Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Advertising

NODION A HANESION.

I Modur yn Syrthio i'r AfonI…

IA yw Pwllheli'n Foddhaol…

Cael Teulu wedi eu Lladd mewn…

Y Canghellor yng Nghaernarfon.

[No title]

Yr Hunanladdiad yn Bangor…

News
Cite
Share

Yr Hunanladdiad yn Bangor Yr Hunanladdiad yn Bangor I DADLENIADAU TRIST. Nos LLi! ythnos i'r diweddaf, bu I Mr J. Pentir Roberts, y crwner, a rheithwyr, yn gwneud ymchwiliad i achos marwolaeth Annie Owen, yr hon a wasanaethai yn Ty Coch, ger Bangor. Dywedodd mam yr eneth i'w merch ddweyd wrthi ei bod wedi saethu ei hun oherwydd "mab Bryn Dreiniog." Yr oedd wedi ei weled I),S Sul, meddai hi, ac wedi dweyd wrtho am ei chyflwr. Dywedodd yntau pe bae yn gwybod hyny y buasai wedi mynd i ffwrdd. Dywedai'r fam fod ei merch yn eneth falch. Tystiwyd gan John Jenkins, gwasTy Coch, fel y canfu yr eneth wedi ei saethu, ac iddi ofyn iddo beidio dweyd wrth neb. Aeth yntau i not y meddyg ati. Yn nesaf galwyd ar Dr Helsby, yr hwn a alwyd i Ty Coch at yr eneth. Dywedodd iddo weled yr eneth yn ei gwely mewn llyn o waed. Canfu ar- choll ergyd yn ei hochr cbwith Yr oedd yi eneth yn galiu siarad ac yn hollol glir ei meddwl. Cymerwyd hi i'r ysbyty a phenderfynv. yd yno wneud operation arni, er nad oedd unrhyw obaith y gwellhai. Bu farw cyn cymeryd y chloroform. Addefodd yr eneth wrth Dr Helsby ei bod mewn trwbl. Gofynodd iddi pwy oedd tad y plentyn, dywedodd hithau mai mab Bryn Dreiniog. Yr oedd wedi dweyd wrtho am ei chyflwr nos Sul, ac yntau wedi dweyd yr aeth- ai i ffwrdd pe y gwyddai yn gynt. Arbedat hyny iddo," meddai yr eneth wrth y tyst. Tystiwyd gan fab Ty Coch i'r eneth ddod yno i wasanaethu yn igi i. Ei eiddo ef oedd y gwn. Nid oedd ergyd ynddo nos Sadwrn. Yr oedd yr eneth yn ferch ifanc weddus, iach, a siriol iawn bob amser. Yr oedd braidd yn isel ei meddwl nos Sadwrn, a phrin yr oedd yn ei ateb pan ddywedai rywbeth wrthi. Gwelodd amryw fechgyn yn dod gyda hi droion ond nid oedd yn eu hadnabod oil. Yna galwyd ar Robert Meickle, "mab Bryn Dreiniog," ond sylwodd y cyf- reithiwr wrth alw arno nad oedd un- rhyw gyhuddiad yn ei erbyn. Holwyd ef yn fanwl o barthed i'r eneth, ac mewn atebiad dywedodd y bu yn ysgrif- enn ati pan oedd yn Llundain. Nid oedd wedi bod gyda hi ar ol iddi ddod yn ol. Nid oedd wedi ei gweld nos Sul ond o bell. Dywedodd "Nos da wrthi. Nid oedd erioed wedi dweyd wrto ef ei bod mewn trwbl- Gofynodd un o'r rheithwyr iddo a oedd yn gwadu datganiad yr eneth ar ei gwely marw, ac atebodd yntau ei fod. Bu y rheithwyr am ysbaid maith cyn dod i benderfyniad, yn y diwedd pas- iwyd y rheithfarn a ganlyn Fod yr eneth hon wedi gwneud diwedd ar ei heinioes, a'i bod, yn ol tystiolaeth Dr Helsby a'i mam, yn dioddef oddiwrth anhwylder meddyliol ar y pryd."

-u - I Damwain Fawr mewnI…

- - - - -=-=-======-Eisteddfod…

I Yn Aberth i'r Tonau. I

-o - Cansr. Iwyddiant Emrys.

-0 - Marw Dr Grey Edwa* **^…