Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

PWLLHELI. I

I EFAILNEWVDD. I

I Cyngor Dosbarth Lleyn. \

MESUR DADGYSYLLTIAD YR EGLWYS.

News
Cite
Share

MESUR DADGYSYLLTIAD YR EGLWYS. PASIO'R TRYDYDD DARLLENIAD I ARAITH MR. LLOYD GEORGE. I Yr wythnos ddiweddaf pasiwyd tryd- ydd darlleniad Mesur Dadgysyiltiad yr Eglwys yn Nghymru trwy fwyafrif o io3- Yn ystod ei araith alluog o blaid y Mesur dywedodd Mr. Lloyd George mai egwyddor y mesur oedd gadael i bobl Cymru reoli eu materion ysprydol eu hunain. Dyna'r pam yr oedd pobl Cymru yn ei getnogi1 a chai ei geinogi gan amryw o Ryddfrydwyr Eglwysig. Yr oedd o leiaf wyth o etholiadau wedi bod yn ei gof ef, ac ymhob un o'r ethol- iadau hyny yr oedd Cymru wedi datgan trwy fwyafrif goilethol ei dymuniad am y mesur hwn. Ni buasai dymuniad o'r fath yn cael ei wrthwynebu gan rym o'r tu allan mewn unrhyw wlad sydd yn y byd. Nid oedd ei materion crefyddol yn cael ei gorfodi yn groes i'w hewyllys ar unrhyw yenedl o dan y faner Bryd- einig fel ag y P\\ neid gyda Chymru. Wedi canrifoedd o brofiad yr oedd y genidl Gymreig wedi dod i'r penderfyn- iad nad oedd Eglwys Loegr yn gweddu i'w hanianawd n t'u hangenion crefydd- ol, a sylweddolent fod Sefydliad Gwlad- wriaethol ) n lIeteirio cynydd crefyddol. Onid oedd y ffaith fod mwyafrif mawr y bobl wedi dod i'r penderfyniad hwnw yn profi eu hawl i'w dymuniad? Yn sicr yr oedd Cymru yn abl i farnu beth fyddai oreu i'w bywyd crefyddol ei hun Yr oedd ei phobl wedi gwneud cymaint o aberth ag unrhyw bobl yn y byd tuag at gynal y grefydd Gristionogol. Nid oedd holl eglwysi Lloegr yn darpar eis- teddloedd ond ar gyfer 14,000,000 allan o 35,000,000; ond yr oedd eglwysi a chapeli Cymru, trwy ymdrech wirfoddol yn benaf, yn da-par lleoedd ar gyfer bron yr oil o'r trigolion. Mewn ardal- oedd mynyddig, lie byddai raid i ddyn deithio deng milltir i chwilio am feddyg, nid oedd raid iddo fynd ymhellach na dwy filltir i chwilio am dy addoliad. Gallai Ty'r Cyffredin fod yn sicr na wnai pobl Cymru ddim niwed i'w bywyd crefyddol eu hunain. lJywed rnai, meaaai r cangnelior, na ddylid mynd yn ol i hanes y gorffenol i brofi yr angen am y mesur. Ond yr oedd yn rhaid cymeryd holl gyfrif y sef- ydliad i ystyriaeth. A thybio y gallai Anghvdffuifiaeth gael ei ysgubo o Gymru, a chyflwr cretyddol y wlad eto'n llwyr dan ofal yr Eglwys Sefydledig, pwy allai sicrhau na byddai'r wlad eto yn yr un cy n wr truenus ag ydoedd gynt cyn y deffroad Ymneilltuol. Yr oedd yr Eglwys, yn lie edrych ar yr Ymneill- tuwyr fel cydweithwyr Cristionogol, yn edrych arnynt fel plaid boliticaidd wrth- wynebus, a gwnaent gymaint ag a allai i'w dinystrio. Ceid engreifftiau amlwg o hyny yn lIyfr George Borrow—" Wild Wales." Yr oedd Borrow ei hun yn Eglwyswr cadarn, ac yn gryf dros set- ydliad. Nis gellid darllen ei lyfr heb deimlo mor vvrthwynebus ydoedd i Anghydffurfiaeth. Dywed yn ei lyfr i Eglwyswr selog ddweyd wrtho pan yn y Bala fod dyddiau Ymneilltuaeth wedi eu rhifo.-fod iheiihor y plwyf a'i giw- radiaid yn troi y Methodistiaid yn 11 u. Yr oeddynt yn ymladd y pregethwyr, meddai, a'u harfau hwy eu hunain. ac yn eu trechu. Dangosai hyny. meddai'r Canghellor, fel yr ymddygid at yr Ym-I neilltuwyr. Nid cael y bobl o'r tafarnau oedd y cwestiwn, ond eu cael oddiar y pregethwyr Methodistaidd. Yn mhob cyfnod o hanes yr Eglwys Sefydledig yr oedd wedi ymyryd a bywyd crefyddol y bobl, n gwnai hyny eto. Cafodd Deon Howell, pregethwr mwyaf yr Eglwys yn Nghymru yn y ganrif hon, ei ddewis yn unfrydol gan ei gyd-genedl yn esgob iddynt, ond ni wnaed erioed mohonc yn esgob—yn niwedd ei oes bron y gwnaed ef yn ddeon hyd yn nod. Pam ? Am nad oedd yn ddigon ceidwadol. Nid oedd yn ymosod ar yr Ymneilltuwyr ac ar y Rhyddfrydwyr ar lwyfanau y wlad Yr oedd gogwydd yr Eglwys i'r un cyfeir- iad hedd\w. Gwneid apwyntiadau am resymau politioaidd, ac am resymau oedd yn effeithio ar fywyd crefyddol y bobl. Hyd nes y gwahanid yr Eglwys a'r Wladwriaeth byddai i hyny hyd yn nod wenwyno awyrgylch yr Eglwys ei hun. Ni wyddai neb hyny yn well na'r clerigwyr ieuainc. Cyn y gallai yr Eglwys tod yn allu yn Nghymru rhaid oedd iddi fod yn rhydd i addasu ei hun mewn yspryd o gydymdeimlad Cristion- ogol i anianawd y genedl. Gillai yr amodau presenol fod yn addas i'r Eg- lwys yn Lloegr, ond yr oeddynt yn hollol anaddas yn Nghymru a dyna'r pam yr oedd ef o waelod ei galon yn dymuno gweled chwilfriwio y livffcth-j eiriau oedd yn llesteirio bywyd cref- yddol y genedl. --0-

Cadwraeth -y Sabboth. j

Mr. Lloyd George yn Nghaernarfon

Cyfarfod Ysgolion M.C. Dosbarth…

Advertising