Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
  ELEY t    ??? CARTRIDGES are preferred to all others by the most experienced sportsmen all the woild over, who realize how important it is to select the best. E L E Y Cartridges may always be relied on. ij|| | I ^j|j |||| I 22 2 Short Long Rnn Rim Rifle and Rifle and Revolver Revolver Cartridge Cartridge Ar,M E. ECAR." E LEY Ag" deep-shell E B N:tro quality SMOKELESS." Loaded with Eley Cartridge, Smokeless (42 gr.) Smokeless 9/- per 100. 8/6 per 100. 9/6 per 100. a/ v J00 8/6 Per 10°- E.B. Nitro 5" Shell f Loaded with "Etey J6 J I" deep-shell Gastight 1 Smokeless," "Schultze Pegamoid (Waterproof) and other Standard Powder. Ironmonger an d Eley Cartridges JAM ES WILLIAMS, Builders Merchant. are sold by J Builders Merchant. Ii PWLLHELI. Wholesale by ELEY BROS., Ltd., LONDON, W.C. < J
PWLLHELI. I
PWLLHELI. UVHOEDDIADAU SABBOTHOL. Gorph. 20 pe ilan (A), am 10 a 6, Parch J. Rhydderch, Gweinidog. Uspel Seisnig (A.) Cardiff Road, am 11 a 6-30, Parch D. W. Roberts, Gweiuidog. Penmount (M. C.). am 10 a 6, Parch Enoch Ellis JOLes, Biaenau Ffestiniog. Sal^m M.O.). am 10 a 6, Parol. R. J. Will- iams, L verpojl. Capel Selinig I M. C.) Ala Road 'm '1 a 6-30, Parnh H. M. Roberts, B.A. Tabernacl (3.), am 10 a 6, Parch Hen Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2. Y sgol. Ysgol("enliadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi; am 2, Ysgol. Vsgol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6, Cyfarfod Gwedd am 2, Ysgol. Stuth Beach am 2, Parch H. Emyr Davies Tarsis (M.C), am 10 a 6, Pdrch H. Emyr Davies, Seion (W.) am 10, Mr W. Jones Owen, D.uaa, am 6, Mr John Williams, Rhiw. St. P d 9-30 a 6 (Cymraeg), II a 6 (Seisnlg) Parch. J. Edwards, B. A., Ficer, a'r Parch. T. Woodings. B.A., Cu ai. Cenhadaeth Lydewig North Street, R.G., am 10-30, Offer* n Sancta:dd, am 2, Ysgol; am 6-30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P. M. rour, b' nedichiwu CYFNEWIDIAD -Ar ol argraffu y tu dalen olaf daeth hysbysiad am gyfne- widiad ynglyn ag organ recital Penmount a dyna sy i'w gyfrif am y ddau hysbys- iad. Yr un geir ar y dudalen hon sy gywir. C Y D Y M DEI M L o-Yn Mwrdd y Gwarcheidwaid ddydd Mercher, ar gyn- ygiad y Parch Henry Rees ac eiliad y Parch J. Edwards, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad ag eglwys a gweinidog Salem yn wyneb y goiled gawsant. CYFARFOD GWEINIDOGION Y DREF.— Deallwn i'r cyfartod hwn gael ei gynal y tro diweddaf yn Cardiff Road, dan lywyddiaeth y Parch ). Rhydderch, pryd yr agorwyd y mater, set "Gweddi," gan y Parch D. E. Davies. Cymerwyd rhan yn yr ymdriniaeth wedi hyny gan y Parchn. J. Puleston Jones, M. A., i Henry Rees, John Hughes, B.A., B D., Thomas Williams, &c. Deallwn mai canu ffarwel a'r Parchn. Henry Rees a! D. Thomas fydd yn y cyfarfod nesaf. ADLONIANT.- Ddydd Iau diweddaf cynhaliwyd gwledd a chwareuon difyr- us gan y Toriaid yn Glyn-y-Weddw. Aeth canoedd o bobl yno. Yn ystod y prydnawn cafwyd anerchiadau byr gan y Mri Austin Lloyd Jones a J. Hamlet; Roberts. Y llywydd oedd Mrs R. M. Greaves, a'r cadeirydd oedd Mr Arthen O. Owen, Plas Heulog Gwasanaeth- wyd yno hefyd gan y seindorf bres. Diweddwyd y gweithrediadau trwy ddawnsfeydd. Ysgrifenydd y mudiadi oedd Miss Evans, Bryn Berllan, a chyn- orthwyid yn y gwaith gan Mr T. Wil-I kinson ac eraill. Trodd allan yn llwydd- iant ymhob ystyr. PLESERDAITH.—Ddydd Iau diweddaf rhoddodd Mr James Williams, Iron- mongery Stores, treat i'w wasanaeth-I yddion trwy eu cymeryd am bleserdaith mewn cerbyd modur. Cychwynwydj oddiyma tua haner awr wedi deuddeg, ac aed trwy Feddgelert, Capel Currig,; Bettws-y-Coed, Lianrwst a Chonwy, j gan gyraedd Llandudno erbyn pedwar o'r gloch, lie yr oedd bwrdd o ddant- eithion wedi ei hulio ar eu cyfer yn y Grosvenor Restaurant. Wedi eu di-l goni treuliasant oriau difyr wrth fyndi o gwmpas y dref ffasiynol. Tua wyth o'r gloch cychwynwyd am gartref trwy Lanfairfechan a Bangor, a chyrhaedd- wyd erbyn tua haner awr wedi deg ar 01 taith neillduol o hapus. Teimlai y bechgyn eu calon yn tanio o ddiolch- garwch i'w meistr caredig, yr hwn sydd bob amser yn ncrdweddiadol am ei gar- edigrwydd a'i haelioni. YMADAwrAD Y PARCH HENRY REES. -Deallwn fod Pwyllgor Cymanfa Ddir- westol Lleyn ac Eifionydd, ynghyda Phwyllgor Dirwestol a'r Temlwyr wedi pendertynu cydweithredu er rhoddi rhyw arddangosiad i'r Parch Henry Rees o'u gwerthfawrogiad o'i lafur mawr gyda'r achos dirwestol ar hyd y blynyddoedd. Y mae Mr Rees wedi bod yn un o golofnau Cymanfa Ddir- westol Lleyn ac Eifionydd, ac wedi bod yn un o'r gweithwyr blaenaf er lleihau nifer y tafarnau, &c. Onibae am ffydd- londeb mawr Mr Rees, a dau neu dri o weinidogion eraill, ni buasai son am y Temlwyr Da yn y dref a dyma yr unig gymdeithas ddirwestol fyw a gweithgar ar hyd y blynyddoedd-heb byth gau ei drws-sydd yn y dref. Da genym tod cyfeillion dirwestol wedi meddwl am hyn, am fod Mr Rees yn sefyll ar ei ben ei hun fel gweithiwr dirwestol. Da fod ychydig ffyddloniaid eraill yn gotalu am gadw y tan dirwestol i gyneu pan y mae cymaint o ddifaterwch yn bod. ORGAN RECITAL PEN Y MOWNT -Fel y gwyr darllenwyr YR UTGORN yr oedd eglwys Pen y Mownt yn hwylio at gael Organ Recital ym mis Awst i doddi dipyn o'i dyled ei hun. Weithian yr ydys wedi newid yr amcan. Pan fwriwyd eglwys Salem i golled a dyled fawr, a hynny nid o'i gwaith na'i dewis ei hun, fe farnwyd mai addasach o lawer fyddai cynnyg ffrwyth yr ymdrech i'r brodyr yn Salem at eu dyled hwy; a derbyn- iodd Salem y cynnyg, a chytuno i gyd- weithio a Phen y Mownt at yr amcan hwn. Teimto yr ydym bellach fod yr amcan newydd yn cyfiawnhau mwy o hyrdra a mwy o daerineb oblegid nid yw Pen y Mownt erbyn hyn ond megis ysgubor ddegwm i dderbyn offrymau yr holl ardal, ac yn wir yr holl ardaloedd. Hyderwn y bydd Uaweroedd yn falch o'r cyfle i'n cynorthwyo, ac y bydd i ymdrech, na fwriedid iddi ar y cyntaf gyrraedd ond rhyw ddau neu dri deg o bunnoedd, ddwyn amryw ugeiniau i mewn. Gobeithio na chyfrifir ni, gan gyfeillion pell ac agos, yn rhy hyf yn hyn o beth. A'r hwn sydd yn rhoddi had i'r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder." Y TEMLWYR DA -Cynhaliwyd y cyfarfod rheolaidd nos Fawrth diweddaf yn Vestry Room Penmount, dan arwein- iad y Prif Demlydd-Parch D. E. Davie". Pasiwyd penderfyniad o gyd- ymdeimlad ag Eglwys Salem yn ei phrofedigaeth fawr, y Parch Henry Rees yn cynyg a'r Parch Thomas Williams yn cefnogi. Pasiwyd hefyd a'r gynygiad y Parch Thomas Williams ac eiliad Mr R. Hughes, benderfynidd yn datgan i eglwys y Tabernacl ein Ilawenydd fod eu hiddoldy hwy wedi ei arbed. Dymunwyd fod pob addoldy yn cyhoeddi y Deml i fod yn Vestry Room leiaf Penmoant, am 7-30 bob nos Fawrth, hyd nes yr anfonwn yn wahan- ol. Pasiwyd i anfon Ilythyr at frawd sydd wedi tori ei ymrwymiad, yn dymuno arno ddychwelyd i'w le, a dy- munwyd gweddiau ar ei ran. Pasiwyd hefyd i anton llythyr o gydymdeimlad a chwaer sydd yn afiach er's amser. Hysbysodd yr ysgrifenydd-Mr W Hughes, fod llythyrauyn cael eu hanfon at yr aelodau oil i ddymuno eu presen- oldeb yn y cyfarfodydd, yn ystod mis- oedd yr haf yma. Yr oedd yn llawen- ydd i'r Demi fod y Parch Henry Rees wedi cael llythyr oddiwrth y brawd Robert Henry Humphreys. Deil y Deml yn llewyrchus er pob anhawsder. PLESERDAITH A THE.—Dydd Iau di- weddaf cafodd deiliaid "Cartrefle," Ala Road, bleserdaith i Nefyn, ac wedi cyraedd yno yr oedd ymborth rhagorol wedi ei ddarpar ar eu cyfer gan Miss Jones, Tower Tea Rooms. Yna bu- wyd yn rhodiana o gwmpas gan fwyn- hau y golygfeydd a'r awelon iachus. Yr oedd athrawon yr Ysgol Sul hefyd gyda'r trip, sef Mr Tom Jones, Arol- ygwr Capt. Hughes, Ala Road Mri. John Edwards, Cwali-i D. Caradog Evans, Arthog D. Thomas, Thomas Wiliiams, Crown Boot Stores Miss Owen, Maes, ynghyda Meistr y Ty a'r Famaeth. Cyrhaeddwyd adref erbyn saith o'r gloch, pryd yr oedd y byrddau wedi eu hulio a danteithion gan Mrs Jones, y Matron, yn cael ei chynorth- wyo gan Mrs Jones, Castle Hotel, Miss Hughes, Traeth, a Mrs Parry. Avallon. Wedi i bawb wneyd cyf- iawnder a'r wledd rhanodd yr athrawon a Mrs Jones, Castle, dybaco a melusion i'r deiliaid. Pasiwyd diolchgarwch i bawb a wnaeth rywbeth tuag at hyr- wyddo y mudiad. Bu yr arolysrwr yn dra diwyd yn casglu tuag at y gost, ac yn trefnu y daith ac yn ol ei arter rhoddodd yr Henadur '\V. Jones, Eifl Hotel, wasanaeth ei gerbydau a'i weis- ion ar delerau hynod o resvmol. Deali- wn fod Nurse Pritchard yn oedi i ymadael er dylod gyda'r trip hwn i gynorthwyo. Eiddunwn iddi bob lhvydd a dedwyddyd yn ei chylch newydd.— I UN OEDD YNO.
I EFAILNEWVDD. I
I EFAILNEWVDD. L L XV Y D D I A N T -Yn galonog iawn llongyfarchwn Mr D. H. Parry, Pen- llwyn, mab Mr J. H. Parry, U.H., Cadeirydd Cyngor Dosbarth Lleyn, ar ei lwyddiant yn pasio yr arholiad am y radd o B A. yr wythnos diweddaf yn Aberystwyth. Cafodd arbenigrwydd yn yr English Lau; a'r Jury Law. Nid yw efe eto ond ugain oed.
I Cyngor Dosbarth Lleyn. \
Cyngor Dosbarth Lleyn. Dydd Mercher, Gorffenaf gfed.-Mr I J. Hughes Parry yn y gadair. Gohirio. — Pasiwyd gohirio gwneud pont ger Ynys Goch, Llanaelhaiarn, hyd yr haf nesaf.-Sylwyd fod Cyngor Plwyf Llanaelhaiarn yn toddlon cyfranu 2op. at y draut, a Chyngor Plwyf Llan- gybi iop. Tai Gweithwyr.—Cynygiwyd gan Mr J. R. Jones, ac eiliwyd ef gan y Parch T. E. Owen, fod pwyllgor yn cael ei benodi i dynu allan gynttun o dai i weithwyr, y cynllun i'w gyflwyno i sylw y Cyngor Dosbarth.-Sylwyd y cai y Cyngor arian am 31 y cant at yr amcan. -Dywedai Mr J. R. Jones toJ yr amaethwyr yn ei ddosbarth ef yn ffafr- iol iawn i gynllun o'r fath. Tybiai ef mai adeiladu tri neu bedwar o dai yma ac acw fyddai oreu, ac nid gwneud llawer yn yr un fan. Yr oedd rhai yn gallu gwneud tai rhagorol am rent o bedair punt i chwech a chweigen, a beth oedd ar ffordd y Cyngor rhag gwneud yr un peth. Credai ef y bydd- ent yn elw i'r dosbarth yn hytrach na cholled —Sylwodd Mr David Roberts, y byddai raid i'r tenantiaid da!u rhan o'r hawl a'r llog yn y rhent, ac ymhene y pedwar ugain mlynedd, y dylai y tai fod yn eiddo y tenant gwreiddiol neu ei gynrychiolwyr, ond eiddo y Cyngor fyddent, ac fod hyny yn hollol anheg. -Yr oedd Mr R. O. Roberts, o'r tarn mae'r peth goreu oedd edrych allan a oedd gweithwyr yn barod i rentu tai pe bae y Cyngor yn adeiladu rhai, a chredai Mr John Owen mai y Llywodraeth a ddylai adeiladu tai ac nid y Cyngor.— Sylwodd y cadeirydd nad oedd ef yn credu fod angen am i'r Cyngor ad- eiladu tai o gwbl neu buasent wedi cael cais am danynt.—Dywedodd y Parch T E. Owen ei fod yn cytuno mai y Llywodraeth ddylai adeiladu ac nid y Cyngor, ond cyn y byddai y cwestiwn yn cael ei gymeryd i fynu yn briodol rhaid fyddai troi y Weinyddiaeth bres- enol o'i swydd. Gobeithiai y cymerai y Cyngor y mater i fyny. Nid oedd yn angenrheidiol iddynt wneyd dim heb ystyried y cwestiwn yn arwyadl gyntaf. -Dywedodd y Clerc y cytunai pawb fod angen tai i weithwyr yn Lleyn, ond y cwestiwn oedd, allai y Cyngor ad- eiladu tai a'u gosod am rent mor resymol fel y gallai gweision ffermydd dalu am danynt. Barnai ef mai'r peth doethaf oedd hysbysebu am geisiadau oddiwrth rai ag angen tai arnynt, ac i'r personau hyny roi manylion o barth- ed i nifer y teulu, nifer yr ystafeltoedd yn y tai y maent yn byw ynddynt yn awr, swm eu cyflogau, a'r rhent a dat- ent ar hyn o bryd, a faint fwyaf o rent allent fforddio dalu pe y gwneid tai ar eu cyfer gan y Cyngor.- Yr oedd Mr M. Nanney Jones hefyd yn bleidiol i'r cynllun, ond cynygiai Mr W. Evans, Llithfaen, eu bod yn gohirio'r mater nes ?,weled y Bil Tir newydd. -Cynygiwyd gan Mr Richard Jones fod y Cyngor, yn herwydd nad oedd cynllun o'r fath yn ymarferol o dan y gyfraith a'r amod- au presenol, yn galw sylw y Llywod- raeth at y cwestiwn gyda golwg ar gael gwell telerau. -Eiliwyd ef gan Mr G. Jones, a phasiwyd trwy fwyafrif o naw. Pasiwyd hetyd anfon copi o'r penderfyniad i Fwrdd y Llywodraeth Leol, ac i'r Aelod Seneddol tros Eifion. Eisieu jvwy o Gyflog.—Yr oedd gweith- wyr y Cyngor yn gwneud cais am god- iad yn eu cyflogau, a chynygiai Mr M. N. Jones, yn cael ei eilio gan Mr R. O. Roberts tod ychwanegiad yn cael ei roi o bump y cant.—Cynygiwyd gan Mr David Roberts, ac eiliwyd ef gan Mr G. W. Davies, fod safon y cyflog yn y dytodol yn I p. yr wythnos yn lie deu- naw swllt.-Ar gynygiad Mr W. Jones yn cael ei eilio gan Mr J. R. Jones, pasiwyd cyflwyno'r mater i bwyllgor y ffyrdd i'w ystyried.
MESUR DADGYSYLLTIAD YR EGLWYS.
MESUR DADGYSYLLTIAD YR EGLWYS. PASIO'R TRYDYDD DARLLENIAD I ARAITH MR. LLOYD GEORGE. I Yr wythnos ddiweddaf pasiwyd tryd- ydd darlleniad Mesur Dadgysyiltiad yr Eglwys yn Nghymru trwy fwyafrif o io3- Yn ystod ei araith alluog o blaid y Mesur dywedodd Mr. Lloyd George mai egwyddor y mesur oedd gadael i bobl Cymru reoli eu materion ysprydol eu hunain. Dyna'r pam yr oedd pobl Cymru yn ei getnogi1 a chai ei geinogi gan amryw o Ryddfrydwyr Eglwysig. Yr oedd o leiaf wyth o etholiadau wedi bod yn ei gof ef, ac ymhob un o'r ethol- iadau hyny yr oedd Cymru wedi datgan trwy fwyafrif goilethol ei dymuniad am y mesur hwn. Ni buasai dymuniad o'r fath yn cael ei wrthwynebu gan rym o'r tu allan mewn unrhyw wlad sydd yn y byd. Nid oedd ei materion crefyddol yn cael ei gorfodi yn groes i'w hewyllys ar unrhyw yenedl o dan y faner Bryd- einig fel ag y P\\ neid gyda Chymru. Wedi canrifoedd o brofiad yr oedd y genidl Gymreig wedi dod i'r penderfyn- iad nad oedd Eglwys Loegr yn gweddu i'w hanianawd n t'u hangenion crefydd- ol, a sylweddolent fod Sefydliad Gwlad- wriaethol ) n lIeteirio cynydd crefyddol. Onid oedd y ffaith fod mwyafrif mawr y bobl wedi dod i'r penderfyniad hwnw yn profi eu hawl i'w dymuniad? Yn sicr yr oedd Cymru yn abl i farnu beth fyddai oreu i'w bywyd crefyddol ei hun Yr oedd ei phobl wedi gwneud cymaint o aberth ag unrhyw bobl yn y byd tuag at gynal y grefydd Gristionogol. Nid oedd holl eglwysi Lloegr yn darpar eis- teddloedd ond ar gyfer 14,000,000 allan o 35,000,000; ond yr oedd eglwysi a chapeli Cymru, trwy ymdrech wirfoddol yn benaf, yn da-par lleoedd ar gyfer bron yr oil o'r trigolion. Mewn ardal- oedd mynyddig, lie byddai raid i ddyn deithio deng milltir i chwilio am feddyg, nid oedd raid iddo fynd ymhellach na dwy filltir i chwilio am dy addoliad. Gallai Ty'r Cyffredin fod yn sicr na wnai pobl Cymru ddim niwed i'w bywyd crefyddol eu hunain. lJywed rnai, meaaai r cangnelior, na ddylid mynd yn ol i hanes y gorffenol i brofi yr angen am y mesur. Ond yr oedd yn rhaid cymeryd holl gyfrif y sef- ydliad i ystyriaeth. A thybio y gallai Anghvdffuifiaeth gael ei ysgubo o Gymru, a chyflwr cretyddol y wlad eto'n llwyr dan ofal yr Eglwys Sefydledig, pwy allai sicrhau na byddai'r wlad eto yn yr un cy n wr truenus ag ydoedd gynt cyn y deffroad Ymneilltuol. Yr oedd yr Eglwys, yn lie edrych ar yr Ymneill- tuwyr fel cydweithwyr Cristionogol, yn edrych arnynt fel plaid boliticaidd wrth- wynebus, a gwnaent gymaint ag a allai i'w dinystrio. Ceid engreifftiau amlwg o hyny yn lIyfr George Borrow—" Wild Wales." Yr oedd Borrow ei hun yn Eglwyswr cadarn, ac yn gryf dros set- ydliad. Nis gellid darllen ei lyfr heb deimlo mor vvrthwynebus ydoedd i Anghydffurfiaeth. Dywed yn ei lyfr i Eglwyswr selog ddweyd wrtho pan yn y Bala fod dyddiau Ymneilltuaeth wedi eu rhifo.-fod iheiihor y plwyf a'i giw- radiaid yn troi y Methodistiaid yn 11 u. Yr oeddynt yn ymladd y pregethwyr, meddai, a'u harfau hwy eu hunain. ac yn eu trechu. Dangosai hyny. meddai'r Canghellor, fel yr ymddygid at yr Ym-I neilltuwyr. Nid cael y bobl o'r tafarnau oedd y cwestiwn, ond eu cael oddiar y pregethwyr Methodistaidd. Yn mhob cyfnod o hanes yr Eglwys Sefydledig yr oedd wedi ymyryd a bywyd crefyddol y bobl, n gwnai hyny eto. Cafodd Deon Howell, pregethwr mwyaf yr Eglwys yn Nghymru yn y ganrif hon, ei ddewis yn unfrydol gan ei gyd-genedl yn esgob iddynt, ond ni wnaed erioed mohonc yn esgob—yn niwedd ei oes bron y gwnaed ef yn ddeon hyd yn nod. Pam ? Am nad oedd yn ddigon ceidwadol. Nid oedd yn ymosod ar yr Ymneilltuwyr ac ar y Rhyddfrydwyr ar lwyfanau y wlad Yr oedd gogwydd yr Eglwys i'r un cyfeir- iad hedd\w. Gwneid apwyntiadau am resymau politioaidd, ac am resymau oedd yn effeithio ar fywyd crefyddol y bobl. Hyd nes y gwahanid yr Eglwys a'r Wladwriaeth byddai i hyny hyd yn nod wenwyno awyrgylch yr Eglwys ei hun. Ni wyddai neb hyny yn well na'r clerigwyr ieuainc. Cyn y gallai yr Eglwys tod yn allu yn Nghymru rhaid oedd iddi fod yn rhydd i addasu ei hun mewn yspryd o gydymdeimlad Cristion- ogol i anianawd y genedl. Gillai yr amodau presenol fod yn addas i'r Eg- lwys yn Lloegr, ond yr oeddynt yn hollol anaddas yn Nghymru a dyna'r pam yr oedd ef o waelod ei galon yn dymuno gweled chwilfriwio y livffcth-j eiriau oedd yn llesteirio bywyd cref- yddol y genedl. --0-
Cadwraeth -y Sabboth. j
Cadwraeth y Sabboth. Y mae Lord Henry Cavendish Ben- tick, A.S., yn dwyn Mesur i'r Senedd a fydJ yn gwneud cadwraeth y Sabboth yn un llawer haws ymwneyd ag ef Nid yw y Mesur yn bobpeth y buasai y rhai sydd yn teimlo yn gr) f o hlaid sancteiddrwydd y Sabboth yn dewis iddo fod ond bydd i'r Mesur, os pesir ef, brofi yn fantais arbenig i'r eglwys i gario allan ddysgeidiaeth Iesu Grist ar gwestiwn y Sabboth. Byddai yn ddy- munol i arweinwyr crefyddol y wlad fod yn fyw i bwysigrwydd a gwerth y Mesur hwn, a gwneud a allont i roddi pob cefnogaeth i Lord Henry er ceisio ei basio. Gobeithiwn y bydd i arwein- wyr Cymru yn arbenig ddytod allan yn gryf o'i blaid.
Mr. Lloyd George yn Nghaernarfon
Mr. Lloyd George yn Nghaernarfon Dymunwn wneud yn hysbys mai dydd Iau, y 31ain o'r mis hwn y bydd Mr Lloyd George yn anerch cyfarfod yn Mhafiliwn Caernarfon. Cynygir pleid lais o ymddiriedaeth yn Mr George gan Mr Muir, Bangor, yn cael ei eilio gan Mr J. D. Griffith, Conwy, a'i ategu gan Mr R. J. Owen, Criccieth, Dr Wynne Griffith, Maer Pwllheli, a Mr J.. T. Jarret, Caernarfon. Llywyddir gan y Parch Evan Jones, Caernarfon. --0
Cyfarfod Ysgolion M.C. Dosbarth…
Cyfarfod Ysgolion M.C. Dosbarth Pwllheli. Cynhaliwyd yr uchocl yn tiabell, Llanaelhaiarn, y Sul diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr E. Jones-Griffith, Bod- riw, Pwllheli. Yn y boreu holwyd y plant a'r dosbarth canol gan y Parch. D. E. Davies, a'r un modd yn yr hwyr y dosbarth hyuaf. Yn nghyurfod y cynrvchiolwyr pasiwyd pleidlais o gyd- ymdeimlad ag eglwys S,tl.:m yng wyneb y golled drom ddaeth iddi ti wy y tan. Rhoddodd Pen nount wahoddiad cynes i'r Gymanfa Ganu y flwyddyn nes if. a derbyniodd y gynhadledd y c<iis yn liawen. Catwyd adroddiad o waith pwyllgor y Gymanfa a gynhelid yn Fourcrosses, ac hysbyswyd fod Mr John Thomas, Llanwrtyd, wedi derbyn y gwahoddiad i fod yn ar% e:n) dd. Caf- wyd adroddiad hefyd gan bwyllgor y Gymanfa U nedig sydd i'w chynal yn Mhwllheli dydd Llun, Mehefin 6ed, j 1915. Dewiswyd pwyllgor o chwech o Ddosbarth Pwllheii a chwech o Ddos- barth Eifionydd i ddewis y tonau. j Cafwyd eglurhad oddiwrth Bwyllgor yr Ysgol Sabbothol ar gynydd y costau sydd ynglyn a'r Arholiad Sirol. Dewis- wyd y rhai canlynol yn swyddogion y Cyfarfod Y sgol am y flwyddyn nesaf: Llywydd, Mr. T. J. Griffith, Pias Dll; Trysorydd, Mr. Henry Roberts, Aber- erch Ysgrifenydd y Gymanfa, Mr. Frank Williams, Fourcrosses. Pas- iwyd diolchgarwch i Mr. E. Jones Griffith am ei wasanaeth ffyddlon a gwerthfawr fel llywydd ar derfyn ei dymor. Cafwyd adroddiad o'r Tafleni I Chwechwythnosol gan Mr. R. W. Jones, Tarsis W. W.O., Ysg.
Advertising
-0- Dandruff is Serious. It is a Disease Caus^i by Living Hair-di sf.roi,in, Mictc-L-:s Tnless Checked Baldness f;vs. Do you Know that dandruff is a disease, and ca: i'y contractcd ? Dandruff is causcd hy hvitig microbcs which increase and increase until the hair begins to fall. If 11 ,t prevented, baldness is sure to result. Don't risk baldness with its unpleasant IIS qLICII,-C' By the daily use of,R sail 93 Hair Tonic you can quickly rcs'ore our hair to a healthy condition, get rid of dandruff, and make your hair soft and gle-ssy. The Doctor who invented Rexall "93" Hair Tonic, the Drug Co., who manufacture, It, and we curse ves, all tiotit s- be!:eve it to he the most sjicntific and dlkicnt remedy for all scalp and hair roubies. 2s. and 4s. a bottle. RcxaU "93" Hair Tonic is one of the famous !"cxaU Remedies of wh ch there is one for each of the common human ils. Everv Rexall Remedy, including Rexall )j" Hair Tonic, is sold upon this unqualified guarantee The United Drll. Co., and the Rexall Shop selling th is prcparaticn, guarantee it to give you satisfaction if it does not, go back to the shcp where you bought it and get your money. It belongs to you, and u;, want you to have it." Rexall "93" Hair Tonic c: 1 only be ob'aincd from the Rexall Chenitgts- there is ore in almost every communtty, Th • Rexall Chemist in Pwllheli is R. O. GRIFFITH, 60, HIGH STREET, PWLLHELI. -o Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr.—< ioL DEWIS GWEINIDOGION Y METH- ODISTIAID AR GYNLLUN Y WESLEYAID. Yn Mhenrhos, fel y deallwn yn ol yr adroddiadau, fe wnaed aw^rymiad lied newydd gan un o'r siaradwyr, sef fod yr eglwysi i ddewis gweinidogion am dair neu bum mlynedd. Yr hyn yr hoffai yr eglwysi ei wybod ydyw hyn, a ellir gwneud yr hyn a awgrymai Mr D E. Davies heb ganiatad y Sasiwn ? Os gellir, gadewch i ni trwy y wlad dde.11 hyn yn glir, ac yna te fydd yn llawer haws genym ddewis bugeiliaid. Y gwir yw hyn, y mae ofn ar lawer eglwys symud i alw gweinidog rhag i'r cysylltiad droi allan yn aflwyddianus, ac na allai eglwys yn anrhydeddus gael symud y bugail. Byddai y tath gyn- llun yn tantais fawr i'r eglwysi a'u gweinidogion. Y mae hyn yn llawer pwysicach na dim trafodaeth arall a gafwyd ar y niater. CVMRO. -0 PYSGOTA MECRYLL AR Y SABBOTH.— Cafodd tri o honom ddihangfa gyfyng rhag boddi y Sabboth diweddaf. Buom allan yn y bau mewn cwch yn ymbleseru trwy ddal mecryll. Cawsom ddalfa Kvyddianus, gormod i'w cario gartref ddydd goleu. Wedi mwynhau te dj dychwelasom yn yr hwyr i nol yr helfa. Ond yn anffodus, ac yn ffodus hefyd, dymchwelodd y cwch a thaflwyd ni i'r dwfr ond heb fod yn rhy ddwfn i bethau fod yn waeth. Sales by Messps. Wm. Dew & Sen. CARNARVONSHIRE. IN THE PARISH OF LLANNOR, NEAR PWLLHELI. THE LLANNERCH ESTATE (2nd Sale). This Freehold Estate, comprising about 242 acres, will be offered by PUBLIC AUCTION by MESSRS. WM. DEW AND SON, at PWLLHELI, on WEDNESDAY, AUGUST 13th, at 2 o'clock, at con- siderably reduced reserves. The Vendor will allow half the pur- chase money to remain on mortgage at 4 per ce.t. 011 such lots as are so rc.ified in the Sale particulars. Particulars and plans of Messrs. Greig, Meikle and Briggs, Solicitors, 5, Ysruiam Buildings, Gray's Inn, London, W.C.; of Messrs S. R. Dew & Co., Solicitors, Bangor & Carnarvon; or of the Auctioneers, Caxton Build- ings, Bangor, N W. GAr IMPORTANT NOTICE. The Welsh National Agricultural Show AT PORTMADOC, August 7th and 8th. POST ENTRIES FOR LIVE STOCK CLOSE JULY 19th. Ordinary Entries for Horse Le-p'ng, Trotting, Harness Classe3, Butter MakiDg. Slate Splitting Rock Drilling, Ambulance Work, Lamb Shear- ing Competitions and Brass Band Contest on Monday, July 28th. The Military Band and 50 Boys from the "Clio" Training Ship will give a NAVAL TOURNAMENT and PHYSICAL TRAINING DISPLAY, and Mr J. Moses will give a SHEEP DOG TRIAL DISPLAY on both days. AEROPLANE FLIGHTS by Mr Gustav Hamel on botl (1 > s Prize Lists nud Entry Forms from the Sec- retary—THOMAS WHITFIELD, Shrewsbury. iO RCAN RECITAL YN Nhapel Penmount, NOS IAU, AWST 14eg, 1913, GAN HERBERT F. ELLINGFORD, ESQ., MCS. BAC. (OXON.), F.R.C.O A R.C M., Opganydd St George's Hall, Lerpwl. Hefyd ceir amryw Gydganau gan y Pwllheli Choral Society Arweiuydd: li o". NORMAN MCLEOD, A.K c M. Cadeirydd Y MAER. Mynediad i mewn trwy docynau. Tanysgrifwyr 21s a 10s. 6c. Blaen- Seddau rhifedig, 5s. a 3s.; Seddau eraill, 2s. a is. Drysau yn agored 6 30, dechreuir am 7. Yr eliv at ddyled Capel Salem. J. OWEN WILLIAMS, Mor;an, Ysgritenydd. GLO GLO! G-LO! AT DRIGOLION PWLLHELI. Dymunaf gyflwyno ty hun i'ch sylw fel un sydd yn ymgymeryd a chychwyn Busnes Glo o'r newydd yn y Dref, ac yn bwriadu ymsefydlu yn eich mysg. Byddaf ddiolchgar am bob cefnogaeth, a gwnaf fy ngoreu i geisio eich cyflenwi a'r glo goreu, ac am y prisiau isaf yn bosibl. Teiir sylw dioed i bob archeb. SAMUEL EVANS, Morlan, South Beach, Pwllheli. PRELIMINARY NOTICE. Visitors' Concert at CARDIFF ROAD CONGREGATIONAL CHURCH, August 12th, 1913. On Sale. ^MALL Half-decked Sailing Boat for Sale —A Bargain. Anchor, Chain, Oars, &c. Apply-Oliver, Pwllheli. To ba Let. MADRYN HOUSE, South Beach, l Pwllheli. Favourable terms. Immediate possession. Apply to MR. LEWIS JONES, Preswylfa, Ala Road, Pwllheli. Wanted. A STRONG Lad, about 14, as an L1 Errand Boy and Apprentice to the Bakery, &c., trade. Apply" X," U dgorn Office. A SMART Girl as Waitress. Apply, Central Restaurant, Liverpool t House, Pwllheli.