Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

Advertising

PWLLHELI.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

PWLLHELI. OVHOKDDIADAU SABBOTHOL G n-ph. 6. Pealan (A), am 10 a 6, Parch Henry Rees, Pwllheli. Capel Seisoig (A.) Cardiff Itoad, am 11 a 6-30, Parch D. W. Roberts, Gweinidog. Penmoant (M. C.), am 10 a 6, Parch J. Puleston Jones, M. (Gwein'flog). Salem IM.C.), 11'0 10 a 6, Parch John Hughes, B. A., B. D. (Gweinidog) Capel Sehniat (M Cl. I Ala Road am 11 a 6-30, Parch K L. Mendtss, B.A. Tabernacl (U.J. Born 10 a 6, Parch- Hen Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2, Y sgol. Ysgol Genhadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Cyfa,fod Gwe ldi am 2, Vsgol. Ysgol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6, Cyfarfod Gwedd am 2, Ysgol. South Beach (M C.) am 2, Parch J. Evans, Lerpw l. Tarsis (M.C), am 10 a 6, Parch J. Fvanp, Leipwl. s, ion: W.) am 10, Mr John Williams, Rhiw am fi, I r Hugh JoDes, Criccieth. St. Pd. 9-3 » a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seisnig) Parch J lidw.nds, B. A., Fioer, a'r Parch. T. Woodings, B.A., Cu al. Cenhadaeth LydewiLz North Street, R.G., ami 10-30, Offertn Sancfca'dd, am 2, Ysgot; am 6-30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P. Mr roar, bmedicsiwn YMWELVVVR.— Mae'r hin ddymuool yn dechreu denu'r dieithriaid. Daeth yma gryn nifer y dyddiau diweddaf. TRIP. Odydd Mawrth diweddaf aeth dosbarth Mr. G. M. Roberts, Marsley House, am bJeserdaith trwy Benygroes, Rhyd-ddu, a Beddgelert. Mwynasant eu hunain yn fawr. FFAIR WYL IFAN.-Cynhaliwyd y ffair hon yn y dref ddydd Sadwrn; diweddaf. Yr oedd yn ffair ooblog I iawn, ond ychydig o anifeiliaid oedd ynddi. REGATTA.—Cwestiwn ofynir yn fyn- ych ymysg y pysgotwyr ydyw-a geir regatta yn y dref elen%? Wedi gwneud ymholiad gyda swyddog-ioo y ddiweddaf cawsom ar ddeall y bydd i regatta gym- eryd lie oddeutu canol Awst. Y SEINDORF.-Deallwn fod ein sein- dorf wedi rhoddi ei gwasanaeth yn rhad yn y chwareuon gynhaliwyd yn yr ad- lonta ddydd Iau diweddaf. Mae bech- gyn y cyrn bob amser yn barod i roi eu gwasanaeth i unrhyw achos teilwng. Da iawn fechgyn. GWIBDAITH I FASNACHWYR.—Y mae amryw fasnachwyr fu gyda gwibdaith y Gwyr Ieuainc y dydd o'r blaen wedi mwynhau eu hunaio gymaint fel y maent yn awyddus am i wibdaith gyff- elyb gael ei threfnu yn mis Medi i holl fasnachwyr a gvvasanaethyddion y dref. Y mae digon o fodurion yn y cylch ar hyn o bryd, a sicr genym y byddai y wibdaith yn un hynod boblogaidd. COR PWLLHELI A GWYL HARLECH.— Cawsom y fraint nos Sul, o wnando ar Undeb Corawl y dref (o dan arweiniad y Proff. N. McLeod) yn mynd drwy y darnau fwriadant ganu yn Ngwyl Ger- ddorol Harlech, ddydd Iau nesaf. Da iawn genym oedd eu clywed yn canu mor ragorol. Dengys y cor ol llafurl ac ymroad mawr. Deallwn mai yn y prydnawn y bydd y cor yn canu yn yr wyl a enwyd, a sicr genym yr a llawer 'o'r dref yno i'w clywed, a chant dal da am fyned. HAELIONI Y MAER. — Ddydd Iau di- weddaf rhoddodd y Maer wledd o de a bara brith a chacenau i blant holl ysgolion y dref, yn rhifo tua 700. Yr oedd wedi bwriadu rhoddi y wledd ddiwrnod Gwyl Fai, ond gan i'r diwr- nod droi mor wlyb gohiriwyd hyd ddydd Iau diweddaf. Gwr caredig iawn yw y "Maer, ac yn hoff iawn o blant, a doedd yn rhyfedd yn y byd iddynt roddi cymaint o gymeradwyaeth iddo pan ymwelodd ef a'i briod a'r gwahanol ysgolion yn ystod y wledd. PAROTOI.-Prysur barotoi gogyfer ag Eisteddfod Gwyl y Bane y mae cor meibion Mr Ted Roberts, Cybi House. Rhifa yn agos i bedwar ugain. Beth sydd yn dod o'r cor plant ? Sicr gen- ym y byddant hwythau yn hogi arfau gogyfer a'r Eisteddfod. Y maent wedi cynorthwyo amryw o gyrddau eistedd- fodol yn a thuallan i'r dref yn y gor- ffenol, a rhyfeddem yn fawr pe y llaes- ent ddwylaw yn awr, a pheidio cefnogi sefydliad ag y mae y dref yn dihynu cymaint arno. CHWAREUON GWYL FAI AC ARDDANG- OSFA BABANOD -Fel y cofir, bu raid gohirio y chwareuon oedd ynglyn a choroniad Brenhines Mat yn y dref ohervvydd i'r diwrnod droi mor wlyb. a chynhaliwyd hwy ddydd lau diweddaf yn yr Adlonfa. "Vele yn canlyn enwau yr e.,iillwyr :-Rhedeg can' Hath John Cook Thomas ac E. Williams. Eto i enethod i, Gillie Turner 2, Ellen P. Lloyd. Rhedeg haner can' liath i, Emrys Evans 2, Rees Lewis. Rhedeg can' llath (agored) 1, J. Morley Edwards 2, W. Jones Roberts. Ras wy mewn Ilwy i, Phyllis Williams; 2, Tilly Jones. Rhedeg gyda chortyn 1, Girlie Turner; 2, Edith Emily Murray. Rhedeg milldir i, W. Jones Roberts; 2, Hughie Roberts. Rhedeg 80 llath I, Edith E. Murray 2, Nellie Ellis. Ras teir-goes i, J. Murray a J. Cook Thomas 2, G. O. Griffith ac Ernest Evans. Eto i enethod i, Edith a Judith Murray 2, Mary Jones a Mary Jones. Rhedeg can' Hath i rai dros 40: 1, William Lewis, Leeds House 2, Sergeant Rose. Naid uchel i, Bobbie Humphreys 2, G. O. Griffith. Ymryson tynu 1, Criw y Garreg. Ynglyn a'r chwareuon cyn- haliwyd Arddangosfa Babanod, pryd y cynygiai Mr. E. P. Jones, ffrwyth fas- nachydd, Gaol Street, gwpan arian am y baban tewaf a mwyaf. Enillwyd y gwpan gan Mair, geneth fach 18 mis oed Mr. a Mrs. Roderick Roberts, Market Boot Stores, Penlan Street 2, plentyn Mr. a Mrs. Parker, High Street 3, plentyn Mr. a Mrs. Raven- hill, Cardiff Road. Cyflwynwyd y gwobrwyon gan Dr. R. Jones Evans, yn cael ei gynorthwyo gan Miss F. A. Jones, Moelydon, Mr. W. Wynn Owen, a J. J. Edwards. Gwasanaethwyd fel beirniaid gan Mri W. Cradoc Davies, W. H. Thomas, D. T. Lloyd, F. E. Young, a Sergt. Rose ac fel sti ward- iaid gan Mri. T. Wilkinson, David Williams, R. O. Griffith, E. J. Griffith, W. H. Benskin, Evan Jones, G. H. Fosse, W. W. Dobson, a W. S Lloyd. Yr ysgrifenydd ydoedd Mr. J. J. Ed- wards, i'r hwn y mae pob clod yn ddyledus am y dull deheuig y cariodd ei waith yn nilaen.

LLANNOK.-I

- 'J-LLITHFAKN.

I Brwydro yn y Balkan.,

I Y Sosialydd Goreu weloddI…

Marwolaeth Arswydus.

-0- ! Anfon Ysbeilydd i Garchar.…

ICyhuddo Mam o Ladd eiI Phlentyn.…

Ymladdfa mewn Llys.

- -0-Rhoi Palasdy ar Dan.

Streic y Gweision Ffermydd.

-I Dynes leuanc i Gael ei…

Eisteddfod Gwyl y Banc, Pwllheli.

Advertising

IFfeiriau Pwllheli.

Cenfigen Liane Ifane.

-o - I (Bobebiaetbau.

YR ARDDANGOS1AD 0 WNIAD-WAITH,…

Advertising