angladd. I Ddydd Sad .vrn. yr oedd miloedd uedi tyru i angladd y pedwar dyn a ddujd yn y Jdamwain i'r cerbyd iii.)ciur yn agl)S i lloddesdon. Yr oedd a niyw o'r rhal y-n y ddamwain n bresenol. W, th anerch y dorf ar ol v- angladd, dywedai y ficer, y Patch C. 13 Law, nas gallai beidio teimlo mai 1>" W oeJd yn siarad wrthynt diwy y tiychineb. Y mae gormod o yfed o lawer yn y dosbarth," medda!, "gor- mod o dyngu a chablu-gormod o bob petii sydd ddl \Vg-ac y mae Duw yn siarad vvrthym, tc yn gal-.v arnom i I drui oddiwrth ei .Tyrdd anuwiol. Dyna II oedd neges y trychineb, a neges 0 al iad ydoedd. 1
Yr Eisteddfod Genediaethol.…
Yr Eisteddfod Genediaethol. I Wele rai o'r prif ddyfarniadau yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yr wythnos ddiweddaf:— Corau Merched—deg yn cystadlu I, Caerfyrddin (Miss A. M. Buckley). Corau Plant -deuddeg yn cystadlu: i, Nottingham 2, Llanelli 3, Aber- dar 4, Aberaman. Unawd Soprano (Cyinraeg)-42 yn cystadlu Miss Lizzie Kinsey, Ogmore Deuawd Soprano a ContrallO- 25 yn cystadlu Rhanwyd y wobr rhwng Eiizabeth Hall, Bury Port ac Olwen Thomas, Maesteg, gydag Annie Wheal a Gwladys Smith, Brynmawr. Unawd Baritone 70 yn cystadlu :— \V Davies, Rhymni. Pryddest y Goron, Ieuan Gwynedd" — I I yn cystadlu — Parch Wm. Evans, B. A., Bridgend; dyn ieuanc sydd yn I weinidog gyda'r Annibynwyr yn Bridg- end. Bu yn efrydydd yn Ngholeg Bala-Bangor. Nid yw ond deg ar hugain oed. Unawd Contralto-72 yn cystadlu :— M. L. Williams, Abertawe. Unawd Baritone (Gymraeg)- 63 yn cystadiu :-Griff. Hill, Morriston. Unawd Tenor-70 yn cystadlu :—J. Thomas, Pontycymmer. Yr ail gystadleuaeth gorawl-13 o gorau yn cystadlu :-i, Cymdeithas Gorawl Briton Ferry (E. Morris) 2, Cymdeithas Gorawl Hereford (H. Hampton). Testyn y Gadair-" Yr Aelwyd Gym- reig," 2op a Chadair Dderw Gerfiedig, g" erth iop.-Yiiigeisiai naw -Cadeir- wyd Mr T. J. Thomas. B. Sc. (Sarnicol). Cyfieithiad mvdryddol o'r Lladin i'r Gymraeg T. Roberts, Porthmadog. Corau Meibion, 18 yn cystadfu :-t, Abertawe (Mr T. Thomas) 2, Cleve- land Harmonic (Mr G. Hay). Unawd Soprano :-Ethel Bell, Bryn- mawr. Unawd Bass, 43 yn cystadlu :—Ben Nicholas, Maes y Cymmer. Unawd Contralto, 33 yn cystadlu Bronwen Williams, Llandilo. Soned, 24yn cystadlu Meudwy." Cerdd Duchan, is yn cystadlu E. Morgan H umphl eys, Caernarfon. Traethawd, 4 yn cystaLIlu :-Parch Owen Foulkes, Bettws, Abergele. -0-
IDim Edrych yn 01 yn I I Mhwllheli.
Dim Edrych yn 01 yn Mhwllheli. Er pan gyhoeddwyd gyntaf yn y uasg leol y naill adroddiad ar ol y lIall o Bwllheli ni fu dim edrych yn ol. Y mae tystiolaeth Pwllheli yn parhau i ddylifo i mewn,—ac yn well fyth,—y mae adroddividau y rhai gyhoeddwyd flynyddoedd yn ol yn gwireddu yr hyn loll ddywedwyd ganddynt mewn ffordd galonog ac anfethadwy. Darllenwch brofiad Mrs Griffith Ar Awst 2gain, igi i, dywed Mrs M. Griffith 19a, King's head Street, Pwll- heli Cefais oerfel drwy eistedd ar welltglas gwlyb, a rhaid fod hyn wedi effeithio ar ty elwlod, oherwydd dech- reuais ddioddet oddiwrth drwbl yr el, lod a'r yswigen. Yr oedd y dwr yn gymylog a drwg, ac yr oedd yna an- hawsder mewn rhyddhau yr yswigen. Teimlwn fy ngorff yn chwyddedig a thrwm. Dioddefwn lawer oddiwrth boenau ergyJjol cyfli, m yn y cefn Byddai un- byw ymegniad ychwanegol yn fy llethu yn lan, ac ar adegau byddai fy nghefn mor boenus fel nas gallwn bron symud. Er i mi roddi prawf ar lawer o gyffeiriau ni dderbyoiais ddim rhydd- had hyd nes y defnyddiais Doan's Backache Kidney Pills. Lie methodd y cyfferiau eraill llwyddodd y feddygin- iaeth hon. Yn awr y mae y dwr yn naturiol, a'r poenau a'r teimlad chwydd- edig wedi fy ngadae!. Nis gallat ddweyd gormod mewn canmoliaeth i'r feddyginiaetli ardderchog hon." (Ar- wyddwyd) Mis M. Griffith. Ar Mawrth 14eg, )913-dros ddeunaw mis yn ddiweddarach dywed Mrs Griffith Yr wyf yn ga'onog yn cymeradwyo bob gair ddywedais ynghylch Doan's Backache Kidney Pills tros ddeunaw mis yn ol Ni chanfyddais erioed un- rhyw feddyginiaeth i wneud cymaint o les i mi. Yr wyf yn eu cymeradwyo hwy i bawb ildonat i gjfarfyddiad a hwy. Pris 2s. gc. bocs, chwe' bocs am 13s. ac gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster m McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn e.glur am Doan's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mrs Griffith.
Arddangosfa Pianos. I
Arddangosfa Pianos. 17nwaitli eto y mae Mr. Bolloten wedi trefnu gyda gwneuthurwyr y per- donegau a'r organau goreu yn Lloegr a'r Cyfandir i g) oal arddanghosiad yn Mhwllheli, yr hon fydd yn agored am saith niwrnod —o ddydd Mercher, y i3eg cyfisol hyd yr 2:1 VJ. D) lai yr ar- ddanghosiad brofi :i fle ardderchog i bob un sy'n bwriadu prynu piano neu organ, gan y bydd yno ddetholiad rhag- orol i ddewis o hono, ac am brisiau nas gall beidio apelio at bob dosbarth, yn wir na chlywyd am eu cyftelyb erioed. Hysbysir ni, gan fod niter o offerynau ail law wedi eu cymeryd yn gyfnewid mewn arddangosiadau eraill yn Lloegr a Chymru, y dygir rhai ohonynt i'r ar- ddangosfa hon ac y cant eu clirio am brisiau isel iawn. Da fyddai i bavVb gefio na fydd yr arddangosfa ond am ych) dig- ddyddiau yn Untg-, a dylai y rhai sy'n bwriadu talu ymweliad wneud rhag blaen rhag y digwydd iddyut gael eu siomi.
Mr Lloyd George yn Anerch…
Mr Lloyd George yn Anerch y Mwnwyr. Brydnawu Sadwrn diweddaf, bu Mr Lloyd George yn anerch cyfarfod mawr yn yr awyr agored yn Sutton-in-Ash- field. Yr oedd dros ddeugain mil o fwnwyr o bob rhan o Nottingham wedi ymgynull yno i wrando arno a chafodd dderbyniad brwdfrydig iawn. Ymosododd Mr I loyd George yn ffyrnig ar y Toriaid ) 'n camliwio ac yn condcmnio y Ddeddt Yswiriant. Dy- wedai pob Tori, meddai, mai dyma'r Ddeddf Seneddol waethaf basiwyd yn yr amsaroedd diweddar. Ar y dechreu yr oeddynt yn dweyd fod gweithwyr y wlad yn talu a thalu o hyd, ac yn cael dim yn ol yn gyfnewid am eu harian ond yn awr yr oedd eu cAn wedi newid a dywedent fod y gweithwyr yn cael gormod. Dywedent tod mwy yn cael arian oddiwrth yr Yswiriant nag a ddylent. Gallasai un feddwl wrth wrando arnynt fod haner gweithwyr y deyrnas heb weithio ac yn cael tal afiechyd. Ond pwy tybed oedd yn cario ymlaen ddiwvdianau mawr y wlad yn y cyfamser. Gofynai a oeddynt wedi gweled rhai o dduciaid y wlad yn ddiweddar a cheibiau yn eu dvvylo. Gallasai fod rhywbeth yn y cyhuddiad o or-waeledd, a byddai y Llywodraeth yn fuan yn edrych i mewn i'r mater er gweled pwy oedd yn gyfrifol. Wrth gyfeirio at fendithion y ddeddf sylwodd I y Canghellor fod 270,000 o weithwyr yn derbyn budd oddiwrthi bob wythnos, ac onibae am y ddeddf ni fuasai gan 150, 000 o honynt unrhyw le i droi yn eu cyfyngder, oddigerth y plwyf. Yr oedd 13,000 yn barod o rai yn dioddef oddi- wrth y darfodedigaeth wedi cael trin- iaeth yn y sanatoriuins, a bron yr un nifer yn cael gweini arnynt gartref. Rhoddodd engreifftiau o rai teuluoedd oedd wedi derbyn y budd arbenig hwn, ac yr oedd yn barod i gyflwyno eu hen- wau i'r Toriaid fel y gallent osgoi eu tai wrth fynd o g" mpas i ofyn am bleidleisiau. Chai yr un Tori fawr o groeso yn yr un o honynt. Ond nid oedd y Ddeddf Yswiriant, meddai'r Canghellor, ond dechreu'r gwaith oedd i gael ei wneud er gwella eyflwr anfoddhaol y werin. Yr ydym yn symud ymlaen-yr oedd cyflwr y gweithiwr oedranus yn barod wedi ei wella, ac yr oedd miliwn o'r hen bobl wedi eu rhyddhau o bryder henaint a methiant. Yr ydym eto i orymdeithio i yn erbyn y cestyll oedd yn cadw'r tir oddiwrth y werin bob!. Byddai y frwydr yn ffyrnig a chwerw, ond os byddai'r werin yn unol eiddo hi fyddai'r fuddugoliaeth, ac wedi hyny byddai genym Brydain rydd lie y gallai pob dyn oedd yn barod i lafurio'n onest deimlo, pa helbulon bynag a'i cyfarfuai, na byddai iddo gael ei adael yn ddi- nawdd, na'i had yn cael eu gorfodi i gardota bara.
:Cyngor Dosbarth Lleyn.
Cyngor Dosbarth Lleyn. Dydd Mercher, Awst 6ed.-Mr J. Hughes-Parry yn y gadair. Y Ffyrdd.-Hysbyswyd y gwariwyd 142P. ar ffyrdd y Cyngor Dosbarth yn ystod y mis diweddaf. Dufr-Gyfltnwad Anfoddlwol.- VI oedd y swyddog meddygol yn awgrymu fod gwell trefniant yn cael ei wneud tuag at gyflenwi dwr i bentref Tydweiliog, gan fod y ddarpariaeth bresenol yn anfoddhaot, ac awgrymai yr un peth o barthed i ddwfr-gyflenw ol y Rhiw.— Pasivvyd fod i'r dwr yn Nhydweiliog gael ei archwiiio gan yr Arolygydd lechydoI. a phasiwyd gosod sugnedydd i gyflenwi dwr i'r Rhiw. | Cyflwr lechydol Aberdaron Vr oedd y Swyddog Meddygol wedi bod ar ym- weliad ag Aberdaron y mis diweddaf, ac yn ol ei adroddiad yr oedd wedi cael ei anfoddhau ynglyn a chyflwr iechydol y lie. O'r afon yr oedd pobl y pentref yn cael dwr i'w yfed ac at goginio. Yr oedd dwr yr afon yn cael ei amhuro gan fudreddi a redai iddi, ac nid oedd yn addas o gwbl i'w yfed. Rhaid oedd i'r Cyngor sicrhau gwell trefniant ar gyter cyflenwi y lie A dwr pur. Nid oedd carthffosiad y lie yn toddhaol o gwbl chwaith. Yr oedd carthion yn rhedeg trwy rhai treiniau ac yn ymar- Ilwys yn nghanol y pentref, ac un arall i'r afon redai drwy y lie, ac yn agos i'r lie yr arferai y plant gyrchu i chware. Pasiwyd fod copi o'r adroddiad yn cael ei anton i'r Cyngor Plwyf, ac fod i'r Arolygydd lechydol hysbysu ei fod yn barod i gyfarfod y Cyngor Plwyf gyda gohvg ar y ffordd oreu i gael gvvelliant rhag blaen yn y pethau y cwynid o'u herwydd. Codi Cijlofiaur Gweithwyr.—Yr oedd Pwyligor y Ffyrdd wedi bod yn ystyried cais y gweithwyr am godiad yn eu cyflogau, ac yn awgrymu fod cyflog y dynion wrth y dydd yn cael ei godi ddeunaw swllt i bunt yr wythnos, ac fod arolygwyr y ffyrdd yn sicrhau fod y rhai nad oeddynt wrth y dydd yn abl i enill punt yr wythnos. — Cynygiai Mr 0 G. Wlillams, ac eiliwyd ef gan Mr William Jones, Llaniestyn, fod y saton i fod yn ddeunaw- swllt fel o'r blaen. Cynygiwyd gan Mr J. R. Jones yn cael ei ategu gan Mri W. R. Davies a M. N. Jones, eu bod yn mabwysiadu ar- gymhelliad y pwyllgor, yr hyn a bas- iwyd trwy fwyafrif o bedwar. --o
[No title]
Dygwyd corff dyn canol oed, a dillad trwsiadus am dano, i'r marwdy yn Newmarket ddydd Sadwrn, ynghyda beisicl maluriedig Dywedai gyriedydd modur i'r dyn geisio croesi'r ffordd o flaen y modur ac iddo gael ei daro i lawr. Yr oedd wedi marw pan y cod- wyd ef i fyny.
Eisteddfod a NY. y Bane, J…
Eisteddfod a NY. y Bane, J Pwllheli. Beirniadaethau BEIRNIADAETHAU Telyneg. Tro trwy'r \Vîg- Derbyniwyd 16. Amser a ballai i ddyn wneud sylwadau manwl arnynt o un i un. Ond ceisiat" osod allan nod- wedd a gwerth pob un. Tan yr Otin, Lief o'r LliOyn, Tan y Deri ac Ap Aniaii. — Y mae gan Tan yr Onn ddau bennill a chryn lawer o dlysni ynddynt; ond lied wan a di-bwynt yw'r ddau—ac yn cael eu difetha i raddau mawr gan y tair llinell sy'n dal Robin Goch a'r Oriw." Rhaid i Lief or Llwyn ddysgu mynegi ei feddwl yn well- mewn cywirach iaith-cyn y gall ganu yn dderbyniol a chanmoladwy. Pe buasai Tan. y Deri wedt canu cystal trwy'i gerdd ag y can yn ei dri pennill cyntaf, buasai ei safie yn Ilawer uwch yn y gystadleuaeth. Ond gwanhau-a gwanhau liawer—y mae yn y pedwar arall. Ceir osgo telynegydd addawol yn nghan Ap Anian. Ond cyn IIwyddo'n dda, rhaid iddo ddysgu gwarchod arno'i hun rhag gollwng allan bethau mor wantan a "Cei glywed eos yn datgan cerddoriaeth vn liond ei big," a "Mae nghalon fel pig eos." Yn awr deuwn at ddosbarth tipyn uwch, yn yr hwn y cawn ganeuon Yr Awen Lesg, Llesg, Aivroia, LIeVelyn, Ciw- pid, Gwas y Gog, Acen Ferr, Yn y Glas, Adyof, Gwyn ap Nudd, Ysivigio a Gyda'r A dar. Yr Awen Lesy.-Y mae cryn lawer o swn ac o swyn telyneg yn y tri phennill hyn. Y gwaethaf yw, fod y gdn yn troi yn lled wan a llesg yn y pennill olaf. Prin y cred hyd yn oed bardd hefyd i'r awdwr glywed y wawrddydd yn cath- lu cerdd. Llesg.- Telyneg fach bur lan a bodd- haol, ond heb ddigon o fywyd ac ynni i fod yn foddhaol iawn. Aivrora. — Un o'r telynegion hwyaf yn y gystadleuaeth, ac un yn cynwys lIawer o dlysni a nwyf ac ysbryd gwir delyneg. Anffodus iddi a fu i'r bardd gael ei dynnu i son cymaint am y Goruchaf ynddi--o'i dechreu i'w diwedd. Bron bob tro y cyfeiria ato Ef y mae yn colli'r afael ar gymeradwyaeth y darllenydd. Dyma ddwy engraifft o'r peth Y Duw sydd yn ganmil tlysach nag ud Yr Alban sy'n gwynnu'r gororau hyn." "Pwy fel fy liun pan yn ymdaith drwy'r coed? A phwy na. fola a salm ar ei fin, Wrth m el'd yr Hwn sy'n gwueud gwyrthiau eiioed Yn gwasgar llwch aur dros bob deileu grin." Nid ystwyth chwaith, na da, yw llinell fel hon:- "Withi'n goreuro gwrddleis ddail tlws hon." Llewelyn,—Yr un awdwr, a thelyneg gyffelyb, yn dechreu fel hyn:- Goedwig gyfareddol, Deuat diwy dy byrth I gael gwel'd y Dwyfol Yn cj flawui gwyrth. Canfum Kf yn cenlded Dros dy ddail yr haf, A phryd hwnnw, dlysed Ydoedd camrau'm Naf." Yn yr un lie y terfyna'r delyneg hon hetyd- ar tryniau'r Wiwnef." Yr oedd y bardd hwn yn^ nghwmni ei Olwen" -ac "fel addolgar sant" yr oejd, mae'n amlwg. Ciwpid.—Byrr ei hyd a byrr ei chor- fan yw hon. Y mae ynddi gryn lawer o dlysni, ac awgrymai mwy nag a ¡ draethir. Gresyn fod ynddi ambell air yn cael ei gam-ddetnyddio, fel "chwar" am chwery, a phennill neu ddau mor wan a hyn "Y cangau, yn ffel, ymblyg fel i waered, A sisial y dail fel pe yo dynwared." Gwas y Gog.-Telyneg dlos a melys iawn. Gresyn oedd i'r bardd dorri cymaint ar ei rhediad yn y tri phennif I olaf, drwy ddwyn gormod o gyfnodau i mewn. Rhyw un olygfa sydd oreu i fod mewn telyneg. Ond yn hon cawn yr awenydd yn canu yn y pedwar tymor -ac yn canu'n waelach, waelach, ar ol gadael y gwanwyn. Gwell a fuasai golvvg arno gyda'i Wenfron cyn y priodi a'r colli, a'r myn'd yn hen, ^ac heb gyfeirio at y "tro trwy'r wig fel testyn wedi ei roddi i ganu arno. Acen PerL-Un arall o'r un nodwedd ac ansawdd o ran tlysni a nwyf a melys- der. I bob un o'r pum pennill y mae pedair llinell fel byrdwn, neu gasgliad. Fe fuasai'r gan yn well heb y rhain, canys lied wan a gwael yw pob un. Meddylier am ddechre telyneg a ddylasai fod yn un berffaith fel hyn Y bardd yn cerdded gyda chalon drom hyd feddau'r dail yn y goedwig, ac yn troi o'r neilldu ar unwaith i ddywedyd- Dyfnach na beddau Y goedwig WIW,- Mae bedd i mionau Yn erw Duw Toriad chwith ar y rhediad ar un- waith, onide ? Ac y mae'r gweill hwn yn fwy amlwg fyth yn niwedd y g;int- heblaw fod yr iaith yn gwasgu ac ystumio'r meddwl yn y pennill a'i fyr- dwn. Yn y Glas.- Y chydig- sydd i'w ddy- wedyd am hon. Gwneir hi i fyny o bedwar pennill glan, ystwyth, naturiol, a thawel,-rhy dawel a di-newydd-deb i gynhyrfu nemor ddim arnom. Gochel- ed y bardd linell fel hon 44 Yn ilifo gyda swyn." Ac ymofyned, rhag ofn nad ydyw yn iawu, ai benywaidd yn iaith Cymru yw cyngherdd. Adgof.-Hon sydd wedi ei hodli oreu o holl delynegion y gystadleuaeth ac y mae hi yn delyneg lân. awenyddol, a hyfryd. Gwell fuasai pe tipyn mwy o wres yn rhywle ynddi. Dylai yr awdwr wylio rhag gollwng pethau di-afael i'w waith rhagorol, fel A gwenais wrth weled y lili mor dlon." ac yn enwedig ei ddiweddiad — Os myneuh chwi ddeall cyfrinach y swynion- fy nghwmni pan rodiwn Lr%% yIr wig Gwyn ap il",Ittltl.-Cin arall a golwg lân-a gwaith pur ]in -arni,-cAn sy'n delyneg beraidd a hyfryd. Y yes sydd dipyn yn brin yn hon eto. Anodd yw canu mewn ambell i fesur, fel y mesur hwn, heb ada-.I i fanion cynorth- wyol yr iaith f)-n'd Liaii bwyslais, fe! y dengys ail bennill Gwyn ap Nudd. Or:J dylai pob awenydd medrus fel ef al!u cadw draw linell mor afrwydd a hon Yno mewn distiiwrwydd wrthyf f'hut an." 1 swigw a Gyda'r Adar.—Dymu, yn ddiameu genyf fi, y ddwy delyneg ber- ffeithiaf, a goreu ymhob ystyr, 1 "}6 hyn. Ac nid g\\aith hawdd a by.. yw penderfynu rhwng y ddwy. Ond ar ol eu darllen droion drosodd,,nid wyf yn petruso dywedyd mai telyneg G!Jdù'r Adar sy'n troi y fantol. Nid oes ynddi ddim mor wan a trydydd pennill Ysirig>r, ac y mae ynddi fwy o w;s a. gatael, heblaw fod ol gwell celfydjcSydwr o beth arni. Dyma drydydd pennill Yswigw:- Llam fy nsjhalon pay gwelaf Nythod diddos uwch fy mhen; Ger fy llaw ynghesail twinpath, Neu mewn aen pren Yn fy ngwylio Gan rybuddio, Mae un tlws a chalon wen." A dyma drydydd (a gwaelaf) pennill Gyda'r Adar:- Eogyl sydd ar y gwydd Yn croesawu tad y dydd Dan ei wres dawnsia'r tea 0 gylch godre mam y mlis Yntau weua'u frwd ei serch, Gan addurno gwisg ei ferch Ei gyfarchion i'w cherddorion EDfyn o'i breswylfa dderch." Cewch ddisgwyl am y pum pennill eroreu o'i gdn. Gwobrwver Gilda'?- Adar.—ALAFON. -0-
Cyrnol Cody yn cael ei Ladd.
Cyrnol Cody yn cael ei Ladd. Cyfarfu Cyrnol Cody, yr awyrwr en- wog, a'i angau, pan yn ehedeg yn Aldershot, yr wythnos ddiweddaf. Bvvriaaai gystadlu mewn cystadleuaeth bwysig yn fuan, ac yr oedd yn ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth gyda pheiriant o'i ddyfais ei hun. Yr oedd wedi gwneud un ehedta Iwyddianus, ac ym- hen ychydig wedi hyny aeth i fynu drachefn, a chyfaill iddo o'r enw Mr W. B. Evans gydag d. Ehedant yn hwyl- us am beth amser, ond pan uwchben Ball Hill, ac yn uchel iawn oddiwrth y ddaear, gwelai y dorf frawychus un o'r dynion yn cael ei daflu oddiar ei sedd yn yr awyrlong ac yn disgyn i lawr. Dis- gynodd yr awyrlong a'r awyrwr arall ar ei ol. Yr oeddynt yn hollol farw—pob asg wrn yn eu cyrff wedi ei dori. Yr oedd Cyrnol Cody yn un o'r awyr- wyr mwyaf enwog. Awst diweddaf enillodd werth pum' mil o bunau o wobrwycn am ehedeg. Yr oedd wedi dyfeisio a gwneud ei beirianau ei hun yn gyfangwbl, ac nid oedd ganddo y fantais o gyfoeth ag a feddai eraill at eu gwasanaeth, ac nid oedd ychwaith wedi cael ei addysgu ar linellau gwydd- onol, ond yn unig hyny o addysg a allodd g -sglu ei hun. Y peiriant gyda'r hwn yr enillocid y wobr o 4,ooop mewn cystadleuaeth oedd y gyflymaf o'i bath yn y byd. --0--
Protestio yn Erbyn Dadgysylltu'r…
Protestio yn Erbyn Dadgys- ylltu'r Eglwys. Ymgynullodd rhai miloedd o Eglwys- wyr Gogledd Cymru yn Gwrecsam ddydd Sadwrn i brotestio yn erbyn Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys. Nid oedd ond copi ar raddfa Jai o arddang- osiad cyffelyb a gynhaliwyd yn Hyde Park, Llundain, ychydig amser yn ol. Yn herwydd tod heolydd Gwrecsam yn gulion o'u cymharu a rhai Llundain, ac o'r herwydd yn anaddas i orymdeithiau mawreddog, tipyn yn ddieffaith a thila oedd yr orymdaith ddydd Sadwrn, ac nid oedd y trefniant yn agos i ganmol- adwy. Nid oedd haner y bobl wedi cyraedd i'r lie y traddodid yr anerch- iadau pan ddechreuwyd y cyfarfod, a pharhaent i orymdeithio i'r lie hyd ddiwedd y cyfarfod. Yn wir, pan oedd rhai yn gadael y lie ar ol i'r penderfyn- iad" u gael eu pasio, yr oedd eraill yn cyraedd yno. Cenid yno amryw emyn- au, sef 'Marchog Ie.su yn llwyddianus,' "O fryniau Caersalem," &c., a chan- molid y canu yn fawr. Yn mysg y rhai oedd yn anerch oedd Arglwydd Powys, Esgob Llanelwy, Arglwydd Harlech, Syr Alfred Crisp, A. S., Arglwydd Robert Cecil, Arglwydd Wolmer, Syr Watkin Wynn, Mr H. E. Duke, A. S., a Mr W. Ormsby Gore, A.S. o
Ymwelydd yn Boddilr. - 1 ,¿J…
Ymwelydd yn Boddilr. 1 ,¿J Bermo. > INLOIW Bu foddi ymwelydd ieuanc tal- hugain oed, o'r enw Clarence W.,cren, o Birmingham, wrth ymdroc'1 yn y Bermo, ddydd S41. Aethef.Miss Powys, ? ddy?d,d_ i ymdrochi hefo'i gilydd a chan fod Mr. Warren yn noRwr da aeth afll,an yn bell i'r mor. Yntúan cantu Miss Powys ei fod yn suido, ond nis gallai fynd ato. Deuwyd o hyd i'w gorff yn mhen rhai oriau wadi hyny. Nos Sad- wrn yr oeddynt wadi dod i'r Bermo.
[No title]
Ysbeiliwyd gwr o Sais, pan y cysgai wrth groesi mewn agerlong i Belfast, o'r holl arian oedd ganddo gydag ef- yn agos i 30P.