Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Advertising
AT £IN GOHEBWYR. Aufoner erbyn BOREU SAL'W'RN y fan bellaf Pob aichebion a thaliadan am Vr j UDGOBW i'w haufot; i'r GORUCHWYLIWR, 74, High Street, Pwllheli, j Pob gohebiaeth i'w cyfeirio— YB UDGORN OFFICE, PWLLHELI. Bydd yn dda genym dderhyu goheb- I isetban oddiwrtb ohebwyr ar fateiicn ileol o ddyddordeb cyhoeddus
NODION A HANESION.
NODION A HANESION. Barddones Gadeiriol. Yn Eisteddfod Newmarket, Fflint, allan o saith ar hugain o ymgeiswyr, enillwyd y gadair gan Mrs Wynne Thomas, Blaenau Ffestiniog. Hwyr- nos Haf oedd y testyn. nos Haf oedd y testyn. + Boddi yn ei Gwsg. Caed corff ymvvelydd ar draeth Scar- borough ddydd Llun. Bernid ei fod wedi gorwedd i lawr ar y tywod a chysgu, ac i'r llanw ddod i mewn a llifo trosto a'i foddi. Lladd Dynes ar yr Heol. Cafodd dynes o'r enw Jane Wiseman ei lladd ar yr heol yn Kirkdale, Lerpwl, yn hwyr nos Sadwrn diweddaf. Y mae un o'r enw William Griffiths, dyn ifanc tair ar hugain oed, wedi ei gymeryd i'r ddalfa ar amheuaeth o fod yn euog o'i llofruddio Tan Mawr yn y Bermo. Aeth yr eithin a orthuddiai y mynydd y tu ol i dref y Bermo ar dan ddydd Llun, a bu y tan-ddiffoddwyr yn cael eu cynorthwyo gan y trefwyr, a'r ym- welwyr am oriau yn ceisio ei ddiffodd, gan fod y tai sydd ar lethr y mynydd mewn perygl, ond yn ffodus ni ddi- gwyddodd unrhyw niwed i eiddo. Marw ar Draeth y Bermo. Caed boneddwr, yr hwn a arferai ddod i Bermo bob haf er's blynyddau, yn gorwedd ar draeth y Bermo ddydd I Sadwrn. Yr oedd wedi bod allan mewn cwch wrtho'i hun, a chaed y cwch a'i wyneb yn isat ar fin y dwr. Yr oedd y boneddwr yn fyw pan wet- wyd ef gyntaf, ond bu farw ymhen ychydig wedi hyny. Y Cwch Gwag. IJogodd dyn ieuanc dieithrgwch gan Mr Williams, cychiwr yn Bau Colwyn, I ddydd Iau diweddaf. Ymddangosai yn | hollol gyfarwydd a thrin cwch a rhwyt- odd ynddo allan ymhell i r mor. Gan na ddychwelodd rhoed hysbysrwydd i avvdurdodau y goleudy a'r hywydfad am dano. Ni chiywyd dim o'i hanes byth, ond daeth y cwch i'r Ian yn Llan- ddulas nos Wener. Dirwyo Mrs Satow. Yr wythnos ddiweddat dygwyd Mrs Satow, Dolftiog, o flaen y llys yn Deu- draeth, ar gyhuddiad o yru ei modur mor g) fiym nes perylu bywydau y rhai oedd ar y ffordd. Addefai ei bod yn mynd yn rhagor nag yn ol ugain miiltir yr awr, ond nad oedd yn mynd fel ag i beryglu bywyd neb. Addefodd hefyd y cafodd ei dirwyo yn fl-ttno ol am oryru Dirwywyd hi gan y Fainc i top a'r costau. Cael Corff ar Fferm. Ddydd Sadwrn diweddaf caed corff i dyn ar fferm ger Guiseley, ac adnabu- wyd ef fd Mr A. E. Grimshaw, cerddor a chyfansoddwr enwog o Leeds. Yr oedd Mr Grimshaw yn dioddef oddiwrth j ddiffyg cwsg. Aeth o'i gartref heb yn wybod i neb tua tair wythnos yn ol, ac ni wyddid dim yn ei gylch hyd nes y caed ei gorff fel y nodwyd. Yr oedd yn gerddor adnabyddus iawn, ac wedi cyfansuddi rhai caneuon poblogaidd < Syrtbio Oddiar Feisici a Boidi. Gwelwyd di'wj'ddiad rhyfedd iawn ddydd LIun gan dort fawr oddiar draeth Aberdyfi, sef gyriedydd beisicl yn syrth- io oddiar ei o!wynfarch i'r mor ac yn boddi. Gwelid ef ,r ochr Ceredigion i'r aber ac yn mynd fel pe bae am groesi i ochr Aberdyfi, ond yn sydyn gwelid ef yn cwympo i'r afon. Yn ddiweddarach cod wyd ei fe;s;cl o'r a fon. Yr oedd basged yn h" ym wrthi a dwy goler a dau lyfr ynddi. Methwyd a dod o hyd i gorff y trancedig. Trychineb yr. Aberystwyth. Digwyddodd trychineb adtydus yri ng"eisnit y milwyr yn Aberystwyth ddydd Sadwrn. Lladdodd y Rhingyll Walsh, a berthynai i Fataliwn West Riding, ei hun. Yn y trengholiad ar y corff dyvvedwyd y bu yn y rh) tel yn Ne Affrica, ac fod yr haul wedi taro arno yno. Bernid fod y tywydd poeth j deweddar wedi effeithio arno yr un modd. Pasiwyd iddo ladd ei pan { mewn cyflwr o orphwylledd.—Yr oedd y gwres wedi effeithio cymair.t ar un arall o'r milwyr nes ei yiu'n wall&,of. Marwolaetb Hynod. Cynhali wyd t engholiad yn Llundain y dydd o'r blacu ar gorff Miss Eliza- beth Lewis, Bryn y Graig, Aberdvfi, yr hon a gaed yn farw mewn baddon. Yr oedd Miss Lewis yn gwasanaethu fel mamaeth yn Ysbyty St. Bartholomew j er's ychydig amser. Foreu Gwener di- weddat collwyd hi o'r ward, ac ar ol chwilio am dani caed hi yn gorff mewn baddon yn y cartref i Famaethod cysyllt- icdig a'r ysbyty. Barnai y meddyg a wnai archwiliad ar y corff mai mynd i'r baddon yn rhy fuan ar ol bwjta wnaeth y drancedig, ac i'r dwr efallai fod yn rhy boeth, ac i'r eneth lewygu a mygu i farwolaeth Yr oedd ei phen allan o'r dwr. + Edrych ar Td>i, yn cael ei Ladd Pan oedd dyn o'r enw Hutchinson yn mynd oddiwrth ei waith yn un o ddociau Hull gwelai bump neu cbwech o ddynion yn ymosod ar un o weithwyr y dociau. Aeth i amddiffyn ei gym- rawd, a chythruddodd hyny yr ymosod- wyr. Gadawsant y lIall a throesant ar Hutchinson, cura--ant a chiciasant ef nes ei ladd. Dy? edir fod torf o bob! yn edrych ar y dyn yn cael ei guro end nad ymyrodd yr un o bonynt i geisio ci amddiffyn. Dywedir hefyd fod yno haid o dd yhirod ii y He sydd yn peri dychryn i'r trigolion drwy eu hymddyg- iadau aflywodraethus. Boddi'n Ngwydd ei Wraig. Aeth dyn o'r enw Whittaker gyda chyfaill iddo i ymdrochi ger Aldborough ddydd Sul. Arhosodd eu gwragedd ar [ y traeth, tra yr oedd eu ^gwyr yn ym- drochi. Yn fuan gwelwyd fod Whit- taker yn suddo, ac er holl ymdrech ei gyfaill i'w waredu bu foddi. Yr oedd ei wraig yn ei weld yn boddi, a rhuthr- odd i'r dwr l geisio mynd ato, ond llwyddwyd i'w chael i'r Jan yn resynus iawn ei chyflwr.
I Modur yn Syrthio i'r AfonI…
Modur yn Syrthio i'r Afon .? Conwy. Y r wythnos ddiweddaf, digwyddodd damwain frawychus i Mr Clarke, yr hwn sy'n trigo yn Morfa Conwy. Yr oedd yn mynd yn ei fodur ar hyd y cei, ac wrth geisio troi yn ol aeth ef a'r cerbyd tros y dibyn i'r afon. Llwydd- odd i neidio o'r modur pan oedd yn disgyn i'r dwr, a nofiodd ar draws yr afon heb fod nemor ddim gwaeth. Yr un boreu yr oedd modur yn dod o gyfeiriad Llandudno i Bau Colwyn, ac aeth yn e' byn post lamp g.d1 ei dori'n ddau a'i godi o'r ddaear. Wedi hyny aeth y modur drwy y rheiliau sydd yn cau y rheilffordd oddiwrth y brif ffordd dringodd i tynu'r l ethr a chwympodd yr ochr arall.
IA yw Pwllheli'n Foddhaol…
A yw Pwllheli'n Foddhaol ? DATGANIAD GAN DDYNES 0 I BWLLH ELI. Cyn y gellir derbyn datganiad yma rhaid iddo gael ei gefnogi gan dystiol- aeth leol-tystiolaeth rhywun yn bywl yn Mhwllheli. Gall tystiolaeth pobl anadnabyddus o leoedd pell tod yn w ir, ond nis gallwn ei brofi Dyma ddat- ganiad gan ddynes o Bwilheli :— Roedd fy nghefn bob amser yn wan," medd Mrs M. Glynn-Jones, 31, North Street, Pwllheli, "a chredaf y rhaid fod gwendid yn fy elvvlod. Cai yr anwyd lleiat effaith arnaf, a chawn y fath boenau brathol with blygu fel mai prin y gallwn ymsythu drachefn. Ni chawn orphwysdra'r nos, a phan y codwn yn y boreu teimlwn yn flin a hollol anaddas i w neud dim. Cawn gur mawr yn ty mhen, yr hyn a wnai i mi deimio'n druenus. "Rhoddais brawf ar amryw feddyg- iniaethau, ond ni chefais wellhad hyd nes y deinyddiais Doan's Backache Kidney Pills. Gallvvn ddweyd ar ol yr ychydig ddognau cyntaf fy mod wedi cael y teddyginiaeth iawn ar gyfer fy anhwylder, a pharheais gyda'r pilenau nes yr oedd pob arwydd o'r trwbl ar ty elwlod wedi cilio. Af ar unwaith am Doan's Pills yn y dyfodol, os y teimlat fod yr hen afiechyd yn ail ddechreu." (Arwyddwyd) (Mrs) M Glynn-Jones. Pris 2s. ge. bocs, chwe' bocs am 13s. 9c.; gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Welis Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pilis, gofyn- wch yn eglur am Doan's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mrs I Glyn n-Jones.
Cael Teulu wedi eu Lladd mewn…
Cael Teulu wedi eu Lladd mewn Bungalow. Yr oedd Mr Frederick Herbert Gallon, brawd Mr Tom Gallon, y nofelydd, a i wraig a'i fachgen bach, yn bNw mewn bungalow hen ffasiwn ger pentref Kingshill, Buckinghamshire er's tua.dvi-y flynedd. Yr oeddynt yn bobl garedig ac yr oedd y bath6'en bach yn ff^fr\ n mavv r gan bobl y pen- tref. Li's ychydig ddyddiau'n ol syl- w\d nad oedd yr un o'r teulu wedi cael eu gueled er's peth amser, a ddechreu'r o r blaen aed i wneud ym- chwniad yn eu cylch. Pan aed i'r bungalow caed y t i ) n goiff ar lawr yr yst;.fell. Yn y tI en holiad gynhaliwyd ar y cyrff yn ddiweddarach pasiwyd rhciihfarn i'r fam a'r plentyn gael eu nut t.Jdio gan Frederick Gallon, ac iddo wneud diuedd ar ei einioes ei hun wedi hyny. Oddiwrth ddarnau o lythyrau a gaed yn y lie, ac oddiwrth dysthltaelh ei fraud, yr oedd yn amlwg fod v trancedig mc%A n anhawsder arian- ol, a bernir fod h. ny wedi effeithio ar ei teddwl.
Y Canghellor yng Nghaernarfon.
Y Canghellor yng Nghaer- narfon. GWYS I'R GAD. Cyrchodd miloedd lawer i Gaernarfon, ddydd lati diweddaf, i weled a chlywed Mr Llovd George. Yr oedd y pafiliwn a chapei Morifh yn rhy fychan i gyn- wys y rhai ddymunent ei glywed yn siarad, ac yr oedd miloedd lawer yn gorfod aros o'r tuallan. Cafodd groeso brwd anarferol gan y tyrfaoedd hyd yr heolydd ac oddimewn i'r adeiladau y bu yn anerch ynddynt. Yr oedd dros ddeng mil yn bresenol yn y pafiliwn, a phan gododd y Canghellor i siarad rhoes y dorf tawr dderbyniad ardd- erchog iddo. Sylwodd ar ddechreu ei araith ei fod yno ymysg cyfeillion. Yr oedd llawer yn y wlad yn ei gashau, a hyny am iddo yn rhinwedd ei swydd fel Canghellor drethu'r cyfoethog yn hytrach na bwyd y werin. Nid yn unig yr oedd tir y cyfoethog wedi ei drethu, ond yr oedd hefyd wedi ei brisio, ac o herwydd hyny ni chai y perchtnog godi mwy na'i gyfiawn werth am dano yn y farchnad. Atgasedd at y cynygiad hwnw barodd i Dy'r Arglwyddi dynu dinystr ar ei ben ei hun, ac ni byddai i'r arglwyddi anghofio na maddeu hyny byth. Efe oedd yn cael ei gashau am y dinystr, ac nis gallent edrych ar yr alanas heb gyfarth a chwyrnu arno ef. Tybient yn awr ei fod am wneud ymosodiad ffyrnig ar y llywodraeth a feddent drwy rym eu cyfoeth ar fywydau, a hapus- rwydd y miloedd. Ac yr oeddynt yn tybio'n gywir. Nis gellid disgwyl gan hyny iddynt beidio ffromi a cheisio drwy bob malais ei gael ef oddiar y ffordd. Yr oedd un o honynt—Ar- glwydd Northbourne-wedi dweyd y rhostiai ych ac yr arlwyai wledd fawr yn y pare y diwrnod yr ai et o'i swydd. Gwyddai yn dda am Arglwydd North- j bourne, a phan y byddai y tan yn cae I ei gyneu yn y pare, awgrymai iddo beidio mynd yn rhy agos ato, rhag ofn i gamgymeriad ddigwydd ynglyn a'r rhostiedig. Yr oedd Ty'r Arglwyddi, meddai y Canghellor yn mhellach, wedi taflu allan dri mesur pwysig ar y tir nad oedd y wlad wedi rhoi ei llais arnynt. Nid oeddynt yn defnyddio'r ewyddor hono ond yn unig o barthed i'r mesurau Rhyddfrydig. Honent y dylai y Llywodraeth Ryddfrydol gael llais pob dosbaith yn y wlad ar bob cwestiwo cyn pasio unrhyw fesur, ond nid oedd hyny yn angenrheidiol gyda Llywod- raeth Doriaidd Yr oedd yn haws i gamel fynd drwy grai nodwydd nac i tesur Rhyddfrydig fynd drwy Dy'r Arglwyddi, ac yr oedd eisieu cau y crai hefyd rhag ofn y digwydd i'r camel ymwthio drwodd yn wyrthiol. Ym- dJygent at bJb mesur Toriaidd fel pe bae yn un o'r teulu, a chai bob croeso. Edrychid dros ben ei ffaeleddau a chai ei dywys drwy y drws a arweiniai at balas y Brenin. Bygythiai y Toriaid godi mewn gwrthryfel os pesid Ym- reolaeth i'r Iwerddon, ac nid edrychent ar hyny fel teyrn-fradwriaeth gan yr honai y Toriaid eu hod hwy uwchlaw deddfau wedi eu gwneud gan Ryddfryd- wyr. Ond yr oeddynt yo anghofio hanes eu gwlad eu hundin. Anghofient y cariad angerddol at ryddid ar hyd yr oesau. Nis gallai pobl o ysbryd ddi- oddtf yr amgylchiadan presenol yn hir. Yr oeddynt yn treisio ar hawliau dis- gynyddion pobl oedd wedi dinystro brenhiiiiaethau ac Eglwysi cryfion pan y deuent yn offerynau gormes. Nis gallai unrhyw wlad a pharch iddi ei hun oddet y sefyllfa hono yn hwy. Yr oedd yn rhaid diddymu yr Ail Dy presenol, ac yr oedd y Prif Weinidog wedi hysbysu y byddai y flwyddyn nesaf yn cjflwyno mesur o Ail Dy Seneddol newvdd Nid oedd rheswm o gwb! fod dynion yn cael llunio mesur- au a llywodraethu ar hum' miliwn a deugain o bobl heb unrhyw awdurdod o g-wbl o'r tu cefn yn amgen na'r honiad o hawliau llinach. Ond teimlai y Canghellor, meddai I efe, tod y cyfarfod o agwedd bersonol yn hytrach na pholiticaidd, ac nid oedd am hyny am ofyn iddynt ei esgusodi am ddwyn cyweirnod personol i mewn with derfynu. Teimlai ei hun fel; aderyn y ddrycin. Wedi bod am beth: amser yn ddiwtdd r yn ymladd yn erbyn y dyirsestl ac yn cael ei guro gan y tonau, ond yn awr wedi dod i orffwys am enyd ar greigiau glanau ei fro ei hun. Ond yr oedd yn mynd yn ol yn tuan drachefn i'r dymestl—dyna oedd i ei elfen. Gwyddai y byddent hwy yn ei wylio gyda llygaid pryderus a chalon- au serchog, a byddai hyny yn galondid mawr i ddyn yn arwain bywyd ystorm- us. Gwyddent hwy yn well am dano nag y gwyddai neb arall, a Hawenydd mawr iddo oedd y ffaith mai y rhai a'i hadwaenai oreu oedd wedi glynu a chredu mwyaf ynddo. Yroedd rhywun wedi adgofio iddo y diwrnod hwnw am yr amser yr oedd yn anerch cyfarfod yn Nghaernarton mewn gwisg o trethyn cartref. Gallai ddweyd ei fod yn awr yn urddwisg CanghtH -r y Trysortys yo ceisio cario ailan wyddorion a bregethau gynt mewn o.ethyn cartref. Yr oedd arno eis;eu clirio'r rhwystrau fel ag y gallai Rhagluniaeth gael ffordd glir i gario ei thrysorau o oleuni, awyr, cynhaliaeth a gobaith i ddrws pob gwerinwr yn y wlad.
[No title]
Am ladrata chwscheiniog oddiar en- eth fach ar yr heol cafodd un o'r enw Michael Hagan ei anfon i garchar am dris mis yn Warrington y dydd o'r blaen. Yr oedd wedi bod o flaen yr ynadon bymtheg ar hugain o weithi^i cyn hyny.
Yr Hunanladdiad yn Bangor…
Yr Hunanladdiad yn Bangor Yr Hunanladdiad yn Bangor I DADLENIADAU TRIST. Nos LLi! ythnos i'r diweddaf, bu I Mr J. Pentir Roberts, y crwner, a rheithwyr, yn gwneud ymchwiliad i achos marwolaeth Annie Owen, yr hon a wasanaethai yn Ty Coch, ger Bangor. Dywedodd mam yr eneth i'w merch ddweyd wrthi ei bod wedi saethu ei hun oherwydd "mab Bryn Dreiniog." Yr oedd wedi ei weled I),S Sul, meddai hi, ac wedi dweyd wrtho am ei chyflwr. Dywedodd yntau pe bae yn gwybod hyny y buasai wedi mynd i ffwrdd. Dywedai'r fam fod ei merch yn eneth falch. Tystiwyd gan John Jenkins, gwasTy Coch, fel y canfu yr eneth wedi ei saethu, ac iddi ofyn iddo beidio dweyd wrth neb. Aeth yntau i not y meddyg ati. Yn nesaf galwyd ar Dr Helsby, yr hwn a alwyd i Ty Coch at yr eneth. Dywedodd iddo weled yr eneth yn ei gwely mewn llyn o waed. Canfu ar- choll ergyd yn ei hochr cbwith Yr oedd yi eneth yn galiu siarad ac yn hollol glir ei meddwl. Cymerwyd hi i'r ysbyty a phenderfynv. yd yno wneud operation arni, er nad oedd unrhyw obaith y gwellhai. Bu farw cyn cymeryd y chloroform. Addefodd yr eneth wrth Dr Helsby ei bod mewn trwbl. Gofynodd iddi pwy oedd tad y plentyn, dywedodd hithau mai mab Bryn Dreiniog. Yr oedd wedi dweyd wrtho am ei chyflwr nos Sul, ac yntau wedi dweyd yr aeth- ai i ffwrdd pe y gwyddai yn gynt. Arbedat hyny iddo," meddai yr eneth wrth y tyst. Tystiwyd gan fab Ty Coch i'r eneth ddod yno i wasanaethu yn igi i. Ei eiddo ef oedd y gwn. Nid oedd ergyd ynddo nos Sadwrn. Yr oedd yr eneth yn ferch ifanc weddus, iach, a siriol iawn bob amser. Yr oedd braidd yn isel ei meddwl nos Sadwrn, a phrin yr oedd yn ei ateb pan ddywedai rywbeth wrthi. Gwelodd amryw fechgyn yn dod gyda hi droion ond nid oedd yn eu hadnabod oil. Yna galwyd ar Robert Meickle, "mab Bryn Dreiniog," ond sylwodd y cyf- reithiwr wrth alw arno nad oedd un- rhyw gyhuddiad yn ei erbyn. Holwyd ef yn fanwl o barthed i'r eneth, ac mewn atebiad dywedodd y bu yn ysgrif- enn ati pan oedd yn Llundain. Nid oedd wedi bod gyda hi ar ol iddi ddod yn ol. Nid oedd wedi ei gweld nos Sul ond o bell. Dywedodd "Nos da wrthi. Nid oedd erioed wedi dweyd wrto ef ei bod mewn trwbl- Gofynodd un o'r rheithwyr iddo a oedd yn gwadu datganiad yr eneth ar ei gwely marw, ac atebodd yntau ei fod. Bu y rheithwyr am ysbaid maith cyn dod i benderfyniad, yn y diwedd pas- iwyd y rheithfarn a ganlyn Fod yr eneth hon wedi gwneud diwedd ar ei heinioes, a'i bod, yn ol tystiolaeth Dr Helsby a'i mam, yn dioddef oddiwrth anhwylder meddyliol ar y pryd."
-u - I Damwain Fawr mewnI…
-u I Damwain Fawr mewn I Glofa. 22 0 DDYNION WEDI EU LLADD I Bu damwain dditrifol mewn glofa yn agos i Glasgow, foreu LIuo, a chafodd dau ar hugain o'r mwnwyr eu lladd Torodd tan allan yn y gwaith rywfodd a gorchtygwyd y glowyr gan y nwyon gwenwvnig. Llwyddodd tri i ddianc gan iddynt ailu rhedeg drwy ganol y nwyon i ddiogelwch. Canfuwyd fod y tan wedi tori allan gyntaf gan daniwr o'r enw Charles O'Reilly, yr hwn a redodd i hysbysu y gweithwyr oedd ar; fin dod i lawr i'r pwyll i gymeryd lie y rhai weithient yno ar y p yd. Wedi hysbysu y rhai hyny rhedodd O'Reilly i rybuddio ei gyd-weithwyr ond gorch- fygwyd ef gan y nwyon gynted ag y cyrhaeddodd at y dynion, a threngodd. Ymhen ychydig tunudau yr oedd y newydd am y trychineb wedi cyraedd i'r pentref cytagos, a thyrodd y pentref- wyr yno at enau'r pwll. Yr oedd y wawr ar dori ar y pryd, ac yr oedd yr olygta yn frawychus i'r eithaf-dynion a'u hwynebau yn welw, a'r merched a'u dagrau yn llifo i lawr eu gruddiau, yn disgwyl clywed newyddion am eu perthynasau i lawr yn y pwll. Fturf- iwyd partion i fynd i lawr, ond buwyd am beth amser cyn y gallai neb fynd i lawi o herwydd y nwyon. Gyrid y dynion yn 01 drachefn a thrachefn. Yr oedd tan mawr yn y pwll o hyd a deuai'r mwg allan yn gymylau trwchus. Ymhen ysbaid caed darpariadau priodol i orchfygu'r nwyon ac i fynd i lawr i'r pwll. Daeth y newydd yn fuan y canfuwyd pump o gyrff ac nad oedd nemor obaith am y gweddill. Ymhen ychydig daethpwyd ar draws pymtheg o'r dynion yn dwr ar eu gilydd a'r oil wedi trengu. Yr oedd yn amlwg eu bod wedi ceisio rhedeg am awyr iach, ac wedi eu gorchfygu gan y nwyon. Daethant ar draws y gweddill o'r dynion yn farw ychydig latheni oddi- wrth y lleill. Yr oedd rhai o'r cyrff wedi chwyddo, ac wedi eu hanurddo yn ddirfa'\r. Cafwyd hyd i un dyn yn fyw a dygwyd ef i fyny, wedi bod yn y pwll am yn agos i ugaio awr, ond yr oedd bron a threngu pan y deuwyd o hyd iddo. j Golygfa dorcalonus iawn oedd edrych ar y cyrff yn cael eu cario i'r marw-dy— eu perthynasau yn eu dilyn ac yn beichio wylo. Yr oedd yno un wraig wedi colli ei thri mab, ac un arall ei dau tab a'i mab-ynghyfraith. Newydd ddechreu gweithio ar ol ei briodas yr oedd un dyn ieuanc a laddwyd.
- - - - -=-=-======-Eisteddfod…
-=-=-======- Eisteddfod Gwyl y Banc, I Pwlheli. Cynhaliwyd y ddeuddegfed Eisteddfod Gadeiriol uchod yn y Neuadd Drefol ddydd Llun diweddaf. Edrychir i fyny at yr Eisteddfod hon er's btyn- yddau bellech, ac y mae yn mjned yn fwy o atdyniad o flwyddjn i flwyddyn. Daeth tyrtaoedd i'r dref o bob cyfeiriad. Dywedir fod dros bedair mil wedi dod gyda'r trenau yn unig. Trodd y diwrnod allan yn hynod o hafaidd, ac effelthiodd hyn yn fawr ar y cynhulliad- au yn y Neuadd,—yn arbenig yn nghyfarfod y prydnawn. Caed Eis- teddfod hynod o Iwyddianus a chys- tadieuon rhagorol. Yr oedd datgan- iadau rhai o'r corau yn deilwng o'r Eisteddfod Genedlaethol meddai y beirniaid, Y beirniaid oeddynt Cerddoriaeth, Mri. E. T. Davies, F.R.C.O., Merthyr Tydfil, a W J. Williams, Efailnewydd Barddowiaeth, Parch. O. G. Owen (Alafon) Adroddiadau, Arifog a Mr. Williams-Parry, Talysarn Rhydd- iaeth, Parch. W. T. Ellis, B A., B D., Porthmadog Celfyddydwaith, Mrs. Houghton-Davies, Llwynffynon Mrs. D. H. Williams, Haulfryn Mrs. Williams, Nanney Place Mr. C. L. Roberts (arolygydd Trefol), a'r Hedd. was Thomas (Huaws Pedrog). Dyma'r wairh gyntaf i Mr. E. T. Davies ymweled a'r dret, ac aeth drwy ei waith yn rhagorol. Rhydd ei feir- niadaeth allan mewn iaith glir a chroyw. Gwnaeth Mr W. J. Williams hefyd ei waith er boddlonrwydd cyff- redinol. Cyfeiliwyd yn hynod fedrus gan Mr. Evan Jones, a Miss Wynnie Jones, Gaerwen House. Gwasanaeth- wyd gyda'r delyn gan Miss A. Thomas (Telynores Gwyngyll), a gwnaeth hith- au hefyd ei rhan yn rhagorol. Arweinyddion yr wyl oeddynt, Arifog a Mr Samuel Williams, Tanygarn, a gwnaeth y ddau eu goreu i fyned drwy y gwaith mawr oedd ganddynt heb goll amser. Swyddogion y pwyllgor oeddynt:- Llywydd, Mr W J. Williams, Salem Terrace Is-Lywydd, Mr O. Ellis Jones Arfryn Trysorydd, Mr R. T. Roberts, Bay View Terrace Ysgrifenydd, Mr D. John Jones, 74, Heel Fawr; Ysgrif- enydd CofnodoJ, Mr R. W. Pritchard, Lleyn Street. CYFARFOD V PRYDNAWN. Llywyddwyd gan Dr. 0. Wynne Griffith, Maer y dref. Wele yn canlyn restr o'r buddugwyr Unawd ar y Berdoneg.-i, Miss i Agnes Wynn Roberts, Porthdinorwig. Knitted Tie.-i, Miss J. E. Hum- phreys, Trefeglwys, Caersws. Dressed Doll.-i, Miss Katie Gun- zell, Crown Hotel, Pwllheli. Linen Table Centre.-i, Miss Jennie Parry, Llysfaen, Colwyn Bay. Unawd i Blant -I, Miss Annie Wood Griffith, Penygroes. Cyfieithu i'r Gymraeg.—1, Mr. W. J. Humphreys, Blaenau Ffestiniog. Canu gyda'r Tannau.-i, Miss Lizzie Lewis, Ebenezer Mr Griffith Owen Roberts, Caernarfon, a Miss Annie O. Humphreys, Llanllyfni 3, Mr. John William Jones, Rhostryfan. Knitted Socks-i, Mrs W. J. Griffith, Talysarn. Pedair Llinell.—1, (i Awel." Unawd ar y Berdoneg. —1, Miss Gwennie Lloyd, Bangor. Hosanau Glas a Gwyn. — 1, Mrs. E. Jones, Talybont, Dyffryn. CADEIRIO'R BARDD. =-Arweioiwyd y seremoni gan Arifog. Darllenodd Mr. Williams-Parry (Llion) teirniadaeth Al- afon ar y 11 ymgeisydd fu yn canu ar y testyn Canol-ddydd am y gadair. Cann.olodd yn fawr y gystadleuaeth, a dyfarnodd eiddo Mog-en-nwr yn I oreu. Wedi ymffurfio'n gylch, a chanu y Corn Gwlad yn unol a defod y beirdd, gorchymynwyd i'r concwerwr sefyll ar ei draed. Safodd y bardd Ellis H. Evans (Hedd Wynn), Traws- fynydd, i fyny yn nghanol cymeradwy- aeth fyddarul, ac aeth Mr Tom Lloyd a Brothen i'w arwain i'r Ilwyfan. Wedi i'r beirdd draddodi eu hanerchiadau ac i'r Maer gyflwyno y wobr i'r bardd, canodd Miss Myfanwy Evans, South Beach, gan y cadeirio yn hynod o effeithiol. Cymerwyd rhan yn y cad- eirio gan Arifog, Mr Samuel Williams, Iseifion, Mr Tom Lloyd, Celyn, Homo, Megan Lleyn, Mrs Thomas, Mynytho Trefardd, loan Berwyn, Goronwy Wyn a Brothen. Corau Cymysg. Un cor ddaeth mlaen, sef Cor Bethania, Blaenau Ffestiniog o dan arweiniad Mr R. M. Jones, a dyfarnwydhwy yn deilwng o'r I wobr. Coes Chwip Gelyn. I, Mr John Pierce, Abererch. Sugar Tongs. —1, Mr John Jones, Penrhyndeudraeth. Adroddiad Seisnig,-i, Miss Betty Roberts, Pwllheli 2, Miss Blodwen Roberts, Llithfaen. Unrhyw Unawd.-I, Mr Williams, Machynlleth. Tray Cloth. I, Miss Kate Noel Gruffydd, Cwmyglo. v Gorau Plant. Ymgiiodd pump o gorau, sef Caernarfon, Llanllyfni, 1 Arton, Porthmadog a Jerusalem, Ffes- tiniog. Wedi cystadleuaeth ragorol dyfarnwyd y wobr i Gor Ffestiniog o dan arweiniad Mr Bob Hughes. CYFARFOD YR HWYR. ) Llywyddwyd gan W. H. Winter- botham, Ysw., Notting Hill. Wele yn canlyn restr o'r buddugwyr. Linen Tea Cloth.-i, Mrs W. J. Griffith, Talysarn. Fancy Table Centre.—" Gwyneth." Five o'clock Afternoon Tea Cloth.- i, Miss Jennie Bodden, Llandderfel, Bala. Black Satin Cushion Cover. — 1, Miss Williams, Blaenau Featiniog. Unawd ar y Cnvth I, Miss Gwennie Lloyd, Bangor Ffon Ddraenen DLiu i ddyn ieuanc. — 1, Mr. W. Roberts, Talybont, Dyffryn. Ffon Ddraenen Ddu i ddyn canol oed.—Neb yn deilwng. I-ton Goilen.-i, Mr. John Jones, Penrhyndeudraeth*. Unawd Soprano.—Mrs Henderson Jones, Talysiiin, a Miss Gwlaciys Griffith, Penysarn, Amlwch, yn gyt4 oreu Telyneg. — 1, Mr W. Williams, Glan- gefni, Liangefni. Y Brif Gystadleuaeth Gorawl Corau Meibion.—Ymgei^iodd pedwar ct.r, sef Llanfor (Bala), Caernarfon, Lia -t a Threfiiw, a Phwllhjli Goreu, L Ast a Threfriw, o dan arweiniad, Mr T. R. Williams. Adroddiad Cymraeg.—t, Mr Robert Lloyd, Llandderfel, Corwen. Canu gyda'r Tannau,-i, Ehedvdd Eifion, Pothmadog Mr Richard Jones, Trawsfynydd. Unawd Tenor.- I, Mr Llew Thomas, Dinorwig. Englyn- i, Hywel Cefni, Talysarn. Unawd Baritone.— J, Mr Ted Jones, Ftestiniog Corau Lleol. — 1, Cor Undebol Four- crosses o dan arweiniad Mr Frank Williams. Wele yn canlyn yr englyn buddugol Rhyw wyn fynor yn fwyniant—yn ei Dry ymborth yn llesiant reng, Arliw o deg bed yw dant, I'n genau yn ogoniant.
I Yn Aberth i'r Tonau. I
Yn Aberth i'r Tonau. BODDI WRTH YMDROCHI Cytarfu amryw a'u hangau wrth ym- drochi yn ystod y dyddiau diweddaf, ac ymysg y digwyddiadau trychinebus, y mae dau yn neillduol o drist. Yn Strandhill, ger Sligo, bu foddi pump o enethod ieuainc ddvdd Sadwrn. Dy- wedir i un o honynt, pan yr. ymdrochi, fynd i le rhy ddwfn a gwaeddi am help, ac aeth y pedair arall i geisio ei gwaredu, ond bu fc doi'r oil o honynt. Ddydd Sadwrn diweddaf, yn ngwydd canoedd o bobl, bu foddi dau ddyn a geneth fach yn Hornsea. Aberthodd y ddau ddyn eu bywyd wrth geisio gwar- edu'r eneth fach. Yr oedd Elsie Muriel Fleming, yr eneth fu foddi, yn ymdrochi hefo'i chwaer Dorothy. Clywyd un o'r genethod yn gwaeddi am help a gwelid i bod yn suddo Aeth ei thad ag un o'r enw Mr Loten ati i geisio'i gwaredu a 11 wyddasant i gael gafael arni. Ond yr oedd y Hif mor gryf fel nas gallai y dynion fynd yn ol i'r lan. Golchwyd Mr Fleming a'r eneth Dorothy i'r Ian gan y tonau a chawsant eu gwaredu, ond cariwyd Mr Loten ac Elsie FJeming ymhellach i'r mor. Daeth dyn ieuanc o Bradford, o'r enw Mr Carroll, heibio, diosgodd ei ddillad ac aeth i geisio helpu Mr Loten a'r eneth fach, daliodd y ddau i tyny am ychydig funudau, ond cariwyd hwy allan gan y llif a buont foddi eu tri.
-o - Cansr. Iwyddiant Emrys.
-o Cansr. Iwyddiant Emrys. Nos Wener, yn Mhorthmadog, dath- lwyd canmlwyddiant v Parch. William Ambrose (Emrys). Yr oedd cynulleid- fa fawr wedi ymgynull i gapel Salem, y Parch. W. J Nicholson (y gweinidog) yn llywyddu. Ymysg y cynhulliad yr oedd Mrs Lloyd George, ond methodd y Canghellor a bod yn bresenol oher- wydd ei ddyledsva,yddau yn Llundain. Yn ei anerchiad cyfeiriodd y Parch. W. Ross Hnghes, Borthygest, at allu trefniadol Emrys, yr hwn a fu yn fodd- ion i sefydlu saith neu wyth o eglwysi Cynulleidfaol yn y dosbarth. Pan ddaeth yn weinidog ar eglwys Salem, Porthmadog, yn 1837, nid oedd yr eglwys yn rhito ond pedwar-ar-bymtheg ond pan fu farw yn 1873, rhifai yr eglwys dros dri chant. h Adroddodd Mr Griffith Griffiths, diacon hynaf Salem, yr hwn sydd dros bedwar ugain oed, lawer o'i atgofion am ei hen weinidog. Wrth sylwi at y grym penderfyniad a nodweddai gym- eriad Emrys, soniodd am yr ystorm fawr o fellt a tharanau o dorodd dros y fro lawer blwyddyn yn ol-y storm fwyaf welodd ef erioed. Yr cedd gwas- asanaeth i gael ei gynal y noson hono yn Morfa Bychan, rai milltiroedd o Borthmadog. Heriodd Emrys yr ys- torm a cherddodd yno, ac efe oedd yr unig un oedd yn bresenol Siaradodd y Parch. Elfed Lewis am Emrys fel bardd a dyn cyhoeddus, ac am yr hyn a wnaeth i ddatblygu Porth- madog. Adroddodd Deiniol Fychan amryw ranau o weithiau Emrys, y rhai oe^ wedi eu trefnu gan Eifion Wyn. #r%
-0 - Marw Dr Grey Edwa* **^…
-0 Marw Dr Grey Edwa* Bangor. Foieu ddoe, ddydd Mawr?' V" ? mtwydd oed, bu ?w y -?y??- nabyddus u?od. Capd godw^m oddiu. feisicl er's tup mlS yn ol, ac o'r adeg hono gwaeth/godd ei techyd. Gedy weddw a dau J blant. Ganed Dr Edwards yn Llanfachraeth, Mon. Yr oedd yi, feddyg poblogaidd iawn gyda phob dosbarth, yn arbenig gyda'r tlodion. Eglwyswr a Cheid- wadwr oedd. Dewiswyd ef rai blyn- yddau'n ol i sefyll fel ymgeisydd Tori- aidd tros Arfon. Bu yn Faer ac yn henadur ar Gyngor Dinesig Bangor.