Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
Advertising
r'   c A DC E s are preferred to all ot hers by the most experienced sportsmen all the world over, who realize how important it is to select the best. E L E Y Cartridges may always be relied on. I S?? 22 '?? ? 22 ifelSl ?fi? f<?? J^? ort t '? Long ?'????'? Ri m Rim PS»| Rifle and j Rifle ^nd Revolver ;;l: "k Revolver <li|pp ™« ?S "AGME." ECAR" ELEY Ag" d ep-shell E B Nitro quality SMOKELESS." Loaded with Eley Cartridge, Smokeless (42 gr.) Smokeless Q. per 100. 8/6 per 100. 9/6 per 100. E. B. Nitro 5^ "^Shell f Loaded with "Eley 76 deep-shell Gastight t Smokeless," II chultze" Pega noid (Waterproof) ? and other Standard Powder. are sold by es JAMES WILLIAMS, Builders Merchant. I areso!dby UAtViEb W)LL Builders Merchant. PWLLHELI. Wholesale by ELEY BROS., Ltd., LONDON, W.C.
PWLLHELI.
PWLLHELI. OVHOKDDIADAU SABBOTHOL G n-ph. 6. Pealan (A), am 10 a 6, Parch Henry Rees, Pwllheli. Capel Seisoig (A.) Cardiff Itoad, am 11 a 6-30, Parch D. W. Roberts, Gweinidog. Penmoant (M. C.), am 10 a 6, Parch J. Puleston Jones, M. (Gwein'flog). Salem IM.C.), 11'0 10 a 6, Parch John Hughes, B. A., B. D. (Gweinidog) Capel Sehniat (M Cl. I Ala Road am 11 a 6-30, Parch K L. Mendtss, B.A. Tabernacl (U.J. Born 10 a 6, Parch- Hen Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2, Y sgol. Ysgol Genhadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Cyfa,fod Gwe ldi am 2, Vsgol. Ysgol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6, Cyfarfod Gwedd am 2, Ysgol. South Beach (M C.) am 2, Parch J. Evans, Lerpw l. Tarsis (M.C), am 10 a 6, Parch J. Fvanp, Leipwl. s, ion: W.) am 10, Mr John Williams, Rhiw am fi, I r Hugh JoDes, Criccieth. St. Pd. 9-3 » a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seisnig) Parch J lidw.nds, B. A., Fioer, a'r Parch. T. Woodings, B.A., Cu al. Cenhadaeth LydewiLz North Street, R.G., ami 10-30, Offertn Sancfca'dd, am 2, Ysgot; am 6-30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P. Mr roar, bmedicsiwn YMWELVVVR.— Mae'r hin ddymuool yn dechreu denu'r dieithriaid. Daeth yma gryn nifer y dyddiau diweddaf. TRIP. Odydd Mawrth diweddaf aeth dosbarth Mr. G. M. Roberts, Marsley House, am bJeserdaith trwy Benygroes, Rhyd-ddu, a Beddgelert. Mwynasant eu hunain yn fawr. FFAIR WYL IFAN.-Cynhaliwyd y ffair hon yn y dref ddydd Sadwrn; diweddaf. Yr oedd yn ffair ooblog I iawn, ond ychydig o anifeiliaid oedd ynddi. REGATTA.—Cwestiwn ofynir yn fyn- ych ymysg y pysgotwyr ydyw-a geir regatta yn y dref elen%? Wedi gwneud ymholiad gyda swyddog-ioo y ddiweddaf cawsom ar ddeall y bydd i regatta gym- eryd lie oddeutu canol Awst. Y SEINDORF.-Deallwn fod ein sein- dorf wedi rhoddi ei gwasanaeth yn rhad yn y chwareuon gynhaliwyd yn yr ad- lonta ddydd Iau diweddaf. Mae bech- gyn y cyrn bob amser yn barod i roi eu gwasanaeth i unrhyw achos teilwng. Da iawn fechgyn. GWIBDAITH I FASNACHWYR.—Y mae amryw fasnachwyr fu gyda gwibdaith y Gwyr Ieuainc y dydd o'r blaen wedi mwynhau eu hunaio gymaint fel y maent yn awyddus am i wibdaith gyff- elyb gael ei threfnu yn mis Medi i holl fasnachwyr a gvvasanaethyddion y dref. Y mae digon o fodurion yn y cylch ar hyn o bryd, a sicr genym y byddai y wibdaith yn un hynod boblogaidd. COR PWLLHELI A GWYL HARLECH.— Cawsom y fraint nos Sul, o wnando ar Undeb Corawl y dref (o dan arweiniad y Proff. N. McLeod) yn mynd drwy y darnau fwriadant ganu yn Ngwyl Ger- ddorol Harlech, ddydd Iau nesaf. Da iawn genym oedd eu clywed yn canu mor ragorol. Dengys y cor ol llafurl ac ymroad mawr. Deallwn mai yn y prydnawn y bydd y cor yn canu yn yr wyl a enwyd, a sicr genym yr a llawer 'o'r dref yno i'w clywed, a chant dal da am fyned. HAELIONI Y MAER. — Ddydd Iau di- weddaf rhoddodd y Maer wledd o de a bara brith a chacenau i blant holl ysgolion y dref, yn rhifo tua 700. Yr oedd wedi bwriadu rhoddi y wledd ddiwrnod Gwyl Fai, ond gan i'r diwr- nod droi mor wlyb gohiriwyd hyd ddydd Iau diweddaf. Gwr caredig iawn yw y "Maer, ac yn hoff iawn o blant, a doedd yn rhyfedd yn y byd iddynt roddi cymaint o gymeradwyaeth iddo pan ymwelodd ef a'i briod a'r gwahanol ysgolion yn ystod y wledd. PAROTOI.-Prysur barotoi gogyfer ag Eisteddfod Gwyl y Bane y mae cor meibion Mr Ted Roberts, Cybi House. Rhifa yn agos i bedwar ugain. Beth sydd yn dod o'r cor plant ? Sicr gen- ym y byddant hwythau yn hogi arfau gogyfer a'r Eisteddfod. Y maent wedi cynorthwyo amryw o gyrddau eistedd- fodol yn a thuallan i'r dref yn y gor- ffenol, a rhyfeddem yn fawr pe y llaes- ent ddwylaw yn awr, a pheidio cefnogi sefydliad ag y mae y dref yn dihynu cymaint arno. CHWAREUON GWYL FAI AC ARDDANG- OSFA BABANOD -Fel y cofir, bu raid gohirio y chwareuon oedd ynglyn a choroniad Brenhines Mat yn y dref ohervvydd i'r diwrnod droi mor wlyb. a chynhaliwyd hwy ddydd lau diweddaf yn yr Adlonfa. "Vele yn canlyn enwau yr e.,iillwyr :-Rhedeg can' Hath John Cook Thomas ac E. Williams. Eto i enethod i, Gillie Turner 2, Ellen P. Lloyd. Rhedeg haner can' liath i, Emrys Evans 2, Rees Lewis. Rhedeg can' llath (agored) 1, J. Morley Edwards 2, W. Jones Roberts. Ras wy mewn Ilwy i, Phyllis Williams; 2, Tilly Jones. Rhedeg gyda chortyn 1, Girlie Turner; 2, Edith Emily Murray. Rhedeg milldir i, W. Jones Roberts; 2, Hughie Roberts. Rhedeg 80 llath I, Edith E. Murray 2, Nellie Ellis. Ras teir-goes i, J. Murray a J. Cook Thomas 2, G. O. Griffith ac Ernest Evans. Eto i enethod i, Edith a Judith Murray 2, Mary Jones a Mary Jones. Rhedeg can' Hath i rai dros 40: 1, William Lewis, Leeds House 2, Sergeant Rose. Naid uchel i, Bobbie Humphreys 2, G. O. Griffith. Ymryson tynu 1, Criw y Garreg. Ynglyn a'r chwareuon cyn- haliwyd Arddangosfa Babanod, pryd y cynygiai Mr. E. P. Jones, ffrwyth fas- nachydd, Gaol Street, gwpan arian am y baban tewaf a mwyaf. Enillwyd y gwpan gan Mair, geneth fach 18 mis oed Mr. a Mrs. Roderick Roberts, Market Boot Stores, Penlan Street 2, plentyn Mr. a Mrs. Parker, High Street 3, plentyn Mr. a Mrs. Raven- hill, Cardiff Road. Cyflwynwyd y gwobrwyon gan Dr. R. Jones Evans, yn cael ei gynorthwyo gan Miss F. A. Jones, Moelydon, Mr. W. Wynn Owen, a J. J. Edwards. Gwasanaethwyd fel beirniaid gan Mri W. Cradoc Davies, W. H. Thomas, D. T. Lloyd, F. E. Young, a Sergt. Rose ac fel sti ward- iaid gan Mri. T. Wilkinson, David Williams, R. O. Griffith, E. J. Griffith, W. H. Benskin, Evan Jones, G. H. Fosse, W. W. Dobson, a W. S Lloyd. Yr ysgrifenydd ydoedd Mr. J. J. Ed- wards, i'r hwn y mae pob clod yn ddyledus am y dull deheuig y cariodd ei waith yn nilaen.
LLANNOK.-I
LLANNOK. MARWOLAETH —Wythnos i'r Llun diweddat, wedi cystudd maith, bu farw Miss Sydney Evans, Tir Gwyn, yn 29 mlwydd oed. Rhoed ei gweddillion i orffwys yn mynwent Penrhos, ddydd Gwener diweddaf. AFLWYDDIANU s.-Aflwyddianus fu apel y Cyngor Plwyf o flaen Awdur- dod Addysg y Sir o barthed cael ysgol yn yr Etailnewydd.
- 'J-LLITHFAKN.
'J- LLITHFAKN. PRIODAS Yn nghapel Salem, Pwll- heli, ddydd Sadwrn, unwyd Mr Jacob I Hug-hes, Moriah Terrace, mewn priodas a Miss Maggie Williams, o'r un lie. Mr John Williams, brawd y briodferch oedd y gwas, a Miss C. E. Williams, oedd y forwyn.
I Brwydro yn y Balkan.,
I Brwydro yn y Balkan. Hysbysir fod brwydr wedi cymeryd lie yn Macedonia, lie y mae y Groeg- iaid a'r Serviaid ar y naill law, a'r Bwlgariaid ar y llaw arall, yn gwynebu eu gilydd er's wythnosau. Dywed y brysnegesau o Athens tod y fyddin Fwlgaraidd wedi ymosod ar y Groegiaid a'r Serviaid ac wedi gorym- deithio tuag Genvgheti, a chredir eu bod wedi meddianu'r lie. Hysbysir hefyd fod y Bwlgariaid yn teithio tua Elephthrai, nid oes hysbysrwydd fod brwydr wedi cymeryd lie yno oddigerth fod y cyflegrau wedi tanio ar y dref. Ymosododd tair adran o'r tyddin Fwl- garaidd ar y Serviaid y tuallan i Metzr- kow. Y mae y cyflegrau Bwlgaraidd yn tanio ar y caerfeydd yno. Oddeutu pump o'r gloch toreu Llun ymosodwyd ar safle y Groegiaid rhwng Karassonli a Kilindra a Nigrita.. Dywed y brysnegesau o Salonica fel a ganlyn :—Foreu Sul, ymosododd y fyddin Fwlgaraidd ar y Groegiaid yn agos i Fau Elephthrai ac yn y dyffryn sy'n ymestyn o Pravishta i Strymon. Yn hwyr y nos ymosododd adran arall o'r fyddin ar wersyllfa Roegaidd ar lethrau Mynydd Panghaion. Bu raid i'r Groegiaid encilio i gyfeiriad Mynydd Strymon. Oddeutu pump o'r gloch y bore ymosododd tair adran o'r fyddin Fwlgaraidd ar wersyllfa'r Serfiaid ar lanau y Vardor, gyferbyn a Genvgheli. Nid oedd yno ond nifer fechan o'r Serfiaid a gorfuwyd iddynt ffoi o flaen eu gelynion, y rhai oeddynt yn rhifo gymaint ddengwaith. Tua naw o'r gloch meddianwyd Genvgheli gan y Bwlgariaid, ac oddeutu'r un amser ymosododd byddin gret o'r Bwlgariaid ar y Groegiaid ger Nigrita. Brysneges o Belgrade a hysbysa fod y Bwlgariaid wedi ymosod ar y Serviaid o flaen Ishtib, ac wedi tanio eu cyfleg- rau arnynt. Ar doriad y wawr dech- reuasant ymosod ar Retira, Boukoar Zletovo a Neugosi. Y mae y brwydo, yn parhau yn y lleoedd hyn.
I Y Sosialydd Goreu weloddI…
I Y Sosialydd Goreu welodd y Byd. Yn Nghyngor Llafur Sir Gaernarfon, a gynhaliwyd yn Llandudno Junction, ddydd Sadwrn, cynygiwyd gan gyn- rychiolydd o Hen Golwyn nad oedd y Cyngor Llafur o dan unrhyw amgylch- iadau yn dod ag ymgeisydd allan i: wrthwynebu Mr Lloyd George na Mr William Jones. Teimlid yn ei ranbarth ef o'r sir nad oedd y Cyngor Llafur ond mudiad i ddwyn ymgeiswyr Llatur allan yn Arfon a'r Bwrdeisdrefi. Nis gallai ef addo dim cefnogaeth oddiwrth ei undeb os nad allai eu sicrhau pan ai yn ol nad oedd dwyn ymgeisydd allan yn rhan 0 fwriadau'r Cyngor. Mr Lloyd George oedd cyfaill goreu y dosbarth gweithiol, a'r Sosialydd goreu welodd y byd erioed. Dywedai Mr Robert Jones (Conwy) ei fod mewn llawn gydymdeimlad a'r hwn oedd yn cynyg y penderfyniad, ond tybiai ef mai y lie mwyaf priodol i drafod y mater fyddai cyfarfod blyn- yddol y Cyngor. Dywedodd yr ysgrifeaydd nad oedd y syniad o ddwyn ymgeisydd allan wedi bod yn meddwl yr un o aelodau'r Cyng- or, mor bell ag yr oedd efe yn deall. Yr oedd aelodau y Cyngor, meddai, yn cynwys Rhyddfrydwyr, Toriaid, a Sos- ialiaid, a chyn y gellid dwyn ymgeisydd Llafur allan buasai raid cael cydsyniad yr holl aelodau. Amcan y Cyngor oedd uno'r holl undebau yn y frwydr am well cyflogau a gwell amgylchiadau bywyd yn gyffredinol. Datganodd cynrychiolydd Hen Gol- wyn ei foddlonrwydd o'r eglurhad a roddwyd iddo. f
Marwolaeth Arswydus.
Marwolaeth Arswydus. Nos Lun cynhaliwyd trengholiad ar gorff Richard Norman Wright, awyr- wr adnabyddus, yr hwn a gollodd ei fywyd mewn damwain erchyll yn Shore- ham. Yr oedd wedi bod yn rhoi arddangos- iadau gyda'i ehedlong yn Shoreham, ac ar ot gwneuthur rhai cylchdroad- au yn yr awyr, aeth yn syth i gyfeiiiad Bungalow Town. Yn yr uchder o tua cant o latheni digwyddodd rhywbeth i'w beiriant a disgynodd ar ei phen i lawr ar fferm yn agos i Shoreham. Gynted ag y cyftyrddodd y peiriant yn y ddaear ffrwydrodd y tanc petrol, ac aeth yr ehedlong ar dan. Cafodd Wright ei losgi mor ofnadwy nes y bu farw ymhen ychydig iawn.
-0- ! Anfon Ysbeilydd i Garchar.…
-0- Anfon Ysbeilydd i Garchar. Yn Southport, ddydd Sadwrn, cafodd John Wiliiam Lumb, trafaeliwr, 45 mlwydd oed, ei anfon i garchar am bedwar mis gyda llafur caled, mewn cysylltiad a'r ysbeiliad o'r ariandy yn Lord Street, beth amser yn ol. Dyweda y Prif Gwnstabl y bu meddyg y carchar yn cadw gwyliadwriaeth fanwl ar y carcharor, ac yn ei adrodd- iad yn dweyd y credai fod Lumb yn gyfrifol am ei weithrediadau ar y pryd.
ICyhuddo Mam o Ladd eiI Phlentyn.…
Cyhuddo Mam o Ladd ei I Phlentyn. Yn Mrawdlys Salop, ddydd Sadwrn, cyhuddwyd Ellen Jones, 34 mlwydd oed, o lofruddio ei baban newydd-aned- ig yn Nghroesoswallt ar Ebrill 22ain. Dywedwyd yn y llys i'r ddynes ddweyd pan gymerwyd hi i'r ddalfa nas gwydd- ai beth wnaeth iddi wneyd yr anfad- waith. Cafwyd hi yn euog o guddio genedigaeth y plentyn ac anfonwyd hi i garchar am ddeuddeng mis.
Ymladdfa mewn Llys.
Ymladdfa mewn Llys. DAU GARCHAROR FFYRNIG. Yn Chwarter Sessiwn Lancaster nos Lun yi oedd Jacob a John Roberts, dau lafurwr oddeutu cieg ar hugain oed, yn sefyll eu prawf ar gyhuddiad o wneud niwed corfforol i hçdd eidwad yn Bar- row. Bu'r heddgeidwad yn gorwedd am ddyddiau ar ol i'r carcharorion ei guro a'i gicio. Dywedai y carcharorion nad oeddynt yn y lie a enwid ar y noson hono, ond dedfrydwyd hwy i garchar am ddeunaw mis. Wrth glywed y ddedfryd gwaedd- odd un o honynt nad oedd y ddedfryd yn gyfiawn, a thrawodd yr heddgeid- wad a'i gwyliai nes yr oedd i lawr, a thrawodd y llall yr hwn a'i gwyliai yntau. Neidiodd heddgeidwaid eraill i gynorthwyo eu cymrodyr oedd wedi eu cymeryd dan anfantais, a bu yno ym- laddfa ffyrnig. Ymladdai y ddau gar- charor fel teigrod, ond cawsant eu trechu a chariwyd h wy i'r gell.
- -0-Rhoi Palasdy ar Dan.
-0- Rhoi Palasdy ar Dan. Bu dau dan difrifol yn yr Ysgotland ddydd Llun, a bernir mai y suffragettes a'u hachosodd. Yn un o honynt catodd palasdy mawr rhwng Stirling a Glasgow ei ddinystrio, ac nid oes amheuaeth nad rhywun a'i rhoes ar dan, un ai'r slIff- ragettes neu rhywun yn eu hefelychu. Bu'r tan arall yn stesion Leuchars, a gwnaeth ddifrod mawr iawn yno Nid oes ond y waliau moelion yn sefyll. Yr oedd y palasdy roed ar dan yn un o'r rhai harddaf yn yr V sotland, a chafodd ei losgi i'r llawr, ac y mae'r golled drwy'r difrod wnaed arno yn filoedd lawer. Costiodd gan' mil i'w adeiladu a'i ddodrefnu. Nid oes sicrwydd mai y suffragettes a roes y lleoedd hyn ar dan, gan na chaed dim o'u llenyddiaeth o gwmpas --o
Streic y Gweision Ffermydd.
Streic y Gweision Ffermydd. Nid yw y gweision ffermydd sydd ar streic yn Lancashire wedi dechreu gweithio eto, er fod y meistriaid wedi cynyg telerau iddynt, ac y mae'r ar- gyfwng yno'n ddifrifol. Y mae y ddwy ochr hefyd yn dal yn ystyfnig tel yr ofnir y par ha y streic yn hir. Y mae y cynyrch ar y ffermydd yn difetha, ac y mae masnach yn cael ergyd drom, gan fod rhai o brif drefi LJoegr yn dibynu ar y lleoedd hyny.
-I Dynes leuanc i Gael ei…
Dynes leuanc i Gael ei ChoHi Yn Mrawdlys Derby ddydd Sadwrn pasiwyd dedfryd marwolaeth ar Jdynes ( sengl ddeg ar hugain ced, c r enw: Minnie Gardiner, am lofruddio ei baban newydd-anedig. Yr oedd y rheithvvyr yn ano( yo gryf iddi gael truageredd, ac addawodd y Banuvr Avory y byddai yr argymhelliad yn cael ei anton i'r lie priodol, a gobeithiai y cai ystyriaeth ffatriol
Eisteddfod Gwyl y Banc, Pwllheli.
Eisteddfod Gwyl y Banc, Pwllheli. Dymunir atgoffa ymgeiswvr gogyfer I a'r Eisteddfod uchod tod ) ii ofynol i'r holl Gyfansoddiad.iu fod yn llaw eu priodol Feirniaid, a'r holl Cielfyddyd- waith yn llaw yr Ysgi ifenydd, wedi talu eu cludiad, ar neu cyn dydd Iau, Gor- phenaf iyeg, ac enwau yr ymgeiswyr i ar y Gerddoiiaeth a'r Adroddi;idau i fod yn llaw yr Ysgrifenydd ar neu cyn: Gorphenaf 24aiii.
Advertising
CONSTIPATION v. VITALITY. If you have bowel trouble you lack your full share of vital force. Think! Nothing saps one's energy so quickly or so surely as COllstipatiott. I Before you can hope to feel right, you must re-establish Nature's functions. Then and only then, can you experience that vitality so necessary to your well- being. If you suffer from Constipation or bowel disorder, even if only occasionally, you need Rexall Orderlies," the Laxative Confection. Rexall "Orderlies" are not a harsh j purgative. They act gently, yet surely, and never cause pain or excessive oose ness of the bowels. Rexall Orderlies," are ideal for chil- dren and for weak or aged people, as well as for the strong and hearty. And, remember, you run no risl. what- ever when trying Rexall Orderlies," for they are sold on the positive guarantee that your money will be returned if they do not give vou entire satisfaction. Rexall Orderlies are obtainable in three sizes, 7d., Is. and 2s. Rexall "Orderlies" are one of the famous Rexall Remedies of which there is one for each of the common human ills. Every Rexall Remedy, including Rexall Orderlies," is sold upon this unqualified guarantee: The United Drug Co., and the Rexall Shop selling this preparation, guarantee It to give you satisfaction; if it does not, go back to the shop where you bought it and get your money. It belotigs to you, and ice want you to have 11. Rexall Orderlies can only be obtained from the Rexall Chemists—there is one in almost every community. The Rexall Chemist in Pwllheli is R. O. GRIFFITH, 60, HIGH STREET, PWLLHELI. Boddi mewn Twb Golchi. Bu plentyn bychan foddi yn North- wich, nos Lun, yn rhyfedd iawn. Yr oedd ei fam wedi bod yn golchi yn y gegin, ac aeth allan gan adael ei baban yn y gegin yn vinyl y twb golchi. Pan ddaeth yn ol cantu y baban yn ngw^el- od y twb wedi boddi. Nid oedd ond tua naw modiedd o ddwr YAddo.
IFfeiriau Pwllheli.
I Ffeiriau Pwllheli. MWY 0 BORTHMYN YNO NAG YN UNMAN YN NGHYMRU. Dydd Sadwrn ym Mhwilheli, cynhal- iwyd cyfatfod o aelodau y Cynghor Trefol a chynrychiolwyr o'r cynghorau plwyf yn Lleyn ac Eifionydd i ystyried y priodoldeb o gael lie mwy cytaddas i gynal y ffeiriau. Eglurai yr Henadur W. Eifl Jones, yr hwn a lywyddai, nad oedd y cyngor yn bwriadu symud yn y mater heb gyd- weithrediad yr amaethwyr. Yr oedd ganddynt gynllun ar droed i gau y Maes yn lie pwrpasol i'r ffeiriau. Dywedai y Cy-nghorwr T. W. Thomas, Woolen Depot, nad oedd y Cadeirydd yn gosod y mater yn deg i'r cyfarfod. Nid oedd y cyngor wedi penderfynu ar y He, ond yr redd yr Arolygydd Owen a'r swyddoe on y.i pwyso arnynt i wneud darpariaetu ac nid oeddynt am wneud dim heb cu -yd- weithrediad hwy. Dywedai Mr Owen Willia;ns. Leisiog, fod n bwysig iav" iddynt symud yn ddoeth rhag amharu y ffeir- iau. Yr oedd Pv\llheii y He dï r Nghymru am ffeiriau. Uii ai yr r c' ffermwyr Lleyo yn magu gweii anifeii- iaid neu ynte yr oedd pobl Pwllheli yn bobl ffeindiach. Yr oedd mwy o Borthmyn yn dod i .B\]ÎIeJ¡ nag i unman (duvetthin). Yr oedd yn hen bryd symud y ffair o Ala Road. Yr oedd y cerbydau modur mawr a'r draf- nidiaeth oedd yno yn eu dyrysu yn lan. Hwyrach mai pan fyddai porthmon ar fin taro pris da am anifail y deuai rhyw gerbyd modur heibio gan wasgaru y cwbl, ac yna teimlai y porthmon ei tod wedi cynyg gormod a chymerai fantais ar y gwasgariad i ddianc ymaith (chwerthin). Credai ef y buasai yn well yn y pen arall i'r dref. Ofnai fod y Maes yn lie rhy fychan o lawer i'r ffeiriau pan y deuai yn fyd gwan. Dywedai Mr W. E Williams, Llan- ystumdwy, fod teimlad cryf yn erbyn y trefniant presenol am tod yr anifeiliaid gymaint ar wahan. Dywedai Mr Robert Griffith, Creigir Goch, nad oedd y maes yn ddigon mawr i gynal y ffeiriau ac nis gellid clirio y gwartheg mewn pryd i'r ceffylau. Ar gynygiad Mr J. Parry Jones, Porthsgaden, a chefnogiad Mr Griffith Griffiths, Ty Hen. Pasiwyu .uai doeth fyddai i'r Cyngor Trefol ddarparu lie mwy cyfaddas i'r ffeiriau. n
Cenfigen Liane Ifane.
Cenfigen Liane Ifane. Cyhuddid bachgen ifanc o'r enw Charles William Bailey yn Mrawdlys Derby, o geisio llofruddio ei gariad, Adelaide Emma Austin, a hefyd o geisio gwneud diwedd ar ei fywyd ei bun. Bu y ddau yn canlyn eu gilydd am tua blwyddyn, meddid, ac yr oedd Bailey wedi rhoi llawer o anrhegion i'r eneth gyda'r syniad o dretnu ar gyfer priodi. Yr oedd yn ferch ifanc nodedig o brydferth ac yr oedd llawer o fechgyn yn ei cheisio, a gwnai hyny i Bailey genfigenu a mynd i dymer ddrwg. Y canlyniad fu i'r cariadon ffraeo ac ym- adael a'u gilydd, ond ceisiodd Bailey drachefn ddwyn y rhwyg i ben. Wnai yr eneth ddim ag ef, ac am hyny ym- osododd y llencyn arni hefo rasel gan ei niweidio gymaint fel y bu raid iddi fynd i'r ysbyty am ddyddiau. Torodd y cyhuddedig ei wddt ei hun hefyd, a bu'n beryglus wael am beth amser. Dedfrydwyd Bailey i garchar am ddeunaw mis am y trosedd cyntaf, ac I fis o garchar am yr ail drosedd.
-o - I (Bobebiaetbau.
-o (Bobebiaetbau. Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr.—GOL
YR ARDDANGOS1AD 0 WNIAD-WAITH,…
YR ARDDANGOS1AD 0 WNIAD- WAITH, &c., YN NEUADD YR EGLWYS. Mr. Gol.—Yn eich rhifyn am y 4ydd o Fehefin ysgrifenais lythyr at ein hathrawes, Mrs. Thomas, ynglyn a'r arddangosiad uchod, ac yn y rhifyn dilynol rhoddwyd atebiad i'm llythyr gan Mrs. Thomas, ac hefyd lythyr oddiwrth Miss Frances A. Jones, yn yr hwn y terfynai trwy obeithio y byddai yr ychydig eiriau o eglurhad ganddi yn gwneud i ffwrdd ag unrhyw gamargraff y gallasai fy llythyr ei roi ar ei ddar- llenwyr. Yn eich newyddiadur bym- thegnos yn ol ysgrifenais at Miss Jones, ond ni wnaeth sylw o hono. Paham, tybed ? Yn sicr genyf yr hyn lleiaf allai wneud oedd fy ateb. Pan ysgrifenais at Mrs. Thomas daeth Miss Jones allan i roi eglurhad. Pan ysgrif- enwyd ati ei hunan anwybyddodd y cyfryw yn hollol. Gofynaf unwaith yn. rhagor i Miss Jones, "Beth oedd y rheswm na buasai yn gofyn am gyd- weithrediad dosbarth Mrs. Thomas?" Hefyd, "a gafodd unrhyw ddosbarth arall gyfle i ymuno yn yr arddangos- iad ?"—UN O'R DOSBARTH.
Advertising
To be Let. mADRYN HOUSE, South Beach, 1.l Pwllheli. Favourable terms. Immediate possession. Apply to MR. LEWIS JONES, Preswylfa, Ala Road, Pwllheli. Wanted. A STRONG Lad, about 14, as an ¡ Errand Boy and Apprentice to the Bakery, &c., trade. Apply X," Udgorn Office. Preliminary Announcement. UNIONIST FETE AT GLYN-Y-WEDDW, THURSDAY, JULY 10th, 1913 fisteodfoil Gadeiriol PWLLHELI, Gwyl y Bane, Awst 4ydd, 1913 Beirniaid Cerddorol :-E. T. D" Ysw., F RCO, Merthv WILLIAMS, Ysw Beirniad y Far' Arweiny 1 p  T« -;y« i r \f¿p n"; ¡ vr j 0 Y Brit Gjowiuieiifteth Goravvl. I'r Cor Meibion a ddatgano yn oren Cydgan y Pererin- ion" (Dr. Parry) a "Cider Idrirf'' (nllau o'r A lawon Cymreig-Dr. Rogers) 20 0 0 a Bathodyn Aur, gwerth 21s. i'r Arwemydd. Ail wobr 5 0 0 Corau Cymysg, Y lJefvedtl sy'n datgati (H iyln) lU 0 U a 21s., gweith uru arian, i'r Arweinydd. Ail wobr 5 U 0 Corau Cymysg (Lleolj, Yr Hat" (GwiJym Gwent) 5 U 0 a Gold Scarf Pin i'r Ar- weinydd. Coran Plant, "Croesaw W au- j wyn" (l':yv. Hughes) 5 0 0 Testynau allan o'r wasg Pi if, ti wy y llythyrdy, Ile. I'w cael oddiwrth yr Ysgrifenydd,— D. JOHN JONES, 74, Heol Fawr. Organ Recital. Cynhelir yr uchod NOS IAU, AWST 14ea-, 1913, yn Pen mount, Pwllheli, GAN Dauid Clegg, Ysw., F.R.O.O. yr hwn sydd eisys wedi cynal dros dair mil o'r cyfryw ym mhrif ddinas- oedd y wlad hon, yn Mharis, ac yn Unol D.ilaethau'r Amerig. Mae ei glod fel Organydd yn hysbys dros y byd. Yr Organ yw ymgais uchaf celf i efelychu cerddorfa fawr creadigaeth. Pwy na theimlodd gyfaredd ofnadwy yr vstorm, chwihaniad uchel-ddolefus pib- au y dymhestl, a rhuad bass (islais) ton- au'r mor, sydd yn peri i ddynion lewygu gan ofn Amheuthyn fydd gwrando y chwareuwr medrus hwn yn portreadu y pethau hyn a darnau clasurol y prif feistriaid ar yr Organ. Distawa pob offeryn cerdd Pan glywant sain yr organ Mae'n nerthol fel y daran fawr A gryna lawr pedryfan; A mwynach yw Na chan y dryw, Neu alaw'r eos twynlan, Am fanylion ymofyner a'r Vsgrif- enydd,— J. OWEN WILLIAMS, Morlan. At. Drigolioa Lleyn ac Eifionydd Dymuna G. M. ROBERTS, I Marsley House, Caol Street, Pwllheli, j wneud yn hysbys ei fod wedi agor busnes fel JOINER A WHEELWRIGHT Ced wir SnalTtiau Troliau, Cam- ogau, Spokes, &c. Ymgymetir a phob math j waith, a rhoddir Estimates yn thad. Ffremir darluniau yn drelnus am bris rhes) mol. Teimlai G.M. R. yn dra dioichgar am bob cef nogaeth. Gweithdy Y tu ol i'r Lhthyrdy yn Cardiff Road. G-LO GLO! GLO! AT DRIGOLION PWLLHELI. Dymunaf gyflwyno ty hun i'ch sylw fel un sydd yn ymgymeryd a chychwyn Busnes Glo o'r newydd yn y Dref, ac yn bwriadu ymsefydlu yn eich mysg. Byddaf ddiolchgar am bob cefiiogaeth, a gwnaf fy ngoreu i geisio eich cyflenwi glo goreu, ac am y prisiau isaf yn bosibl. Telir sylw dioed i bob archeb. SAMUEL EVANS. Mortan, South Beach, PwllhelL