Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

NODION A HANESION. I

Pan ddaeth y Newydd Da Kyntaf…

Gwr Llofruddiog.I

- LLOSGI CAPEL SALEM

Rhoi Bungalow Syr W. H. I…

News
Cite
Share

Rhoi Bungalow Syr W. H. Lever ar Dan. DYNES YN CYFADDEF. Yr wythnos ddiweddaf cafodd bun- galow perthynol i Syr W. H. Lever, yn agos i Rivington Pike, ei roi ar dan. Cedwid ynddo lawer o drysorau celfau cain a chreiriau henafol, y rhai oeddynt yn werth miloedd lawer o bunau. Din- ystriwyd yr oil, ac y mae'r golled yn anferth. Ar y rheiliau yn agos i'r lie caed bag ac ynddo bapur, ac ar y papur y geir- iau a ganlyn "I goffhau ymweliad y Brenin a Lerpwl. Pleidlais i ferched. Byddwch deyrngat i'r Brenin—pan fo'r Brenin yn deyrngar i ni. Pleidlais i ferched." Ceid ynddo hefyd y geiriau a ganlyn: Pe bae Syr William Lever mor deyrn- gar i ni a'r Blaid Ryddfrydol ag ydyw Lancashi e i'w Brenin, ni buasai hyn wedi digwydd Ddydd Mercher rhoes Mrs Edith Rigby o Preston ei hun i fynu i'r Prif Gwnstabl yn Lerpwl, a chyffesodd mai hi a roes dy Syr William Lever ar dan yn Rivington Pike. Hi ei hun a'i gwnaeth, meddai, heb gymorth neb arall. Nid oedd wedi dweyd wrth neb ag eithro un aelod o'r undeb y perthynai iddo ei bod yn bwriadu rhoi y lie ar dan.

-u - Y Brenin a'r Frenhines…

Tanio Llawddryll yn Nhy'r…