Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

Advertising

[No title]

Trychineb Ofnadwy yn St. Helens.

-o - Rheswm o Bwllheli. i

lgwelialr Odeddf Yswiriant.

" Wyth yn Byw mewn Un Ystafell.

Awdurdod lawn-Daliadau Sir…

Etholiad Leicester.I

Burton yn Cyfaddef eiI Euogrwydd.

Ymladdfa rhwng Gweision II…

Wyth o Fodurwyr o flaen yI…

[No title]

Cyngor Tref Pwllheli. I

News
Cite
Share

Cyngor Tref Pwllheli. Nos Fawrth, y 2-iain c)-fisol.-Pres- enol Y Maer (yr Henadur O. Wynne Griffith) yn y gadair; yr Henaduriaid R. Ivor Parry, W. Anthony, a W. Eifl Jones; y Cyngorwyr Richard Jones, T. W. Thomas, O. Ellis Jones, Dr Jones Evans, W. Wynne Owen, G. Cottielius Roberts, R. Albert Jones, W. M. Toleman, ynghyd a'r swyddogion. Cytuno.—,Hysbyswyd yr arwyddwyd y cytundeb a'r Anglo-Cymric Cinema Co. o berthynas i'r Happy Valley, ac fod top. o rent wedi ei detbyn. Tir ar Brydlcs. — Hysbysodd y.Clerc y darparodd brydles am ddeng mlynedd ar ran o'r tir adferedig ger yr orsaf, i Mr Tom Owen, Maes, ond fod Mr Owen wedi ei dychuelyd gyda nodi gwelliant- au arni. Yr oedd Pwyllgor y Gweith- feydd yn cymeradwyo glynu wrth y cytundeb cyntaf, fod y lie ar derfyn y brydles o ddeng mlynedd i'w osod am rent b!.nyddoi, ond fod Mr Owen i gael defnyddio y lie o flaen ei adeiar yr amod nad oedd y Cyngor yn yfm- rwymo iddo gael defnyddio'r boll le ei hun yn' unig.—Cynygiodd Dr Jones Evans fod y rent ar derfyn y brydles o ddeng mlynedd yn wyth bunt, a chefnogwyd ef gan Mri Richard Jones a W. M. Toleman.,—Sylwyd gan yr Henaduriaid W. Anthony a W. Eifl Jones fod y cytundeb yn gadael y rhent yn agored, a chytunai Mr G. Cornelius Roberts a Mr O. Ellis Jones mai hyny oedd oreu, gan y gallai y tir fod yn llai neu fwy o werth erbyn hyny.—Pasiwyd argymhelliad y pwyllgor. CarthxCr l'ortltladd -Pasiwyd fod i'r Clerc ymohebu gyda gwahanol awdur- dodau o barthed i sicrhau gwasanaeth dredger i garthu'r porthladd o bryd i bryd, ac i anog lleoedd eraill ag yr oedd angen y cyfryw wasanaeth arnynt i uno fel ag y gellid cael gwneud y gwaith yn rhatach. Llwybr Ala Roati.-Dywedodd yr Ar- olygydd y gellid gwella'r llwybr yn Ala Road am gost o 15P a phasiwyd ei awdurdodi i fynd ymlaen gyda'r gwaith ar unwaith. Ynglyn a Benthyea.,Yr oedd Bwrdd y Llywodraeth Leol yn hysbysu y byddai raid cynal ymchwiliad o berthyn- as i gais y Cyngor am hawl i fenthyca 4c p. tuagat helaethu'r gornel ger White Hall. Cynhadledd -AnogsA-yd aelodau y Cyngor i fod yn bresenol yn y gynhad- ledd gynhelir i drafod y cwestiwn o ddarpar lie ar gyfer ffeiriau Pwllheli. Sylwodd Mr G. Cornelius Roberts mai doeth hefyd fyddai trafod y cwestiwn o gynal y ffeiriau ar ddyddiau penodol, fel ag y gwneid mewn amryw o leoedd eraill Tai Prwdol. Dywedai yr Arolygydd mai tri ar ddeg o dai addas i'r dosbarth gweithiol oedd yn y dref.—Sylwodd Mr T. W. Thomas y pasiodd y Cyngor i'r, Arolygydd drefnu adroddiad o barthed i faint o dai gweigion oedd yn y dref, ynghyd a'u rhent a'u maint, ond nad oeddynt wedi cael ond nifer y tai addas i'r dosbarth gweithiol.-Dywedodd Mr G. Cornelius Roberts eu bod wedi cael yr hyn oedd arnynt ei eisieu, nad oedd y dref mor fawr fel na wyddent p'le'r oeddynt.-Teimlai Mr O. E. Jones nad oedd y Cyngor o ddifrif gyda'r mater. Dylid hefyd cael gwybod pa faint o dai oedd yn anghymwys i fyw ynddynt os oedd tai eraill i'r tenantiaid droi iddynt. Ei faro ef oedd nad oedd y Cyngor yn gwneud dim ond rhywbeth rhag i Fwrdd y Llywodraeth Leol eu cyhuddo o esgeLilusdra.-Cynygiodd Mr Anthony tod yr Arolygydd yn gwneud adroddiad ynglyn a pha faint o dai gweigion oedd yn y dref, ynghyd a'u maint a'u rhent, eiliwyd ef gan Mr T. W. Thomas, yr hyn a basiwyd. Cyilojau'r Swyddogion. — Hysbyswyd y bu pwyllgor yn trafod y cwestiwn o gyflogau swyddogion y Gorfforaeth. Pasiwyd cynal cyfarfod i dralod y mater ymhellach ac fod y Clerc i wneud ymchwiiiad, ac i gyflwyno adroddiad i bob aelod o'r Cyngor o barthed i'r hyn delir mewn cyflogau i swyddogion mewn manau eraill. Gwerthwyr Ffrwythau ar yr Heol. Syl- wodd Mi W. M. Toleman y deuai gwerthwyr ffrwythau i'r dref yn mis- oedd yr hat a gweithent eu ffrwythau mewn cerbydau ar yr heolydd. Yr oedd masnachwyr y dref yn cwyno o'u her- wydd, gan nad oeddynt yn talu rhent na threth Awgrymai ef y dylid eu gorfodi i gymeryd lie yn neuadd y far- chnad neu ar y Maes.-Sylwodd Mr Richard Jones y galwodd efe sylw'r Maer at y peth o'r blaen, ond nad oedd yn hawdd iawn gweithredu ynglyn a'r mater. Cynygiodd Mr Anthony, ac eiliodd Mr Wynne Owen, fod pwyllgor yn edrych i mewn i'r mater ac yn gwneud adroddiad. r\ I

ITri o Ddynion yn Boddi.

Bwrdd Gwarcheidwaid Pwllheli.

Gwarchae Downing Street.

-u - Achos Rhyfedd.

-o - Manion.