Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

Advertising

PWLLHELI. I

1 [ ABERERCII.1

-I NEFYN. I

-0- 1 Awyrwr yn Boddi.i

Ymgais i Daflu Tren oddiar…

DiwygioV Ddeddf Yswiriant…

AGOR YSGOL AMAETH-I YDDOL…

News
Cite
Share

AGOR YSGOL AMAETH- YDDOL MADRYN. Y GYNTAF O'l BATH YN NGHYMRU. Ddydd Sadwrn diweddaf bu'r Gwir Anrhydeddus Walter Runciman, A S., Llywydd Bwrdd Amaethyddiaeth, yn agor yr Ysgol Amaethyddol yn Nghas- tell henafol Madryn, yr ysgol gyntaf o'i bath yn Ngjiymru. Yr oedd y tywydd yn nodedig o ddymunol, a daeth rhai miloedd o bobl i'r fangre brydferth ar yr achlysur dyddorol. Yr oedd Mr Ellis W. Davies, A.S., a Mr E. T. John, A.S., yn bresenol, ynghyda rhai o aelodau blaenaf y Cyngor Sir a Phvvyllgor Addysg y Sir. Llywyddwyd y gweithrediadau gan Mr J. Jones Morris (cadeirydd Pwyllgor y Man- ddaliadau) Dywedodd Mr. Runciman fod yn bleser mawr ganddo gyhoeddi Ysgol Amaethyddol Madryn yn agored. Am- can Ysgol o'r fath, meddai, oedd nid darpar lleoedd da i wyddonwyr na swyddi i ysgolfeistriaid, ond i ddarpar addysg i ffermwyr ieuainc, a'u gwrag- edd, eu meibion a'u merched. Sefydlid hi er cyflenwi gwybodaeth i'r ffermwyr bychain, fel y gallont drin eu tir yn well a magu gwell anifeiliaid. Gwyddai yr edrychid ar sefydhad o'r fath gan rai gyda Ilygaid amheus, ac y dywedid tad" owns o brofiad yn well na thunell o wyddor." Ond os na chymerai y ffermwyr fantais ar yr hyn a ddygid i'r goleu gan wyddonwyr ynglyn ag amaethyddiaeth, collent rai o'r ben- dithion mwyaf a gynyrchid gan wydd- oniaeth. Yn Ysgol Madryn i ddechreu ceid cwrs o addysg i athrawon ysgolion elfenol, a deallai fod yi holl leoedd wedi eu cymeryd i fyny hyd ddiwedd Awst Ar ol i'r athrawon fyn'd yn ol i'w hysgolion yna deuai tymor yr hyd- ref, pryd y deuai dynion ieuainc yno am gwrs byr, a dysgent yno yr hyn a gymerai iddynt oes i'w ddysgu ar y fferm-y gwahaniaeth rhwng gwrtaith sal a gwrtaith da. Dysgent hetyd pa gynyrch dyfai oreu ar bob math o dir. Dysgent hefyd sut i edrych ar ol eu haniteiliaid, a chaent wersi gan fil- feddyg ynglyn ag edrych ar ol ceffylau a phethau eraill. Yna byddai cwrs ar gyfer genethod ieuainc i'w dysgu sut i drin llaeth ac ymenyn, a'r modd i gadw ieir, a'r ffordd oreu i wneud iddynt dalu. Yr oedd swm yr ymenyn a ddygid o'r Iwarddon i siroedd Lloegr yn cynyddu bob blwyddyn, a'r rheswm am hyny oedd fod yn yr Iwerddon ysgolion i ddysgu genethod i drin ym- enyn ac nid oedd yr un eneth yn foddion" i'w hymenyn fod yn is na'r safon. Yr hyn ellid ei wneud yn yr Iwerddon ellid ei wneud hefyd yn Nghymru. Nis dywedai neb fod yr ymenydd Cymieig yn wanach na'r ym- enydd Gwyddelig. Yr oedd yn gobeith- io y byddai meibion a merched ieuainc amaethwyr yn manteisio ar yr addysg j oedd wedi ei ddwyn i'w cyraedd, ac y byddent drwy hyny yn codi safon amaethyddiaeth yn y wlad. Ar ei daith trwy ran o Leyn y diwrnod hwnw gwelodd lawer iawn o dir heb ei drin. Yn Holland, neu Belgium, neu Den- mark, byddai llathen ysgwar o dir heb ei drin yn cael ei gytrif yn bechod. Gobeithiai y deuai yr amser cyn bo hit pan yr edrychid arno felly yn Nghymru hefyd, a phan y byddai yr amaethwyr yn cael ei lawn werth allan o'r tir yr oeddynt yn byw arno. Sylwodd Mr. Ellis W. Davies, A. S., fod agwedd Bwrdd Amaethyddiaeth wedi cyfnewid yn fawr er's pan y daeth Mr. Runciman i'w sefyllfa bresenol Yr oedd boneddwr nas coleddai yr un golygiadau gwleidyddol wedi dweyd wrtho ef yr edrychai y ffermwyr ar Mr. Runciman fel y llywydd goreu fu gan y Bwrdd et's ugain mlynedd. Dywedodd Mr. R. M. Greaves nad oedd arbrawfion ynglyn a gwybodaeth amaethyddol o unrhyw fudd os na ddeuai yn wybodaeth gyffredinol. Ar y goreu nid oedd Ysgol Madryn ond arbrawf, Gobeithiai y byddai yn llwyddiant, ond cyn y gallai fod yn llwyddiant rhaid oedd iddi gael y get- nogaeth briodol. Dywedai Mr. E. T. John, A.S., y cytunai ef a Mr. Runciman nad oedd crebwyll y Cymro yn israddol i eiddo'r Sais a r Gwyddel. Ond nas gellid dis- gwyl iddo wneud cymaint gyda thair mil y flwyddyn pan yr oedd yr Iwer- ddon ac Ysgotland wedi bod yn derbyn tros ddau can' mil. Rhaid oedd i'r Cymry gael yr un telerau a'r cenhedl- oedd eraill. Caed anerchiadau pellach gan Mr. Gomer Roberts, Cadeirydd Cyngor Sir Dinbych'; Mr. R. E. Jones, Llanberis, Cadeirydd Cyngor Sir Caernarfon, a Mr. Daniel Jones, Brynodol.

I lawn o Gan' Punt i Ffermwr.…

I-IYS -Ynadon Pwllheli.I

Advertising

Arwyddion Diwygiad Arall.1

Plentyn yn Achub ei Fam.

I Marw Med dye: Adnabyddus.

-I Dyn yn Cael ei GJaddu'n…

I-3Bartt>omaetb.

90olpgiaoau. j

Advertising