Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

PWLLHELI. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

PWLLHELI. UVHOEDDIADAU SABBOTHOL. Gorph. 20 pe ilan (A), am 10 a 6, Parch J. Rhydderch, Gweinidog. Uspel Seisnig (A.) Cardiff Road, am 11 a 6-30, Parch D. W. Roberts, Gweiuidog. Penmount (M. C.). am 10 a 6, Parch Enoch Ellis JOLes, Biaenau Ffestiniog. Sal^m M.O.). am 10 a 6, Parol. R. J. Will- iams, L verpojl. Capel Selinig I M. C.) Ala Road 'm '1 a 6-30, Parnh H. M. Roberts, B.A. Tabernacl (3.), am 10 a 6, Parch Hen Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2. Y sgol. Ysgol("enliadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi; am 2, Ysgol. Vsgol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6, Cyfarfod Gwedd am 2, Ysgol. Stuth Beach am 2, Parch H. Emyr Davies Tarsis (M.C), am 10 a 6, Pdrch H. Emyr Davies, Seion (W.) am 10, Mr W. Jones Owen, D.uaa, am 6, Mr John Williams, Rhiw. St. P d 9-30 a 6 (Cymraeg), II a 6 (Seisnlg) Parch. J. Edwards, B. A., Ficer, a'r Parch. T. Woodings. B.A., Cu ai. Cenhadaeth Lydewig North Street, R.G., am 10-30, Offer* n Sancta:dd, am 2, Ysgol; am 6-30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P. M. rour, b' nedichiwu CYFNEWIDIAD -Ar ol argraffu y tu dalen olaf daeth hysbysiad am gyfne- widiad ynglyn ag organ recital Penmount a dyna sy i'w gyfrif am y ddau hysbys- iad. Yr un geir ar y dudalen hon sy gywir. C Y D Y M DEI M L o-Yn Mwrdd y Gwarcheidwaid ddydd Mercher, ar gyn- ygiad y Parch Henry Rees ac eiliad y Parch J. Edwards, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad ag eglwys a gweinidog Salem yn wyneb y goiled gawsant. CYFARFOD GWEINIDOGION Y DREF.— Deallwn i'r cyfartod hwn gael ei gynal y tro diweddaf yn Cardiff Road, dan lywyddiaeth y Parch ). Rhydderch, pryd yr agorwyd y mater, set "Gweddi," gan y Parch D. E. Davies. Cymerwyd rhan yn yr ymdriniaeth wedi hyny gan y Parchn. J. Puleston Jones, M. A., i Henry Rees, John Hughes, B.A., B D., Thomas Williams, &c. Deallwn mai canu ffarwel a'r Parchn. Henry Rees a! D. Thomas fydd yn y cyfarfod nesaf. ADLONIANT.- Ddydd Iau diweddaf cynhaliwyd gwledd a chwareuon difyr- us gan y Toriaid yn Glyn-y-Weddw. Aeth canoedd o bobl yno. Yn ystod y prydnawn cafwyd anerchiadau byr gan y Mri Austin Lloyd Jones a J. Hamlet; Roberts. Y llywydd oedd Mrs R. M. Greaves, a'r cadeirydd oedd Mr Arthen O. Owen, Plas Heulog Gwasanaeth- wyd yno hefyd gan y seindorf bres. Diweddwyd y gweithrediadau trwy ddawnsfeydd. Ysgrifenydd y mudiadi oedd Miss Evans, Bryn Berllan, a chyn- orthwyid yn y gwaith gan Mr T. Wil-I kinson ac eraill. Trodd allan yn llwydd- iant ymhob ystyr. PLESERDAITH.—Ddydd Iau diweddaf rhoddodd Mr James Williams, Iron- mongery Stores, treat i'w wasanaeth-I yddion trwy eu cymeryd am bleserdaith mewn cerbyd modur. Cychwynwydj oddiyma tua haner awr wedi deuddeg, ac aed trwy Feddgelert, Capel Currig,; Bettws-y-Coed, Lianrwst a Chonwy, j gan gyraedd Llandudno erbyn pedwar o'r gloch, lie yr oedd bwrdd o ddant- eithion wedi ei hulio ar eu cyfer yn y Grosvenor Restaurant. Wedi eu di-l goni treuliasant oriau difyr wrth fyndi o gwmpas y dref ffasiynol. Tua wyth o'r gloch cychwynwyd am gartref trwy Lanfairfechan a Bangor, a chyrhaedd- wyd erbyn tua haner awr wedi deg ar 01 taith neillduol o hapus. Teimlai y bechgyn eu calon yn tanio o ddiolch- garwch i'w meistr caredig, yr hwn sydd bob amser yn ncrdweddiadol am ei gar- edigrwydd a'i haelioni. YMADAwrAD Y PARCH HENRY REES. -Deallwn fod Pwyllgor Cymanfa Ddir- westol Lleyn ac Eifionydd, ynghyda Phwyllgor Dirwestol a'r Temlwyr wedi pendertynu cydweithredu er rhoddi rhyw arddangosiad i'r Parch Henry Rees o'u gwerthfawrogiad o'i lafur mawr gyda'r achos dirwestol ar hyd y blynyddoedd. Y mae Mr Rees wedi bod yn un o golofnau Cymanfa Ddir- westol Lleyn ac Eifionydd, ac wedi bod yn un o'r gweithwyr blaenaf er lleihau nifer y tafarnau, &c. Onibae am ffydd- londeb mawr Mr Rees, a dau neu dri o weinidogion eraill, ni buasai son am y Temlwyr Da yn y dref a dyma yr unig gymdeithas ddirwestol fyw a gweithgar ar hyd y blynyddoedd-heb byth gau ei drws-sydd yn y dref. Da genym tod cyfeillion dirwestol wedi meddwl am hyn, am fod Mr Rees yn sefyll ar ei ben ei hun fel gweithiwr dirwestol. Da fod ychydig ffyddloniaid eraill yn gotalu am gadw y tan dirwestol i gyneu pan y mae cymaint o ddifaterwch yn bod. ORGAN RECITAL PEN Y MOWNT -Fel y gwyr darllenwyr YR UTGORN yr oedd eglwys Pen y Mownt yn hwylio at gael Organ Recital ym mis Awst i doddi dipyn o'i dyled ei hun. Weithian yr ydys wedi newid yr amcan. Pan fwriwyd eglwys Salem i golled a dyled fawr, a hynny nid o'i gwaith na'i dewis ei hun, fe farnwyd mai addasach o lawer fyddai cynnyg ffrwyth yr ymdrech i'r brodyr yn Salem at eu dyled hwy; a derbyn- iodd Salem y cynnyg, a chytuno i gyd- weithio a Phen y Mownt at yr amcan hwn. Teimto yr ydym bellach fod yr amcan newydd yn cyfiawnhau mwy o hyrdra a mwy o daerineb oblegid nid yw Pen y Mownt erbyn hyn ond megis ysgubor ddegwm i dderbyn offrymau yr holl ardal, ac yn wir yr holl ardaloedd. Hyderwn y bydd Uaweroedd yn falch o'r cyfle i'n cynorthwyo, ac y bydd i ymdrech, na fwriedid iddi ar y cyntaf gyrraedd ond rhyw ddau neu dri deg o bunnoedd, ddwyn amryw ugeiniau i mewn. Gobeithio na chyfrifir ni, gan gyfeillion pell ac agos, yn rhy hyf yn hyn o beth. A'r hwn sydd yn rhoddi had i'r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder." Y TEMLWYR DA -Cynhaliwyd y cyfarfod rheolaidd nos Fawrth diweddaf yn Vestry Room Penmount, dan arwein- iad y Prif Demlydd-Parch D. E. Davie". Pasiwyd penderfyniad o gyd- ymdeimlad ag Eglwys Salem yn ei phrofedigaeth fawr, y Parch Henry Rees yn cynyg a'r Parch Thomas Williams yn cefnogi. Pasiwyd hefyd a'r gynygiad y Parch Thomas Williams ac eiliad Mr R. Hughes, benderfynidd yn datgan i eglwys y Tabernacl ein Ilawenydd fod eu hiddoldy hwy wedi ei arbed. Dymunwyd fod pob addoldy yn cyhoeddi y Deml i fod yn Vestry Room leiaf Penmoant, am 7-30 bob nos Fawrth, hyd nes yr anfonwn yn wahan- ol. Pasiwyd i anfon Ilythyr at frawd sydd wedi tori ei ymrwymiad, yn dymuno arno ddychwelyd i'w le, a dy- munwyd gweddiau ar ei ran. Pasiwyd hefyd i anton llythyr o gydymdeimlad a chwaer sydd yn afiach er's amser. Hysbysodd yr ysgrifenydd-Mr W Hughes, fod llythyrauyn cael eu hanfon at yr aelodau oil i ddymuno eu presen- oldeb yn y cyfarfodydd, yn ystod mis- oedd yr haf yma. Yr oedd yn llawen- ydd i'r Demi fod y Parch Henry Rees wedi cael llythyr oddiwrth y brawd Robert Henry Humphreys. Deil y Deml yn llewyrchus er pob anhawsder. PLESERDAITH A THE.—Dydd Iau di- weddaf cafodd deiliaid "Cartrefle," Ala Road, bleserdaith i Nefyn, ac wedi cyraedd yno yr oedd ymborth rhagorol wedi ei ddarpar ar eu cyfer gan Miss Jones, Tower Tea Rooms. Yna bu- wyd yn rhodiana o gwmpas gan fwyn- hau y golygfeydd a'r awelon iachus. Yr oedd athrawon yr Ysgol Sul hefyd gyda'r trip, sef Mr Tom Jones, Arol- ygwr Capt. Hughes, Ala Road Mri. John Edwards, Cwali-i D. Caradog Evans, Arthog D. Thomas, Thomas Wiliiams, Crown Boot Stores Miss Owen, Maes, ynghyda Meistr y Ty a'r Famaeth. Cyrhaeddwyd adref erbyn saith o'r gloch, pryd yr oedd y byrddau wedi eu hulio a danteithion gan Mrs Jones, y Matron, yn cael ei chynorth- wyo gan Mrs Jones, Castle Hotel, Miss Hughes, Traeth, a Mrs Parry. Avallon. Wedi i bawb wneyd cyf- iawnder a'r wledd rhanodd yr athrawon a Mrs Jones, Castle, dybaco a melusion i'r deiliaid. Pasiwyd diolchgarwch i bawb a wnaeth rywbeth tuag at hyr- wyddo y mudiad. Bu yr arolysrwr yn dra diwyd yn casglu tuag at y gost, ac yn trefnu y daith ac yn ol ei arter rhoddodd yr Henadur '\V. Jones, Eifl Hotel, wasanaeth ei gerbydau a'i weis- ion ar delerau hynod o resvmol. Deali- wn fod Nurse Pritchard yn oedi i ymadael er dylod gyda'r trip hwn i gynorthwyo. Eiddunwn iddi bob lhvydd a dedwyddyd yn ei chylch newydd.— I UN OEDD YNO.

I EFAILNEWVDD. I

I Cyngor Dosbarth Lleyn. \

MESUR DADGYSYLLTIAD YR EGLWYS.

Cadwraeth -y Sabboth. j

Mr. Lloyd George yn Nghaernarfon

Cyfarfod Ysgolion M.C. Dosbarth…

Advertising