Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Advertising

NODION A HANESION. I

Priodfab ar Goll. I

News
Cite
Share

Priodfab ar Goll. I EI GAEL YN NGHAERNARFON Yr oedd torf fawr wedi ymgynull yn eglwys y plwyf yn Runcorn y dydd o'r blaen i weled priodi deuddyn ieuanc parchus, ond ar ol aros am amser maith yn yr eglwys bu raid gohirio'r briodas am na wnaeth y priodfab ei ym- ddanghosiad Gadawodd y swyddfa y gweithini ynddi yn Lerpwl nos Fawrth, ac ni chlybuwyd dim o'i hanes hyd y Gwener diweddaf, pryd y cafodd cyfaill iddo yn Lerpwl lythyr oddiwrtho o'r Mona Hotel, Caernarfon, yn dweyd nas gallai gofio dim-nas gwyddai b'le yr oedd, o b'le daeth, nac i b'le yr oedd yn mynd. Hysbyswyd teulu'r briodferch, a'i deulu yntau, ac aelh ei dad, ei ddwy chwaer. a'i dad y'nghyfraith i Gaernar- fon, a chawsant wybod yn y Mona Hotel y bu Williams yn cysgu yno y noson flaenorol, ac nas gwelwyd ef ar ol brecwest y boreu hwnw. Ymhen rhyw ddwyawr deuwyd o hyd iddo yn eistedd ei hunan ar fainc, a'i law o dan ei ben. Aeth ei chwaer iengaf ato i siarad, ond yr oedd yn eglur iddi nad oedd ei brawd yn ei hadnabod. Ym- ddangobai ei fod wedi colli ei got yn Ilwyr. Aeth ei dad a'i dad-y'nghyfraith ato i ymddiddan drachefn, ond nid oedd yn eu hadnabod hwythau chwaith. Wrth ei holi nis gallai roi dim bron o'i hanes ar ol gadael y swyddfa yn Lerpwl. Cwynai fod ei draed yn ddol- urus ar ol cerdded. Nid oedd yn cofio y bu yn y tren o gwtl. Yr oedd wedi treulio dwy noson, meddai, yn yr awyr agored. 'Roedd ) n cofio fod rhyw ddyn wedi ei ddeffro yo hwyr un noson ar ffordd Llanberis, yr hwn gyda chymorth lamp ei feisicl a wnaeth iddo gwpanaid o cocoa. Gwlychodd y noson hono, gan ei bod yn gwlawio, a chafodd anwyd. Cofiai hefyd y bu yn Bettws y Coed. Y.r oedd yr anrheg briodas a roed iddo gan ei gyfeillion yn y swyddfa ganddo, ond nid oedd ef yn cofio o b'ie yr oedd wedi ei chael. Er nad oedd yn gallu amgyfTVed yn iawn pwy oedd ei berth- ynasau, aeth yn ol gyda hwy i Runcorn. --0--

Y Llygoden a'r Ewyllys.

IlDigwyddtad Cyffrous Arall…

Mr Lloyd George yn Amddiffyn…

Y Suffragettes ! Garchar.…

Chwareuon y Drefnewydd. I

Advertising

I Wyth yn Boddi mewn Glofa.j…

-0-i IY Suffragettes y n Dal…

[No title]

Cael Gwr a Gwraig wedi eu…

Boddi wrth Ymdrochi. - - -…

[No title]